Llyfryn Digwyddiadau Gŵyl yr #Ecoamgueddfa Mehefin 6ed - Mehefin 14eg Gŵyl dros wythnos gyfan i ddathlu treftadaeth, hanes a diwylliant Pen Llŷn.
www.ecoamgueddfa.org
@Ecoamgueddfa
/Ecoamgueddfa
Trefnwyr Digwyddiadau Mae’r ŵyl hon wedi ei threfnu gan bartneriaid yr #Ecoamgueddfa
Nant Gwrtheyrn Ffôn: 01758 750 334 Ebost: post@nantgwrtheyrn.org Gwefan: www.nantgwrtheyrn.org
Amgueddfa Forwrol Llŷn Ffôn: 01758 720 430 Ebost: post@llyn-maritime-museum.co.uk Gwefan: www.llyn-maritime-museum.co.uk
Felin Uchaf Ffôn: 01758 780 280 Ebost: felinuchaf@tiscali.co.uk Gwefan: www.felinuchaf.org
Ymddiriedolaeth Genedlaethol- Porth y Swnt & Plas yn Rhiw Ffôn: 01758 760 469 / 01758 780 219 Ebost: llyn@nationaltrust.org.uk Gwefan: www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula
Oriel Plas Glyn y Weddw Ffôn: 01758 740 763 Ebost: enquiry@oriel.org.uk Gwefan: www.oriel.org.uk
Plas Heli Ffôn: 01758 613 343 Ebost: post@plasheli.org Gwefan: www.plasheli.org
Trefnwyr Digwyddiadau Mae’r ŵyl hon wedi ei threfnu gan bartneriaid yr #Ecoamgueddfa
AHNE Llŷn Ffôn: 01758 704 176 Ebost: ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk Gwefan: www.ahne-llyn-aonb.org
Marchnad Cynnyrch Llŷn Ffôn: 07788210934 Ebost: sian@cymydmaen.org Gwefan: www.facebook.com/CynnyrchLlyn
Cloddio Meillionydd Ffôn: 01248 382 427 Ebost: r.karl@bangor.ac.uk Gwefan: www.meillionydd.bangor.ac.uk
Rhwydwaith WISE Ffôn: 07786374735 Ebost: g.h.griffith@bangor.ac.uk Gwefan: www.wisenetwork.org
Rhestr Digwyddiadau Digwyddiad:
Patagonia 150
Dyddiad:
Dydd Sadwrn, Mehefin 6ed
Amser:
11yb
Lleoliad:
Oriel Plas Glyn y Weddw
Manylion:
Diwrnod i ddathlu canrif a hanner ers i’r ymfudwyr cyntaf gyrraedd y Wladfa ym Mhatagonia. Arddangosfa o waith artisitaid o’r Wladfa a Chymru, yn ogystal â gweithgareddau i blant.
Digwyddiad:
Marchnad Cynnyrch Llŷn
Dyddiad:
Dydd Sadwrn, Mehefin 6ed
Amser:
10yb - 2yp
Lleoliad:
Neuadd Goffa Sarn, Sarn Mellteyrn
Manylion:
Dewch draw i farchnad cynnyrch Llŷn i flasu a phrynnu cynnyrch a crefftau lleol o safon.
Digwyddiad:
Sportif Arfordirol Llŷn
Dyddiad:
Dydd Sul, Mehefin 7fed
Amser:
9yb
Location:
Plas Heli
Manylion:
Sportif beicio 50 milltir sy'n eich harwain o amgylch arfordir prydferth Pen Llŷn. Gyda mawredd Eryri i'r dwyrain a thonnau Môr Iwerddon i'r gorllewin mae'r cwrs yn siwr o greu argraff. Cymerwch eich amser i fwynhau'r golygfeydd neu gwthiwch eich hun i'r eithaf. Mae'r digwyddiad yma yn cynnig sialens i bawb beth bynnag fo'ch ffitrwydd a'ch profiad. *Cost cofrestru* Cysylltwch â Plas Heli am fwy o wybodaeth.
