EIN BLWYDDYN SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 www.cfiw.org.uk
2 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 3
CYNNWYS Croeso Diolch i’n Rhoddwyr
4|5 6
Lle mae Dyngarwch a Chymuned yn Cyfarfod 7 Opsiynau Rhoddi
8
Rhannu Gwybodaeth
9
Teyrnged i’r Dr Dewi Davies
10 | 11
Buddsoddi 12 | 13 Effaith Ar Unwaith
14 | 15
Trosglwyddiadau Ymddiriedolaethau
16 | 17
Cronfa i Gymru
18 | 19
Tîm Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
20
Ein Cyllidau
21
Chwith: Cwm Idwal, Eryri
4 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
CROESO
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 5
ALUN EVANS Cadeirydd
Croeso i’n hadolygiad blynyddol ar gyfer 2016/17 – golwg yn ôl ar y newid y gwnaethom ni a’n rhoddwyr eu gwneud i gymunedau a grwpiau ledled Cymru.
RICHARD WILLIAMS Prif Weithredwr richard@cfiw.org.uk
Croeso – croeso cynnes i’n hadolygiad blynyddol, a rydd gyfle inni i gyd ddathlu blwyddyn o greu newid cadarnhaol ledled Cymru.
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn cynghori ar, yn hyrwyddo ac yn rheoli dyngarwch – gan helpu pobl i roi’n effeithiol, yn ddiogel yn yr wybodaeth bod eu rhoddion elusennol yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r heriau mwyaf brys sy’n wynebu pobl a chymunedau ledled ein cenedl.
Hoffwn ddiolch i’r tîm bendigedig yn Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am flwyddyn mor gref o gyflawni. Byddwn hefyd yn dymuno cydnabod rôl arweinyddiaeth fy rhagflaenydd, Liza Kellett, wrth adeiladu a datblygu’r elusen i fod y sefydliad cryf a welwn heddiw.
Llynedd, fe wnaethom, ar ran ein rhoddwyr, ddosbarthu dros £2.6 miliwn i 543 o grwpiau ac unigolion, gan alluogi 5,000 o wirfoddolwyr i gyflawni gweithgareddau a gwasanaethau a ddaeth â budd i dros 62,000 o bobl. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y gwnaethom ‘llynedd oddiweddyd y nod o £20 miliwn mewn gwneud grantiau.
Mae’r adroddiad hwn yn crisialu mewn geiriau a lluniau rywfaint o’r effeithiau llawn ysbrydoliaeth, sydd yn aml yn newid bywydau, y gall y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru eu cyflawni.
Mae rhai o’r hanesion a’n hysgogodd ac a’n hysbrydolodd ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu cynnwys yma. Gobeithiwn y cânt effaith gyffelyb arnoch chithau a’u bod yn eich cymell i feddwl am eich sefyllfa roddi a sut y gallai’r Sefydliad eich cynorthwyo ar eich taith ddyngarol. Eleni, fe gaf y pleser o groesawu’n Prif Weithredwr newydd – Richard Williams. Mae Richard yn ymuno â ni gyda 9 mlynedd o brofiad yn y trydydd sector a thros 20 mlynedd arall fel newyddiadurwr. Mae gennym amseroedd cyffrous o’n blaenau ac fe edrychwn ymlaen at ddatblygu’r Sefydliad â ffocws a bwriad eglur, gan barhau i ddatblygu fel y man ar gyfer dyngarwch yng Nghymru.
Edrychaf ymlaen at weithio â chydweithwyr a phartneriaid, ac adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn yn y flwyddyn sydd o’n blaenau a chyflawni’n gweledigaeth o Gymru a chanddi sector gwirfoddol a chymunedol ffyniannus, lle mae pobl leol yn arwain prosiectau ac yn meddu ar yr adnoddau ariannol i ddatblygu’u datrysiadau’u hunain yn seiliedig ar angen.
