fforch i fforc teithiau bwyd lleol
Byd y Blawd
“ Mae e fel myfyrio.
Fe allwch chi feddwl am unrhyw beth neu ddim byd, gwagio’r meddwl neu gynllunio beth fydd eich creadigaeth nesaf.”
2
|
www.fforchifforc.cymru
BYD Y BLAWD Crefft gartrefol iawn yw pobi i rai ond mewn gwirionedd mae’n llawn o hud a lledrith, fel y gwelodd Jackie Bates pan gododd rhyw fore bach i weld blawd, dwr ˆ a halen yn troi’n rhyfeddod byw. Geiriau Jackie Bates Ffotograffau Iestyn Hughes
www.fforchifforc.cymru
|
3
“Mae 'na wahanol fathau o furum yn yr awyr o’n cwmpas, yno’n disgwyl, yn anweladwy... Os rhowch chi’r cymorth cywir iddyn nhw, eu denu atoch, fe fyddan nhw’n hapus iawn i wneud i'ch bara fod yn flasus tu hwnt.” yddwn i ddim yn disgrifio fy hun fel un sy’n codi’n fore. Mewn gair, rwy’n enwog am fod yn hoff o’m gwely. Felly wrth i mi rolio allan o’r lle cynnes hwnnw am bedwar y bore, rwy’n holi beth yn y byd ddaeth dros fy mhen wrth gytuno i ymchwilio i bobi yng Nghymru? Mae hi’n ddiwedd mis Ebrill, ond am chwarter i bump y bore mae hi fel y fagddu o hyd. Ffarweliaf â chysur Yr Hardwick a dechrau ar daith trwy’r gefnwlad dywyll, gan anelu am uned ddiwydiannol ar gyrion y Gelli Gandryll i sgwrsio ag Alex Gooch, Pobydd Crefft ynglŷn â – wel – bara. Mae’r wlad o amgylch y Fenni mor bert, yn arbennig yn y gwanwyn; blodau, dail yn agor, ŵyn bach – maen nhw i gyd i’w gweld, am (ac mae arna’ i ofn dweud) – bump y bore. Wrth yrru trwy’r pentrefi does dim un cerbyd arall ar y ffordd, dim ond cymoedd yn llawn o niwl, niwl sy’n gorwedd yn ddistaw ac yn dawel uwch ben llawr pob cwm. Wedi cyrraedd o’r diwedd. Arogl pobi? Oes, rhyw fymryn, ac yna dyma ni, mewn stafell gynnes. Cawn ein cyflwyno i Liam, cynorthwyydd Alex, ac Alex ei hun. Mae e’n olew olewydd ac yn does i gyd. Dydyn ni ddim yn ysgwyd llaw. Un sgwâr, gyda nenfwd uchel, yw’r uned ac mae’r poptai yn bentwr sgleiniog o focsys dur di-staen. Mae'na fyrddau arlwyo gydag wyneb metel, peiriant cymysgu enfawr, tybiau plastig mawr, mawr sy’n llawn toes. Mae Alex yn gweithio wrth fwrdd derw enfawr – mae digon o le i ugain swpera yno. Wrth i ni gyrraedd,
F 4
|
www.fforchifforc.cymru
mae ei hanner wedi’i orchuddio â phentwr llithrig o does. Dychmygu pobyddion yn gwisgo gwyn wnes i, ond mae Alex a Liam ill dau yn gwisgo crysau t du a throwsus cogydd tywyll gyda ffedogau glas tywyll. Mae Liam yma ers un y bore, Alex ers ‘dau o’r gloch-ish’. Mae e ar ganol symud tŷ, ac mae ganddo fabi pedwar mis oed. Mae’n rhaid ei fod e wedi ymlâdd ond does dim arwydd o hynny. Dyma ni’n edrych ar y pentwr o hambyrddau sy’n llawn crwst sinamon chwyrlïog a bara ffrwythau a wnaethon nhw’n barod y bore 'ma. Mae hi tua chwech o’r gloch, felly maen nhw'n gweithio ers pum awr yn barod. Maen nhw wedi gwneud llwythi o bethau. Soniwch wrtha’ i am fara, te. Bara – pam? Cogydd