Fforch i fforc Crynodeb Gweithredol: Gwerthusiad Annibynnol

Page 1

FfoRch i fforc

Ymgyrch integredig gan Four Cymru Crynodeb Gweithredol: Gwerthusiad Annibynnol

+ . . . . . .

Creu brand Ymgysylltu â budd-ddeiliaid Cysylltiadau cyhoeddus Marchnata uniongyrchol Digwyddiadau Marchnata digidol


Rydym yn un o brif asiantaethau cyfathrebu marchnata integredig a chreadigol Cymru, ac arbenigwn ar frandio a dylunio, cysylltiadau cyhoeddus, materion cyhoeddus a chyfryngau digidol arobryn. Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac rydym wedi gweithio gyda chleientiaid yn y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru am fwy na 25 mlynedd. Fel rhan o’r Four Communications Group, asiantaeth annibynnol, integredig blaenllaw a chanddo swyddfeydd yn Llundain, Caeredin a thramor, gallwn gynnig mwy o wasanaethau i’n cleientiaid ynghyd â phrofiad ac arbenigedd o nifer fawr o sectorau gwahanol.

Aberystwyth Caerdydd | Cardiff www.four.cymru @fourcymru


CYNNWYS CYFLWYNIAD I’R YMGYRCH

02

01

CAM 1 CRYNODEB 03 TROSOLWG O’R ALLBYNNAU A’R PRIF EFFEITHIAU

05

CREU BRAND 07 YMGYSYLLTU Â BUDD-DDEILIAID 09 CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS 11 MARCHNATA UNIONGYRCHOL 13

ADDEWID 15 DIGWYDDIADAU 17 MARCHNATA DIGIDOL 19

02

CAM 2 CRYNODEB 21 LLWYFAN DIGIDOL 23 CYHOEDDIAD 25 ARLOESI BWYD CYMRU 29 CASGLIADAU’R YMGYRCH 31

Dylunio: www.four.cymru 01/2016 Argraffwyd y cynnyrch hwn gan ddefnyddio papur o ffynonellau cynaliadwy

01


CYFLWYNIAD I’R YMGYRCH

Cynlluniodd, cyflawnodd a gwerthusodd Four Cymru ymgyrch newid ymddygiad Cymru gyfan gwerth £1.3m a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gwerthu cynnyrch fferm yn uniongyrchol. Roedd yr ymgyrch farchnata a chyfathrebu integredig hon yn cynnwys gwaith hyrwyddo ac ymgysylltu â defnyddwyr a chynhyrchwyr. Yng Nghymru, gwnaed sawl ymdrech dros y blynyddoedd i hyrwyddo’r agenda gwerthu bwyd yn uniongyrchol, ond arweiniodd pob un ohonynt at nifer o faterion heb eu datrys ac ymatebion negyddol gan fudd-ddeiliaid allweddol. Yn wreiddiol, ariannwyd prosiect dwy flynedd trwy gynllun Effeithlonrwydd Cadwyn Gyflenwi’r Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru, i helpu gwerthwyr uniongyrchol a lleddfu’r canfyddiad nad oedd unrhyw gynllun hyrwyddo gwerthiannau uniongyrchol yn bod ar y pryd. Byddai’r prosiect hefyd yn gosod y seiliau ar gyfer prosiect mwy o bosib yn y dyfodol. Yn dilyn cynnig cystadleuol, penodwyd Four Cymru i gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymgyrch wybodaeth a chodi ymwybyddiaeth integredig. Ei nod, dros gyfnod o ddwy flynedd, oedd adeiladu capasiti ymhlith budd-ddeiliaid, yn ogystal â marchnata a hyrwyddo i ddefnyddwyr fanteision prynu bwyd yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwyr. Diffiniodd Four Cymru amcanion strategol clir ar gyfer y prosiect er mwyn creu cynllun ymgyrch cydlynol: Codi ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o’r cyfleoedd a’r manteision o brynu’n uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwyr

02

Annog mwy o brynwyr i ymweld â siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr er mwyn codi trosiant gwerthiannau uniongyrchol Codi ymwybyddiaeth a chreu mwy o gyfleoedd gwerthu’n uniongyrchol i gynhyrchwyr cynradd yng Nghymru trwy ddefnyddio cyfleoedd marchnata rhanbarthol a Chymru gyfan Cafodd elfennau’r defnyddwyr a’r cynhyrchwyr eu cynllunio’n ofalus a’u gweithredu’n greadigol trwy ddefnyddio gweithgareddau cyfathrebu a marchnata strategol yn cynnwys creu brand, ymgysylltu â budd-ddeiliaid, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata uniongyrchol, ymgyrch addewidion wedi’i chefnogi gan enwogion, digwyddiadau ac ystod eang o arfau a thechnegau marchnata digidol. Yn dilyn gwerthusiad interim annibynnol o’r ymgyrch ddwy flynedd wreiddiol, cafodd Four Cymru gyllid ychwanegol i adeiladu ar y llwyddiannau, gweithredu ar y gwerthusiad a manteisio ar ddatblygiadau technolegol newydd. Gwerthuswyd yr ymgyrch yn llawn gan Miller Research, cwmni gwerthuso annibynnol, ac mae’r crynodeb gweithredol hwn yn cynnig trosolwg o’r adroddiad ar gyfer y naill gam a’r llall.


CAM 1 CRYNODEB

Cam 1

2010-2013

Er mwyn goresgyn rhai o ganfyddiadau negyddol menter arall eto, rhoddodd Four Cymru ffocws cynnar yr ymgyrch ar hyrwyddo gwerthoedd gwerthiannau uniongyrchol ymhlith defnyddwyr. Ar yr un pryd aethpwyd ati o ddifrif i ymgysylltu â chynhyrchwyr trwy gyfarfodydd rhanbarthol, darparu deunyddiau generig i gynhyrchwyr a chreu cyfres o astudiaethau enghreifftiol. Er mwyn i’r ddwy elfen lwyddo, creodd Four Cymru frand dwyieithog clir a fyddai’n addas i’w ddefnyddio ar draws pob cyfrwng. Lansiwyd prosiect Fforch-i-Fforc yn swyddogol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ym mhresenoldeb y cyfryngau a chynhyrchwyr. Aeth Cam 1 ymlaen trwy gyflawni ymgyrch gynhwysfawr yn y cyfryngau, gan gynnwys ymgyrch llofnodi addewidion llwyddiannus, presenoldeb wedi’i dargedu mewn digwyddiadau, bwletinau rheolaidd i gynhyrchwyr, cynhyrchu e-borth i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr a chynnal y gynhadledd genedlaethol gyntaf erioed ar werthu bwyd yn uniongyrchol.

