F2F- Cwrw Crefftus

Page 1

fforch i fforc teithiau bwyd lleol

Cwrw crefftus


Mae 'na dipyn o ddadeni ar hyn o bryd yn y byd bragu cwrw a seidr yng Nghymru. Yn debyg i win yn Ffrainc, maen nhw’n cael eu hystyried fwyfwy fel mynegiant o’r wlad sy’n eu cynhyrchu. Dyma Michael Smith yn mynd ar daith ddirgel i gwrdd â’r cynhyrchwyr, ac i gael blas ar beth o’r hud a lledrith lleol. Geiriau Michael Smith Ffotograffau Warren Orchard

2

|

www.fforchifforc.cymru


CWRW CREFFTUS R wy’n dechrau’r daith wrth yrru i lawr eangderau’r M4, gan sleifio uwch arfordir de Cymru. Mae bryniau cydnerth yn codi o’r môr, uwchben adfeilion diwydiant trwm, trefi dur a phorthladdoedd glo ar gyfer y pentrefi glo sy’n uwch i fyny’r cymoedd, ac sy’n arwain at filltiroedd a milltiroedd o gefn gwlad ir. Rwy’n teimlo, fel erioed, rhyw berthynas ryfedd, gyfarwydd â’r wlad hud a lledrith hon, man sy’n fy atgoffa o’m cartref mewn cymaint o wahanol ffyrdd, ond sydd, ar yr un pryd, yn ddirgelwch llwyr i mi hefyd i bob golwg. Dyma gofio noson o haf gyda ffrindiau mewn cae rywle yng Nghymru un tro. “Beth yw diod genedlaethol Cymru?” holais. “Te majic myshrŵms” oedd yr ateb ewn. Diolch byth, nid blasu’r ddiod egsotig a metaffisegol heriol honno yw fy ngwaith ar y daith yma. Rwy’ yma i chwilio am beth o hud y wlad mewn ffordd lawer llai cymhleth, lawer mwy blasus – y seidr a’r cwrw crefft sydd wedi bod yn datblygu fel madarch yng Nghymru dros y pum neu ddeng mlynedd diwethaf. Tiny Rebel oedd ein cyrchfan cyntaf; uned ffatri fechan ar ystâd ddiwydiannol ysgafn ar gyrion Casnewydd. Roedd llanc â gwallt Mohican gwyrdd llachar yn pysgota hopys poeth wedi’u berwi allan o degell gopor. “Sawna bach neis,” meddai e’n gellweirus. Tiny Rebel yw’r cwrw mwyaf trefol i ni ei flasu, a hynny am sawl rheswm – mae’r brandio pyncllyd, graffitaidd ei naws yn gwneud iddo deimlo fel cwrw ar genhadaeth: cyflwyno to iau i bleserau cynnil cwrw crefft, a’u diddyfnu nhw oddi wrth yr hen WKD glas 'na ar yr un pryd. Erbyn hyn mae 'na ddeg yn gweithio i’r cwmni. Pan ddechreuon nhw dim ond dau oedd – dau beiriannydd yn macsu cwrw cartref mewn garej. “Wyth deg y cant o’r amser roedd y cwrw yn uffachol, ond dyna shwd roedden ni 'di dysgu orau.” Maen nhw’n dal i ddefnyddio’r hen gopor bychan bach a’r tun mash o’r garej 'na i arbrofi gyda’u diodydd newydd (mae’n haws gwneud, neu wneud smonach o, ugain litr nag 20,000 litr). Ces i’r fraint a’r anrhydedd o weld y ffridj wnaethon nhw ei brynu ar gumtree am £20, gan droi effaith inswleiddio'r rhewgell du chwith drwy roi

