Arwyddion Hanfodol Cymru 2016

Page 1

Arwyddion Hanfodol Cymru

2016



CYNNWYS Rhagymadrodd 5 Mynd i’r Afael ag Anfantais ac Allgáu

6

Tai a Digartrefedd 8 Iechyd 10 Chwyddwydr ar ...Trelái 12 Natur Wledig a Thrafnidiaeth 16 Trosedd a Diogelwch 18 Chwyddwydr ar...Bro Aberffraw 20 Addysg a Dysgu 24 Cymunedau Cryfion 26 Cyflogaeth a’r Economi Lleol 28 Chwyddwydr ar... Rhondda Ganol 30 Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth 34 Yr Amgylchedd 36 Sut y gall dyngarwch wneud gwahaniaeth 38

CYDNABYDDIAETHAU Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn diolch i’n partneriaid, cefnogwyr a phawb sydd wedi rhoi’u hamser i gyfranogi o’n grwpiau ffocws ac i ymateb i’n harolwg cymunedol. Mae’ch dirnadaethau a’ch myfyrdodau wedi rhoi cipolwg unigryw inni ar gymunedau ar hyd a lled Cymru.

Defnyddir nod masnach Arwyddion Hanfodol gyda chaniatâd gan Sefydliadau Cymunedol Canada, ein partner a’n cefnogwr yn Arwyddion Hanfodol.

03


04


Croeso i Arwyddion Hanfodol Cymru 2016, canllaw cyntaf Cymru i baru anghenion â dyngarwch.

Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn cydgerdded â phobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru. Rydym yn paru rhoddwyr a phobl sy’n gwneud, helpwn bobl sy’n ddyngarol mewn teuluoedd, busnesau ac ymddiriedolaethau elusennol - i roi’n effeithiol ac i gael yr effaith y maent wedi’u hymrwymo i’w chyflawni. Mae ein datganiad cenhadaeth yn cadarnhau’n ffydd bod cymunedau’n creu datrysiadau wedi’u seilio ar eu hanghenion. A’n huchelgais yw adeiladu ein gwaddol - ffynhonnell gynaliadwy o gyllid elusennol i gefnogi pobl, prosiectau ac elusennau llai, arloesol, ymatebol ac sy’n ysbrydoli. Mae Arwyddion Hanfodol yn brosiect byd-eang, a redir gan sefydliadau cymunedol sy’n gwrando ar, yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cymunedau lle maent yn gweithio ar ran eu cleientiaid. Mae’n cymryd y tymheredd, fel petai, i weld sut mae ein cymunedau’n ymdopi, ac i ofyn i bobl ledled Cymru beth sy’n gweithio a ble y gallwn i gyd flaenoriaethu’n gweithredoedd - boed y gweithgareddau hyn yn bersonol, yn broffesiynol neu’n ddyngarol. Gan dryfalu â’n cyhoeddiad diweddar, ‘Portread o Ddyngarwch yng Nghymru’, mae Arwyddion Bywyd yn amlygu enghreifftiau o angen a gweithgaredd cymunedol, gan ein helpu ni i gyd i roi, ac i roi’n well.

Diolch am eich diddordeb yng ngwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Methodoleg Mae yna sawl elfen i’n rhaglen Arwyddion Hanfodol. Edrychasom ar ddata ystadegol, adroddiadau ac ymgynghoriadau o ffynonellau llywodraeth, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd, asiantaethau statudol a mudiadau trydydd sector ledled ein deg thema graidd. Cyflwynwn grynodeb o’n canfyddiadau data allweddol yn yr adroddiad hwn.

Themâu craidd Trechu Anfantais ac Allgáu Addysg a Dysgu Tai a Digartrefedd Cymunedau Cryfion Iechyd Gwaith ac Economi Lleol Natur Wledig Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth Troseddau a Diogelwch Yr Amgylchedd

Holasom wirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol o bob sector ledled Cymru am y materion allweddol yn eu cymunedau. Gwnaeth pedwar grŵp ffocws, tri â chynrychiolwyr cymunedol yn Nhrelái, Rhondda Ganol a Bro Aberffraw, ac un â Swyddogion Cyfrifoldeb Cymdeithasol yr Eglwys yng Nghymru, roi rhai cipolygon gwefreiddiol ar flaenoriaethau cymunedau. Derbyniodd ein harolwg cymunedol dros 330 o atebion unigol, gyda phobl yn graddio’u cymunedau ar 10 o themâu craidd, yn ôl y graddau isod. A B C D E

Mae popeth yn ardderchog Mae pethau’n gweithio’n dda Mae’r sefyllfa yn iawn Nid yw pethau’n gweithio’n dda iawn Mae pethau’n wael iawn

Gellir canfod crynodeb o’r canfyddiadau oddi wrth yr arolwg ym mhob adran â thema o’r adroddiad hwn.

05 3


MYND I’R AFAEL AG ANFANTAIS AC ALLGÁU Pan ddaw hi’n fater o anghydraddoldeb incwm, Cymru sydd â’r bwlch lleiaf rhwng cyfoethog a thlawd yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio’r ffaith bod Cymru yn genedl incwm isel sydd â’r gyfradd uchaf o oedolion a phlant yn byw o dan y ffin tlodi yn y Deyrnas Unedig. Erys gwaith y llwybr gorau allan o dlodi ond mae tlodi cynyddol mewn gwaith yn golygu bod llawer o deuluoedd sy’n gweithio yn ei chanfod hi’n galed talu am eu holl anghenion hanfodol. Mae plant sy’n cael eu magu mewn cymunedau tlotach yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol ac maent yn fwy tebygol o gael canlyniadau iechyd gwaeth dros eu hoes. Mae arwahanrwydd cymdeithasol, unigrwydd a chost tanwydd hefyd yn bryderon cynyddol mewn cenedl â’r gyfradd uchaf o bobl oedran pensiwn yn y DU.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Drechu Anfantais ac Allgáu yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

16%

Mae

o bobl

yn byw mewn tlodi, o’i gymharu â chyfartaledd y DU o

13%

31%

nifer yr aelwydydd yr amcangyfrifir eu bod yn

BYW MEWN TLODI TANWYDD Mae

23% o’r boblogaeth

YN BYW MEWN TLODI

YR UCHAF YN Y DEYRNAS UNEDIG

Canfu astudiaeth gan Sefydliad Joseph Rowntree fod

65 OED NEU HŶN

MAE

386,000

yn byw mewn tlodi, y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig.

O BLANT CYFARTALEDD Y DU YW 27%

285,000 o bobl mewn

TEULUOEDD INCWM ISEL SY’N GWEITHIO SY’N UWCH NA NIFER Y BOBL MEWN TEULUOEDD INCWM ISEL NAD YDYNT YN GWEITHIO (275,000)

Mae pobl yn Sir Fynwy ar gyfartaledd yn byw

4.3 MLYNEDD yn hwy na phobl yn ardal gyfagos Blaenau Gwent

Mae plant sy’n derbyn prydau bwyd ysgol am ddim yn

2 WAITH A HANNER

20% .