oedd Alex yn wreiddiol. Ond wrth weithio yn Penrhos Court gyda Daphne Lambert fe ddysgodd am eples a surdoes, a dyna hi wedyn. Beth sydd mor arbennig am surdoes? Mae’n gymhleth ac yn hud-a-lledrith. Hud a lledrith o fath gwyddonol, wrth gwrs. Mae 'na wahanol fathau o furum yn yr awyr o’n cwmpas, yno’n disgwyl, yn anweladwy. Os rhowch chi’r cymorth cywir iddyn nhw, eu denu atoch, fe fyddan nhw’n hapus iawn i wneud i'ch bara fod yn flasus tu hwnt. Mae Alex yn gwneud bara surdoes â chychwynnydd a gafodd ei eni, neu ei greu – a gipiwyd o’r awyr – ddeng mlynedd yn ôl. Os gwnewch chi ei fwydo a gofalu amdano, yn ei dro bydd yn gwneud i'ch bara fod yn fara arbennig. Mae’n fyw, wedi’r cyfan, ac yn cael ei effeithio gan bob math o bethau. Y tywydd. Y tymor. Y cynhwysion eraill. Dy hwyliau di? holaf. Ydy, rwy’n credu, medd Alex yn bendant.
Byd y Blawd
Rwy’n gwylio wrth iddo dafellu’r pentwr enfawr, crynedig, symudol o does yn ddarnau. Pedwar deg, pum deg, oll wedi eu torri a’u pwyso a’u rholio mewn blawd, eu siapio a’u gadael i godi eto. Mae’n beth ymlaciol i’w wylio, ac yn rhywbeth mae’n amlwg yn ei wneud wrth reddf. Dyw fy nghwestiynau busneslyd i ddim yn effeithio ar batrwm y ffordd mae’n trin y toes. Mae’r toes yn wlyb iawn, os ydych wedi arfer â gwneud bara cyffredin, ac yn hynod fyw. Yn wir, mae’n ffurfio swigod mawr araf o flaen fy llygaid. Mae Alex yn symud 'nôl a blaen, gan bigo’r swigod mwyaf â chornel y llafn does. Wedyn mae’n rhoi’r toes mewn powlenni i godi ac yn gwagio pentwr enfawr arall ar y bwrdd. Soniwch am y cynhwysion, 'te. Mae blawd yn ddiddorol. Mae’n defnyddio gwahanol flodiau, gwahanol rawn, ar gyfer gwahanol dorthau. Caiff peth ei dyfu mewn mannau eraill ond mae’n cael ei falu yng Nghymru, ac mae peth yn cael ei dyfu yng Nghymru. Mae e’n gwneud torth draddodiadol gyda blawd sy’n cael ei falu a’i dyfu yng Nghymru, Halen Môn, a gwymon o Fro Gŵyr. Rydym yn cytuno bod Cymru’n
fan anhygoel am gynnyrch – caws gwych, salad a pherlysiau bendigedig, mae’n anghredadwy bod gennym halen lleol. Mae’n hawdd gweld o ble y daw'r cig oen neu gig eidion lleol, wrth gwrs, ond dydyn ni ddim yn meddwl am flawd, o ble y daw hwnnw. Mae Alex yn chwilio o hyd am gynhyrchwyr newydd, yn llawn diddordeb mewn beth sy’n digwydd o ran cynnyrch lleol, cynnyrch organig. A pam y lle hwn? Buodd e’n byw ger y Gelli Gandryll yn blentyn. Daeth yn ei ôl am ei fod e’n lle da i fyw. Mae’n gwerthu ym marchnad cynnyrch lleol y Gelli, a Llanandras; ac mae’n gwerthu i fwytai – mae’r Hardwick yn eu plith. Fe fuom ni’n bwyta eich bara chi amser swper neithiwr, meddaf. Buom ni yno am bron i bedair awr, yn gwylio Alex a Liam yn bwydo’r ffyrnau gyda ciabatta, rholiau surdoes, pedair neu bump o wahanol dorthau surdoes, bara ffrwythau, torth drwchus o ryg a rhesins. Mae’n teimlo fel proses ddiwydiannol, ddiorffwys, ac eto mae’r cyfan wedi ei lunio â llaw, yn hynod drefnus, yn ddistaw. Am beth ry’ch chi’n meddwl, wrth i chi weithio? Mae Liam yn chwerthin,