gwresogydd ynddi i weithio’r cwrw. Agorais ddrws y ffridj a daeth gwyddonydd gwallgof i’r golwg. Wrth i’r cwmwl glirio datgelodd gostrel labordy pigfain yn llawn o gwrw hynod o gymylog. “Dim ond tamed o sbort,” medden nhw – ond yn fy marn i roedd e’n fwy tebyg i beirianwyr hynod o fanwl yn cael ‘tamed o sbort’. Cwrw mwyaf llwyddiannus Tiny Rebel yw FUBAR, cwrw golau Americanaidd ei naws. “Liciet ti boteled?’ “Oes rhywbeth dipyn bach yn llai ffwl-on 'da chi?” “Hwde, trïa’r Cwtch.” Yn ôl eu disgrifiad nhw, mae e’n gwrw coch Cymreig. Ac am flas tri-dimensiwn, bendigedig, cyfan sydd iddo fe: mae 'na flas taffi yn sibrwd yn rhywle o dan y nodau glân, llawn ffrwythau uchel, a blas ‘rhost’ anarferol, oedd yn hala fi i feddwl am grofen porc – blas annisgwyl oedd yn gwbl newydd i fi. “Beth sy’n mynd i ddigwydd i gwrw crefft nesa', 'te? holais i. “Mae hi dal yn gynnar iawn ar gwrw crefft. Rhai ifainc yw lot o’r rhai sy’n ei yfed e, felly bydd y gwahanol flasau sy’n apelio atyn nhw’n diffinio sut bydd e’n datblygu.” Yn sicr mae Tiny Rebel yn fragdy ifanc ei ysbryd – dim ond 32 oed yw’r partner hynaf. Ond o farnu ar sail y Cwtch bendigedig, mae dyfodol cwrw mewn dwylo diogel; ac os taw dyma beth mae’r bobl ifainc yng Nghasnewydd yn ei yfed y dyddiau hyn, mae 'na obaith o hyd i’r hil ddynol. Troi tuag at fryniau mwyn sir Gaerfyrddin wnaethom ni wedyn, lan trwy’r twnnel coed mwya’ bendigedig a welais i erioed, yn pelydru drosto yn haul hwyr y prynhawn. Ein cyrchfan oedd yr Handmade Beer Company. Roedd yr enw'n taro i’r dim: bragdy llai o lawer a mwy unigolyddol na Tiny Rebel; band un dyn mewn sgubor. Gyda’i farf fawr fflwfflyd fel barf gwenynwr, mae rhyw ymdeimlad o ddewin cwrw doeth o gwmpas Ian. O fod yn ddylunydd graffeg yng Nghaerdydd – fel y cyn-beirianwyr yng Nhasnewydd, yn gyfuniad o’r creadigol a’r technegol – dihangodd i’r fan yma i fragu yn ei ysgubor. Y fe sy’n gwneud popeth bron – o facsu’r cwrw i gynllunio’r labeli a'u glynu nhw ar y poteli. Mae’n 47 oed nawr; fe ddechreuodd

www.fforchifforc.cymru

|

3


Mae pedwar cynhwysyn mewn cwrw cartref: haidd, hopys, burum a dw ˆr. Mae 'na ddau gynhwysyn ychwanegol mewn cwrw crefft - Gweplyfr a Trydar 4

|

facsu cwrw cartref pan oedd e’n ugain oed, er mwyn arbed arian, ond yn raddol ymddiddorodd fwyfwy ynddo fel galwedigaeth oedd yn bodloni’r artist ynddo. Dair blynedd yn ôl daeth yn fywoliaeth iddo. Ar y cyfan mae cwrw Ian yn fwy traddodiadol Brydeinig ei arddull na’r arddull Americanaidd, lawn hopys, a roddodd yr hwb cychwynnol i’r chwyldro cwrw crefft. Ond mae’n awyddus i arbrofi – gyda basil mewn cwrw du, a the lapsang suchong hyd yn oed. Mae modd gwneud hyn ar raddfa fechan; os aiff popeth yn ffliwt dim ond ychydig gwrw sy’n mynd yn ofer. “Dyw’r cwmnïau mawr ddim yn gallu fforddio arbrofi. Bydde’n well gyda nhw pe bai pobl eisiau’r un peth bob tro, fel yr hen fois yn y dafarn bob dydd.” “Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cwrw cartref a chwrw crefft?” “Mae pedwar cynhwysyn mewn cwrw cartref: haidd, hopys, burum a dŵr. Mae 'na ddau gynhwysyn