Mae o blant sy’n derbyn prydau bwyd ysgol am ddim

YN LLWYDDO I ENNILL 5 PWNC TGAU A*- C

yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg 06

yn llai tebygol o gyflawni yn yr ysgol

52% .

o’u cymharu â nad ydynt yn cael prydau bwyd ysgol am ddim

YN LLWYDDO I ENNILL 5 PWNC TGAU A*- C

yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg


Lefelau o amddifadedd yng Nghymru

%

Sir Ddinbych

Abertawe

Castell-nedd Pen-y-bont Port Talbot ar Ogwr

Rhondda Cynon Taf

Merthyr Tudful

Caerpffili

Blaenau Gwent

Casnewydd

Caerdydd

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yn cynnwys wyth gwahanol fath o amddifadedd. A hwythau wedi’u rhestru yn nhrefn pwysoliad, maent fel a ganlyn: Incwm (23.5%), Cyflogaeth (23.5%), Iechyd (14%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Diogelwch Cymunedol (5%), Tai (5%) a’r Amgylchedd Ffisegol (5%). Dengys y graff awdurdodau lleol sydd â mwy na 10 y cant o’u hardaloedd bychain yn y 10 y cant mwyaf amddifadus yng Nghymru ar gyfer y dangosydd cyffredinol hwn rhwng 2005 a 2014. Gall newidiad mewn safle i ardal fod o ganlyniad i newidiadau yn yr ardal honno’i hun, neu o ganlyniad i ardaloedd eraill sy’n symud i fyny neu i lawr y safleoedd. WIMD yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru o thua 1,600 o bobl. Mae wedi’i gynllunio i nodi’r ardaloedd bychain hynny lle mae yna’r crynodiadau uchaf o amryw o wahanol fathau o amddifadedd.

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Rhoi’r cyfle i bob plentyn gyfranogi o fywyd cymunedol. Mae gwneud gweithgareddau allgyrsiol megis y celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon yn Zfforddiadwy i blant o deuluoedd incwm isel yn cael gwared â rhwystrau rhag cyfranogi. Cyfoethogi bywydau pobl, magu hyder a meithrin dyheadau. Gall darparu bwrsariaethau, cefnogi profiad gwaith, a chyllido rhaglenni antur awyr agored a gwaith gwirfoddol dramor gynyddu symudedd cymdeithasol, ehangu gorwelion, a rhoi hwb pwysig ymlaen i bobl sydd â breuddwydion. Darparu rhyddhad yn syth i’r rheiny mewn angen. Mae banciau bwyd wedi lluosogi dros y blynyddoedd diwethaf ac maent yn darparu achubiaeth hanfodol i filoedd o bobl ledled Cymru, gan gynnig bwyd a chyngor ond hefyd cynhaliaeth emosiynol i rai o’r bobl fwyaf diymgeledd yn ein cymunedau. Gall gwasanaethau cynghori ynghylch arian a mynediad at gyllid fforddiadwy drwy Undebau Credyd hefyd helpu pobl i chwalu’r cylch dyled. Helpu pobl i heneiddio ag urddas a pharch. Mae clybiau cinio, dawnsfeydd te a rhaglenni cyfeillio yn lleihau arwahanrwydd ac unigrwydd i bobl hŷn. Gall prosiectau sy’n canolbwyntio ar wneud y defnydd mwyaf o’ch incwm a sicrhau bod gan bobl hŷn yr adnoddau i oroesi misoedd y gaeaf hefyd gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd pobl dros 65 mlwydd oed.

Mae Banc Bwyd Y Rhondda yn darparu achubiaeth hanfodol i dros 2,000 o deuluoedd yng Nghymoedd Y Rhondda sy’n lliniaru newyn drwy ddarparu parseli bwyd maethlon. Gan gynnig mwy nag ond lle i gael rhywbeth i’w fwyta, mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig gwasanaethau cofleidiol pwysig, yn cynnwys cyngor ynghylch dyled a chlwb swyddi. Efallai’n bwysicach na dim, serch hynny, yw’r gefnogaeth emosiynol y maent yn ei darparu i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned. Mae llawer o’r bobl hyn wedi’u hynysu’n gymdeithasol ac yn dioddef oddi wrth broblemau iechyd meddwl. Gall cymryd yr amser i wrando, i ddangos gofal a dealltwriaeth, fod yn gam cyntaf allweddol i gael bywyd rhywun yn ei ôl ar y llwybr iawn.

A hwythau’n adeiladu ar ei diben o greu pont rhwng Cymru a’r tu hwnt, mae Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain, sy’n gronfa newydd, yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o gyllid i gefnogi myfyrwyr mentrus, entrepreneuriaid a phobl Cymru i gyflawni’u huchelgeisiau. Bydd y Gronfa’n helpu i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig, ysgoloriaethau, bwrsariaethau busnes, profiad gwaith a datblygu gyrfa. Anogir buddiolwyr i roi rhywbeth yn ei ôl eu hunain wedyn, gan fytholi cylch o ddyngarwch.

07


TAI A DIGARTREFEDD Digartrefedd

Yng Nghymru, mae yna ganran uwch o eiddo perchnogion preswyl, gyda llai o bobl yn rhentu nag yn Lloegr, ac mae prisiau tai, ar gyfartaledd, yn fwy fforddiadwy nag yn Lloegr. Fodd bynnag, mewn rhai rhannau o Gymru, mae prisiau tai yn drech nag enillion, gan ei gwneud hi’n anodd i bobl gychwyn ar yr ysgol dai. Gwthir mwy a mwy o bobl i’r farchnad rentu breifat, sydd wedi dyblu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r data diweddaraf yn dynodi bod y nifer swyddogol o deuluoedd digartref wedi gostwng 11% dros y flwyddyn ddiwethaf. Eto i gyd, mae yna bryder gwirioneddol am y nifer o bobl sy’n ‘guddiedig’ ddigartref – y bobl sy’n byw gyda chyfeillion a phobl sy’n cysgu ar y strydoedd – a’r effaith niweidiol a gaiff digartrefedd ar iechyd a marwolaethau.

38.5 AM BOB 10,000 O DEULUOEDD yw cyfartaledd Cymru o deuluoedd a gydnabyddir yn swyddogol fel digartref. Abertawe sydd â’r gyfradd uchaf -

75.9 O BOB 10,000 O DEULUOEDD Ai dyma’r darlun cyflawn o ddigartrefedd yng Nghymru? Mae’r elusen dros bobl ddigartref, sef Crisis, yn adrodd nad yw... o bobl ddigartref yn ymddangos mewn ystadegau swyddogol.

62%

Ac y caiff digartrefedd effeithiau difrifol ar iechyd a marwolaethau…

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Dai a Digartrefedd yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

47 YW CYFARTALEDD OEDRAN MARWOLAETH PERSON DIGARTREF. 43 I DDYNES DDIGARTREF Mae pobl ddigartref yn… gwaith yn fwy tebygol o farw oddi wrth gyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol

£150,000

7-9

YW PRIS CYFARTALOG TAI YNG NGHYMRU SY’N £91,000 YN IS NA CHYFARTALEDD CYMRU A LLOEGR O

£241,000

20

gwaith yn fwy tebygol o farw oddi wrth orddos o gyffuriau.

6.82

yw cymhareb prisiau cyfartalog tai i enillion cyfartalog yng Nghymru

SY’N IS NA CHYFARTALEDD CYMRU A LLOEGR O 8.85

67.5%

Mae o bobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain yng Nghymru, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr o 63.6%. 08

5,070 o deuluoedd a gydnabyddir yn swyddogol fel digartref

97%

Roedd 97% o berchnogion preswyl yn fodlon â’u lle byw, o’u cymharu â

90%

90% o’r rheiny mewn lle byw rhent preifat a

83%

83% o’r rheiny oedd mewn tŷ cymdeithasol.

2,050 o deuluoedd mewn lletyau dros dro


Fforddiadwyedd Tai Mae prisiau tai mewn ardaloedd gwledig ar gyfartaledd yn 26% yn uwch nag mewn ardaloedd trefol. Yng nghefn gwlad Sir Fynwy, mae tai’n costio mwy na dwywaith cymaint i’w prynu â rheiny yn Rhondda Cynon Taf.

Lleiaf Fforddiadwy

10 8 6

Mwyaf Fforddiadwy

4

Yn seiliedig ar gymhareb pris tŷ i enillion, mae prisiau tai ym Mlaenau Gwent yn fwy na dwywaith yn fwy fforddiadwy na’r rheiny yng Ngheredigion.

