Ymgolli dy hun...

Page 1

Yng Nghnowy Lle Mae Eryri’n Cwrdd â'r Môr

CANLLAW Y GAEAF 2019/2020

#YmgolliDyHun


mewn seibiant dros y gaeaf Darganfyddwch antur na ellir ei fethu, golygfeydd hudolus a phrofiadau unigryw.

Antur Dan Do ac yn yr Awyr Agored

Wedi ei enwi gan Lonely Planet fel un o’r llefydd gorau yn y byd i ymweld ag o, mae Gogledd Cymru bellach yn cael ei ystyried fel prif ganolfan antur y DU. O wefr yr adrenalin i deithiau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir, dewch i brofi’r gorau sydd gan yr awyr agored i’w gynnig, gyda naws arbennig gogledd Cymru.

Y peth anoddaf i’w wneud yn Llandudno a Sir Conwy ydi gwneud amser i bopeth ar wyliau cartref dros y gaeaf! Mae cymaint i'w gynnig - boed yn wyliau i'r teulu, gwyliau antur neu’n seibiant er mwyn ymlacio, mae’r cyfan ar gael yn y rhan hon o ogledd Cymru. Ymgollwch mewn antur, bwyd a diod, hanes a chysurusrwydd cartrefol mewn un daith. Ewch ati i grwydro Parc Gwledig y Gogarth, mynyddoedd Eryri neu ewch am dro iachusol ar hyd pier hiraf Cymru. O ddyffryn Conwy i Hiraethog, tydi darganfod pentrefi hudolus a phrofiadau na ellir eu methu erioed wedi bod mor gyffrous. Mae’r hydref a’r gaeaf yng Nghonwy yn gweld y sir yn cael ei thrawsnewid. Mae ein coetiroedd yn ffrwydrad o llwytgoch, melyn ac aur ac yn cynnwys golygfeydd anhygoel. Mwynhewch wyliau hudol y gaeaf mewn bwthyn clud, gwesty braf ger y môr neu dafarn yn y wlad gyda thân clud a siocled poeth wrth i chi fwynhau’r golygfeydd o’ch amgylch. Ym mis Ionawr, gwisgwch yn gynnes a gweld y tonnau wrth fynd am dro ar y traeth ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Ewch allan ac archwilio golygfeydd y gaeaf neu hyd yn oed rhoi cynnig ar weithgaredd newydd. Mae diwedd Ionawr neu Chwefror yn berffaith ar gyfer gwyliau rhamantaidd. Trefnwch wyliau bach Santes Dwynwen (santes cariadon Cymru) neu San Ffolant gyda rhywun arbennig. Mwynhewch deithiau cerdded hamddenol, anturiaethau a golygfeydd epig fydd yn darparu atgofion hudol fydd yn para am byth.

Beth sydd y tu mewn 3−5 6−8 9 10 11 12−13 14 2

Antur Dan Do ac yn yr Awyr Agored Treftadaeth, Diwylliant, Gerddi Ffefrynnau i’r Teulu Aros, Bwyta, Yfed, Siopa Ar Lwyfan a Sgrin Gwyliau, Digwyddiadau a Seibiant Dros y Gaeaf Map o Sir Conwy

DEWCHIGONWY.ORG.UK

Parc Antur Eryri, Dolgarrog

01492 353123 Cyf Map: D3 Eisoes yn gartref i lagw ^n syrffio mewndirol cyntaf y byd, bellach mae gan Barc Antur Eryri gyfleuster antur newydd dan do. Mae Adrenalin Dan Do yn cynnwys un o systemau ogofa artiffisial hiraf y DU, waliau dringo a rasio dan do ac yn yr awyr agored, neidiadau, ac o bosib y llithrennau mwyaf eithafol y dewch chi ar eu traws, ac unig lithren 'kicker flight' yn y DU. Gall yr anturwyr deithio ar hyd llinell zip tandem o’r to gan hedfan dros y lagwn ^ syrffio. Mae yna ardal chwarae meddal i blant bach hefyd.

Canolfan Chwaraeon Eira Llandudno

01492 874707 Cyf Map: A3 Beth am fentro i Ganolfan Chwaraeon Eira Llandudno. Does dim amser gwell i weithio ar eich sgiliau chwaraeon gaeaf nag yn ystod y misoedd oeraf. Os yw’n well gennych fod ar eich eistedd, beth am fynd ar y Cresta Run 2,500 troedfedd/750 metr, llwybr toboganau hiraf Cymru.

DEWCHIGONWY.ORG.UK

3


Antur Danddaearol Go Below, Ger Betws−y−Coed

Dyma ddechrau’r antur

GYG Karting, Cerrigydrudion

01490 420770 Cyf Map: I7 Bodlonwch eich angen am gyflymder yn GYG Karting yng Ngherrigydrudion. Dyma gylchffordd rasio ceir gwyllt fwyaf y DU, sy’n cynnig gwefr uchel-octan i yrwyr o bob oed.