Mae’'n gymhleth ac yn hudolus
www.fforchifforc.cymru
|
5
dyw e ddim yn meddwl am unrhyw beth. Bara, holaf? Mae Alex yn dweud “falle”. Mae e fel myfyrio, fe allwch chi feddwl am unrhyw beth neu ddim byd, gwagio’r meddwl neu gynllunio beth fydd eich creadigaeth nesaf. Y peth olaf iddo ei wneud yw’r focaccia surdoes enwog. Rwy’ wedi gwneud focaccia fy hun, a chael hwyl arni bob tro, ond haleliwia, mae’r stwff yma’n anhygoel. Yn llawnach o olew, ac yn llawer mwy – wel – bywiog. Mae’n ffurfio swigod enfawr, llawn nwy wrth i Alex ei dywallt ar hambyrddau metel mawr a gwthio blaen bys iddo, gan ychwanegu rhagor o olew a halen. Ar hyn o bryd mae e’n gwneud un gyda winwns, caws a rhyw gymysgedd gwyrdd llachar, tebyg i pesto, sy’n cynnwys berwr y gerddi – neu rocet, i chi a fi – heb sôn am flodfresych blaguro piws. Mae’n pingo o flas pethau gwyrdd. Mae’r focaccia plaen yn anhygoel – fe fydden i wedi llwyddo – fe wnes i lwyddo, i fwyta tafell ar dafell ohono heb broblem o fath yn y byd. Roedd e’n hallt, yn llawn olew, yn berffaith, yn anhygoel. Mae’r briwsion agored yn elfen annisgwyl. Mae’n hynod o flasus. Mae’n boblogaidd dros ben, medd Alex. Yn ôl ei
dad, sydd wedi dod i roi help llaw gyda’r stondin yn y farchnad, mae’r dorth yn gwerthu’n arbennig o dda, a pha syndod? Rwy’n cenfigennu’n ofnadwy wrth drigolion y Gelli Gandryll a Llanandras, sy’n cael prynu’r pethau da yma yn eu marchnadoedd lleol. Oes clem ganddynt pa mor lwcus ydyn nhw? Ar ôl stwffio’n hunain â bara, bant â ni i Fro Morgannwg i stwffio’n hunain â chacennau. Mae’r tywydd yn sblendigedig ac mae’r wlad yn ei harddwch. Mae’n deimlad rhyfedd i mi – wedi gwneud diwrnod o waith yn barod (os yw cloncian â phobl a bwyta yn waith). Allen i byth â bod yn bobydd, ond mae bara yn beth anhygoel. Ond rwy’n ddigon hoff o gacennau, hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â Mel Constantinou, brenhines Baked by Mel. Mae hi’n byw yn Llanilltud Fawr, sy’n llawn clychau’r gog, cennin Pedr hwyr a heulwen. Yn wahanol i uned ddiwydiannol fach Alex, mae Mel yn pobi yn ei chartref ei hun. O fewn eiliadau o gael ein croesawu i’w chegin, ry’m ni’n yfed te ac yn bwyta bara brith. Mae’r byd pobi fel pe bai’n llawn
Yn y bôoˆn, mae pobl yn agor y bocs ac yn bwyta’r bara brith,
6
|
www.fforchifforc.cymru
Byd y Blawd