6 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
DIOLCH I’N RHODDWYR EIN RHANDDEILIAID RHODDWYR UNIGOL A TEULUOL
CRONFEYDD SEFYDLIADAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU
Cronfa Daisy * Cronfa Waddol Y Dr Dewi Davies * Cronfa Dory The Emrys Davies Legacy Fund * Cronfa Ferndale The LNB Fund Cronfa’r Arglwydd Merthyr Cronfa Antur a Theithio Martyn Groves Y Gronfa Fordwyaeth * Cronfa Skiathos Cronfa’r Teulu Sloman ar gyfer Trelái Cronfa Martyn Sloman * Cronfa Owen Sloman * Cronfa Hywel Sloman * Cronfa Jedrek Holownia * Cronfa Rowan Holownia * Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain * Cronfa Ymddiriedolaeth Elusennol John Andrews
Cronfa Waddol Gymunedol Ynys Môn Cronfa Waddol Gymunedol Caerdydd Elusen Dinasyddion Caerdydd Ymddiriedolaeth Addysg ar gyfer Dinasyddion Caerdydd Cronfa Ysgolion Sefydledig Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cylch Cronfa Addysgol John Vaughan Cronfa i Gymru * Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint Cronfa Hiraeth/Cronfa Rhoi’r Staff Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch Cronfa Ddyngarwch Micro Fenter Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd Ymddiriedolaeth Sefydliad Mary Jane Cronfa Waddol Gymunedol Powys Cronfa Sefydliad Powys Hen Ysgol Ramadeg y Genethod, Aberhonddu Cronfa Elusenol Ysgol Uwchradd Llandrindod Cronfa Ymddiriedolaeth Ardal Sir Drefaldwyn Cronfa Addysg Ganolraddol a Thechnegol Sir Drefaldwyn Deddf Eglwys Cymru Powys Cronfa Goffa Stanley Bligh Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton Cronfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar gyfer Dioddefwyr Cronfa Waddol Gymunedol Wrecsam
RHODDION MAWR CRONFA I GYMRU Ymddiriedolaeth Cronfa’r Loteri Fawr ar gyfer Cymru Sefydliad Waterloo Sefydliad Moondance Earl of Plymouth Estates Limited
RHODDWYR BUSNES ASDA Bristol & West Cronfa Gymunedol Cymdeithas Adeiladu Coventry Melin Tregwynt * Emma Kate Jewellery * Royal London Dyfarniadau Datblygu Mentrau Cymdeithasol Santander
EIN RHANDDEILIAID UK Community Foundations Llywodraeth Cymru
YMGYRCHOEDD Her Arian Cyfatebol FAWR Cronfa i Gymru Goroesi’r Gaeaf Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru
PARTNERIAID YR YMDDIRIEDOLAETH Sefydliad y Teulu Ashley Comic Relief Ymddiriedolaeth Dulverton Ymddiriedolaeth Fairwood Elusen Henry Smith Cronfa New Beginnings Sefydliad Pears Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl Ysbryd 2012 Sefydliad Elusennol Trusthouse
* Mae’r rhoddwyr hyn, ynghyd â channoedd o rai eraill, i gyd wedi gwneud rhoddion i gefnogi’n Cronfa i Gymru – unig gronfa waddol gymunedol genedlaethol y byd.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 7
LLE MAE DYNGARWCH A CHYMUNED YN CYFARFOD
GWELEDIGAETH
CENHADAETH
Cymru â sector gwirfoddol a chymunedol ffyniannus, lle y mae pobl leol yn arwain prosiectau ac yn meddu ar yr adnoddau ariannol i ddatblygu’u datrysiadau eu hunain yn seiliedig ar angen.
Cryfhau a chyfoethogi cymunedau lleol ledled Cymru drwy ysbrydoli a rheoli dyngarwch.
£13,000,000
£2,647,350
Gwerth y gwaddol a ymddiriedwyd i’n stiwardiaeth fel ar yr 31ain o Fawrth, 2017
Gwerth y grantiau a fuddsoddwyd i gryfhau cymunedau ac elusennau lleol.
543
5,000
62,700
Nifer y grantiau a ddyfarnwyd yn 2016/17
Nifer y gwirfoddolwyr sy’n ymrwymo’u hamser a’u doniau i gefnogi’r sefydliadau hyn
Nifer y bobl sy’n elwa o waith y sefydliadau rydym yn eu hariannu
8 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
OPSIYNAU RHODDI Rydym yn gwneud rhoddi’n hwyl! Gwyddom lle y gall rhoi elusennol gael yr effaith orau, diolch i’n hymchwil i anghenion a phroblemau, ac i’n cysylltiadau ag elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru i gyd. Rydym yn adolygu, yn monitro ac yn gwerthuso’n ddiwyd fel y gall ein rhoddwyr fod â hyder llawn yn ein proses gwneud grantiau.
