fforch i fforc teithiau bwyd lleol
Naws y caws
2
|
www.fforchifforc.cymru
Naws y Caws QQ Dilynwch Manon Steffan Ros ar daith drwy borfeydd gwelltog – i gwrdd â’r bobl sy’n hudo llaeth yn gaws, troi hufen yn hufen iâ, ac yn ei arddangos mewn ffordd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd. Geiriau Manon Steffan Ros Ffotograffau Iestyn Hughes
www.fforchifforc.cymru
|
3
“Busnes teuluol sydd yma, ble mae Sam a Rachel Holden yn defnyddio'r llaeth o fuches tad Sam i greu y caws.”
R
ywsut, drwy ryw dric clên o ffawd, mae'r sêr wedi sefyll mewn rhes a finnau wedi ennill y loteri lwc. Mae hi'n ddydd Mercher braf ar ddechrau'r gwanwyn, a dwi ar fy ffordd: caws, hufen iâ, ac i aros mewn gwesty moethus. Prin y medra' i goelio'r peth! I ddechrau, dwi'n meddwl mai scam ydi'r cyfan, ond mae'n araf wawrio y bydda' i'n cael treulio deuddydd cyfa' yn ymweld â chynhyrchwyr a chyflenwyr cynnyrch llaeth. A dyna sut dwi a'r ffotograffydd, Iestyn Hughes, yn canfod ein hunain yn rhoi ein ffydd yn sat nav ei gar o ar hyd lonydd cefn troellog cefn gwlad Cymru. Chwarae teg i'r llais benywaidd, pendant ar y Tom-tom – mae hi'n ein harwain yn syth i fferm Bwlchwernen Fawr, cartref Caws Hafod. Busnes teuluol sydd yma, lle mae Sam a Rachel Holden yn defnyddio'r llaeth o fuches ei dad i greu caws cheddar. Mae'r fferm wedi ei lleoli ar dir uchel sy'n edrych i lawr dros glytwaith gwyrdd y fro, ac mae teimlad hyfryd o ynysig i'r lle. Ar ôl gwisgo'n dillad gwarchodol – net gwallt, welingtons a chot wen – mae Rachel yn ein harwain i'r ystafell lle mae'r caws yn cael ei greu. Un dawel a swil ydi Rachel, yn ymddiheuro'n syth eu bod nhw yn ei chanol hi, ac a fyddai ots petai Sam a hithau'n parhau efo'u gwaith tra 'da ni'n sgwrsio? Mae Sam wrthi'n troi llwyth o laeth gyda phadl fawr, yn ôl ac ymlaen, drosodd a throsodd. Mae'r broses o wneud caws wedi dechrau, ond i mi, mae'n edrych fel llwyth o wyau sgramblo wedi eu gollwng i fath enfawr o laeth. Gyda gwên hawddgar, mae Sam yn esbonio'r broses o wneud caws i ni, cyn rhoi
4
|
www.fforchifforc.cymru
mymryn o'i hanes ei hun. Yn rhyfedd iawn, pan mae'n esbonio ei fod o wedi bod yn byw yn Llundain, fedra i ddim dychmygu'r peth – mae Sam yn ffitio mor berffaith i'w gynefin, ac yn edrych mor naturiol wrth fynd ati i wahanu'r ceuled a'r maidd (na, wyddwn i ddim mai dyna'r term Cymraeg am curds and whey, chwaith!). Mae'n sgwrsio'n fyrlymus am y ffordd maen nhw'n gwneud caws yn yr un modd y byddai caws wedi cael ei wneud ganrif yn ôl, cyn bod blociau trwchus o cheddar yn cael eu cynhyrchu ar raddfa enfawr i'r archfarchnadoedd. Dwi'n synnu o weld bod teimlo a chyffwrdd y caws yn rhan bwysig o'r broses yma – mae Rachel yn rhedeg ei bysedd drwy'r llaeth i rythm tawel i wneud yn siŵr fod y lympiau o geulad ddim