Export final design welsh

Page 1

DAFYN y Ddraig Y Parti Penblwydd

Stori i blant i fynd i’r afael A throseddau casineb


MAP BERWYN

ALUN

DAVYN

BRENDA


Dyma Dafyn y Ddraig. Mae ei benblwydd heddiw. Mae Dafyn yn byw mewn cwm prydferth gyda tri ffermwr - Berwyn y ffermwr Banana, Alun y ffermwr Afalau, a Brenda y ffermwraig Llusi duon bach. Nid oedd y tri ffermwr yn ffrindiau, a roedd hyn yn gwneud Dafyn yn drist. Roedd e am wahodd nhw i gyd i’w barti penblwydd. Efallai pe bai nhw i gyd yn dod a siarad gyda’u gilydd, byddent yn dod yn ffrindiau. Felly penderfynodd Dafyn ymweld â phob un ohonyn nhw.


Nid oedd Berwyn, Alun a Brenda yn ffrindiau oherwydd nad oeddent yn siarad â’u gilydd byth. Gwnaethant storïau i fyny am eu gilydd. Dros amser, dechreuon nhw gredu bod y storïau y gwnaethant greu yn wir. Mae’n swnio’n wirion, ond dyna beth ddigwyddodd. Meddyliodd Dafyn pe bai e’n medru eu cael nhw i siarad gyda’u gilydd, efallai bydden nhw’n sylweddoli pa mor wirion oedden nhw. Felly aeth i ymweld â Berwyn, y ffermwr banana, a’i wahodd i’r parti.


Dywedodd Berwyn, “Iawn Dafyn, ond nid wyf yn dod os yw Alun a Brenda yn mynd i fod yna. D’yw nhw ddim yn fy hoffi i, maen nhw’n bwyta bwyd rhyfedd a dwi’n eu hofni nhw.” Siglodd Dafyn ei ben, “D’yw hwnna ddim yn wir Berwyn. Rwy’n ffrindiau gyda ti a rwy’n ffrindiau gydag Alun a Brenda. Os ddoi di i fy mharti a siarad gyda nhw, cei di weld. Maen nhw’n dy ofni di hefyd”. Roedd Berwyn wedi cael sioc. “Fi! Ond rwyf mor gyfeillgar, pam bydden nhw’n fy ofni i!”. Gwenodd Dafyn, “Oherwydd nad wyt ti byth yn siarad gyda nhw. Ac oherwydd nad ydynt byth yn siarad gyda ti, rwyt ti yn eu hofni nhw hefyd”. Wrth sylweddoli pa mor wirion yr oedd wedi bod, cytunodd Berwyn i fynd i’r parti.


Aeth Dafyn i ymweld â Brenda, a oedd yn ffermwraig Llusi duon bach. Roedd Brenda yn byw mewn rhan arall o’r cwm. Roedd Brenda wedi gwneud storïau ei hunan i fyny am Berwyn ac Alun, a roedd hi hefyd yn ofni nhw. Roedd Dafyn yn gwybod bod hyn i gyd yn wirion. Roedd Berwyn yn dod i’w barti, a gobeithiai y byddai Brenda yn dod hefyd. Efallai wedyn y byddent hwy yn gallu dod yn ffrindiau hefyd. Gwahoddodd Dafyn Brenda i’w barti.


Gwahoddodd Dafyn Brenda i’w barti. Dywedodd Brenda, “Wrth gwrs Dafyn, ond gwnai ddim dod os fydd Alun a Berwyn yna. D’yw’r ddau ddim yn fy hoffi, a maen nhw’n bwyta bwyd rhyfedd, a dwi’n eu hofni nhw.” Gwenodd Dafyn, “Rwyf newydd fod yn gweld Berwyn, a dywedodd e yr un peth i mi. Mae e’n dy ofni di cymaint â rwyt ti’n ei ofni e.” Cafodd Brenda sioc. “Fi! Ond dwi mor gyfeillgar, pam bydde fe yn fy ofni i!” Amneidiodd Dafyn “Brenda, os nad wyt ti yn siarad gydag e, na fe yn siarad gyda ti, sut allwch chi fod yn ffrindiau?” Wrth sylweddoli pa mor wirion oedd hi, dywedodd Brenda yr ai i’r parti.


Aeth Dafyn i ymweld ag Alun, a oedd yn Ffermwr Afalau. Roedd Alun yn byw mewn rhan gwahanol o’r cwm. Creodd Alun storïau ei hun am Berwyn a Brenda, a roedd e hefyd yn eu hofni nhw. Creodd Alun storïau ei hun am Berwyn a Brenda, a roedd e hefyd yn eu hofni nhw. Roedd Dafyn yn gwybod bod hyn i gyd yn wirion. Roedd Brenda a Berwyn yn dod i’w barti, a gobeithiai y byddai Alun yn dod hefyd. Efallai wedyn y byddent yn gallu dod yn ffrindiau. Gwahoddodd Dafyn Alun i’w barti.


Dywedodd Alun, “Wrth gwrs Dafyn, ond wnai ddim dod os yw Brenda a Berwyn yna. Nid yw’r ddau yna yn fy hoffi i, maen nhw’n bwyta bwyd rhyfedd a rwy’n eu hofni nhw.” Chwarddodd Dafyn. “Mae’r tri ohonoch chi yn dweud yr un peth, rydych chi gyd ofn eich gilydd oherwydd eich bod yn pallu siarad â’ch gilydd.” Roedd Alun wedi cael sioc. “Fi! Ond dwi mor gyfeillgar, pam maen nhw’n fy ofni i! Ond rwy’n deall beth rwyt ti’n ei ddweud Dafyn, a fe wnai ddod i dy barti. ” Roedd Dafyn yn hapus.


Aeth Brenda, Alun a Berwyn i gyd i barti penblwydd Dafyn. Daeth pob un ag ychydig o’r bwyd yr oeddent yn tyfu. Roedd Dafyn yn hapus i weld ei holl ffrindiau gyda’u gilydd.


I ddechrau, roedd y ffermwyr yn bryderus ynglyn â siarad gyda’u gilydd. Roedden nhw wedi credu eu storïau gwirion cyhyd, roedd hi’n anodd eu hanghofio. Ond pan ddechreuon nhw siarad, sylweddolon nhw i gyd faint mor debyg oedden nhw. Gwnaeth hyn nhw yn drist. Roedden nhw wedi gwastraffu cymaint o amser yn ofni y storïau oedd wedi cael eu gwneud i fyny, pan bydden nhw wedi gallu bod yn ffrindiau. Roedd Dafyn yn hapus. Nid oedd yn rhaid i Dafyn wneud dymuniad wrth chwythu ei ganhwyllau allan. Roedd ei ddymuniad wedi dod yn wir yn barod.


Crëwyd yn llyfr hwn can Jordan Jones (18), Maria Anne Hart (17), Samantha Locke (17), Owen Ashford (15), Thomas Cross (21), Callum Jones (21), Ryan Young (17), Hanna Purcell (16) a Charlie Jones (16), Bethan Pomroy (15) a Chloe Williams (12) o Torfaen, sydd eisiau helpu addysgu plant am droseddau casineb ac anffafriaeth, er mwyn eu bod yn medru parchu amrywiaeth pobl mewn ffordd gadarnhaol. Cafodd hwn ei gynhyrchu gyda chymorth Fixers, yr ymgyrch sy’n rhoi llais i bobl ifanc.

Am gymorth a chyngor theredcard.org sariweb.org.uk stophateuk.org DIOLCH ARBENNIG I Fforwm Ieuenctid Torfaen


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.