EIN HOPSIYNAU O RAN CRONFEYDD RHOI
Cronfa Effaith Ar Unwaith
TYFU
GRANT
EFFAITH YN AWR
Cronfa Waddol
EFFAITH AM BYTH
Cronfa Hybrid
EFFAITH YN AWR AC YN FYTHOL
Mae ein tîm yn gweithio â phob un Deiliad Cronfa i ddatblygu portffolio o roi, yn unol â’u huchelgais ddyngarol. Cysylltwch â Mari-Wyn Elias-Jones, ein Rheolwr Datblygu, ar 029 2037 9580 mari-wyn@cfiw.org.uk i drafod sut y gall eich rhoddion wneud gwahaniaeth.
EICH DEWISIADAU O RAN DYNGARWCH SEFYDLU’CH CRONFA’CH HUN Effaith Ar Unwaith – Cronfa ar gyfer heddiw. Cronfa Waddol – Cronfa a fuddsoddir sy’n cynnal gwneud grantiau yn ddiddiwedd. Cronfa Hybrid – Cronfa sy’n gwneud argraff heddiw tra ei bod hefyd yn buddsoddi ar gyfer anghenion yfory. Gall cronfeydd gael thema, yn ôl dymuniadau’r rhoddwr; er enghraifft, fel rhaglenni grant sy’n benodol i ardal neu i achos.
GADAEL RHODD YN EICH EWYLLYS Mae enwi’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru fel buddiolwr mewn ewyllys yn sicrhau y caiff eich rhodd ei roi’n uniongyrchol i’r rheiny yng Nghymru sydd ei angen fwyaf. Gellir gwneud hyn drwy greu cronfa ar wahân er dibenion elusennol penodol ac/neu ar gyfer ardal ddaearyddol benodol. Neu fel arall, petaech yn dymuno rhoi mwy yn gyffredinol, yna fe allech adael rhodd llwyr i waddol ein Cronfa i Gymru. Ffordd berffaith i rodd barhaul i roi.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 9
RHANNU GWYBODAETH Uchafbwynt ein blwyddyn oedd cynnal cynhadledd Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig. Gwnaeth y digwyddiad ddwywaith y flwyddyn dros bedwar diwrnod groesawu dros 350 o gydweithwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt i wrando, dysgu a rhannu gwybodaeth am waith unigryw’r Sefydliadau yn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol. Dysgodd ymgeiswyr am arloesi digidol, clywsant gan ein cydweithwyr o’r UDA a Chanada, yn ogystal â mwynhau’r siaradwr Tim Rhys Evans o’r elusen Only Boys Aloud, a Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd y rheiny a fynychodd hefyd wledd o noswaith o adloniant yn Neuadd y Ddinas, trwy garedigrwydd yr unigryw a’r gwaradwyddus Only Boys Aloud ac fe’u croesawyd gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Stadiwm chwedlonol Principality, y mae’r ddau ohonynt wedi elwa o roddion elusennol. Roedd y gynhadledd nid yn unig yn gyfle inni arddangos Caerdydd, Cymru a’i doniau cerddorol, ond hefyd i ddangos sut mae gan ddyngarwch ran mor naturiol annatod o’n cyfansoddiad. Profiad gwir gofiadwy i bawb a gymerodd ran.