01

03


Dosbarthwyd

£1.5 miliwn AVE

cyfwerth hysbysebu Noddi ‘darnau’ o gyfres fwyd S4C ‘O’r Gât I’r Plât’

50,000

o gardiau ‘addo prynu’n uniongyrchol’

 lyfrynnau 341,000 oryseitiau  o wylwyr  £4.5 miliwn o werth  cysylltiadau cyhoeddus       855,000      rhanbarthol yng  Nghymru Dosbarthu calendr      rhesymau dros brynu’n uniongyrchol i   21,000 dvd Syniadau Slic rhad 0 0 0 4 6 1  ac am ddim 50,000

o lyfrynnau twristiaeth

= x 1000

= 100

Cylchgrawn Gwerthiant Uniongyrchol tymhorol Fforch-i-Fforc

180,000 o ddarllenwyr 04

5000

o addewidwyr


TROSOLWG O’R ALLBYNNAU A’R PRIF EFFEITHIAU Cyrhaeddwyd dros 20 miliwn o effeithiau darllenwyr gan yr ymgyrch yn seiliedig ar gyrhaeddiad cyfryngau argraffu (yn unig) o 8,101,289. £1.5m AVE cyfwerth hysbysebu (h.y cost gofod hysbysebu tebyg am debyg) yn y cyfryngau argraffedig. £4.5 miliwn o werth cysylltiadau cyhoeddus (cyfrifwyd ar sail lluosogydd safonol, ceidwadol y diwydiant o 3 x AVE) Cyhoeddi cyfanswm o 855,000 o lyfrynnau twristiaeth rhanbarthol yng Nghymru yn cynnwys hysbysebu ‘prynu’n uniongyrchol’ generig Elfen Arwyr Bwyd Lleol o’r ymgyrch wedi cyrraedd 3,652,628 ym mhob rhan o Gymru. Colofnau a ysgrifennwyd gan Simon Wright, cyn Lysgennad Gwir Flas, a gyrhaeddodd 731,792 o ddarllenwyr yn Ne Orllewin Cymru Noddi darnau o gyfres fwyd S4C ‘O’r Gât I’r Plât’ gyda Dudley Newbery a gyrhaeddodd 341,000 o wylwyr (376,000 os yw darnau blasu ychwanegol brand Fforch-i-Fforc yn cael eu cynnwys). Manteision hyrwyddo ar yr awyr o brynu’n uniongyrchol dros 500 o weithiau. Roedd yr hyrwyddo oddi ar yr awyr yn cynnwys 50,000 o lyfrynnau ryseitiau S4C mewn partneriaeth â Fforch-i-Fforc. 20,000 o daflenni dwyieithog ‘10 Rheswm i Brynu’n Uniongyrchol’ wedi cael eu dosbarthu i ddefnyddwyr unigol mewn digwyddiadau Dosbarthu calendr tymhorol ‘Rhesymau Dros Brynu’n Uniongyrchol’ i fwy na 164,000 o ddefnyddwyr, yn cynnwys yn y Daily Post (40,000 copi), Western Mail (33,000), Cambrian News (24,000) a’r Bangor Mail (9,000) a deunydd golygyddol cyfatebol yn hyrwyddo manteision prynu’n uniongyrchol. Dosbarthwyd y calendrau hefyd gan Gymdeithas Tai Gwalia i 10,000 o denantiaid.

Cam 1

Pum rhifyn o gylchgronau Gwerthiant Uniongyrchol tymhorol Fforch-i-Fforc er mwyn annog defnyddwyr i fynd i www.fforchifforc.cymru a phrynu’n uniongyrchol. Cyfanswm dosbarthiad o tua 60,000 a chyfanswm darllenwyr o 180,000. 5000 o ‘addewidwyr’ – tanysgrifwyr i brynu’n uniongyrchol. Trwy gyfrif y mudiadau cefnogol mae’r ffigwr hwn yn fwy na 160,000 o addewidwyr. D osbarthwyd 50,000 o gardiau ‘addo prynu’n uniongyrchol’ (10,000 ym magiau Gwyl ˆ Fwyd Y Fenni). Presenoldeb tîm Fforch-i-Fforc mewn 360 o ddigwyddiadau (stondin/treilyr neu daflenni). Cyfanswm yr ymwelwyr a gyrhaeddwyd mewn digwyddiadau trwy gydol oes y prosiect oedd 2.5 miliwn o ddefnyddwyr posib. Mae gan dudalen Facebook Fforch-i-Fforc tua 300 o gyfeillion, neu ‘gefnogwyr ar-lein’. Mae gan gyfrif Twitter Fforch-i-Fforc tuag 1,600 o ddilynwyr. Ynghanol 2011 roedd gwefan Fforch-i-Fforc yn denu cyfartaledd o 200-300 o ddefnyddwyr unigryw bob dydd. Mae cyfanswm yr ymwelwyr hyd yn hyn o gwmpas 40,000 o ddefnyddwyr unigryw. Danfonwyd 30 x bwletin cynhyrchwyr pythefnosol at 1000+ o gynhyrchwyr gwerthiant uniongyrchol & budd-ddeiliaid y sector - 250+ o astudiaethau achos. 21,000 DVD a llyfrynnau Syniadau Slic rhad ac am ddim at ffermwyr a chynhyrchwyr.

01

Mae 6,500 o ymwelwyr wedi lawr lwytho deunyddiau hyfforddi (DVD Syniadau Slic) o Vimeo teledu Fforch-i-Fforc.

Canfu adroddiad Promar Llywodraeth Cymru fod Fforch-i-Fforc yn atgyfnerthu pob un o 14 egwyddor y Strategaeth Fwyd i Gymru.

05


06


CREU BRAND

Cam 1

Er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch amlweddog yn cael proffil uchel ac y gallai fod yn gynaliadwy i’r dyfodol ac wedi diwedd cyfnod y prosiect, datblygwyd brand dwyieithog clir, sef Fork2Fork – Fforch-i-Fforc. Sefydlwyd e-borth pwrpasol o dan yr un enw fork2fork.wales / fforchifforc.cymru yn e-ganolfan ar gyfer gweithgarwch. Gan ddefnyddio’r brand, cynhaliwyd ystod eang o weithgarwch ychwanegol gan drydydd partïon trwy addewid Fforch-i-Fforc gyda mudiadau mor amrywiol â Chyfeillion y Ddaear a Sefydliad y Merched a hyfforddiant Sgyrsiau Bwyd Lleol Canolbarth Cymru, gan frandio pob un ohonynt yn weithgarwch ar y cyd â Fforch-i-Fforc.