yn rhy fawr, ac yn hwyrach yn y broses, ar ôl draenio'r maidd, mae Sam yn lapio'r caws mewn llieiniau mwslin, gan f'atgoffa i o dad yn rhoi plentyn i'w wely. Brwdfrydedd ac angerdd – dyna sy'n gyrru Sam a Rachel. Er ei bod hi'n gadael y rhan fwyaf o'r sgwrsio i'w gŵr, mae 'na addfwynder a llonyddwch hyfryd i Rachel, a bodlonrwydd tawel yn y ffordd mae'n ymdrin â'r caws. Wrth ddangos yr ystafell anferth, oer lle mae silffoedd o gawsiau yn aeddfedu, mae Sam yn dangos y patrymau tlws ar du allan y caws fel arlunydd yn arddangos ei gelf. (Rhaid cyfaddef, mi ges innau fy swyno gan y llwydni hefyd – roedd rhai cawsiau yn edrych fel wyneb y lleuad, a rhai eraill fel rhisgl coeden hynafol.) Wrth ymadael â Bwlchwernen Fawr, mae Iestyn yn stopio'r car i dynnu llun. Does dim i'w glywed ond adar mân ac ambell wenynen dew yn prysuro rhwng y blodau gwylltion. Mae'r ffordd y mae Sam a Rachel yn gwneud eu caws yn dangos eu
Naws y Caws
parch a'u cariad at y tir yma, ac mae'r parch yna'n heintus. Caws Teifi ydi'r nesaf ar ein rhestr, busnes a sefydlwyd 'nôl yn 1982. Unwaith eto, mae awyrgylch teuluol ar fferm Glynhynod ger Ffostrasol, gyda beiciau plant ar y lawnt yn ymyl y llaethdy, a dillad ar y lein yn chwifio yn yr awel. Mae John Savage-Onstwedder, sy'n arwain Iestyn a finnau o amgylch y fferm, yn ddyn tal a chanddo lygaid treiddgar a llais uchel, pendant. Weithiau, wrth ein tywys o gwmpas y lle, mae o'n pwyllo ac yn edrych i fyw fy llygaid cyn dweud brawddegau'n araf ac yn llawn angerdd, pethau fel "There is nothing new about organic!" Ar ôl hanner awr yn ei gwmni, dwi wedi 'narbwyllo'n llwyr am fuddiannau llaeth amrwd (h.y. heb ei basteureiddio). Caws gouda a chaws cheddar sy'n cael ei wneud yma, a rhai gyda chynhwysion wedi eu hychwanegu (roedd Pavarotti yn ffan o'r caws gwymon). Mae'r cynnyrch wedi ennill gwobrau di-ri, ac mae'n boblogaidd iawn. Byddai'n ddigywilydd i beidio â derbyn cynnig John i'n tywys o amgylch ei fusnes arall, y Dà Mhìle Distillery. Mae'n cynhyrchu amrywiaeth o wirodydd organig, ac mae’r distyllydd copr yng nghanol yr adeilad yn dlws tu hwnt. Wedi'n harwain ni i ystafell dywyll yn llawn casgenni trymion, mae John yn ein hannog i
arogli'r cynnyrch – "take a sniff in there!" wrth dynnu'r stopper o gaead casgen o frandi afal. Mae'r arogl yn felys a thrwchus ac yn fendigedig. Bydd oriel flasu yn cael ei hagor uwchben y ddistyllfa yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'n ystafell fawr hyfryd, a golau'r haul yn cynhesu'r dodrefn chwaethus a'r pren ar y nenfwd. Mae celf ddifyr, herfeiddiol yn addurno'r waliau, ac, unwaith eto, mae John yn tanio wrth drafod sgil yr arlunydd neu wreiddioldeb y syniad. Ac yna, mae o'n estyn y jin. Dim ond y mymryn lleiaf, i flasu – ond yn gyntaf, rhaid ei arogli ("Mae