o bobl hapus, gyfeillgar, a 'dyw Mel ddim yn eithriad. Dechreuodd hi bobi fel ffordd o weithio o gartre, pan oedd ei phlant yn ifainc a hithe’n rhiant sengl. Dechreuodd drwy wneud cacennau bach a’u gwerthu nhw yn y ganolfan arddio leol ac mewn marchnadoedd a ffeiriau bwyd. Pan symudodd i Lanilltud Fawr roedd yn rhaid iddi ailfeddwl am ei chynulleidfa. Tybed, meddyliodd, oedd yna farchnad ar gyfer anfon cacennau drwy’r post? Ond dyw cupcakes ddim yn addas iawn i’w postio, a dydyn nhw ddim yn ofnadwy o Gymreig. Ond bara brith? Wel, mae pawb yn hoffi hwnnw, a phrin y gallwch chi ei brynu e yn unrhyw ran arall o’r DU. Bu’n gwerthu yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, a derbyn gwobr gan Blas ar Gymru. Dangosodd Fortnum and Mason ddiddordeb hefyd, a chyn iddi droi rownd, roedd Baked By Mel Bara Brith ar werth yn Piccadilly. Weithiau bydd pobl yn synnu wrth ddeall nad Cymraes yw Mel – cafodd ei geni yn swydd Essex, ac roedd ei chyndadau yn tarddu o wlad Groeg a Chyprus, ymhlith mannau eraill. Ond mae ganddi fam-gu sy’n hanu o Abertawe, felly mae’n siŵr bod hynny’n cyfri. Buodd yn byw yn y Dwyrain Canol (‘ar draeth, heb ddŵr croyw na thrydan’) cyn mynd i ddysgu yn swydd Wiltshire a Gwlad yr Haf, a dod o’r diwedd i Gymru. Byddai ei mam-gu Gymreig yn gwneud ‘tea bread’ ers talwm, a dim ond pan ddechreuodd Mel ei bobi ei hun y sylweddolodd mai
dyma’r union deisen roedd hi’n ei bwyta yn blentyn. Yn ôl Mel, mae gan bawb ei rysáit ei hun am fara brith, a syniadau pendant am ei flas. Mae Mel yn cael boddhad mawr wrth osod allan ei samplau a chlywed pobl yn dweud ‘mae hwn gystal ag un mam-gu’. Roedd hi’n benderfynol o beidio â defnyddio unrhyw gadwolion. Mae bara brith yn cadw’n dda – mae ei bara brith hi yn cadw am un diwrnod ar bymtheg – sy’n hen ddigon o ran ei anfon drwy’r post. Mae hi’n gwenu wrth ddweud bod pobl yn agor y bocs ac yn ei fwyta e, yn y bôn. Fedra i ddim credu bod llawer o’i chynnyrch yn goroesi’r un diwrnod ar bymtheg. Sawl un fyddwch chi’n ei anfon mewn diwrnod? Rhwng pedwar a deg fel arfer. Mae hi’n cymysgu’r cynhwysion ar y diwrnod cyntaf, yn pobi’r bara brith drannoeth ac yn postio’r gacen ar y trydydd dydd. Mae'na swyddfa bost yn y pentref o hyd, felly mae’r broses yn rhwydd iawn. Ac ydych chi’n dwlu ar y gwaith? Ydi, wir. Fe fydde hi’n pobi cacennau beth bynnag, wedi’r cwbl, ac mae angen iddi fod gartre ar gyfer y bechgyn. Mae’n ddelfrydol. Aberteifi yw’n cyrchfan nesaf ni. Ry’m ni’n mynd i gwrdd â phobydd arall. Ganed Jack Smylie Wild yn Aberystwyth, ond cafodd ei fagu yn Nyfnaint. Mae’n bump ar hugain ac fe ddechreuodd
www.fforchifforc.cymru
|
7
mae dyfnder y blas yn ychwanegu arlliw o rywbeth cynnil o wahanol
bobi dair blynedd yn ôl, fel ymateb i’r ‘bara rwtsh’ roedd ei gariad yn ei brynu. Ar yr olwg gyntaf, byddech yn meddwl bod gradd mewn athroniaeth yn llwybr rhyfedd at bobi, ond pam lai? Oes 'na elfen o fyfyrio ynghlwm wrth y pobi, holaf? Mae’n ymateb yn frwd. Oes, yn bendant. Bore cynnar, distawrwydd, bara – mae’r rhain oll yn arwain at ystyriaeth fyfyrgar. Mae’n pobi rhwng pedwar deg a chwe deg torth y dydd ac yn eu gwerthu nhw yn Bara Menyn, ei siop