01

07


CYFLWYNIADAU A T Cydweithiwyd gyda nifer

HRA

FOD

bra

u C IP

ic

or d

d ia n t

08

u Sl

h yr r

30+ e-fwletinau cynhyrc hw h c u r D y VD hy cynh ff

a iad w yr yrch ynh eolaidd

hos C

IDD

wo

Dosbarthu 21,000 DV au g D Sy n 250+ Astudiaethau Ac

u bw

Gor

LA HEO d eraill y R

o b R r o u r A l D a ig wydd s Med i ecta i ad


YMGYSYLLTU Â BUDD-DDEILIAID

Ymgysylltwyd yn gynnar yn y prosiect â grwpiau amaeth-bwyd a mudiadau gwerthiant uniongyrchol (e.e. cydlynwyr marchnadoedd ffermwyr) Cynhyrchwyd 30+ o e-fwletinau cynhyrchwyr rheolaidd bob pythefnos i restr budd-ddeiliaid o fwy na 1,000 o gynhyrchwyr a llunwyr barn ehangach. Roedd y cynnwys rheolaidd yn cynnwys gwybodaeth o bob math, er mwyn rhoi gwybod i’r sector bwyd uniongyrchol am ddatblygiadau Llywodraeth Cymru a mudiadau trydydd parti fel FARMA a Marchnadoedd Ffermwyr yng Nghymru. Astudiaethau Achos Cynhyrchwyr cynhyrchwyd 250+ o astudiaethau achos i’w defnyddio ar www.fforchifforc.cymru a chan y busnesau unigol, ac fe’u defnyddiwyd yn ddeunydd hyrwyddo mewn cyfryngau argraffedig ac ar-lein. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil helaeth, ysgrifennu a hyrwyddo’r astudiaethau achos yn drawstoriad arfer gorau o’r cynhyrchwyr sydd yn gyfrifol am y cynnyrch gwlad amrywiol sy’n cael ei werthu. D VD Syniadau Slic - cynhyrchwyd DVD hyfforddiant ‘syniadau slic’ er mwyn gwella sgiliau’r sector trwy nifer o syniadau gwerthu a marchnata defnyddiol. Roedd bwriad hefyd i annog cynhyrchwyr cynradd i ystyried gwerthu’n uniongyrchol o gât y fferm, siopau fferm, marchnadoedd ac ar-lein.

Cam 1

Dosbarthwyd 21,000 DVD Syniadau Slic rhad ac am ddim yn uniongyrchol i gynhyrchwyr, trwy fudiadau trydydd parti ac i bob ffermwr yng Nghymru trwy ddefnyddio cylchgrawn yr FUW - Y Tir (7,500) a chylchgrawn Ffermio yng Nghymru yr NFU (9,000). Cynhyrchwyd a dosbarthwyd cyfanswm o tua 21,000 DVD trwy gyhoeddiadau, trydydd partïon ac yn uniongyrchol. Cynhyrchwyd a dosbarthwyd 20,000 o lyfrynnau cyfatebol ‘syniadau slic’ gyda’r DVD. Creu a threfnu’r Gynhadledd Gwerthiant Uniongyrchol Genedlaethol gyntaf ‘Sut allwch chi farchnata eich cynnyrch ynghanol y dirwasgiad?’ a enillodd y Fedal Aur am y Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus 2011/12. C ydweithiwyd gyda nifer fawr o brosiectau bwyd eraill, mentrau Llywodraeth Cymru a budd-ddeiliaid trydydd parti ehangach er mwyn rhannu gwybodaeth allweddol am weithgareddau i’r sector trwy ddarparu cynnwys diddorol. Cefnogaeth i ddigwyddiadau bwyd trydydd parti- e.e. digwyddiad Cyfarfod y Cynhyrchydd, cyn G wyl ˆ Fwyd Yr Wyddgrug (trwy gydweithio â Chadwyn Clwyd) i helpu cynhyrchwyr bwyd uniongyrchol i gyfarfod â’r prif drefnwyr lletygarwch yn y Gogledd.

01

Cyflwyniadau a thrafod rheolaidd i Gr wp ˆ Llywio Gwerthiant Uniongyrchol Llywodraeth Cymru a phwyllgorau budd-ddeiliaid allweddol eraill fel y Gr wp ˆ Ymgynghorol Amaeth-Bwyd.

09


24m 23m 22m 21m

CYRHAEDDWYD DROS 20 MILIWN O DDARLLENWYR

CYFRYNGAU ARGRAFFU

20m 19m 18m 17m 16m 15m 14m 13m 12m 11m 10m 9m 8m 7m 6m 5m 4m 3m 2m 1m 0

10

2 GYFRES

‘DUDLEY’ 341,000 O WYLWYR


CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS Hyd yn hyn, amcangyfrifir y cyrhaeddodd yr ymgyrch dros 20 miliwn o ddarllenwyr, yn seiliedig ar gylchrediad cyfryngau argraffu (yn unig) o 8,101,289. Roedd yr AVE cyffredinol, sef cywerthedd gwerth hysbysebu (os oedd y sylw a gafwyd yn hysbysebu yn y cyhoeddiadau hyn) yn fwy nac £1.5m ar gyfer cyfryngau argraffedig. Creodd y gwerth Cysylltiadau Cyhoeddus, sef lluosogydd ceidwadol a ddefnyddir gan y diwydiant oherwydd bod copi golygyddol yn fwy dibynadwy na hysbysebu, ad-daliad ar fuddsoddiad ar Gysylltiadau Cyhoeddus yn unig o fwy na £4 miliwn. Datblygwyd cystadleuaeth Arwyr Bwyd Lleol yn y Western Mail, Daily Post a’r Cambrian News. Cafwyd astudiaethau achos o fwy na 70 cynhyrchydd fel rhan o’r gystadleuaeth, a defnyddiwyd hefyd negeseuon ehangach ar resymau dros brynu’n uniongyrchol a lleol. Yn gyffredinol, cyrhaeddodd rhan Arwyr Bwyd Lleol yr ymgyrch gyfanswm o 3,652,628 o ddarllenwyr ym mhob rhan o Gymru. Creu Adrannau Bwyd am y tro cyntaf mewn cylchgronau fel The Big Issue, Red Handed Magazine, Daily Post Online, a Golwg 360, er mwyn hyrwyddo manteision prynu bwyd yn uniongyrchol. Mantais eilaidd ehangach o atgyfnerthu brand Gwir Flas. Hyrwyddo manteision prynu’n uniongyrchol mewn nifer o gyfryngau allweddol eraill, yn eu plith gylchgrawn Buzz, Country & Border Life, Country Life, a nifer o gyfryngau argraffedig gwahanol, gan gynnwys nodwedd dwy dudalen reolaidd yn y South Wales Evening Post. Gweithiodd tîm Four Cymru gyda’r ysgrifennwr bwyd, Simon Wright, i lunio colofnau pythefnosol yn y South Wales Evening Post, Carmarthen Journal, a’r Llanelli Star, yn cyflwyno rhesymau dros ‘brynu’n uniongyrchol’. Argraffwyd yr erthyglau hefyd yng nghylchgronau Swansea Life a Welsh Country Life, a chyrhaeddodd y golofn gyfanswm o fwy na 731,792 o ddarllenwyr. Erthyglau a chystadlaethau defnyddwyr mewn nifer o gyhoeddiadau gwahanol, yn cyflwyno cynhyrchwyr fel y ‘dynion a’r menywod’ y tu ôl i’r cynhyrchion. Astudiaethau achos pam prynu’n uniongyrchol mewn siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr, gatiau ffermydd, cynlluniau blychau ac ar-lein.