10 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 11
TEYRNGED I’R DR DEWI DAVIES Fe’n tristawyd yn arw o glywed am farwolaeth y Dr Dewi Davies yn gynharach eleni. Roedd y Dr Davies yn ddyngarwr ac yn gyn-feddyg. Yn 2014, fe sefydlodd Gronfa yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru gyda rhodd o £1 filiwn i gynorthwyo pobl yn ne Ceredigion a gogleddorllewin Sir Gaerfyrddin, yr ardal lle y’i magwyd. Gwnaeth y rhodd hefyd sbarduno rhagor o fuddsoddi cyfatebol i’r Gronfa i Gymru, gan gynorthwyo prosiectau ledled Cymru gyfan, diolch i Gronfa’r Loteri Fawr. Fel y dywedodd y Dr Davies ar ôl lansio’i Gronfa, “Ni wnes i erioed deimlo fel bod arnaf angen gwario llawer o arian arnaf fy hun, ac rwyf wedi gallu cynnal fy nheulu fy hun, ac felly pan sylweddolais faint o arian oedd gen i, gwyddwn yn union lle roedd arnaf eisiau iddo fynd. Fe’m magwyd yn y rhan hon o Gymru ac roedd arnaf eisiau cefnogi’r ardal hon gyda fy Nghronfa, ond
rwyf hefyd yn falch y bydd fy rhodd yn helpu cymunedau ledled Cymru gyfan drwy her arian cyfatebol y Gronfa i Gymru. Edrychaf ymlaen at glywed am waith gwych y prosiectau lleol y byddwn yn gallu’u cefnogi. A minnau wedi rhoi £1 filiwn ymaith, nid wyf yn teimlo’n damaid tlotach.” Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl ond mae eisoes wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl yn y cymunedau gweledig hyn. Gwnaeth grant diweddar i’r Pentref Canu alluogi’r grŵp i gynnal grŵp canu wythnosol mewn adeiladau byw â chymorth yn Aberteifi, gan lwyddo i ddarparu gweithgareddau llawn hwyl ac ysgogol i bobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sy’n profi arwahanrwydd. Mae teulu’r Dr Davies yn parhau’n gysylltiedig iawn â’r Gronfa, ac fe fydd y gwaddol yn dal i roi yn ôl i’r bobl a’r cymunedau oedd yn annwyl iddo. Dyna ffordd ardderchog o sicrhau bod ei etifeddiaeth yn goroesi.
Gallwn eich helpu i sefydlu cronfa gyffelyb. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones | mari-wyn@cfiw.org.uk | 029 2037 9580
12 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
BUDDSODDI Mae rhoi arian ymaith yn swnio’n hawdd, ond gyda thros 30,000 o elusennau cofrestredig a miloedd yn rhagor o grwpiau cymunedol yng Nghymru, mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. P’un a ydych yn unigolyn, yn deulu neu’n fusnes, sefydlu Cronfa a Enwyd yw’r ffordd ddelfrydol o fodloni’ch dymuniadau dyngarol ac o roi i gymunedau ac achosion mewn angen. Mae sefydlu Cronfa Waddol a Enwyd yn opsiwn hirdymor ar gyfer y rheiny sy’n dymuno i’w rhoddi bara oes….a mwy. Rydym ni, yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, yn cynghori, yn cynorthwyo ac yn rheoli rhoddion ein dyngarwyr drwy’u buddsoddi nhw’n effeithlon ac yn effeithiol, gan sicrhau bod pob rhodd yn darparu’r adenillion gorau. Dosbarthir yr adenillion, o fod wedi buddsoddi’n cronfeydd gwaddol yn gyfrifol, ar gyfer yr hirdymor fel grantiau i achosion gwerth chweil, yn unol â bwriad pob un rhoddwr. Mae Cronfa Sir Gaerfyrddin yn un gronfa waddol o’r fath. Fe’i sefydlwyd ym mis Chwefror 2017 gan roddwr oedd yn dymuno rhoi yn ôl i ardal a oedd wedi dod yn arbennig iawn iddi drwy gydol y blynyddoedd. A hithau’n wreiddiol o Gwm Cynon, fe dreuliodd y rhoddwr lawer o’i phlentyndod yn ardal Sir Gaerfyrddin gyda theulu, ac fe’i haddysgwyd yn Llanymddyfri, ac mae hi’n bendant yn ystyried Sir Gaerfyrddin yn gartref iddi, gan ymweld â’r sir yn rheolaidd. Mae hi yn wastad wedi bod yn ymwybodol o broblemau mewn cymunedau gwledig ac amaethyddol, yn enwedig arwahanrwydd ac amddifadedd, ac felly roedd hi’n awyddus o roi yn ôl i’r cymunedau hynny oedd wedi dod mor annwyl iddi. Gyda chefndir yn y
proffesiwn gofalu ac ymwybyddiaeth o broblemau yng Nghymru, sefydlwyd y gronfa hefyd i helpu i wella iechyd meddwl, bywydau pobl hŷn a gweithgareddau ieuenctid. “Roedd hi’n bwysig i mi ymestyn y rhwyd yn eang, gan sicrhau y gellid diwallu anghenion o fewn yr ardal.” A hithau wedi’i magu gan rieni a neiniau a theidiau oedd eu hunain yn ddyngarol ac yn credu’n gryf mewn helpu pobl, gan ddweud, “Os gallwch helpu, fe ddylech”, roedd arni eisiau i’w theulu ei hun feddwl a byw mewn ffyrdd cyffelyb. Gyda hyn mewn golwg, fe sefydlodd y gronfa fel gwaddol y gallai’i mab yn ei arddegau ei hetifeddu mewn amser ac mae hi eisoes yn ei gynnwys wrth wneud penderfyniadau.
