FFIN Y PARC COUNTRY HOUSE & GALLERY
Estynnir gwahoddiad i chi a’ch gwestai i AGORIAD ARDDANGOSFA Dydd Sul 1af Mai, 2 - 5 y.p.
Kim Dewsbury Elfyn Jones RCA Pete Monaghan You and your guests are invited to a PRIVATE VIEW Sunday 1st May, 2 - 5 p.m. 01.05.16 - 25.05.16
All works can be purchased on receipt of this invite and can be viewed on our website www.welshart.net
FFIN Y PARC COUNTRY HOUSE & GALLERY
Front Cover Image: Kim Dewsbury - Towards Arenig, the Skylarks are Singing - Oil on Canvas, 62x62cm Left Image: Pete Monaghan - Hendre Wen Fferm I - Mixed Media on Board,100x100cm
Kim Dewsbury - Cactus in the Cupboard - Oil on Canvas Board, 21x21cm
KIM DEWSBURY Mae paentiadau Kim yn cyfuno elfennau o fywyd llonydd a phaentio tirwedd. Mae cyfansoddiad y gwaith wastad yn gywrain ac yn brydferth, yn ddisgybledig ac yn fanwl. Mae’r manylder a’r cywreinrwydd yn gwasanaethu’r cysylltiadau cymhleth a neilltuol rhwng y gwrthrychau a’r syniadau yn y gwaith. Mae hi’n gyfarwydd a’r tirweddau yma ar ol cerdded a gweithio ynddynt, ond mae hi’n gwybod eu natur a’u ecoleg hefyd. Mae hi wedi ymchwilio’u hanes a’r storiau, chwedlau a barddoniaeth a ysbrydolwyd ganddynt. Mae’r gwrthrychau a osodwyd yn, ac o flaen y tirweddau yn goleuo, yn egluro ac yn cysylltu. Maent yn cynnau syniadau, yn ein hatgoffa o’n cyd-hanes, ac yn ennyn atgofion personol. Mae yna agwedd tawel a synfyfyriol i’r paentiadau, ond meant yn tywynnu murmur digamsyniol deallusrwydd craff, a churiad yr angerddau - cariad, dicter, gobaith. Ganed Kim yng Nghernyw, ond bu’n byw ac yn gweithio yng Nghymru am dros 30 mlynedd. Dyma ei ail sioe gyda ni yn Ffin y Parc. Kim’s paintings combine elements of still-life and landscape. The work is always beautifully composed and painted, meticulously detailed and controlled. The precision and delicacy serve the specific and complex connections between the objects and ideas which form the works. Not only does she know these landscapes from working and walking in them, but she knows their nature and ecology. She has learned their history, and the stories, myths and poetry that they have inspired. The objects placed into and in front of these landscapes all illuminate and connect. They spark ideas, they remind us of our collective history, and they evoke personal memories. The work has a quiet contemplative air, but they emit both the unmistakeable hum of a keen intelligence and the beat of passions – love, anger, hope. Kim was born in Cornwall, but has been living and working in Wales for over 30 years. This is her second show here at Ffin y Parc.
Kim Dewsbury - The ABC of Pot Plants (Detail) - Oil on Canvas Board, 21x21cm
Kim Dewsbury - Cader Idris, up from Dol y Cae - Oil on Canvas, 57x31cm
Kim Dewsbury - From Newborough Warren - Oil on Canvas, 62x26cm
Kim Dewsbury - Long Live the Weeds and the Wildnerness Yet - Oil on Canvas, 31x31cm
Elfyn Jones RCA - Cold Look - Oil on Canvas, 40x40cm
ELFYN JONES RCA Yn ei gasgliad grymus newydd, mae Elfyn wedi creu gwaith sy’n llifo rhwng lefelau amrywiol o haniaeth, ac sy’n defnyddio’r ffigur a’r tirwedd i archwilio ag i oleuo’r syniadau sy’n ei ysgogi. Mae’r gweithiau cynnil a chymhleth yma yn heriol ac yn dosturiol. Maent yn tystiolaethu i trasiediau ac eironiau’r cyflwr ddynol gyda llonyddwch pwyllog, stoicaidd; ac yn brwydro’n barhaol yn erbyn y syrthni i’w fynegi gydag angerdd, egni, a deallusrwydd dygn. Mae Elfyn yn anwybyddu’r byrhoedlog a’r ymylol, ac yn pigo i ddatrus clymau’r craidd - ein trafodaethau parhaus rhwng unigedd a chysylltiad, cyfyngiad a rhyddid, cuddiad a datguddiad, llonyddwch a symudiad. Yr holl ddirgelion