o'n f'atgoffa i o arogl y blodau ar ochr lôn fach wledig" meddai Iestyn, ac mae o'n hollol gywir – arogl hafau ers talwm, pan oedd pob dydd yn braf.) A'r blas? Mam bach! Mae o'n anfarwol. Rydw i'n blasu pob perlysieuyn a phob blodyn bach. Am ychydig eiliadau, rydw i'n fud, ac mae John yn syllu arna i gyda gwên fach – mae'n amlwg ei fod o wedi dod o hyd i gwsmer newydd. Y stop nesaf yw ein lloches am y noson – gwesty Hammet House yn Llechryd. (Arferai'r lle fod â'r enw hyfryd, Castell Malgwyn.) Cyn gynted ag ydw i'n gweld y fwydlen, mae'n
“Mae Sam yn dangos y patrymau tlws ar y caws fel arlunydd yn arddangos ei gelf.” www.fforchifforc.cymru
|
5
amlwg ein bod ni ar fin cael gwledd. Heb sôn am safon a gwreiddioldeb y prydau rydan ni'n eu harchebu, gweinir danteithion bach rhwng y cyrsiau (wna i ddim anghofio am yr un sglodyn perffaith a'r llinell o gafiar ar ei ben am amser hir, hir.) Wrth fwyta, rydw i'n meddwl am yr holl amseroedd rydw i'n bwyta heb feddwl am y blas, yr edrychiad. Mae'r cogydd, Matt Smith, wedi creu dathliad o fwyd a blasau. Ew! Rydw i wedi gwirioni'n lân. Yna, daw'r weinyddes siriol â detholiad o gaws at y bwrdd, ac er mod i'n taeru na fedrwn i fwyta 'run cegaid arall, mae'n amhosib gwrthod. Mae pob un o'r cawsiau yn lleol, a phob un yn gwbl wahanol i'w gilydd, ond nid oherwydd daearyddiaeth y dewiswyd y rhain – maen nhw o'r safon uchaf. Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd i mi wrth ddarllen y rhestr o gawsiau, rhyw deimlad od wrth weld enwau Caws Hafod a Chaws Teifi. Wrth gofio Sam a Rachel ym Mwlchwernen Fawr, a John yn Fferm Glynhynod, dwi'n teimlo balchder bod eu gwaith caled nhw'n cael ei wobrwyo drwy gael ei weini mewn bwyty mor safonol. Dwi'n teimlo'n deyrngar, ac yn fwy na dim, dwi'n teimlo parch – at y gwneuthurwyr am greu rhywbeth mor arbennig, ac at y bwyty am gydnabod eu safon.
6
|
www.fforchifforc.cymru
Dwi fymryn yn bryderus y ca' i hunllefau heno ar ôl yr holl gaws... ond rywsut, dwi'n gwybod y bydda i'n cysgu'n dawel... Dwi'n fy ngweld fy hun yn y drych y bore wedyn, ac ar ôl gwledd neithiwr, dwi'n edrych... wel... yn feichiog. Pedwar mis, o leiaf. Penderfynaf na cha' i frecwast. Y drwg ydi, maen nhw'n gweini ffa pob borlotti gyda chorizo, tomatos rhost, teim a surop masarnen. Dwi'n bochio'r cyfan, ynghyd â darn o dost ac iogwrt cartref. Mae'r cyfan yn ysblennydd. Ein stop cyntaf heddiw yw deli a chaffi ultracomida yn Arberth (mae siop arall yn Aberystwyth). Mae popeth mor dlws! Ochr yn ochr ar y silffoedd mae mêl, cnau, poteli anferth o olew olewydd, siocled, gwin a chwrw. Yn y cefn, mae caffi bywiog yn fwrlwm o bobol – ambell un yn darllen ei bapur dros baned o goffi, ambell un arall yn mwynhau tamaid i'w fwyta. Ond y prif atyniad ydi'r dewis helaeth o gawsiau sydd ar werth yma. Mae'r silffoedd yn gwegian o dan eu pwysau nhw, yn ddisgiau trwchus, ac mae’r min ar yr arogl yn gymysg oll i gyd ag oglau ham, siwgwr a choffi. Mae yma gawsiau meddal hufennog, cawsiau caled euraid, cawsiau gafr a chawsiau wedi eu lapio mewn dail. Mae'r caws glas yn edrych yn fendigedig,