fara/caffi, gam neu ddau i fyny’r bryn uwchlaw Castell Aberteifi. Agorodd y caffi ym mis Chwefror. Sut hwyl hyd yma? Gwych. Yn sicr, roedd y caffi yn brysur tra oeddem ni yno. Roeddwn i wedi gweld canmol eu pitta surdoes ar y rhyngrwyd, felly dyna ges i i ginio, gyda ffalaffels a chaws halloumi. Rwy’n dwlu ar bitta, ond chefais i erioed bitta surdoes o’r blaen. Fel focaccia Alex, mae dyfnder y blas yn ychwanegu arlliw o rywbeth cynnil o wahanol. Rwy’n cymryd tost hefyd, tafell o’r dorth surdoes arferol, ac mae’n ardderchog. Mae Jack yn llawn egni a brwdfrydedd, ac rwy’n sgwrsio gyda chwpwl o gwsmeriaid sydd wedi dotio at y bara. Bu’n cynorthwyo i gychwyn becws yr Organic Fresh Food Company yn Llanbedr Pont Steffan, ac roedd y cwpwl yma yn arfer prynu eu bara yno. Roeddem ni wrth ein boddau pan glywon ni fod modd prynu bara Jack fan hyn, medd y fenyw. Rwy’n holi Jack ynglŷn â chynnyrch bwyd. Mae ganddo ef ddiddordeb hefyd mewn cynhyrchwyr lleol – mae 'na gynllun ar y gweill am dorth gwbl Gymreig, ac mae hon hefyd yn cynnwys Halen Môn a blawd o Gymru. Caiff peth o’i flawd ei falu yn Y Felin, melin ddŵr yn Llandudoch, cwpwl o filltiroedd o Aberteifi. Mae e’n sôn am deimlo balchder oherwydd
8
|
www.fforchifforc.cymru
bod ganddo fusnes sy’n cyflogi pobl. Roedd wedi gobeithio creu tair swydd, ond mae ganddo chwech o bobl yn barod yn gweithio iddo. Un o Dolltai Aberteifi oedd Bara Menyn ers talwm. Mae Jack ei hun yn byw mewn fflat fechan uwchben y gegin. Felly mae modd iti godi yn y nos a gwneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn ei flaen yn iawn? Oes, mae’n beth da i fyw uwchben y caffi, mae’n teimlo’n nes fyth at ei waith. Beth ddysgais i felly, ar fy nhaith? Bod Cymru yn wlad brydferth sy’n llawn pobl angerddol. Maen nhw’n gwneud, yn tyfu ac yn cynhyrchu pob math o bethau gwych. Nid cynnyrch fel pysgod a chig oen yw pob dim; gall y caeau llawn gwenith neu had rêp hefyd chwarae eu rhan wrth gynhyrchu bwyd lleol. Bod pawb yn credu ei bod hi’n beth reit cŵl bod modd prynu halen o Gymru. Bod pobl sydd yn ddigon ffodus i ganfod eu galwedigaeth yn medru ysbrydoli eraill gyda’u brwdfrydedd dros eu gwaith; ac y gall y brwdfrydedd hwn arwain at fwyd bendigedig. Os oes yna rywle yn eich milltir sgwâr chi sy’n cynhyrchu bwyd blasus, anhygoel a gonest, dylech ei gefnogi ar bob cyfri’ os oes modd gwneud. Mae pobl sy’n dwlu ar eu gwaith wrth eu bodd yn rhannu’r brwdfrydedd hwnnw. Mae Alex yn cynnal cyrsiau, a gwnaiff Jack roi tamed o’i gychwynnydd surdoes i chi, ac egluro sut mae gofalu amdano, os ydych am wneud bara cartref. Gall Mel anfon bara brith – a beth allai fod yn well na chael cacen drwy’r post? Roedd pawb wnes i gwrdd â nhw yn ysbrydoliaeth bur – er nad oes angen llawer o anogaeth nac ysbrydoliaeth arnaf i lenwi fy mol â danteithion o’r popty.