“Mae hi’n bwysig iawn i mi fod fy mab yn gymdeithasol ymwybodol a’i fod yn cael ei fagu mewn amgylchedd tebyg i un y fi, lle mae rhoi yn ôl yn dod yn ail natur. Mae sefydlu Cronfa Sir Gaerfyrddin fel gwaddol yn sicrhau y gall cymunedau yn yr ardal wledig fawr hon elwa o gyllido cynaliadwy hirdymor gan hefyd gynnal y cysylltiad teuluol.” Lansiwyd y Gronfa ar yr un pryd â dwy gronfa arall yn ardal yr awdurdod lleol, sef Sefydliad Addysg John Vaughan, i hyrwyddo addysg anstatudol i breswylwyr Llangynog, a Chronfa CO2Sense, yn cefnogi grwpiau cymunedol o fewn radiws o 20 milltir o bentref Cwmann yn Sir Gaerfyrddin. Ym mis Gorffennaf 2017, fe ddosbarthom dros £14,000 er budd pobl Sir Gaerfyrddin o’r tair cronfa hon.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 13
Gallwn eich helpu i sefydlu cronfa gyffelyb. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones | mari-wyn@cfiw.org.uk | 029 2037 9580
14 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
EFFAITH AR UNWAITH Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn cefnogi ac yn rheoli rhoddi elusennol yn effeithiol, yn effeithlon, yn unol ag amcanion rhoddwyr a chan gydymffurfio â rheoliadau’r Comisiwn Elusennau. Mae’n syml iawn crynhoi’n gwaith - rydym yn cysylltu rhoddwyr ag achosion gwerth chweil ledled Cymru sy’n bwysig iddynt. Gweithredwn fel y bont rhwng ein rhoddwyr ac achosion teilwng, gan wneud argraff wirioneddol ar gymunedau Cymru. Un ffordd o gael rhodd elusennol yn syth at y rheiny sy’n anghenus yw drwy sefydlu Cronfa Effaith Ar Unwaith gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Ni fuddsoddir y swm – fe’i delir gennym ni ac fe’i gwarir yn llai mewn ffordd y cytunwyd arni â’r rhoddwr. Mae llawer o’n Cronfeydd Effaith Ar Unwaith wedi’u sefydlu gyda ni gan ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill nad ydynt yn dosbarthu cyllid ond sy’n dymuno dosbarthu cyllid yng Nghymru. Sefydlir eraill fel y gall cyllid gael ei ddosbarthu i achosion penodol ac/neu o fewn amserlen benodol. Sefydlwyd Cronfa Dioddefwyr Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru yn yr un ffordd. Er bod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyllideb fwy i’w dosbarthu i ardal De Cymru, roedd arnynt eisiau targedu prosiectau a grwpiau llawr gwlad yn benodol sy’n gweithio i gynorthwyo dioddefwyr troseddau a’u teuluoedd. Gyda’n tîm grantiau arbenigol a diwyd, roeddem yn gallu dosbarthu £250,000 yn llwyddiannus i’r rheiny sy’n ymdrin â
dioddefwyr troseddau, ac rydym newydd gwblhau’n hail gylch o gyllido gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, a ddywedodd:
“Rwyf wrth fy modd o gefnogi’r gronfa am ail flwyddyn, ac roedd unwaith eto’n hyfryd gweld arloesedd ac ymrwymiad y rheiny sy’n ymdrechu i hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael i’r rheiny yr effeithir arnynt gan drosedd.” Cynhelir digwyddiad grantiau yn flynyddol, ac mae amrywiol grwpiau’n rhoi dadl i gael cyllid drwy gyflwyno’u hachos i gynulleidfa o gymheiriaid, grwpiau cyffelyb a gweithwyr proffesiynol gan hefyd roi’r cyfle iddynt rwydweithio gyda’r naill a’r llall. Mae yna banel annibynnol, sydd wedi’i ffurfio o ddioddefwyr troseddau yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, wedyn yn trafod pob un cyflwyniad ac yn argymell pa grwpiau ddylai dderbyn cyllid, yn amrywio o £5,000 i £30,000.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 15