www.fforchifforc.cymru

ychwanegol mewn cwrw crefft – Gweplyfr a Trydar. Yr un peth yw e yn fy marn i.” “Ydi’r sîn gwrw Gymreig wedi newid lot yn ddiweddar?” “O do, mae’n enfawr – mae’n rhaid bod yna ryw ddeg gwaith yn fwy o fragwyr bach ag oedd 'na ddeng mlynedd yn ôl. Mae Caerdydd yn dechre tyfu’n fecca i’r sîn Brydeinig, gyda hanner dwsin o gynhyrchwyr bach. Mae’n faint braf – pawb yn cydweithio â’i gilydd, pawb yn nabod ei gilydd, mae’r bragwyr bach i gyd yn barod iawn i roi help llaw i’w gilydd.” Gwerthu’n lleol mae Ian ar hyn o bryd. Mae ganddo ddwy gasgen ar y tap ym mwyty Y Polyn ymhellach i lawr y lôn. Y noson honno yfes i beint perffaith o CWRW Ian yn y Polyn. Rwy’n cofio dyfnder cymhleth, trawiadol o flasus CWRW, sy’n lliw ambr tywyll. Roedd rhyw ddyfnder cyfrin i’r blas, a rhywbeth sbeislyd, llawn ffrwythau ynddo: blas amhosibl-ei-ddiffinio, hawddiawn-ei-yfed.


CWRW Crefftus

www.fforchifforc.cymru

|

5


Yin ac yang cwrw crefft yw’r tyndra creadigol rhwng traddodiad ac arloesi. Ond y peth pwysicaf yw bod y cwrw’n ffein i’w yfed.

“Blas beth sydd ar hwn?” holais i Fòs y Polyn, mewn ymgais i daro’r hoelen yn union ar ei phen. “Blas cwrw!” gwaeddodd, yn hynod o frwd. Hoffwn pe bawn i’n medru bod yn fwy pendant fy nisgrifiad o’r blas hwn. Yn anffodus mae gan y Bòs, gŵr o’r Alban a ymgartrefodd yng Nghymru ar ôl “byw gyda’r anwariaid” yn Llundain, flas at chwisgi hynafol Old Poultney, ac roedd yn awyddus i rannu ei gyfoeth, felly 'dyw fy nodiadau am y cwrw ddim cweit mor eglur ag y dylen nhw fod. Does dim amdani, felly, ond cymryd fy ngair – mae CWRW yn fendigedig – a, gwell fyth, rhoi gynnig arno eich hun. Roedd mymryn bach o ben tost gyda fi drannoeth wrth yrru tua’r gorllewin, i fryniau gogledd sir Benfro. Daethom o hyd i’n cyrchfan ar lechwedd yr oedd ei chloddfa lechi wedi toi Dau Dŷ’r Senedd. A dweud y gwir roedd yn fan arbennig o dda am lechi: roedd “SEREN BEER” wedi’i sgwennu mewn sialc ar lechen y tu allan i’r ffermdy, y drws nesaf at lechen lai oedd yn dweud “EGGS 50p.” Mewn â ni i’r tŷ i gwrdd ag Ali, a ddangosodd ei ystafell gefn i ni. Roedd yn llawn mygiau cwrw piwter yn hongian ar fachau, medalau aur, a rosetts yn dweud 2il neu 1af, cerwyn frag (twb mash i chi a fi) ac oglau cwrw. “Croeso i fragdy lleiaf Prydain. Falle.” Bragdy? Ro'n i’n meddwl... “Mae 'na dapiau cwrw yn un o’r waliau yn tŷ ni” medde fe, fel pe bai’r ffaith ryfedd hon yn ffynhonnell mwynhad di-ben-draw (er falle’n peri dryswch iddo). “Beth mae’r thermomedr yna ar bwys yn ei wneud, ’te?” “O, hwnna? I'r ham mae hwnna.” Dyna pryd y sylwais ar y goesgyn o ham prosciutto ar fachyn, yn awyrsychu yn y cwtsh dan star (neu ‘sbens’ i chi’r gogleddwyr). “Y’n ni’n cadw moch yn yr ardd.” “Ydych chi’n gwerthu prosciutto hefyd?” “Duw duw, nag y’n – mae’r rheolau amboithdy rheini'n hunllefus – at ein hiws ein hunain mae e.” Roedd y ffaith fod popeth mor d.i.y., yn gymaint o fand un dyn (dyna chi’r term yna eto…) yn gwneud i’r hylif nefolaidd a ddaeth o’r tapiau fod yn fwy o ddatguddiad fyth. Roedd ôl athrylith yn llechu yn y gwahanol fathau o gwrw. Roedd un yn gwrw du sur, llawn blas mwg, gyda rhyw arlliw o facwn a finag balsamig; ond fy ffefryn oedd Factory Steam, cwrw stêm sy’n cael ei wneud yn yr un ffordd â lager, ond ar dymheredd uwch. Mae hyn yn gwneud i’r burum gynhyrchu gwahanol flasau, rhai llawer mwy sionc, ffrwythus a blasus. Newydd gychwyn ar y wers hanes am gwrw stêm roeddem ni pan gurodd dyn bach crwn ar y drws: “Helô - wi wedi dod i hôl cwrw…” Ar hyn o bryd mae’n cael trafferth i gadw lan â’r galw: “Nos