Cam 1

Cystadleuaeth ‘Ble mae’r Arwydd’ yn rhoi sylw i pam ddylai pobl brynu’n uniongyrchol mewn siopau fferm, gyda negeseuon clir yn y cyhoeddiadau hyn - The Wrexham Leader, Powys County Times a’r Denbighshire Free Press. Roedd y cyhoeddiadau Prydeinig y cafwyd sylw ynddynt yn cynnwys deunydd golygyddol mewn cyhoeddiadau fel BBC Food Magazine a Great British Food Magazine. Cydweithiodd Fforch-i-Fforc gyda chylchgrawn Great British Food er mwyn creu rhifyn ‘Rwy’n Caru Cymru’ penodol. Roedd ystod o waith hyrwyddo ad hoc ehangach yn cynnwys gwaith mewn gwahanol gyfryngau darlledu, radio ac argraffedig yn cynnwys: Radio Cymru, BBC Wales, Radio Wales, Ffermio, The Daily Post, County Times, Tenby Observer, South Wales Evening Post, Y Cymro, Radio Pembrokeshire, Carmarthen Journal, Llanelli Star, Daily Post, Cambrian News, NUS Connect, a chylchgrawn Lingo ac ati. Gan edrych yn benodol ar hyrwyddo ar y teledu, gweithiodd Fforch-i-Fforc yn agos dros ddwy gyfres o’r rhaglen goginio adnabyddus Dudley gan ddenu cyfanswm o 341,000 o wylwyr. Roedd prif agweddau’r ymgyrch yn cynnwys Hyrwyddo manteision prynu’n uniongyrchol ar yr awyr dros 500 o weithiau Cyrhaeddwyd cyfanswm o 341,000 o wylwyr ar gyfer yr holl raglenni a 376,000 pan gynhwysir gwaith ychwanegol lleoli brand Fforch-i-Fforc Roedd y gwaith hyrwyddo oddi ar yr awyr fanteision prynu’n uniongyrchol yn cynnwys cynhyrchu 50,000 o lyfrynnau ryseitiau mewn partneriaeth â Fforch-i-Fforc. Pedwar digwyddiad coginio yn gwerthu manteision cynnyrch lleol o Gymru – ‘coginio’n uniongyrchol â Dudley’ Yn ystod hanner cyntaf y gyfres (6 phennod) gwelwyd Dudley yn coginio mewn nifer o farchnadoedd ffermwyr ledled Cymru. Roedd yr ail hanner (8 pennod) yn canolbwyntio ar goginio gwych gan ddefnyddio cynnyrch o Gymru.

01

Defnyddiwyd enwogion i hyrwyddo bwyd lleol yng nghyfres Nadolig Dudley, gan gyrraedd 120,000 o wylwyr.

11


12


MARCHNATA UNIONGYRCHOL

Cam 1

Dosbarthwyd gwybodaeth ar ddeg rheswm da dros brynu’n uniongyrchol trwy drydydd partïon i tua 20,000 o unigolion yn 2010-11. Creu calendr tymhorol i’w roi ar waliau ac oergelloedd pobl yn dangos pryd mae gwahanol ffrwythau a llysiau yn eu tymor, yn ogystal â deg rheswm da “pam prynu’n uniongyrchol?”, a ddosbarthwyd i fwy na 164,000 o ddefnyddwyr. Dosbarthwyd calendr tymhorol Fforch-i-Fforc gyda’r Daily Post (40,000 copi), Western Mail (33,000), Cambrian News (24,000) a’r Bangor Mail (9,000) a defnyddiwyd deunydd golygyddol cyfatebol i hyrwyddo manteision prynu’n uniongyrchol. Gweithiodd tîm Fforch-i-Fforc gyda Chymdeithas Tai Gwalia er mwyn creu calendr pwrpasol yn tynnu sylw at yr holl resymau dros brynu’n uniongyrchol. Dosbarthwyd 10,000 i holl denantiaid Cymdeithas Tai Gwalia. Cynhyrchwyd pum rhifyn o gylchgrawn tymhorol wedi’i anelu at ddefnyddwyr er mwyn eu hannog i fynd i www.fforchifforc.cymru a phrynu’n uiongyrchol. Dosbarthwyd cyfanswm o tua 60,000 a chyrhaeddwyd cyfanswm o 180,000 o ddarllenwyr. Rhifyn 5 oedd yr un mwyaf trawiadol, gyda thudalen ranbarthol a mewnol ar gyfer y Canolbarth, y Gogledd, y De Ddwyrain a’r De Orllewin. Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2010, roedd cyfanswm yr hysbysebu gwerthiant uniongyrchol generig mewn llyfrynnau hysbysebu a drefnwyd gan Fforch-i-Fforc yn 855,000 er mwyn hyrwyddo agenda twristiaeth bwyd sy’n cael ei hyrwyddo ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.