Derbyniodd Merthyr Tudful Mwy Diogel grant o £18,608 yn 2016 i ddarparu rhaglen fentora. Roedd mentoriaid gwirfoddol oedd wedi’u hyfforddi’n llawn yn cynorthwyo dioddefwyr camdriniaeth ddomestig i ostwng arwahanrwydd, i gynyddu diogelwch, iechyd a lles drwy un i un, i fentora mewn grŵp a chan gymheiriaid, i ysbrydoli dioddefwyr, i gynyddu hunanhyder ac i gryfhau lleisiau dioddefwyr. Mae yna dros 1,650 awr o oriau gwirfoddoli wedi’u cofnodi yn ystod amserlen 12 mis y
prosiect, a ddarparwyd gan 58 o wirfoddolwyr ac a fu o fudd i 224 o ddioddefwyr trais domestig. Bydd llawer o’r mentoriaid wedi bod yn ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig eu hunain gynt ac wedi derbyn cefnogaeth Merthyr Tudful Mwy Diogel ac wedi’u hannog i ddefnyddio’u profiadau i helpu eraill drwy daith adferiad gyffelyb. Mae hon yn agwedd bwysig o daith goroeswr, ac mae llawer yn bwrw sylw ar y pleser y maent yn ei dderbyn o fod yn gallu helpu eraill â phrofiadau tebyg.
O ganlyniad i lwyddiant y prosiect hwn, fe ddyfarnwyd cyllid ychwanegol o £26,628 i Ferthyr Tudful Mwy Diogel yn 2017 i ddatblygu rhagor ar y prosiect, yn enwedig gwaith â mentoriaid a dioddefwyr gwrywaidd.
Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael
Gallwn eich helpu i sefydlu cronfa gyffelyb. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones | mari-wyn@cfiw.org.uk | 029 2037 9580
16 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
AADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 17
TROSGLWYDDIADAU YMDDIRIEDOLAETHAU Gyda miloedd o ymddiriedolaethau elusennol bychain ledled y Deyrnas Unedig, nid yw’n rhyfedd y gall, ac mae llawer ohonynt ynghwsg, yn anweithredol neu’n aneffeithiol. Yn aml, maent wedi bod mewn bodolaeth ers blynyddoedd lawer ac efallai bod eu dibenion gwreiddiol wedi mynd yn hen ffasiwn ac yn amherthnasol i anghenion cyfredol. Yn aml, mae’r dibenion wedi’u cyflawni, wedi darfod â bod neu nid yw’r buddiolwyr yn bodoli mwyach. Gall rheoli’r gronfa hefyd osod pwysau gormodol ar Ymddiriedolwyr, ac fe all cynllunio olyniaeth brofi’n anodd. Beth bynnag fo’r sefyllfa, rydym ni yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn gweithio ag ymddiriedolaethau elusennol i’w gwneud nhw’n berthnasol ac yn effeithiol eto. Gyda’n gwybodaeth leol a phrofiad o roddi grantiau a datblygu cymunedol yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa unigryw i gynnig gwasanaeth gwneud grantiau cynhwysfawr ac unswydd bwrpasol i Ymddiriedolaethau Elusennol a Sefydliadau eraill. Rydym yn cynorthwyo â gwneud grantiau
Gwnaeth Louise gais i Gronfa Rhyddhad mewn Angen Penarlâg a’r Ardal am grant o £480 tuag at brynu peiriant golchi a sychydd dillad newydd. Tan yn ddiweddar, roedd yn rhaid i Louise sicrhau bod ei pheiriant golchi wedi cau drwy osod cadair yn erbyn y drws, a allai beri llifeiriant os nas gosodwyd yn iawn. Ar ôl hyn, fe fyddai’n rhaid iddi wedyn gludo’r bagiau o ddillad wedi’u golchi i dai amrywiol aelodau o’r teulu i ddefnyddio’u sychyddion dillad nhw.