sy’n un ddirgelwch… Ganed Elfyn yn Wrecsam ym 1939, ac fe’i hyfforddwyd yn Wrecsam a Chaerdydd. Fe’i etholwyd i’r AFG ym 1983. Mewn oed pan fydd nifer ohonom yn meddwl am ymlacio ychydig efallai, mae Elfyn yn ymestyn ac yn rhuo. In his powerful new collection, Elfyn has produced work which ebbs and flows between varying levels of abstraction and uses both the figure and the landscape to explore and illuminate the ideas that compel him. These subtle, complex works are both challenging and compassionate. They bear witness to the tragedies and ironies of the human condition with poised, stoic stillness; and continually battle against inertia to articulate it with passion, energy and dogged intelligence. Elfyn dispenses with the fleeting and the peripheral, and picks away at the knots at the core – our constant negotiations between isolation and connection, confinement and freedom, concealment and exposure, stillness and motion. All the conundrums that are the same conundrum… Elfyn was born in Wrexham in 1939, and trained in Wrexham and Cardiff. He was elected to the RCA in 1983. At an age when many of us are thinking about taking it easy, Elfyn is reaching and roaring.
Elfyn Jones RCA - Opposing Forces (Detail) - Oil on Canvas, 60x70cm
Elfyn Jones RCA - What Do We See - Oil on Canvas, 100x120cm
Elfyn Jones RCA - Figure in a Room Oil on Canvas, 45x50cm
Elfyn Jones RCA - Who’s Who Oil on Canvas, 60x70cm
Pete Monaghan - Ty-Newydd III, Mixed Media on Board, 100x100cm
PETE MONAGHAN Ganed Pete yn Swydd Gaerloyw ym 1961, a gweithiodd fel darlunydd am ugain mlynedd. Mae e nawr y rhannu ei amser rhwng ei stiwdioau yn Aberystwyth a De’r Almaen. Dyma ei sioe gyntaf gyda ni yn Ffin y Parc Mae ei gefndir fel darlunydd yn trwytho’i baentiadau clir a hyderus o bensaerniaeth werinol Gymreig. Ar ol gwneud brasluniau cychwynnol ar y safle, mae e’n datblygu ac yn coethi’r delweddau yn y stiwdio i greu gwaith atgofus, llawn hoffter. Mae e’n clodfori prydferthwch ac urddas adeiladau cyffredin a diymhongar. Mae ei ddefnydd o collage, pethau a gafwyd, a siapau a llinellau sy’n ail-adrodd ac yn atseinio yn rhoi rhythm a phresenoldeb i’r gwaith. Mae’r gwaith yn gyhyrol ac yn llawn egni, ac yn berchen ar uniongyrchedd cyfareddol.
Pete was born in Gloucestershire in 1961, and worked as an illustrator for twenty years. He now divides his time between his studios in Aberystwyth and Southern Germany. This is his first show with us here at Ffin y Parc. His background as an illustrator informs his bold and clear paintings of Welsh vernacular architecture. From initial sketches in the open, he refines and reworks his images in the studio, creating work which is evocative and affectionate. It celebrates the beauty and dignity of ordinary and humble buildings. His use of collage, found objects, and simple repeating shapes and lines give the work rhythm and presence. There is considerable muscularity and energy in the work, and an immediacy that is very captivating.
Pete Monaghan - Ysgubor Hen X - Mixed Media on Board, 50x150cm
Pete Monaghan - Hendre Wen Fferm II - Mixed Media on Board, 150x50cm
Pete Monaghan - Glenbeigh - Mixed Media on Board, 50x100cm
Pete Monaghan - Stwdio View, Aberystwyth - Mixed Media on Board, 40x40cm
Elfyn Jones RCA - Blue Barrier - Oil on Canvas, 50x40cm
FFIN Y PARC COUNTRY HOUSE & GALLERY
Open Wed - Sat (10am - 5pm) Sun (11am - 5pm) How to find us: Ffin y Parc is located 1 mile on the left on the outskirts of Llanrwst heading in the direction of Betws y Coed on the A470. Ffin y Parc, Betws Road, Llanrwst, Conwy, LL26 0PT Ff么n/Tel: 01492 642070
www.welshart.net