01

13


Mae prynu bwyd yn lleol yn gallu helpu torri allyriadau carbon a’n milltiroedd bwyd, a phrynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr yw’r ffordd orau o ddod i wybod o ble mae eich bwyd yn dod. Cyfeillion y Ddaear

Mae’n bwysig fod yr unigolyn yn cefnogi’r addewid ac yn prynu’n lleol ac uniongyrchol yn rheolaidd, fydd yn creu mwy o swyddi i’r dyfodol. Dudley Newbery

Rwyf yn credu’n gryf mewn cefnogi cynhyrchwyr lleol, ac rydw i’n gefnogol iawn i ymgyrch Fforchi-Fforc, sy’n galw ar bob un ohonom ni i wneud ein rhan trwy feddwl yn lleol ac uniongyrchol wrth wneud ein siopa wythnosol. Henrietta Green

Rydyn ni’n gwbl gefnogol i addewid Fforch-i-Fforc ac yn falch iawn mai’r Scarlets yw 3,000fed addewidwyr yr ymgyrch i brynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr lleol ble bynnag y mae hynny’n bosib. Jon Davies & Rob McCusker

Rydw i’n ceisio prynu cynnyrch lleol pryd bynnag a ble bynnag y gallaf. Mae Cymru’n gyforiog o gynnyrch cartref gwych o ansawdd byd. James Sommerin

Rydw i’n gwbl gefnogol i addewid Fforch-iFforc ac yn falch iawn o fod y 2,000 addewidiwr i brynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr lleol ble bynnag y mae hynny’n bosib. Mae gan bobl fwy o ddiddordeb mewn cynnyrch lleol – o ble y daw a sut mae’n cael ei gynhyrchu. Graham Tinsley

14


ADDEWID Ym mis Awst 2010 lansiodd ymgyrch Fforch-i-Fforc yr addewid i brynu’n uniongyrchol. Y prif reswm y tu ôl i’r addewid oedd tynnu sylw at y fenter bob tro yr oedd person enwog, chef neu fudiad dylanwadol yn addo cefnogi’r agenda gwerthiant uniongyrchol. Yn ogystal, defnyddiodd rhai o’r mudiadau eraill hyn eu trefniadaeth cyfathrebu mewnol eu hunain i roi mwy o sylw i ymgyrch Fforch-i-Fforc, neu i gynnig cyfle i siaradwyr gwadd roi cyflwyniadau ar fanteision gwerthiant uniongyrchol. Trwy lofnodi’r Addewid roedd y mudiadau y cyfeiriwyd atynt yn caniatáu i ymgyrch Fforch-i-Fforc gysylltu â’u holl aelodau. Trwy greu cylchlythyron pwrpasol yn cynnwys negeseuon allweddol ac astudiaethau achos (e.e. ar gyfer mwy nac 8,000 o aelodau hynod ymroddedig Merched y Wawr) gan gynnwys cystadlaethau a chopi oedd wedi’u hanelu’n benodol at annog aelodau i ddysgu mwy ac i gymryd rhan yn yr ymgyrch. E rbyn mis Awst 2011, roedd dros 5,000 o unigolion wedi llofnodi addewid Fforch-i-Fforc, ynghyd â nifer o fudiadau cenedlaethol. Cafodd yr addewid ei gefnogi hefyd y tu allan i Gymru mewn cyhoeddiadau fel y Great British Food Magazine, a roddodd sylw i gefnogaeth James Sommerin (chef seren Michelin yn Sir Fynwy) i’r ymgyrch.

Cam 1

Addewidwyr Fforch-i-Fforc – Llofnodwyd yr addewid gan nifer o addewidwyr amlwg a chyhoeddus. Ymhlith yr enghreifftiau roedd Graham Tinsley; Ian Lucas AS; Joyce Watson AC; Rhodri Glyn Thomas AC; Jonathan Edwards AS; Dudley Newbery; Henrietta Green; James Sommerin; Rhodri Ogwen-Williams a Kevin Johns. Mudiadau a Gefnogodd Fforch-i-Fforc – Cafwyd cefnogaeth i’r addewid hefyd gan nifer o fudiadau amlwg. Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys Tîm Rygbi’r Scarlets, Marchnad Gymunedol Glan-yr-Afon; BMA Cymru; Cyfeillion y Ddaear; NUS Cymru; Sustrans Cymru; Sefydliad y Merched; Merched y Wawr; Sgyrsiau Bwyd Canolbarth Cymru; Bwyd Lleol Wrecsam; Blas o Bowys a Bwyd Gogledd Cymru. Roedd pob addewidiwr yn cael Bwletin Addewidiwr misol yn rhoi mwy o sylw i fanteision prynu’n uniongyrchol. Danfonwyd dros 15 o fwletinau a diweddariadau addewidwyr allan yn ystod y cyfnod dan sylw. Cynhyrchwyd cyfanswm o 50,000 o gardiau negeseuon allweddol i addewidwyr er mwyn annog pobl i brynu bwyd yn uniongyrchol. Un enghraifft o hyn oedd dosbarthu 10,000 ohonynt ym mhob bag yng Ngwyl ˆ Fwyd Y Fenni 2010.

