fforch i fforc teithiau bwyd lleol
ˆ ˆr a'i donnau O dan y dwˆ
ˆ
O DAN Y DWR A’'I DONNAU Weithiau mae crefft y pysgotwr mor rhyfedd ac ofnadwy â’r pysgod eu hunain. Aeth Simon Wright am dro ar hyd yr afon i chwilio am abwyd – a bwyd. Geiriau Simon Wright Ffotograffau Warren Orchard
2
|
www.fforchifforc.cymru
www.fforchifforc.cymru
|
3
R
wy’n gyrru trwy Gaerfyrddin yn oriau mân y bore, rywbryd ar ddechrau’r nawdegau pan o’n i’n ddyn diarth yn y dre. Ar y chwith, yr afon: fflach liw arian yn y glasddu rhwng silwétau'r coed. Dim oll yn symud: mae’r dref yn ei gwely, ac ar yr hewl dim ond fi a golau’r lloer sydd ar ddihun. Mae’r gwresogydd yn canu grwndi yn y car, mae’r radio yn canu’n dawel ac mae fy meddwl i yn bell, bell i ffwrdd. Ac yna – yn y mwrllwch – chwe drychiolaeth. Gwylwyr o ryw arall fyd, yn fwy na dynion, yn martsio’n iasoer bob yn un hyd glan yr afon. Creaduriaid â chregyn enfawr ar eu cefnau, fel chwilod du aruthrol sydd wedi codi ar eu coesau ôl. Mae fy nghalon i’n rhewi o’u gweld nhw. Mae’r car yn taro’r cwrbyn, rwy’n ei dynnu’n ôl i’r hewl drwy nerth greddfol bôn braich ac yn syllu’n wyllt i ddrych y car. Dim i’w weld ond y fagddu, ac mae hynny’n ddigon. Clatsh, bang, bant â fi – yn ofnus, ar goll, yn llawn anesmwythyd, wedi cael llond twll o ofan. A does dim syniad 'da fi beth rwy’ newydd ei weld. Ugain mlynedd – fwy neu lai – yn ddiweddarach a dyma fi eto ar lan yr un afon, yn ysgwyd llaw gydag un o’r anghenfilod hynny. Malcolm yw ei enw ac mae ganddo gwch ar ei gefn. Mae wedi ei gaethiwo mewn cragen o ffibrwydr du fel wy wedi’i hollti, a DC wedi’i baentio mewn gwyn ar ei hochr. Mae’n cyflwyno David, Andrew a phump o fechgyn eraill mewn arfwisg debyg, pob un â’i badl a’i lond llaw o rwydi sidanaidd. Dyma’r creaduriaid echrydus y gweles i dan grynu, y noson dywyll honno mor bell yn ôl. Cwryglwyr y’n nhw, nid bodau o blaned arall, nid chwilod enfawr. Serch hynny rhyfedd yw eu ffyrdd; fel y gwelwn, welwch chi, maes o law. Bach iawn rwy’n ei wybod am y cwryglwyr, a llai fyth am y pysgod y maen nhw’n eu hela. Fi a phawb arall bron: mae beth sy’n digwydd dan wyneb y dŵr yn ddirgelwch llwyr i’r rhan fwyaf o bobl. Mae hyd yn oed y pysgotwyr sydd yma heddiw – y dynion sydd, fel morloi, yn hela trwy reddf, sydd â chenedlaethau dirifedi o wybodaeth gyfrin a thriciau dala
4
|
www.fforchifforc.cymru
pysgod lan eu llewys – yn gwybod bach iawn am eu prae. Pysgod chwedlonol yw’r rhain, sy’n cael eu cenhedlu ym mannau uwch yr afon ond sy’n teithio’n bell, i grombil y môr mawr. Dychwelyd i’w man geni unwaith y flwyddyn neu unwaith mewn oes; byw bymtheg neu ugain mlynedd; cael eu dala ar y daith yn ôl i lygad eu fynnon gan ddau ddyn mewn cychod maint twba sinc gyda rhwyd deugain llath rhyngddyn nhw – ond, serch hynny, dianc