fforch i fforC teithiau bwyd lleol
ym
ru
Pum taith trwy dirlun a diwylliant bwyd lleol yng nghwmni’r bobl sy’n ei gynhyrchu a’i werthu yn syth i ni yng Nghymru rc
.c
ww
o w. f f o r c h i f f
+
gyda .Gwyliau, Sgwrsio Fforch i Fforc Marchnadoedd Ffermwyr a Siopau Fferm Ryseitiau Fforch i Fforc Chwedl a Llên Bwyd
. .
Naws y Caws
BYD Y BLAWD
O DAN Y DˆWˆ R A'I DONNAU CWRW CREFFTUS GAD I NI ORWEDD MEWN PORFEYDD GWELLTOG
ru
ym
c
.c
ww
w. f f o r c h
r iffo
HAFAN
Ryseitiau
Digwyddiadau
Cymuned
Fforch i Fforc - eich llwybr at fwyd lleol Mae’r ffordd y byddwn yn bwyta ac yn mwynhau bwyd yn hynod o bwysig, yn arbennig i’r bobl sy’n ei gynhyrchu a’i brosesu i ni yma yng Nghymru. Mae’r holl brif gynnyrch a chynhwysion (cig, llaeth, wyau a chnydau) yn dechrau’r daith ar fferm yn rhywle - neu, yn achos bwyd môr a physgod, yn cael eu dal yn y môr neu yn ein hafonydd. Serch hynny, yn aml pysgotwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr yw’r rhai yn y gadwyn fwyd sy’n derbyn lleiaf o fudd. Er 2009 mae prosiect Fforch i Fforc wedi mynd ati i gynorthwyo ac annog cynhyrchwyr bwyd a diod i werthu yn uniongyrchol i’r cyhoedd er mwyn cael yr adenillion gorau, ac hefyd i berswadio defnyddwyr i gydnabod mor fuddiol yw prynu yn uniongyrchol ac yn lleol. Gorau po fyrraf yw’r daith o fforch y fferm i’r fforc ar y bwrdd. Mae’n cynnig bwyd ffres, iachus, ydy - ond mae hefyd yn helpu i gynnal cymunedau yn yr ystyr ehangaf posib. Mae cyfleoedd i brynu’n uniongyrchol yn cynnwys marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, cynlluniau bocs, prynu ar-lein, gwyliau bwyd ac, wrth gwrs, prynu wrth glwyd y fferm ei hun.
Amdanom Ni
Masnach
Ychwanegwch ryseitiau, newyddion neu ddigwyddiadau
Ryseitiau
Teledu Fforch i Fforc
Mae Fforch i Fforc yn un o blith rhyw 30 o gynlluniau Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi a ariennir gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (CSE) trwy Lywodraeth Cymru, ac yn eu gwahanol ffyrdd mae pob un o’r prosiectau hyn wedi mynd i’r afael â meysydd allweddol o ran cynhyrchu a dosbarthu bwyd a diod, gan gynnwys ffyrdd o ychwanegu gwerth at amaeth, garddwriaeth a physgodfeydd. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, hyd yn oed pan oedd y dirwasgiad ar ei waethaf, mae nifer y cynhyrchwyr sy’n gwerthu’n uniongyrchol wedi tyfu. Er bod defnyddwyr yn dal i brynu rhan helaethaf eu bwyd o bellffordd gan yr archfarchnadoedd, mae’r cyfle i brynu bwyd a diod yn syth o lygad y ffynnon wedi cynyddu - a’r gwerthiant, hefyd. Mae defnyddwyr hefyd yn mwynhau cyfarfod â chynhyrchwyr bwyd ffres a bwyd artisan sy’n cynnig profiad siopa gwahanol, mwy arwyddocaol. Mae’r cyhoeddiad teithiau bwyd Fforch i Fforc hwn yn dathlu sawl stori am lwyddiant sy’n gysylltiedig ag Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi. Mae manylion am ragor o lawer o gynhyrchwyr i’w gweld ar y gymuned ryngweithiol sydd ar-lein yn www.fforchifforc.cymru. Ein gobaith yw y bydd cyd-gynhyrchwyr yn mwynhau dysgu o’u gwahanol brofiadau, a’r holl ddarllenwyr yn cael eu temtio i roi cynnig ar eu cynhyrchion gwych yn syth o’u tarddle.
Tîm ForchiFforc
* Cynlluniau CSE sy’n ymwneud â bwyd yn cynnwys: Cadwyni Cyflenwi Organig Cymru BOBL (Canolfan Organig Cymru);
Cywain Ychwanegu Gwerth Trwy Gydweithio (Menter a Busnes); Datblygu Cynnyrch Fferm (Menter Mynyddoedd Cambrian); Gwerthuso Gwyliau Bwyd (Llywodraeth Cymru; Gwasanaeth Cludo i’r Cartref (Cynnyrch Sir Benfro); Garddwriaeth Cymru (Prifysgol Glyndŵr); Cadwynau Cyflenwi Cynaliadwy Smart Move, (Ymgynghorwyr F3); Gwella ac Ychwanegu Gwerth (Cyngor Sir Ceredigion); Prosiect Gwella’r Gadwyn Gyflenwi Llaeth yng Nghymru (Coleg Sir Gar); Gwaith Bwyd Sir Fynwy (Aventa); Ychwanegu Gwerth at Fwyd Cymru (Coleg Menai); Prosiect Perai Seidr Cymru (Cymdeithas Perai Seidr Cymru); Sawl prosiect CSE arall yng nghyswllt cnydau, da byw a phren a datblygu marchnadoedd sy’n gysylltiedig â’r rhain. Mae’r barnau a safbwyntiau a fynegir yn y cyhoeddiad hwn yn perthyn i’r awdur(on) ac / neu unigolion a geir eu cyfweld, ac nid, o reidrwydd, i Fforch i Fforc. Mae unrhyw luniau yn y cyhoeddiad hwn yn enghreifftiol yn unig a nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu’r nwyddau gorffenedig neu eu prosesau cynhyrchu. Mae’r holl ddeunydd yn y cyhoeddiad hwn yn ddarostyngedig i reolau hawlfraint a hawliau eiddo deallusol perchnogol eraill. Golygydd Simon Wright; Is-olygydd Sam Argent; Awduron Jackie Bates, Charles Williams, Simon Wright, Manon Steffan Ros, Michael Smith, Dylan Iorwerth; Ffotograffau Warren Orchard, Iestyn Hughes, Elinor James; Ryseitiau Simon Wright ar gyfer Fforch i Fforc; Cydlynydd cynhyrchu Sheila Joseph; Cyfieithu Elin ap Hywel; Cynhyrchu FBA; Argraffu Westdale Press, Caerdydd. Argraffwyd y cynnyrch hwn gan ddefnyddio papur o ffynonellau cynaliadwy.
Digwyddiadau i Ddod Marchnad Ffermwyr Llandudoch Marchnad Ffermwyr Pwllheli Gŵyl Fwyd y Fenni
BLAS AR CHWEDLAU CROESO I FFORCH I FFORC. RY’M NI’N MYND AR DAITH. NID TAITH HIR YW HI, CHWAITH. RY’M NI’N MYND I FAN LLE MAE’R PELLTER RHWNG Y FFORCH SY’N PALU’R PRIDD A’R FFORC SYDD AR EICH PLÂT YN FYR. LLE MAE CIG YN CAEL EI WERTHU YN YR ARDAL LLE MAGWYD YR ANIFAIL. LLE MAE MODD PRYNU CRANC YN Y FARCHNAD FACH SYDD ERGYD CARREG O’R FAN LLE CAFODD EI DDAL, LLE MAE’R CAWS YN CAEL EI GREU AR Y FFERM A LLE MAE’R SEIDR YN CAEL EI GREU YN Y BERLLAN...
...OND BYDD Y DAITH YN MYND Â NI YN
BELL, COFIWCH. Ry’m ni’n mynd i fan lle mae blas caws o un man yn wahanol iawn i flas caws o fan arall, lle mae blas cwrw un bragwr yn gwbl wahanol i flas cwrw’r bragwr nesaf, a lle mae lled cae rhwng teimlad bara’r pobydd yma ar eich tafod a theimlad bara’r pobydd acw. Dyna hyfrydwch pen draw ein taith – mewn byd sy’n od o debyg ble bynnag yr ewch, lle mae cynhyrchu ar raddfa enfawr a chysondeb, tebygrwydd a goruchafiaeth y disgwyliedig dros yr annisgwyl yn teyrnasu – dyma i chi fwyd â phersonoliaeth. Mae’n anos dod o hyd iddo, efallai, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi chwilio amdano, ac o bosib bydd yn costio mwy na’r arfer. Ond bwyd sydd â stori yw hwn, lle mae tirlun, traddodiad, diwylliant, hinsawdd a’r bobl sy’n ei fagu, ei dyfu, a’i greu, oll yn rhan o stori arbennig iawn. Wrth fwyta’r bwyd, rydym hefyd yn blasu’r chwedl arbennig honno. Felly yn yr ysbryd hwn anfonwyd pum awdur i groniclo eu teithiau yn niwylliant bwyd cenedl. Maen nhw wedi gosod eu sat navs i chwilio am laeth, pobi, pysgod, cig a bragu, a phob un yn dychwelyd i ddweud hanes ei daith arbennig. Y nod cwbl ddigywilydd yw eich temtio gyda’r briwsion llenyddol blasus hyn. Oherwydd am bob hanes sy’n codi eich archwaeth yma, mae 'na wledd o rai eraill sy’n disgwyl i foddio’ch awch am fwyd. Ewch i www.fforchifforc.cymru a dechrau eich stori eich hun.
www.fforchifforc.cymru
|
3
YR AWDURON
4
O DAN Y DˆWˆ R A'I DONNAU
BYD Y BLAWD
GAD I NI ORWEDD MEWN PORFEYDD GWELLTOG
simon wright golygydd
jackie bates
charles williams
Baglodd Simon i yrfa yn y diwydiant bwyd dros 20 mlynedd yn ôl, yn dilyn cyfnod byr a di-nod fel cynllunydd tref. Mae wedi bod yn bartner mewn nifer o fwytai yng Nghymru sydd wedi ennill gwobrau, er ei bod yn deg dweud bod ei gyfraniad i'w llwyddiant yn aml yn cael ei orbwysleisio. Mae ei anrhydeddau yn y gorffennol yn cynnwys golygu'r AA Restaurant Guide, cyhoeddi ychydig o lyfrau a gwneud ambell i gyfres deledu ar gyfer BBC Wales a Channel 4. Ef hefyd oedd Ymgynghorwr Bwyty holl benodau Ramsay's Kitchen Nightmares a gynhyrchwyd yn y DU, a gallwch ei glywed yn aml o hyd ar BBC Radio Wales. Weithiau, fe welwch Simon yn Wright's Food Emporium yn Sir Gaerfyrddin lle mae'n gwneud ei orau i helpu.
Mae Jackie wedi treulio'r 20 mlynedd diwethaf a mwy yn ysgrifennu ac yn golygu amryw o ganllawiau bwyd a llety poblogaidd, ac mae wedi bod yn ddigon lwcus i fwyta llawer o fwyd neis. Dechreuodd ei diddordeb mewn bwyd a choginio yn ei harddegau er (neu efallai oherwydd) nad oedd gan ei rhieni unrhyw ddiddordeb. Roedd ei diddordeb mewn llyfrau ac ysgrifennu wedi'i gynnau yn llawer cynharach, ac arweiniodd radd mewn Saesneg at yrfa mewn cyhoeddi. Mae'n darllen llawer, yn hoffi cerddoriaeth dawns a roc pync, ac mae ganddi nifer o dyllau yn ei chorff am rywun canol oed. Dydi hi byth yn gwisgo trowsus, ac os welwch chi ddynes yn dringo dros glwyd pum-bar mewn welintons piws a sgert, o bosibl mai Jackie fydd hi. A pham byddai hi'n dringo dros glwyd pum-bar? Er mwyn archwilio maen hir neu gylch meini – pa reswm arall?
Mae Charles yn ysgrifennwr a darlledwr llawrydd. Mae wedi treulio 10 mlynedd fel newyddiadurwr llawn amser, a bellach mae'n gwneud cymysgedd od o waith ysgrifennu sy'n cynnwys golygu cylchgronau twristiaeth i Visit Wales, ysgrifennu comedi radio, a chyflwyno rhaglenni dogfen ar gyfer BBC Radio Wales. Mae ei ddiddordeb mewn bwyd yn mynd yn ôl i'w blentyndod ar fferm yn Sir Gaerfyrddin. "Roedd yn lle gwych i ddysgu sut i fwyta'n dda. Roedd yn golygu rhoi prydau mawr i ddynion llwglyd, oedd yn aml yn cynnwys darnau rhad o gig – brisged, bol ac ysgwydd – gyda llawer o lysiau o'r ardd. Mewn geiriau eraill, y math o fwyd y byddech chi'n talu ffortiwn amdano'r dyddiau yma." Ers hynny, mae wedi bwyta yn rhai o fwytai gorau'r byd – gan gynnwys y bwyty byd enwog El Bulli… ddwywaith – ond mae cyn hapused yn cael barbeciw ar draeth yng Nghymru, cyhyd â bod cwrw wrth law. Mae hefyd yn geidwad ar y rysáit gawl deuluol. ("Crimog cig eidion a gwddf cig oen. Dyna'r oll rwy'n ei ddweud.").
|
www.fforchifforc.cymru
Naws y Caws
CWRW CREFFTUS
SGWRSIO FFORCH i Fforc
manon steffan ros
michael smith
dylan iorwerth
Mae Manon wedi treulio 31 o'i 32 mlynedd ar y ddaear yn blasu pethau, gan symud ymlaen o flas cynnar am blastisin i fwyd go iawn. Dysgodd goginio ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf, pan sylweddolodd ei fod yn annheg rhoi ei syrpreis ffa a nwdls gwarthus i'r bychan. Erbyn hyn, mae'n gogydd cartref brwd (ac ar adegau'n hunanfoddhaol).
Mae Michael yn ysgrifennu mewn ffurfiau traddodiadol fel y nofel (Unreal City, Giro Playboy) a'r traethawd (Esquire, Guardian, ac ati), ond mae hefyd yn mwynhau archwilio posibiliadau defnyddio'r grefft o ysgrifennu mewn cyfryngau eraill – er enghraifft, mae wedi gwneud ffilmiautraethawd mawr eu clod gan y beirniad ar gyfer y BBC (Drivetime, Deep North, Culture Show ac ati), wedi cyfarwyddo nifer o ffilmiau byr (Lost in London, Drift Street ac ati), ac wedi gwneud fersiwn albwm o'i nofel ddiweddaraf gyda'r cerddor Andrew Weatherall. Gallwch weld rhywfaint o'i waith ar bymichaelsmith.tumblr.com.
Mae Dylan yn newyddiadurwr a chyflwynydd. Bu unwaith yn ohebydd seneddol ar gyfer BBC Cymru/S4C, ac erbyn hyn mae'n gyd-sylfaenydd a Rheolwr Olygydd cyfres Golwg o gylchgronau a gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.
Rhwng chwilio am ryseitiau Turkish Delight a chuddio llysiau ym mwyd ei phlant, mae Manon yn gweithio fel nofelydd, dramodydd a cholofnydd. Enillodd ei nofel gyda ryseitiau, Blasu, y categori ffuglen yng Nghystadleuaeth Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2013. Mae'r nofel newydd gael ei chyhoeddi yn Saesneg dan y teitl The Seasoning.
Mae wedi derbyn gwobr Newyddiadurwr y Flwyddyn BT ac wedi ennill y tair prif wobr lenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau – print, radio, teledu a digidol – ac yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae gan Dylan ddiddordeb mewn coginio – ac mewn bwyta hefyd.
Yn wreiddiol o Riwlas, gogledd Cymru, mae Manon nawr yn byw yn Nhywyn, Meirionydd, gyda'i dau fab a phopty sy'n cael gormod o waith.
www.fforchifforc.cymru
|
5
22 34
8 62 50 6
|
www.fforchifforc.cymru
Cynnwys
SGWRSIO FFORCH I FFORC Dylan Iorwerth a'r bobl sydd yn frwd dros werthu cynnyrch lleol yn syth i'r cyhoedd.
20 34 48 62 76
Y TEITHIAU
08 Byd y Blawd
Dyma Jackie Bates yn codi cyn y wawr i rannu bara gyda rhai o bobyddion mwyaf talentog Cymru.
RYSEITIAU FFORCH I FFORC
22 Gad i ni orwedd mewn porfeydd gwelltog
Charles Williams yn clywed hanesion annisgwyl ar fryn a dôl yng ngogledd Cymru, ac yn cwrdd â barwn y buail a swltan y selsig.
36 O dan y dwˆr a’i donnau
Dilynodd Simon Wright yr afon at y môr a darganfod bod arferion pysgotwyr bron iawn mor rhyfedd â’r pysgod maen nhw’n ceisio eu dal.
50 Naws y Caws
Mae Manon Steffan Ros yn teithio trwy borfeydd bras i gyfarfod â’r bobl sy’n troi llaeth yn gaws amheuthun.
64 C wrw Crefft
Aeth Michael Smith i ymchwilio i’r dadeni cwrw a seidr, a chael blas ar greadigaethau’r gwŷr sy’n bragu cwrw ac yn gwneud seidr.
64
Jim Cross o Siop Fferm Bellis ˆ Fwyd y Fenni Martin Orbach am Wyl Jane Hughes o Gwledd Conwy Feast Lucy Beddall o Farchnad Uplands Deryl Jones o Fferm Fêl a Gwin Snowdon Honey
Cynnyrch lleol gwych, ryseitiau syml, bwyd bendigedig.
18 32 46 60 74
Torth fêl ac Earl Grey Boulangère cig oen Eog neu sewin cyfan wedi'i botsio Tarten sawrus nionyn coch, pwmpen gnau a chaws glas Cawl garlleg gwyllt a seidr
ˆ BWYD CHWEDL A LLEn Gwledd o dameidiau blasus am fwyd a diod.
16 30 44 58 72
Nwyddau popty Cig Pysgod Cynnyrch llaeth Cwrw a Seidr
36 www.fforchifforc.cymru
|
7
“ Mae e fel myfyrio. Fe allwch chi feddwl am unrhyw beth neu ddim byd, gwagio’r meddwl neu gynllunio beth fydd eich creadigaeth nesaf.”
8
|
www.fforchifforc.cymru
BYD Y BLAWD Crefft gartrefol iawn yw pobi i rai ond mewn gwirionedd mae’n llawn o hud a lledrith, fel y gwelodd Jackie Bates pan gododd rhyw fore bach i weld blawd, dwr ˆ a halen yn troi’n rhyfeddod byw. Geiriau Jackie Bates Ffotograffau Iestyn Hughes
www.fforchifforc.cymru
|
9
“Mae 'na wahanol fathau o furum yn yr awyr o’n cwmpas, yno’n disgwyl, yn anweladwy... Os rhowch chi’r cymorth cywir iddyn nhw, eu denu atoch, fe fyddan nhw’n hapus iawn i wneud i'ch bara fod yn flasus tu hwnt.” yddwn i ddim yn disgrifio fy hun fel un sy’n codi’n fore. Mewn gair, rwy’n enwog am fod yn hoff o’m gwely. Felly wrth i mi rolio allan o’r lle cynnes hwnnw am bedwar y bore, rwy’n holi beth yn y byd ddaeth dros fy mhen wrth gytuno i ymchwilio i bobi yng Nghymru? Mae hi’n ddiwedd mis Ebrill, ond am chwarter i bump y bore mae hi fel y fagddu o hyd. Ffarweliaf â chysur Yr Hardwick a dechrau ar daith trwy’r gefnwlad dywyll, gan anelu am uned ddiwydiannol ar gyrion y Gelli Gandryll i sgwrsio ag Alex Gooch, Pobydd Crefft ynglŷn â – wel – bara. Mae’r wlad o amgylch y Fenni mor bert, yn arbennig yn y gwanwyn; blodau, dail yn agor, ŵyn bach – maen nhw i gyd i’w gweld, am (ac mae arna’ i ofn dweud) – bump y bore. Wrth yrru trwy’r pentrefi does dim un cerbyd arall ar y ffordd, dim ond cymoedd yn llawn o niwl, niwl sy’n gorwedd yn ddistaw ac yn dawel uwch ben llawr pob cwm. Wedi cyrraedd o’r diwedd. Arogl pobi? Oes, rhyw fymryn, ac yna dyma ni, mewn stafell gynnes. Cawn ein cyflwyno i Liam, cynorthwyydd Alex, ac Alex ei hun. Mae e’n olew olewydd ac yn does i gyd. Dydyn ni ddim yn ysgwyd llaw. Un sgwâr, gyda nenfwd uchel, yw’r uned ac mae’r poptai yn bentwr sgleiniog o focsys dur di-staen. Mae'na fyrddau arlwyo gydag wyneb metel, peiriant cymysgu enfawr, tybiau plastig mawr, mawr sy’n llawn toes. Mae Alex yn gweithio wrth fwrdd derw enfawr – mae digon o le i ugain swpera yno. Wrth i ni gyrraedd,
F 10
|
www.fforchifforc.cymru
mae ei hanner wedi’i orchuddio â phentwr llithrig o does. Dychmygu pobyddion yn gwisgo gwyn wnes i, ond mae Alex a Liam ill dau yn gwisgo crysau t du a throwsus cogydd tywyll gyda ffedogau glas tywyll. Mae Liam yma ers un y bore, Alex ers ‘dau o’r gloch-ish’. Mae e ar ganol symud tŷ, ac mae ganddo fabi pedwar mis oed. Mae’n rhaid ei fod e wedi ymlâdd ond does dim arwydd o hynny. Dyma ni’n edrych ar y pentwr o hambyrddau sy’n llawn crwst sinamon chwyrlïog a bara ffrwythau a wnaethon nhw’n barod y bore 'ma. Mae hi tua chwech o’r gloch, felly maen nhw'n gweithio ers pum awr yn barod. Maen nhw wedi gwneud llwythi o bethau. Soniwch wrtha’ i am fara, te. Bara – pam? Cogydd oedd Alex yn wreiddiol. Ond wrth weithio yn Penrhos Court gyda Daphne Lambert fe ddysgodd am eples a surdoes, a dyna hi wedyn. Beth sydd mor arbennig am surdoes? Mae’n gymhleth ac yn hud-a-lledrith. Hud a lledrith o fath gwyddonol, wrth gwrs. Mae 'na wahanol fathau o furum yn yr awyr o’n cwmpas, yno’n disgwyl, yn anweladwy. Os rhowch chi’r cymorth cywir iddyn nhw, eu denu atoch, fe fyddan nhw’n hapus iawn i wneud i'ch bara fod yn flasus tu hwnt. Mae Alex yn gwneud bara surdoes â chychwynnydd a gafodd ei eni, neu ei greu – a gipiwyd o’r awyr – ddeng mlynedd yn ôl. Os gwnewch chi ei fwydo a gofalu amdano, yn ei dro bydd yn gwneud i'ch bara fod yn fara arbennig. Mae’n fyw, wedi’r cyfan, ac yn cael ei effeithio gan bob math o bethau. Y tywydd. Y tymor. Y cynhwysion eraill. Dy hwyliau di? holaf. Ydy, rwy’n credu, medd Alex yn bendant.