01

FFORCH-I-FFORC D WI DE AD DI NO OF N WEDI LL 5,000 O UNIGOLIO

15


SIOE MÔN

GWLEDD

CONWY

FEAST

K C O

A FFLINT

ˆ YL FWYD RUTHUN GW YR EISTEDDFOD

SIOE PENFFORDD

GENEDLAETHOL

CEGIN

GWIR

ˆ YL GW FLAS FWYD

2010

IGION

K A W

T S E

SIOE DINBYCH

CYMRU

CERED

ˆ YL FWYD A DIOD GW

RB

AE

ABERYSTWYTH

BW G Wˆ YL

M YD

Ô

URDD

ˆ YL FWYD AC AFON GW

SIOE

EISTEDDFOD YR

MERCHED

ABERTEIFI Y WAWR

SIOE

FRENHINOL CYMRU

DIWRNOD AGORED CANOLFAN FWYD CYMRU

SIR BENFRO WYTHNOS BYSGOD

SIR BENFRO

ˆ YL GW

Y GELLI NADOLIG ˆ YL FWYD GORLLEWIN LLANDEILO GW CYMRU Y FENNI ˆ YL FWYD A DIOD FFAIR HAF GW ˆ YL FWYD GW

ˆ YL SYNHWYRAU GW

GET WELSH

BANNAU

IN SWANSEA BRYCHEINIOG MARCHNAD NADOLIG Y MWMBWLS

16

GWˆ

Y RALI GB CYMRU -A L P MARDI GRAS R- EN O G Y B CAERDYDD W ON R T

CWPAN RYDER

D FWYDD L ˆ Y GWSNEWY CA


DIGWYDDIADAU

Cam 1

Roedd tîm Fforch-i-Fforc yn bresennol mewn mwy na 360 o ddigwyddiadau, naill ar droed, gyda stondin/treilyr neu daflenni yn unig. Roedd cyfanswm bras yr ymwelwyr a gyrhaeddwyd mewn digwyddiadau yn ystod y prosiect yn 2.5 miliwn o ddefnyddwyr posib. Enghreifftiau o hyn oedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru (180,000 o ymwelwyr); Sioe Môn (58,000 o ymwelwyr); a Marchnad Ffermwyr Penfro (250+ o ymwelwyr). Ymhlith y digwyddiadau y buwyd ynddynt yn ystod y cyfnod roedd yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwyl ˆ Gelli Gandryll, Gwyl ˆ Jazz Aberhonddu; Gwyliau Bwyd - Llandysul, Rhuthun, Llanbedr Pont Steffan, Caerdydd, Y Trallwng, Llangollen, Aberystwyth; Sioe Frenhinol a Gwobr Ciniawa Coleg y Sefydliad Lletygarwch.

01

17


300 o

facebffrindiau ook

1,600 o

twitt 4 0,0

} 18

x30

o e-fwletinau cynhyrchwyr bob pythefnos at 1000+

ddilyn

er

wyr

o dd 0 0 e unig fnyddw y ryw â’r w r efan


MARCHNATA DIGIDOL Cynhyrchwyd gwefan ymbarél o dan enw parth fork2fork.wales / fforchifforc.cymru: Astudiaethau achos o gynhyrchwyr yn rhoi sylw i’r cynhyrchwyr sydd tu ôl i brynu’n uniongyrchol. Gwybodaeth ac ymchwil ar y prif resymau dros brynu’n uniongyrchol . Dros 500 o ddiweddariadau newyddion rheolaidd ers y lansio. E-fwletinau Addewidwyr rheolaidd prynwch yn uniongyrchol lle bynnag y gallwch. Roedd y deunydd yn cynnwys gwahanol ryseitiau, rhesymau dros brynu’n uniongyrchol a chysylltiadau â www.fforchifforc.cymru Mwy na 200 o e-byst/galwadau yn gofyn inni gynnwys gwybodaeth ar y wefan neu ychwanegu neu ddiweddaru gwybodaeth oedd arni yn barod. Cafodd mwy na 250 o Astudiaethau Achos o gynhyrchwyr eu creu a’u diweddaru ar y wefan, gyda chysylltiadau â gwerthiannau uniongyrchol. Cafodd adrannau bwyd ar-lein eu creu am y tro cyntaf ar Daily Post Online a Golwg 360. Mae gan y dudalen Facebook fymryn o dan 300 o gyfeillion, neu ‘gefnogwyr ar-lein’.

Phase Cam 11

Mae gan gyfrif Twitter Fforch-i-Fforc tuag 1,600 o ddilynwyr ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i ymateb i ddigwyddiadau neu ddyddiadau amserol. Pan gafodd ei monitro ynghanol 2011 roedd gan wefan Fforch-i-Fforc gyfartaledd o 200-300 o ymwelwyr unigryw bob dydd. Hyd yn hyn, cafwyd cyfanswm o tua 40,000 o ymwelwyr unigryw â’r wefan. Mae dros 6,500 o ymwelwyr wedi lawr lwytho deunyddiau hyfforddi o wefan Vimeo teledu Fforch-i-Fforc er mwyn annog cynhyrchwyr i ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau hyfforddiant. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddiant ar sut i farchnata eich hun mewn marchnad ffermwyr; sut i werthu trwy gynlluniau blychau; sut i osod siop fferm; sut all cynhyrchwyr frandio a phecynnu eu cynhyrchion; a sut i gael sylw a hyrwyddo eu cynhyrchion a’u busnesau. G waith hyrwyddo ar-lein o fanteision prynu’n uniongyrchol trwy bartneriaeth strategol gyda nifer o e-gylchgronau ac e-bapurau yn cynnwys: Wales Online.co.uk (bwyd a hamdden) Daily Post Online (creu adran fwyd ar-lein am y tro cyntaf) Golwg 360 - noddi adran fwyd ar-lein

01

19


20


CAM 2 CRYNODEB

Cam 2

2013-2015

Roedd Cam 1 Fforch-i-Fforc yn cynnwys ymgyrch ragweithiol iawn yn defnyddio llawer o adnoddau i annog pobl i newid ymddygiad ac i godi ymwybyddiaeth. Creodd frand a enillodd ei blwyf yn gyflym iawn y gellid ei ddefnyddio i gynnal cydlynedd a’i ddatblygu ymhellach ymhlith y gymuned gwerthu’n uniongyrchol a darparu gwybodaeth ar ddatblygiadau newydd. Creodd datblygiadau mewn technoleg symudol a chyfryngau cymdeithasol bosibiliadau newydd cyffrous ar gyfer ymgysylltu a rhannu a chyfnewid syniadau a chysylltiadau rhwng busnesau. I’r perwyl hwnnw, seiliodd Four Cymru Gam 2 y prosiect ar dair haen benodol, gan wneud digidol yn brif ffocws: Llwyfan digidol Fforch-i-Fforc - llwyfan digidol cynaliadwy a chyfleuster rhyngweithiol Cyhoeddiad Teithiau Bwyd Lleol Fforch-i-Fforc – arddangosiad o arfer gorau, gyrru traffig at y llwyfan digidol newydd Arloesi Bwyd Cymru - brand ymbarél newydd i ddatblygu ffocws a rhoi cyhoeddusrwydd i fanteision posib Canolfannau Bwyd i’r sector gwerthu’n uniongyrchol a chynhyrchwyr cynradd

02

21


‘ Digwyddiadau’ Cynhyrchwyr yn llwytho eu cynnwys eu hunain ‘ Cymuned’ Creu cyfrifon Aelodau o’r Gymuned Microwefan Gwyliau Bwyd www.gwyliaubwyd.cymru

22

‘ Ryseitiau’ Wedi’u uwch lwytho gan gogyddion a chynhyrchwyr ‘ Ffrwd Trydar’ Technoleg arloesol yn torri tir newydd