yn fwy na thebyg. Sewin yw enw’r pysgodyn hwn i ni yma yng Nghymru – ym mhob man arall, brithyll y môr cyffredin yw e. Enw llai swynol, ie ond mae’n dweud y gwir yn blaen – dim ond brithyll sy’n hoffi gweld y byd yw hwn. Tra bo’r lleill yn dewis byw eu bywyd yn afonydd eu magu, bydd y sewin yn ffarwelio ac yn diflannu o’r golwg. Nofio i lawr yr afon nes teimlo Afon Tywi yn ymledu rhwng Llansteffan a Glanyfferi, a llawes gyfyng yr afon yn ehangu i ddangos y môr mawr, a’r diferion olaf o ddŵr croyw yn prysur droi’n heli. Fel pob teithiwr o fri, bydd y daith wedi newid ei fywyd. Nid arddegyn tila o bysgodyn ddaw yn ei ôl, ond oedolyn yn ei lawn dwf – pwerus, urddasol, trahaus. Mae rhwng chwech ac ugain pownd o arian byw llyfn, gwyllt – wedi ei besgi a’i sesni ym Môr Iwerddon – bellach yn chwipio nofio lan Afon Tywi. Maen nhw’n dweud ffordd hyn bod “Duw wedi ymarfer ei grefft ar yr eog, ond wedi perffeithio ei grefft ar y sewin”. O ran bwyta’r creadur, rwy’n berffaith siwˆr eu bod nhw’n dweud y gwir – ond mae hi’n rhy gynnar o lawer i sôn am fwyta unrhyw beth, oherwydd i ddechre mae’n rhaid i ni ddala pysgodyn. Mae gen i het a disgiau pres, gyda rhif ar bob un. Dyw e ddim byd tebyg i’r Loteri Genedlaethol ond rwy’n ymwybodol iawn mai braint ac anrhydedd yw cael tynnu’r tocyns mas o’r het. Mae’r ddefod hon yn rhan o benderfynu pwy sy’n debygol o fod ar ei ennill neu ei golled wrth weithio’r afon heno. Ai chi sy’n dewis gyntaf? Os felly, chi biau dewis pa ran o’r afon ry’ch chi am ei physgota. Mae’r siawns y byddwch chi’n dala pysgod gwerth chwe deg neu saith deg punt yn fwy tebygol o lawer. Ai
O dan y dŵr a’i donnau
Ac yna, yn y mwrllwch:– chwe drychiolaeth
www.fforchifforc.cymru
|
5
6
|
www.fforchifforc.cymru
O dan y dŵr a’i donnau
chi sy’n tynnu’r tocyn olaf? Och a gwae, mae 'da chi’r un gobaith â chaneri mewn pwll glo o ddala pysgodyn gwerth gymaint â hynny. Rwy’n gallu teimlo wyth pâr o lygaid wedi eu hoelio arna’ i. Mae dwy set o reolau i’r gêm yma. Y rhai a nodwyd ar ddu a gwyn gan yr awdurdodau: statudau sy’n sôn am hyd rhwydi, trwyddedau, hyd y tymhorau, tagio ac yn y blaen; rheolau sy’n cymhlethu ac yn caethiwo fwyfwy wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau, wrth i’r sewin brinhau o flwyddyn i flwyddyn. Ar un adeg roedd yr afonydd yn gyforiog o’r pysgod hyn; ond bellach maen nhw’n brin. Pam? Mae’n dibynnu ar bwy ry'ch chi am ei holi: y morloi, y llongau treillio enfawr, argaeau, dŵr asid a’r pysgotwyr rhwydi eu hunain – maen nhw oll dan y lach gan rywun neu’i gilydd, yn dibynnu ar sylw pwy maen nhw am ei fachu. Byddai dyn yn meddwl mai mynd yn groes i’r graen yw bwrw’r bai ar ddulliau pysgota hynafol a ddefnyddiwyd ers cyn cof gan lond llaw o gwryglwyr, ac sydd prin wedi newid ers hynny. Ond