Byd y Blawd
Rwy’n gwylio wrth iddo dafellu’r pentwr enfawr, crynedig, symudol o does yn ddarnau. Pedwar deg, pum deg, oll wedi eu torri a’u pwyso a’u rholio mewn blawd, eu siapio a’u gadael i godi eto. Mae’n beth ymlaciol i’w wylio, ac yn rhywbeth mae’n amlwg yn ei wneud wrth reddf. Dyw fy nghwestiynau busneslyd i ddim yn effeithio ar batrwm y ffordd mae’n trin y toes. Mae’r toes yn wlyb iawn, os ydych wedi arfer â gwneud bara cyffredin, ac yn hynod fyw. Yn wir, mae’n ffurfio swigod mawr araf o flaen fy llygaid. Mae Alex yn symud 'nôl a blaen, gan bigo’r swigod mwyaf â chornel y llafn does. Wedyn mae’n rhoi’r toes mewn powlenni i godi ac yn gwagio pentwr enfawr arall ar y bwrdd. Soniwch am y cynhwysion, 'te. Mae blawd yn ddiddorol. Mae’n defnyddio gwahanol flodiau, gwahanol rawn, ar gyfer gwahanol dorthau. Caiff peth ei dyfu mewn mannau eraill ond mae’n cael ei falu yng Nghymru, ac mae peth yn cael ei dyfu yng Nghymru. Mae e’n gwneud torth draddodiadol gyda blawd sy’n cael ei falu a’i dyfu yng Nghymru, Halen Môn, a gwymon o Fro Gŵyr. Rydym yn cytuno bod Cymru’n
fan anhygoel am gynnyrch – caws gwych, salad a pherlysiau bendigedig, mae’n anghredadwy bod gennym halen lleol. Mae’n hawdd gweld o ble y daw'r cig oen neu gig eidion lleol, wrth gwrs, ond dydyn ni ddim yn meddwl am flawd, o ble y daw hwnnw. Mae Alex yn chwilio o hyd am gynhyrchwyr newydd, yn llawn diddordeb mewn beth sy’n digwydd o ran cynnyrch lleol, cynnyrch organig. A pam y lle hwn? Buodd e’n byw ger y Gelli Gandryll yn blentyn. Daeth yn ei ôl am ei fod e’n lle da i fyw. Mae’n gwerthu ym marchnad cynnyrch lleol y Gelli, a Llanandras; ac mae’n gwerthu i fwytai – mae’r Hardwick yn eu plith. Fe fuom ni’n bwyta eich bara chi amser swper neithiwr, meddaf. Buom ni yno am bron i bedair awr, yn gwylio Alex a Liam yn bwydo’r ffyrnau gyda ciabatta, rholiau surdoes, pedair neu bump o wahanol dorthau surdoes, bara ffrwythau, torth drwchus o ryg a rhesins. Mae’n teimlo fel proses ddiwydiannol, ddiorffwys, ac eto mae’r cyfan wedi ei lunio â llaw, yn hynod drefnus, yn ddistaw. Am beth ry’ch chi’n meddwl, wrth i chi weithio? Mae Liam yn chwerthin,
Mae’'n gymhleth ac yn hudolus
www.fforchifforc.cymru
|
11
dyw e ddim yn meddwl am unrhyw beth. Bara, holaf? Mae Alex yn dweud “falle”. Mae e fel myfyrio, fe allwch chi feddwl am unrhyw beth neu ddim byd, gwagio’r meddwl neu gynllunio beth fydd eich creadigaeth nesaf. Y peth olaf iddo ei wneud yw’r focaccia surdoes enwog. Rwy’ wedi gwneud focaccia fy hun, a chael hwyl arni bob tro, ond haleliwia, mae’r stwff yma’n anhygoel. Yn llawnach o olew, ac yn llawer mwy – wel – bywiog. Mae’n ffurfio swigod enfawr, llawn nwy wrth i Alex ei dywallt ar hambyrddau metel mawr a gwthio blaen bys iddo, gan ychwanegu rhagor o olew a halen. Ar hyn o bryd mae e’n gwneud un gyda winwns, caws a rhyw gymysgedd gwyrdd llachar, tebyg i pesto, sy’n cynnwys berwr y gerddi – neu rocet, i chi a fi – heb sôn am flodfresych blaguro piws. Mae’n pingo o flas pethau gwyrdd. Mae’r focaccia plaen yn anhygoel – fe fydden i wedi llwyddo – fe wnes i lwyddo, i fwyta tafell ar dafell ohono heb broblem o fath yn y byd. Roedd e’n hallt, yn llawn olew, yn berffaith, yn anhygoel. Mae’r briwsion agored yn elfen annisgwyl. Mae’n hynod o flasus. Mae’n boblogaidd dros ben, medd Alex. Yn ôl ei
dad, sydd wedi dod i roi help llaw gyda’r stondin yn y farchnad, mae’r dorth yn gwerthu’n arbennig o dda, a pha syndod? Rwy’n cenfigennu’n ofnadwy wrth drigolion y Gelli Gandryll a Llanandras, sy’n cael prynu’r pethau da yma yn eu marchnadoedd lleol. Oes clem ganddynt pa mor lwcus ydyn nhw? Ar ôl stwffio’n hunain â bara, bant â ni i Fro Morgannwg i stwffio’n hunain â chacennau. Mae’r tywydd yn sblendigedig ac mae’r wlad yn ei harddwch. Mae’n deimlad rhyfedd i mi – wedi gwneud diwrnod o waith yn barod (os yw cloncian â phobl a bwyta yn waith). Allen i byth â bod yn bobydd, ond mae bara yn beth anhygoel. Ond rwy’n ddigon hoff o gacennau, hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â Mel Constantinou, brenhines Baked by Mel. Mae hi’n byw yn Llanilltud Fawr, sy’n llawn clychau’r gog, cennin Pedr hwyr a heulwen. Yn wahanol i uned ddiwydiannol fach Alex, mae Mel yn pobi yn ei chartref ei hun. O fewn eiliadau o gael ein croesawu i’w chegin, ry’m ni’n yfed te ac yn bwyta bara brith. Mae’r byd pobi fel pe bai’n llawn
Yn y bôoˆn, mae pobl yn agor y bocs ac yn bwyta’r bara brith,
12
|
www.fforchifforc.cymru
Byd y Blawd
o bobl hapus, gyfeillgar, a 'dyw Mel ddim yn eithriad. Dechreuodd hi bobi fel ffordd o weithio o gartre, pan oedd ei phlant yn ifainc a hithe’n rhiant sengl. Dechreuodd drwy wneud cacennau bach a’u gwerthu nhw yn y ganolfan arddio leol ac mewn marchnadoedd a ffeiriau bwyd. Pan symudodd i Lanilltud Fawr roedd yn rhaid iddi ailfeddwl am ei chynulleidfa. Tybed, meddyliodd, oedd yna farchnad ar gyfer anfon cacennau drwy’r post? Ond dyw cupcakes ddim yn addas iawn i’w postio, a dydyn nhw ddim yn ofnadwy o Gymreig. Ond bara brith? Wel, mae pawb yn hoffi hwnnw, a phrin y gallwch chi ei brynu e yn unrhyw ran arall o’r DU. Bu’n gwerthu yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, a derbyn gwobr gan Blas ar Gymru. Dangosodd Fortnum and Mason ddiddordeb hefyd, a chyn iddi droi rownd, roedd Baked By Mel Bara Brith ar werth yn Piccadilly. Weithiau bydd pobl yn synnu wrth ddeall nad Cymraes yw Mel – cafodd ei geni yn swydd Essex, ac roedd ei chyndadau yn tarddu o wlad Groeg a Chyprus, ymhlith mannau eraill. Ond mae ganddi fam-gu sy’n hanu o Abertawe, felly mae’n siŵr bod hynny’n cyfri. Buodd yn byw yn y Dwyrain Canol (‘ar draeth, heb ddŵr croyw na thrydan’) cyn mynd i ddysgu yn swydd Wiltshire a Gwlad yr Haf, a dod o’r diwedd i Gymru. Byddai ei mam-gu Gymreig yn gwneud ‘tea bread’ ers talwm, a dim ond pan ddechreuodd Mel ei bobi ei hun y sylweddolodd mai
dyma’r union deisen roedd hi’n ei bwyta yn blentyn. Yn ôl Mel, mae gan bawb ei rysáit ei hun am fara brith, a syniadau pendant am ei flas. Mae Mel yn cael boddhad mawr wrth osod allan ei samplau a chlywed pobl yn dweud ‘mae hwn gystal ag un mam-gu’. Roedd hi’n benderfynol o beidio â defnyddio unrhyw gadwolion. Mae bara brith yn cadw’n dda – mae ei bara brith hi yn cadw am un diwrnod ar bymtheg – sy’n hen ddigon o ran ei anfon drwy’r post. Mae hi’n gwenu wrth ddweud bod pobl yn agor y bocs ac yn ei fwyta e, yn y bôn. Fedra i ddim credu bod llawer o’i chynnyrch yn goroesi’r un diwrnod ar bymtheg. Sawl un fyddwch chi’n ei anfon mewn diwrnod? Rhwng pedwar a deg fel arfer. Mae hi’n cymysgu’r cynhwysion ar y diwrnod cyntaf, yn pobi’r bara brith drannoeth ac yn postio’r gacen ar y trydydd dydd. Mae'na swyddfa bost yn y pentref o hyd, felly mae’r broses yn rhwydd iawn. Ac ydych chi’n dwlu ar y gwaith? Ydi, wir. Fe fydde hi’n pobi cacennau beth bynnag, wedi’r cwbl, ac mae angen iddi fod gartre ar gyfer y bechgyn. Mae’n ddelfrydol. Aberteifi yw’n cyrchfan nesaf ni. Ry’m ni’n mynd i gwrdd â phobydd arall. Ganed Jack Smylie Wild yn Aberystwyth, ond cafodd ei fagu yn Nyfnaint. Mae’n bump ar hugain ac fe ddechreuodd
www.fforchifforc.cymru
|
13
mae dyfnder y blas yn ychwanegu arlliw o rywbeth cynnil o wahanol
bobi dair blynedd yn ôl, fel ymateb i’r ‘bara rwtsh’ roedd ei gariad yn ei brynu. Ar yr olwg gyntaf, byddech yn meddwl bod gradd mewn athroniaeth yn llwybr rhyfedd at bobi, ond pam lai? Oes 'na elfen o fyfyrio ynghlwm wrth y pobi, holaf? Mae’n ymateb yn frwd. Oes, yn bendant. Bore cynnar, distawrwydd, bara – mae’r rhain oll yn arwain at ystyriaeth fyfyrgar. Mae’n pobi rhwng pedwar deg a chwe deg torth y dydd ac yn eu gwerthu nhw yn Bara Menyn, ei siop fara/caffi, gam neu ddau i fyny’r bryn uwchlaw Castell Aberteifi. Agorodd y caffi ym mis Chwefror. Sut hwyl hyd yma? Gwych. Yn sicr, roedd y caffi yn brysur tra oeddem ni yno. Roeddwn i wedi gweld canmol eu pitta surdoes ar y rhyngrwyd, felly dyna ges i i ginio, gyda ffalaffels a chaws halloumi. Rwy’n dwlu ar bitta, ond chefais i erioed bitta surdoes o’r blaen. Fel focaccia Alex, mae dyfnder y blas yn ychwanegu arlliw o rywbeth cynnil o wahanol. Rwy’n cymryd tost hefyd, tafell o’r dorth surdoes arferol, ac mae’n ardderchog. Mae Jack yn llawn egni a brwdfrydedd, ac rwy’n sgwrsio gyda chwpwl o gwsmeriaid sydd wedi dotio at y bara. Bu’n cynorthwyo i gychwyn becws yr Organic Fresh Food Company yn Llanbedr Pont Steffan, ac roedd y cwpwl yma yn arfer prynu eu bara yno. Roeddem ni wrth ein boddau pan glywon ni fod modd prynu bara Jack fan hyn, medd y fenyw. Rwy’n holi Jack ynglŷn â chynnyrch bwyd. Mae ganddo ef ddiddordeb hefyd mewn cynhyrchwyr lleol – mae 'na gynllun ar y gweill am dorth gwbl Gymreig, ac mae hon hefyd yn cynnwys Halen Môn a blawd o Gymru. Caiff peth o’i flawd ei falu yn Y Felin, melin ddŵr yn Llandudoch, cwpwl o filltiroedd o Aberteifi. Mae e’n sôn am deimlo balchder oherwydd
14
|
www.fforchifforc.cymru
bod ganddo fusnes sy’n cyflogi pobl. Roedd wedi gobeithio creu tair swydd, ond mae ganddo chwech o bobl yn barod yn gweithio iddo. Un o Dolltai Aberteifi oedd Bara Menyn ers talwm. Mae Jack ei hun yn byw mewn fflat fechan uwchben y gegin. Felly mae modd iti godi yn y nos a gwneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn ei flaen yn iawn? Oes, mae’n beth da i fyw uwchben y caffi, mae’n teimlo’n nes fyth at ei waith. Beth ddysgais i felly, ar fy nhaith? Bod Cymru yn wlad brydferth sy’n llawn pobl angerddol. Maen nhw’n gwneud, yn tyfu ac yn cynhyrchu pob math o bethau gwych. Nid cynnyrch fel pysgod a chig oen yw pob dim; gall y caeau llawn gwenith neu had rêp hefyd chwarae eu rhan wrth gynhyrchu bwyd lleol. Bod pawb yn credu ei bod hi’n beth reit cŵl bod modd prynu halen o Gymru. Bod pobl sydd yn ddigon ffodus i ganfod eu galwedigaeth yn medru ysbrydoli eraill gyda’u brwdfrydedd dros eu gwaith; ac y gall y brwdfrydedd hwn arwain at fwyd bendigedig. Os oes yna rywle yn eich milltir sgwâr chi sy’n cynhyrchu bwyd blasus, anhygoel a gonest, dylech ei gefnogi ar bob cyfri’ os oes modd gwneud. Mae pobl sy’n dwlu ar eu gwaith wrth eu bodd yn rhannu’r brwdfrydedd hwnnw. Mae Alex yn cynnal cyrsiau, a gwnaiff Jack roi tamed o’i gychwynnydd surdoes i chi, ac egluro sut mae gofalu amdano, os ydych am wneud bara cartref. Gall Mel anfon bara brith – a beth allai fod yn well na chael cacen drwy’r post? Roedd pawb wnes i gwrdd â nhw yn ysbrydoliaeth bur – er nad oes angen llawer o anogaeth nac ysbrydoliaeth arnaf i lenwi fy mol â danteithion o’r popty.
www.fforchifforc.cymru
|
15
ˆ CHWEDL A LLEÊN BWYD VIVA LA TORTA GALESA Pan ymfudodd nifer o Gymry i'r Ariannin ym 1865 ar drywydd bywyd gwell, aeth eu bara brith (neu gacen, yn hytrach) gyda nhw. Os ewch i ymweld ag un o’r tai te Cymreig yn nhalaith Chubut ryw dro, fe welwch chi deisen sy’n debyg i fara brith ar y fwydlen. Ond bara brith ar steroids yw Cacen Ddu neu Torta Galesa - os bara brith o gwbl! Mae’n llawn ffrwythau, cnau, Cafodd teisen gri fwyaf sinsir a sinamon. y byd ei choginio yn y A’r eisin (fel petai) Bala ar Ddydd Gŵyl ar y gacen? Dogn Dewi 2014. Roedd go dda o rỳm du! hi’n mesur 1.5m o led, yn pwyso 21.7kg, a chafodd ei thorri yn ddau gant (a rhagor) o dafellau.
BYDD UN BACH YN HEN DDIGON, DIOLCH
16
|
www.fforchifforc.cymru
Gwynt teg yn yr hwyliau Mae tyfu ŷd, malu blawd a gwneud bara yn rhan anhepgor o fywyd yng Nghymru ers miloedd o flynyddoedd. Dim rhyfedd felly mai ‘Môn, Mam Cymru’ oedd enw’r ynys hon, gyda’i holl felinau gwynt. Fel yr awgryma’r enw, roedd pobl yn arfer sôn bod digon o ŷd yno i fwydo Cymru gyfan.
Os gwelwch chi’'n dda,ga’i grempog???? Mae crempogen Gymreig, neu ‘ffroes’, yn wahanol i’r crêpe Prydeinig/ Ffrengig. Mae’n debycach i bancosen Americanaidd, ac yn fwy na phancosen yr Alban. Gallwch ychwanegu burum wrth wneud pancos (ond does dim rhaid); defnyddio llaeth enwyn os dymunwch; defnyddio ceirch neu ychwanegu resinau neu gyrens yn frith. Gwnewch bentwr o grempogau, taenwch fenyn yn drwch arnynt, ac yna tafellu'r cyfan fel darn o gacen – dyna amser te blasus!
Cragen o fewn cragen Er gwaethaf ei henw, mae teisen Berffro yn fwy o fisgïen nag yw o deisen. Cafodd y bisgedi hyn eu henwi ar ôl y pentref lle cawsant eu pobi gyntaf. Yn draddodiadol caiff siâp y deisen ei Ers talwm, byddai teisennau fowldio trwy wasgu’r cri yn cael eu coginio dros gymysgedd i gragen faen poeth. Yn ddiweddarach cragen fylchog cyn dechreuwyd defnyddio ei phobi; caiff y gradell haearn: bellach gragen ei diosg cyn dyma’r ffordd arferol i’w i’r teisenni fynd i’r coginio. Serch hynny mae ffwrn, gan adael sawl cogydd yn defnyddio ôl siâp y gragen ei maen o hyd. Mae'na nifer hun. Roedd hon o enwau ar y teisennau yn arwydd llawn bach yma, gan gynnwys ystyron cudd gan ‘Cage Bach’, ‘Pice ar y pererinion a y Maen’, a ‘Teisen arferai deithio Lechfaen’. Yn i Aberffro ers Saesneg fe’u gelwir talwm. yn ‘Griddle Cakes’, ‘Welsh Tea Cakes’ a ‘Welsh Miner Cakes’.
Dod â’Aˆ ' r maen i’' r...… bwrdd te
www.fforchifforc.cymru
|
17
ˆ
Torth FêEl ac Earl Grey
ym
ru
Dyma dorth ffrwythau sy'n berffaith ar gyfer amser te (neu unrhyw amser) heb fod yn annhebyg i Fara Brith.
18
|
c
.c
ww
w. f f o r c h i f f
www.fforchifforc.cymru
or
450g ffrwythau sych 200g siwgr brown 50g mêl 2 fag te Earl Grey wedi'u mwydo mewn 300ml o ddŵr berwedig 450g blawd codi 1 llwy de nytmeg wedi'i falu 1 llwy de sinamon wedi'i falu
1 Rhowch y ffrwythau, y mêl a'r siwgr i fwydo yn y te dros nos.
2 Tynnwch y bagiau te allan a'u taflu, ac ychwanegwch y cynhwysion sych at y gymysgedd ffrwythau a'u cymysgu.
3 Nawr, ychwanegwch wy buarth wedi'i
guro, ei gymysgu eto a'i arllwys i dun torth 900g. Pobwch ar 170ºC am 1 awr a hanner.
4 Gallwch weini'r dorth gyda menyn.
ru
ym
c
.c
ww
w. f f o r c h
r iffo
HAFAN
Ryseitiau
Digwyddiadau
Cymuned
Cymuned am ddim Fforch i Fforc ar-lein! Mae cymuned ar-lein Fforch i Fforc yn fforwm gwych ar gyfer cynhyrchwyr a phrynwyr bwyd a diod sydd 창 diddordeb mewn cysylltu'n uniongyrchol 창'i gilydd. Mae'n fan cyfarfod rhithiol ac yn lle unigryw i rannu syniadau a gwybodaeth. Mae hefyd yn cynnig enghreifftiau ysbrydoledig o werthiannau uniongyrchol arfer da. Ewch i weld beth sy'n digwydd a chyfrannu eich straeon, ryseitiau a rhestri o ddigwyddiadau lleol. Gwnewch hyn i gyd er mwyn helpu i hyrwyddo manteision prynu bwyd lleol a ffres yn uniongyrchol!
Amdanom Ni
Masnach
Ychwanegwch ryseitiau, newyddion neu ddigwyddiadau
Ryseitiau
Teledu Fforch i Fforc
Digwyddiadau i Ddod Marchnad Ffermwyr Llandudoch
www.fforchifforc.cymru www.fforchifforc.cymru
|
19
Sgwrsio Fforch i Fforc
Siop Fferm Bellis
O blaid bwyd
Mae fferm Bellis yn Holt, ger Wrecsam, yn gartref i deulu’r Bellis ers dros ganrif. Bellach mae ganddyn nhw Siop Fferm lewyrchus, Canolfan Arddio a busnes Hel Ffrwythau hefyd. Rheolwr y fferm, Jim Cross, sy’n tyfu’r llysiau a’r ffrwythau – ac mae wrth ei fodd gyda’i waith.
Hedyn syniad... Pan ymunais i ym 1984 roedd gan y teulu siop fferm fechan tua maint dwy garej ddwbl. Bellach rydym ni’n siop fferm a chanolfan arddio gyda fferm yn rhan ohoni.