2 0 Blaenau Gwent

Merthyr Tudful

Castell Nedd Port Talbot

Powys

Sir Benfro Ceredigion

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH… Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw ag urddas yn eu cartrefi. Gyda, ar gyfartaledd, 1,500 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf bob blwyddyn yng Nghymru, bydd rhaglenni sy’n helpu pobl hŷn i gadw’n gynnes, diogel a sicr yn eu cartrefi eu hunain yn gwella ansawdd eu bywyd, ac yn y pendraw yn achub bywydau. Darparu lloches a chefnogaeth yn syth i bobl ddigartref sy’n agored i niwed. Yn ychwanegol at ymdrin ag anghenion sylfaenol brys, gall targedu cyllid at brosiectau sy’n mynd i’r afael â gwraidd problem digartrefedd, a chynnig cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol, helpu pobl i gael eu bywydau ar y llwybr cywir unwaith eto. Atal digartrefedd a chefnogi tai fforddiadwy. Mae ymyriadau strategol megis cyngor, eiriolaeth, a chefnogi tenantiaid yn atal digartrefedd. Mae cymdeithasau tai cydweithredol, ymddiriedolaethau tir a phrosiectau hunan-adeiladu cymunedol yn creu ac yn cynnal tai fforddiadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Helpu pobl ddigartref i weddnewid eu bywydau drwy addysg, hyfforddiant a menter. Mae elusennau sy’n ymwneud â digartrefedd yn helpu pobl i gymryd y camau pwysig cyntaf i weithio drwy feithrin eu hyder a datblygu sgiliau galwedigaethol. Gall hyd yn oed pethau bychain fel mynd â rhywun i gyfweliad am swydd drwy dalu’u costau teithio, neu brynu pâr newydd o esgidiau i rywun fel eu bod yn gallu gwneud argraff ar gyflogwr posib’, gael effaith hirdymor ar leihau digartrefedd.

Emmaus, Pen-y-bont hyfryd Mae cymunedau Emmaus yn helpu pobl ddigartref i helpu’u hunain – ac eraill. Ac yntau’n fudiad byd-eang a chanddo 25 o gymunedau yn y Deyrnas Unedig, mae elusen Emmaus ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithredu menter gymdeithasol sy’n casglu ac yn ailwerthu nwyddau cartrefi a roddwyd am ddim. Diolch i incwm busnes, rhoddion a chodi arian, bydd yr elusen cyn bo hir yn croesawu 23 o bobl ddigartref, gan ddarparu gwaith ystyrlon, cartref, ymdeimlad o gymuned a diben am gyhyd ag y mae arnynt ei angen i’w helpu i beidio â bod yn ddigartref.

Gofal a Thrwsio, Castell Nedd Port Talbot Dyma un o ddau ar hugain o sefydliadau Gofal a Thrwsio lleol drwy Gymru i gyd sy’n ymgymryd â gwaith cynnal a chadw tai a gwasanaethau mân atgyweirio i bobl hŷn ar incymau isel. Mae gwaith gwirfoddolwyr Gofal a Thrwsio yn galluogi pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi. Caiff ei werthfawrogi’n neilltuol am ei gwneud hi’n ddiogel a hylaw i bobl ddychwelyd adref ar ôl bod mewn ysbyty.

09


IECHYD Nid yw lle rydych yn byw yn pennu’ch canlyniadau iechyd. Serch hynny, rydych yn ystadegol fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael os ydych yn byw yn ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru. Mae’r disgwyliad oes cyfartalog ledled y genedl ychydig yn llai na blwyddyn yn is na chyfartaledd Cymru a Lloegr. Eto i gyd, fe all pobl sy’n byw yn y cymunedau tlotaf fyw bron i ddegawd yn llai na phobl mewn ardaloedd mwy cefnog. Mae iechyd a hunangofnodir gan bobl nid yn unig yn is nag yn Lloegr ond hefyd yn sylweddol is nag mewn unrhyw ranbarth o Loegr. Mae iechyd gwael nid yn unig yn effeithio ar ansawdd bywyd ond caiff hefyd effaith ganlyniadol ar gyflogaeth a thwf economaidd.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Iechyd yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

MAE 12% O OEDOLION

9 MLYNEDD yw’r

bwlch cyfartalog mewn disgwyliad oes rhwng y CYMUNEDAU MWYAF AMDDIFADUS

a’r

CYMUNEDAU LLEIAF AMDDIFADUS

yng Nghymru

Gordrwm neu ordew yng Nghymru:

58% o oedolion

26% o blant

yn adrodd am gael eu trin am

AFIECHYD MEDDWL

32%

MAE 1 O BOB 4 yn debygol o brofi rhyw fath o BROBLEM IECHYD MEDDWL MEWN BLWYDDYN

yn adrodd eu bod yn bwyta’r maint dyddiol a argymhellir o ffrwythau a llysiau sef gostyngiad o’i gymharu â 36% yn 2008

34% yn adrodd nad ydynt yn gorfforol weithgar ar unrhyw ddiwrnod

21%

Mae o oedolion yn ysmygu, sef gostyngiad o’i gymharu â

27%

ddegawd yn ôl

Mae

14.2%

% o ofalwyr ifainc sy’n cofrestru dros

Roedd

91% 10

o bobl yn fodlon â’r gofal roeddynt yn ei dderbyn gan eu Meddyg Teulu y tro diwethaf iddynt ymweld.

50 O ORIAU GOFALU YR WYTHNOS yng Nghymru yn adrodd

‘NAD OEDD EU HIECHYD YN DDA’ Mae hynny’n 4.4 gwaith cyfradd y bobl ifanc nad oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu


Dangosyddion Iechyd, yn ôl ardal Byrddau Iechyd

Ysmygwyr

20% 17% 19% 21% 21% 23% 22% 21%

Ddim yn gorfforol weithgar ar unrhyw ddiwrnod

31% 28% 31% 38% 33% 39% 35% 34%

Gordrwm neu ordew

57% 59% 58% 58% 52% 64% 60% 58%

Bwyta 5 ffrwythyn a llysieuyn y dydd

35% 35% 37% 29% 33% 28% 31% 32%

Yfed trwm (goryfed)

24% 21% 22% 26% 27% 27% 26% 25%

Betsi Cadwalader Powys Hywel Dda Abertawe Bro Morgannwg

Caerdydd a’r Fro Cwm Taf Aneurin Bevan Cymru

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Addysgu rhieni a phlant am fyw’n iach. Mae grymuso teuluoedd i gymryd perchnogaeth ar eu hiechyd eu hunain yn hanfodol bwysig. Mae canolfannau teuluol yn datblygu sgiliau rhianta allweddol, a thrwy ddosbarthiadau coginio iach, fe allant helpu rhieni i wneud gwell penderfyniadau ynglŷn â’r hyn y maent hwy a’u plant yn ei fwyta. Lleihau’r straen ar ofalwyr ifainc. Drwy alluogi pobl ifainc i rannu eu problemau, i ddatblygu cyfeillgarwch ac i gael cefnogaeth oddi wrth bobl eraill mewn sefyllfaoedd cyffelyb. Mae rhwydweithiau cymorth gan gyfoedion yn neilltuol o bwysig mewn ardaloedd gwledig i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol.

Annog ffyrdd o fyw egnïol. Drwy gefnogi chwaraeon a sefydliadau llawr gwlad sy’n datblygu gwerthfawrogiad o’r awyr agored, megis grwpiau cerdded, brownies, cadlanciau’r môr, ac ysgolion coedwig. Sicrhau bod pobl ag arnynt broblemau iechyd meddwl yn derbyn y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen. Elusennau yw’r rheng flaen yn aml o ran cefnogaeth iechyd meddwl, ac mae sicrhau bod cyfleusterau galw heibio yn hygyrch yn caniatáu i bobl gael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen, pan fo arnynt ei hangen. Mae elusennau iechyd meddwl hefyd wedi bod ar flaen y gad yn eiriol dros bobl â phroblemau iechyd meddwl ac yn gweithio i ddileu’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl.