Zip World Fforest, Betws−y−Coed

01248 601444 Cyf Map: G4 Ewch am y coed gyda’ch ffrindiau a’ch teulu yn Zip World Fforest i fynd i’r afael â rhaffau, rhwydi a siglenni sy’n hongian o’r nenfwd o goed. Mae yno hefyd reid tobogan y Fforest Coaster a’r Plummet 2 newydd sy’n gwymp 100 troedfedd/30 metr drwy drapddor, sef y profiad agosaf at neidio rhydd a gewch chi heb fynd mewn awyren.

4

DEWCHIGONWY.ORG.UK

01690 710108 Cyf Map: G4 Antur Danddaearol Go Below ger Betws-y-Coed yw’r profiad tanddaearol dramatig eithaf. Ymysg cyn fwyngloddiau yng nghrombil mynyddoedd Eryri, mae yna fyd o lynnoedd glas dwfn, gwifrau gwib, pontydd, ysgolion ac abseiliau. Mae’n gwrs rhwystrau heb ei ail.

Canolfan Ddringo’r Boathouse, Llandudno

01492 353535 Cyf Map: A3 Mae hen Orsaf Bad Achub Llandudno bellach yn gartref i Ganolfan Ddringo’r Boathouse. Bydd yn apelio at bawb, yn ddechreuwyr ac yn arbenigwyr fel ei gilydd. Mae’n cynnwys tua 200 metr sgwâr o arwynebau dringo gyda wal clogfeinio sydd yn 4.5 metr o uchder. Mae’r twr ^ dringo yn 8 metr o uchder gyda chyfres o ddringfeydd a rhaffau, ac mae llawer o lwybrau yn ddigon i herio’r dringwyr mwyaf profiadol.

Llwybr Arfordir Cymru

Nid oes yna adeg wael i fynd ar ein rhan o Lwybr chwedlonol Arfordir Cymru. Mae’n ymestyn oddeutu 35 milltir rhwng Bae Cinmel a Llanfairfechan, felly bydd gennych ddigon o lwybrau glan y môr i ddewis ohonynt. Cofiwch! Gall amseroedd agor a chyfleusterau newid heb rybudd felly cysylltwch â'r atyniadau unigol cyn cychwyn.

Beicio Mynydd

Bydd beicwyr profiadol yn anelu’n syth am brofiadau bythgofiadwy fel y traciau coedwig gwyllt yn ardal Penmachno a Betws-y-Coed, gan gynnwys llwybr mawreddog Gwydir Mawr, sy’n 16 milltir.

Beicio

Ymysg tirweddau agored a thywyll Mynydd Hiraethog, fe ddewch o hyd i lwybrau addas i’r teulu oll o amgylch cronfeydd dw ^ r Alwen a Llyn Brenig. I feicwyr ffordd, mae yna elltydd digon i hollti ysgyfaint yn ogystal â llwybrau teuluol hamddenol ar Lwybr Beicio Conwy, sy’n 30 milltir o daith arfordirol bron yn gwbl ddi-draffig.

Plas y Brenin, Capel Curig

01690 720214 Cyf Map: F2 Nawr yw’r amser i weld pegynau Eryri dan fantell wen. Dysgwch sut i fynd i’r afael â’r mynyddoedd hyn dan hyfforddiant arbenigol ar gyrsiau awyr agored yng Nghanolfan Fynydda Genedlaethol Plas y Brenin yng Nghapel Curig. Maen nhw’n cynnwys popeth o ddringo i ganw ^ io, beicio mynydd i heicio. Os ydych chi’n bwriadu mynd ar eich antur awyr agored eich hun, ewch i adventuresmart.uk bydd y cyngor sydd yno am y tywydd, offer a sgiliau yn help mawr i chi gadw’n ddiogel. DEWCHIGONWY.ORG.UK

5


TreftAdAeth DiwylliAnt Gerddi

CASTELL DOLWYDDELAN 01690 750366 Cyf Map: H2 Efallai ei fod yn llai na Chonwy, ond mae Castell Dolwyddelan yn dal yn seren. Wedi’i adeiladu gan Llywelyn Fawr (Tywysog Gwynedd o’r 13eg ganrif ac arweinydd gwirioneddol y mwyafrif o Gymru), mae ei leoliad ar grib greigiog ymhlith copaon Eryri yn ddramatig iawn.

TYŶ̂ ABERCONWY, CONWY

PIER LLANDUDNO 01492 876258 Cyf Map: A3 Beth sydd ddim i’w hoffi am gerdded ar y pier? Yn Llandudno, mae gennym yr un hiraf yng Nghymru. Felly, lapiwch yn gynnes a mentro i’r gwynt gan gerdded ei hyd ac yn ôl. Ac os ydych dal ati ar droed, beth am barhau ar hyd ein promenâd prydferth (y credwn ni sy’n edrych yn hudolus gyda’r holl oleuadau ar ôl iddi dywyllu).