...menter fawr... Mae rhyw 60-70 o bobl yn gweithio yma, yn amser llawn ac yn rhan amser. Mae lle i tua 180 o bobl yn y bwyty ac mae’r siop tua’r un maint â hynny eto. Rydym ni bellach yn Siop Fferm a Chanolfan Arddio sy’n atyniad ynddo’i hun.
Gwerthu ein cynnyrch... Rydym ni’n tyfu tatws, nionod, moron, pob math o gnydau bresych, ysgewyll ac yn y blaen. Rydym ni hefyd yn gwerthu ffrwythau tyner – mefus, mafon, mafon Logan, eirin Mair a chyrens duon. Mae rhai o’r ffrwythau ar werth yn y siop, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mynd i’n safle Hel Ffrwythau sydd ar agor drwy gydol yr haf.
20
|
www.fforchifforc.cymru
“Fe fyddwn i’n hoffi gweld mwy o bobl yn gwneud y cysylltiad. Mae llawer gormod o bobl yn ddi-feind, does ganddyn nhw ddim bwys o ble mae eu bwyd yn dod...”
“Mae’r cwsmeriaid yn prynu cynnyrch sydd mor ffres ag y gallai fod.”
Mynd ati i greu drysfa o india-corn... Roeddwn i braidd yn amheus ar y dechrau, doeddwn i erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg. Mae llawer o’r drysfeydd mwy o faint yn defnyddio GPS a lloeren. Ond rydw i’n mynd i ddefnyddio peiriant torri gwair a chwpwl o gans bambŵ.
Mae bwyd ffres yn wych... Mae’r cwsmeriaid yn prynu cynnyrch sydd mor ffres ag y gallai fod. Mae’r merllys, neu asparagus, rydym ni’n eu hel ar hyn o bryd... y merllys ddaru ni bigo y bore 'ma am wyth o’r gloch, yn y siop erbyn naw o’r gloch. Fedrwch chi ddim cael ei well o ran bod yn ffres, mewn gwirionedd. Rydym yn gwarantu bod y cynnyrch yn ffres.
Dwlu ar y gwaith... Ar ddiwrnod braf ar y caeau hel ffrwythau dach chi’n gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r profiad o fod allan yno’n hel ffrwythau. Bryd hynny dwi’n meddwl, ‘mae’n wych o beth 'mod i wedi gallu eu helpu nhw i wneud hynny’. Cawsom ni gnwd haf diwethaf, cnwd o’r math cyntaf (o fefus pen bwrdd) ddaru ni ddechrau ei hel ym mis Mehefin y llynedd, ac roedd gweld y
ffrwyth yn hongian dros bennau’r byrddau yn olygfa mor hardd... ac aeron mawr... a’r gwahanol flasau hefyd. Dach chi jyst yn meddwl, ‘Mae hynny’n wych’.
O'r fforch i'r fforc... Fe fyddwn i’n hoffi gweld mwy o bobl yn gwneud y cysylltiad hwnnw. Mae llawer gormod o bobl yn ddi-feind, does ganddyn nhw ddim bwys o ble mae eu bwyd yn dod – ella y dylien nhw gymryd diddordeb. Byddai’n fwy iach o lawer iddyn nhw. Yn fy marn i dylai pawb fwyta mwy o ffrwythau a llysiau ffres ac mi fyddwn i’n falch dros ben i’w helpu i wneud hynny!
Mor braf yw bwyta eich cynnyrch eich hun... Yn bendant... y daten gyntaf o’r cae pan mae’r crwyn yn dal i fod yn denau... cerdded hyd rhes o fafon ar brynhawn heulog, hel ambell un a’i bwyta. Does dim gwell na hynny. Mae’n tynnu’r dwˆ r i’m dannedd o feddwl am y peth!.. y pleser syml o weld aeron cynta’r tymor – dwi’n edrych ymlaen yn arw. Mae yna gannoedd o siopau fferm ar hyd a lled Cymru. I ddod o hyd i un yn eich ardal chi ewch i www.fforchifforc.cymru
www.fforchifforc.cymru
|
21
22
|
www.fforchifforc.cymru
GAD I NI ORWEDD MEWN PORFEYDD GWELLTOG Ew, lle da di’r gogledd 'cw. Ar ei hynt o amgylch rhai o siopau fferm gorau gogledd Cymru daw Charles Williams ar draws barwn y buail, swltan y selsig, a llond gwlad o anifeiliaid sydd mewn cae gwahanol i’r lleill. Geiriau Charles Williams Ffotograffau Elinor James
www.fforchifforc.cymru
|
23
24
|
www.fforchifforc.cymru
“M
Gad i ni orwedd mewn porfeydd gwelltog
Mae’n ddiddordeb angerddol gennyf I Gallaf roi ein cynnyrch allan ar y farchnad yn llawn hyder ein bod ni’n cynhyrchu’r gorau
ae gogledd Cymru’n gwenu dan heulwen braf y gwanwyn. Mae’r eithin yn ei flodau disglair ar y bryniau. Mae’r ŵyn a’r gwartheg yn pori yn ddyfal, fel pe bai dim fory i’w gael. Dyma ni, yn croesi afon Dyfrdwy wrth i… iechydwriaeth, ai gyrr o fuail yw’r rhain? Ie'n wir. Mae’n olygfa frawychus o anarferol, fel pe taen ni 'di troi i’r chwith yn lle i'r dde yn Llangollen a chyrraedd, o – wn i ddim, Wyoming. Ond mewn gwirionedd ry’m ni yn sir Ddinbych o hyd. A bod yn fanwl, ry’m ni ar Ystâd y Rug ger Corwen, cartref yr hybarch Farwn Niwbwrch sydd yn ffermio yn y dull organig ac yn darparu cig oen Cymreig i gogyddion gorau’r byd. “Mi welais i yrr o fuail un tro, a meddwl waw, am sbort!” medd y Barwn. “Ddaru mi roi rhai i bori mewn cae ger y briffordd, yn y gobaith y bydden nhw’n arafu’r traffig ac yn annog pawb i ddod i ymweld â siop y fferm. Roedd y peth mor llwyddiannus nes iddo ddod yn fan peryg am ddamweiniau.” Mae wythfed Barwn Niwbwrch yn hanu o gyff hir o anturwyr, gwleidyddion, swagrwyr ac arwyr rhyfel. Mae’n ddyn gwydn a dydi o ddim yn gwastraffu geiriau. Er ei fod yn ei chwe degau cewch yr argraff y byddai’n gwybod yn iawn sut i drin cleddyf pe bai angen. Heddiw mae’n gwisgo hoff ddillad byddigions y byd, sef hen grys glas sy’n prysur ymddatod ac yn rhy ddi-raen i’r ystafell drafod, a chnu sy’n costio £8.99. “Cefais fy ngeni a’m magu i fod yn ffermwr, ond doedd dim diddordeb o gwbl gen i mewn ffermio, felly i ffwrdd â fi i wneud pob math o bethau eraill – er braw a dychryn i ’nhad” medd. Roedd y ‘pethau eraill’ yn cynnwys diogelu pysgodfeydd yn Sierra Leone, rhedeg cwmni siarter awyr, a datblygu ei gwmni electroneg ei hun. Pan gymerodd awenau’r fferm deuluol, daeth â sgiliau busnes craff gydag ef, yn ogystal ag ymdeimlad o’r byd mawr y tu hwnt i Gymru, a diddordeb angerddol mewn bwyd organig. “Roedd 'na gymaint o helynt yn y naw degau ynglŷn â diogelwch bwyd. Pan gymrish i’r fferm yn 1998 fe benderfynais i droi at fwyd organig,” medd ef. “Mae’n fwy o her o lawer na ffermio yn y dull confensiynol – does dim atebion rhwydd. Mae’n fwy diddorol o lawer.” Ers talwm, byddai holl gynnyrch y Rug, bron iawn, yn mynd i Waitrose. Erbyn heddiw mae’r Rug yn gwerthu 65% o’u cynnyrch yn syth i’r cwsmer. Roedd ganddo naw o weithwyr pan gychwynnodd; nawr mae’n cyflogi 105 o bobl. “Mae’r fferm o leiaf deirgwaith neu bedair gwaith yn fwy cynhyrchiol nag y bu hi erioed. Mae’n rhaid i chi gredu pan y’ch
chi’n ffermio’n organig. Mae’n ddiddordeb ysol gennyf i. Gallaf roi ein cynnyrch allan ar y farchnad yn llawn hyder ein bod ni’n cynhyrchu’r gorau” medd ef. Yn unol â hyn, mae ei gig oen a’i gig eidion organig yn cael eu gweini wrth rai o fyrddau gorau’r byd, gan gynnwys Le Manoir aux Quat’Saisons, gwesty’r Mandarin Oriental yn Hong Kong, y Burj al Arab yn Dubai, a gwestai’r Ritz, y Connaught, y Dorchester a’r Berkeley yn Llundain. Ond ar yr un pryd, mae Barwn Niwbwrch lawn cyn falched ei fod e’n cyflenwi cig eidion a chyw iâr i ysgolion ym mwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain. I ffwrdd â ni – i yrru o amgylch yr ystâd fel bod Elinor, y ffotograffydd, yn cael cyfle i dynnu ei lluniau. Mae’r Barwn yn eistedd yn y cefn yn gwrtais, ac yn neidio allan i agor y clwydi. O weld y gyrr o saith deg o fuail o fewn ergyd carreg i ni, mae naws fwy chwedlonol fyth iddynt – rhywbeth tebyg i daro ar Beyoncé yn siopa yn Asda. Mae Barwn Niwbwrch yn ein rhybuddio ni i gadw llygaid barcud ar Farwn Niwbwrch byd y buail, clamp o darw mawr blewog sy’n edrych fel pe bai’n cynnwys pedair ar bymtheg o dunelli o gyhyrau, esgyrn, cyrn, lledr a chenfigen. “Watsh owt os bydd o’n codi ei gynffon. Ar fin ymosod y bydd o,” medd Barwn N, gan estyn ei law yn ddihidans i roi mwythau i’r tarw. Ym marn Elinor a finnau, mae cynffon y tarw yn reit uchel i fyny’r mast fel mae hi. Afraid dweud mai rhuthro yn ôl at y car yn reit gyflym yw’n hanes ni ein tri. Ymlaen â ni. Mae ŵyn organig mwyaf dymunol y byd yn prancio’n ddel o flaen Plasty’r Rug, cartref hynafol y Barwn. Lliw mêl cynnes sydd i’r tŷ ar ochr draw'r llyn, ac yn y cae drws nesaf mae gwartheg Aberdeen Angus ifainc yn mwynhau porfa’r gwanwyn. Mae Barwn Niwbwrch yn sôn yn frwdfrydig am bleserau arallgyfeirio at ffermio organig, sut mae pob math o feillion a phlanhigion y perthi wedi dod i’r amlwg ers i deyrnasiad y plaleiddiaid a’r gwrtaith cemegol ddod i ben. Mae’n sôn hefyd am y ffordd y mae arferion pori'r anifeiliaid wedi newid: bellach maen nhw’n chwilio am y llysiau gwyllt sy’n cynnwys y mwynau a’r maetholion sydd eu hangen yn naturiol ar eu cyrff. Draw â ni wedyn at siop a bwyty’r Rug, i brofi’r cig anhygoel yma. Tipyn o wefr yw gallu prynu cig sy’n cael ei weini gan gogyddion pennaf y byd, mewn siop wrth ochr y ffordd yng Nghymru – er bod y siop honno'n edrych yn debycach i neuadd fwyd rhyw
www.fforchifforc.cymru
|
25
siop adrannol swel. (Y byrgyr mwyaf poblogaidd yw’r byrgyr bual, sy’n gwerthu’n gyflymach nag y gallan nhw ei gynhyrchu. O dro i dro bydd ymwelwyr sydd wedi teithio'r holl ffordd o Birmingham i flasu un o’r rhain yn dweud y drefn wrth Farwn Niwbwrch.) Tip i chi felly: er bod y byrgyr bual yn wych, mae’r byrgyr cig oen yn fwy blasus byth. Ffarweliwn â’r Rug ac i ffwrdd â ni i’r gogledd, tua’r bryniau. Rydym yn dilyn yr heolydd cefn trwy blygion cefnwlad sir Ddinbych a Chonwy, ar heolydd sy’n edrych yn fwy ar y map nag ydyn nhw go iawn. Does dim iws hastu yn rhywle fel hyn. Yn y bryniau acw mae 'na ddyn o’r enw Eifion Howatson yn gwneud ei chorizo a’i salami ei hun, o gig y moch y mae’n eu magu ar ei dyddyn. (Roeddem wedi meddwl picio draw ond mae Eifion yn cadw cwmni i’r wyrion heddiw, sy’n bwysicach o lawer, wrth reswm.) Ymhen hir a hwyr dyma ni’n ymuno â chwm sy’n rhedeg lawr tua Chonwy, lle mae yna glamp o gastell anferthol, a chlamp o atyniad lleol enwog arall, sef Edwards o Gonwy, a enillodd goron Butcher’s Shop of the Year trwy Brydain gyfan. Yn y stafelloedd cefn, sydd fel drysfa, mae dynion yn hollti’r celanedd. Oni bai bod y siop fel pin mewn papur a phawb mor siriol, byddai’n lle brawychus iawn. Y dyn mwyaf siriol oll yw Ieuan Edwards, mab i ffermwr o Ddyffryn Conwy. Yn ugain oed, agorodd Ieuan ei siop gigydd ei hun. Mae ei selsig ardderchog bellach i’w gweld ar silffoedd archfarchnadoedd ledled Gymru. Maen nhw hefyd yn ymledu draw at Loegr, ar frys i ddatblygu o fod yn frand rhanbarthol i fod yn arch-selsig ar raddfa Brydeinig. Maen nhw hefyd yn hynod o ffasiynol yn Kuala Lumpur, am ryw reswm. Er gwaetha’r holl gyllyll sy’n gorwedd ar hyd y lle, holaf Ieuan a yw safon ei selsig wedi gostwng ar eu taith o selsig lleol i selsig sy’n goresgyn y byd. Mae e’n chwerthin (diolch byth). “Mae’n rhaid cadw at werthoedd penodol,” medd Ieuan. “Pan ddaru ni gychwyn, rhyw dri deg mlynedd yn ôl, dim ond porc o ysgwydd y mochyn oedd yn ein selsig a dim byd arall, a dyna sut mae hi hyd heddiw. Dydi gwneud chwaneg ddim yn golygu ein bod ni’n gwneud selsig salach. Yn fy marn i, maen nhw’n well nag erioed oherwydd ein bod ni’n dallt y broses gwneud selsig yn fwy manwl nag oeddan ni gynt.” Cwestiwn hy arall: mae gennych chi ddigon (o selsig) ar eich plât yn barod. Pam 'dach chi’n trafferthu i gadw siop? “Am fy mod i’n gigydd, ynte?” yw ateb Ieuan. “Yn anffodus mae’n rhaid i mi wisgo hwn” (gan ddangos ei dei) “yn lle fy ffedog gan fwyaf. Ond mi fydda i wrth fy modd o hyd pan fydda i’n taro draw fan hyn.” Mae Ieuan wedi sbriwsio’r siop yn ddiweddar, a hynny mewn ffordd sydd ddim yn brin o ddangos bod cig yn dod o… wel, anifeiliaid marw. Mae yna lawer o elfennau dylunio chwaethus ar hyd y lle, ond y tu ôl i’r cownter mae 'na gabinet sy’n dangos ysbodiau cyfain o gig oen a chwlffiau mawr o gig eidion. Cau, nid ehangu'r bwlch rhwng yr anifail a’r cwsmer mae Ieuan. Mae’n gwahodd pobl i halltu eu ham Nadolig at eu dant. Mae’n cynnal nosweithiau bwyd a gwin. Wrth i ni sgwrsio yn y siop, mae cwsmeriaid a siopwyr sy’n cerdded heibio yn torri ar draws yn gyson, gan dynnu coes yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae pawb yn nabod Ieuan, ac mae o yn nabod pawb. Ieuan, cigydd dre – sydd yn digwydd llywio ymherodraeth selsig ryngwladol, ond sy’n dal i ddarparu cig o’r safon uchaf i’r bobl leol. Bwyd Cymreig Bodnant, Bodnant Welsh Food, yw’n cyrchfan olaf ni heddiw. Mae’r cefndir yn fendigedig, yng nghesail gerddi enwog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yng nghanol clwstwr twt o adeiladau fferm o’r 18fed ganrif. Cawsant eu troi, mewn modd chwaethus iawn, yn lle gwely a brecwast, ysgol goginio, bwyty, parlwr te, selar win a siop fferm
26
|
www.fforchifforc.cymru
Gad i ni orwedd mewn porfeydd gwelltog
“
Cau, nid ehangu'r bwlch rhwng yr anifail a’r cwsmer mae Ieuan. Mae’n gwahodd pobl i halltu eu ham Nadolig at eu dant.
www.fforchifforc.cymru
|
27
o safon ardderchog. Aeth Elinor a finnau ati’n syth bin i gynnal astudiaeth ddwys o seidr Cymreig; i wylio’r haul yn machlud dros afon Conwy, ac i ddadlau pwy oedd piau’r ystafell fwyaf. Fi gollodd, a nawr mae’n amser noswylio. Diwrnod perffaith eto. Traflyncwn frecwast Cymreig llawn yn ystafelloedd te Bodnant, ac yna i ffwrdd â ni ar ein hynt i Ynys Môn, ynys a fu, ar un adeg, yn porthi Cymru gyfan gyda’i gwenith, yn gadarnle olaf i’r derwyddon, ac yr hyn roedd y papurau tabloid yn arfer ei ddisgrifio fel “WILLS & KATE’S SECRET LOVE NEST”. Ers y 1960au, bu’n gartref hefyd i Michael a Rosalind Hooton, a symudodd yma i dyfu tatws a grawn ar fferm ar lannau’r Fenai. Dechrau trwy werthu merllys (neu asparagus) o’u drws cefn wnaethon nhw; wedyn fe ddaeth y meibion, Andrew a James, adref i ffermio. Maen nhw bellach yn rhedeg dwy siop sy’n gwerthu llond y lle o gigoedd, fel cig eidion Gwartheg Duon Cymreig, cig oen Llŷn, moch a thwrcwn. Dyma ni yn Siop Fferm Hooton’s Homegrown wreiddiol ym Mrynsiencyn, ac mae drws ffrynt y siop yn ffrâm berffaith i gopa pigog yr Wyddfa, rhyw ddeuddeg milltir o’r fan hyn. Da’n ni’n hoffi James o’r dechrau’n deg, yn rhannol oherwydd ei fod yn un 'dach chi’n tynnu ato’n syth, ond yn bennaf oherwydd ei fod yn cyrraedd ar dractor mawr coch, fel ffarmwr go iawn (a dyna beth ydi o, wrth gwrs). “Dan ni jyst yn… go iawn,” medd James, gan rwgnach ambell i beth ffrom am rai ‘siopau fferm’ sydd ddim yn rhai ‘go iawn’ o gwbl. Mae shop Hooton’s yn bendant yn y categori cyntaf: mae’r holl gynnyrch sydd ar y silffoedd yn cael ei dyfu neu ei godi ar y fferm (‘gweithio fesul metrau bwyd, nid milltiroedd’ yw eu harwyddair). Daw eu holl gyffeithiau, peis, cacennau a phrydau parod o’u cegin eu hunain. “Mae pob dim a wnawn ni yma, pob dim da’n ni’n ei dyfu neu’n ei godi neu’n ei goginio, yn cael ei werthu yn ein siopau ni, a 'run siop arall,” meddai James. Mae ganddyn nhw ddilynwyr lleol teyrngar, ac mae’r mewnlif o ymwelwyr yn ychwanegu at hynny, yn ôl eu tymor. Fe fyddan nhw’n tanio’r barbeciw yn yr haf, fel y gall yr ymwelwyr lowcio golwythion a byrgyrs wrth ymhyfrydu yn y golygfeydd anhygoel. Yn y cefndir, mae tri chigydd yn brysur yn torri cig oen, porc a chig eidion cartref. Mae James yn eu hysio nhw i’r heulwen i gael tynnu eu llun, gan bwyso ar olwyn ei dractor Massey Ferguson. “Ydi hwn yn ddigon ffermwr-cefn-gwlad i chi?” hola’n gellweirus. “Fedra i gnoi gwelltyn a dweud ‘ooh-arr’, os hoffech chi.” Does dim galw am hynny. Mae’r cig a brynwn ni i’w goginio yn nes ymlaen yn hynod o flasus. I ffwrdd ag e James unwaith eto ar ei dractor, i blannu pys a chael cip ar y garlleg a gwneud beth bynnag mae ffermwyr yn ei wneud. Os byddwch hi yn Sir Fôn rywbryd, cofiwch daro draw. Yng ngeiriau James, it’s real. Dyma ni’n gyrru 'nôl dros y Fenai ac i lawr â ni i benrhyn Llŷn. Mae’n rhyfeddol o fynyddig, gyda phigau folcanig, garw yn codi o wely’r môr. Mae’r ffordd yn troi’n sydyn tua’r mewndir ychydig cyn i’r Eifl ddod i’r golwg, ac yna’n disgyn hyd Barc Glasfryn, ein cyrchfan olaf. Mae Glasfryn wedi arallgyfeirio ymhell y tu hwnt i’r siop fferm arferol. Bellach mae’n gymaint o atyniad ymwelwyr ag ydi o fferm, gyda gwibgertio a thonfyrddio ymhlith yr atyniadau.