6

|

www.fforchifforc.cymru

Wener yw’r noson brysuraf. Rwy’n gwybod pryd mae hi’n benwythnos arna’ i ar ôl i’r holl regiwlars fod draw. Mae’r wraig yn dweud y dylen i roi drws sy’n troi ar y tŷ.’ Am y tro, bragwr rhan-amser yw e; ei waith go iawn yw Athro Gwleidyddiaeth Rwsiaidd yr 20fed ganrif ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae e hefyd yn awyddus i ddysgu cwrs ar hanes cwrw – “Hwnnw fyddai’r cwrs mwyaf poblogaidd erioed gan y myfyrwyr!” “Tybed beth yw dyfodol cwrw crefft?” synfyfyriais eto. “Yn yr Unol Daleithiau y dechreuodd yr holl beth, ac ry'n ni’n dal i fod bum mlynedd ar ei hôl hi. Yn yr UD, mae cwrw yn yr un cae â gwin o ran safon, ac yn gystal diod i’w hyfed gyda bwyd. Mae’r farchnad hefyd yn barod i dalu amdano, yn yr un ffordd ag y’n ni draw fan hyn nawr yn fodlon talu £15 yn lle £5 am botel o win. O ran blas, y peth nesaf ar ôl hopys yw cwrw sur.” Falle bod cwrw sur yn syniad od os ydych wedi arfer â chwrw diddrwg-didda – dychmygwch surni sy’n rhoi rhyw gic, fel surni afal coginio yn hytrach na sychder chwerw hopys. Mae e ar fin dechrau gwneud cwrw sur blas riwbob ar y cyd â siop fwyd draw yn sir Gaerfyrddin. “Yin ac yang cwrw crefft yw’r tyndra creadigol rhwng traddodiad ac arloesi. Ond y peth pwysicaf yw bod y cwrw’n ffein i’w yfed.” “Shwd fyddech chi’n diffinio beth sy’n ffein i’w yfed?” “Chi’n gwybod ei fod e’n ffein pan y’ch chi eisiau un arall, ond yn gwybod na ddylech chi ddim.” “Shwd beth yw cael llond lle o gwrw yn y tŷ? “Wi ddim yn mynd mas gymaint ag o’n i.” Pam yn y byd byddech chi, pe baech chi’n byw mewn lle cystal â hwn? Dangosodd ei ieir, ei hwyaid a’i ddefaid i fi (“peiriannau torri gwair sy’n bennu lan fel cig oen”) yn y caeau. Byddai’n dwlu codi ysgubor yno, lle y gallai facsu cwrw un diwrnod, gyda golwg ar ymestyn wedyn hyd y gronfa ddŵr yr ochr draw i’r hewl. O’r fan honno y daw’r dŵr ar gyfer ei gwrw, “fy nghynhwysyn mwyaf lleol oll”. “Cefndir ac ethos d.i.y. sydd gyda fi – macsu cwrw fel ffordd o ‘ddianc rhag yr hunan’ fel petai. Mae 'na elfen o ryddid wrth ei wneud e eich hun.” I rywun o’r ddinas, fel fi, sy’n byw mewn fflat gyfyng, ddrud, heb glem o ble daeth cynhwysion y swper y byddaf yn ei brynu o fini-archfarchnad yr orsaf, roedd ei fywyd yn edrych yn ddelfrydol. Roedd rhywbeth ym mêr fy esgyrn eisiau codi dau fys ar y dyn oddi mewn a dechrau cochi fy ham fy hunan ar ben bryn hefyd. Yn olaf oll, dyma ni’n crwydro ’nôl i gyfeiriad y dwyrain, am Gwm Ebwy. Roedd ei fryniau gwyrdd, serth yn ymgodi uwch ein pennau, ac ambell wythïen o dai teras gweithfaol yn dal ei thir o drwch blewyn, fel iorwg. Gadael yr hewl fawr a dringo llethr frawychus, yn llawn o droeon boncyrs o droellog, heibio i chwareli llechi enfawr wedi eu cloddio yn ochrau’r bryniau, a’r hewl yn disgyn y naill ochr a’r llall at farwolaeth sydyn, bendant, a’r golygfeydd enfawr ac anhygoel. Ar y fferm roedd y bois yn gorffen eu pysgod a sglodion nos Wener, ac yn yfed (er mawr gysur i fi) eu seidr Hallet eu hunain. Yn fy marn fach i, roedd hwn yn gyfuniad bwyd a diod o fri. Estynnodd rhywun botel o’r seidr cyntaf: ‘beautifully simple’ yn ôl y label, ac yn wir yr oedd e - hyfryd, cytbwys, gloyw ond cynnil…