Naws y Caws
wedi ei fritho gan wythiennau bychain lliw inc. Rydw i'n holi Shumana o ultracomida sut mae dewis pa gawsiau i'w gwerthu. Dynes fechan dlos ydi Shumana, gyda gwên fawr a llygaid sy'n disgleirio o hyd. Mae ei brwdfrydedd a'i hedmygedd tuag at y cynnyrch sydd ar werth yma yn hyfryd i'w weld, ac mae'n gynnes a chroesawgar, er mor brysur yw'r siop, a phawb yn ceisio mynnu ei sylw hi. 'Ydach chi'n dewis cawsiau am eu bod nhw'n lleol?' gofynnaf, ond ysgwyd ei phen yn bendant mae Shumana. Mae'r cynnyrch i gyd yn cael ei ddewis ar sail safon, ac mae cawsiau Cymru o'r safon uchaf. Nid o achos teyrngarwch cenedlaethol y mae detholiad helaeth o gawsiau lleol ar silffoedd trymlwythog ultracomida, ond achos eu bod nhw'n haeddu eu lle ymysg cawsiau gorau'r byd. Mae caws Hafod a chaws Teifi ar gael yn ultracomida, a dwi'n cael yr un teimlad balch, teyrngar ag y ces i neithiwr wrth lafoerio dros y cawsiau yn Hammett House. Mae gweld yr olwynion trwchus o gaws yma, dan oleuadau llachar y siop,
yn gwneud i mi feddwl am ddwylo Rachel yn y maidd, a Sam yn lapio'r ceuled yn y lliain, a John yn brolio safon gwasg caws Teifi. Mae un lleoliad ar ôl – Cowpots ger Hendy-gwyn ar Daf. Mae'r sat nav yn ein danfon ni'r ffordd anghywir, cyn mynnu "turn around!" yn ddigon hy – ond buan rydan ni'n cyrraedd fferm Pen Back a chaffi The Cowshed. Dechreuodd teulu Bowman wneud hufen iâ Jersey ddeng mlynedd yn ôl, ac mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth. Ym mis Gorffennaf 2014, agorwyd caffi The Cowshed mewn hen feudy ar y safle, a dyma'r lle awn ni i weld yr hufen iâ sydd ar gael. Mae awyrgylch gwirioneddol hyfryd i'r lle yma – llawer o olau, waliau gwynion a stof yn y gornel yn llenwi'r lle â chynhesrwydd ac arogl coed tân. Busnes teuluol ydi Cowpots, ac mae Rachel yn fy arwain at y rhewgell. Mae hi'n amlwg wedi gwirioni efo'r hufen iâ, ac efo'r caffi – er i ni aros am oriau maith, welais i mohoni heb wên ar ei hwyneb. Mae'n pasio samplau o hufen iâ i mi dros y cownter – eirin Mair;
“Mae cawsiau Cymru o’r safon uchaf. Maen nhw’n haeddu eu lle ymysg cawsiau gorau’r byd.” www.fforchifforc.cymru
|
7