01492 592246 Cyf Map: B3 Saif y t^y o’r 14eg ganrif hwn a oedd yn eiddo i farsiandwr, ac yn oroeswr prin canrifoedd o hanes cythryblus, fel capsiwl amser byw. Tu mewn, mae’r ystafelloedd â dodrefn sy’n dangos gwahanol gyfnodau yn oes hir Aberconwy, gan roi cipolwg ar ein hanes Jacobeaidd, Sioraidd a Fictoraidd. Mae’r t^y ar agor yn ddyddiol rhwng mis Mawrth a 3 Tachwedd, o 10am tan 5pm. Ar agor ar benwythnosau’n unig rhwng 9 Tachwedd a 22 Rhagfyr o 11am tan 4pm.

CANOLFAN DDIWYLLIANT CONWY 01492 576139 Cyf Map: B3 Mae Canolfan Ddiwylliant newydd Conwy i fod i agor yn nhymor y gaeaf 2019/20, gan ddod â threftadaeth Conwy i fywyd yr 21ain Ganrif. Wedi’i leoli mewn adeilad modern trawiadol gyda golygfeydd dros furiau a chastell y dref, bydd yn gartref i lyfrgell ac Archifdy Conwy, yn ogystal â bod yn ganolfan gelfyddydau a threftadaeth fydd yn cynnwys arddangosiadau ac arddangosfeydd o gasgliadau hanesyddol y sir.

CASTELL CONWY 01492 592358 Cyf Map: B3 Os rhywbeth, mae Castell Conwy’n edrych hyd yn oed yn fwy dramatig yn erbyn cefnlen o awyr tywyll, du. Cerddwch ar y rhagfuriau i gael naws ar ei bw ^ er, sy’n ddigyfnewid 800 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu fel rhan o ymgyrch Brenin Edward I yn erbyn Cymru. I gael y golygfeydd gorau o’r castell a’r foryd, gallwch gerdded ar hyd muriau canoloesol Conwy. Gan ymestyn yn ddi-dor bron o amgylch craidd y dref, dyma rai o’r waliau hiraf ac mewn cyflwr da gorau yn Ewrop. Does dim syndod fod y muriau a’r castell wedi’u dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. 6

DEWCHIGONWY.ORG.UK

Golau Gaeaf Ar 16 Tachwedd a 14 Rhagfyr bydd y castell yn cael ei oleuo’n wyn fel rhan o ddigwyddiad Golau Gaeaf newydd yn Llandudno. Gweler dudalen 14. DEWCHIGONWY.ORG.UK

7


MOSTYN, LLANDUDNO 01492 879201 Cyf Map: A3

Mae MOSTYN yn Llandudno yn fwy na dim ond un o orielau celf gyfoes gorau’r DU. Mae hefyd yn gyflawniad pensaernïol cyfareddol, gyda’i ffasâd Edwardaidd â’i feindwr aur yn cyflwyno cyfres o ardaloedd mewnol trawiadol o fodern. Y tu mewn, fe welwch chi raglen gyfnewidiol o arddangosfeydd sy’n dangos y goreuon ymhlith celf a chrefft gyfoes o Gymru a thu hwnt. Mae yno hefyd gaffi cw ^ l a siop chwaethus yn gwerthu gemwaith, gwaith cerameg, printiau a llyfrau. Ar agor dydd Mawrth i ddydd Sul. .

GARDD BODNANT, EGLWYSBACH

01492 593413 Cyf Map: B3 Mae'r Academi Frenhinol Gymreig mawr ei bri yng Nghonwy yn canolbwyntio ar ragoriaeth gelfyddydol yng Nghymru, gyda chymysgedd o waith hanesyddol a chyfoes. Ar agor dydd Mawrth i ddydd Sadwrn.

01492 650460 Cyf Map: D4 Pryd bynnag yr ymwelwch, mae Gardd Bodnant wastad yn brydferth. Gardd Gaeaf Bodnant, a grëwyd yn y 10 mlynedd ddiwethaf, yw trysor y tymor. Mae’r gyn ardd gerrig wedi datblygu’n arddangosfa liwgar gyfoethog o ddail a blodau sy’n gwneud y mwyaf o haul y gaeaf - ac yma yw man cychwyn taith trwy 80 erw o hud y gaeaf.

GALERI FFIN Y PARC, LLANRWST 01492 642070 Cyf Map: F4 Mae yna fwy o gelfyddyd anhygoel i’w gweld yn Ffin y Parc yn Llanrwst, sef plasty crand sy’n arddangos rhai o’r artistiaid gorau sy’n gweithio yng Nghymru ochr yn ochr â’r goreuon ymhlith celf gyfoes yr 21ain Ganrif. Peidiwch â phoeni os nad yw eich cyllideb yn gadael i chi fynd â darn o waith gartref gyda chi. Mae’r cacennau sydd ar werth yn y caffi yn gampweithiau ynddynt eu hunain Ar agor dydd Mercher i ddydd Sul. 8

DEWCHIGONWY.ORG.UK

© Lluniau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/ Christopher Gallagher

YR ACADEMI FRENHINOL GYMREIG, CONWY

Ffefrynnau i’r Teulu Sw Mynydd Gymreig, Bae Colwyn

01492 532938 Cyf Map: B5 Mae mwy na chynnwys Arch Noa o greaduriaid yn Sw Mynydd Gymreig Bae Colwyn - popeth o forloi i lewpardiaid eira. Mae hefyd yn gwneud ei rhan yn y frwydr i achub rhywogaethau sydd mewn perygl o bob cwr o’r byd.

