EIN BLWYDDYN NI ADOLYGIAD BLYNYDDOL Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU www.cfiw.org.uk
02 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
CROESO Mae’r dathliad hwn o’n blwyddyn yn ystyried gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru drwy lygaid ein buddiolwyr a’n rhoddwyr. Mae’n canolbwyntio ar dwf: y ffordd y bydd ein grantiau’n helpu pobl, elusennau a chymunedau i ddatblygu; y ffordd y bydd ein rhoddwyr yn cynyddu eu rhoi, ac yn tyfu drwy eu rhoi; a’r ffordd yr ydym wedi tyfu fel sefydliad cymunedol i gael effaith ariannol a chymdeithasol.
CYNNWYS
ALUN EVANS Cadeirydd info@cfiw.org.uk
Ar ran deiliaid ein cronfa, ein rhoddwyr a’n cleientiaid, fe wnaethom fwy o grantiau eleni nag erioed o’r blaen - mewn nifer a gwerth. Dyfarnwyd £2.9 miliwn i fwy na 700 o grwpiau, elusennau a phobl. Roedd hynny oherwydd ymroddiad ein tîm o Ymddiriedolwyr, Staff ac eraill rydym yn gweithio â nhw i wneud gwahaniaeth yng Nghymru drwy eu camau dyngarol i roi i gymunedau ac i weithio ochr yn ochr â nhw. Mae ar Gymru angen sefydliad cymunedol ffyniannus a all symbylu rhoi yn ein gwlad, ac iddi. Rydym yn benderfynol o gyflawni ein huchelgais i sicrhau mai y ni yw’r lle ar gyfer dyngarwch yng Nghymru, ac rydym yn diolch i bob un ohonoch chi sy’n cefnogi ein taith.
LIZA KELLETT Prif Weithredwr liza@cfiw.org.uk
Croeso 2 Yr hyn a gynrychiolwn 3 Uchafbwyntiau 4 Diolch i’n rhoddwyr 5 Hanes Dyngarwch Rhoi fel teulu 6 Lle mae dyngarwch a chymuned yn cyfarfod 10 Rhoi opsiynau 11 Helpu’n rhoddwyr i roi 12 Arweinyddiaeth Dyngarwch Wythnos Ddyngarwch 14 Gwobrau Dyngarwch 16 Hanes Dyngarwch Rhoi’n fyd-eang ac yn lleol 18 Arwyddion Hanfodol 20 Dan y Chwyddwydr – amserlen o egni cymunedol 22 Hanes Dyngarwch Gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned 25 Ein cyllidau 30 Ein tîm 31
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 03
GWELEDIGAETH
BWRIAD
GWERTHOEDD
Cymru sydd â sector wirfoddol a chymunedol sy’n ffynnu, lle mae pobl leol yn arwain prosiectau ac sydd â’r adnoddau ariannol i ddatblygu eu hatebion eu hunain yn seiliedig ar anghenion.
Atgyfnerthu a chyfoethogi cymunedau lleol ledled Cymru drwy ysbrydoli a rheoli dyngarwch.
Yn wybodus, rhagweithiol, arloesol, creadigol, cynhwysol, proffesiynol, yn eirioli, yn gydweithredol, ysbrydoledig, cynaliadwy a graslon.
04 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
UCHAFBWYNTIAU £20 miliwn wedi’i ddyfarnu mewn grantiau i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ers cofrestru fel elusen yn 1999, a £2.9 yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. 15 o ffeiriau a gweithdai ariannu wedi’u cyflenwi i alluogi gwell gofyn a rhoi. 13 o Gronfeydd newydd wedi’u sefydlu eleni. 11 o ddigwyddiadau dyngarwch wedi’u rheoli ledled Cymru (gydag un yn Llundain ac un yng Nghanada!) Adroddiad Arwyddion Hanfodol cyntaf Cymru yn adlewyrchu ar anghenion yng Nghymru a’r ffordd y mae dyngarwch yn gwneud gwahaniaeth. Ein digwyddiad cyntaf i annog merched a phobl ifanc i ddod yn Ymddiriedolwyr.
AC UN LLYTHYR O DDIOLCH SY’N DWEUD Y CYFAN ODDI WRTH MAM A DDERBYNIODD GRANT ARGYFWNG/CALEDI AR GYFER EI MAB: “Diolch dros ben i chi i gyd ... wyddoch chi ddim faint o hwb i’w hyder yr oedd hyn i’m mab i – un yr oedd arno ei angen yn fawr. Yn awr, fe all gamu allan yn falch efo’r tîm gan wybod fod ganddo ei git ei hun fel gweddill yr hogiau, ac nid cit wedi’i fenthyg. Diolch i chi o waelod calon, ‘dydw i ddim wedi’i weld o’n gwenu fel yna ers talwm iawn.”
“Eleni, rydym wedi datblygu nifer o gyfleoedd i gynnwys buddiolwyr a sefydliadau, gan roi llais iddynt yn y broses o benderfynu ar grantiau. Mae llawer sy’n derbyn ein grantiau wedi cyflwyno’u syniad am brosiect yn gyhoeddus yn y digwyddiadau hyn, a gerbron panel rhoi grantiau. Mae cyngor, gwybodaeth a diddordeb y rheiny sy’n gwirfoddoli o’u hamser i gymryd rhan ar ein paneli grant yn eithriadol o fuddiol i oleuo’n penderfyniadau. Gwir fwynhaodd y tîm weithio â swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru mewn partneriaeth â Cymorth i Ddioddefwyr i ddod â phrofiadau a safbwyntiau personol dioddefwyr trosedd i sylw ac i ystyriaeth mewn panel i gynghori’n proses o roi grantiau. Gweithiom hefyd â Sefydliad Pears ar raglen i ddarparu grantiau i sefydliadau sy’n cefnogi gwaith cydlyniant cymunedol a rhyng-ffydd. Roedd grwpiau’n gallu cyflwyno’u syniadau cyffrous am brosiectau, fel cynnig am gyllid ac wedyn adrodd eu hanesion a’u myfyrdodau ysbrydoledig ar ddiwedd y rhaglen. Mae adborth oddi wrth y dull hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dywedodd grwpiau wrthym mor rymus ac mor falch y teimlent ac mor ddiolchgar y maent wedi bod am y cyfle i ddangos yr angerdd sydd ganddynt dros eu gwaith yn bersonol yn hytrach na dim ond drwy gais. Mae eleni wedi bod yn neilltuol o gryf o ran gwneud grantiau ymatebol, gwybodus, a phrofiadol.” Andrea Powell Rheolwr Grantiau a Rhaglenni
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 05
DIOLCH I’N RHODDWYR EIN RHANDDEILIAID RHODDWYR UNIGOL, TEULUOL A CHYDWEITHREDOL Cronfa Daisy * Cronfa Waddol Y Dr Dewi Davies * Cronfa Dory Cronfa Ferndale Cronfa’r Arglwydd Merthyr Cronfa Antur a Theithio Martyn Groves Y Gronfa Fordwyaeth * Cronfa Skiathos Cronfa’r Teulu Sloman ar gyfer Trelái Cronfa Martyn * Cronfa Owen Sloman * Cronfa Hywel Sloman * Cronfa Jedrek Holownia * Cronfa Rowan Holownia * Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain * Cronfa Ymddiriedolaeth Elusennol John Andrews
RHODDION MAWR CRONFA CYMRU Ymddiriedolaeth Cronfa’r Loteri Fawr ar gyfer Cymru Sefydliad Waterloo Sefydliad Moondance Earl of Plymouth Estates Limited
RHODDWYR BUSNES ASDA Bristol & West Cronfa Gymunedol Cymdeithas Adeiladu Coventry Melin Tregwynt * Emma Kate Jewellery * Dyfarniadau Datblygu Mentrau Cymdeithasol Santander
CRONFEYDD SEFYDLIADAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU Cronfa Waddol Gymunedol Ynys Môn Cronfa Waddol Gymunedol Caerdydd Elusen Dinasyddion Caerdydd Ymddiriedolaeth Addysg ar gyfer Dinasyddion Caerdydd Cronfa Ysgolion Sefydledig Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cylch Cronfa Addysgol John Vaughan Cronfa Etifeddiaeth Emrys Davies * Cronfa i Gymru * Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint Cronfa Hiraeth/Cronfa Rhoi’r Staff Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch Cronfa Ddyngarwch Micro Fenter Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd Ymddiriedolaeth Sefydliad Mary Jane Cronfa Waddol Gymunedol Powys Cronfa Sefydliad Powys Hen Ysgol Ramadeg y Genethod, Aberhonddu Cronfa Elusenol Ysgol Uwchradd Llandrindod Cronfa Ymddiriedolaeth Ardal Sir Drefaldwyn Cronfa Addysg Ganolraddol a Thechnegol Sir Drefaldwyn Deddf Eglwys Cymru Powys Cronfa Goffa Stanley Bligh Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton Cronfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar gyfer Dioddefwyr Cronfa Waddol Gymunedol Wrecsam
EIN RHANDDEILIAID Cronfa’r Loteri Fawr UK Community Foundations Llywodraeth Cymru
PARTNERIAID YR YMDDIRIEDOLAETH Sefydliad y Teulu Ashley Comic Relief Ymddiriedolaeth Dulverton Ymddiriedolaeth Fairwood Elusen Henry Smith Cronfa New Beginnings Sefydliad Pears Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl Ysbryd 2012 Sefydliad Elusennol Trusthouse
YMGYRCHOEDD Her Arian Cyfatebol FAWR Cronfa i Gymru Goroesi’r Gaeaf Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru
CYLCHOEDD RHOI Gyda chefnogaeth Sefydliad Pears Cylch Rhoi Prifysgol Aberystwyth Cylch Rhoi Byd-eang Cylch Rhoi Uchel Siryf Gwynedd Cylch Rhoi Uchel Siryf Clwyd * Mae’r rhoddwyr hyn i gyd, ynghyd â channoedd o rai eraill, wedi rhoi i gefnogi ein Cronfa i Gymru – yr unig gronfa waddol gymunedol genedlaethol yn y byd.