neu feddiannu ymddiriedolaeth yn gyfan gwbl. Gall y rhoddwr neu’r ymddiriedolwyr ddewis dal gafael ar gysylltiad ond heb fod â’r baich o fod â chyfrifoldeb ariannol neu gyfreithiol. Trosglwyddwyd Cronfa Rhyddhad mewn Angen Ardal Penarlâg i’r Sefydliad Cymunedol yn 2013. Rhydd yr ymddiriedolaeth gyllid i grwpiau a sefydliadau sy’n cynorthwyo pobl sy’n agored i niwed ac unigolion mewn argyfwng ac/neu ag adnoddau prin. Mae Louise yn fam sengl i dri o blant - y mae un ohonynt, Daniel, yn dioddef o awtistiaeth. Er gwaethaf yr heriau a all godi wrth fagu plentyn ag anghenion ychwanegol, mae Louise wedi sicrhau ei bod hi’n gyfarwydd iawn â hoffbethau a chasbethau Daniel. Un o sensitifeddau Daniel yw ei ymlyniad wrth ei hoff eitemau dillad. Golyga’i awtistiaeth y gall newidiadau mewn arferion beri hyrddiau ymosodol a lefelau diangen o anghysur. Golyga ymlyniad Daniel wrth ei hoff ddillad a ffabrigau bod yn rhaid i Louise wneud sawl llwyth o olchiadau dillad bob diwrnod, gan gadw Daniel yn fodlon a heb fod dan straen.
Mae’r grant wedi rhoi mwy o ryddid i Louise gael y gwaith golchi wedi’i wneud gartref yn ddiberygl, yn ogystal â sicrhau bod gan Daniel a’i frodyr/ chwiorydd ddillad glân bob diwrnod. Efallai bod peiriant golchi sy’n gweithio’n iawn yn rhywbeth a gymerwn yn ganiataol. Fodd bynnag, i Louise, mae yn awr yn golygu llai o straen a mwy o amser rhydd i gael hwyl gyda’i phlant.
Gallwn eich helpu i sefydlu cronfa gyffelyb. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones | mari-wyn@cfiw.org.uk | 029 2037 9580
18 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
CRONFA I GYMRU Y Gronfa i Gymru yw’n perl bach ni fe’i crëwyd yn 2011 fel cronfa waddol gymunedol â’r nod o helpu pob mathau o achosion ar hyd a lled Cymru. Mae’r gronfa hon yn caniatáu inni godi arian ac ariannu prosiectau mewn ardaloedd o angen ond ardaloedd nad ydynt yn cael digon o gyllid ac sydd wedi’u hesgeuluso i raddau. Mae’r Gronfa i Gymru yn caniatáu inni bontio’r bylchau hynny, gan gael arian sydd wir ei angen i ardaloedd anghenus, gan hefyd ganiatáu i ni ymateb i drychinebau ac achosion sydd angen gweithredu a sylw ar fyrder. Aeth y gronfa o nerth i nerth, gan roi ffynhonnell gadarn a chynaliadwy o gyllid ar gyfer achosion a chymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae gan y Gronfa’r potensial i dyfu rhagor, a’n nod ni ar gyfer y flwyddyn nesaf yw treblu gwaddol y Gronfa. Diolch i Sefydliad Waterloo, fe gawsom gymorth llaw. Mae Sefydliad Waterloo wedi’n herio i godi £200,000 mewn
Dyfarnwyd grant o £1,000 i Ffrindiau Llangoed gan y Gronfa i Gymru. Ar ôl ymgynghori â phlant lleol ac ystyried yr agweddau amgylcheddol ac ariannol, gofynnodd Ffrindiau Llangoed am grant i brynu gris boncyff sy’n siglo ac ystudfachau pren wedi’u hymestyn i ymestyn ei lwybr â thrim pren – llwybr man chwarae o bren i blant. Mae ymestyniad y llwybr â thrim wedi bod o fudd i’r teuluoedd a’r gymuned
blwyddyn, ac fe fydd pob rhodd, pa mor fawr neu fach bynnag, yn derbyn arian cyfatebol gan Sefydliad Waterloo. Dyma gyfle gwych inni wella’n perfformiad a rhoi hwb i’r gronfa drwy Gymru gyfan. Rydym eisoes yn codi arian mewn llawer o wahanol ffyrdd - o’n partneriaethau corfforaethol â Melin Tregwynt ac Emma-Kate Francis Jewellery i ddigwyddiadau codi arian megis yr Her Tri Chopa – ond rydym yn wastad yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o godi arian i’r Gronfa. Rydym wedi dechrau ar ein trydedd flwyddyn a’n trydydd dyluniad gwead â Melin Tregwynt ar ôl llwyddiant y ddau ddyluniad blaenorol, gan godi cyfanswm o bron i £10,000 mewn rhoddion drwy bryniadau. Caiff y gwead newydd, y Foundation Multi-stripe, ei lansio ac ar gael i’w brynu yn 2017. Lansiwyd Casgliad Cennin Pedr o emwaith, a ysbrydolwyd gan ein logo ac a ddyluniwyd gan Emma-Kate Francis, yn 2016. Mae’r rhodd cyntaf oddi wrth bryniadau drwy Gasgliad Cennin Pedr Emma-Kate Francis Jewellery wedi arwain at £1,081 yn rhagor tuag at y Gronfa i Gymru.