CWRW Crefftus

www.fforchifforc.cymru

|

7


Aeth Martin Hallet â ni allan i weld lle mae’r hud a lledrith yn digwydd, mewn cwt gyda dwsin o ddrymiau dur tal ac amp Marshall mawr yn sgrechen ‘Stairway to Heaven’ Led Zeppelin i bob cornel o’r cymoedd. “Shwd y’ch chi’n macsu’r seidr 'ma, ’te?” “Nid macsu seidr y’ch chi. Gwneud seidr y’ch chi.” “O, iawn – sut ’te, fel gwin?’ “Ie, yn debyg iawn i win - rwy’n arbrofi gydag ambell i dechneg gwneud gwin ar hyn o bryd, fel mae’n digwydd,” (gan droi’r gwaddod), “fel maen nhw’n gwneud gyda Burgundy gwyn, sy’n rhoi blas a theimlad mwy cadarn yn y geg. Wi ddim yn gwybod a fydd e’n gweithio eto, cofia...” “Y’ch chi’n arbrofi llawer?” “Ydw, wrth gwrs, rwy’n arbrofi drwy’r amser. Mae rhai o’r arbrofion yn methu’n drychinebus, ond mae popeth yn sbort,” meddai, gan fynd â fi mas y bac i’w labordy bach, gyda’i reffractomedrau, sleidiau microsgop ac offer labordy.

8

|

www.fforchifforc.cymru

Mae rhai o’r arbrofion yn methu’n drychinebus, ond mae popeth yn sbort. “Ond hwn yw fy offeryn pwysicaf!” Chwarddodd, gan ddal gwydr gwin gwag uwch ei ben – “hwn, a fy nhrwyn a fy nhafod. Mae deall y gwahanol fathau o furum a’r microbau yn allweddol i ddeall a dilyn y broses o eplesu, o’r sudd i’r seidr. Mae popeth yn dibynnu ar ddeall y fiodechnoleg, os hoffech chi. Mae pobl yn dilyn y drefn yn rhy aml. Y dyddie hyn mae gyda ni drydan a thechnoleg a drymiau dur, 'sdim gofyn i chi aredig cae yn gwisgo clocs a smygu pib glai i alw seidr crefft arno fe.” “Beth sy’n ei wneud e’n seidr crefft, ’te?” “Y gwahaniaeth rhwng seidr crefft a seidr ffatri yw mai’r ffatri honno yw unig draddodiad ac unig darddle’r seidr hwnnw; mae wedi’i gynllunio gan dechnolegydd bwyd, sy’n fath o dechnoleg coginio, ac sy’n defnyddio afalau o Tsieina sy’n dod draw ar long ar ffurf dwysfwyd. Dim ond proses


CWRW Crefftus

ffatri, cynnyrch safonedig, sy’n cael ei wneud yn yr un ffordd am byth bythoedd.” Wrth iddo sôn am y cynnyrch ffatri digynefin yma, cefais gip ar lond paled o rywbeth oedd yn edrych fel potel siampaen fechan yn hel llwch yng nghornel yr ysgubor. “Beth yw’r rhain?” “O, arbrawf aflwyddiannus yw hwnna. Seidr vintage oedd wedi eplesu’n llwyr yn y botel, fel siampaen methode traditionelle. Rhyngot ti a fi roedd e’n blasu’n ddiawledig.” Agorodd un o’r poteli, gan ddisgwyl y gwaethaf, a’i dywallt i’r gwydr gwin lliw ambr hyfryd, trwm. Er mawr bleser i bawb, roedd wedi aeddfedu ac eplesu yn ystod y pedair blynedd yn y sied. Roedd wedi troi’n foethbeth hynod o flasus, ysgafn, gyda rhyw arlliw o flas bisgedi yn perthyn iddo. Bron nad oedd e’n siampaen a wnaed o afalau yn lle grawnwin. “Wertha’ i fyth mo’r rhain, cofia – mae llawer gormod o waddod yn y gwaelod. Ond rwy’n falch iawn i ti holi amdanyn