06 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
STORI DYNGARWCH RHOI FEL TEULU Cerddwn ochr yn ochr â’n rhoddwyr, gan eu helpu i wneud y gwahaniaeth y mae arnynt eisiau’i gwneud gyda’u rhoi. Mae’r deiliad cronfa, Lulu Burridge, yn egluro’i thaith ddyngarol gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, a sut mae hyn am barhau gyda’i phlant.
CYNLLUNIO AR GYFER RHOI “Felly, pam dewis y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, a pham rhoi rhodd etifeddol i’r Sefydliad yn eich ewyllys? Yn gyntaf oll, mae’n rhaid imi ddatgan fy muddiant! Rwyf yn Ymddiriedolwr a hefyd yn ddeiliad Cronfa yn y Sefydliad. Felly, fe fyddwn yn dweud wrthych am eu dewis nhw, oni fyddwn?! Ond gadewch imi ddechrau yn y dechrau un. Sawl blwyddyn ôl, penderfynodd fy ngŵr a finnau yr hoffem roi i elusen mewn ffordd strwythuredig. Edrychom ar sefydlu sefydliad ein hunain, ond sylweddolom yn fuan iawn ei fod yn ffordd wastraffus o ran amser, bod yna lawer o waith papur ac yn ffordd ddrud o fod yn ddyngarol. Ac ar wahân i hynny, oni bai bod gennych £1 filiwn neu fwy i’w roi, nid yw hi’n wir werth ei ystyried gan nad yw’r ochr ariannol ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Fe wnaeth cyfaill da inni, a wyddai hyn ond yn rhy dda o fod wedi sefydlu’i Sefydliad ei hun, grybwyll y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru inni fel datrysiad amgen. Cyfarfuom â Liza a’i chydweithwyr a dreuliodd amser gyda ni yn trafod sefydlu Cronfa elusennol gyda nhw
a’r hyn yr hoffem i’n Cronfa ei gyflawni. Golygai hyn drafodaethau ynghylch pa thema, neu ardal ddaearyddol neilltuol yr hoffem roi iddi, a hefyd faint o ran y byddai arnom ei heisiau yn y broses, a ph’un ai y byddai arnom eisiau bod yn rhoddwyr dienw ai peidio. Ar ôl ychydig o gyfarfodydd (mewn gwirionedd, roedd yna gryn amryw ohonynt a chredaf fy mod wedi gyrru Liza ychydig bach yn benwan, a’r cwbl heb unrhyw ffi!), gwnaethom sefydlu Cronfa Effaith Uniongyrchol â’r thema o roi i brosiectau iechyd corfforol ac iechyd meddwl ledled Cymru. Fe enwom ni hi’n Gronfa Daisy ac fe blannwyd ei had.
RHOI’R ‘HWYL’ YN ‘RHOI’N HWYLIOG’ A dyma le mae’r Sefydliad Cymunedol yn gwneud gwahaniaeth i roddi. Fe wnaethant weithio’n ddygn i wneud yr holl ymchwil a’r gwaith cefndirol. Maent yn rhoi’r amrywiol ddewisiadau o’n blaenau, ac fe gawsom y pleser o ganfod a gwirio
grwpiau cymunedol ac elusennau sy’n addas inni. Cawsom wedyn yr ochr hwyliog i bethau gwnaethant roi’r amrywiol opsiynau o’n blaenau, ac fe gawsom y pleser o gynghori faint i’w ariannu a phwy. Roeddwn wrth fy modd o ymweld â rhai o’r prosiectau a ariannom, sy’n gwneud y cyfan mor anhygoel o real a gostyngedig. Mae egni’r elusennau hyn yn creu argraff wirioneddol. Gwyliais elusen o’r enw Bullies Out yn cyflwyno gweithdy, gan hyfforddi mentoriaid yn eu harddegau mewn ysgol gyfun leol lle roeddynt yn gwneud gwir gynnydd gyda gostwng bwlio. Ac roeddynt yn rhoi gwerth mor rhagorol am arian: gwnaethant i ychydig gannoedd o bunnau ymestyn ledled amryw o weithdai! Gwnaed ymweliad arall â chlwb ieuenctid mewn ardal o amddifadedd lle roeddem yn gwneud rhywbeth mor syml â thalu am bowlenni o ffrwythau i fod ar gael i’r plantos eu bwyta - mae hi mor bwysig addysgu pobl ifanc sut i fyw ffyrdd iach o fyw. Drwy’r ymweliadau hyn, fe ddysgais y gall symiau bychain o arian wneud gwahaniaeth mawr.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 07
Ryw dro arall, fe ymwelais â Thŷ Hapus, canolfan ddydd i bobl sy’n dioddef o Alzheimer’s yn ifanc a’u gofalwyr yn Y Bari, i glywed cyngerdd a drefnwyd gan Live Music Now. Roedd hwn yn brosiect diddorol, gan ei fod yn dangos mor hyblyg yw’r Sefydliad Cymunedol i ddarparu gofal personol iawn gan roddwyr. Rwyf yn gefnogwr y ddwy elusen ardderchog hyn, ac roeddwn wedi dod i gysylltiad â nhw drwy lwybrau eraill. Gofynnais i’r Sefydliad Cymunedol a allent sefydlu grant i alluogi cyllido’r ddwy elusen hyn mewn un prosiect. Siaradodd tîm Liza â’r ddwy elusen, gan weithredu â diwydrwydd dyladwy, a chan ddyfarnu grant ar gyfer cyfres o weithdai cerddorol yn Nhŷ Hapus. Dyna sut y gall sefydliadau cymunedol rhagweithiol fod, sef yn gwrando ar eu deiliaid Cronfa ac yn canfod ffyrdd creadigol o gefnogi cymunedau. Rydym wedi parhau i ychwanegu at ein Cronfa Daisy yn flynyddol, gan addasu’n thema wrth inni fynd. Ac yn fwy diweddar, rydym wedi’i newid i Gronfa Waddol fel y gall ein Cronfa dyfu dros amser ac wedyn daliwn i roi flwyddyn ar ôl blwyddyn.”
08 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
FELLY, DAM DEWIS CRONFA ETIFEDDIAETH YN Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU? Roedd o’n ddewis naturiol inni. Gallwn drosglwyddo ‘gwaddol o roi’ i’n teulu iddynt barhau i gyfrannu at gymunedau yng Nghymru. Dyma’r rhodd sydd go iawn yn parhau i roi. Mae hyblygrwydd y Gronfa Etifeddiaeth yn apelgar iawn. Fel mae’n digwydd bod, rydym yn ailedrych ar ein hewyllysiau bob blwyddyn, ac mae ein cyfreithwyr yn ein caru’n fawr am hynny, fel y gallwch ddychmygu! Gyda Chronfa’r Sefydliad Cymunedol, fe allwch ailedrych ar eich themâu a’ch syniadau ac ar natur eich cronfa mor aml ag y dymunwch, heb orfod talu a heb orfod newid eich ewyllys!
A pheidiwch â diystyru’r agwedd dreth-effeithiol o roi. Mae treth etifeddiaeth yn 40% ar unrhyw beth dros y trothwy o £325,000. Os rhowch 10% neu fwy i elusen, gostyngir hyn i 36%. Eitha’ da, onide? Felly, dyma’r peth i’w wneud: fe gewch y budd o ran y dreth ac yn ychwanegol, fe gewch y cyfle i roi i ba achos elusennol bynnag y dymunwch yng Nghymru, yn ôl enw neu yn ôl thema, neu hyd yn oed yn ôl daearyddiaeth. Gallwch ddewis cynnwys teulu a chyfeillion mewn rôl gynghorol neu ond ei adael o yn nwylo diogel y Sefydliad Cymunedol.
MAE CRONFA DAISY WEDI CEFNOGI YSTOD O FENTRAU ARDDERCHOG DROS Y 5 MLYNEDD DIWETHAF, SY’N CYNNWYS: •
Ariannu’r prosiect “Peidiwch â bwyta gyda’ch llygaid” , rhaglen bwyta’n iach i blant ym Merthyr Tudful.
•
Prynu cyfarpar garddio i helpu pobl ddigartref ifanc yn ne Cymru i ddysgu i dyfu’u llysiau eu hunain.
•
Cefnogi rhaglen flwyddyn o hyd o weithdai coginio ar gyfer gofalwyr ifainc yng ngogledd Powys
•
Galluogi Lowri, sglefwraig rhew uchelgeisiol ifanc, i wireddu’i breuddwydion drwy ariannu’i gwersi sglefrio ar rew am ddwy flynedd.
•
Helpu teuluoedd ifainc ym Mlaenau Gwent i ddysgu am bwysigrwydd bwyta’n iach ac i ymarfer drwy gyfres o weithdai iechyd a lles.