mae pysgotwyr bach yn haws o lawer eu rhwydo na llong bysgota ffatri o bant, rhywle’n bell i ffwrdd yng nghanol Môr Iwerddon. Mae’n rhaid dangos bod rhyw gosb ar y gweill yn rhywle ac – fel arfer – mae’n haws hela’r pysgod lleiaf na dal y siarcod mawr. Ond mae 'na reolau eraill wedyn. Y rhai a draddodwyd gan genhedlaethau o bysgotwyr, yn heriol anarchaidd a gan wybod mai natur ei hun sy’n deddfu pob dim. Y rheolau sydd wedi corddi cynnen, wedi cael eu camddefnyddio a’u defnyddio eto. Y rhai sy’n mynnu bod y tagiau bach metel yma’n cael eu tynnu yn gwbl ddiduedd o gap pysgotwr, a’r rhai sy’n mynnu, unwaith mae'r dynion ar y dŵr, na chaiff rhwyd ei gosod cyn bydd saith seren yn yr wybren dywyll. Oherwydd helfa sy’n digwydd yn y tywyllwch yw hon. Dyw pysgod ddim yn dwp: os gwelan nhw rwyd maen nhw’n gwybod mai trap yw hi, un a osodwyd gan y dynion sydd bellach yn eistedd mewn llong eiddil yr olwg, yr un siâp (a bron yr un maint yn union) â phlisgyn hanner cneuen Ffrengig. Dyma nhw’n sglefrio dros yr wyneb. Prin maen nhw’n codi crych ar wyneb y dŵr. Prin mae eu padlau – fflach fflach yn y tywyllwch – yn cosi’r llif. Mae eu cysgodion tawel yn diflannu wrth i’r nos lyncu’r golau o’r diwedd. Uwch eu pennau,
ar y ffyrdd a’r pontydd, mae bywyd modern yn grwgnach ac yn hercian yn ei flaen – goleuadau’r ceir, si a pheswch cerbydau. Ond ar yr afon mae amser yn dirwyn yn araf drwy’r canrifoedd, gan symud mewn cytgord â dawns fwyn y cyryglau – dau gwch yn cusanu ac yna’n ymrannu, dau bysgotwr yn cydio’r blethwaith sydd nawr yn sgubo’r dŵr llydan rhyngddynt. Maen nhw’n symud i lawr yr afon mewn cytgord perffaith – ac eto prin maen nhw’n symud o gwbl. O fewn deg munud, prin bod sôn chwaith am y pysgotwyr. Rwyf yn fy nghwrcwd yn fy nghuddfan ar lan yr afon. Yr unig arwydd bod yr wyth dyn a welais i’n llithro ar hyd y dŵr yn dal i fod yno yw ambell ffigwr tywyll sy’n crwydro’n araf ar draws patshyn o olau oren dan un o lampau’r stryd. Gan bwyll bach mae’r amser yn dirwyn ac yna, gyda fflach eu lamp mae’r pysgotwyr yn codi llais am y tro cyntaf ers hanner awr, i gyfeiliant dŵr yn llepian a chlindarddach sy’n diasbedain oddi ar waliau cerrig y bont. Sewin cyntaf y noson: a dyna fe, yn gorwedd yn y borfa fer ar bwys y llwybr, yn disgleirio yng ngolau’r fflachlamp. Wyth dyn yn ymlafnio am hyd at chwe awr; dim ond hanner dwsin o sewin gaiff eu dal yn y pedair rhwyd heno. Mae hi fel chwilio am aur: cadw’r ffydd, dal i gredu, daw dy ddydd…neu, yn yr achos hwn, dy nos. Tymor byr sydd i’r sewin, ac mae’r pysgod yn brin. Ond nid y prinder na’r defodau cymhleth a’r canrifoedd o draddodiad sy’n golygu bod y sewin yn bysgodyn arbennig. O’i goginio’n ofalus, dyma un o’r pethau mwyaf blasus y gallech chi ei fwyta. Mae’n fwyd gwirioneddol amheuthun ac