28
|
www.fforchifforc.cymru
Graze Anatomy
Mae anifeiliaid ar eu gorau pan gânt rwydd hynt i wneud beth sy’n naturiol iddynt
Mae’r cig wedi ennill llond gwlad o wobrau'r Gwir Flas ac maen nhw’n cyflenwi i lawer o dafarndai a gwestai lleol (gan gynnwys, rwy’n falch o weld, Plas Bodegroes, un o fy hoff fwytai yng Nghymru). Maen nhw hefyd yn gwerthu cig i’r cyhoedd ar y fferm ac yng Nghaffi’r Puffin ym Mhenmaenmawr. Mae Gwynfor, rheolwr y fferm, yn mynd â ni am dro o amgylch ei deyrnas. Mae’n wych o is-dec, yn gasgliad o adeiladau fferm digon urddasol, er bod y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o oes Fictoria. Mae’r Gwartheg Duon Cymreig ar fin cael eu troi i’r borfa, ac mae golwg hynod o iach arnynt. Yr ochr draw i wal gerrig mae ŵyn (fel y byddant) yn prancio a strancio ar y ddôl. Cawn gyfarfod â’r moch – mae eu cartref nhwythau mewn cae llawn prysgoed sy’n ddi-iws i wartheg a defaid, ond sy'n baradwys i’r moch eu hunain. Mae Gwynfor yn eu galw ato, a throt drot dônt draw i gwrdd â ni. Mae stribyn o fwd ar bob un – canlyniad yr ymdrybaeddu yn y gors islaw’r cae. Rydan ni’n teimlo trueni yn sydyn dros foch sy’n gynnyrch ffermio gorddwys, ac sy’n teimlo dim ond concrid o dan eu traed. Rydym hefyd yn cofio mantra Barwn Niwbwrch: bod anifeiliaid ar eu gorau pan gânt rwydd hynt i wneud beth sy’n naturiol iddynt. Mae’r moch yma mor hapus â moch mewn… wel, chi wyddoch beth. Mae’r un peth yn wir am bob anifail a welsom ni ar ein taith, gan gynnwys y bobl. Mae codi anifeiliaid yn y ffordd iawn, yng ngogledd Cymru pan fo’n heulog braf, a gwneud cigoedd sy’n cael eu canmol gan gogyddion gorau’r byd yn bownd o roi gwên ar eich wyneb, yn tydi?
“
Mae pob dim a wnawn ni yma, pob dim da’n ni’n ei dyfu neu’n ei godi neu’n ei goginio, yn cael ei werthu yn ein siopau ni, a 'run siop arall… www.fforchifforc.cymru
|
29
Arwydd yr Eidon Du
Ers talwm byddai’r porthmyn yn gyrru Gwartheg Duon Cymreig am bellteroedd maith i’w gwerthu ym marchnadoedd Lloegr. Taith hir a pheryglus oedd hon; byddai lladron pen ffordd yn ymosod yn aml ar y llwybrau cyfarwydd hyn. Roedd angen i’r porthmyn gludo llawer o arian. Yn ymateb i hyn sefydlwyd banciau arbennig ar hyd y daith, gan gynnwys Banc yr Eidon Du yn Llanymddyfri. Dyma un o fannau cwrdd porthmyn Sir Gaerfyrddin. Yn ddiweddarach cafodd y banc ei brynu gan fanc Lloyds.
GWLÂN AR gerdded
Cael eu magu am eu gwlân roedd defaid yn wreiddiol, ac yn yr Oesoedd Canol mynaich yr abatai fyddai’n bugeilio’r praidd. Y mynaich sefydlodd y diwydiant nyddu a gwehyddu yng Nghymru hefyd, ac am ganrifoedd bu brethyn gwlân yn un o'r prif allforion oddi yma. Bryd hynny byddai pobl yn bwyta cig dafad, sef cig ŵyn a oedd wedi treulio blwyddyn o leiaf ar y mynydd. Daeth cig dafad yn fwy poblogaidd heddiw oherwydd y blas arbennig sydd arno.
TIPYN O GAWL
Ai cawl yw saig genedlaethol Cymru? Yn hanesyddol roedd yn cael ei wneud o facwn neu gig eidion wedi’i halltu (o gig oen erbyn hyn) ac erfin, moron a thatws. Yng ngogledd Cymru lobsgóws yw’r enw arno. Mae cawl cennin yn defnyddio isgell cig a chennin ac mae’n cael ei weini gyda bara a chaws.
CHWEDL A LLÊN BWYD 30
|
www.fforchifforc.cymru
Mynd Tad-cu’r gyda’r llif Twrch Trwyth
Y baedd gwyllt oedd hen-hen-hen daid (hyd y nawfed ach) moch amaethyddol heddiw. Cynefin y baedd oedd coetiroedd Cymru. Yn ôl chwedlau’r Mabinogi roedd y moch cyntaf yn anrheg o’r isfyd Celtaidd, ac fe’u gwelwyd gyntaf yn Nyfed. Mae’r hen gân werin am ‘gladdu’r mochyn du’ hefyd yn hanu o Sir Benfro.
Mae sawl afon yng Nghymru wedi ei henwi ar ôl aelodau o deulu’r moch – Hwch, Twrch, Aman, Banw, Machno a Soch. Mae afonydd yn twrio neu’n torri trwy’r tir, fel mochyn sy’n chwilio am fes, gwreiddiau a madarch. Bydd mochyn hefyd yn mwynhau rholio yn y mwd – nid am ei fod yn anifail brwnt ond oherwydd bod haen o fwd yn ei gadw’n oer braf, ac yn ei amddiffyn rhag pelydrau’r haul.
HEN DDAFAD Crème de la YNG NGNU crème Cymru OEN BACH
Mae tir ffermio Cymru wedi bod yn gartref i fridiau gwartheg cynhenid ers miloedd o flynyddoedd. Yn anaml iawn y byddai llwythau Celtaidd yn bwtsiera eu hanifeiliaid er mwyn eu bwyta – dim ond adeg rhyw wledd arbennig. Byddai nifer y gyrr yn dangos cyfoeth a statws y perchennog. Mae’r gair am wartheg yn ne Cymru, sef ‘da’, yn dal i gael ei ddefnyddio yno – mae’n golygu ‘cyfoeth’ neu ‘eiddo’.
I rai, cig mollt (gwryw o rywogaeth y ddafad wedi’i ddisbaddu) yw cig dafad ac i eraill, cig hen famog yw e. Ta waeth, caiff y cig gorau (yn enwedig o frîd y Ddafad Fynydd Gymreig) ei gynhyrchu o fis Hydref i fis Mawrth ar ôl haf hir o bori. ‘Mae coes cig dafad Cymru’n well na choes cig dafad unrhyw wlad arall,’ George Borrow, Wild Wales.
www.fforchifforc.cymru
|
31
ru
ym
ww
w. f f o r c h i f f
or
Mae'r rysáit hon mor hawdd, a'r canlyniadau mor fendigedig, fel ei bod bron yn drosedd peidio â'i gwneud o leiaf unwaith y mis. Ysgwydd o gig oen yn pwyso tua 2k 1½k o datws gwyn wedi'u plicio a'u sleisio'n denau 3 nionyn gwyn mawr wedi'i sleisio'n denau 1 pen garlleg wedi'i rannu'n ewinedd Llond llaw o ddail teim ½ litr o ddŵr cyw iâr
1 Mewn dysgl rostio fawr neu ddysg caserol
gosodwch y tatws, y nionod, y garlleg a'r teim yn haenau.
2 Rhowch y cig oen ar ben y cyfan a rhoi ychydig mwy o ddail teim arno, yn ogystal â phupur a halen.
3 Arllwyswch y dŵr cyw iâr drosto a'i osod heb ei orchuddio mewn popty ar 160ºC (140ºC ffan) am 5-7 awr.
32
|
www.fforchifforc.cymru
c
.c
Boulangère Cig Oen
ru
ym
c
.c
ww
w. f f o r c h
r iffo
HAFAN
Ryseitiau
Digwyddiadau
Cymuned
Ymunwch 창 fforwm cynhyrchwyr bwyd a diod Fforch i Fforc Mae cymuned ar-lein Fforch i Fforc yn gyfle rhad ac am ddim i arddangos bwyd a diod lleol gwych ac yn ffordd o gysylltu'n uniongyrchol 창 phrynwyr sydd wedi ymrwymo i brynu yn uniongyrchol o'r ffynhonnell. Mae'n lle i rannu syniadau ac i gael eich ysbrydoli gan yr hyn y mae cynhyrchwyr eraill yn ei wneud. Dywedwch wrth bawb yng nghymuned Fforch i Fforc am eich cynnyrch newydd, yr hyn rydych chi'n ei wneud a ble gallai prynwyr eich cyfarfod neu brynu eich cynnyrch yn uniongyrchol gennych chi.
Amdanom Ni
Masnach
Ychwanegwch ryseitiau, newyddion neu ddigwyddiadau
Ryseitiau
Teledu Fforch i Fforc
Digwyddiadau i Ddod Marchnad Ffermwyr Llandudoch
www.fforchifforc.cymru www.fforchifforc.cymru
|
33
Sgwrsio Fforch i Fforc.
Gwyl Fwyd y Fenni
Chwifio’r faner Mae’r Fenni wedi arwain y ffordd – mae gan yr Ŵyl yno glamp o broffil ac enw da fel un o ddigwyddiadau bwyd o fawr bwys yn Ewrop. Ffermwr yw Martin Orbach. Mae e hefyd yn gwneud hufen iâ ac yn un o’r criw a sefydlodd Gŵyl Fwyd y Fenni ym 1999. Bu’n Gyfarwyddwr ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Rhaglenni nes iddo ymddeol o’r Ŵyl yn 2013.
Yn y dechreuad... Roeddem ni’n meddwl bod ffermydd bychain yn gallu cynhyrchu bwydydd uwch eu safon, mewn ffyrdd mwy amgylcheddol gyfeillgar, gan wneud ffafr fawr â’r wlad. Roedd dathlu’r fferm fach, y cynhyrchydd bach, yn ganolog i’n rhaglen.
Yr w ˆ yl gyntaf... Rwy’n cofio bod gennym ni ryw 30 o stondinau yn neuadd y farchnad. Wnaethom ni rhyw fath o wledd i’r gymuned, ac roeddem dan bwysau mawr oherwydd fe gollom ni ein harlwywr tua wythnos cyn y digwyddiad. Roedd 'na ambell i sgwrs, gan gynnwys Franco ac Anne Taruschio yn sôn am hanes y Walnut Tree, a sgwrs gan Marguerite Patten! Felly roedd yr holl elfennau sydd yno o hyd, yno o’r cychwyn – marchnad ar gyfer cynhyrchwyr bwyd o safon uchel, dathliad a thrin a thrafod.
Mae’r Fenni yn arbennig oherwydd... Roeddem ni am fod yn rhywbeth mwy na marchnad ar gyfer cynhyrchwyr bwyd. Roeddem ni am greu gŵyl oedd yn canolbwyntio ar fwyd.
34
|
www.fforchifforc.cymru
“Maen nhw'n fwy uchelgeisiol o ran y mathau o gynnyrch maen nhw'n eu Greu, ac maen nhw'n marchnata'r cynnyrch hwnnw i gynulleidfa newydd, iau.”
“...fe allai ffermydd bach gynhyrchu bwydydd uwch eu safon wrth ddefnyddio dulliau sy'n fwy amgylcheddol gyfeillgar...” Roedd y dechrau yn frawychus braidd... Roedd yn codi arswyd arnom ni. Ond erbyn y diwedd roedd 'na ymdeimlad o ryddhad a llawenydd. Profiad hyfryd o gydweithio mewn tîm bychan, adborth bendigedig gan gynhyrchwyr ac ymwelwyr. Roedd hi mor braf bod mewn gŵyl lle roedd pawb – yr hen, yr ifainc, pob dosbarth cymdeithasol, pob lliw a llun, yn deall beth roeddem ni’n ei wneud. Oherwydd mae pawb yn hoffi bwyd. Roedd hi’n barti anhygoel.
Yr w ˆ yl heddiw... Mae’n llawer mwy trefnus a phroffesiynol. Dydych chi ddim yn gweld cymaint o ryw bethau fel cyfarwyddwr yr ŵyl yn ceisio dadflocio draen am saith y bore. Erbyn heddiw mae’r cyfarwyddwyr yn cael gwneud beth maen nhw i fod i’w wneud!
Mae’r twf yn nifer yr ymwelwyr wedi bod yn anhygoel... Yn y flwyddyn gyntaf honno fe gawsom ni rywbeth fel 3,000 o bobl; erbyn hyn mae 'na lawer dros 30,000. Mae’n hynod o brysur, ond mae awyrgylch unigryw gan y Fenni; mae’n wirioneddol arbennig. Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg yn un man arall. Ac mae’n dipyn o waith ac yn dipyn o gamp i greu hynny.
60% o leiaf yn rhai o Gymru. Mae gennym y nifer uchaf o stondinau o Gymru o bell ffordd mewn unrhyw ŵyl fwyd. Mae 'na ail genhedlaeth o gynhyrchwyr sy’n wirioneddol soffistigedig ac sy’n cynhyrchu rhai pethau anhygoel o ddiddorol. Maen nhw’n fwy uchelgeisiol o ran y math o gynhyrchion, ac maen nhw’n gwerthu eu cynnyrch i gynulleidfa newydd, iau.
Y bobl yw’r uchafbwynt... Mae cymaint o bobl wych wedi bod yma yn yr ŵyl, ond yr uchafbwynt go iawn yw’r ffordd, eto ac eto, y mae’r awyrgylch yn y dref a’r stryd yn gwbl arbennig. Mae hi mor llawn o bobl yn mwynhau eu hunain.
Y cam nesaf ym myd y gwyliau bwyd? Cael pobl i deall beth maen nhw’n ei fwyta, ac i ddod yn fwy gwybodus am eu bwyd – rwy’n credu mai dyna’r ffordd ymlaen. Mae digwyddiadau fel gwyliau bwyd, lle mae cyfle i bobl siarad â’r cynhyrchwyr, yn helpu i ailgysylltu pobl â’u bwyd. Mae deall o ble mae bwyd yn dod yn rhan enfawr o’i fwynhau. Mae 'na lond gwlad o wyliau bwyd – rhai bach a rhai mawr – trwy Gymru bob blwyddyn. Dewch o hyd i un yn eich ardal chi trwy ymweld â www.fforchifforc.cymru
...mae 'na amrywiaeth enfawr o fwyd hefyd... Erbyn hyn mae gennym ni ryw 250 o stondinau ac mae www.fforchifforc.cymru
|
35
ˆ
O DAN Y DWR A’'I DONNAU Weithiau mae crefft y pysgotwr mor rhyfedd ac ofnadwy â’r pysgod eu hunain. Aeth Simon Wright am dro ar hyd yr afon i chwilio am abwyd – a bwyd. Geiriau Simon Wright Ffotograffau Warren Orchard
36
|
www.fforchifforc.cymru
www.fforchifforc.cymru
|
37
R
wy’n gyrru trwy Gaerfyrddin yn oriau mân y bore, rywbryd ar ddechrau’r nawdegau pan o’n i’n ddyn diarth yn y dre. Ar y chwith, yr afon: fflach liw arian yn y glasddu rhwng silwétau'r coed. Dim oll yn symud: mae’r dref yn ei gwely, ac ar yr hewl dim ond fi a golau’r lloer sydd ar ddihun. Mae’r gwresogydd yn canu grwndi yn y car, mae’r radio yn canu’n dawel ac mae fy meddwl i yn bell, bell i ffwrdd. Ac yna – yn y mwrllwch – chwe drychiolaeth. Gwylwyr o ryw arall fyd, yn fwy na dynion, yn martsio’n iasoer bob yn un hyd glan yr afon. Creaduriaid â chregyn enfawr ar eu cefnau, fel chwilod du aruthrol sydd wedi codi ar eu coesau ôl. Mae fy nghalon i’n rhewi o’u gweld nhw. Mae’r car yn taro’r cwrbyn, rwy’n ei dynnu’n ôl i’r hewl drwy nerth greddfol bôn braich ac yn syllu’n wyllt i ddrych y car. Dim i’w weld ond y fagddu, ac mae hynny’n ddigon. Clatsh, bang, bant â fi – yn ofnus, ar goll, yn llawn anesmwythyd, wedi cael llond twll o ofan. A does dim syniad 'da fi beth rwy’ newydd ei weld. Ugain mlynedd – fwy neu lai – yn ddiweddarach a dyma fi eto ar lan yr un afon, yn ysgwyd llaw gydag un o’r anghenfilod hynny. Malcolm yw ei enw ac mae ganddo gwch ar ei gefn. Mae wedi ei gaethiwo mewn cragen o ffibrwydr du fel wy wedi’i hollti, a DC wedi’i baentio mewn gwyn ar ei hochr. Mae’n cyflwyno David, Andrew a phump o fechgyn eraill mewn arfwisg debyg, pob un â’i badl a’i lond llaw o rwydi sidanaidd. Dyma’r creaduriaid echrydus y gweles i dan grynu, y noson dywyll honno mor bell yn ôl. Cwryglwyr y’n nhw, nid bodau o blaned arall, nid chwilod enfawr. Serch hynny rhyfedd yw eu ffyrdd; fel y gwelwn, welwch chi, maes o law. Bach iawn rwy’n ei wybod am y cwryglwyr, a llai fyth am y pysgod y maen nhw’n eu hela. Fi a phawb arall bron: mae beth sy’n digwydd dan wyneb y dŵr yn ddirgelwch llwyr i’r rhan fwyaf o bobl. Mae hyd yn oed y pysgotwyr sydd yma heddiw – y dynion sydd, fel morloi, yn hela trwy reddf, sydd â chenedlaethau dirifedi o wybodaeth gyfrin a thriciau dala
38
|
www.fforchifforc.cymru
pysgod lan eu llewys – yn gwybod bach iawn am eu prae. Pysgod chwedlonol yw’r rhain, sy’n cael eu cenhedlu ym mannau uwch yr afon ond sy’n teithio’n bell, i grombil y môr mawr. Dychwelyd i’w man geni unwaith y flwyddyn neu unwaith mewn oes; byw bymtheg neu ugain mlynedd; cael eu dala ar y daith yn ôl i lygad eu fynnon gan ddau ddyn mewn cychod maint twba sinc gyda rhwyd deugain llath rhyngddyn nhw – ond, serch hynny, dianc yn fwy na thebyg. Sewin yw enw’r pysgodyn hwn i ni yma yng Nghymru – ym mhob man arall, brithyll y môr cyffredin yw e. Enw llai swynol, ie ond mae’n dweud y gwir yn blaen – dim ond brithyll sy’n hoffi gweld y byd yw hwn. Tra bo’r lleill yn dewis byw eu bywyd yn afonydd eu magu, bydd y sewin yn ffarwelio ac yn diflannu o’r golwg. Nofio i lawr yr afon nes teimlo Afon Tywi yn ymledu rhwng Llansteffan a Glanyfferi, a llawes gyfyng yr afon yn ehangu i ddangos y môr mawr, a’r diferion olaf o ddŵr croyw yn prysur droi’n heli. Fel pob teithiwr o fri, bydd y daith wedi newid ei fywyd. Nid arddegyn tila o bysgodyn ddaw yn ei ôl, ond oedolyn yn ei lawn dwf – pwerus, urddasol, trahaus. Mae rhwng chwech ac ugain pownd o arian byw llyfn, gwyllt – wedi ei besgi a’i sesni ym Môr Iwerddon – bellach yn chwipio nofio lan Afon Tywi. Maen nhw’n dweud ffordd hyn bod “Duw wedi ymarfer ei grefft ar yr eog, ond wedi perffeithio ei grefft ar y sewin”. O ran bwyta’r creadur, rwy’n berffaith siwˆr eu bod nhw’n dweud y gwir – ond mae hi’n rhy gynnar o lawer i sôn am fwyta unrhyw beth, oherwydd i ddechre mae’n rhaid i ni ddala pysgodyn. Mae gen i het a disgiau pres, gyda rhif ar bob un. Dyw e ddim byd tebyg i’r Loteri Genedlaethol ond rwy’n ymwybodol iawn mai braint ac anrhydedd yw cael tynnu’r tocyns mas o’r het. Mae’r ddefod hon yn rhan o benderfynu pwy sy’n debygol o fod ar ei ennill neu ei golled wrth weithio’r afon heno. Ai chi sy’n dewis gyntaf? Os felly, chi biau dewis pa ran o’r afon ry’ch chi am ei physgota. Mae’r siawns y byddwch chi’n dala pysgod gwerth chwe deg neu saith deg punt yn fwy tebygol o lawer. Ai
O dan y dŵr a’i donnau
Ac yna, yn y mwrllwch:– chwe drychiolaeth
www.fforchifforc.cymru
|
39
40
|
www.fforchifforc.cymru
O dan y dŵr a’i donnau
chi sy’n tynnu’r tocyn olaf? Och a gwae, mae 'da chi’r un gobaith â chaneri mewn pwll glo o ddala pysgodyn gwerth gymaint â hynny. Rwy’n gallu teimlo wyth pâr o lygaid wedi eu hoelio arna’ i. Mae dwy set o reolau i’r gêm yma. Y rhai a nodwyd ar ddu a gwyn gan yr awdurdodau: statudau sy’n sôn am hyd rhwydi, trwyddedau, hyd y tymhorau, tagio ac yn y blaen; rheolau sy’n cymhlethu ac yn caethiwo fwyfwy wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau, wrth i’r sewin brinhau o flwyddyn i flwyddyn. Ar un adeg roedd yr afonydd yn gyforiog o’r pysgod hyn; ond bellach maen nhw’n brin. Pam? Mae’n dibynnu ar bwy ry'ch chi am ei holi: y morloi, y llongau treillio enfawr, argaeau, dŵr asid a’r pysgotwyr rhwydi eu hunain – maen nhw oll dan y lach gan rywun neu’i gilydd, yn dibynnu ar sylw pwy maen nhw am ei fachu. Byddai dyn yn meddwl mai mynd yn groes i’r graen yw bwrw’r bai ar ddulliau pysgota hynafol a ddefnyddiwyd ers cyn cof gan lond llaw o gwryglwyr, ac sydd prin wedi newid ers hynny. Ond mae pysgotwyr bach yn haws o lawer eu rhwydo na llong bysgota ffatri o bant, rhywle’n bell i ffwrdd yng nghanol Môr Iwerddon. Mae’n rhaid dangos bod rhyw gosb ar y gweill yn rhywle ac – fel arfer – mae’n haws hela’r pysgod lleiaf na dal y siarcod mawr. Ond mae 'na reolau eraill wedyn. Y rhai a draddodwyd gan genhedlaethau o bysgotwyr, yn heriol anarchaidd a gan wybod mai natur ei hun sy’n deddfu pob dim. Y rheolau sydd wedi corddi cynnen, wedi cael eu camddefnyddio a’u defnyddio eto. Y rhai sy’n mynnu bod y tagiau bach metel yma’n cael eu tynnu yn gwbl ddiduedd o gap pysgotwr, a’r rhai sy’n mynnu, unwaith mae'r dynion ar y dŵr, na chaiff rhwyd ei gosod cyn bydd saith seren yn yr wybren dywyll. Oherwydd helfa sy’n digwydd yn y tywyllwch yw hon. Dyw pysgod ddim yn dwp: os gwelan nhw rwyd maen nhw’n gwybod mai trap yw hi, un a osodwyd gan y dynion sydd bellach yn eistedd mewn llong eiddil yr olwg, yr un siâp (a bron yr un maint yn union) â phlisgyn hanner cneuen Ffrengig. Dyma nhw’n sglefrio dros yr wyneb. Prin maen nhw’n codi crych ar wyneb y dŵr. Prin mae eu padlau – fflach fflach yn y tywyllwch – yn cosi’r llif. Mae eu cysgodion tawel yn diflannu wrth i’r nos lyncu’r golau o’r diwedd. Uwch eu pennau,
ar y ffyrdd a’r pontydd, mae bywyd modern yn grwgnach ac yn hercian yn ei flaen – goleuadau’r ceir, si a pheswch cerbydau. Ond ar yr afon mae amser yn dirwyn yn araf drwy’r canrifoedd, gan symud mewn cytgord â dawns fwyn y cyryglau – dau gwch yn cusanu ac yna’n ymrannu, dau bysgotwr yn cydio’r blethwaith sydd nawr yn sgubo’r dŵr llydan rhyngddynt. Maen nhw’n symud i lawr yr afon mewn cytgord perffaith – ac eto prin maen nhw’n symud o gwbl. O fewn deg munud, prin bod sôn chwaith am y pysgotwyr. Rwyf yn fy nghwrcwd yn fy nghuddfan ar lan yr afon. Yr unig arwydd bod yr wyth dyn a welais i’n llithro ar hyd y dŵr yn dal i fod yno yw ambell ffigwr tywyll sy’n crwydro’n araf ar draws patshyn o olau oren dan un o lampau’r stryd. Gan bwyll bach mae’r amser yn dirwyn ac yna, gyda fflach eu lamp mae’r pysgotwyr yn codi llais am y tro cyntaf ers hanner awr, i gyfeiliant dŵr yn llepian a chlindarddach sy’n diasbedain oddi ar waliau cerrig y bont. Sewin cyntaf y noson: a dyna fe, yn gorwedd yn y borfa fer ar bwys y llwybr, yn disgleirio yng ngolau’r fflachlamp. Wyth dyn yn ymlafnio am hyd at chwe awr; dim ond hanner dwsin o sewin gaiff eu dal yn y pedair rhwyd heno. Mae hi fel chwilio am aur: cadw’r ffydd, dal i gredu, daw dy ddydd…neu, yn yr achos hwn, dy nos. Tymor byr sydd i’r sewin, ac mae’r pysgod yn brin. Ond nid y prinder na’r defodau cymhleth a’r canrifoedd o draddodiad sy’n golygu bod y sewin yn bysgodyn arbennig. O’i goginio’n ofalus, dyma un o’r pethau mwyaf blasus y gallech chi ei fwyta. Mae’n fwyd gwirioneddol amheuthun ac mae gofyn ei drin yn briodol – yn dyner, yn barchus, wedi ei goginio i’r union eiliad a’i weini yng nghwmni bwydydd fydd yn anrhydeddu ei ogoniant. Mae’r haul yn codi ac mae’r afon wedi troi’n fwd. Wrth yrru 'nôl ar hyd y lan gwelaf y cyryglau yn eu cewyll, yn pendwmpian yn eu rhesel. Rwy’n ffarwelio ag afon Tywi wrth iddi droi tua’r de, a glan y môr. I ffwrdd â fi tua’r bryniau i gyfeiriad Bae Ceredigion – yr hansh barus hwnnw yn arfordir gorllewin Cymru sy’n cofleidio’r môr, o Enlli
Rhyw ddwsin o stondinau, pob un dan ei chynfas streipiog gwyrdd a gwyn. Rwy'’n fodlon cydnabod y bydden i'n fwy tebygol o GYSYLLTU'R olygfa fywiog, ddifyr hon âaˆ chefn gwlad Ffrainc www.fforchifforc.cymru
|
41
Fork2Fork on tour
Mae’'r gymdogaeth fechan hon o gynhyrchwyr bwyd yn cynhyrchu ei gwres ei hun, hefyd.