Digwyddiad:
Taith Gerdded Nefyn
Dyddiad:
Dydd Sul, Mehefin 7fed
Amser:
2yp
Lleoliad:
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Dyddiad:
Taith gerdded o dan arweiniad John Dilwyn Williams. Cyfarfod yn yr Amgueddfa Forwrol. Rhan o ddathliadau 150 mlynedd sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.
Rhestr Digwyddiadau Digwyddiad:
Taith gerdded Foel Gron
Dyddiad:
Dydd Llun, Mehefin 8fed
Amser:
6yh
Lleoliad:
Mynytho
Manylion:
Taith gerdded o dan arweiniad John Dilwyn Williams. Cyfarfod yn y maes parcio ger Ysgol
Digwyddiad:
‘Premiere’ Nefyn
Dyddiad:
Dydd Mawrth, Mehefin 9fed
Amser:
7yh
Lleoliad:
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Dyddiad:
Premiere animeddiaid anhygoel Dylan Williams Stiwdio Trawscoed o hanes Nefyn drwy'r oesoedd. Cyfle i weld y ffilm a chlywed Dylan yn sgwrsio gyda Daloni Metcalfe am y broses o'i chreu.
Digwyddiad:
Diwrnod yn Felin Uchaf
Dyddiad:
Dydd Mercher, Mehefin 10fed
Amser:
10yb
Lleoliad:
Felin Uchaf
Manylion:
Treuliwch y diwrnod yng Nghanolfan Felin Uchaf ger Rhoshirwaen. Bydd digon o weithgareddau i ddiddanu’r teulu oll o weithdai adeiladu gwyrdd, straeon ger y tân, taith gerdded bioamrywiaeth a llawer llawer mwy.
Digwyddiad:
Blas y Nant
Dyddiad:
Dydd Iau, Mehefin 11eg
Amser:
9yb
Lleoliad:
Nant Gwrtheyrn
Manylion:
Taith trwy hanes Nant Gwrtheyrn. Bydd cyfle i sgwrsio gyda rhai o gyn drigolion y Nant a oedd yn byw yn y pentref hudolus hwn, cyn iddo gael ei drawsnewid yn Ganolfan Iaith Genedlaethol. Bydd cyfle, hefyd, i glywed hanes sefydlu’r Ganolfan Iaith. I’r dysgwyr yn eich plith, bydd sesiynau ‘Blasu Iaith’ ar gael yn ystod y dydd. Cewch gyfle i weld y datblygiadau diweddar y Nant ynghŷd â chyfle i flasu ychydig o gynnyrch y Nant yng Nghaffi Meinir.
Rhestr Digwyddiadau Digwyddiad:
Diwrnod agored Meillionydd
Dyddiad:
Dydd Gwener, Mehefin 12fed
Amser:
10yb - 4yp
Lleoliad:
Meillionydd, ger Rhiw
Manylion:
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae Ysgol Hanes, Hanes Cymru a Archeoleg Prifysgol Bangor wedi cynnal gwaith cloddio archeolegol ar safle Meillionydd ar lethrau mynydd Rhiw. Mae’r safle yn cynnwys cylchfyr dwbl ac yn dyddio o Oes yr Efydd/ Oes yr Haearn. Dewch draw i weld y safle a’r darganfyddiadau hyd yn hyn!
Digwyddiad:
Taith gerdded gyda garddwr Plas yn Rhiw
Dyddiad:
Dydd Sadwrn, Mehefin 13eg
Amser:
10yb
Lleoliad:
Plas yn Rhiw
Manylion:
Dewch ar daith gyda garddwr Plas yn Rhiw i fythythod Tan yr Ardd a Fron Deg. Mae un wedi cael ei adnewyddu i’w gyflwr gwreiddiol, a’r llall i safon byw heddiw. Cyfarfod ym Mhlas yn Rhiw.
Digwyddiad:
Blas y Môr Aberdaron
Dyddiad:
Dydd Sul, Mehefin 14eg
Amser:
11yb
Lleoliad:
Aberdaron
Manylion:
Stondinau amrywiol a chyfle i flasu a phrynu cynnyrch lleol ffres. Gweithgareddau i blant, cerddoriaeth, celf a mwy!