Sied Dynion Squirrel’s Nest, Pen-y-bont ar Ogwr Grŵp Menywod Enfys, Bro Morgannwg Mae’r Sied Dynion, The Squirrel’s Nest, sef elusen a leolir ar barc diwydiannol yn Nhondu ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymddangos o’r tu allan i fod ond yn weithdy pren, ond mae o cymaint mwy na hynny! Ac yntau wedi’i seilio ar fodel o Awstralia, mae’n fan ymgynnull gwirioneddol bwrpasol i ddynion o bob oed i gyfarfod, i weithio ochr yn ochr â’i gilydd, ac i deimlo’n gyfforddus yn siarad. Yn bwysicach na dim, nid yw’r Squirrel’s Nest yn gwneud i’r aelodau deimlo’u bod yn rhan o brosiect iechyd meddwl, ond yn hytrach yn grŵp cyfeillgarwch a all gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gyd-bleserus.

Mae Grŵp Menywod Enfys / Rainbow Women’s Group yn trefnu teithiau cerdded, ioga a sesiynau aerobeg i ferched nad ydynt ar hyn o bryd yn gwneud dim neu fawr ddim o ymarfer ac sy’n dueddol o ddioddef oddi wrth glefyd siwgr, pwysedd gwaed uchel, iselder ysbryd a chlefydau eraill y mae modd eu hatal oherwydd diffyg gweithgareddau corfforol. Mae’r sesiynau am ddim, maent yn sensitif i anghenion merched o bob cefndir, ac mae merched o amrywiol oedrannau, diwylliannau ac ethnigrwydd yn eu mynychu â brwdfrydedd.

11


SGWRS HANFODOL: TRELÁI, CAERDYDD Mae Trelái yn gymuned o 8,600 o bobl sydd wedi’i lleoli yng ngorllewin Caerdydd, oddeutu pedair milltir o ganol y ddinas. Roedd ein sgwrs gyda phobl Trelái ar ffurf grŵp ffocws gyda thrigolion lleol, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol, ochr yn ochr â’n harolwg cymunedol. Mae’r adborth a’r sylwadau a roddir yma yn adlewyrchu barn a safbwyntiau pobl leol. Rhydd hyn giplun o’r hyn y gwnaethant ei ddweud wrthym am fywyd cymunedol lle maent yn byw – dyma sut brofiad ydyw iddynt hwy.

MATERION O FLAENORIAETH Iechyd Mae pobl yn Nhrelái yn bryderus bod gwasanaethau iechyd lleol yn dioddef oherwydd y baich gwaith sydd arnynt a bod yna lai o ymwelwyr iechyd. Maent yn teimlo y dylid darparu mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’r ddarpariaeth gofal iechyd lleol. Rhoes trigolion wybod am broblemau â gordewdra ymysg plant, a arweiniodd at weld rhai plant yn cael eu bwlio. Er bod yna wasanaeth galw heibio lleol o ran iechyd meddwl ar ddydd Iau, cred rhai y dylai fod yna fwy o ddarpariaeth fel y gall pobl gael y gefnogaeth pan fydd arnynt ei hangen.

12

Addysg a Dysgu Mae yna gryn barch tuag at ysgolion cynradd ond mae’r ysgol uwchradd leol yn cau, sy’n golygu y bydd yn rhaid i blant newid i ‘ysgol fawr’ newydd sydd ymhellach i ffwrdd. Mae rhieni’n pryderu am amseroedd teithio a dosbarthiadau mwy eu maint, yn ogystal â’r effaith y caiff cau ysgol ar fywyd cymunedol. Mae yna deimlad cryf y bydd angen i bobl ifanc gael gwell addysg am sgiliau bywyd pwysig, a bod gormod o bobl yn mynd i ddyled neu’n gysylltiedig â chyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cyflogaeth a’r Economi Lleol Mae llawer o bobl leol yn gweithio, ond nid o angenrheidrwydd yn teimlo buddion gwaith. Mae tlodi i bobl sy’n gweithio yn broblem, ac mae yna feddylfryd cynyddol nad yw hi’n talu gweithio. Cred trigolion nad oes yna lawer o waith yn lleol, ac o’r gwaith sy’n bodoli, yn aml mae’n waith ‘dim oriau’ neu’n gyflogaeth isafswm cyflog. Mae gan lawer o’r swyddi hyn hefyd gymalau detholrwydd sy’n golygu nad oes yna sicrwydd o waith, ac nid yw gweithwyr yn gallu ategu’u horiau drwy waith ychwanegol. Mae gan Drelái rai o’r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd yng Nghymru, ac mae yna ymdeimlad bod diweithdra wedi mynd yn fater sy’n mynd o genhedlaeth i genhedlaeth.


Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth Mae yna rai rhaglenni lleol ardderchog sy’n gwneud mynediad at gelfyddydau a diwylliant yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Er enghraifft, mae’r rhaglen Sherman 5, a ariannir gan Sefydliad Paul Hamlyn, wedi profi’n boblogaidd gyda thrigolion lleol ac wedi darparu mynediad am ddim a chymorthdaledig at berfformiadau yn Theatr y Sherman. Cydnebydd y rhaglen hefyd y gall trafnidiaeth fod yn rhwystr gwirioneddol rhag mynediad, ac felly darperir trafnidiaeth wedi’i threfnu am ddim hefyd.

Yr Amgylchedd Mae newidiadau’r Cyngor o ran casglu ysbwriel yn amhoblogaidd yn y cyfnod cynnar hwn, ac mae yna bryder y bydd hyn yn arwain at fwy o ysbwriel ar y strydoedd. Mae yna deimlad y gall y Cyngor wneud mwy i ofalu am barciau lleol. Fodd bynnag, mae yna rai mudiadau gwirfoddol ardderchog sy’n ymfalchïo go iawn mewn gofalu am eu cymuned ac sy’n gweithio’n galed i gadw ardaloedd gwyrddion Trelái yn lân, yn ddeniadol ac yn hygyrch i breswylwyr. Un o’r dyheadau a fynegwyd gan breswylwyr Trelái oedd cael parc â mwy o gyfleusterau ac amwynderau i fod cystal â rhai sydd gan gymunedau gerllaw, megis Victoria Park.

Cymunedau Cryfion Mae’n amlwg bod pobl yn falch o fyw yn Nhrelái, ac mae gan y lle ysbryd cymunedol rhagorol. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth

enfawr wrth redeg timau pêl-droed i blant iau, yn cynnal a chadw parciau, yn trefnu tripiau diwrnod i drigolion hŷn ac yn trefnu digwyddiadau cymunedol, megis yr ELYmpics blynyddol, sy’n dod â phlant ynghyd o holl ysgolion cynradd Trelái ar gyfer diwrnod chwaraeon llawn hwyl.

‘dau fws’ - os yw’n cymryd cymaint â hynny o ymdrech i fynd i rywle, nid yw’n werth o. I bobl ar yr isafswm cyflog, mae teithio’n waharddol - mae’n eich digalonni pan gollwch eich awr gyntaf o dâl o orfod talu tocyn y bws, yn enwedig pan fo llawer o bobl leol ddim ond yn gweithio oriau rhan amser.

Anfantais ac Allgáu Tai Mae trigolion lleol yn bryderus am y nifer o bobl sy’n profi tlodi mewn gwaith, yn gweithio oriau meithion ac yn cael fawr ddim ohono. Yn ystadegol, mae Trelái yn dangos graddau isel pan ddaw hi’n fater o gyflogaeth, addysg ac iechyd ac mae llawer o’r materion a godwyd yn gydberthnasol. Mae’r gymuned wedi bod â rôl ganolog o ran gweddnewid canfyddiadau allanol o Drelái a hunanganfyddiadau pobl ynglŷn â’r hyn y gallant ei gyflawni. Er bod pobl yn Nhrelái yn ymwybodol o’r problemau cymdeithasol ac economaidd yn eu cymuned, nid ydynt yn ‘byw’r ystadegau’. Mae yna bositifrwydd go iawn ynglŷn â newid y gymuned er y gwell drwy gael pobl i fod yn weithredol ac i gymryd rhan, magu hyder a goresgyn problemau lleol gyda’i gilydd.