Mae'’r lle 'ma wedi fy swyno yn barod yn y gogledd hyd Pen-caer yn y de. Rwy’n gyrru trwy Sir Benfro nawr, a bron iawn â chyrraedd cyrion Ceredigion. Ym mhentref Llandudoch, wele arwydd yn hysbysebu’r farchnad fwyd leol. Rwy’n ei ddilyn ar hyd lôn gul sy’n ymagor yn sydyn ar fan annisgwyl o brydferth a thawel. Ar y dde mae 'na gae gwyrdd ac abaty yn y pellter, ar y chwith mae pwll y pentref; mae’r dŵr llonydd sy’n llond y lle o hwyaid yn cael ei ddala’n ôl i yrru rhod y felin wyngalch. Rhwng y pwll a’r felin mae ’na farchnad fach o ryw ddwsin o stondinau, pob un dan ei chynfas streipiog gwyrdd a gwyn. Rwy’n fodlon cydnabod y bydden i’n fwy tebygol o gysylltu’r olygfa fywiog, ddifyr hon â chefn gwlad Ffrainc na Chymru. Rwy’n methu deall pam na fues i yma o’r blaen. A dweud y gwir rwy’n cywilyddio braidd. Gwir, dim ond llond llaw o werthwyr sydd ond maen nhw’n cymryd eu lle i’r dim. Wele flawd o’r felin gyfagos (cafodd bara’r felin ei brynu’n awchus oriau’n ôl), selsig, caws gafr, jamiau, siytni, a mêl, seidr a sudd o berllannau’r ardal. Mae’r farchnad yn dechrau dirwyn i ben ac mae’r stondinwyr yn crwydro draw i gael clonc â’i gilydd. Maen nhw’n sylwebu ar fasnach y diwrnod, yn estyn bwyd a diod i’w gilydd. Mae’r haul yn disgleirio, ac mae hynny’n helpu, ond mae’r gymdogaeth fechan hon o gynhyrchwyr bwyd yn cynhyrchu ei gwres ei hun, hefyd. Mae’r lle 'ma wedi fy swyno yn barod. Ac mae hyn oll cyn i Mandy Walters fynnu rhoi cinio i fi. Cranc Bae Ceredigion sy’n pingo o flas y môr, gyda chwpwl o bice – “jest rhag ofn”. Mae gŵr Mandy, Len, a’i mab Aaron yn pysgota Bae Ceredigion ac Afon Teifi. Maen nhw’n dala crancod a chimychiaid rownd y ril, drwy’r flwyddyn. Yn yr haf mae crancod heglog hefyd, ac maen nhw’n defnyddio ffunen bysgota â llaw i ddal mecryll, ysbinbysg y môr a morleisiaid. Yn y gaeaf mae cregyn bylchog. O fis Ebrill i fis Awst maen nhw’n llenwi’r oriau sy’n weddill drwy bysgota o gyryglau a dala pysgod â sân ar Afon Teifi hefyd. Yn y dull parod-i-droi-llaw-at-bopeth hwn, ymddengys ei bod hi dal yn bosibl i bysgotwr bach wneud bywoliaeth ar arfordir gorllewin Cymru. Mae Aaron, sy’n un ar hugain, yn fy nghodi o’r lan ar draeth y Patch gerllaw a dyma ni’n gyrru mas at Glas y Dorlan, lle mae ei dad yn disgwyl amdanom. Mae’r cwch yn un cruglwyth o haearn trwm, winshis, rhaffau a rhwydi. Rwy’n gweld yn syth eu
42
|
www.fforchifforc.cymru
bod nhw wedi tynnu hansh o gefn y cwch, gan adael slipffordd sy’n agored i’r môr. Mae’n od o debyg i gefn fferi geir gyda’r drysau ar agor, ac yn hynod o beryg – does bosib? Yn ôl Len, “syniad ardderchog” gafodd e ychydig flynyddoedd yn ôl oedd hwn – “mae’n ei gwneud hi’n haws codi’r cewyll.” Mae’n fodlon cyfaddef bod y system hon wedi hala cathod bach arno ar y cychwyn. A fi? Rwy’n cytuno’n llwyr â’r cathod bach. Ond mae’n ddiwrnod braf ac mae’r môr fel llyn llefrith o lonydd – nes i ni bwffian heibio i’r pentir, ymuno â’r môr mawr, a wisht… mae’r tonnau pigau bach yn troi’n donnau mawr rhacslyd, serth nes ein bod ni’n tasgu i mewn iddynt bob yn ail eiliad. Rwy’ wedi dysgu, yn rhy hwyr, bod cysgodi mewn rhyw fan amhenodol y tu ôl i gaban y llong yn ddim fath o gysgodi o gwbl rhag yr ewyn sy’n chwydu dŵr hallt yn ôl atom yn ffyrnig ac yna’n ffyrnicach fyth. Ac mae’r gwynt yn oerach mas fan hyn hefyd, yn arbennig pan y’ch chi’n wlyb domen. Ryw hanner milltir allan dyma ni’n oedi i godi’r cewyll. Mae llinell o ryw ddau ddwsin yn ymestyn hyd wely’r môr. Wrth i Len ac Aaron eu codi, maen nhw’n gwagio’r cranc brown a’r cimwch glasddu brych sydd yn y cewyll ac yn pentyrru’r cewyll gwag. Gwaith caled, gwaith clou yw hwn wrth i gruglwyth o bysgod cregyn wingo a nadreddu a llenwi’r tybiau, ac wrth i'r pentwr o gewyll gwag dyfu’n uwch ac yna’n uwch fyth. Yn gwmws fel y cyryglwyr, mae 'na fath o falé i ddynion mawr cryf 'da ni ar y gweill fan hyn, o fewn hyd a lled hynod o gyfyng y cwch bychan bach 'ma, sy’n siop siafins o beirianwaith ac offer – dyw'r tad na'r mab ddim yn dweud yr un gair, ond maen nhw'n gwybod yn union beth yw’r pas-de-deux nesaf a thro pwy yw hi i symud. Trip hawdd ar ddiwrnod heulog yw hwn iddyn nhw. Bydd llawer i daith arall ar ddyddiau llwyd tywyll gyda’r tymheredd yn y gwaelodion a’r môr yn grac fel paffiwr. Rwy’n rhyfeddu at Aaron, sydd mor ifanc ac eto sydd wedi dewis y ffordd hon o fyw o blith cymaint o rai eraill. Ond nid gwaith yn unig yw hwn; mae’n grefft, ac mae crefft yn mynnu i’r crefftwr ddysgu sgiliau anodd ac yn troedio'r llwybr cul. A dyma’r ffordd – yn y ffyrdd hyn sydd wedi eu trwytho mewn traddodiad a diwylliant – y caiff y pethau gorau sydd i’w bwyta eu cywain a’u pysgota o’r afonydd a’r moroedd, eu chwilio a’u canfod a’u gwerthu yn lleol. Byddant yn fwy blasus oherwydd hynny.
O dan y dŵr a’i donnau
Ond nid gwaith yn unig yw hwn; mae'’n grefft, ac mae crefft yn mynnu BOD Y CREFFTWR YN DYSGU sgiliau anodd AC YN TROEDIO'R llwybr cul
www.fforchifforc.cymru
|
43
ˆ
CHWEDL A LLÊEN BWYD
Pysgod yn ymbincio
Dim ond yn y môr y mae sewin yn bwydo, a bydd lliw ei gnawd yn cael ei effeithio gan y pethau mae’n ei fwyta. Gall y rhain gynnwys berdys, sy'n golygu bod sewin yn lliw pinc golau amlwg, gyda chyhyrau tyn, a blas pysgodlyd, ffres.
44
|
www.fforchifforc.cymru
Bara lawr ar i fyny
Mae bara lawr yn cynnwys llawer iawn o fitamin D. Roedd glowyr yn hoff o’i fwyta am ei fod yn gwneud iawn i raddau am yr oriau maith dan ddaear heb weld pelydrau’r haul. ‘Cafiar y Cymro’ oedd bara lawr yn ôl Richard Burton, ac mae cofnodion cynnar yn cyfeirio at bobl oedd ar ffo rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr yn ei fwyta.
PENFRAS BRAS, BRAS
Cafodd y penfras mwyaf erioed yng Nghymru ei ddal yn y môr o amgylch Ynys y Barri ym 1976. Roedd yn pwyso bron i 20kg – digon i wneud dros 350 o brydau cod-a-sglods.
LLOND BAD O SGADAN
Fel mae’r enw’n ei awgrymu, Dinbych-y-Pysgod oedd un o ganolfannau pysgota sgadan cynharaf Cymru. Am ganrifoedd byddai llwythi o sgadan yn cael eu glanio, eu halltu a’u hallforio i ardal y Môr Canoldir. Mae sgadan yn cael eu trin i roi penwaig coch, penwaig hallt, ‘rollmops’ neu benwaig picl. Mae’n debyg mai ‘surstromming’, sgadan wedi’u heplesu a’u rhoi mewn caniau yn Sweden, yw bwyd mwyaf drewllyd y byd.
Cocos jocôs
Cregyn bylchog bach dŵr hallt yw cocos. Maen nhw’n elfen flasus ym mwydydd llawer o wledydd y byd, ac maen nhw’n arbennig o boblogaidd yng Nghymru. Rhoddodd y Magna Carta yr hawl i bob dinesydd gasglu hyd at wyth pwys o gocos o’r blaendraeth.
Dyfroedd dwfn ac oer!
Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Mae’n bedair milltir o hyd ac yn filltir ar ei draws, ac mae’n gartref i bysgodyn gwyn o’r enw’r Gwyniad, sydd mewn perygl. Nid oes pysgodyn tebyg yn unrhyw le arall yn y byd. Sut daeth e i Lyn Tegid? Cafodd ei hynafiaid eu cau i mewn gan y dyfroedd ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.
www.fforchifforc.cymru
|
45
Eog neu sewin cyfan wedi'i botsio Mae hon yn ffordd dda o goginio'r pysgodyn heb ormod o berygl ei or-goginio nes ei fod yn sychu.
1 eog neu sewin ffres wedi'i ddiberfeddu a'i lanhau Dyrnaid o wewyrllys 1 lemwn wedi'i sleisio ½ litr o win gwyn sych
1 Rhowch y pysgodyn mewn tun rhostio mawr, gosodwch y
gwewyrllys a'r lemwn yn y ceudod a rhoi rhywfaint o halen a phupur arno. Arllwyswch y gwin i'r tun a'i orchuddio â phapur pobi a ffoil.
2 G osodwch ef mewn popty wedi'i gynhesu'n barod ar 180ºC ym
ru
am tua ½ awr.
46
|
c for
.c
ww
w. f f o r c h i f
www.fforchifforc.cymru
3 G allwch ei weini gyda mayonnaise cartref, tatws newydd lleol a llysiau gwyrdd.
ru
ym
c
.c
ww
w. f f o r c h
r iffo
HAFAN
Ryseitiau
Digwyddiadau
Cymuned
Canllaw Fforch i Fforc i ddigwyddiadau a gwyliau bwyd Ewch i gyfarfod y cynhyrchwr a phrofi bwyd o lygad y ffynnon yn eich marchnad ffermwyr neu siop fferm leol. Mwynhewch gynnyrch newydd a gwahanol yn ogystal 창 chael y pleser o gyfarfod a'r bobl sy'n tyfu ac yn paratoi bwyd real, ffres. Mae gwyliau bwyd yn ddiwrnodau gwych allan ac yn ffordd hwyliog o brofi, arogleuo a chnoi cil am faterion bwyd yng nghwmni'r tyfwyr a'r crefftwyr arbenigol. Mae arddangosiadau coginio arbennig a'r cyfle i brofi samplau hefyd yn golygu bod rhywbeth yno at ddant pawb.
Amdanom Ni
Masnach
Ychwanegwch ryseitiau, newyddion neu ddigwyddiadau
Ryseitiau
Teledu Fforch i Fforc
Digwyddiadau i Ddod Marchnad Ffermwyr Llanandras
www.fforchifforc.cymru www.fforchifforc.cymru
|
47
Sgwrsio Fforch i Fforc
Gwledd yng Nghonwy
Cregyn i ginio Jane Hughes yw Cyfarwyddwr Gwledd Conwy ers i’r wledd gychwyn yn 2004. Dyma hi’n egluro sut y tyfodd yn un o wyliau bwyd mwyaf Cymru, sy’n rhoi cyfle i frolio ‘cregyn gleision gorau’r byd’.
O ddechrau’n fach... Roedd y digwyddiad yn reit fach i gychwyn – dim ond un prif leoliad a dwy babell fawr yn y dref. Erbyn hyn mae’n llenwi’r dref yn llwyr ac mae rhyw 25,000 o bobl yn dod – penwythnos brysuraf y flwyddyn.
...cefndir gwych... Mae’r cei yng Nghonwy, gyda’r castell yn y cefndir, yn fan bendigedig. Bwyd, y môr, y castell a chelf a cherddoriaeth... mae’n gyfuniad diguro.
Cregyn Y cregyn yw seren y sioe. Cafodd y digwyddiad ei gychwyn er mwyn cyd-daro â’r tymor cregyn gleision. Yn ein barn ni, cregyn gleision Conwy yw’r rhai gorau yn y byd. Maen nhw’n dal i gael eu codi o wely’r aber yn y dull traddodiadol, gyda chribiniau – nid cael eu tyfu ar raffau maen nhw.
48
|
www.fforchifforc.cymru
“Y cyfuniad o ˆ heli a ddwr ˆ croyw, dwr a’r ffaith eu bod nhw’n cael rhwydd hynt i dyfu yn ystod yr haf, heb gael eu cynhaeafu tan y gaeaf...”
“Bwyd, y mor, y castell a chelf a cherddoriaeth... mae’n gyfuniad di-guro.”
Cragen o bwys...
Pawb ar ei ennill...
Mae’r cyfuniad o ddŵr heli a dŵr croyw, a’r ffaith eu bod nhw’n cael rhwydd hynt i dyfu yn ystod yr haf, heb gael eu cynhaeafu tan y gaeaf, yn golygu eu bod nhw’n enfawr ac yn wych, ac yn lliw oren llachar, ac yn arbennig iawn, iawn. Mae pobl yn ciwio'r holl ffordd i lawr y cei am y cregyn gleision sy’n cael eu gwerthu yn ystod y Wledd.
Mae pob un yn uchafbwynt. Mae pob un yn fwy cyffrous na’r un o’r blaen. Un uchafbwynt oedd y tro ddaru ni ˆ celf ddigidol, sy’n taflunio gychwyn cydweithio gyda’r Wyl delweddau ar y castell ac adeiladau eraill. Ddaru ni gychwyn prosiect y llynedd o’r enw ‘Hiraeth’ – gair sydd heb gyfieithiad go iawn, ac un sydd ag ystyr arbennig iawn i’r Cymry. Mae’n seiliedig ar sgiliau traddodiadol. Mae hyn yn cyd-fynd â’n pabell ffermio, sydd hefyd yn beth arbennig iawn. Mae criw o ffermwyr organig yn dod â'u hanifeiliaid acw ac mae ’na gysylltiad â phobl yn uniongyrchol – â tharddle eu bwyd.
Lliw a llun... Mae’n hynod o liwgar. Y flwyddyn gyntaf ddaru un o’r trigolion, sy’n wniadwraig wych, greu rhyw 20 cortyn o faneri prydferth wedi eu gwneud â llaw, i’w hongian ar hyd y Stryd Fawr. Bron i bob blwyddyn rydan ni’n cael rhyw dipyn o barti wrth godi’r baneri ac yn ychwanegu ambell i gortyn ychwanegol... mae’n amlwg bod rhywbeth arbennig ar ddigwydd.
Cerdd a chregyn... Mae pobl wir yn ymateb i fwyd. Gall fod yn sail i unrhyw ddigwyddiad... bwyd a cherddoriaeth... ac rydym wedi datblygu’r gerddoriaeth hefyd. Mae cynhyrchwyr bychain, cynhyrchwyr lleol a chynhyrchwyr o Gymru i gyd yn cael blaenoriaeth. Rydym wedi rhoi’r sgwâr i gyd i’r cynhyrchwyr bychain iawn sy’n gwerthu ym marchnad y ffermwyr.
Rhywbeth yn yr awyr... Mae’r awyrgylch yn wych bob tro. Mae gweld cymaint o bobl yn y dref yn mwynhau eu hunain ac yn cael amser mor dda bob amser yn braf ei weld. Mae’n golygu bod y cyfan yn werth chweil. Mae Gwledd Conwy Feast wedi tyfu i fod yn un o wyliau bwyd mwyaf poblogaidd Cymru – mae llawer rhagor i’w gweld yn www.fforchifforc.cymru
www.fforchifforc.cymru
|
49
50
|
www.fforchifforc.cymru
Naws y Caws QQ Dilynwch Manon Steffan Ros ar daith drwy borfeydd gwelltog – i gwrdd â’r bobl sy’n hudo llaeth yn gaws, troi hufen yn hufen iâ, ac yn ei arddangos mewn ffordd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd. Geiriau Manon Steffan Ros Ffotograffau Iestyn Hughes
www.fforchifforc.cymru
|
51
“Busnes teuluol sydd yma, ble mae Sam a Rachel Holden yn defnyddio'r llaeth o fuches tad Sam i greu y caws.”