Amgueddfa Reilffordd Dyffryn Conwy, Betws-y-Coed

01690 710568 Cyf Map: G4 Mae pobl sy'n frwd am drenau wrth eu boddau ag Amgueddfa Reilffordd Dyffryn Conwy, sydd yn union wrth ymyl y brif orsaf. Ewch am daith wyth munud o hyd ar drên stêm bychan drwy erddi wedi’u tirlunio, ewch i amgueddfa llawn arteffactau hynod ddiddorol a phorwch drwy’r casgliad enfawr o fodelau trên yn y siop.

Profiad siocled Llandudno Gwarchodfa Natur RSPB Conwy, Aber Afon Conwy

01492 584091 Cyf Map: B4 Mae Gwarchodfa RSPB Conwy, safle gwlypdir ar ymyl y foryd, yn werddon dawel o lonyddwch, dafliad carreg oddi wrth yr A55. Yn y gaeaf cadwch lygad am haid o adar yn cynnull i fwyta, neu’n clwydo gyda’i gilydd gyda’r cyfnos i gadw’n gynnes.

01492 339507 Cyf Map: A3 Os oes gennych chi ddant melys, beth am ymweld â Llandudno i fwynhau'r Profiad Siocled? Mae'r atyniad yn Llandudno wedi’i rannu i naw rhan - ac mae pob un yn dadlennu gwahanol rannau o hanes siocled. Mae’r rhan Hel Atgofion hefyd yn cynnwys cannoedd o bapurau, tiniau a bocsys siocled o’r ganrif ddiwethaf. Ewch i’r wefan i weld yr amseroedd agor: llandudnochocolateexperience. co.uk DEWCHIGONWY.ORG.UK

9


SIOPA NADOLIG

AROS, BWYTA, YFED, SIOPA

Anghofiwch am Amazon. Mae yna ryw hud arbennig yn gysylltiedig â siopa Nadolig - yn enwedig os dewch chi draw atom ni. Mae Ffair Nadolig Llandudno’n enwog o hwyliog, ac am fwy o syniadau gwych am anrhegion, ewch i siopau arbenigol Betws-y-Coed. Ym Melin Wlân Trefriw gyfagos, fe allwch chi bori drwy gynhyrchion sydd wedi’u gwneud ar y safle. Crwydrwch ar hyd strydoedd canoloesol Conwy i chwilio am yr anrheg perffaith. Ac mae’r siopau mwyaf a gorau yng Ngogledd Cymru i’w gweld yn Llandudno.

YMGARTREFWCH AC YMLACIWCH

Os ydych yn adnabod Llandudno a Chonwy, byddwch yn gwybod nad oes prinder o lefydd gwych i aros - yn wir, y dewis mwyaf yng Nghymru. Beth am ymlacio yng nghyfaredd un o’n gwestai moethus, un o’r tai gwesty cysurus, neu beth am wneud fel y mynnwch mewn llety hunanarlwyo? Yr un yw’r stori yn fewndirol ym Metws-y-Coed lle gallwch fwynhau seibiant iachus mewn spa, aros mewn gwesty gwledig neu ymlacio mewn cuddfan hunan arlwyo moethus. Ewch i dewchigonwy.org.uk i ddod o hyd i rywle i aros.

BWYTA ALLAN

Bwydlenni at ddant pawb bwyd cain soffistigedig a bwyd gwledig maethlon, prydau bistro ffasiynol a sgod a sglod o’r safon flaenaf. Byddwch yn trefnu beth i’w gael nesaf....hyd yn oed cyn i chi archebu! Nid yw’n syndod gyda chynnyrch mor ddeniadol ar garreg eich drws? Mae’r dewis yn eang: cregyn gleision Conwy, cig eidion gwartheg duon Dyffryn Conwy, cig oen o’r mynydd a chawsiau fferm. O ran diodydd, mae yma sawl bragdy bach lleol, cynhyrchwyr jin a hyd yn oed gwinllan sy’n cynnig gwinoedd gwyn cynnil, gwinoedd coch o gryfder canolig, gwinoedd gwridog ffrwythus a gwin pefriog hawdd ei yfed. 10

DEWCHIGONWY.ORG.UK

CINEWORLD

Cyf Map: B4 I’r rheiny ohonoch sy’n hoff o ffilmiau, mae sinema Cineworld yng Nghyffordd Llandudno, sy’n berffaith ar gyfer noson allan neu ffilm i’r teulu. cineworld.co.uk