Pan ddewisom yr enw Cronfa Daisy, ni sylweddolom y gallai arwain, yn drosiadol, at gynnal llygaid y dydd ledled Cymru ar ôl inni farw! Dyna etifeddiaeth hyfryd i’w gadael.” I ganfod mwy o wybodaeth am sefydlu Cronfa Waddol, a fyddech cystal â chysylltu â’n Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones. Ffôn: 029 2037 9580 E-bost: mari-wyn@cfiw.org.uk
A WYDDECH CHI? Yn ôl y Sefydliad Codi Arian, mae cymynroddion yn werth dros £2 biliwn y flwyddyn i sefydliadau codi arian yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynrychioli’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o incwm gwirfoddol i’r sector.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 09
TYFU CYMYNRODD
10 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
LLE MAE DYNGARWCH A CHYMUNED YN CYFARFOD RHODDWYR
DEILIAID EIN CRONFA
CLEIENTIAID
£216,902 £167,112
CLWYD GWYNEDD
£43,898 Y TU ALLAN I GYMRU
£563,088
POWYS
RHOI’N ELUSENNOL I’R SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU £229,320
DYFED
£470,187
£11,000,000
£2,854,606
Gwerth y gwaddol a ymddiriedwyd i’n stiwardiaeth felag ar yr 31ain Mawrth 2016
Gwerth y grantiau a fuddsoddwyd i gryfhau cymunedau lleol ac elusennau
£574,140
DE MORG
740
6,200
70,000
Nifer y grantiau a ddyfarnwyd yn 2015/16
Nifer y gwirfoddolwyr sy’n ymrwymo’u hamser a’u doniau i gefnogi’r
Nifer y bobl a elwodd o waith y sefydliadau
mudiadau hyn
a gyllidwn
DIOLCH
GORL MORG MORG GAN
GWENT
£290,101 £299,858
MWY NA SWM EIN GRANTIAU Arweinyddiaeth Dyngarwch Cynnig sail a phartneru Gwybodaeth leol Arbenigedd cenedlaethol
Rhannu a chydweithredu Cynnull a chadeirio Diwallu anghenion Dathlu a hyrwyddo
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 11
RHOI OPSIYNAU Gwnawn roi yn beth hwyliog! Gwyddom lle y gall rhoi elusennol wneud yr effaith orau, diolch i’n hymchwil i anghenion a phroblemau, ac i’n cysylltiadau ag elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru i gyd. Rydym yn adolygu, yn monitro ac yn gwerthuso’n ddiwyd fel y gall ein rhoddwyr gael llwyr hyder yn ein gallu i roi grantiau.
OPSIYNAU GRONFEYDD
EICH DEWISIADAU DYNGARWCH 1. SEFYDLU’CH CRONFA EICH HUN Effaith Uniongyrchol – Cronfa ar gyfer heddiw. Cronfa Waddol – Cronfa wedi’i buddsoddi sy’n dyfarnu grantiau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cronfa Hybrid - Cronfa a gaiff effaith heddiw gan fuddsoddi ar gyfer anghenion yfory. Gellir rhoi thema i gronfeydd, yn ôl dymuniadau’r rhoddwyr; er enghraifft, fel ag y maent neu raglenni grant â thestun penodol.
RHOI
Cronfa Effaith Uniongyrchol
TYFU
DYFARNU
EFFAITH HEDDIW
Cronfa Waddol
EFFAITH AM BYTH
Gronfa Hybrid
EFFAITH HEDDIW AC AM BYTH
2. GADAEL RHODD YN EICH EWYLLYS 3. RHODDI I UN O’N CRONFEYDD CODI ARIAN SY’N GYSYLLTIEDIG AG ACHOS Ymunwch â chymuned o roddwyr sy’n cefnogi’n cronfeydd sy’n rhoi’n gydweithredol. Mae’r rhain yn cynnwys: • Cronfa i Gymru • Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain • Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent • Cronfa Ddyngarwch Micro Fenter • a’n Cronfeydd Sirol.
Mae ein tîm yn gweithio â phob deiliad Cronfa i ddatblygu portffolio o roddi, yn unol â’u huchelgais ddyngarol. Cysylltwch â Mari-Wyn Elias-Jones, ein Rheolwr Datblygu, ar 029 2037 9580 i drafod sut y gall eich rhoddion wneud gwahaniaeth. Gwefan www.cfiw.org.uk
12 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
HELPU’N RHODDWYR I ROI’N EFFEITHIOL AC YN EFFEITHLON Dyma ein Rheolwr Datblygu newydd, Mari-Wyn Elias-Jones, yn rhoi gipolwg ar sut mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn cysylltu pobl sy’n caru lles ag achosion sy’n cyfri. “Mae fy swyddi blaenorol wedi bod â ffocws ar ddatblygu, er mewn gwahanol weddau, sy’n golygu y dof â llawer o sgiliau trosglwyddadwy i’r rôl hon, yn ogystal â pharodrwydd i dyfu ac i ffynnu. Fodd bynnag, nid oeddwn erioed wedi gweithio i elusen o’r blaen. Un peth a ddaeth yn amlwg yn gyflym iawn oedd y ffyrdd amrywiol a diddorol y mae’r Sefydliad yn gweithio, gan ganiatáu imi gyfarfod â rhai pobl wirioneddol ysbrydoledig ar hyd y daith. Un o fy mhrif orchwylion yw hyrwyddo’r hyn a wnawn i unigolion a theuluoedd, busnesau,
“Ers dechrau yn y Sefydliad, un o fy mhrif feysydd gwaith yw cynyddu’n rhwydwaith o gynghorwyr proffesiynol, sydd mor bwysig o ran dangos y ffordd i roddwyr. Rydym yn eu cefnogi nhw a’u cleientiaid fel cynghorwyr dyngarol yr ymddiriedir ynddynt. Mae fy ngwaith yn parhau gyda mwy o eglurder, hyder a gwybodaeth: rwyf yn archwilio’n dau fyd sy’n cyd-fynd ar fater dyngarwch.
ymddiriedolaethau a sefydliadau, yn ogystal ag i gynghorwyr proffesiynol. Rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â rhoddwyr newydd, rhoddwyr presennol a darpar roddwyr, sydd nid yn unig yn gwneud fy ngwaith yn bleserus, ond sydd hefyd yn ddiddorol iawn. Mae’r uchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys: • Un o’r digwyddiadau cyntaf a fynychais oedd Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn y Guildhall, lle y cyfarfum â gwesteion oedd wedi rhoddi i’n Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain, sy’n gronfa newydd. • Mae hi wedi bod yn gymaint o bleser yn gweithio’n ddiweddar â theulu sy’n sefydlu cronfa waddol
Byddaf yn canolbwyntio nesaf ar gynyddu’n gwaith trosglwyddo ymddiriedolaethau, rhywbeth rydym eisoes wedi bod mor llwyddiannus yn eu rheoli. Mae’r gwaith hwn yn neilltuol o ddiddorol oherwydd fe all yr ymddiriedolaethau hyn fod yn eitha’ hanesyddol. Mae ymddiriedolwyr yn aml yn canfod y gorchwyl o redeg yr ymddiriedolaethau hyn yn eitha’ beichus ac maent yn ei chanfod hi’n anodd parhau i wneud grantiau effeithlon ac effeithiol, heb sôn am gadw’n gyfoes â’r gofynion cyfrifo ac adrodd! Gweithiwn â’r ymddiriedolwyr i
sylweddol yn enw un o’u diweddar berthnasau. Bydd yr etifeddiaeth, a lunnir gan ddiddordebau ac angerddau’r perthynas, yn parhau i fyw drwy ariannu prosiectau amgylcheddol yng ngogledd Cymru. • Ac wedyn, derbyniasom yn hollol annisgwyl £150,000 o rodd gan roddwr preifat sydd wedi rhoi drwy sefydliad cymunedol yn Lloegr, sy’n gwerthfawrogi sut y gweithiwn, ac sydd wedi gofyn inni ganolbwyntio’r cyllid hwn ar helpu pobl hŷn ledled Cymru. • Rwyf yn gweithio ar hyn o bryd â sefydliad corfforaethol sy’n dymuno sefydlu cronfa waddol sy’n gysylltiedig ag achos fel cyfrwng i gefnogwyr allu rhoi – model dyngarol newydd y gallwn ei gynnig.
drosglwyddo’u cronfeydd gan hefyd anrhydeddu’r amcanion elusennol y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth yn wreiddiol i’w cyflawni. Mae’n foddhaus gweld yr ymddiriedolaethau hyn yn cael eu hatgyfodi. Yr hyn sydd wedi bod yn amlwg o’r dechrau yw’r angerdd a’r ymrwymiad sydd gan bobl tuag at ein gwlad hardd. Mae ein rhoddwyr wedi’u hymrwymo i helpu’r achosion Cymreig hynny sy’n agos at eu calonnau, ac mae’n anrhydedd helpu i wneud i hyn ddigwydd. Mae hefyd yn galonogol gweld y grwpiau
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 13
cymunedol hynny sy’n elwa cymaint o ddyngarwch ein rhoddwyr. Tra oeddem yn ein digwyddiad gyda Chronfa Pears yn ddiweddar, sef cynllun grantiau’n targedu cydlyniant cymunedol a grwpiau rhyngffydd, clywsom drosom ein hunain am y gwahaniaeth roedd y grant wedi’i wneud i’r grwpiau gwahanol ac amrywiol hyn ac mor ddiolchgar roeddynt i gyd am y gefnogaeth y mae Sefydliad Pears wedi’i rhoi hyd yn hyn. Mae hyn yn fy nghymell i ganfod hyd yn oed fwy o bobl a sefydliadau hael, gan eu helpu i wireddu’u huchelgais ddyngarol ac i gefnogi rhagor ar y cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf. Rydym yn wastad yn chwilio am wahanol ffyrdd o hyrwyddo, rheoli ac ysbrydoli rhoi’n elusennol. Gyda hyn mewn golwg, roedd yn ennyd balch wrth gysylltu â’r dylunydd gemwaith lleol, Emma-Kate Francis. Mae hi wedi dylunio casgliad yn seiliedig ar ein logo cennin Pedr, ac mae hi’n ddigon hael i roddi 30% o’r elw o bob gwerthiant i’n Cronfa i Gymru. Cafodd y casgliad newydd ei arddangos yn ddiweddar yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, y gwnes ei mynychu ar ran y Sefydliad, gan helpu i gyfnerthu cysylltiadau gyda’n cefnogwyr Cymreig yn yr UDA a Chanada. Mae’r bartneriaeth fasnacheiddio hon yn adeiladu ar ein cysylltiadau llwyddiannus iawn â Melin Tregwynt, drwy’r hyn y mae elw o werthiant nwyddau yn eu dyluniad ‘Cymuned’ a gomisiynwyd yn arbennig yn cael eu rhoddi i’r Gronfa i Gymru.