Trafnidiaeth Nid yw Trelái yn ardal wledig o bell ffordd, a dengys ystadegau fod ganddi fynediad da at wasanaethau. Eto i gyd, teimla pobl yn Nhrelái eu bod yn rhannu rhai o’r un problemau ag ardaloedd gwledig pan ddaw hi’n fater o drafnidiaeth, yn enwedig yn ymwneud â’r gost o deithio. Tra bod cystadleuaeth yn ddiweddar wedi arwain at ostyngiad ym mhrisiau bysiau, mae yna feddylfryd

Mae pobl nad oes ganddynt blant yn flaenoriaeth isel i gael tŷ ac mae ‘byw gyda chyfeillion’ yn broblem guddiedig. Mae ansicrwydd tai yn bryder gwirioneddol ymysg trigolion Trelái, ac fe rannodd rhai eu hanesion am ofni digartrefedd a’r effaith a gâi hyn ar eu lles meddyliol. Yn gynyddol, gorfodir pobl i rentu’n breifat, sy’n ddrutach ac y gall roi pwysau gwirioneddol ar unigolion a theuluoedd sydd ar incymau isel.

Troseddu a Diogelwch Mae yna ganfyddiad uchel o droseddau yn lleol, ond teimlad bod cymunedau eraill yng Nghaerdydd yn gwneud yn waeth. Rhoes rhai o drigolion hŷn wybod bod arnynt ofn bod allan o’u cartrefi yn hwyr yn y nos. Er bod yna berthynas dda â Swyddogion Diogelwch Cymunedol lleol yr Heddlu, mae’r ffaith bod clybiau ieuenctid a ariannir gan y Cyngor wedi cau wedi arwain at fwy o blant ar y strydoedd, ac mae yna bryder y bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwaethygu o ganlyniad. Roedd yna deimlad bod Trelái yn gymuned oddefgar a bod pobl yn derbyn pethau nad ydynt yn eu hoffi oherwydd eu bod wedi tyfu’n oedolion â’r sefyllfa ac wedi dod i arfer â hi.

13


Mae Troseddu a Diogelwch wedi gwella llwythi oherwydd y gwaith caled a’r ymrwymiad gan aelodau’r gymuned

SUT MAE’R GYMUNED YN GWNEUD GWAHANIAETH

Mae Trelái yn gymuned ffyniannus sydd â diwylliant rhagorol o weithredu cymunedol. Un o ganolbwyntiau’r gymuned yw Action Ely & Caerau (ACE), sef yr elusen datblygu cymunedol lleol, sy’n fan i bobl ddod ynghyd i ddysgu, i gymdeithasu ac i wirfoddoli. Mae menter bancio amser ACE wedi bod yn neilltuol o lwyddiannus. Ffurfiwyd Ely Garden Villagers gan drigolion lleol a ddaeth ynghyd i wrthwynebu datblygu’u cae chwarae lleol. Ar ôl ymgyrch lwyddiannus, mae’r grŵp yn awr yn rhedeg timau pêl-droed iau ar y caeau chwarae ac mae’n trefnu diwrnodau llawn hwyl i deuluoedd, codi ysbwriel a noswaith goelcerth flynyddol. I bobl hŷn yn Nhrelái, mae’r grŵp cymunedol Liberty yn darparu achubiaeth hanfodol, gan leihau arwahanrwydd drwy gynnal tripiau undydd a chyfleoedd i gymdeithasu ac i fagu cyfeillgarwch.

Mae trigolion Trelái yn ymfalchïo go iawn mewn cynnal eu hamgylchedd lleol. Mae Friends of Mill Park yn grŵp o wirfoddolwyr a weithiai’n ddiflino i adnewyddu parc lleol a’i ddychwelyd er defnydd y gymuned. Mae o bellach yn fan i blant a theuluoedd ymlacio a chwarae. Mae’r gwirfoddolwyr yn cynnal a chadw’r parc drwy gydol y flwyddyn gan annog plant i godi ysbwriel, i arddio ac i ymwneud â phrosiectau celfyddydol

Astudiaeth Achos Mae Making Music Changing Lives yn elusen arloesol sy’n dod â cherddoriaeth i blant Trelái. Ac yntau wedi’i sefydlu gan y rheithor lleol, a chyn-feiolinydd proffesiynol, sef y Parchedig Jan Gould, seilir y prosiect ar fodel yr El Sistema, a weddnewidiodd fywydau plant y stryd yn Venezuela. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gynnig y cyfle i blant ddysgu chwarae offeryn cerdd, bod yn rhan o gerddorfa gymunedol a phrofi perfformiadau cerddoriaeth fyw yn rheolaidd. Mae’r myfyrwyr o’r coleg yn gweithredu fel mentoriaid cerddorol i’r plant, gan eu helpu i fagu hyder, ffocws ac uchelgais. Dyfarnwyd Gwobr Points of Light i Jan yn ddiweddar gan y Prif Weinidog fel cydnabyddiaeth o’i gwaith i sefydlu’r elusen arloesol hon.

12 14


“Rydym yn falch bod gan Drelái ei cherddorfa ieuenctid ei hun.”

“Mae Troseddu a Diogelwch wedi gwella llwythi oherwydd y gwaith caled a’r ymrwymiad gan aelodau’r gymuned.”

15 13


NATUR WLEDIG Mae un o bob tri o bobl Cymru yn byw mewn cymunedau gwledig. Mae Powys, yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru yn ôl maint yr ardal, yn ymestyn dros ardal sy’n 25% o ehangdir Cymru ond mae ganddi ddim ond 4% o gyfanswm y boblogaeth. Er bod harddwch naturiol a llonyddwch cefn gwlad Cymru yn un o brif asedau’n cenedl, mae natur wledig ynddi’i hun hefyd yn golygu problemau i bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn. Mae enillion ar gyfartaledd yn is nag mewn ardaloedd trefol ac mae prisiau tai yn llai fforddiadwy. Mae trafnidiaeth, mynediad at wasanaethau a gwaith, ac arwahanrwydd cymdeithasol hefyd yn faterion allweddol, fel yw’r ffaith bod llawer o’r bobl sydd ag anghenion dwys yn aml yn ‘guddiedig’ oddi wrth ystadegau swyddogol. Mae adnabod y rheiny y mae mwyaf o angen cefnogaeth arnynt yn golygu heriau ychwanegol i elusennau a grwpiau cymunedol sy’n gweithredu mewn ardaloedd gwledig.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Natur Wledig yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

Mae

85% o Gymru yn gefn gwlad. Mae gan

49% 43%

o gymunedau gwledig fodd o gael at siop bob peth.

Mae gan

o gymunedau gwledig swyddfa bost

Roedd

46%

Mae gan

67% o awdurdodau lleol gwledig lefelau incwm cyfartalog sy’n is na’r cyfartaledd yng Nghymru.

YM MHOWYS

o bobl mewn ardaloedd gwledig yn graddio trafnidiaeth gyhoeddus fel ‘da’ O’r holl faterion gwledig, trafnidiaeth gyhoeddus yw’r testun y mae pobl yn pryderu fwyaf amdano.

y mae’r enillion amser llawn cyfartalog isaf yng Nghymru, sef

£472 YR WYTHNOS

Nid oes gan

17% o gymunedau gwledig wasanaeth bysiau unrhyw ddiwrnod o’r wythnos

“Mae mynediad yn dibynnu ar y gallu i ddal bws. Mae mynediad at bob gwasanaeth yng nghanolbarth Cymru yn wael, yn anodd ac yn fylchog. Camwahaniaethir yn ein herbyn oherwydd ein lleoliad daearyddol a phoblogaeth mor denau” Atebydd i Arolwg Arwyddion Hanfodol

16

GWARIR £425 MILIWN

GAN LYWODRAETH CYMRU A BT I ROI’R RHAGLEN BAND EANG AR WAITH FESUL CAM I 96% O GYMRU ERBYN 2016.