TREATCARD

Blas gaeaf Cymru yn Llandudno - rhowch gynnig ar rai o brofiadau bwyta gorau'r Tachwedd a Rhagfyr hwn a mwynhewch arbedion gwych gyda’ch cerdyn treatcard am ddim. Casglwch 6 sticer gan fwytai sy’n cymryd rhan am siawns i ennill 4 tocyn i Ddawns Cymdeithas Lletygarwch Llandudno yn 2020. Gallwch weld yr holl fwytai a’r cynigion yn treatcard.co.uk

THEATR COLWYN

Ar Lwyfan a Sgrin VENUE CYMRU

01492 872000 Cyf Map: A3 Mae yna raglen lawn dop yn Venue Cymru, canolbwynt adloniant glan y môr Llandudno. Pop, comedi, opera, drama, dawns a sioeau cerdd poblogaidd yn syth o’r West End...mae’r cyfan yno. Dewch i hwyl yr wyl ^ gyda chynhyrchiad panto Nadoligaidd Sleeping Beauty. venuecymru.co.uk

01492 556677 Cyf Map: B5 Gallwch hefyd wylio ffilm yn Theatr Colwyn ym Mae Colwyn. Dyma'r theatr a sinema hynaf sy’n gweithio yng Nghymru - ac mae’n dal i ffynnu, wedi’i moderneiddio bellach i gynnig profiad adloniadol yr 21ain Ganrif. Mae’r rhaglen o adloniant byw yn cynnwys cerddoriaeth, dramâu llwyfan, dawns a nosweithiau comedi stand-yp. Peidiwch ag anghofio archebu eich tocynnau ar gyfer Aladdin, a gynhelir rhwng 21 Rhagfyr a 4 Ionawr 2020. theatrcolwyn.co.uk DEWCHIGONWY.ORG.UK

11


Gwyliau, DIGWYDDIADAU

A SEIBIANT DROS Y GAEAF

Gydag ond naw penwythnos tan y Nadolig… beth am archebu seibiant dros y gaeaf yn un o’n digwyddiadau gwych sy’n diweddu gyda Golau Gaeaf anhygoel ar 14 Rhagfyr. I drefnu eich arhosiad, ewch i dewchigonwy.org.uk neu ffoniwch Ganolfan Groeso Llandudno ar 01492 577 577.

Gwener 25 – Sul 27 Hydref 25-26 HYD Sinema Awyr Agored Calan Gaeaf Parc Antur Eryri, Dolgarrog adventureparcsnowdonia.com

26 HYD Ras 10k Calan Gaeaf Porth Eirias a Ras 1k i blant Bae Colwyn bespokefitnessandevents.co.uk

25-27 HYD Gwledd Conwy gwleddconwyfeast.com

26 HYD - 3 TACH Teithiau Arswydus Calan Gaeaf Castell Gwrych, Abergele gwrychcastle.co.uk

25-31 HYD Calan Gaeaf Ffear Fforest Zip World Fforest, Betws-y-Coed zipworld.co.uk

Gwener 1 – Sul 3 Tachwedd

29 HYD-2 TACH

OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

VENUE CYMRU, LLANDUDNO VENUECYMRU.CO.UK

30 HYD Sioe Dân Gwyllt Llandudno (Os bydd tywydd gwael 31 Hydref)

31 HYD Teithiau Arswydus, Castell Conwy cadw.llyw.cymru

31 HYD Digwyddiad Calan Gaeaf, Castell Gwrych, Abergele gwrychcastle.co.uk

2-3 TACH Gw ^ yl Gerdded Eryri Betws-y-Coed breeseadventures.co.uk

2 TACH Ffair Grefftau Cyfoes Gogledd Cymru MOSTYN, Llandudno mostyn.org 12

DEWCHIGONWY.ORG.UK


Gwener 8 – Sul 10 Tachwedd

Winter weekend getaways 8−10

VENUE CYMRU, LLANDUDNO

GŴYL GORAWL GOGLEDD CYMRU

Tachwedd

Gwener 6 – Sul 8 Rhagfyr 7 RHAG Llandudno Ras Siôn Corn bespokefitnessandevents.co.uk 7 RHAG Gorymdaith Nadolig Llandudno llandudno.gov.uk 7-8 RHAG Marchnad Nadolig, Parc Antur Eryri, Dolgarrog adventureparcsnowdonia.com

9 TACH Her Llwybr Betws-y-Coed trailbetws.com

DON'T FORGET: This list was compiled in August 2019, so details may have changed. Please check dates if you plan to attend an event or book accommodation. 30 & 1 DEC Christmas Fayre, Gwrych Castle, Abergele gwrychcastle.co.uk