R
ywsut, drwy ryw dric clên o ffawd, mae'r sêr wedi sefyll mewn rhes a finnau wedi ennill y loteri lwc. Mae hi'n ddydd Mercher braf ar ddechrau'r gwanwyn, a dwi ar fy ffordd: caws, hufen iâ, ac i aros mewn gwesty moethus. Prin y medra' i goelio'r peth! I ddechrau, dwi'n meddwl mai scam ydi'r cyfan, ond mae'n araf wawrio y bydda' i'n cael treulio deuddydd cyfa' yn ymweld â chynhyrchwyr a chyflenwyr cynnyrch llaeth. A dyna sut dwi a'r ffotograffydd, Iestyn Hughes, yn canfod ein hunain yn rhoi ein ffydd yn sat nav ei gar o ar hyd lonydd cefn troellog cefn gwlad Cymru. Chwarae teg i'r llais benywaidd, pendant ar y Tom-tom – mae hi'n ein harwain yn syth i fferm Bwlchwernen Fawr, cartref Caws Hafod. Busnes teuluol sydd yma, lle mae Sam a Rachel Holden yn defnyddio'r llaeth o fuches ei dad i greu caws cheddar. Mae'r fferm wedi ei lleoli ar dir uchel sy'n edrych i lawr dros glytwaith gwyrdd y fro, ac mae teimlad hyfryd o ynysig i'r lle. Ar ôl gwisgo'n dillad gwarchodol – net gwallt, welingtons a chot wen – mae Rachel yn ein harwain i'r ystafell lle mae'r caws yn cael ei greu. Un dawel a swil ydi Rachel, yn ymddiheuro'n syth eu bod nhw yn ei chanol hi, ac a fyddai ots petai Sam a hithau'n parhau efo'u gwaith tra 'da ni'n sgwrsio? Mae Sam wrthi'n troi llwyth o laeth gyda phadl fawr, yn ôl ac ymlaen, drosodd a throsodd. Mae'r broses o wneud caws wedi dechrau, ond i mi, mae'n edrych fel llwyth o wyau sgramblo wedi eu gollwng i fath enfawr o laeth. Gyda gwên hawddgar, mae Sam yn esbonio'r broses o wneud caws i ni, cyn rhoi
52
|
www.fforchifforc.cymru
mymryn o'i hanes ei hun. Yn rhyfedd iawn, pan mae'n esbonio ei fod o wedi bod yn byw yn Llundain, fedra i ddim dychmygu'r peth – mae Sam yn ffitio mor berffaith i'w gynefin, ac yn edrych mor naturiol wrth fynd ati i wahanu'r ceuled a'r maidd (na, wyddwn i ddim mai dyna'r term Cymraeg am curds and whey, chwaith!). Mae'n sgwrsio'n fyrlymus am y ffordd maen nhw'n gwneud caws yn yr un modd y byddai caws wedi cael ei wneud ganrif yn ôl, cyn bod blociau trwchus o cheddar yn cael eu cynhyrchu ar raddfa enfawr i'r archfarchnadoedd. Dwi'n synnu o weld bod teimlo a chyffwrdd y caws yn rhan bwysig o'r broses yma – mae Rachel yn rhedeg ei bysedd drwy'r llaeth i rythm tawel i wneud yn siŵr fod y lympiau o geulad ddim yn rhy fawr, ac yn hwyrach yn y broses, ar ôl draenio'r maidd, mae Sam yn lapio'r caws mewn llieiniau mwslin, gan f'atgoffa i o dad yn rhoi plentyn i'w wely. Brwdfrydedd ac angerdd – dyna sy'n gyrru Sam a Rachel. Er ei bod hi'n gadael y rhan fwyaf o'r sgwrsio i'w gŵr, mae 'na addfwynder a llonyddwch hyfryd i Rachel, a bodlonrwydd tawel yn y ffordd mae'n ymdrin â'r caws. Wrth ddangos yr ystafell anferth, oer lle mae silffoedd o gawsiau yn aeddfedu, mae Sam yn dangos y patrymau tlws ar du allan y caws fel arlunydd yn arddangos ei gelf. (Rhaid cyfaddef, mi ges innau fy swyno gan y llwydni hefyd – roedd rhai cawsiau yn edrych fel wyneb y lleuad, a rhai eraill fel rhisgl coeden hynafol.) Wrth ymadael â Bwlchwernen Fawr, mae Iestyn yn stopio'r car i dynnu llun. Does dim i'w glywed ond adar mân ac ambell wenynen dew yn prysuro rhwng y blodau gwylltion. Mae'r ffordd y mae Sam a Rachel yn gwneud eu caws yn dangos eu
Naws y Caws
parch a'u cariad at y tir yma, ac mae'r parch yna'n heintus. Caws Teifi ydi'r nesaf ar ein rhestr, busnes a sefydlwyd 'nôl yn 1982. Unwaith eto, mae awyrgylch teuluol ar fferm Glynhynod ger Ffostrasol, gyda beiciau plant ar y lawnt yn ymyl y llaethdy, a dillad ar y lein yn chwifio yn yr awel. Mae John Savage-Onstwedder, sy'n arwain Iestyn a finnau o amgylch y fferm, yn ddyn tal a chanddo lygaid treiddgar a llais uchel, pendant. Weithiau, wrth ein tywys o gwmpas y lle, mae o'n pwyllo ac yn edrych i fyw fy llygaid cyn dweud brawddegau'n araf ac yn llawn angerdd, pethau fel "There is nothing new about organic!" Ar ôl hanner awr yn ei gwmni, dwi wedi 'narbwyllo'n llwyr am fuddiannau llaeth amrwd (h.y. heb ei basteureiddio). Caws gouda a chaws cheddar sy'n cael ei wneud yma, a rhai gyda chynhwysion wedi eu hychwanegu (roedd Pavarotti yn ffan o'r caws gwymon). Mae'r cynnyrch wedi ennill gwobrau di-ri, ac mae'n boblogaidd iawn. Byddai'n ddigywilydd i beidio â derbyn cynnig John i'n tywys o amgylch ei fusnes arall, y Dà Mhìle Distillery. Mae'n cynhyrchu amrywiaeth o wirodydd organig, ac mae’r distyllydd copr yng nghanol yr adeilad yn dlws tu hwnt. Wedi'n harwain ni i ystafell dywyll yn llawn casgenni trymion, mae John yn ein hannog i
arogli'r cynnyrch – "take a sniff in there!" wrth dynnu'r stopper o gaead casgen o frandi afal. Mae'r arogl yn felys a thrwchus ac yn fendigedig. Bydd oriel flasu yn cael ei hagor uwchben y ddistyllfa yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'n ystafell fawr hyfryd, a golau'r haul yn cynhesu'r dodrefn chwaethus a'r pren ar y nenfwd. Mae celf ddifyr, herfeiddiol yn addurno'r waliau, ac, unwaith eto, mae John yn tanio wrth drafod sgil yr arlunydd neu wreiddioldeb y syniad. Ac yna, mae o'n estyn y jin. Dim ond y mymryn lleiaf, i flasu – ond yn gyntaf, rhaid ei arogli ("Mae o'n f'atgoffa i o arogl y blodau ar ochr lôn fach wledig" meddai Iestyn, ac mae o'n hollol gywir – arogl hafau ers talwm, pan oedd pob dydd yn braf.) A'r blas? Mam bach! Mae o'n anfarwol. Rydw i'n blasu pob perlysieuyn a phob blodyn bach. Am ychydig eiliadau, rydw i'n fud, ac mae John yn syllu arna i gyda gwên fach – mae'n amlwg ei fod o wedi dod o hyd i gwsmer newydd. Y stop nesaf yw ein lloches am y noson – gwesty Hammet House yn Llechryd. (Arferai'r lle fod â'r enw hyfryd, Castell Malgwyn.) Cyn gynted ag ydw i'n gweld y fwydlen, mae'n
“Mae Sam yn dangos y patrymau tlws ar y caws fel arlunydd yn arddangos ei gelf.” www.fforchifforc.cymru
|
53
amlwg ein bod ni ar fin cael gwledd. Heb sôn am safon a gwreiddioldeb y prydau rydan ni'n eu harchebu, gweinir danteithion bach rhwng y cyrsiau (wna i ddim anghofio am yr un sglodyn perffaith a'r llinell o gafiar ar ei ben am amser hir, hir.) Wrth fwyta, rydw i'n meddwl am yr holl amseroedd rydw i'n bwyta heb feddwl am y blas, yr edrychiad. Mae'r cogydd, Matt Smith, wedi creu dathliad o fwyd a blasau. Ew! Rydw i wedi gwirioni'n lân. Yna, daw'r weinyddes siriol â detholiad o gaws at y bwrdd, ac er mod i'n taeru na fedrwn i fwyta 'run cegaid arall, mae'n amhosib gwrthod. Mae pob un o'r cawsiau yn lleol, a phob un yn gwbl wahanol i'w gilydd, ond nid oherwydd daearyddiaeth y dewiswyd y rhain – maen nhw o'r safon uchaf. Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd i mi wrth ddarllen y rhestr o gawsiau, rhyw deimlad od wrth weld enwau Caws Hafod a Chaws Teifi. Wrth gofio Sam a Rachel ym Mwlchwernen Fawr, a John yn Fferm Glynhynod, dwi'n teimlo balchder bod eu gwaith caled nhw'n cael ei wobrwyo drwy gael ei weini mewn bwyty mor safonol. Dwi'n teimlo'n deyrngar, ac yn fwy na dim, dwi'n teimlo parch – at y gwneuthurwyr am greu rhywbeth mor arbennig, ac at y bwyty am gydnabod eu safon.
54
|
www.fforchifforc.cymru
Dwi fymryn yn bryderus y ca' i hunllefau heno ar ôl yr holl gaws... ond rywsut, dwi'n gwybod y bydda i'n cysgu'n dawel... Dwi'n fy ngweld fy hun yn y drych y bore wedyn, ac ar ôl gwledd neithiwr, dwi'n edrych... wel... yn feichiog. Pedwar mis, o leiaf. Penderfynaf na cha' i frecwast. Y drwg ydi, maen nhw'n gweini ffa pob borlotti gyda chorizo, tomatos rhost, teim a surop masarnen. Dwi'n bochio'r cyfan, ynghyd â darn o dost ac iogwrt cartref. Mae'r cyfan yn ysblennydd. Ein stop cyntaf heddiw yw deli a chaffi ultracomida yn Arberth (mae siop arall yn Aberystwyth). Mae popeth mor dlws! Ochr yn ochr ar y silffoedd mae mêl, cnau, poteli anferth o olew olewydd, siocled, gwin a chwrw. Yn y cefn, mae caffi bywiog yn fwrlwm o bobol – ambell un yn darllen ei bapur dros baned o goffi, ambell un arall yn mwynhau tamaid i'w fwyta. Ond y prif atyniad ydi'r dewis helaeth o gawsiau sydd ar werth yma. Mae'r silffoedd yn gwegian o dan eu pwysau nhw, yn ddisgiau trwchus, ac mae’r min ar yr arogl yn gymysg oll i gyd ag oglau ham, siwgwr a choffi. Mae yma gawsiau meddal hufennog, cawsiau caled euraid, cawsiau gafr a chawsiau wedi eu lapio mewn dail. Mae'r caws glas yn edrych yn fendigedig,
Naws y Caws
wedi ei fritho gan wythiennau bychain lliw inc. Rydw i'n holi Shumana o ultracomida sut mae dewis pa gawsiau i'w gwerthu. Dynes fechan dlos ydi Shumana, gyda gwên fawr a llygaid sy'n disgleirio o hyd. Mae ei brwdfrydedd a'i hedmygedd tuag at y cynnyrch sydd ar werth yma yn hyfryd i'w weld, ac mae'n gynnes a chroesawgar, er mor brysur yw'r siop, a phawb yn ceisio mynnu ei sylw hi. 'Ydach chi'n dewis cawsiau am eu bod nhw'n lleol?' gofynnaf, ond ysgwyd ei phen yn bendant mae Shumana. Mae'r cynnyrch i gyd yn cael ei ddewis ar sail safon, ac mae cawsiau Cymru o'r safon uchaf. Nid o achos teyrngarwch cenedlaethol y mae detholiad helaeth o gawsiau lleol ar silffoedd trymlwythog ultracomida, ond achos eu bod nhw'n haeddu eu lle ymysg cawsiau gorau'r byd. Mae caws Hafod a chaws Teifi ar gael yn ultracomida, a dwi'n cael yr un teimlad balch, teyrngar ag y ces i neithiwr wrth lafoerio dros y cawsiau yn Hammett House. Mae gweld yr olwynion trwchus o gaws yma, dan oleuadau llachar y siop,
yn gwneud i mi feddwl am ddwylo Rachel yn y maidd, a Sam yn lapio'r ceuled yn y lliain, a John yn brolio safon gwasg caws Teifi. Mae un lleoliad ar ôl – Cowpots ger Hendy-gwyn ar Daf. Mae'r sat nav yn ein danfon ni'r ffordd anghywir, cyn mynnu "turn around!" yn ddigon hy – ond buan rydan ni'n cyrraedd fferm Pen Back a chaffi The Cowshed. Dechreuodd teulu Bowman wneud hufen iâ Jersey ddeng mlynedd yn ôl, ac mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth. Ym mis Gorffennaf 2014, agorwyd caffi The Cowshed mewn hen feudy ar y safle, a dyma'r lle awn ni i weld yr hufen iâ sydd ar gael. Mae awyrgylch gwirioneddol hyfryd i'r lle yma – llawer o olau, waliau gwynion a stof yn y gornel yn llenwi'r lle â chynhesrwydd ac arogl coed tân. Busnes teuluol ydi Cowpots, ac mae Rachel yn fy arwain at y rhewgell. Mae hi'n amlwg wedi gwirioni efo'r hufen iâ, ac efo'r caffi – er i ni aros am oriau maith, welais i mohoni heb wên ar ei hwyneb. Mae'n pasio samplau o hufen iâ i mi dros y cownter – eirin Mair;
“Mae cawsiau Cymru o’r safon uchaf. Maen nhw’n haeddu eu lle ymysg cawsiau gorau’r byd.” www.fforchifforc.cymru
|
55
“Mae pawb yn falch o’u cynnyrch, a phob un yn mynnu safon.” sinsir a siocled; rhywbeth o'r enw 'cowmix' sy'n llawn o ffasiwn amrywiaeth bendigedig na fedra' i mo'u rhestru. Ac yn olaf, mafon, ac mae hwn yn flas syfrdanol – fel petai'r mafon newydd eu pigo a'r hufen newydd ei gorddi. Gwena Rachel mewn ffordd sy'n dweud, dwi'n gwybod – mae o'n anhygoel, tydi? Ac ew, ydi, mae o! Yna cawn gwrdd â William, sy'n gyfrifol am wneud yr hufen iâ. Mae o'n ddyn ifanc, tawel ac mae o wrthi'n rhoi hufen iâ blas taffi llosg mewn potiau. Fedra i ddim rhwystro fy hun rhag syllu – mae'r hufen iâ mor feddal, yn lliw euraid tywyll. Esbonia William wreiddiau'r cwmni. Roedd ei rieni'n ffermwyr llaeth yn Hampshire, ac ar ôl blynyddoedd maith, roedd rhaid wynebu bod prisiau llaeth mor isel nes bod rhaid i'r teulu newid trywydd. Felly, gan gymryd coblyn o risg, prynodd y teulu'r fferm, a ganed Cowpots. Ar fuarth y fferm, rydym ni'n sgwrsio â Brian Bowman, tad William, sy'n ymhelaethu ar hyn. Ffordd o aros ym myd amaeth ydi Cowpots a'r caffi, ac mae'r teulu'n mynnu cadw safon uchel i bob dim sy'n dwyn eu henw nhw. Mae Brian yn gymeriad hoffus, direidus, a sglein hyfryd yn ei lygaid. Mae'n ystumio gyda'i ddwylo geirwon wrth siarad, ac yn edrych i fyw fy llygaid yn daer. Mae'n bwysig, meddai Brian, i basio'r sgiliau a'r busnesau ymlaen i'r genhedlaeth nesaf, ac mae o'n falch
56
|
www.fforchifforc.cymru
iawn o'i deulu am gynnal busnes mor llwyddiannus sydd ag enw mor dda. Mae Iestyn yn holi a gaiff dynnu ei lun, ond dydi Brian ddim yn awyddus – "Take a photo of William instead!" Yn ddiweddarach, rydw i'n holi Rachel a oes unrhyw obaith cael llun o Brian yn mwynhau'r hufen iâ – mae hi'n gwenu gwên lydan, ac yn gaddo gwneud ei gorau. Ymhen pum munud, mae o'n eistedd o flaen y camera, ei lwy yn nyfnderoedd ei sundae hufen iâ. Cyn i ni fynd, mynna Brian roi cinio i ni, ac rydw i'n cael y pleser o flasu tasca gyda chatwad afal a chaws glas meddal Mouldy Mabel, un arall o gynhyrchion teulu Bowman. Mae'n goron berffaith ar drip hyfryd. Ar y ffordd adref yn y car (mae'r sat nav yn ein danfon ni ar draws gwlad, drwy lefydd nad ydym ni wedi clywed amdanyn nhw cyn hyn), mae Iestyn a minnau'n trafod yr holl leoliadau, a'r holl bobol y buon ni'n ddigon lwcus i gwrdd â nhw. Un peth sy'n clymu pob un, a brwdfrydedd ydi hwnnw. Mae pawb yn falch o'u cynnyrch, a phob un yn mynnu safon. A dydi clodfori'r bobol yma yn ddim byd i'w wneud gyda hyrwyddo cwmnïau Cymreig – mae o am ganmol cynnyrch safonol. Rŵan! Am y deiet 'ma... ar ôl i mi gael un darn bach arall o gaws...
Naws y Caws
www.fforchifforc.cymru
|
57
Chwedl a Llên Bwyd Ei dweud hi’n hallt raith
g Nghyf Mae cymal yn C 880-950) yn Hywel Dda (O caws yn arfer awgrymu bod ewn dŵr cael ei drochi m od hwnnw. halen yn y cyfn , tra byddai’r Yn ôl y gyfraith hallt roedd yn caws yn y dŵr d ig; ond yr eilia perthyn i’r wra r o’ u nn dy ei y byddai’n cael d i’w fwyta, ro ba yn dŵr, ac n i’r gŵr. roedd yn perthy aniaeth hwn Byddai’r gwah nyddio’n aml yn cael ei ddef gariad. wrth drefnu ys
58
|
www.fforchifforc.cymru
Llond llwyaid fach arall, os oes rhaid...
Roedd gan y Celtiaid lawer o ffydd mewn halen. O ran coginio a chadw bwyd, roedd halen yn dipyn o wyrth, ac roedd defnydd trwm arno. Yn ogystal â bod yn fodd i halltu cig, roedd yn gynhwysyn hanfodol wrth gynhyrchu menyn Cymreig, ac yn ffordd ymarferol o ychwanegu braster a blasau cyfoethog at luniaeth y Celtiaid, a fyddai’n ddigon llwm fel arall. Mae menyn Cymreig go iawn yn dal i gynnwys digon o halen i beri dychryn i lawfeddyg y galon. Ond mae’n hynod o flasus!
Cysgwch yn dawel
Byddai’r cartwnydd o America, Winsor M cCay, yn sôn yn aml yn ei st ribedi ffilm comig am ef feithiau caws pob. Byddai ei gymeriadau yn am l yn deffro o’u breudd wydion ar ôl bwyta’r saig hon. Cafodd ei stribed ffilm o’r enw ‘Dream of th e Rarebit Fiend’ ei gyhoeddi mewn papurau newydd rhwng 1904 a 1925, a’i dr oi yn ffilm heb eiriau o’ r un enw ym 1906.
Caws nefolaidd
Mae’r syniad bod caws pob (neu ‘Welsh Rarebit’ yn Saesneg) yn fwyd amheuthun gan y Cymry yn bod ers yr Oesoedd Canol. Yn ‘The Hundred Merry Tales’ (1526) mae Duw yn cael llond bol ar y Cymry a’u cyfeddach yn y nefoedd ac yn mynnu bod Sant Pedr yn mynd i’r afael â’r mater. Mae’r sant yn ymateb trwy weiddi ‘Welsh rarebit!’ a dyma’r holl Gymry yn ei heglu hi allan o’r nefoedd. Mae Sant Pedr yn cloi’r pyrth ar eu holau – ac yn ôl yr hanes dyna pam nad oes 'na Gymry yn y nefoedd.
Ei dweud hi’n hallt...eto
Yn ôl y sôn cafodd caws Caerffili ei ddatbl ygu dros gyfnod i fod yn ffo rdd gyfleus o ychwan egu’r halen y byddai’r gl owyr lleol yn ei golli ar sifft ddeg awr o waith caled dan ddaear. Dim rhyfed d felly ei fod yn elfen an hepgor ym mwyd y glowyr .
Blas newydd ar hen flas
Selsigen lysieuol draddodiadol Gymreig yw Selsigen Morgannwg. Ei phrif gynhwysion yw caws (Caerffili fel arfer), cennin a briwsion bara. Sonnir amdani yn llyfr George Borrow, ‘Wild Wales’ (1862). Bryd hynny caws o Forgannwg oedd y dewis gaws, ond does neb yn creu'r caws yma bellach. Mae caws Caerffili yn union linach yr hen rysáit am gaws Morgannwg, ac mae’n cynnig ansawdd a blas digon tebyg i’r gwreiddiol.
www.fforchifforc.cymru
|
59
Tarten sawrus nionyn coch, pwmpen gnau a chaws glas ae'r darten sawrus wedi colli ei gwerth M rywfaint diolch i'r cannoedd o fersiynau â gwaelod gwlyb sydd ar gael. Mae'n bechod am hynny gan fod tarten sawrus yn gallu bod yn hyfryd gyda'r toes iawn a llenwad hael.
ym
ru
gyfer y toes Ar 500g blawd plaen 300g menyn 1 melynwy w
hiff
or
1 Rhwbiwch y menyn i'r blawd nes ei fod yn edrych
fel briwsion bara mân, ychwanegwch y melynwy ac ychydig o ddŵr oer i'w cyfuno. Gadewch iddo sefyll mewn lle oer am awr. Rholiwch y toes i leinio tun fflan â gwaelod rhydd 25cm, pobwch yn wag ar 170ºC am tua 20 munud nes ei fod yn aur golau ac wedi caledu.
2 R hostiwch y bwmpen yn y popty mewn ychydig
o olew olewydd nes ei bod yn feddal. Meddalwch y nionod mewn ychydig o olew olewydd mewn padell ffrio. Gosodwch y llysiau yn haenau yn y toes wedi'i goginio a thaenu caws drosto, rhowch halen a phupur ar y wyau a'u cymysgu gyda'r hufen cyn arllwys y cyfan dros y toes a thaenu'r cennin syfi drosto.