Mynediad at wasanaethau yng Nghymru Cyfartaledd Cymru Conwy Sir Ddinbych Sir Fynwy Sir Gaerfyrddin Gwynedd Ynys Môn Sir Benfro Ceredigion Powys

Dengys y graff hwn yr awdurdodau lleol â’r gyfradd uchaf o ardaloedd bychain yn y deg y cant mwyaf amddifadus yng Nghymru o ran mynediad at wasanaethau. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru o thua 1,600 o bobl. Mae wedi’i gynllunio i nodi’r ardaloedd bychain hynny lle mae yna’r crynodiadau uchaf o amryw o wahanol fathau o amddifadedd. Mae’r parth mynediad at wasanaethau yn mesur amseroedd teithio at 9 o wasanaethau, a ystyrir yn nodweddiadol yn angenrheidiol i fyw o ddydd i ddydd, gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat a thrafnidiaeth gyhoeddus.

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed mewn cymunedau gwledig yn derbyn gofal a chefnogaeth Mae gwasanaethau allgymorth a weithredir gan elusennau’n effeithiol wrth nodi’r anghenion, sydd yn aml yn guddiedig, mewn cymunedau gwledig ac maent yn cyflawni gwasanaethau allweddol i’r henoed, gofalwyr ifainc, pobl â phroblemau iechyd meddwl a’r rheiny sy’n profi problemau ag alcohol a chyffuriau.

Helpu pobl i gael at wasanaethau allweddol I bobl nad oes ganddynt eu car eu hunain, gall cael at wasanaethau allweddol fod yn broblem wirioneddol, yn enwedig i bobl sydd ag anableddau a phobl hŷn. Mae mentrau trafnidiaeth a weithredir gan y gymuned yn ffordd effeithiol o sicrhau y gall pobl ymweld ag ysbytai a meddygon teulu, yn ogystal â chyfranogi o weithgareddau hamdden ac adloniant.

Datblygu cymunedau gwledig cryfach Drwy gefnogi mentrau cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd ac sy’n helpu cymunedau i ffynnu. Mae neuaddau cymunedol, gwyliau pentrefi, cylchlythyrau a gwefannau lleol yn galluogi pobl i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol ac i wybod beth sy’n digwydd.

Cefnogi economi cefn gwlad Gan fod llawer o wasanaethau gwledig wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf, dangosodd siopau, tafarndai a llyfrgelloedd a weithredir gan y gymuned y gwytnwch a’r mentergarwch sydd gan wirfoddolwyr lleol wrth iddynt sicrhau bod gwasanaethau sy’n hanfodol i wead bywyd cymunedol yn cael eu cynnal.

Cwmni Nod Glas Cyf, Gwynedd

O Ddrws I Ddrws, Pen Llŷn

Mae pentrefi bychain, gwledig yn gefndir i fywydau llawer o bobl yng Nghymru, ond fe all lleoliad paradwysaidd beri heriau dyddiol. Mae Cwmni Nod Glas Cyf, a leolir yn Ninas Mawddwy yng Ngwynedd, wedi adnewyddu adeilad segur i sefydlu canolfan gymunedol mewn pentref lle mae nifer o siopau ac amwynderau wedi’u cau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r fenter gymdeithasol hon wedi anadlu bywyd newydd i hen siop bentref sydd yn awr yn cynnwys caffi, cyfleusterau swyddfa, dau fflat bychan ar gyfer preswylwyr lleol a salon trin gwallt. Mae gan y ganolfan gymunedol newydd hefyd oriel ar gyfer arlunwyr a chynhyrchwyr crefftau lleol i arddangos ac i werthu’u gwaith.

Sefydlwyd y prosiect lleol hwn a werthfawrogir yn fawr mewn ymateb i arolwg o drigolion oedrannus ym Mhen Llŷn, a nododd drafnidiaeth fel problem wirioneddol. Prin iawn yw’r drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, a chan hynny mae pobl sy’n byw i ffwrdd o’r llwybrau bysiau hyn, a phobl ag anableddau, yn ei chanfod hi’n anodd teithio,a gall hyn arwain at arwahanrwydd ac at fethu â chyrchu gwasanaethau allweddol. Mae O Ddrws I Ddrws yn cynnal gwasanaeth o ddrws i ddrws ‘ar alw’, sy’n gludiant rhad a hyblyg ar gyfer pobl leol oedrannus a phobl sy’n methu â symud, yn ogystal ag yn wasanaeth trafnidiaeth gwerthfawr i grwpiau gwirfoddol a chymunedol.

17


TROSEDDAU A DIOGELWCH Drwodd a thro, mae yna lai o droseddau yng Nghymru nag yn Lloegr, ond ledled Cymru, mae profiadau pobl o droseddau yn amrywio, yn dibynnu ar ble maent yn byw, gyda chyfraddau troseddu sylweddol is mewn cymunedau gwledig. Mae’r gyfradd droseddu yng Nghaerdydd, er enghraifft, bron deirgwaith yn uwch nag yng Ngheredigion wledig. Mewn rhai cymunedau, mae’r canfyddiad o droseddau’n waeth na’r hyn yr edrydd yr ystadegau, ond gall ofni trosedd, boed yn wirioneddol neu’n dybiedig, gael effaith lesteiriol ar deimladau pobl o ddiogelwch. Mae troseddau treisgar ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr, ond nid yn sylweddol uwch. Credir fod tua 53% o droseddau treisgar yn gysylltiedig ag alcohol. Gydag 8.5% ferched yn rhoi gwybod eu bod wedi bod yn ddioddefwyr trais domestig yn y flwyddyn ddiwethaf, mae ymdrechion arloesol gan elusennau trais domestig Cymru i greu llinell frys ynglŷn â thrais domestig, y gyntaf yn y Deyrnas Unedig, yn mynd i’r afael â mater sydd wedi bod yn mud ferwi ers blynyddoedd ac sydd ond yn awr yn dechrau cael ei herio o ddifri.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Droseddau a Diogelwch yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

NODWYD 1,809 O DROSEDDAU CASINEB MEWN CYFNOD O 12 MIS

58 O DROSEDDAU AM BOB MIL O’R BOBLOGAETH sy’n is na chyfartaledd Cymru a Lloegr o

61 AM BOB MIL O BOBL DROS Y DEGAWD DIWETHAF, MAE CYFANSWM TROSEDDAU WEDI GOSTWNG 43%

2.42

o fyrgleriaethau am bob mil o’r boblogaeth, sy’n is na chyfartaledd Cymru a Lloegr o

3.59

12.44

o droseddau treisgar am bob mil o’r boblogaeth, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr o

12.09

111,243

76%

Roedd 76% yn droseddau casineb tuag at hil

13%

Roedd 13% yn droseddau casineb homoffobig

o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yr adroddwyd amdanynt yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny’n 36 AM BOB 1,000 o’r boblogaeth, yn debyg i’r cyfartaledd cyffredinol am Loegr a Chymru.

8%

Roedd 8% yn droseddau casineb tuag at bobl anabl

GAN FOD Â 47 O DDIGWYDDIADAU AM BOB 1,000 O BOBL

3%

Roedd 3% yn droseddau casineb crefyddol/ffydd

Gwent oedd â’r gyfradd uchaf o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd o unrhyw ardal yr Heddlu.