WWW.CONWY.GOV.UK/EVENTS

30 & 1 DEC Christmas Fayre, Llyn Brenig, Cerrigydrudion llyn-brenig.co.uk

present Snow White

VIENNA FESTIVAL BALLET

9 TACHWEDD - 1 MAWRTH 2020 Arddangosiadau gan Chiara Camoni, Nobuko Tsuchyia, Anj Smith ym MOSTYN, Llandudno (Ar agor dydd Mawrth i ddydd Sul) mostyn.org

Gwener 15 – Sul 17 Tachwedd 14-17 TACH Ffair Nadolig Llandudno Dros 150 o’r stondinau bwyd, diod a chrefft gorau. llandudnochristmasfayre.co.uk

PANTOMEIM

7-29 RHAG

SLEEPING BEAUTY

VENUE CYMRU, LLANDUDNO VENUECYMRU.CO.UK

16 TACH Golau Gaeaf : Pennod I, Llandudno. Noson o berfformio ymdeithiol a gwyllt. 17 TACH Hanner Marathon Conwy facebook.com/ runwales.com digwyddiadauconwy

GWENER 13 – SUL 15 RHAGFYR

14 RHAG Golau Gaeaf : Pennod II, Noson o wrando ar straeon anhygoel yn cael eu hadrodd drwy daflunio goleuadau facebook.com/digwyddiadauconwy 14 RHAG G wyl ^ Gaeaf Conwy, Conwy conwytownevents.co.uk

Gwener 22 – Sul 24 Tachwedd

23-24 TACH Tonau, Mwd a Mynyddoedd, Parc Antur Eryri, Dolgarrog adventureparcsnowdonia.com

23 TACH - 21 RHAG Y Sioe Aeaf yn Yr Academi Frenhinol Gymreig Conwy (ar agor dydd Mawrth i ddydd Sadwrn) rcaconwy.org

Gwener 29 Tachwedd – Sul 1 Rhagfyr

29 TACH

THEATR COLWYN COLWYN BAY THEATRCOLWYN.CO.UK

29 NOV Friday 29 − Sunday 1 december 23-24 NOV Waves, Mud and Mountains, Adventure Parc Snowodnia, Dolgarrog adventureparcsnowdonia.com

23 NOV - 21 DEC The Winter Show at Royal Cambrian Academy Conwy (Open Tue to Sat) rcaconwy.org

North Western Gardens, Llandudno

CHAPTER II - 7PM 14 DECEMBER

Mostyn Street, Llandudno

CHAPTER I - 7PM 16 NOVEMBER STORIES THAT HAVE LURKED IN THE DARKNESS FOR CENTURIES ARE NOW COMING TO LIGHT

A CAPTIVATING EVENT FOR ALL THE FAMILY DEFFRO CHWEDLAU A CHREADURIAID MYTHS & MONSTERS AWAKEN

Friday 22 − Sunday 24 November

16 NOV Winter Light : Chapter I, Llandudno. An evening of fiery processional performance facebook.com/EventsConwy

17 NOV Conwy Half Marathon runwales.com

14 DEC Winterfest, Conwy conwytownevents.co.uk 14 DEC Winter Light : Chapter II, North Western Gardens, Llandudno. Spectacular story telling through light projection facebook.com/EventsConwy

Friday 13 − Sunday 15 December

14-17 NOV Llandudno Christmas Fayre Over 150 of the very finest food, drink and craft stalls. llandudnochristmasfayre.co.uk

VENUE CYMRU, LLANDUDNO VENUECYMRU.CO.UK

SLEEPING BEAUTY PANTOMIME

Friday 15 − Sunday 17 November

7-29 DEC

9 NOV -1 MARCH 2020 Exhibitions by Chiara Camoni (Italy), Nobuko Tsuchyia (Japan), Anj Smith (England) at MOSTYN, Llandudno. (Open Tue to Sun) mostyn.org

THEATR COLWYN BAE COLWYN THEATRCOLWYN.CO.UK

VIENNA FESTIVAL BALLET

yn cyflwyno Eira Wen

30 TACH AC 1 RHAG Ffair Nadolig, Castell Gwrych, Abergele gwrychcastle.co.uk

DEFFRO CHWEDLAU A CHREADURIAID MYTHS & MONSTERS AWAKEN

DIGWYDDIAD CYFAREDDOL I’R TEULU CYFAN DAW GOLEUNI AR STRAEON SYDD WEDI BOD YN LLECHU YN Y TYWYLLWCH ERS CANRIFOEDD

PENNOD I - 7PM 16 TACHWEDD Stryd Mostyn, Llandudno

PENNOD II - 7PM 14 RHAGFYR

Gerddi’r North Western, Llandudno

30 TACH AC 1 RHAG Ffair Nadolig, Llyn Brenig, Cerrigydrudion llyn-brenig.co.uk

COFIWCH: Cafodd y rhestr hon ei llunio yn Awst 2019, felly mae’n bosibl y bydd y manylion wedi newid. Gwiriwch y dyddiadau os ydych yn bwriadu mynychu digwyddiad neu archebu llety.