Mae gweithio â’n tîm o staff ac ymddiriedolwyr yn llawenydd. Teimlaf yn freintiedig o weithio i Sefydliad sy’n tyfu o nerth i nerth drwy helpu pobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Cofiwch gysylltu â mi, os gwelwch yn dda, ar 029 2037 9580 neu mari-wyn@cfiw.org.uk os hoffech drafod rhoi i, a thrwy, y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.”
Dylunydd gemwaith o Gaerdydd, Emma-Kate Francis, gyda’i chasgliad newydd, ‘Cennin Pedr’ , a ysbrydolwyd gan logo’r Sefydliad, a’r Rheolwr Datblygu, Mari-Wyn Elias-Jones (ar y dde). www.emmakatefrancis.com
I gael mwy o wybodaeth am ddyluniad Felin Tregwynt a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ewch i www.melintregwynt.co.uk
14 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
ARWEINYDDIAETH DDYNGARWCH WYTHNOS DDYNGARWCH 2015 Cymru yw’r unig wlad yn y byd â’i hwythnos a’i gwobrau blynyddol ei hun am ddyngarwch. Bob blwyddyn, mae’r Sefydliad yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau i astudio, dathlu a hyrwyddo dyngarwch.
ROEDD Y RHAIN YN CYNNWYS: •
•
•
Ein derbyniad Hanesion a Gwobrau Dyngarwch yn Oriel y Chwiorydd Davies yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Anturiaethau mewn Dyngarwch Menter, cylch rhoi a fuddsoddodd mewn pedair menter gymdeithasol mewn fformat cyffrous yn null Dragons-den. Digwyddiad amser cinio canol dydd yng ngogleddddwyrain Cymru i ddathlu effaith y cronfeydd gwaddol cymunedol lleol sy’n gwasanaethu Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Phenarlâg.
RHANDDEILIAID A PHARTNERIAID
•
Gweithdy rhyngweithiol â chynghorwyr proffesiynol o’r enw ‘Philanthro-poly’.
•
Cylch rhoi cydweithredol yn Llundain gyda chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gynorthwyo lles a chyfleoedd myfyrwyr.
•
•Ein noswaith dysgu a rhannu â Chronfa Pears lle y cyfarfu ymgeiswyr ar y rhestr fer i drafod ac amlinellu’u syniadau i adeiladu cydlyniant cymunedol ac i gryfhau cysylltiadau rhyng-ffydd yn y rhaglen beilot arloesol hon.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 15
Er bod Wythnos Ddyngarwch ond yn digwydd unwaith y flwyddyn, nid yw gwaith ehangach a pharhaus y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru byth yn stopio. Yn ystod ein cyfnod Wythnos Ddyngarwch, fe wnaeth tîm staff bychan y Sefydliad hefyd: • Ymweld â Neuadd Gymunedol Les Beaufort Hill sydd newydd ei hariannu yng Nglynebwy. • Mynychu cyngerdd Ysgolion William Mathias yn y Senedd. • Rhannu gwybodaeth a chyngor am gyfleoedd cyllid grantiau mewn cymorthfeydd cyllido yng Nghasnewydd, Sir Benfro a Sir Fynwy. • Hwyluso pedwar panel cynghori gwirfoddol ledled Cymru, gan ddyfarnu £425,000 o grantiau.
16 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
ARWEINYDDIAETH DDYNGARWCH GWOBRAU DYNGARWCH I anrhydeddu pobl y mae’u dyngarwch wedi bod o fudd i bobl ifanc yng Nghymru, fe wnaeth y Sefydliad Cymunedol ddathlu a chydnabod pedwar enillydd gwobrau gwahanol iawn eleni.
DAVID SELIGMAN Ochr yn ochr â’i ddiweddar wraig, Philippa, rhoddodd y cyfreithiwr, David, yn ôl i Gymru mewn llawer iawn o ffyrdd, yn cynnwys rhoddi arian, amser ac egni i Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr y Sherman, a Phrifysgol De Cymru. Derbyniodd mab David, Paul, y wobr ar ei ran, ac fe wnaeth alw i gof fel roedd ei rieni wedi rhoi llawer o’u hamser rhydd gyda’r nosau i helpu’r sefydliadau hyn ac eraill. Gorffennodd Paul drwy ddweud ei fod yn gobeithio, “mai drwy dderbyn y wobr hon ar ran fy mam a fy nhad, bydd yn ysbrydoli mwy o bobl i rannu’u hamser, eu trysor a’u doniau eu hunain â’u cymunedau.” Yn y llun: Derbyniodd Paul Seligman y wobr i’w dad oddi wrth Brifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hilary Boulding.
PETER HANCOCK Gan ddangos effaith fyd-eang dyngarwch Cymru, rhoddodd Peter Hancock, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, sydd yn awr yn byw yn Seland Newydd, yn ôl i’w brifysgol mewn diolchgarwch am yr ysgoloriaeth a ddyfarnwyd iddo 50 mlynedd yn ôl. Penderfynodd Peter, â’i gymar a’i gyd gyn-fyfyriwr, Patricia Pollard, waddoli £500,000 i’w hen goleg i greu cronfa ysgoloriaeth newydd sylweddol. Bydd y ffynhonnell hirdymor, gynaliadwy hon o gyllid yn dyfarnu ysgoloriaethau i ‘fyfyrwyr Anrhydedd Ail Flwyddyn haeddiannol, teilwng, anghenus neu bobl gyffelyb mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedligrwydd ac sy’n dangos potensial i ddod â budd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus.’ Yn y llun: Derbyniodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ochr yn ochr â chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, y wobr ar ran Peter Hancock.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 17
IAN STOUTZKER Roedd y Sefydliad hefyd wrth ei fodd o gydnabod Ian Stoutzker, dyngarwr sylweddol ym maes y celfyddydau a chanddo angerdd dros gelfyddyd Prydain, feiolinydd wedi’i hyfforddi’n glasurol, a chyd-sylfaenydd gydag Yehudi Menuhin yr elusen Live Music Now yn 1977. Yn 2011, roddodd Ian £500,000 i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn teyrnged bersonol i’w fam, Dora, athrawes gerddoriaeth o Dredegar, ym Mlaenau Gwent. Mae Ian yn ariannu amryw o ysgoloriaethau cerdd ac mae hefyd yn cefnogi sefydliadau allweddol, yn cynnwys Band Pres Tredegar ac Only Boys Aloud, sy’n galluogi cymunedau i brofi’r llawenydd o wylio a chreu cerddoriaeth. Yn 2013, mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad eithriadol at gerddoriaeth a’r celfyddydau, fe ddyfarnwyd Medal Tywysog Cymru am Ddyngarwch yn y Celfyddydau i Ian a Mercedes Stoutzker. Yn y llun: Chwaraeodd Dewi Griffiths, prif chwaraewr cornet Band Tref Tredegar, “Share my Yoke” mewn teyrnged i Ian Stoutzker.
RACHEL CLACHER Ac yntau’n gainc elusennol o Moneypenny, busnes ateb ffôn y gwnaeth Rachel ei gydsefydlu gyda’i brawd, Ed, rhydd Sefydliad Moneypenny gyfleoedd newydd i bobl ifanc ddi-waith mewn bywyd a gwaith. Mae carfanau o ddeg o ferched ifainc o Wrecsam wedi mynd drwy raglen waith gyfoethog, eang ac amrywiol o brofiad gwaith a hyfforddiant bywyd i fagu eu hyder a’u sgiliau. Y nod yw helpu pobl ddiwaith ifanc i symud “o fod yn garcharorion amgylchiadau i fod yn beilotiaid eu bywydau eu hunain”. Mae Rachel a’i thîm yn awr yn ystyried sut i ehangu fel y gall hyd yn oed fwy o bobl ifanc wireddu eu potensial. Yn y llun: Ysbrydolodd Rachel Clacher westeion gyda hanes ei Sefydliad.
18 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
STORI AM DDYNGARWCH RHOI’N FYD-EANG AC YN LLEOL GWAITH RHYNGWLADOL SEFYDLIAD MOSAWI Mae Sefydliad Mosawi yn sbardun sy’n ceisio bywiogi cymunedau a meithrin doniau. Mae’n cynorthwyo nifer o fentrau meddygol, gan cynnwys: ysgoloriaeth i fyfyrwyr meddygol deallus iawn o Irac er mwyn iddynt ddod i’r DU i hyfforddi ymhellach; gwaith gydag elusen Brydeinig ‘The World Sight Foundation’ i hyfforddi staff meddygol mewn tiriogaethau Palestinaidd mewn llawdriniaeth offthalmig; a’r Clinig Iechyd yng Nghabwl sy’n cael ei redeg gan Elusen Brydeinig ‘The Turquoise Mountain’, a gychwynnwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a chyn-Lywydd Affganistan, Hamid Karzai. Drwy feddygon Prydeinig o Henley on Thames, sy’n gwirfoddoli i wasanaethu yn Affrica, darparodd Sefydliad Mosawi ysgoloriaeth i feddyg lleol weithio yn Ysbyty Cenhadaeth Kamuli, Uganda. Gan annog meddygon a myfyrwyr meddygol i ymweld â’r ysbyty o’r DU, bu Sefydliad Mosawi yn noddi preswylfa a adeiladwyd yn bwrpasol, lle y gallant aros tra byddant yn gwirfoddoli yn Kamuli.