7,564 – O DANAU BWRIADOL WEDI’U DECHRAU YN 2013-14 ROEDD 56% O’R RHAIN YN DANAU YN YR AWYR AGORED Mewn pythefnos ym mis Ebrill 2015, galwyd ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i 473 o danau glaswellt, y dechreuwyd y rhan fwyaf ohonynt yn fwriadol. 18


Cyfanswm Troseddau am bob 1,000 o’r boblogaeth 100 90 80 70 60 50

Cyfanswm troseddau am bob 1,000 o bobl

40 30 20

Cyfartaledd Cymru

10 0 Blaenau Gwent

Caerdydd

Merthyr Tudful

Casnewydd

Abertawe

Torfaen

Wrecsam

Dengys y graff yr awdurdodau lleol lle mae cyfanswm troseddau am bob mil o bobl yn uwch na chyfartaledd Cymru.

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Cefnogi gwasanaethau ieuenctid i ddifyrru. Prosiectau sy’n rhoi rhywle i bobl ifanc fynd ble y gallant gael hwyl â’u cyfeillion, chwarae chwaraeon, neu fod yn rhan o glwb, cymorth i’w denu oddi ar y strydoedd, a gallant helpu i leihau problem ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans ar amseroedd allweddol.

Galluogi pobl leol i ddatblygu cymunedau cryfach, diogelach. Gall grwpiau Gwarchod Cymdogaeth a mudiadau cymunedol sy’n grymuso pobl i fagu ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth dros fannau cyhoeddus helpu i rwystro troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Helpu cyn-droseddwyr i ailintegreiddio yn y gymuned. Rhaglenni sy’n darparu lletyau, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i helpu i feithrin pobl ac i roi ail gyfle iddynt. Dangosir yn gynyddol fod benthyciadau a grantiau micro-gyllid i helpu pobl i sefydlu’u busnesau eu hunain neu i ddod yn hunangyflogedig yn effeithiol wrth leihau aildroseddu.

Sicrhau bod pobl yn derbyn triniaeth a chymorth ar gyfer eu llwyrddibyniaeth. Mae elusennau sy’n darparu gwasanaethau triniaeth ar gyfer llwyrddibyniaeth yn cydnabod mai tynnu pobl oddi ar gyffuriau ac alcohol dros yr hirdymor yw’r her allweddol. Gall gweithgareddau i ddifyrru fod yn fodd effeithiol o lenwi’r bwlch roedd cyffuriau ac alcohol unwaith wedi’u llenwi ac yn helpu pobl i ddatblygu pwrpas a chyfeiriad newydd mewn bywyd.

Cymorth Menywod Torfaen, Torfaen

Dolen Gymunedol Dyffryn, Casnewydd

A hithau’n gweithredu canolfan alw heibio lle y gall merched sy’n wynebu camdriniaeth yn y cartref alw heibio am sgwrs a chyngor, mae’r elusen hon hefyd yn cynnal dwy loches ac yn rhoi cefnogaeth un i un i dros 1,800 o ferched y flwyddyn. Gan gydnabod mor niweidiol y gall hi fod i blant yn y sefyllfaoedd hyn - yn y byrdymor a’r hirdymor - mae Cymorth Menywod Torfaen yn cynnig cefnogaeth a chwnsela i blant, yn ogystal â rhaglen o weithgareddau yn ystod penwythnosau a gwyliau’r ysgol.

Mae’r elusen datblygu cymunedol hon yn mynd i’r afael ag ymddieithriad ieuenctid gerfydd ei gyrn yn ardal Dyffryn o Gasnewydd. Mae’i chlwb ieuenctid nos Wener yn cynnal gweithdai sy’n rhoi arweiniad a chefnogaeth ar faterion sy’n berthnasol i bobl ifanc, ynghyd â chwaraeon a gweithgareddau eraill sy’n tynnu pobl ifanc oddi ar y strydoedd ar adeg pan fo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf. Gan weithio â’r heddlu lleol, mae’r prosiect wedi helpu i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddatblygu hyder a gallu pobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd gwell a mwy gwybodus.

19


Education & Learning

SGWRS HANFODOL: BRO ABERFFRAW, YNYS MÔN Mae Bro Aberffraw yn fwclis o bentrefi ar ochr ddeheuol wledig Ynys Môn a chanddi boblogaeth o thua 5,000. Roedd ein sgwrs gyda phobl Bro Aberffraw ar ffurf grŵp ffocws gyda thrigolion lleol, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol o bob sector, ochr yn ochr ag arolwg cymunedol. Mae’r adborth a’r sylwadau a roddir yma yn adlewyrchu barn a safbwyntiau pobl leol. Rhydd hyn giplun o’r hyn y gwnaethant ei ddweud wrthym am fywyd cymunedol lle maent yn byw – dyma sut brofiad ydyw iddynt hwy.

MATERION O FLAENORIAETH Addysg a Dysgu Mae cynlluniau i gau nifer o ysgolion cynradd pentrefydd bychain a chreu un ‘ysgol fawr’ yn amhoblogaidd, ac mae pobl leol yn bryderus am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar fywyd cymunedol gan fod gan ysgolion yn aml ail swyddogaeth fel canolfannau cymunedol. Ofnir y collir dosbarthiadau dysgu i oedolion ac yr effeithir ar gyrhaeddiad addysgol – mae’r ysgolion bychain hyn yn cael canlyniadau da.

ac mae trigolion yn canfod nad oes yna fysiau yn y rhan fwyaf o’r gymuned hon ar ôl 6yh. Mae trafnidiaeth yn fater canolog sydd ag effaith ddomino ar lawer o agweddau o fywyd cymunedol ym Mro Aberffraw. Mae’n broblem neilltuol i bobl sy’n mynd i’w gwaith – ac weithiau hyd yn oed i gael eich hun i gyfweliad am swydd – a hefyd i’r rheiny sy’n mynychu apwyntiadau meddygol, gweithgareddau hamdden, addysg bellach a gofal plant.

Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth Natur Wledig a Thrafnidiaeth Mae’r ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus yn dameidiog ac yn ddrud,

20

Oherwydd ei lleoliad gwledig, mae pobl yn gorfod teithio pellteroedd cymharol faith i fynd i ddigwyddiadau

celfyddydol a diwylliannol, er bod yna nosweithiau ffilmiau pentref yn Nwyran, ac mae Sefydliad y Merched Bodorgan wedi cynnal dosbarthiadau peintio. Mae gan yr ardal dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog, ac mae yna deimlad cryf bod angen gwneud mwy o ddefnydd o’r asedau lleol hyn, nid dim ond fel cyfle am addysg a gwaith, ond hefyd i greu mwy o falchder a diddordeb yn y gymuned leol. Mae Llys y Tywysogion Canoloesol yn Llys Rhosyr, y mae’i adfeilion ger Niwbwrch, ar hyn o bryd yn cael ei ail-ddychmygu yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd, a diolch i waith yr elusen Geo Môn, mae unigrywiaeth daeareg Ynys Môn wedi’i chydnabod gan UNESCO.


Anfantais ac Allgáu Er nad oes gan Fro Aberffraw lefelau uchel o dlodi yn ystadegol, mae’r pwysau ar ei banc bwyd gwledig yn peintio darlun gwahanol. Mae llawer o gartrefi yn dibynnu ar olew i’w gwresogi, sy’n ddrutach na nwy, ac fe all roi straen ariannol ar bobl sydd ar incymau isel yn ystod misoedd y gaeaf. Mae rhieni a phobl ifanc yn eu harddegau’n bryderus am y diffyg gweithgareddau a chlybiau y tu allan i’r ysgol i bobl ifanc eu mynychu’n rheolaidd. Mae pobl leol yn gofidio am bobl hŷn sy’n teimlo’n unig, ac am ymdeimlad bod y rheiny sy’n byw ym Mro Aberffraw yn teimlo nad yw gogoniannau naturiol y traethau baneri gleision a choedwigoedd argael iddyn’ nhw rywsut.