WWW.CONWY.GOV.UK/DIGWYDDIADAU

9 NOV Betws-y-Coed Trail Challenge trailbetws.com

8−10 November NORTH WALES CHORAL FESTIVAL

VENUE CYMRU, LLANDUDNO

Winter weekend getaways Friday 8 − Sunday 10 November

7-8 DEC Christmas Market, Adventure Parc Snowdonia, Dolgarrog adventureparcsnowdonia.com 7 DEC Llandudno Christmas Parade llandudno.gov.uk 7 DEC Llandudno 5k Santa Dash bespokefitnessandevents.co.uk

Friday 6 − Sunday 8 december


Cyhoeddwyd gan: Busnes a Twristiaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, tourism@conwy.gov.uk

Canolfannau Croeso Tourist Information Centres

Er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y cyhoeddiad hwn, ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau, camgymeriadau neu hepgoriadau nac am unrhyw fater sydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â neu’n codi o gyhoeddi’r wybodaeth yn y llyfryn hwn.

DANGOSWCH Y DALEB HON I HAWLIO’R GOSTYNGIAD.

Gostyngiad o 10% ar fwyd, diod, anrhegion a hamperi yng Nghanolfannau Croeso Llandudno a Chonwy.

Ar agor drwy’r flwyddyn *Yn ddilys o 1 Tachwedd 2019 tan 31 Mawrth 2020. Gostyngiad ar gynnyrch yn y siop yn unig. Nid yw’n cynnwys gwasanaethau.

A494 Cronfa Alwen Reservoir

B5113 Llyn Alwen

A543

Cronfa Aled Isaf Reservoir

B5106

ley wy Val | C on

wy Dyffryn Con

A548 B5382

Eglwys Bach

A548

Llansanffraid Glan Conwy

Deganwy

Bryn-y-Maen

18

Llanrhos Cyffordd Llandudno Junction

A470

y y

20 21 22 Hen Golwyn Old Colwyn

Dolwen

B5383

Llysfaen

23 Llandulas

A548 24a Llan San Sior St George

Bae Colwyn Colwyn Bay

23a

Abergele 24

A547

Towyn

Pensarn

Llandrillo-yn-Rhos Rhos-on-Sea

Bae Penrhyn Penrhyn Bay

A55

26

25

A55

Getting around Llandudno

R Conwy

B5381

A470

19

Llanfair Talhaearn

Betws-yn-Rhos

B5113

B5106

COACH nationalexpress.com

17

Lly

B5382

Tal-y-Cafn

Inland on the scenic Conwy Valley Line: conwyvalleyrailway.co.uk

16a

Groes

Llansannan

R Elwy

B5105

Conwy 16 a Penmaenmawr

A544

Llangernyw

To the coastal destinations: nationalrail.co.uk

Rowen Ty’n-y-Groes

Bylchau R

Cl w yd

Bae Kinmel Kinmel Bay

y

Dolgarrog Tal-y-Bont

B5384

R

iau

Pandy Tudur

7

Trefriw

6

d

Gwytherin

5

ly

B4501

Llanrwst

4

Tŷ Nant

w

A5

traveline.cymru

8 Football Ground

Bodafon Fields

10%off Canolfannau Croeso Tourist Information Centres

PRESENT THIS VOUCHER TO CLAIM YOUR DISCOUNT.

MARINE DRIVE TOURS LLANDUDNO 01492 879133 Map Ref:A3 Get on board a luxury vintage coach for a one hour tour of Marine Drive and enjoy breathtaking views of Anglesey, Snowdonia and out over the Irish Sea. Tour departs daily from the pier entrance at 11am, 1pm & 3pm. alpine-travel.co.uk

food, drink, gifts and hampers at Llandudno or Conwy TICs.

LLANDUDNO TOURIST INFORMATION CENTRE Unit 26, Victoria Shopping Centre, Mostyn Street, Llandudno LL30 2NG 01492 577577

CONWY TOURIST INFORMATION CENTRE Muriau Buildings, Rose Hill Street, Conwy LL32 8LD 01492 577566

Open all year round. *Valid 1 November 2019 to 31 March 2020. Discount on in store products only. Excludes services.