“Mae pawb yn falch o’u cynnyrch, a phob un yn mynnu safon.” sinsir a siocled; rhywbeth o'r enw 'cowmix' sy'n llawn o ffasiwn amrywiaeth bendigedig na fedra' i mo'u rhestru. Ac yn olaf, mafon, ac mae hwn yn flas syfrdanol – fel petai'r mafon newydd eu pigo a'r hufen newydd ei gorddi. Gwena Rachel mewn ffordd sy'n dweud, dwi'n gwybod – mae o'n anhygoel, tydi? Ac ew, ydi, mae o! Yna cawn gwrdd â William, sy'n gyfrifol am wneud yr hufen iâ. Mae o'n ddyn ifanc, tawel ac mae o wrthi'n rhoi hufen iâ blas taffi llosg mewn potiau. Fedra i ddim rhwystro fy hun rhag syllu – mae'r hufen iâ mor feddal, yn lliw euraid tywyll. Esbonia William wreiddiau'r cwmni. Roedd ei rieni'n ffermwyr llaeth yn Hampshire, ac ar ôl blynyddoedd maith, roedd rhaid wynebu bod prisiau llaeth mor isel nes bod rhaid i'r teulu newid trywydd. Felly, gan gymryd coblyn o risg, prynodd y teulu'r fferm, a ganed Cowpots. Ar fuarth y fferm, rydym ni'n sgwrsio â Brian Bowman, tad William, sy'n ymhelaethu ar hyn. Ffordd o aros ym myd amaeth ydi Cowpots a'r caffi, ac mae'r teulu'n mynnu cadw safon uchel i bob dim sy'n dwyn eu henw nhw. Mae Brian yn gymeriad hoffus, direidus, a sglein hyfryd yn ei lygaid. Mae'n ystumio gyda'i ddwylo geirwon wrth siarad, ac yn edrych i fyw fy llygaid yn daer. Mae'n bwysig, meddai Brian, i basio'r sgiliau a'r busnesau ymlaen i'r genhedlaeth nesaf, ac mae o'n falch
8
|
www.fforchifforc.cymru
iawn o'i deulu am gynnal busnes mor llwyddiannus sydd ag enw mor dda. Mae Iestyn yn holi a gaiff dynnu ei lun, ond dydi Brian ddim yn awyddus – "Take a photo of William instead!" Yn ddiweddarach, rydw i'n holi Rachel a oes unrhyw obaith cael llun o Brian yn mwynhau'r hufen iâ – mae hi'n gwenu gwên lydan, ac yn gaddo gwneud ei gorau. Ymhen pum munud, mae o'n eistedd o flaen y camera, ei lwy yn nyfnderoedd ei sundae hufen iâ. Cyn i ni fynd, mynna Brian roi cinio i ni, ac rydw i'n cael y pleser o flasu tasca gyda chatwad afal a chaws glas meddal Mouldy Mabel, un arall o gynhyrchion teulu Bowman. Mae'n goron berffaith ar drip hyfryd. Ar y ffordd adref yn y car (mae'r sat nav yn ein danfon ni ar draws gwlad, drwy lefydd nad ydym ni wedi clywed amdanyn nhw cyn hyn), mae Iestyn a minnau'n trafod yr holl leoliadau, a'r holl bobol y buon ni'n ddigon lwcus i gwrdd â nhw. Un peth sy'n clymu pob un, a brwdfrydedd ydi hwnnw. Mae pawb yn falch o'u cynnyrch, a phob un yn mynnu safon. A dydi clodfori'r bobol yma yn ddim byd i'w wneud gyda hyrwyddo cwmnïau Cymreig – mae o am ganmol cynnyrch safonol. Rŵan! Am y deiet 'ma... ar ôl i mi gael un darn bach arall o gaws...
Naws y Caws
www.fforchifforc.cymru
|
9
Chwedl a Llên Bwyd Ei dweud hi’n hallt raith
g Nghyf Mae cymal yn C 880-950) yn Hywel Dda (O caws yn arfer awgrymu bod ewn dŵr cael ei drochi m od hwnnw. halen yn y cyfn , tra byddai’r Yn ôl y gyfraith hallt roedd yn caws yn y dŵr d ig; ond yr eilia perthyn i’r wra r o’ u nn dy ei y byddai’n cael d i’w fwyta, ro ba yn dŵr, ac n i’r gŵr. roedd yn perthy aniaeth hwn Byddai’r gwah nyddio’n aml yn cael ei ddef gariad. wrth drefnu ys
10
|
www.fforchifforc.cymru
Llond llwyaid fach arall, os oes rhaid...