mae gofyn ei drin yn briodol – yn dyner, yn barchus, wedi ei goginio i’r union eiliad a’i weini yng nghwmni bwydydd fydd yn anrhydeddu ei ogoniant. Mae’r haul yn codi ac mae’r afon wedi troi’n fwd. Wrth yrru 'nôl ar hyd y lan gwelaf y cyryglau yn eu cewyll, yn pendwmpian yn eu rhesel. Rwy’n ffarwelio ag afon Tywi wrth iddi droi tua’r de, a glan y môr. I ffwrdd â fi tua’r bryniau i gyfeiriad Bae Ceredigion – yr hansh barus hwnnw yn arfordir gorllewin Cymru sy’n cofleidio’r môr, o Enlli
Rhyw ddwsin o stondinau, pob un dan ei chynfas streipiog gwyrdd a gwyn. Rwy'’n fodlon cydnabod y bydden i'n fwy tebygol o GYSYLLTU'R olygfa fywiog, ddifyr hon âaˆ chefn gwlad Ffrainc www.fforchifforc.cymru
|
7
Fork2Fork on tour
Mae’'r gymdogaeth fechan hon o gynhyrchwyr bwyd yn cynhyrchu ei gwres ei hun, hefyd.
Mae'’r lle 'ma wedi fy swyno yn barod yn y gogledd hyd Pen-caer yn y de. Rwy’n gyrru trwy Sir Benfro nawr, a bron iawn â chyrraedd cyrion Ceredigion. Ym mhentref Llandudoch, wele arwydd yn hysbysebu’r farchnad fwyd leol. Rwy’n ei ddilyn ar hyd lôn gul sy’n ymagor yn sydyn ar fan annisgwyl o brydferth a thawel. Ar y dde mae 'na gae gwyrdd ac abaty yn y pellter, ar y chwith mae pwll y pentref; mae’r dŵr llonydd sy’n llond y lle o hwyaid yn cael ei ddala’n ôl i yrru rhod y felin wyngalch. Rhwng y pwll a’r felin mae ’na farchnad fach o ryw ddwsin o stondinau, pob un dan ei chynfas streipiog gwyrdd a gwyn. Rwy’n fodlon cydnabod y bydden i’n fwy tebygol o gysylltu’r olygfa fywiog, ddifyr hon â chefn gwlad Ffrainc na Chymru. Rwy’n methu deall pam na fues i yma o’r blaen. A dweud y gwir rwy’n cywilyddio braidd. Gwir, dim ond llond llaw o werthwyr sydd ond maen nhw’n cymryd eu lle i’r dim. Wele flawd o’r felin gyfagos (cafodd bara’r felin ei brynu’n awchus oriau’n ôl), selsig, caws gafr, jamiau, siytni, a mêl, seidr a sudd o berllannau’r ardal. Mae’r farchnad yn dechrau dirwyn i ben ac mae’r stondinwyr yn crwydro draw i gael clonc â’i gilydd. Maen nhw’n sylwebu ar fasnach y diwrnod, yn estyn bwyd a diod i’w gilydd. Mae’r haul yn disgleirio, ac mae hynny’n helpu, ond mae’r gymdogaeth fechan hon o gynhyrchwyr bwyd yn cynhyrchu ei gwres ei hun, hefyd. Mae’r lle 'ma wedi fy swyno yn barod. Ac mae hyn oll cyn i Mandy Walters fynnu rhoi cinio i fi. Cranc Bae Ceredigion sy’n pingo o flas y môr, gyda chwpwl o bice – “jest rhag ofn”. Mae gŵr Mandy, Len, a’i mab Aaron yn pysgota Bae Ceredigion ac Afon Teifi. Maen nhw’n dala crancod a chimychiaid rownd y ril, drwy’r flwyddyn. Yn yr haf mae crancod heglog hefyd, ac maen nhw’n defnyddio ffunen bysgota â llaw i ddal mecryll, ysbinbysg y môr a morleisiaid. Yn y gaeaf mae cregyn bylchog. O fis Ebrill i fis Awst maen nhw’n llenwi’r oriau sy’n weddill drwy bysgota o gyryglau a dala pysgod â sân ar Afon Teifi hefyd. Yn y dull parod-i-droi-llaw-at-bopeth hwn, ymddengys ei bod hi dal yn bosibl i bysgotwr bach wneud bywoliaeth ar arfordir gorllewin Cymru. Mae Aaron, sy’n un ar hugain, yn fy nghodi o’r lan ar draeth y Patch gerllaw a dyma ni’n gyrru mas at Glas y Dorlan, lle mae ei dad yn disgwyl amdanom. Mae’r cwch yn un cruglwyth o haearn trwm, winshis, rhaffau a rhwydi. Rwy’n gweld yn syth eu