Co

graddfa / scale

n

Llanfihangel Glyn Myfyr

Cerrigydrudion

5

Getting here TRAIN

Lly

n Al ed

Llyn Brenig

Llyn Aled

3

Capel Curig

Afo

Nebo

B5427

2

0

cilomedrau / kilometres

B4407

1

Co

Betws-y-Coed

d

A5

Blaenau Ffestiniog

nw

Capel Garmon

Ysbyty Ifan Llyn Conwy

A470

Glasfryn

Penmachno

od

B5105

B4501

Pentrefoelas

B4501

rafn

Pentrefoelas

B4406

nC

Cronfa Alwen Reservoir

R Conwy

B5113

A5

H

Copa Mynydd Mountain Peak

an t

Llyn Brenig

Lly

d

A470

Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr Tourist Information Point

ed

A543

Nebo

B4406

Llanfihangel Glyn Myfyr

Glasfryn

n Ge irionyd

Penmachno

nt

Cerrigydrudion

na

Ysbyty Ifan

Canolfan Groeso Tourist Information Centre

n Al

Llyn Aled

Llyn Alwen

Dolwyddelan

Tŷ Nant

raf

A5

nw

Bylchau

n Ge irionyd

B5106

Capel Garmon

Co

Parc Coedwig Gwydyr Gwydyr Forest Park

A544

Cronfa Aled Isaf Reservoir B5427

Llyn Conwy

nC

Llangwm

B4407

Groes

B5384

Gwytherin

enau Ffestiniog

Lly

B4501

Ffin Parc Cenedlaethol Eryri Snowdonia National Park Boundary

B4501

Dolwyddelan

I

B4391

5

A4212

Rheilffordd gyda gorsaf Railway with station

Llansannan

A548

Betws-y-Coed 2861 Carnedd Moel-siabod

scale

B5382

Pandy Tudur

ALLWEDD/Key

B5382

Llangernyw

Llanrwst

Capel Curig

A4086

traveline.cymru

Afo

3002’ Tryfan

0

B4401

Trefriw

R Elwy

A5

3002’ 3278’ Glyder Glyder Fawr Fach

Teithio o Amgylch:

Lly

F

G

d

ly

w

Co

Eglwysbach

y

n

B5381

y

E

y Ll

A55

Llanfair Talhaearn

A548

le wy Val | C on wy

Llyn Eigiau

3425’ Carnedd Dafydd

BWS nationalexpress.com

26

R

Dolgarrog

3485’ Carnedd Llewelyn

8

Tal-y-Bont

24a Llan San Sior St George

Betws-yn-Rhos

Tal-y-Cafn

Dyffryn Con

D

A547

B4391

Rowen Ty’n-y-Groes

A548

B5383

Dolwen

B5113

I’r ardaloedd mewndirol ar Reilffordd hyfryd Dyffryn Conwy: conwyvalleyrailway.co.uk

Cl w yd

25

Llysfaen

A470 B5106

Abergele 24

23a

7

C

Bryn-y-Maen

Llansanffraid Glan Conwy

23 Llanddulas

R

Towyn

Y Bala Bala

15 Llanfairfechan

A55

21 22 Hen Golwyn Old Colwyn

19

Conwy 16 15a Penmaenmawr

A55

20

I’r cyrchfannau arfordirol: nationalrail.co.uk

6

18

17

Pensarn

Cyffordd Llandudno Junction

TRÊN

Bae Cinmel Kinmel Bay

kilometres

Llanrhos

Deganwy

16a

Bae Colwyn Colwyn Bay

5

A470

Cyrraedd yma:

Llandrillo-yn-Rhos Rhos-on-Sea

Llandudno

A4212

Bae Penrhyn Penrhyn Bay

Bae Conwy Conwy Bay

B

Dyluniwyd gan: View Creative viewcreative.co.uk Ffotograffiaeth: Parc Antur Eryri, Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn, © Hawlfraint y Goron (2019) Cadw, Go Below Underground Adventures Ltd, MOSTYN, © Ymddiriedolaeth Genedlaethol/ Christopher Gallagher, Martin Lyons, PM Photography, © Dan Struthers Photography, Samphire Brasserie, © Visit Britain, © Hawlfraint y Goron (2019) Croeso Cymru, Matt Wilcox.

CANOLFAN GROESO CONWY Adeilad Muriau, Stryd Rose Hill, Conwy LL32 8LD 01492 577566

4

A

CANOLFAN GROESO LLANDUDNO Uned 26, Canolfan Siopa Fictoria, Stryd Mostyn, Llandudno LL30 2NG 01492 577577

3

01492 879133 Cyf Map: A3 Ewch ar hen fws moethus am daith un awr ar hyd Marine Drive a mwynhau golygfeydd syfrdanol o Ynys Môn, Eryri ac allan dros Fôr Iwerddon. Bydd y daith yn gadael bob dydd o fynedfa’r pier am 11am, 1pm a 3pm. alpine-travel.co.uk

2

TEITHIAU MARINE DRIVE, LLANDUDNO

Published by: Business and Tourism, Conwy County Borough Council, tourism@conwy.gov.uk Whilst Conwy County Borough Council has made every effort to ensure accuracy in this publication, the Council cannot accept responsibility for any errors, inaccuracies or omissions or for any matter in any way connected with or arising out of the publication of the information contained within this brochure. Designed by: View Creative viewcreative.co.uk Photography Credits: Adventure Park Snowdonia, Colwyn Bay Zoo, © Crown copyright (2019) Cadw, Welsh Government, Go Below Underground Adventures Ltd, © Martin Lyons Photography, MOSTYN, © National Trust Images/Christopher Gallagher, PM Photography, © Dan Struthers Photography, Samphire Brasserie © Visit Britain, © Crown Copyright (2019) Visit Wales, Matt Wilcox, Zip World.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.