Roedd gan y Celtiaid lawer o ffydd mewn halen. O ran coginio a chadw bwyd, roedd halen yn dipyn o wyrth, ac roedd defnydd trwm arno. Yn ogystal â bod yn fodd i halltu cig, roedd yn gynhwysyn hanfodol wrth gynhyrchu menyn Cymreig, ac yn ffordd ymarferol o ychwanegu braster a blasau cyfoethog at luniaeth y Celtiaid, a fyddai’n ddigon llwm fel arall. Mae menyn Cymreig go iawn yn dal i gynnwys digon o halen i beri dychryn i lawfeddyg y galon. Ond mae’n hynod o flasus!
Cysgwch yn dawel
Byddai’r cartwnydd o America, Winsor M cCay, yn sôn yn aml yn ei st ribedi ffilm comig am ef feithiau caws pob. Byddai ei gymeriadau yn am l yn deffro o’u breudd wydion ar ôl bwyta’r saig hon. Cafodd ei stribed ffilm o’r enw ‘Dream of th e Rarebit Fiend’ ei gyhoeddi mewn papurau newydd rhwng 1904 a 1925, a’i dr oi yn ffilm heb eiriau o’ r un enw ym 1906.
Caws nefolaidd
Mae’r syniad bod caws pob (neu ‘Welsh Rarebit’ yn Saesneg) yn fwyd amheuthun gan y Cymry yn bod ers yr Oesoedd Canol. Yn ‘The Hundred Merry Tales’ (1526) mae Duw yn cael llond bol ar y Cymry a’u cyfeddach yn y nefoedd ac yn mynnu bod Sant Pedr yn mynd i’r afael â’r mater. Mae’r sant yn ymateb trwy weiddi ‘Welsh rarebit!’ a dyma’r holl Gymry yn ei heglu hi allan o’r nefoedd. Mae Sant Pedr yn cloi’r pyrth ar eu holau – ac yn ôl yr hanes dyna pam nad oes 'na Gymry yn y nefoedd.
Ei dweud hi’n hallt...eto
Yn ôl y sôn cafodd caws Caerffili ei ddatbl ygu dros gyfnod i fod yn ffo rdd gyfleus o ychwan egu’r halen y byddai’r gl owyr lleol yn ei golli ar sifft ddeg awr o waith caled dan ddaear. Dim rhyfed d felly ei fod yn elfen an hepgor ym mwyd y glowyr .
Blas newydd ar hen flas
Selsigen lysieuol draddodiadol Gymreig yw Selsigen Morgannwg. Ei phrif gynhwysion yw caws (Caerffili fel arfer), cennin a briwsion bara. Sonnir amdani yn llyfr George Borrow, ‘Wild Wales’ (1862). Bryd hynny caws o Forgannwg oedd y dewis gaws, ond does neb yn creu'r caws yma bellach. Mae caws Caerffili yn union linach yr hen rysáit am gaws Morgannwg, ac mae’n cynnig ansawdd a blas digon tebyg i’r gwreiddiol.
www.fforchifforc.cymru
|
11
Rydym wedi cyrraedd pen ein taith... ...ond os ydych am ddechrau ar eich taith bwyd a diod eich hun, beth am ymweld 창 www.fforchifforc.cymru a dewis un o'r cannoedd o leoliadau bwyd uniongyrchol sydd ar gael ergyd carreg o'ch cartref, boed yn farchnad ffermwyr, yn siop fferm, neu'n ymweliad 창'r fferm ei hun.
www.fforchifforc.cymru