3 P obwch ar 170ºC am tua 30 munud nes iddo galedu a dechrau troi'n euraidd.
60
|
www.fforchifforc.cymru
c
.c
ww
.ffo rc Ar gyfer y llenwad 2 nionyn coch mawr wedi'u sleisio'n denau 1 pwmpen gnau wedi'i thorri'n giwbiau 1cm 200g o gaws Perl Las wedi'i dorri'n friwsion 4 wy wedi'u curo'n dda ½ litr o hufen dwbl Dyrnaid o gennin syfi wedi'u torri'n fân
ru
ym
c
.c
ww
w. f f o r c h
r iffo
HAFAN
Ryseitiau
Digwyddiadau
Cymuned
Masnach
Amdanom Ni
Ychwanegwch ryseitiau, newyddion neu ddigwyddiadau
Syniadau slic ar gyfer gwerthiannau uniongyrchol llwyddiannus
Ryseitiau
Mae cyfres Syniadau slic Fforch i Fforc wedi'i dosbarthu'n eang fel DVD yn rhad ac am ddim i hyrwyddo ffyrdd y gallai ffermwyr a chynhyrchwyr wella eu gwerthiannau uniongyrchol i brynwyr.
Teledu Fforch i Fforc
Mae pum sioe nodwedd 10 munud o hyd yn dangos sut i osod eich cynnyrch a gwerthu'n effeithiol mewn marchnad ffermwyr, trawsnewid eich siop fferm, creu pecynnu a dyluniad llwyddiannus, yn ogystal â chael gwynt dan adain cynllun bocsys. Mae nifer cyfyngedig o'r DVD ar gael o hyd gan info@fork2fork.wales neu gallwch weld y gyfres ar Deledu Fforch i Fforch trwy'r wefan.
Digwyddiadau i Ddod Gŵyl Fwyd a Chrefftau Portmeirion
SCE644 - F2F Briefing Notes A5 16pp_Layout 1 16/11/2011 09:19 Page 1
Syniadau slic ar werthu bwyd yn uniongyrchol! Top tips on how to sell food direct!
www.ff orchiff orc.or
g.uk
www.fo
rk2for k.or
g.uk
Syniadau
Top tips
on how
slic!
to sell fo
od direct
!
Dylun io/De sign: www .fbagroup .co.uk
Mae’r a chy DVD hwn nh ar eu he yrchwyr sydgyfer ffe rmwy lw trw d eis r i’r cw smer. y werthu’n iau cynydd This DV union Os ydy gyrcho u produ D is for far l yn bar ch yn gynhyr profitscers who wa mers and od dyma’r neu’n me chydd bwyd consumby selling nt to maxim ddwl ara DVD i a diod direct er. chi llgy ! feirio, to the ise Bydd Wheth 4 er you ‘syniadaudarn 10 mu pro ’re alre duc slic’ i chi nud y DV ac yn D yn this is er or thinkin ady a food aw ar and the DV g hynny grymu’r pet sut i sefydl rhoi D for youof diversifyi drink all The DV ng, the i’ch llin wneud cym hau bach ychu’ch busnes ! , ell wa D's n ain wa four 10 provid elod, gan t o wahan negol ● e iaeth Gwert gynnw set-up you with ‘topminute featur hu ys: es wil tips march mwy effe that canthrough to ithiol me nadoed those ’ from how l make d to ext wn bot ● ffer all ra tom mwyr Siop y line, inc the differe touches luding nce to gwert fferm - traw ● : More you hiant trw snewid r effe y ailosod eich ● at a farm ctive selling Pecyn y siop nu ers’ ma i lwydd - brandio ● rket Farm a dyluni o sho o ● with you p - transfo Cael cyn rm r shop llun bly ● layout sales chau ar Rhann Packa gin wc ei draed perffor h y DVD for suc g - brandi hwn gyd mia ng ces and d s cyffred cwsm design ● eriaid inol - sy’a staff i we Gettin i gwert lla’ch g a box hiant. ddod nôl ac n sicr o gae schem Share i gynydd l e off the u all rou this DVD wit ground nd per h staff to attr act ret formance - to improve gua increa urn cus se sal tomers ranteed es. and
www.fforchifforc.cymru www.fforchifforc.cymru
|
61
Sgwrsio Fforch i Fforc.
Marchnad Stryd Uplands
Blasu’r bwyd mwyaf blasus Mae Lucy Beddall o Urban Foundry yn Abertawe yn un o gydlynwyr Marchnad Stryd Uplands, un o’r rhai gorau yng Nghymru. Hi sy’n gyfrifol am farchnata a hyrwyddo.
Dechreuodd y cyfan pan... Ddaeth criw o bobl ragweithiol iawn at ei gilydd a thrafod y syniad o gael marchnad stryd yn Uplands. Fe ddywedon nhw ‘dewch i ni wneud hyn’.
Bwyd oedd ein dewis cyntaf... Mae pawb yn dwlu ar fwyd! Roedden ni am ddod â bwyd gwych o Gymru i Uplands, i Abertawe gyfan ac i’r ardal yn gyffredinol. Mae amrywiaeth enfawr o fwyd gyda ni, sy’n rhoi cyfle i bobl adael y farchnad â llond bag o bethau da na fydden nhw’n eu cael fel arfer.
Dim ond y pethau da... Ry’m ni wastad yn sicrhau bod y bwyd wedi cael ei ffermio neu ei wneud gan y bobl sy’n ei werthu, heb unrhyw frandiau mawr yn sleifio i mewn a chymryd drosodd. Mae ’na rywbeth arbennig ynglŷn â phob dim hefyd. Er enghraifft mae pobl yn gwerthu bara, ond bara gyda blasau bendigedig.
62
|
www.fforchifforc.cymru
“Pobl sy’n trafod a’r cynhyrchwyr sydd wedi gwneud y bwyd. EU HOLI NHW ˆ ˆ YNGLyN A’R hanes sydd ˆ i’w y tu ol betys neu eu bara...”
“Mae’n brofiad, mae’n ddigwyddiad. Mae’n gyffro cymdeithasol gwych.”
Profiad Marchnad Uplands...
Siopa’n ddi-baid...
Marchnad stryd enfawr, yn llawn cyffro. Pobl yn siarad â'r cynhyrchwyr sydd wedi gwneud y bwyd eu hunain, gan eu holi nhw am y stori y tu ôl i’w betys neu eu bara, a’r ffordd orau o baratoi’r bwyd. Mae gennym ni lwyfan perfformio. Cyffro cymdeithasol – mae’n dod â’r ardal yn fyw.
Mae 'na stondinau bach sy’n ffefrynnau 'da fi. Rwy’n prynu sawsys a bara; prynu rhywbeth i ginio a phethau i’w rhoi yn yr oergist, felly mae llond gwlad o stwff ’da fi wrth adael. Rwy’n addo bob tro na fydda' i’n prynu rhagor yno wedyn, ond rwy’ wrth fy modd yn lân.
Mwy na man pert...
Pleser prynu o lygad y ffynnon...
Mae’n edrych yn fendigedig, ond mae’r holl aroglau’n bwysig hefyd. Mae’r holl synhwyrau yn fyw i gyd. Weithiau mae’n rhaid i mi sefyll gan eu holi er mwyn peidio â rhedeg ati gan ddweud ’mod i eisiau prynu popeth.
Mae’n brofiad. Mae’n ddigwyddiad. Mae’n llawn cyffro cymdeithasol hyfryd. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n dathlu’r wlad hon a’i chynhyrchwyr bwyd anhygoel.
Dod draw yn eu miloedd... Fe gyfron ni bron i 3,000 un dydd Sadwrn. Mae’n brysurach bob tro. Ar ddiwrnod poeth o haf mae’n llawn dop. Mae’n beth gwych i’w weld.
Testun sgwrs go iawn... Ar ddiwrnod y farchnad, mae trydar yn mynd o’i go. Gallwch chi ddilyn yr hanes wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen. Mae pobl a stondinwyr yn trydar ‘ni’n mynd i’r farchnad’ ac wedyn gewch chi bobl yn trydar am y bwyd maen nhw wedi’i goginio, gan ddweud ‘Rwy’ newydd wneud hwn, ond yw e’n wych’, ac mae cyffro bendigedig yma.
Cymru a’r byd... Cewch chi brofi pethau newydd yn y farchnad. Er bod pob peth yn dod o Gymru, mae dylanwadau o bob cwr o’r byd ar y bwyd – rwy’n meddwl bod hynny’n ardderchog.
Barn merch o Lundain (gynt) ar fwyd o Gymru Mae’n wych. Oherwydd bod gennym ni safonau mor uchel, mae popeth y gallech chi ei weld mewn marchnad yn Llundain yma. Mi fedrwch chi ddod o hyd i’r cyfan yn Uplands a marchnadoedd stryd eraill yn yr ardal. Byddai Llundeinwyr wedi’u synnu’n llwyr gan y farchnad anhygoel yma. Bob wythnos gallwch ddod o hyd i farchnad ffermwyr yng Nghymru sy'n agos at eich cartref. Dewch o hyd i’ch marchnad ffermwyr agosaf ar www.fforchifforc.cymru
www.fforchifforc.cymru
|
63
Mae 'na dipyn o ddadeni ar hyn o bryd yn y byd bragu cwrw a seidr yng Nghymru. Yn debyg i win yn Ffrainc, maen nhw’n cael eu hystyried fwyfwy fel mynegiant o’r wlad sy’n eu cynhyrchu. Dyma Michael Smith yn mynd ar daith ddirgel i gwrdd â’r cynhyrchwyr, ac i gael blas ar beth o’r hud a lledrith lleol. Geiriau Michael Smith Ffotograffau Warren Orchard
64
|
www.fforchifforc.cymru
CWRW CREFFTUS R wy’n dechrau’r daith wrth yrru i lawr eangderau’r M4, gan sleifio uwch arfordir de Cymru. Mae bryniau cydnerth yn codi o’r môr, uwchben adfeilion diwydiant trwm, trefi dur a phorthladdoedd glo ar gyfer y pentrefi glo sy’n uwch i fyny’r cymoedd, ac sy’n arwain at filltiroedd a milltiroedd o gefn gwlad ir. Rwy’n teimlo, fel erioed, rhyw berthynas ryfedd, gyfarwydd â’r wlad hud a lledrith hon, man sy’n fy atgoffa o’m cartref mewn cymaint o wahanol ffyrdd, ond sydd, ar yr un pryd, yn ddirgelwch llwyr i mi hefyd i bob golwg. Dyma gofio noson o haf gyda ffrindiau mewn cae rywle yng Nghymru un tro. “Beth yw diod genedlaethol Cymru?” holais. “Te majic myshrŵms” oedd yr ateb ewn. Diolch byth, nid blasu’r ddiod egsotig a metaffisegol heriol honno yw fy ngwaith ar y daith yma. Rwy’ yma i chwilio am beth o hud y wlad mewn ffordd lawer llai cymhleth, lawer mwy blasus – y seidr a’r cwrw crefft sydd wedi bod yn datblygu fel madarch yng Nghymru dros y pum neu ddeng mlynedd diwethaf. Tiny Rebel oedd ein cyrchfan cyntaf; uned ffatri fechan ar ystâd ddiwydiannol ysgafn ar gyrion Casnewydd. Roedd llanc â gwallt Mohican gwyrdd llachar yn pysgota hopys poeth wedi’u berwi allan o degell gopor. “Sawna bach neis,” meddai e’n gellweirus. Tiny Rebel yw’r cwrw mwyaf trefol i ni ei flasu, a hynny am sawl rheswm – mae’r brandio pyncllyd, graffitaidd ei naws yn gwneud iddo deimlo fel cwrw ar genhadaeth: cyflwyno to iau i bleserau cynnil cwrw crefft, a’u diddyfnu nhw oddi wrth yr hen WKD glas 'na ar yr un pryd. Erbyn hyn mae 'na ddeg yn gweithio i’r cwmni. Pan ddechreuon nhw dim ond dau oedd – dau beiriannydd yn macsu cwrw cartref mewn garej. “Wyth deg y cant o’r amser roedd y cwrw yn uffachol, ond dyna shwd roedden ni 'di dysgu orau.” Maen nhw’n dal i ddefnyddio’r hen gopor bychan bach a’r tun mash o’r garej 'na i arbrofi gyda’u diodydd newydd (mae’n haws gwneud, neu wneud smonach o, ugain litr nag 20,000 litr). Ces i’r fraint a’r anrhydedd o weld y ffridj wnaethon nhw ei brynu ar gumtree am £20, gan droi effaith inswleiddio'r rhewgell du chwith drwy roi
gwresogydd ynddi i weithio’r cwrw. Agorais ddrws y ffridj a daeth gwyddonydd gwallgof i’r golwg. Wrth i’r cwmwl glirio datgelodd gostrel labordy pigfain yn llawn o gwrw hynod o gymylog. “Dim ond tamed o sbort,” medden nhw – ond yn fy marn i roedd e’n fwy tebyg i beirianwyr hynod o fanwl yn cael ‘tamed o sbort’. Cwrw mwyaf llwyddiannus Tiny Rebel yw FUBAR, cwrw golau Americanaidd ei naws. “Liciet ti boteled?’ “Oes rhywbeth dipyn bach yn llai ffwl-on 'da chi?” “Hwde, trïa’r Cwtch.” Yn ôl eu disgrifiad nhw, mae e’n gwrw coch Cymreig. Ac am flas tri-dimensiwn, bendigedig, cyfan sydd iddo fe: mae 'na flas taffi yn sibrwd yn rhywle o dan y nodau glân, llawn ffrwythau uchel, a blas ‘rhost’ anarferol, oedd yn hala fi i feddwl am grofen porc – blas annisgwyl oedd yn gwbl newydd i fi. “Beth sy’n mynd i ddigwydd i gwrw crefft nesa', 'te? holais i. “Mae hi dal yn gynnar iawn ar gwrw crefft. Rhai ifainc yw lot o’r rhai sy’n ei yfed e, felly bydd y gwahanol flasau sy’n apelio atyn nhw’n diffinio sut bydd e’n datblygu.” Yn sicr mae Tiny Rebel yn fragdy ifanc ei ysbryd – dim ond 32 oed yw’r partner hynaf. Ond o farnu ar sail y Cwtch bendigedig, mae dyfodol cwrw mewn dwylo diogel; ac os taw dyma beth mae’r bobl ifainc yng Nghasnewydd yn ei yfed y dyddiau hyn, mae 'na obaith o hyd i’r hil ddynol. Troi tuag at fryniau mwyn sir Gaerfyrddin wnaethom ni wedyn, lan trwy’r twnnel coed mwya’ bendigedig a welais i erioed, yn pelydru drosto yn haul hwyr y prynhawn. Ein cyrchfan oedd yr Handmade Beer Company. Roedd yr enw'n taro i’r dim: bragdy llai o lawer a mwy unigolyddol na Tiny Rebel; band un dyn mewn sgubor. Gyda’i farf fawr fflwfflyd fel barf gwenynwr, mae rhyw ymdeimlad o ddewin cwrw doeth o gwmpas Ian. O fod yn ddylunydd graffeg yng Nghaerdydd – fel y cyn-beirianwyr yng Nhasnewydd, yn gyfuniad o’r creadigol a’r technegol – dihangodd i’r fan yma i fragu yn ei ysgubor. Y fe sy’n gwneud popeth bron – o facsu’r cwrw i gynllunio’r labeli a'u glynu nhw ar y poteli. Mae’n 47 oed nawr; fe ddechreuodd
www.fforchifforc.cymru
|
65
“
Mae pedwar cynhwysyn mewn cwrw cartref: haidd, hopys, burum a dw ˆr. Mae 'na ddau gynhwysyn ychwanegol mewn cwrw crefft - Gweplyfr a Trydar 66
|
facsu cwrw cartref pan oedd e’n ugain oed, er mwyn arbed arian, ond yn raddol ymddiddorodd fwyfwy ynddo fel galwedigaeth oedd yn bodloni’r artist ynddo. Dair blynedd yn ôl daeth yn fywoliaeth iddo. Ar y cyfan mae cwrw Ian yn fwy traddodiadol Brydeinig ei arddull na’r arddull Americanaidd, lawn hopys, a roddodd yr hwb cychwynnol i’r chwyldro cwrw crefft. Ond mae’n awyddus i arbrofi – gyda basil mewn cwrw du, a the lapsang suchong hyd yn oed. Mae modd gwneud hyn ar raddfa fechan; os aiff popeth yn ffliwt dim ond ychydig gwrw sy’n mynd yn ofer. “Dyw’r cwmnïau mawr ddim yn gallu fforddio arbrofi. Bydde’n well gyda nhw pe bai pobl eisiau’r un peth bob tro, fel yr hen fois yn y dafarn bob dydd.” “Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cwrw cartref a chwrw crefft?” “Mae pedwar cynhwysyn mewn cwrw cartref: haidd, hopys, burum a dŵr. Mae 'na ddau gynhwysyn
www.fforchifforc.cymru
ychwanegol mewn cwrw crefft – Gweplyfr a Trydar. Yr un peth yw e yn fy marn i.” “Ydi’r sîn gwrw Gymreig wedi newid lot yn ddiweddar?” “O do, mae’n enfawr – mae’n rhaid bod yna ryw ddeg gwaith yn fwy o fragwyr bach ag oedd 'na ddeng mlynedd yn ôl. Mae Caerdydd yn dechre tyfu’n fecca i’r sîn Brydeinig, gyda hanner dwsin o gynhyrchwyr bach. Mae’n faint braf – pawb yn cydweithio â’i gilydd, pawb yn nabod ei gilydd, mae’r bragwyr bach i gyd yn barod iawn i roi help llaw i’w gilydd.” Gwerthu’n lleol mae Ian ar hyn o bryd. Mae ganddo ddwy gasgen ar y tap ym mwyty Y Polyn ymhellach i lawr y lôn. Y noson honno yfes i beint perffaith o CWRW Ian yn y Polyn. Rwy’n cofio dyfnder cymhleth, trawiadol o flasus CWRW, sy’n lliw ambr tywyll. Roedd rhyw ddyfnder cyfrin i’r blas, a rhywbeth sbeislyd, llawn ffrwythau ynddo: blas amhosibl-ei-ddiffinio, hawddiawn-ei-yfed.
CWRW Crefftus
www.fforchifforc.cymru
|
67
“
Yin ac yang cwrw crefft yw’r tyndra creadigol rhwng traddodiad ac arloesi. Ond y peth pwysicaf yw bod y cwrw’n ffein i’w yfed.