www.fforchifforc.cymru
|
9
ˆ CHWEDL A LLEÊN BWYD VIVA LA TORTA GALESA Pan ymfudodd nifer o Gymry i'r Ariannin ym 1865 ar drywydd bywyd gwell, aeth eu bara brith (neu gacen, yn hytrach) gyda nhw. Os ewch i ymweld ag un o’r tai te Cymreig yn nhalaith Chubut ryw dro, fe welwch chi deisen sy’n debyg i fara brith ar y fwydlen. Ond bara brith ar steroids yw Cacen Ddu neu Torta Galesa - os bara brith o gwbl! Mae’n llawn ffrwythau, cnau, Cafodd teisen gri fwyaf sinsir a sinamon. y byd ei choginio yn y A’r eisin (fel petai) Bala ar Ddydd Gŵyl ar y gacen? Dogn Dewi 2014. Roedd go dda o rỳm du! hi’n mesur 1.5m o led, yn pwyso 21.7kg, a chafodd ei thorri yn ddau gant (a rhagor) o dafellau.
BYDD UN BACH YN HEN DDIGON, DIOLCH
10
|
www.fforchifforc.cymru
Gwynt teg yn yr hwyliau Mae tyfu ŷd, malu blawd a gwneud bara yn rhan anhepgor o fywyd yng Nghymru ers miloedd o flynyddoedd. Dim rhyfedd felly mai ‘Môn, Mam Cymru’ oedd enw’r ynys hon, gyda’i holl felinau gwynt. Fel yr awgryma’r enw, roedd pobl yn arfer sôn bod digon o ŷd yno i fwydo Cymru gyfan.
Os gwelwch chi’'n dda,ga’i grempog???? Mae crempogen Gymreig, neu ‘ffroes’, yn wahanol i’r crêpe Prydeinig/ Ffrengig. Mae’n debycach i bancosen Americanaidd, ac yn fwy na phancosen yr Alban. Gallwch ychwanegu burum wrth wneud pancos (ond does dim rhaid); defnyddio llaeth enwyn os dymunwch; defnyddio ceirch neu ychwanegu resinau neu gyrens yn frith. Gwnewch bentwr o grempogau, taenwch fenyn yn drwch arnynt, ac yna tafellu'r cyfan fel darn o gacen – dyna amser te blasus!
Cragen o fewn cragen Er gwaethaf ei henw, mae teisen Berffro yn fwy o fisgïen nag yw o deisen. Cafodd y bisgedi hyn eu henwi ar ôl y pentref lle cawsant eu pobi gyntaf. Yn draddodiadol caiff siâp y deisen ei Ers talwm, byddai teisennau fowldio trwy wasgu’r cri yn cael eu coginio dros gymysgedd i gragen faen poeth. Yn ddiweddarach cragen fylchog cyn dechreuwyd defnyddio ei phobi; caiff y gradell haearn: bellach gragen ei diosg cyn dyma’r ffordd arferol i’w i’r teisenni fynd i’r coginio. Serch hynny mae ffwrn, gan adael sawl cogydd yn defnyddio ôl siâp y gragen ei maen o hyd. Mae'na nifer hun. Roedd hon o enwau ar y teisennau yn arwydd llawn bach yma, gan gynnwys ystyron cudd gan ‘Cage Bach’, ‘Pice ar y pererinion a y Maen’, a ‘Teisen arferai deithio Lechfaen’. Yn i Aberffro ers Saesneg fe’u gelwir talwm. yn ‘Griddle Cakes’, ‘Welsh Tea Cakes’ a ‘Welsh Miner Cakes’.
Dod â’Aˆ ' r maen i’' r...… bwrdd te
www.fforchifforc.cymru
|
11
Rydym wedi cyrraedd pen ein taith... ...ond os ydych am ddechrau ar eich taith bwyd a diod eich hun, beth am ymweld 창 www.fforchifforc.cymru a dewis un o'r cannoedd o leoliadau bwyd uniongyrchol sydd ar gael ergyd carreg o'ch cartref, boed yn farchnad ffermwyr, yn siop fferm, neu'n ymweliad 창'r fferm ei hun.
www.fforchifforc.cymru