8
|
www.fforchifforc.cymru
bod nhw wedi tynnu hansh o gefn y cwch, gan adael slipffordd sy’n agored i’r môr. Mae’n od o debyg i gefn fferi geir gyda’r drysau ar agor, ac yn hynod o beryg – does bosib? Yn ôl Len, “syniad ardderchog” gafodd e ychydig flynyddoedd yn ôl oedd hwn – “mae’n ei gwneud hi’n haws codi’r cewyll.” Mae’n fodlon cyfaddef bod y system hon wedi hala cathod bach arno ar y cychwyn. A fi? Rwy’n cytuno’n llwyr â’r cathod bach. Ond mae’n ddiwrnod braf ac mae’r môr fel llyn llefrith o lonydd – nes i ni bwffian heibio i’r pentir, ymuno â’r môr mawr, a wisht… mae’r tonnau pigau bach yn troi’n donnau mawr rhacslyd, serth nes ein bod ni’n tasgu i mewn iddynt bob yn ail eiliad. Rwy’ wedi dysgu, yn rhy hwyr, bod cysgodi mewn rhyw fan amhenodol y tu ôl i gaban y llong yn ddim fath o gysgodi o gwbl rhag yr ewyn sy’n chwydu dŵr hallt yn ôl atom yn ffyrnig ac yna’n ffyrnicach fyth. Ac mae’r gwynt yn oerach mas fan hyn hefyd, yn arbennig pan y’ch chi’n wlyb domen. Ryw hanner milltir allan dyma ni’n oedi i godi’r cewyll. Mae llinell o ryw ddau ddwsin yn ymestyn hyd wely’r môr. Wrth i Len ac Aaron eu codi, maen nhw’n gwagio’r cranc brown a’r cimwch glasddu brych sydd yn y cewyll ac yn pentyrru’r cewyll gwag. Gwaith caled, gwaith clou yw hwn wrth i gruglwyth o bysgod cregyn wingo a nadreddu a llenwi’r tybiau, ac wrth i'r pentwr o gewyll gwag dyfu’n uwch ac yna’n uwch fyth. Yn gwmws fel y cyryglwyr, mae 'na fath o falé i ddynion mawr cryf 'da ni ar y gweill fan hyn, o fewn hyd a lled hynod o gyfyng y cwch bychan bach 'ma, sy’n siop siafins o beirianwaith ac offer – dyw'r tad na'r mab ddim yn dweud yr un gair, ond maen nhw'n gwybod yn union beth yw’r pas-de-deux nesaf a thro pwy yw hi i symud. Trip hawdd ar ddiwrnod heulog yw hwn iddyn nhw. Bydd llawer i daith arall ar ddyddiau llwyd tywyll gyda’r tymheredd yn y gwaelodion a’r môr yn grac fel paffiwr. Rwy’n rhyfeddu at Aaron, sydd mor ifanc ac eto sydd wedi dewis y ffordd hon o fyw o blith cymaint o rai eraill. Ond nid gwaith yn unig yw hwn; mae’n grefft, ac mae crefft yn mynnu i’r crefftwr ddysgu sgiliau anodd ac yn troedio'r llwybr cul. A dyma’r ffordd – yn y ffyrdd hyn sydd wedi eu trwytho mewn traddodiad a diwylliant – y caiff y pethau gorau sydd i’w bwyta eu cywain a’u pysgota o’r afonydd a’r moroedd, eu chwilio a’u canfod a’u gwerthu yn lleol. Byddant yn fwy blasus oherwydd hynny.