DYNGARWCH YNG NGHYMRU
Y TEULU WRTH WRAIDD Y SEFYDLIAD
Drwy Colin Alexander, sef ffrind i’r teulu ac ymddiriedolwr i Sefydliad Cymunedol Swydd Rydychen, dechreuodd May ac Ali gynorthwyo prosiectau cymunedol bach yn Swydd Rydychen. A thrwy Sefydliad Cymunedol Swydd Rydychen, cyfarfu May ac Ali â Liza a Tom o’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Ganed May yn Llundain, i rieni o Gymru. Ddiwrnod ar ôl ei geni, bu farw ei mam. Cafodd May a’i brawd hŷn David eu magu gan Eleanor, chwaer ei mam, a’i gŵr Richard, yn Glynrhedynog yn ne Cymru, fel pe baent yn blant iddynt hwy. Ar ôl iddi orffen yn yr ysgol ramadeg, aeth May i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd – sef Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru erbyn hyn. Yn ei blwyddyn derfynol, sef 1965, cyfarfu ag Ali.
Helpodd brwdfrydedd ac ymroddiad y tîm yng Nghymru deulu Mosawi i gyfrannu at brosiectau yng Nghwm Rhondda a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ogystal â noddi myfyrwyr yn y Coleg, mae Sefydliad Mosawi yn cynorthwyo prosiect allgymorth sy’n meithrin doniau pobl ifanc yng Nghwm Rhondda Fach. Wedi hynny, cyflwynodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru brosiect gwych ym Mhendyrus i deulu Mosawi sy’n cael ei redeg gan Eglwys ACTS, a bu’n bleser iddynt helpu i gefnogi’r gymuned ysbrydoledig hon wrth iddi adfywio hen glwb cymdeithasol gan greu eglwys a chanolfan gymunedol sy’n cynnwys banc fwyd, gwasanaeth cynghori ar ddyledion, ac ardal berfformio.
Ganed Ali yn Irac, a phan oedd yn 17 oed enillodd ysgoloriaeth i ddod i Brydain i astudio peirianneg. Ar ôl iddo ennill cymwysterau Safon Uwch, aeth i Brifysgol Caerdydd ac yn ei flwyddyn derfynol, cyfarfu â May. Gwnaethant briodi a buont yn byw yn Baghdad. Yn 1974, gwnaethant ddianc o Irac gyda’u dau fab gan ymgartrefu yn Henley on Thames. Yn 1977, cawsant ill dau eu bedyddio yn Eglwys leol y Bedyddwyr, a’r gwaith elusennol cyntaf a wnaethant oedd rhoi arian er mwyn ymestyn ac adnewyddu’r eglwys honno. Ers 1985, bu May ac Ali yn aelodau gweithgar o Eglwys Anglicanaidd St Margaret yn Henley on Thames. Drwy’r eglwys hon a chenedaethau eraill, maent wedi cynorthwyo prosiectau cymunedol ym Mhacistan, Melanesia, ac Affrica.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 19
RHOI AR Y CYD I GAEL MWY O EFFAITH Drwy weithio ochr yn ochr â chymuned o roddwyr, gallwn wella dyngarwch, darparu cymorth cyfatebol, ac ysgogi dyngarwch er mwyn uchafu’r effaith y bydd eich rhoddion yn ei chael ar y bobl a’r cymunedau yr ydych yn dewis eu cynorthwyo. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae May ac Ali wedi cynorthwyo wyth o brosiectau drwy gyfrwng eu Cronfa yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, gan ddyfarnu dros £65,000 mewn grantiau. Ar yr un pryd, rydym wedi ysgogi £97,000 yn ychwanegol gan unigolion, busnesau ac ymddiriedolaethau elusennol sydd hefyd â Chronfeydd yn y Sefydliad, er mwyn parhau i wella’r gwaith gwych y mae’r wyth prosiect hyn yn ei wneud i wella bywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
• Rhondda Cynon Taf yw’r drydedd ardal awdurdod lleol fwyaf amddifadus yng Nghymru. • Categoreiddir Y Rhondda Fach fel ardal glwstwr Cymunedau yn Gyntaf - sef rhaglen wrthdlodi flaenllaw Llywodraeth Cymru sy’n targedu’r 10% uchaf o’r cymunedau mwyaf amddifadus yng Nghymru. • Mewn rhannau o Lynrhedynog, mae cyrhaeddiad addysgol yn yr 20% uchaf o’r rheiny sy’n cyflawni waethaf yng Nghymru, ac o ran lefelau iechyd, yn y 30% uchaf.
“Mae taith ddyngarwch May ac Ali yn enghraifft wych o’r modd y gall dyngarwch gyfoethogi bywydau’r rhoddwr a’r sawl sy’n elwa fel ei gilydd. Mae diddordeb gwirioneddol May ac Ali yn y prosiectau y maent yn eu hariannu, a’r cyfeillgarwch y maent yn ei gyfleu i’r gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n elwa, wir yn ysbrydoli. Mae eu buddsoddiad o ran arian, ond cyn bwysiced â hynny o ran amser ac wrth roi hwb i ysbryd gwirfoddolwyr Eglwys ACTS, nid yn unig wedi darparu cymorth ar gyfer argyfwng drwy fanc fwyd, mae wedi trawsnewid adeilad blaenllaw lleol ac wedi helpu i adnewyddu cymuned yr ystyrir ei bod ymysg y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru – maent wir wedi sbarduno newid.” Tom Morris, Rheolwr Cyllid, Ymchwil a Grantiau yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
20 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
ARWYDDION HANFODOL DYSGU AM ANGHENION YNG NGHYMUNEDAU CYMRU Menter fyd-eang yw Arwyddion Hanfodol / Vital Signs, sy’n cael ei rhedeg gan sefydliadau cymunedol sy’n gwrando ar y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt ar ran eu rhoddwyr, yn deall y cymunedau hynny, ac yn eu gwerthfawrogi. Mae’n ymchwilio i sefyllfaoedd presennol ein cymunedau, ac yn gofyn i bobl beth sy’n gweithio a ble y gallem oll flaenoriaethu ein gweithredoedd – bônt yn weithredoedd personol, proffesiynol neu ddyngarol.
Yn 2016, bu inni lansio’r adroddiad Arwyddion TRECHU ANFANTAIS AC ALLGÁU Hanfodol cyntaf erioed i Gymru. Gwnaethom ofyn i wirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedau o bob sector ledled Cymru am y materion sy’n bwysig TAI A DIGARTREFEDD yn eu cymunedau nhw. Roedd ein canfyddiadau’n cydblethu â data ac ystadegau allweddol ar draws 10 o themâu creiddiol er mwyn cyflwyno darlun IECHYD cyflawn o Gymru: y pethau sy’n dda, yn ogystal â’r pethau nad ydynt cystal, mewn cymunedau go iawn, o safbwynt pobl ar lawr gwlad. Gan gyd-fynd â’n cyhoeddiad diweddar ‘Portread o Ddyngarwch yng Nghymru’, mae Arwyddion Hanfodol yn tynnu sylw at enghreifftiau o anghenion a chamau gweithredu cymunedol, gan helpu pob un ohonom i roi, ac i roi’n well.
GWLEDIGRWYDD A THRAFNIDIAETH TROSEDDU A DIOGELWCH
ADDYSG A DYSGU
CYMUNEDAU CRYF
GWAITH A’R ECONOMI LEOL
CELFYDDYDAU, DIWYLLIANT A THREFTADAETH YR AMGYLCHEDD
“Mae’n grynodeb pwysig o’n sefyllfa fel cenedl ac mae’n adlewyrchu i raddau helaeth y pryderon a’r materion a gafodd eu crybwyll drwy broses y Gymru a Garem. Rwy’n sicr y bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei ystyried yn gymorth mawr ar gyfer adeiladu ar y gwaith hwnnw a’r materion y mae angen eu hadlewyrchu mewn cynlluniau llesiant lleol. Mae hefyd yn rhoi darlun cliriach o’r gwaith hollbwysig ond a anwybyddir yn aml y mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud bob dydd ledled Cymru.” Peter Davies, y cyn-Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy
ADOLYGIAD ANNUAL BLYNYDDOL REVIEW 2016 21
YSTADEGAU ALLWEDDOL
9 MLYNEDD
Mae
23%
yw’r bwlch cyfartalog mewn disgwyliad oes i ddynion rhwng y
o’r boblogaeth
YN BYW MEWN TLODI
CYMUNEDAU MWYAF AMDDIFADUS
SEF Y GYFRADD UCHAF O BLITH GWLEDYDD Y DU Mae plant ar brydau ysgol am ddim Mae
a
LLEIAF AMDDIFADUS
YNG NGHYMRU
DDWYWAITH A HANNER
20%
yn llai tebygol o gyflawni yn yr ysgol Mae
52%
o blant ar brydau ysgol am ddim
o blant nad ydynt ar brydau ysgol am ddim
YN ENNILL 5 TGAU A* - C
YN ENNILL 5 TGAU A* - C
yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg
yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg
I LAWRLWYTHO COPI LLAWN O’N HADRODDIAD ARWYDDION HANFODOL 2016 O’N GWEFAN, EWCH I
WWW.CFIW.ORG.UK/CYM/ARWYDDIONHANFODOL
22 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
SBOTOLAU – LLINELL AMSER O EGNI CYMUNEDOL A ninnau’n sefydliad cymunedol, rydym yn gweithio lle y ceir anghenion, ac yn y mannau y mae dymuniadau ein rhoddwyr yn ein tywys iddynt. Mae ein gwaith ar Ynys Môn yn enghraifft wych o’r cyfuniad hwn o rymoedd. Yn 2003, dyfarnwyd contract ‘Cyfran Deg’ i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i gynorthwyo pum sir i feithrin hyder a chydlyniant yn eu cymunedau. Roedd hyn yn cynnwys cynnull panel lleol i gynghori ar y modd gorau o ddyfarnu grant o £650,000 ym mhob ardal dros oes y rhaglen, sef deng mlynedd. Ynys Môn oedd un o’r ardaloedd a dargedwyd.