leol drwy ddod â phobl ynghyd. Mae’r cymysgedd o chwarae egnïol a dychmygus wedi bod o fudd mawr i’r plant, gan hefyd ateb y galw cynyddol am weithgareddau chwarae yn y pentref.
Dywedodd un o’r plant ei fod ‘yn hwyl fawr ar y bont pan fydd hi’n woblo’, tra oedd plentyn arall yn mwynhau’r cymhlethdod ychwanegol, ‘clyfar gan ei bod yn fwy’.
AADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 19
Os hoffech fwy o wybodaeth am y gronfa hon, neu os oes arnoch eisiau cefnogi’r Gronfa i Gymru, cysylltwch â: Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones | mari-wyn@cfiw.org.uk | 029 2037 9580
20 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
TÎM Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU YMDDIRIEDOLWYR YN HAF 2017
STAFF YN HAF 2017
Alun Evans Cadeirydd Richard Williams Prif Weithredwr Nigel Annett Is-gadeirydd Kathryn Morris Trysorydd Mari-Wyn Elias-Jones Rheolwr Datblygu Lulu Burridge Lloyd FitzHugh JP DL Katherine Evans Tanwen Grover Swyddog Cymorth Busnes Geraint Jewson Tom Morris Sheila Maxwell Rheolwr Cyllid ac Ymchwil Sarah Morris Roedd eleni yn dyst i ymddeoliad Tom Jones Swyddog Gweinyddol ac fe’n tristawyd yn fawr gan farwolaeth ein Andrea Powell cyn-gadeirydd, Janet Lewis-Jones, a fu farw Rheolwr Grantiau a Rhaglenni ym mis Mai eleni. Ffion Wyn Roberts Swyddog Grantiau
NODDWR Y GRONFA I GYMRU Ei Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru
LLYWYDD Y Capten Syr Norman Lloyd-Edwards KCVO, GCStJ, RD, YH, RNR
Mae’r Sefydliad yn estyn ei ddiolchiadau i Liza Kellett, a ymddeolodd fel Prif Weithredwr ym mis Mehefin 2017 ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017 21
EIN CYLLIDAU Daw’r wybodaeth hon o’r Cyfrifon Blynyddol a archwiliwyd yn llawn am y flwyddyn yn gorffen ar yr 31ain o Fawrth, 2017. Gellir cael y Cyfrifon Blynyddol llawn (a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr
ar yr 2ail o Hydref, 2017), Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, ac Adroddiad yr Archwiliwr oddi wrth swyddfa’r Sefydliad neu oddi ar ein gwefan: www.cfiw.org.uk.
CYFANSWM INCWM £3,513,627
CYFANSWM GWARIANT £3,134,301 £73,874
£528,565
£98,130
£314,728 £2,223,843
£2,647,569
£759,725
Costiau swyddfa Costiau staff Grantiau Costiau eraill
Rhoddion Incwm o fuddsoddiadau Gweithgareddau elusennol (Fe dderbyniwyd incwm arall o £1,494 o fewn y flwyddyn)
CYFANSWM O’R GRANTIAU WEDI EU GWOBRWYO £2,647,569 £164,085
£53,913 £472,026
£1,095,252 £862,293
Galluogi pobl ifanc a hyrwyddo addysg, menter a dysgu gydol oes Meithrin gwydnwch a hyder mewn cymunedau Gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl Meithrin treftadaeth a diwylliant Diogelu’r amgylchedd
22 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2017
CYSYLLTU Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Tŷ Sant Andreas 24 Cilgant Sant Andreas Caerdydd CF10 3DD
De: Rhaedr Ffwrnais Dyfi
Ffôn: 029 2037 9580 E-bost: info@cfiw.org.uk Gwefan: www.cfiw.org.uk cfinwales @cfinwales
Elusen Gofrestredig: 1074655 Rhif y Cwmni: 03670680