O dan y dŵr a’i donnau
Ond nid gwaith yn unig yw hwn; mae'’n grefft, ac mae crefft yn mynnu BOD Y CREFFTWR YN DYSGU sgiliau anodd AC YN TROEDIO'R llwybr cul
www.fforchifforc.cymru
|
9
ˆ
CHWEDL A LLÊEN BWYD
Pysgod yn ymbincio
Dim ond yn y môr y mae sewin yn bwydo, a bydd lliw ei gnawd yn cael ei effeithio gan y pethau mae’n ei fwyta. Gall y rhain gynnwys berdys, sy'n golygu bod sewin yn lliw pinc golau amlwg, gyda chyhyrau tyn, a blas pysgodlyd, ffres.
10
|
www.fforchifforc.cymru
Bara lawr ar i fyny
Mae bara lawr yn cynnwys llawer iawn o fitamin D. Roedd glowyr yn hoff o’i fwyta am ei fod yn gwneud iawn i raddau am yr oriau maith dan ddaear heb weld pelydrau’r haul. ‘Cafiar y Cymro’ oedd bara lawr yn ôl Richard Burton, ac mae cofnodion cynnar yn cyfeirio at bobl oedd ar ffo rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr yn ei fwyta.
PENFRAS BRAS, BRAS
Cafodd y penfras mwyaf erioed yng Nghymru ei ddal yn y môr o amgylch Ynys y Barri ym 1976. Roedd yn pwyso bron i 20kg – digon i wneud dros 350 o brydau cod-a-sglods.
LLOND BAD O SGADAN
Fel mae’r enw’n ei awgrymu, Dinbych-y-Pysgod oedd un o ganolfannau pysgota sgadan cynharaf Cymru. Am ganrifoedd byddai llwythi o sgadan yn cael eu glanio, eu halltu a’u hallforio i ardal y Môr Canoldir. Mae sgadan yn cael eu trin i roi penwaig coch, penwaig hallt, ‘rollmops’ neu benwaig picl. Mae’n debyg mai ‘surstromming’, sgadan wedi’u heplesu a’u rhoi mewn caniau yn Sweden, yw bwyd mwyaf drewllyd y byd.
Cocos jocôs
Cregyn bylchog bach dŵr hallt yw cocos. Maen nhw’n elfen flasus ym mwydydd llawer o wledydd y byd, ac maen nhw’n arbennig o boblogaidd yng Nghymru. Rhoddodd y Magna Carta yr hawl i bob dinesydd gasglu hyd at wyth pwys o gocos o’r blaendraeth.
Dyfroedd dwfn ac oer!
Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Mae’n bedair milltir o hyd ac yn filltir ar ei draws, ac mae’n gartref i bysgodyn gwyn o’r enw’r Gwyniad, sydd mewn perygl. Nid oes pysgodyn tebyg yn unrhyw le arall yn y byd. Sut daeth e i Lyn Tegid? Cafodd ei hynafiaid eu cau i mewn gan y dyfroedd ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.
www.fforchifforc.cymru
|
11
Rydym wedi cyrraedd pen ein taith... ...ond os ydych am ddechrau ar eich taith bwyd a diod eich hun, beth am ymweld 창 www.fforchifforc.cymru a dewis un o'r cannoedd o leoliadau bwyd uniongyrchol sydd ar gael ergyd carreg o'ch cartref, boed yn farchnad ffermwyr, yn siop fferm, neu'n ymweliad 창'r fferm ei hun.
www.fforchifforc.cymru