ETIFEDDIAETH CRONFA WADDOL LEOL Ar ôl trawsnewid lleoedd chwarae, y polisi chwarae a gweithgareddau chwarae cymunedol ar draws yr ynys drwy ariannu gweithgareddau strategol ac ar lawr gwlad, roedd y Sefydliad a’r panel lleol am ddathlu diwedd rhaglen yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg drwy greu etifeddiaeth gynaliadwy. Felly, aethom ati i gychwyn cronfa ardal fach, sef Cronfa Waddol Gymunedol Ynys Môn, diolch i gymorth gan RAF y Fali a rhodd sbarduno gan Gronfa Rhoddion Elusennol y Briodas Frenhinol yn 2011. Parhaodd ein hymdrechion o ran rhoi grantiau a datblygu busnes a daethom i adnabod rhagor o elusennau a mentrau cymunedol gwych, ynghyd â meithrin cysylltiadau yn y Cyngor a’r gymuned fusnes.
DYNGARWCH MENTER Yn 2014, roedd David Lea-Wilson, sef dyn busnes lleol o Gwmni Halen Môn, yn ymgymryd â’i swydd, a oedd yn para blwyddyn, yn Uchel Siryf Gwynedd. Wrth siarad â thîm y Sefydliad am y gweithgareddau cymunedol ysbrydoledig yr oedd yn eu gweld ac yn cymryd rhan ynddynt tra oedd yn y swydd, cafodd David ei annog i gyflwyno cais am ddyfarniad o’r Gronfa Ddyngarol Micro Fenter.
Creodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ei Gronfa Ddyngarol Micro Fenter, sef y gronfa gyntaf o’r math hwn yn y DU, er mwyn buddsoddi grantiau bach mewn prosiectau cymunedol, elusennau, a busnesau cymdeithasol mentrus mewn cyfnodau gwahanol o’u twf. Hedfanodd David i Gaerdydd i gyflwyno’i syniad ynglŷn â chyllid sbarduno yn ein digwyddiad cylch rhoi a gynhaliwyd gan Capital Law ym mis Tachwedd 2014. Llwyddodd grŵp Llyn Parc Mawr – sef pwyllgor a oedd â rhai uchelgeisiau amlinellol o ran prosiectau, nad oedd ganddo ddim cyfrif banc, ac nad oedd â statws elusennol – i greu argraff fawr ar galonnau buddsoddwyr y Sefydliad. Gwnaethom ddyfarnu £2,000 i ddatblygu menter gymdeithasol yn y goedwig – sef ymrwymiad anarferol, ac anarferol o hyblyg! Y syniad gwreiddiol oedd datblygu menter llogi beiciau, ond dangosodd gwaith ymgynghori pellach fod rhwystrau i hynny o safbwynt yr amgylchedd a busnes. Pan gyflwynodd Mark Gahan, sef swyddog datblygu cymunedol lleol Cynefin, y wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid y Gronfa Ddyngarol Micro Fenter flwyddyn yn ddiweddarach, roedd cyfleoedd cyffrous eraill yn dod i’r amlwg, ac felly gofynnodd y Sefydliad i’r grŵp gyflwyno syniadau pellach ar gyfer cyllid cychwynnol a fyddai’n helpu gyda chynaliadwyedd a menter.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 23
YSBRYD CYMUNEDOL Gan gyd-daro â’r egni hwn, yn yr haf yn 2014 roedd Sefydliadau Cymunedol y DU (sef y corff aelodaeth i’r 48 o sefydliadau cymunedol ledled y DU) wedi cyflwyno achos ar ran ei aelodau dros reoli menter buddsoddiadau cymunedol dair blynedd, wedi’i hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Gan gydnabod bod digwyddiadau fel gemau Llundain 2012 a Glasgow 2014 yn arbennig iawn o ran eu gallu i ddod â phobl at ei gilydd – gan ennyn balchder drwy rym cyfranogi – roedd rhaglen Fourteen newydd Ysbryd 2012 wedi’i hanelu at gynnal positifrwydd a chael hyd yn oed mwy o bobl leol i chwarae mwy o ran yn eu cymunedau. Roeddem ni yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth ein boddau, oherwydd golygai hynny y gallem wahodd pob cymuned ledled y wlad i gyflwyno cais am £200,000 i’w fuddsoddi yn un neu ragor o’r meysydd a ganlyn: gweithredu cymdeithasol a gwirfoddoli; chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad; gweithgareddau diwylliannol a’r celfyddydau; ac arweinyddiaeth a datblygiad personol ieuenctid. A syniadau’n blaguro, cysylltiadau, ac achos unigryw o gryf o blaid cael cymorth, bu Mark Gahan yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol, gan gynnwys Christine Bowler, Dafydd Jones a David Lea-Wilson, i ysgrifennu cais gan gasgliad o bentrefi yn ne-orllewin Ynys Môn a oedd am
feithrin ymdeimlad cryfach o gymuned yn eu hardal wledig, sef Bro Aberffraw. Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, a oedd yn cynnwys ‘picnic cymunedol’ gyda thîm y Sefydliad i’r cymunedau a roddwyd ar y rhestr fer er mwyn trafod eu huchelgeisiau’n fwy manwl, adeg y Nadolig yn 2014 cyhoeddodd y Sefydliad ei fod wedi dewis cymunedau Rhondda Ganol a Bro Aberffraw i weithio ochr yn ochr yn gymunedau ‘Ysbryd’.
EGNI MENTERGARWCH Ac yntau wedi’i ysbrydoli gan gysyniad y cylch rhoi yr oedd wedi dod ar ei draws yn nigwyddiad y Gronfa Ddyngarol Micro Fenter, gofynnodd David Lea-Wilson a allai greu partneriaeth â’r Sefydliad er mwyn cynnal digwyddiad ar Ynys Môn i annog dyngarwch yn lleol. Mae cylch rhoi’n ysgogi rhoddion elusennol, a dyma lle y caiff pobl eu hannog i ddysgu rhagor am waith elusennau llai a lleol. Roedd digwyddiad David ar 26ed Mawrth 2015 yn cynnwys cyflwyniadau gan: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru, Crimebeat Gogledd Cymru, a phrosiect diwrnod agored coedwig cymunedol Llyn Parc Mawr. Diolch i’n partneriaeth â Sefydliad Pears, cafodd pob rhodd hyd at y targed o £5,000 ei dyblu yn y digwyddiad gwych hwn a nododd hefyd agoriad storfa halen a chanolfan ymwelwyr newydd Halen Môn.
24 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
CYMAINT MWY NA’I GYNNWYS! Hanes o roi grantiau’n llwyddiannus gyda chymorth paneli lleol o breswylwyr, arbenigwyr ac ysgogwyr Hanes o brosiectau llwyddiannus yn cael eu cyflawni a gwaith mewn partneriaethau gan grwpiau cymunedol bach sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, fel Malltraeth Ymlaen a Criw Niwbwrch Mentrau cymunedol bywiog ar lawr gwlad gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru Cefnogaeth gan bobl a sefydliadau mor amrywiol â safle llu awyr RAF y Fali, Eu Huchelder Brenhinol Dug a Duges Caergrawnt, yr Uchel Siryf, Cyngor Ynys Môn, a’r cynghorau cymuned Cyd-drefnydd cydweithredol o Cynefin sydd bob amser yn ennyn y gorau gan bobl ac a ddaeth â grŵp newydd o wirfoddolwyr egnïol at ei gilydd Panel o wirfoddolwyr diddorol ac sy’n ymddiddori Rhaglen cyfranogiad cymunedol ar gyfer etifeddiaeth y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad, sydd ar waith ledled y DU, o’r enw ‘Ysbryd’ Cronfa Ddyngarol Micro Fenter, sy’n buddsoddi mewn syniadau mentrus Cylch Rhoi mewn ffatri halen!
=
YMGYNGHORI’N LLEOL, ARWEINYDDIAETH LEOL, CYLLID, PARTNERIAETHAU, RHWYDWEITHIAU A CHYDWEITHREDU. Yng nghanol y rhain ceir nifer o fentrau cymunedol, gan gynnwys prosiect coedwig cymunedol Llyn Parc Mawr, y sonnir amdano nesaf...
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 25
STORI AM DDYNGARWCH GWNEUD GWAHANIAETH YN FY NGHYMUNED I Mae cerdded ochr yn ochr â chymunedau yn elfen allweddol o’n gwaith. Roeddem am ddangos sut yr ydym yn gwneud hyn o wahanol safbwyntiau eleni, a rhannu stori am brosiect cymunedol â’n darllenwyr. Un enghraifft o’r fath yw menter Llyn Parc Mawr ar Ynys Môn, sy’n cael ei lywio gan wirfoddolwyr ymroddgar sy’n trawsnewid coedwig cymunedol... “... a dim ond ers 18 mis rydym ni’n gweithredu!” dywedodd Chris Rogers, ysgrifennydd y pwyllgor lleol, pan fu inni ei chyfweld yn gynnar ym mis Hydref. A diolch i uchelgeisiau, egni, dyfalbarhad a chydweithredu lleol, fel y soniwyd ar y tudalennau blaenorol, mae’r grŵp creiddiol hwn o saith o aelodau gwirfoddol o’r pwyllgor wedi datblygu cnewyllyn syniad, mae wedi cael pobl leol, asiantaethau, sefydliadau ac arianwyr i gefnogi ei weledigaeth, ac mae wedi gwneud cryn gynnydd tuag at ennill statws ‘prosiect cymunedol blaenllaw’.