LLWYFAN DIGIDOL

Cam 2

atblygwyd llwyfan digidol Fforch-i-Fforc i D ddarparu dull modern, dwyieithog ac organig o ddiwallu anghenion perthnasol y gynulleidfa. echnoleg arloesol yn torri tir newydd, casglu T at ei gilydd yr holl gynnwys a uwch lwythwyd, trefn awtomatig o ddefnyddio diweddariadau perthnasol o gyfrifon eraill yn trafod bwyd ar Twitter, defnyddio ap pwrpasol Fforch-i-Fforc fel cyfleuster rhyngweithiol unigryw sy’n hawdd i’w ddefnyddio. reu cyfrifon Aelodau o’r Gymuned ag iddynt C eu proffiliau cyhoeddus eu hunain. ae cynhyrchwyr yn llwytho eu cynnwys eu M hunain ac yn hyrwyddo eu busnes trwy Digwyddiadau, Newyddion neu Ryseitiau, yn ogystal â chysylltu â’i gilydd a thudalen ‘Masnach’ bwrpasol. all defnyddwyr ddod o hyd i fwy o wybodaeth G am fwyd yn eu hardal leol a rhannu ryseitiau sy’n defnyddio cynnyrch tymhorol. wb ar gyfer rhaglenni’r UE ac SCE - ymhlith yr H enghreifftiau o brosiectau sydd wedi uwch lwytho cynnwys y mae Cywain, Garddwriaeth Cymru a BOBL (Gwell Cysylltiadau Busnes Organig).

02

icrowefan Gwyliau Bwyd – pecyn gwaith ar-lein M sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad ar sut i drefnu a rhedeg gŵyl fwyd, gan gynnwys sut i ddylunio a chynllunio cynnwys yr ŵyl, logisteg, brandio a dylunio, marchnata a deddfwriaeth.

23


24


CYHOEDDIAD

Cam 2

TEITHIAU BWYD LLEOL

Creodd a chynhyrchodd Four Cymru gyhoeddiad untro rhad ac am ddim er mwyn:

athlu ac arddangos astudiaethau D enghreifftiol ‘y gorau o’r gorau’ a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect

Gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr

Gyrru traffig at y llwyfan digidol

• Er mwyn arddangos yr amrywiaeth eang o ganolfannau y gellir prynu’n uniongyrchol ohonynt ac i annog pobl i ymweld drostynt eu hunain, arddangosodd y cyhoeddiad rai o’r siopau fferm, y gwyliau a’r marchnadoedd trwy gyfweliadau personol gyda threfnwyr a pherchnogion.

Trefnwyd y cyhoeddiad ar sail pum prif gategori cynnyrch bwyd a diod - Cwrw, Pysgod, Pobi, Cig a Chaws.

Er mwyn cefnogi’r neges fod bwyd a diod o Gymru o fewn cyrraedd hwylus i bawb, roedd yr holl ryseitiau yn syml, yn gyflawnadwy ac yn berthnasol, ac yn defnyddio cynnyrch lleol oedd ynghlwm â’r erthyglau.

Ar gyfer pob categori lluniwyd taith deuddydd thematig er mwyn dod â storïau detholiad o gynhyrchwyr cynradd a’r lleoedd sy’n gweini eu cynnyrch yn fyw.

Rhwng pob un o’r adrannau thematig, ceir galwad glir ar bobl i fynd ati i gael golwg ar y wefan i gael mwy o wybodaeth, ryseitiau, syniadau a lleoliadau er mwyn prynu’n uniongyrchol.

Roedd pob taith yn ceisio arddangos pobl sy’n credu’n angerddol mewn dod â chynnyrch lleol yn uniongyrchol at y cyhoedd. Golygwyd y cyhoeddiad gan Simon Wright, cyn olygydd canllaw bwytai yr AA, ac fe gomisiynwyd tîm o ysgrifenwyr proffesiynol o gefndiroedd gwahanol i gynhyrchu erthyglau 2,000 o eiriau ar gyfer pob categori. Aeth ffotograffwyr proffesiynol gyda phob ysgrifennwr a rhyngddynt aethant ati i gofnodi mewn geiriau a lluniau y daith o ddarganfod i’r darllenydd, beth sy’n arbennig am fwyd, diwylliant, tirwedd, traddodiadau a hanes unigryw Cymru.

Cafodd ffeithiau a ffigyrau diddorol ar gyfer pob categori eu harddangos trwy ddulliau graffegol yn chwedlau a hanesion bwyd. Wedi ei anelu at ymwelwyr â Chymru, pobl leol a chynhyrchwyr, dosbarthwyd 15,000 o gopïau i leoliadau targed ledled Cymru yn ystod mis Awst lle yr oeddent yn debygol o ddenu nifer fawr o ddarllenwyr a chael eu defnyddio dro ar ôl tro.

02

Roedd y canolfannau’n cynnwys canolfannau bwyd lleol/arbenigol, gwyliau, siopau fferm, canolfannau celfyddydol, gwestai boutique/gwely & brecwast, canolfannau gwybodaeth i ymwelwyr. Cafodd y cynnwys ei addasu ar gyfer gwefan Fforch-i-Fforc a’i ddefnyddio ar gyfer erthyglau nodwedd mewn papurau newyddion a chylchgronau eraill.

25


26


CYHOEDDIAD

Cam 2

TEITHIAU BWYD LLEOL

“” “” “” “”