“Blas beth sydd ar hwn?” holais i Fòs y Polyn, mewn ymgais i daro’r hoelen yn union ar ei phen. “Blas cwrw!” gwaeddodd, yn hynod o frwd. Hoffwn pe bawn i’n medru bod yn fwy pendant fy nisgrifiad o’r blas hwn. Yn anffodus mae gan y Bòs, gŵr o’r Alban a ymgartrefodd yng Nghymru ar ôl “byw gyda’r anwariaid” yn Llundain, flas at chwisgi hynafol Old Poultney, ac roedd yn awyddus i rannu ei gyfoeth, felly 'dyw fy nodiadau am y cwrw ddim cweit mor eglur ag y dylen nhw fod. Does dim amdani, felly, ond cymryd fy ngair – mae CWRW yn fendigedig – a, gwell fyth, rhoi gynnig arno eich hun. Roedd mymryn bach o ben tost gyda fi drannoeth wrth yrru tua’r gorllewin, i fryniau gogledd sir Benfro. Daethom o hyd i’n cyrchfan ar lechwedd yr oedd ei chloddfa lechi wedi toi Dau Dŷ’r Senedd. A dweud y gwir roedd yn fan arbennig o dda am lechi: roedd “SEREN BEER” wedi’i sgwennu mewn sialc ar lechen y tu allan i’r ffermdy, y drws nesaf at lechen lai oedd yn dweud “EGGS 50p.” Mewn â ni i’r tŷ i gwrdd ag Ali, a ddangosodd ei ystafell gefn i ni. Roedd yn llawn mygiau cwrw piwter yn hongian ar fachau, medalau aur, a rosetts yn dweud 2il neu 1af, cerwyn frag (twb mash i chi a fi) ac oglau cwrw. “Croeso i fragdy lleiaf Prydain. Falle.” Bragdy? Ro'n i’n meddwl... “Mae 'na dapiau cwrw yn un o’r waliau yn tŷ ni” medde fe, fel pe bai’r ffaith ryfedd hon yn ffynhonnell mwynhad di-ben-draw (er falle’n peri dryswch iddo). “Beth mae’r thermomedr yna ar bwys yn ei wneud, ’te?” “O, hwnna? I'r ham mae hwnna.” Dyna pryd y sylwais ar y goesgyn o ham prosciutto ar fachyn, yn awyrsychu yn y cwtsh dan star (neu ‘sbens’ i chi’r gogleddwyr). “Y’n ni’n cadw moch yn yr ardd.” “Ydych chi’n gwerthu prosciutto hefyd?” “Duw duw, nag y’n – mae’r rheolau amboithdy rheini'n hunllefus – at ein hiws ein hunain mae e.” Roedd y ffaith fod popeth mor d.i.y., yn gymaint o fand un dyn (dyna chi’r term yna eto…) yn gwneud i’r hylif nefolaidd a ddaeth o’r tapiau fod yn fwy o ddatguddiad fyth. Roedd ôl athrylith yn llechu yn y gwahanol fathau o gwrw. Roedd un yn gwrw du sur, llawn blas mwg, gyda rhyw arlliw o facwn a finag balsamig; ond fy ffefryn oedd Factory Steam, cwrw stêm sy’n cael ei wneud yn yr un ffordd â lager, ond ar dymheredd uwch. Mae hyn yn gwneud i’r burum gynhyrchu gwahanol flasau, rhai llawer mwy sionc, ffrwythus a blasus. Newydd gychwyn ar y wers hanes am gwrw stêm roeddem ni pan gurodd dyn bach crwn ar y drws: “Helô - wi wedi dod i hôl cwrw…” Ar hyn o bryd mae’n cael trafferth i gadw lan â’r galw: “Nos
68
|
www.fforchifforc.cymru
Wener yw’r noson brysuraf. Rwy’n gwybod pryd mae hi’n benwythnos arna’ i ar ôl i’r holl regiwlars fod draw. Mae’r wraig yn dweud y dylen i roi drws sy’n troi ar y tŷ.’ Am y tro, bragwr rhan-amser yw e; ei waith go iawn yw Athro Gwleidyddiaeth Rwsiaidd yr 20fed ganrif ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae e hefyd yn awyddus i ddysgu cwrs ar hanes cwrw – “Hwnnw fyddai’r cwrs mwyaf poblogaidd erioed gan y myfyrwyr!” “Tybed beth yw dyfodol cwrw crefft?” synfyfyriais eto. “Yn yr Unol Daleithiau y dechreuodd yr holl beth, ac ry'n ni’n dal i fod bum mlynedd ar ei hôl hi. Yn yr UD, mae cwrw yn yr un cae â gwin o ran safon, ac yn gystal diod i’w hyfed gyda bwyd. Mae’r farchnad hefyd yn barod i dalu amdano, yn yr un ffordd ag y’n ni draw fan hyn nawr yn fodlon talu £15 yn lle £5 am botel o win. O ran blas, y peth nesaf ar ôl hopys yw cwrw sur.” Falle bod cwrw sur yn syniad od os ydych wedi arfer â chwrw diddrwg-didda – dychmygwch surni sy’n rhoi rhyw gic, fel surni afal coginio yn hytrach na sychder chwerw hopys. Mae e ar fin dechrau gwneud cwrw sur blas riwbob ar y cyd â siop fwyd draw yn sir Gaerfyrddin. “Yin ac yang cwrw crefft yw’r tyndra creadigol rhwng traddodiad ac arloesi. Ond y peth pwysicaf yw bod y cwrw’n ffein i’w yfed.” “Shwd fyddech chi’n diffinio beth sy’n ffein i’w yfed?” “Chi’n gwybod ei fod e’n ffein pan y’ch chi eisiau un arall, ond yn gwybod na ddylech chi ddim.” “Shwd beth yw cael llond lle o gwrw yn y tŷ? “Wi ddim yn mynd mas gymaint ag o’n i.” Pam yn y byd byddech chi, pe baech chi’n byw mewn lle cystal â hwn? Dangosodd ei ieir, ei hwyaid a’i ddefaid i fi (“peiriannau torri gwair sy’n bennu lan fel cig oen”) yn y caeau. Byddai’n dwlu codi ysgubor yno, lle y gallai facsu cwrw un diwrnod, gyda golwg ar ymestyn wedyn hyd y gronfa ddŵr yr ochr draw i’r hewl. O’r fan honno y daw’r dŵr ar gyfer ei gwrw, “fy nghynhwysyn mwyaf lleol oll”. “Cefndir ac ethos d.i.y. sydd gyda fi – macsu cwrw fel ffordd o ‘ddianc rhag yr hunan’ fel petai. Mae 'na elfen o ryddid wrth ei wneud e eich hun.” I rywun o’r ddinas, fel fi, sy’n byw mewn fflat gyfyng, ddrud, heb glem o ble daeth cynhwysion y swper y byddaf yn ei brynu o fini-archfarchnad yr orsaf, roedd ei fywyd yn edrych yn ddelfrydol. Roedd rhywbeth ym mêr fy esgyrn eisiau codi dau fys ar y dyn oddi mewn a dechrau cochi fy ham fy hunan ar ben bryn hefyd. Yn olaf oll, dyma ni’n crwydro ’nôl i gyfeiriad y dwyrain, am Gwm Ebwy. Roedd ei fryniau gwyrdd, serth yn ymgodi uwch ein pennau, ac ambell wythïen o dai teras gweithfaol yn dal ei thir o drwch blewyn, fel iorwg. Gadael yr hewl fawr a dringo llethr frawychus, yn llawn o droeon boncyrs o droellog, heibio i chwareli llechi enfawr wedi eu cloddio yn ochrau’r bryniau, a’r hewl yn disgyn y naill ochr a’r llall at farwolaeth sydyn, bendant, a’r golygfeydd enfawr ac anhygoel. Ar y fferm roedd y bois yn gorffen eu pysgod a sglodion nos Wener, ac yn yfed (er mawr gysur i fi) eu seidr Hallet eu hunain. Yn fy marn fach i, roedd hwn yn gyfuniad bwyd a diod o fri. Estynnodd rhywun botel o’r seidr cyntaf: ‘beautifully simple’ yn ôl y label, ac yn wir yr oedd e - hyfryd, cytbwys, gloyw ond cynnil…
CWRW Crefftus
www.fforchifforc.cymru
|
69
Aeth Martin Hallet â ni allan i weld lle mae’r hud a lledrith yn digwydd, mewn cwt gyda dwsin o ddrymiau dur tal ac amp Marshall mawr yn sgrechen ‘Stairway to Heaven’ Led Zeppelin i bob cornel o’r cymoedd. “Shwd y’ch chi’n macsu’r seidr 'ma, ’te?” “Nid macsu seidr y’ch chi. Gwneud seidr y’ch chi.” “O, iawn – sut ’te, fel gwin?’ “Ie, yn debyg iawn i win - rwy’n arbrofi gydag ambell i dechneg gwneud gwin ar hyn o bryd, fel mae’n digwydd,” (gan droi’r gwaddod), “fel maen nhw’n gwneud gyda Burgundy gwyn, sy’n rhoi blas a theimlad mwy cadarn yn y geg. Wi ddim yn gwybod a fydd e’n gweithio eto, cofia...” “Y’ch chi’n arbrofi llawer?” “Ydw, wrth gwrs, rwy’n arbrofi drwy’r amser. Mae rhai o’r arbrofion yn methu’n drychinebus, ond mae popeth yn sbort,” meddai, gan fynd â fi mas y bac i’w labordy bach, gyda’i reffractomedrau, sleidiau microsgop ac offer labordy.
70
|
www.fforchifforc.cymru
Mae rhai o’r arbrofion yn methu’n drychinebus, ond mae popeth yn sbort. “Ond hwn yw fy offeryn pwysicaf!” Chwarddodd, gan ddal gwydr gwin gwag uwch ei ben – “hwn, a fy nhrwyn a fy nhafod. Mae deall y gwahanol fathau o furum a’r microbau yn allweddol i ddeall a dilyn y broses o eplesu, o’r sudd i’r seidr. Mae popeth yn dibynnu ar ddeall y fiodechnoleg, os hoffech chi. Mae pobl yn dilyn y drefn yn rhy aml. Y dyddie hyn mae gyda ni drydan a thechnoleg a drymiau dur, 'sdim gofyn i chi aredig cae yn gwisgo clocs a smygu pib glai i alw seidr crefft arno fe.” “Beth sy’n ei wneud e’n seidr crefft, ’te?” “Y gwahaniaeth rhwng seidr crefft a seidr ffatri yw mai’r ffatri honno yw unig draddodiad ac unig darddle’r seidr hwnnw; mae wedi’i gynllunio gan dechnolegydd bwyd, sy’n fath o dechnoleg coginio, ac sy’n defnyddio afalau o Tsieina sy’n dod draw ar long ar ffurf dwysfwyd. Dim ond proses
CWRW Crefftus
ffatri, cynnyrch safonedig, sy’n cael ei wneud yn yr un ffordd am byth bythoedd.” Wrth iddo sôn am y cynnyrch ffatri digynefin yma, cefais gip ar lond paled o rywbeth oedd yn edrych fel potel siampaen fechan yn hel llwch yng nghornel yr ysgubor. “Beth yw’r rhain?” “O, arbrawf aflwyddiannus yw hwnna. Seidr vintage oedd wedi eplesu’n llwyr yn y botel, fel siampaen methode traditionelle. Rhyngot ti a fi roedd e’n blasu’n ddiawledig.” Agorodd un o’r poteli, gan ddisgwyl y gwaethaf, a’i dywallt i’r gwydr gwin lliw ambr hyfryd, trwm. Er mawr bleser i bawb, roedd wedi aeddfedu ac eplesu yn ystod y pedair blynedd yn y sied. Roedd wedi troi’n foethbeth hynod o flasus, ysgafn, gyda rhyw arlliw o flas bisgedi yn perthyn iddo. Bron nad oedd e’n siampaen a wnaed o afalau yn lle grawnwin. “Wertha’ i fyth mo’r rhain, cofia – mae llawer gormod o waddod yn y gwaelod. Ond rwy’n falch iawn i ti holi amdanyn
nhw, ro’n i wedi anghofio’n llwyr eu bod nhw yna. Falle yr halaf i un neu ddau at ryw gystadleuaeth. Hwde, wyt ti am fynd â chwpwl adre 'da ti?” holodd, gan weld fy mod i wedi fy swyno gan y syniad. A minnau wrth fy modd ei fod e wedi cynnig, tynnais nifer o’r poteli o’r palet pedair blwydd oed, arbrawf anghofiedig oedd yn hel llwch. Mae 'da fi gwpwl ohonyn nhw o hyd ar y rhesel gwin yn y gegin. Dim ond dechrau ysgrifennu am y fath ddanteithbeth, sydd gystal am dorri syched, sydd ei angen ac yn syth rwy’ am ei yfed. A dweud y gwir, annwyl ddarllenydd, rwy’n mynd i roi un yn y cwpwrdd oer yn syth bin. Ac yna byddaf yn yfed llwncdestun i holl fragwyr y diodydd penigamp a flasais yn y Wlad werdd a hudolus hon. Am gasgliad bendigedig o bobl unigolyddol oedd y bois yna. Rwy’n codi het ddychmygol iddynt, un ac oll.
www.fforchifforc.cymru
|
71
CHWEDL A ˆ DIODYDD LLEN
PEINT O’CH BRAGAWD GORAU, DDEWINES! Mae sôn ers y chweched ganrif, bron iawn, am y wrach Ceridwen. Yn ôl rhai o gerddi Taliesin roedd hi’n gysylltiedig â chrochanau, a bragu diodydd llawn grawn a pherlysiau. Dywedir bod y ‘Gwin a Bragawd’ hwn wedi esgor ar wyddoniaeth, ysbrydoliaeth a bywyd tragwyddol.
72
|
www.fforchifforc.cymru
FFARWEL I’R BOTEL Cwrw yw diod genedlaethol Cymru, a Bragdy Felin-foel oedd y cyntaf y tu allan i’r Unol Daleithiau i werthu cwrw mewn caniau.
JD I CHI A FI Ymfudodd Joseph ‘Job’ Daniels o Aberystwyth i America yn y 18fed ganrif. Ei ŵyr Jack greodd y chwisgi hynod boblogaidd Jack Daniels sy’n cael ei fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd heddiw.
BROLIO EIN BRAGAWD Mae’r Cronicl EinglSacsonaidd am y flwyddyn OC 852 yn nodi gwahaniaeth rhwng cwrw golau a chwrw Cymreig o’r enw ‘bragawd’. Roedd hwn yn ddiod rhywle rhwng medd a chwrw heddiw. Roedd y cwrw Cymreig hwn o gyfnod y Sacsoniaid yn ddiod gref, feddwol, oedd yn cynnwys sbeisys fel sinamon, sinsir a chlofau yn ogystal â pherlysiau a mêl. Byddai’n cael ei fragu yn aml yn y mynachlogydd, gan gynnwys Abaty Tyndyrn a Phriordy Caerfyrddin, nes i Harri’r Wythfed ddiddymu’r mynachlogydd ym 1536.
GWANHAU'R DDIOD Mae’r jin sych o Lundain, Bombay Sapphire, yn defnyddio dŵr wedi ei buro o Lyn Efyrnwy ym Mhowys er mwyn gostwng ei gryfder i 40%.
O UN YNYS I’R LLALL Mae rhai haneswyr yn honni i Arthur Guinness ddefnyddio rysáit Gymreig o Lanfairfechan ger Bangor ar gyfer ei stowt.
www.fforchifforc.cymru
|
73
CAWL GARLLEG GWYLLT A SEIDR
ym ww
c
.c
2 nionyn gwyn mawr wedi'u sleisio'n fân 2 daten wen fawr wedi'u torri'n fân 100g o fenyn Hanner bag o arlleg gwyllt, wedi'i olchi a'i rwygo'n dda ½ litr o seidr Halen a phupur
ru
Mae garlleg gwyllt yn anrheg ar ddechrau'r gwanwyn sy'n erfyn am gael ei gynaeafu – ond cofiwch ei dorri wrth y coesyn, a pheidiwch â thynnu'r gwreiddiau.
w. f f o r c h i f f
or
1 T oddwch y menyn mewn sosban fawr a meddalwch y
nionod a'r tatws, ychwanegwch y seidr a'i fudferwi nes bod y tatws yn feddal. Ychwanegwch y garlleg gwyllt a'i goginio ymhellach.
2 Defnyddiwch declyn priodol i'w gymysgu mewn
sypiau, ychwanegwch halen a phupur a'i weini gydag ychydig o crème fraiche, bara a chaws Cymreig.
74
|
www.fforchifforc.cymru
ru
ym
c
.c
ww
w. f f o r c h
r iffo
HAFAN
Ryseitiau
Digwyddiadau
Cymuned
Syniadau bwyd a ryseitiau rhad ac am ddim Fforch i Fforc Dylid parchu bwyd da – dewch o hyd i ryseitiau newydd a syniadau gweini yng nghasgliad ryseitiau Fforch i Fforc, neu beth am ychwanegu eich rhai eich hun? Os oes gennych gynhwysion sydd yn ffefryn i chi, syniadau newydd neu gyngor arbennig ar gyfer seigiau, yna rhannwch y rhain ar-lein ochr yn ochr â chogyddion a gweithwyr proffesiynol eraill. Anfonwch eich rysáit gyda lluniau neu fideo a darlledwch y rhain i gymuned Fforch i Fforc heddiw.
Amdanom Ni
Masnach
Ychwanegwch ryseitiau, newyddion neu ddigwyddiadau
Ryseitiau
Teledu Fforch i Fforc
Digwyddiadau i Ddod Gŵyl Fwyd y Fenni
Ryseitiau Ni allai fod yn haws creu ryseitiau syml o fwyd lleol. Boed yn gwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin, gallwch chwilio’r wefan am ryseitiau o bob math neu mae croeso ichi ychwanegu eich rhai eich hun
www.fforchifforc.cymru
Cacennau cranc Cymreig, leim a chilli
Sgons tatws
Sgiwerau tikka cyw iâr gyda raita iogwrt cnau coco
www.fforchifforc.cymru
|
75
Sgwrsio Fforch i Fforc.
ˆ a medd Fferm fel Snowdon Honey
Gwlad ˆ y Mel... a’r medd Deryl Jones yw perchennog melfa a meddfa Snowdon Honey Farm, busnes bychan iawn wrth droed yr Wyddfa. Ond mae ei fêl a’i fedd yn unigryw.
Gwaith melys... Roedd busnes arall gen i ac fe ddechreuais i gadw gwenyn er mwyn cadw fy mhwyll. Dim ond busnes bychan ydy o, ond mae’n unigryw. Mi fydda' i a chriw bychan o wenynwyr lleol yn codi’r mêl bob rhyw bythefnos a chael y gwahanol liwiau a’r gwahanol flasau. Pleser pur ydi’r rhan fwyaf o’r gwaith wrth i mi baratoi a chyflwyno’r cynnyrch ar ei orau i’w werthu yn fy siop fechan a’r caffi ar y stryd fawr.
Pob math o flasau... Mae’n dibynnu ar y tymor ac ar y tywydd. Y syniad yw eich bod chi’n cael blasau o wahanol blanhigion ar wahanol adegau ac o wahanol fannau. Mae rhai yn hoffi te, rhai yn hoffi coffi – gall y gwahaniaeth o ran mêl fod lawn cymaint. Mae gennym ni tua 30 o wahanol flasau ar werth ar hyn o bryd.
Gwneud medd... Roedd ychydig o fêl dros ben a dechreuais i wneud ychydig o fedd i mi fy hun. Dechreuodd pobl eraill holi am gael prynu peth wedyn. Mae ymwelwyr o dramor wedi mopio’n lân ar y medd. Mae’n well diod na siampaen. Ers talwm, dyma’r ddiod y byddech chi’n ei hyfed ar eich mis mêl. Mae’n un o wir ddiodydd Cymru.
76
|
www.fforchifforc.cymru
“Mae ein cynnyrch yn cynnwys ˆ 95% o fEldim ond 75% sy’n ofynnol ˆ yn ol y gyfraith. Fyddwn ni ddim yn ei gynhesu.”
“Lliw tebyg i aur, ac mae’n werthfawr fel aur oherwydd ei safon a’i faeth.”
Prydferthwch y lliw...
Byw fel y gwenyn...
Lliw tebyg i aur, ac mae’n werthfawr fel aur oherwydd ei safon a’i faeth.
Mae 'na ochr gas i bobl, ond dwi’n gweld y gwenyn yn cyd-fyw ac yn cydweithio. Yn fy marn i mi allent ddysgu i ni sut mae byw. Mae 'na hen draddodiad, yn sicr trwy Ewrop, bod pobl yn siarad â'r gwenyn... pan fydd rhywun yn marw, er enghraifft. Neu pan fydd baban yn cael ei eni – rhannu’r newyddion da gyda’r gwenyn. Maen nhw’n aelodau o’r teulu.
Mor naturiol â phosib... Rydan ni’n rhoi’r mêl trwy un hidlen ac un yn unig – a dyna’r unig brosesu wnawn ni. Mae ein cynnyrch yn cynnwys 95% o fêl – dim ond 75% sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Fyddwn ni ddim yn ei gynhesu. Fwya’n byd y byddwch chi’n prosesu mêl, gynta’n byd y byddwch chi’n colli cryfder ei flas a’r maeth sydd yno. Mae’n debyg i’r gwahaniaeth rhwng prynu bwyd o wledydd tramor a chael bwyd yn syth o’r ardd.
Moddion lliw aur... Mae’n cynnwys gwrthfiotigau. Rwy’n cofio torri fy llaw efo bwyell a dydw i ddim yn un am bwythau a doctoriaid ac ati. Rhoddais i lwyth o fêl ar y clwyf, rhwymyn drosto fo a’i adael o am bythefnos. Roedd o’n brifo’n ofnadwy, ond ddaru o wella ar ei ben ei hun a does dim marc arno fo.
Mae ’na rai sy’n ei brynu oherwydd alergeddau... Fedrwch chi ddim â disgrifio’r maeth. Mae pobl yn meddwl mai gwyrth ydi o. Ac mae ysbytai yn holi byth a beunydd am fêl ar gyfer triniaethau. Y mêl pur maen nhw eisio.
Mae bod yn fach yn beth mawr... Rwy’n cofio cynhyrchydd mêl o Dwrci yn dod acw, ac mi roedd o’n rheoli tunelli o fêl, a dim ond rhyw dunnell gennyf i. Roedd o’n methu credu’r peth. Doedd o ddim wedi dallt bod cymaint o wahanol flasau.
Man arbennig, cynnyrch arbennig... Lle bach ydy Cymru. Mae’n rhaid i ni arbenigo a gwneud pob dim i’r safonau uchaf. Mae ein tirlun yn arbennig, yn unigryw – ac mae’r mêl yn adlewyrchu hynny. Mae’r archwaeth am fêl yn llifo trwy Gymru, a chynhyrchwyr bychain yn rhoi cychwyn arni ym mhob cwr o’r wlad. Cewch wybod am ragor o gynhyrchwyr ar www.fforchifforc.cymru
www.fforchifforc.cymru
|
77
“
FforcH i Fforc - teithiau bwyd lleol
...stondinwyr yn crwydro draw i gael clonc â’i gilydd. Maen nhw’n sylwebu ar fasnach y diwrnod, yn estyn bwyd a diod i’w gilydd.
...gan bwyso ar olwyn ei dractor Massey Ferguson. “Ydi hwn yn ddigon ffermwrcefn-gwlad i chi?” hola’n gellweirus. “Fedra i gnoi gwelltyn a dweud ‘ooharr’, os hoffech chi.”
78
|
www.fforchifforc.cymru
Blas beth sydd ar hwn?” holais i Fòs y Polyn, mewn ymgais i daro’r hoelen yn union ar ei phen. “Blas cwrw!” gwaeddodd, yn hynod o frwd. MAE pob dim a wnawn ni yma, pob dim da’n ni’n ei dyfu neu’n ei godi neu’n ei goginio, yn cael ei werthu yn ein siopau ni... Ac yn olaf, mafon, ac mae hwn yn flas syfrdanol - fel petai'r mafon newydd eu pigo a'r hufen newydd ei gorddi. Gwena Rachel mewn ffordd sy'n dweud, dwi'n gwybod - mae o'n anhygoel, tydi?
"Os rhowch chi’r cymorth cywir iddyn nhw, eu denu atoch, fe fyddan nhw’n hapus iawn i wneud i'ch bara fod yn flasus tu hwnt." Roedd rhai cawsiau yn edrych fel wyneb y lleuad, a rhai eraill fel rhisgl coeden hynafol.
Newydd gychwyn ar y wers hanes am gwrw stêm roeddem ni pan gurodd dyn bach crwn ar y drws: “Helô - wi wedi dod i hôl cwrw.”
“Duw wedi ymarfer ei grefft ar yr eog, ond wedi perffeithio ei grefft ar y sewin.”
Dyw pysgod ddim yn dwp
...I ffwrdd ag e James unwaith eto ar ei dractor, i blannu pys a chael cip ar y garlleg a gwneud beth bynnag mae ffermwyr yn ei wneud
...dyw'r tad na'r mab ddim yn dweud yr un gair, ond maen nhw'n gwybod yn union beth yw’r pas-dedeux nesaf a thro pwy yw hi i symud. Mae’n brofiad. Mae’n ddigwyddiad. Mae’n llawn cyffro cymdeithasol hyfryd. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n dathlu’r wlad hon a’i chynhyrchwyr bwyd anhygoel.
www.fforchifforc.cymru
|
79
ru
ym c
.c
ww
w. f f o r c h i f f
or
Rydym wedi cyrraedd pen ein taith... ...ond os ydych am ddechrau ar eich taith bwyd a diod eich hun, beth am ymweld 창 www.fforchifforc.cymru a dewis un o'r cannoedd o leoliadau bwyd uniongyrchol sydd ar gael ergyd carreg o'ch cartref, boed yn farchnad ffermwyr, yn siop fferm, neu'n ymweliad 창'r fferm ei hun.
www.fforchifforc.cymru
80 | www.fforchifforc.cymru