SYLFEINI CADARN Mae Chris Rogers yn parhau â’r stori.... “Y cyfarfod cymunedol hwnnw ar 6ed Chwefror 2015 yng Nghanolfan Gymunedol Bodorgan a’m hysgogodd i! Clywais fod y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi dewis Bro Aberffraw i fod yn gymuned Ysbryd, ac euthum i’r cyfarfod i wneud y te a chael clywed rhagor. Eglurodd Liza ac Andrea fod y Sefydliad am wirio bod y gymuned yn dal yn dymuno elwa ar y rhaglen ac ymrwymo iddi. Daeth tua 40 o drigolion o’r gwahanol bentrefi yn ardal Bro Aberffraw i’r cyfarfod i gadarnhau ein bod ni am wneud hynny! Rwyf yn cofio Ymddiriedolwr y Sefydliad o Harlech– Sheila Maxwell – yn dweud wrthym pa mor bwysig yw panel lleol er mwyn datblygu cynllun busnes cymunedol ar gyfer y cyllid ac i roi cyngor ar benderfyniadau grant. Dywedodd: ‘Dim pobl sy’n siarad sydd arnom eu heisiau, ond pobl sy’n gwneud!’ Roedd hynny’n taro deuddeg i mi – oherwydd dyna wyf i. Ers imi ymddeol [o fod yn athrawes], rwyf wedi teithio gyda fy ngŵr, rwyf wedi gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol yn yr ysbyty, ac rwyf wedi helpu gyda grŵp cymunedol Malltraeth Ymlaen, ond rwyf bob amser wedi teimlo bod pobl eraill yn gallu gwneud pethau’n well na fi. Dywedodd fy ffrind a oedd yn gwneud te gyda fi y noswaith honno y gallwn i wneud hyn, ac felly cyflwynais fy enw i fod ar y panel, gan wneud cais.
Roedd gweithio ar y cynllun cymunedol yng nghyfarfodydd y panel yn golygu fy mod yn gallu gweld y darlun ehangach i’r ardal, ac roedd yn hynod ddiddorol gweithio gyda phawb ar weledigaeth y rhaglen. Cawsom hefyd hyfforddiant i’r panel fel y gallem wneud argymhellion da ar gyfer rhoi grantiau, a gwnaethom siarad am swyddi, cyfrifoldebau a disgwyliadau, a datganiadau o fuddiant. Ac ochr yn ochr â hyn, roedd pwyllgor coedwig cymunedol Llyn Parc Mawr yn datblygu ei weledigaeth ei hun i’r goedwig. Roedd hyn i gyd wedi’i seilio ar benderfyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru i annog cymunedau i elwa ar goetiroedd lleol a datblygu eu dyheadau ynglŷn â hwy, a chynhaliodd gyfres o gyfarfodydd i rannu syniadau, gan gynnwys dau gyfarfod cyhoeddus yn Niwbwrch. Erbyn y gwanwyn yn 2015 roeddem wedi’n sefydlu’n llwyr, a deuthum yn ysgrifennydd. Roeddem yn gwybod y byddai darpar bartneriaid am gael gweld i ba raddau yr oedd pobl leol yn cymryd rhan, pa waith ymgynghori yr oeddem wedi’i wneud, a beth oedd y safbwyntiau am anghenion a syniadau o ran datblygu tua 25 erw o Goedwig Niwbwrch. Gyda’n gilydd, gwnaethom gyflwyno cais i raglen ‘Fourteen’ Ysbryd ym mis Mai am £1,000 i gynnal digwyddiad cymunedol. Roedd gennym eisoes peth momentwm, uchelgeisiau gwych, a syniadau a chyfleoedd cynnar i ymchwilio iddynt ac felly roedd cynnal digwyddiad yn y goedwig i rannu ein gweledigaeth â’r cyhoedd a chlywed rhagor o syniadau’n gam nesaf gwych.”
26 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 27
PROBLEMAU O RAN MADFALLOD... “Bydd asiantaethau’n sôn am ‘rwystrau rhag ymgysylltu’, ond nid wyf yn meddwl bod yr un ohonom wedi disgwyl mai madfallod fyddai’r rhwystr mwyaf o ran cynnal ein diwrnod agored cymunedol! Roedd arnom angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rheoli Coedwig Niwbwrch, i roi ein darn cyntaf o offer – sef cynhwysydd – yn y goedwig i fod yn ganolfan ar gyfer ein diwrnod agored. Ond nid oeddem wedi rhagweld y byddai pentwr o bridd yn llwybr hysbys i rywogaeth warchodedig y fadfall ddŵr gribog. Bu’n rhaid inni osod ffensys arbennig fel na allent fynd drwodd a chael eu gwasgu, a bu’n rhaid inni gael stiward madfall ddŵr gribog hyd yn oed. Rydym i gyd yn gwybod am wiwerod coch, oherwydd mae’r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch yn bartner ers tro yn natblygiad prosiect Llyn Parc Mawr. Fel nad ydym yn wynebu’r mater hwn eto, ac fel y gallwn ni chwarae rhan ehangach o ran cadwraeth, rwyf i a Cliff (o’r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch) wedi ymgymryd â hyfforddiant arbenigol – rhaid ichi fynd ar gwrs a chynnal pum arolwg. Erbyn hyn, mae gennym ein trwyddedau madfallod dŵr cribog ein hunain, fel y gallwn arolygu ar ein pen ein hunain a gafael yn y madfallod, os oes angen. Rydym hefyd yn cynnal arolygon ynglŷn â gelennod– mae gelennod meddygol yn eithaf prin, cofiwch. Roedd ein diwrnod agored ym mis Awst y llynedd yn llwyddiant mawr. Cawsom farbeciw, bu arddangosiadau gan grwpiau lleol, a chafwyd cyflwyniad ynglŷn â thorri coed yn foncyffion gan eu symud â cheffylau, gyda Gus y ceffyl gwedd. Gwnaethom gynnal ymarfer ymgynghori ffurfiol a threfnu helfeydd pryfed i’r plant. Roeddem yn falch iawn o gael gwobr Baner Gymunedol Werdd Cadwch Gymru’n Daclus yn yr haf, hefyd. Ac ers hynny rydym wedi creu cymaint o ddiddordeb yn lleol, ac ymysg arianwyr, ac rydym yn mynd ati o ddifrif.”
28 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
O GYNHWYSYDD DUR I YSTAFELL DDOSBARTH YN Y GOEDWIG, DRWY BABELL GROEN! Ar ôl inni gael y grant o £1,000 gan Ysbryd, gwnaethom gais am grant gan Gronfa Ynni Cymunedol Marks & Spencer. Penderfynwyd ar hyn drwy falot cyhoeddus, a chawsom ddyfarniad arbennig o £11,500. Ysgrifennodd atom, gan ddweud: ‘Roedd y beirniad o’r farn mai eich prosiect chi oedd yn cyd-fynd fwyaf â gwerthoedd busnes creiddiol Marks & Spencer, sef uniondeb, arloesedd, ysbrydoliaeth, a bod mewn cysylltiad â’r gymuned ... Gwnaed argraff fawr ar bob un ohonom gan lefel yr ymgysylltiad â’r gymuned y mae eich prosiect chi wedi’i dangos ac edrychwn ymlaen at weld effaith ein cyllid.’ Golygai hyn y gallem adeiladu toiled compostio ar y safle, gosod paneli solar ar ben ein cynhwysydd storio i oleuo’r toiled a’r cynhwysydd, a chysylltu â batri i bweru’r camerâu yr ydym wedi’u prynu.
YSGOGI
BETH SY’N DIGWYDD NESAF?
“Un o’r pethau gwych am y ffaith bod Llyn Parc Mawr yn rhan o deulu Ysbryd Bro Aberffraw yw’r achosion pan fo’n prosiectau’n gorgyffwrdd ac yn helpu ei gilydd. Enghraifft wych o hynny yw pan roddodd Ysbryd arian i Griw Niwbwrch i gomisiynu Ysgol Goedwig beilot yn ystod gwyliau’r haf. Rhoddwyd un o grantiau eraill Ysbryd i Goed Llwynonn i adeiladu pabell groen gymunedol. Ymunais â gwirfoddolwyr o Langefni ac o amgylch yr ynys ar gyfer wythnos o adeiladu pabell groen, ac mae Llyn Parc Mawr yn falch iawn ein bod bellach yn ‘gartref’ i’r babell groen yn ein cynhwysydd! Gwnaethom hyd yn oed ei chodi ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 9fed Ebrill, a diolch i’r grant gan Marks & Spencer mae gennym hefyd stôf llosgi coed yn ein pabell groen 16 troedfedd.
Ein cynllun nesaf yw adeiladu ystafell ddosbarth yn yr awyr agored – strwythur pren sydd â tho ar ongl, un wal solet (ar gyfer sioe sleidiau a lluniau), a byrddau a chadeiriau. Byddwn yn gallu ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant ac fel ystafell ddosbarth, a gall y cyhoedd gysgodi ynddo. Ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n adeiladu sied storio boncyffion. Mae cylch tân a phwll trochi hefyd ar y gweill – rydym yn gobeithio dod o hyd i amrywiaeth o rywogaethau o gelennod yn ystod ein ‘harolygon gelennod’. Ac mae sôn am bont wiwerod hefyd...