nhw, ro’n i wedi anghofio’n llwyr eu bod nhw yna. Falle yr halaf i un neu ddau at ryw gystadleuaeth. Hwde, wyt ti am fynd â chwpwl adre 'da ti?” holodd, gan weld fy mod i wedi fy swyno gan y syniad. A minnau wrth fy modd ei fod e wedi cynnig, tynnais nifer o’r poteli o’r palet pedair blwydd oed, arbrawf anghofiedig oedd yn hel llwch. Mae 'da fi gwpwl ohonyn nhw o hyd ar y rhesel gwin yn y gegin. Dim ond dechrau ysgrifennu am y fath ddanteithbeth, sydd gystal am dorri syched, sydd ei angen ac yn syth rwy’ am ei yfed. A dweud y gwir, annwyl ddarllenydd, rwy’n mynd i roi un yn y cwpwrdd oer yn syth bin. Ac yna byddaf yn yfed llwncdestun i holl fragwyr y diodydd penigamp a flasais yn y Wlad werdd a hudolus hon. Am gasgliad bendigedig o bobl unigolyddol oedd y bois yna. Rwy’n codi het ddychmygol iddynt, un ac oll.

www.fforchifforc.cymru

|

9


CHWEDL A ˆ DIODYDD LLEN

PEINT O’CH BRAGAWD GORAU, DDEWINES! Mae sôn ers y chweched ganrif, bron iawn, am y wrach Ceridwen. Yn ôl rhai o gerddi Taliesin roedd hi’n gysylltiedig â chrochanau, a bragu diodydd llawn grawn a pherlysiau. Dywedir bod y ‘Gwin a Bragawd’ hwn wedi esgor ar wyddoniaeth, ysbrydoliaeth a bywyd tragwyddol.

10

|

www.fforchifforc.cymru

FFARWEL I’R BOTEL Cwrw yw diod genedlaethol Cymru, a Bragdy Felin-foel oedd y cyntaf y tu allan i’r Unol Daleithiau i werthu cwrw mewn caniau.

JD I CHI A FI Ymfudodd Joseph ‘Job’ Daniels o Aberystwyth i America yn y 18fed ganrif. Ei ŵyr Jack greodd y chwisgi hynod boblogaidd Jack Daniels sy’n cael ei fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd heddiw.


BROLIO EIN BRAGAWD Mae’r Cronicl EinglSacsonaidd am y flwyddyn OC 852 yn nodi gwahaniaeth rhwng cwrw golau a chwrw Cymreig o’r enw ‘bragawd’. Roedd hwn yn ddiod rhywle rhwng medd a chwrw heddiw. Roedd y cwrw Cymreig hwn o gyfnod y Sacsoniaid yn ddiod gref, feddwol, oedd yn cynnwys sbeisys fel sinamon, sinsir a chlofau yn ogystal â pherlysiau a mêl. Byddai’n cael ei fragu yn aml yn y mynachlogydd, gan gynnwys Abaty Tyndyrn a Phriordy Caerfyrddin, nes i Harri’r Wythfed ddiddymu’r mynachlogydd ym 1536.

GWANHAU'R DDIOD Mae’r jin sych o Lundain, Bombay Sapphire, yn defnyddio dŵr wedi ei buro o Lyn Efyrnwy ym Mhowys er mwyn gostwng ei gryfder i 40%.

O UN YNYS I’R LLALL Mae rhai haneswyr yn honni i Arthur Guinness ddefnyddio rysáit Gymreig o Lanfairfechan ger Bangor ar gyfer ei stowt.

www.fforchifforc.cymru

|

11


Rydym wedi cyrraedd pen ein taith... ...ond os ydych am ddechrau ar eich taith bwyd a diod eich hun, beth am ymweld 창 www.fforchifforc.cymru a dewis un o'r cannoedd o leoliadau bwyd uniongyrchol sydd ar gael ergyd carreg o'ch cartref, boed yn farchnad ffermwyr, yn siop fferm, neu'n ymweliad 창'r fferm ei hun.

www.fforchifforc.cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.