Mae gan y sector gwerthu bwyd a diod yn uniongyrchol yng Nghymru lawer i’w ddathlu o ran ymgyrch Fforch-i-Fforc ac i fod yn falch ohono ac roeddwn wrth fy modd i fod yn Olygydd y cyhoeddiad hwn a helpu eraill i weld pa mor bell y daethom mewn cyfnod mor fyr. Bu Fforch-i-Fforc yn ymgyrch wych, a llwyddodd i chwistrellu egni, dod â phobl at ei gilydd, darparu arbenigedd a dangos, gydag ychydig ddychymyg, y gellir cyflawni llawer iawn. Gobeithiaf y gwelwn y ffordd hon o weithio yn parhau i’r dyfodol. Simon Wright, Wright’s Food Emporium A ninnau’n fusnes cymharol newydd ein teimlad ni oedd y cafodd Fforch-i-Fforc effeithiau pendant iawn inni yma. Yn gyffredinol, teimlaf fod Fforch-i-Fforc wedi’n croesawu ni i gymuned o gynhyrchwyr bwyd o’r un anian â ni yng Nghymru, pob un yn arddel ethos bwyd o safon, moesegol a blasus. Yn yr ystyr yna roedd y cyhoeddiad yn llwyfan i bawb gafodd sylw ynddo sefydlu gwahanol fathau o rwydweithiau a pherthnasoedd gweithio. Jack Smilie Wild, Bara Menyn Roeddem yn falch iawn o gael ein cynnwys yn y cyhoeddiad ac yn credu fod y cynnyrch gorffenedig yn wych – ansawdd ardderchog a storïau diddorol. Roedd mor ddefnyddiol cael rhywbeth y gallem ei adael ar fyrddau i’n cwsmeriaid ei ddarllen wrth eu pwysau – tra’n mwynhau ein cynnyrch. Gwyddom o adborth ei fod wedi’u cyfeirio at gynhyrchwyr eraill yn yr ardal na fyddent o reidrwydd wedi gwybod amdanynt fel arall. Cawsom hefyd nifer o gwsmeriaid newydd yn dod i’n gweld ar ôl darllen amdanom yn y cyhoeddiad a welsant yn eu gwesty neu mewn lleoedd eraill y buont ynddynt yn y cylch. Rachel Bowman, Cowpots Yn gyntaf, roeddwn wrth fy modd gyda golwg a theimlad y cyhoeddiad; roeddwn yn hoff iawn o’r diwyg matt a’r gwaith gosod/ffotograffau chwaethus ac ati oedd yn fy marn i yn gweddu’n berffaith i’r cynnyrch gwladaidd/nwyddau moethus a gafodd sylw ynddo. Fe’m helpodd i yng Ngŵyl Fwyd Y Fenni gan fod pobl wedi dod i chwilio amdanaf ar ôl gweld y cyhoeddiad. Cefais rai archebion ar-lein yn unswydd oherwydd ein bod yn y cylchgrawn, sy’n hyfryd… dydych chi byth yn gwybod pa mor bellgyrhaeddol yw pethau felly. Rydw i’n cadw’r cylchgronau ar fy stondin (yn digwydd bod ar agor ar ‘fy nhudalen i’ wrth gwrs), sydd os nad yw’n gwneud dim byd arall yn cychwyn testun trafod… Cymru/cynnyrch o Gymru… ac mae pobl yn hapus i drafod a rhannu eu syniadau am ryseitiau/bwyd/ansawdd, ac mae hynny oll yn dda iawn! Mel Constantinuou, Baked by Mel

02

27


28


ARLOESI BWYD CYMRU

Cam 2

Mae’r tair Canolfan Fwyd yng Nghymru’n cefnogi’r diwydiant bwyd trwy ddarparu:

Cyngor ac anogaeth

Cymorth technegol

Syniadau arloesol

Arweiniad ar gymhlethdodau rheoleiddiol a deddfwriaethol Er mwyn mynd i’r afael â diffyg ymwybyddiaeth llawer o gynhyrchwyr cynradd o’r adnoddau hyn, creodd Four Cymru frand cyffredinol ar gyfer y diwydiant fel y gallent fanteisio ar y gefnogaeth a’r datblygu roedd eu hangen arnynt i gyrraedd targedau twf Llywodraeth Cymru a datblygu gwaddol cynaliadwy ar gyfer y prosiect. Roedd y prif allbynnau yn cynnwys:

Creu’r cysyniad

Canllawiau brand llawn

Comisiynu llyfrgell ffotograffau rad ac am ddim

Lansio, cynllunio a hyrwyddo rhwydwaith newydd Arloesi Bwyd Cymru

Cynhyrchu deunyddiau marchnata creadigol

Lansiad Gweinidogol yn Sioe Frenhinol Cymru 2015 yng nghwmni cynrychiolwyr allweddol o’r diwydiant

02

efnyddio llwyfan Fforch-i-Fforc ar gyfer e-ymgyrch D i hyrwyddo datblygiadau Arloesi Bwyd Cymru.

29


30


CASGLIADAU’R YMGYRCH

GWAITH PARTNERIAETH

AGWEDD GREADIGOL

O’r cychwyn cyntaf, rhoddodd Four Cymru bwyslais canolog ar weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, er mwyn lleihau dyblygu a rhannu gwybodaeth ac arfer gorau. Trwy annog sefydliadau eraill i rannu a lledaenu brand Fforch-i-Fforc a hyrwyddo’r agenda gwerthiannau uniongyrchol trwy gyhoeddiadau, gwefannau a digwyddiadau, cyrhaeddodd yr ymgyrch yn llawer pellach na chapasiti ei gweithgareddau ei hun.

Cynhyrchodd ymgyrch Fforch-i-Fforc allbynnau cymeradwy, yn enwedig felly trwy’r gystadleuaeth astudiaethau enghreifftiol ysbrydoledig a gyfrannodd at naill gam y prosiect a’r llall. Trwy ddulliau gofalus a chreadigol, er enghraifft trwy gyflwyno Menter Arwyr Bwyd Lleol ac annog pobl i ddefnyddio deunyddiau generig Fforch-i-Fforc i helpu hyrwyddo cynhyrchwyr unigol a digwyddiadau mewn cyhoeddiadau lleol, goresgynnodd yr ymgyrch rwystr deddfwriaethol cymorth gwladwriaethol mewn ffordd greadigol.

GWADDOL CYNALIADWY Mae’r llwyfan digidol yn waddol addas iawn ac mae’n cyflawni’r union beth a fwriadodd y prosiect gwreiddiol ei wneud, sef cefnogi’r gymuned gwerthu’n uniongyrchol, ei helpu i ddatblygu a dod yn hunangynhaliol; ysbrydoli, rhannu arfer gorau a throsglwyddo gwybodaeth. Mae’r cyhoeddiad Teithiau Bwyd yn gadael gwaddol sy’n dathlu rhagoriaeth wrth werthu’n uniongyrchol ac mae datblygu brand ymbarél Arloesi Bwyd Cymru yn cynnig llwybr clir ar gyfer ehangu a thyfu’r sector i’r dyfodol.

CANLYNIADAU CYNHWYSOL Ceisiodd Four Cymru fod mor gynhwysol, integredig ac ymestynnol ag y bo modd wrth gyflawni’r ymgyrch. Yn gyffredinol, un o agweddau mwyaf arwyddocaol Fforch-i-Fforc oedd bod y rhan fwyaf o gynhyrchwyr gwerthu’n uniongyrchol wedi gweld cynnydd yn ystod y cyfnod. Hefyd, mae gan ddefnyddwyr well dealltwriaeth o gynnyrch cynradd a bwyd a diod gwladaidd ac mae’r dewis a’r amrywiaeth o ddigwyddiadau bwyd a chyfleoedd gwerthu’n uniongyrchol wedi cynyddu.

31


Aberystwyth Caredydd | Cardiff www.four.cymru @fourcymru

33


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.