Roeddem wrth ein boddau pan roddodd Ysbryd £25,000 yn rhagor inni yn gynharach eleni ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau coetir mwy a gwell, diwrnodau gwirfoddoli a hyfforddiant i wirfoddolwyr, a hynny i raddau helaeth oherwydd ein bod wedi llwyddo cymaint yn sgil ein grant ar gyfer diwrnod agored cymunedol. Gwnaethom gynnal digwyddiad Calan Mai, barbeciw haf, helfa fadarch, a digwyddiad Calan Gaeaf ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch ar 22ain Hydref.
Ond y peth mwyaf cyffrous ar hyn o bryd yw’r ffaith bod grant cyfnod un o £20,000 wedi’i ddyfarnu inni gan y Loteri Fawr i benodi rheolwr prosiect tymor byr i ddatblygu ein cais, ac i gysylltu, ymgynghori, cyfathrebu ac ymchwilio i sut y gallwn ddatblygu Llyn Parc Mawr yn fan i’r gymuned. Ac rydym wedi cael ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfnod dau – sef un o blith 16 o brosiectau o’r 64 a gyflwynodd gais, a’r unig un sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr! Rydym yng nghamau terfynol y cais hwn ar gyfer Creu eich Lle, ac os byddwn yn llwyddiannus bydd £1 miliwn yn cael ei ddyfarnu inni ar gyfer grant datblygu saith mlynedd. Rydym yn croesi ein bysedd – a chadwch lygad ar ein gwefan: www.llynparcmawr.org i weld a fuom yn llwyddiannus.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 29
CAEL MWY O BOBL I GYMRYD RHAN Yr hyn sy’n bwysig iawn i bob un ohonom yw cynhwysiant cymunedol – rydym am i gynifer o bobl ag y bo modd fwynhau’r coetir a bod yn rhan o’n prosiect. Rydym yn gwybod bod bod allan ym myd natur yn gwneud cymaint o les ichi. Mae pobl yn dechrau ein ffonio erbyn hyn. Ar ôl y gwyliau hanner tymor, bydd grŵp o fyfyrwyr sydd ag anableddau dysgu yn dod i blannu coed – nhw a ddaeth atom ni! A bûm yn sgwrsio â Choleg Menai am ein gwaith, a gofynnwyd imi fynd i gyfarfod gyda’r saith o ddarlithwyr yno sy’n rhedeg cyrsiau i ddysgwyr sydd â rhwystr rhag dysgu, fel anawsterau corfforol,
ymddygiadol neu anawsterau dysgu. Maent wedi ymweld â ni ddwywaith ac rydym yn gobeithio y bydd un ohonynt yn datblygu BTEC ar sail Llyn Parc Mawr. O fod yn syniad, erbyn hyn mae Coedwig Cymunedol Llyn Parc Mawr Cyfyngedig â phwyllgor o wirfoddolwyr sydd â saith o aelodau, mae ganddo 30 o aelodau ffurfiol, tua 15 o wirfoddolwyr sy’n mynd yno ar ddydd Sul cyntaf bob mis, a rhestr bostio â 130 o bobl arni, ac sy’n cynyddu bob wythnos.
Oni bai am y Sefydliad, ni fyddem wedi cyrraedd y sefyllfa hon. Mae’r buddsoddiad cyntaf hwnnw yn ein syniad, ac yna’r grantiau llai pellach, wedi ysgogi datblygiadau enfawr. Pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn cael ein rhoi ar y rhestr fer i gael grant o £1 miliwn? Ond nid yw’n ymwneud â’r arian yn unig; y bobl sy’n bwysig. Yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, rydych yn siarad am gerdded ochr yn ochr â chymunedau, ac erbyn hyn mae gennym bobl leol yn cerdded ochr yn ochr â’i gilydd ac yn gwneud i bethau gwych ddigwydd.”
Ac os hoffech ddarlun o fywyd gwirfoddolwr cymunedol, edrychwch ar rai o benawdau’r e-byst rhwng Chris a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: • • • • • • • • • •
Barbeciw Dathlu/Barbecue Celebration Erthygl ar gyfer cylchlythyr Ysbryd Bro Aberffraw Diwrnodau gwirfoddoli Llyn Parc Mawr Newid dyddiad Côr y Bore Bach Gweithdy adeiladu pabell groen Beth y byddwn yn ei wneud nesaf Cwestiwn cyflym i Liza Newyddion da! Cyfarfod a chinio nos Ysbryd
30 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016
EIN CYLLIDAU Mae’r wybodaeth hon o’r Cyfrifon Blynyddol archwiliedig llawn am y flwyddyn sy’n gorffen ar yr 31ain o Fawrth, 2016. Y diben yw rhoi dealltwriaeth i’r darllenydd o sut y mae’r Sefydliad yn galluogi iddo roi grantiau - ein prif weithgaredd elusennol. Gellir cael Cyfrifon Blynyddol llawn (a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar y 19eg o Fedi, 2016), Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, ac Adroddiad yr Archwilydd o swyddfa’r Sefydliad neu oddi ar ein gwefan www.cfiw.org.uk.
INCWM £4.071M
GWARIANT £3.298m
ARIANWYR CRAIDD £104k
CODI ARIAN £216k
CYFRANIAD AT GOSTAU CRAIDD £346k*
DATBLYGU DYNGARWCH £96k GWEINYDDU GRANTIAU £130k
ARIAN RHODDWYR AR GYFER BUDDIOLWYR £3.104m
GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL £3.082m
GRANTIAU £2.856m
INCWM GWADDOL AR GYFER BUDDIOLWYR £351k
CYFALAF GWADDOL NEWYDD £166k**
“Yn y Sefydliad, mae cyllid yn fwy na dim ond rhifau ar daenlen. Pan fyddaf yn ymweld â’r prosiectau a ariannwn, ac yn gweld y gwaith ardderchog y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i newid eu cymunedau er gwell, fe’m hatgoffir o’r pwysigrwydd o gael dull strategol a hirdymor o reoli’n cyllidau. Strategaeth sy’n sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i fuddsoddi grantiau mewn cymunedau, ac sydd yn ein galluogi i adeiladu sylfeini cadarn fel cwmni elusennol cynaliadwy.” Tom Morris, Rheolwr Cyllid, Ymchwil a Grantiau
CRONFWYDD GWADDOL £11.027m Cyfalaf rhoddwyr ar gyfer incwm grantiau buddiolwyr y dyfodol CRONFEYDD CYFYNGEDIG £2.378m
EIDDO £300k BUDDSODDIADAU £10.059m
Arian rhoddwyr ar gyfer grantiau buan i fuddiolwyr CRONFEYDD ANGHYFYNGEDIG £181k
ASEDAU CYFREDOL NET £3.122m
Cyfalaf gweithio ar gyfer gweithgareddau craidd yr elusen
ASEDAU NET ARALL £105k
CRONFEYDD £13.586m
ASEDAU NET £13.586m
* Cyfanswm y cyfraniad at gostau craidd yn 2015/16 oedd £364,000; dengys y SOFA £346k fel incwm ynghyd â £18k fel asedau anghyfyngedig atodol newydd a drosglwyddwyd i’r grŵp. **Cyfanswm y gwaddol newydd i’r Sefydliad yn 2015/16 oedd £851k; dengys y SOFA £166k fel incwm a £685k fel asedau gwaddol atodol newydd a drosglwyddwyd i’r grŵp.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2016 31
TÎM Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU YMDDIRIEDOLWYR, HAF 2016
NODDWR Y GRONFA I GYMRU
Alun Evans Cadeirydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru Nigel Annett Is-gadeirydd Kathryn Morris Trysorydd LLYWYDD Lulu Burridge Lloyd FitzHugh OBE JP DL Y Capten Syr Norman Lloyd-Edwards Tanwen Grover KCVO, GCStJ, RD, JP, RNR Geraint Jewson Tom Jones OBE Sheila Maxwell Eleni, ymddeolodd Janet Lewis-Jones o’i swydd yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, y gwnaeth ei harweinyddiaeth ein hysbrydoli drwy gyfnod o dwf; a Julian Smith, y gwerthfawrogwyd ei ymrwymiad hirsefydlog yn fawr iawn.
Mae’r Sefydliad yn ddiolchgar i Arglwyddi Rhaglaw Cymru EM am eu diddordeb parhaus yn ein gwaith ynghyd â’u cymorth parhaus iddo.
CYSYLLTU Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Tŷ Sant Andreas 24 Cilgant Sant Andreas Caerdydd CF10 3DD
F: E: G:
Elusen Gofrestredig: 1074655
Rhif y Cwmni: 03670680
029 2037 9580 info@cfiw.org.uk www.cfiw.org.uk cfinwales @cfinwales
STAFF, HAF 2016 Liza Kellett Prif Weithredwr Mari-Wyn Elias-Jones Rheolwr Datblygu Laura Kilvington Cynorthwyydd Gweithredol Tom Morris Rheolwr Cyllid, Ymchwil a Grantiau Sarah Morris Swyddog Gweinyddol Andrea Powell Rheolwr Grantiau a Rhaglenni Ffion Wyn Roberts Swyddog Grantiau Mae staff blaenorol wedi cyfrannu’n fawr at waith y Sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf, a hoffem ddiolch yn arbennig i Siân Stacey, Sam Stensland, Rochelle Brunnock ac Alexander Price.
CYMDEITHION Anna Bezodis Colin Evans
Catrin Hopkins Bob Sherer
Rydym yn ddiolchgar am gymorth proffesiynol Giselle Davies (Geldards), KTS Owens Thomas, Chris Jones (Berry Smith), Ruth Peck a Jan Coverley (HR Solutions), a Designdough.