Tai a Digartrefedd Mae yna brinder tai cymdeithasol, ac mae hyn yn arwain at lawer o bobl ifanc i adael Ynys Môn i chwilio am waith a thai mewn rhannau eraill o Gymru. Fodd bynnag, llonyddwch Bro Aberffraw yw un o’r rhesymau pam mae pobl yn mwynhau byw yno, a gall gormod o ddatblygiadau tai amharu’n negyddol. Mae gwrthwynebiad lleol i gau’r toiledau cyhoeddus a maes parcio cysylltiedig ym mhentref Niwbwrch, gyda chynllun i adeiladu cartrefi newydd ar y safle, yn enghraifft o mor gymhleth y gall cydbwysedd cynllunio fod.

Troseddu a Diogelwch Mae yna gyfradd droseddu isel ym Mro Aberffraw ac mae gan swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bresenoldeb gweledol yn yr ardal. Mae traffig yn gymharol dawel. Mewn un ardal lle roedd yna broblem â goryrru, ymgyrchodd y gymuned yn llwyddiannus am gyfyngiad cyflymder newydd o 40mya. Mae’r arwydd rhybudd o gyflymder yno bellach wedi torri, serch hynny, ac nid oes yna arian i’w drwsio.

Iechyd Dywed pobl leol fod yna broblem ag yfed o dan oed, a chyplysir hyn â’r sylweddoliad y bydd toriadau i wasanaethau ieuenctid yn gwaethygu’r sefyllfa. Mae cael at wasanaethau iechyd yn broblem i bobl nad oes ganddynt drafnidiaeth breifat, ac mae yna bryder am amseroedd aros am ambiwlans.

Cymunedau Cryfion Mae grwpiau disglair, clybiau a chyfleusterau yn tanategu bywyd cymunedol ym Mro Aberffraw, ond mae prinder trafnidiaeth a chlystyrau o boblogaeth isel yn gwneud y pellteroedd rhwng y rhain yn ffisegol ac yn drosiadol ymhell.

Cyflogaeth a’r Economi Lleol Ynys Môn sydd â’r Gwerth Ychwanegol Crynswth (gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir) gwaethaf o’r holl awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig. Er bod yna raglenni ardderchog wedi bod i ysgogi’r economi lleol, a hynny yn aml wedi’u hariannu â grantiau gan Ewrop a Llywodraeth Cymru, teimla pobl leol nad oes yna ond ychydig o swyddi crefftus ac sy’n talu’n dda, ac maent yn gofidio am ddiffyg dyheadau a chyfleoedd i bobl ifanc. Mae busnesau llai ym Mro Aberffraw, megis Halen Môn a Marram Grass Café, wedi helpu i godi amlygrwydd yr ardal a’r cyfleoedd gwaith i bobl leol.

Yr Amgylchedd Mae gwirfoddolwyr yn helpu â mentrau amgylcheddol mor amrywiol â chynlluniau plannu cymunedol, cynnal a chadw llwybr arfordirol Cymru, a diogelu gwiwerod cochion. Mae ynni adnewyddadwy’n cynrychioli cyfle mawr i Fro Aberffraw ac Ynys Môn. Fodd bynnag, nid yw pawb yn gefnogol oherwydd effaith negyddol ganfyddadwy ar harddwch naturiol yr ynys a’r ffaith nad yw’r ynni a gynhyrchir o angenrheidrwydd o fudd uniongyrchol i bobl leol.

21


SUT MAE’R GYMUNED YN GWNEUD GWAHANIAETH

Mae yna ddiwylliant cryf o wirfoddoli ac o helpu cymdogion ym Mro Aberffraw. Ffurfiwyd Criw Niwbwrch Cyf ddeng mlynedd yn ôl i adnewyddu eglwys segur i fod yn ganolfan gymunedol, ac mae wedi parhau i drefnu gweithgareddau hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol yng nghraidd pentref Niwbwrch. Mae ganddi glwb ieuenctid wythnosol, grŵp mamau a phlant bach, mae’n cynnal cyfarfodydd Sefydliad y Merched, ac mae’n parhau i fod yn gysylltiedig â phob agwedd o fywyd cymunedol. Mae Malltraeth Ymlaen hefyd yn fudiad cymunedol disglair sy’n tynnu ynghyd ei gymunedau gwledig gwasgaredig, bychain , gan rannu ynni, angerdd a chyfleusterau i bawb.

Mae pobl yn rhoi lifftiau ar gyfer apwyntiadau ysbyty, maent yn cynnal clybiau chwaraeon, ac yn trefnu dathliadau a digwyddiadau cymunedol. Yn yr ardal wledig hon, mae’r canolfannau gweithgareddau a chyfleusterau y mae’r ysgolion lleol yn eu darparu yn neilltuol o bwysig. Mae pobl yn gofidio am sut y gallant wneud iawn am hyn yn wyneb cynlluniau i gau ysgolion, a chydnabyddant hefyd yr angen i gael hyd yn oed mwy o bobl (a phobl hyd yn oed yn fwy amrywiol) i gymryd rhan, i ymuno â’r hyn sy’n digwydd, ac i arwain gweithgareddau cymunedol.

Astudiaeth Achos Mae prosiect cymunedol newydd, Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr, yn gweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cynllun i weithio ar ardal 50 erw o Goedwig Niwbwrch. Ymunodd dau gant o bobl a saith o fudiadau â’i ddiwrnod agored cymunedol ym mis Awst i gofrestru fel gwirfoddolwyr, i gael profiad o Ysgol Goedwig ar waith, i ddysgu am Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch ac i gymryd rhan mewn rheolaeth o goetir draddodiadol. Ac yntau’n awyddus i fagu ymdeimlad o hunaniaeth a pherchnogaeth am yr ardal, mae’n sicrhau y gofalir yn dda am fywyd gwyllt a choetiroedd y goedwig a’u bod yn hygyrch i’r gymuned leol ac i ymwelwyr, fel ei gilydd. Mae mentrau ifainc yn cynnwys archwilio menter llogi beiciau yn Niwbwrch, a datblygu sylfaen gref o wirfoddolwyr i gynnal treftadaeth naturiol unigryw’r goedwig.

22


“Os na wyddoch fod rhywbeth yn digwydd, neu os na allwch gyrraedd yno, yna ni allwch gymryd rhan.”

23


9%

ADDYSG A DYSGU Dengys yr arolwg rhyngwladol diweddaraf o safonau addysg bod perfformiad yng Nghymru mewn pynciau craidd yn colli tir o’u cymharu â chenhedloedd eraill, a bod plant yn tangyflawni o’u cymharu â’u cyfoedion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae codi lefelau cyrhaeddiad yn hanfodol ond mae hefyd yn bwysig bod pobl ifanc yn datblygu deallusrwydd emosiynol ac ieithyddol, a bod ganddynt yr hyder a’r cyfleoedd i ddysgu mewn sefyllfaoedd teuluol a chymunedol, hefyd. Mae clybiau ieuenctid a gwasanaethau galw heibio yn gwneud gwaith pwysig i helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, yn enwedig yn ymwneud â dyled, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau. Ledled Cymru, nid yw un o bob pump o bobl ifanc 19-24 oed mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, sy’n uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Mae cyfleoedd dysgu gydol oes yn cymorth oedolion sy’n brin o sgiliau a chymwysterau sylfaenol, pobl hŷn sy’n cael eu hallgáu oherwydd nad oes ganddynt sgiliau digidol, ac maent yn hyrwyddo sgiliau sy’n amrywio o gymorth cyntaf ac ieithoedd i hylendid bwyd a chynnal a chadw gerddi. Mae’n hanfodol y gwerthfawrogir dysgu gydol oes. Ni ddylid anwybyddu oedolion sy’n brin o sgiliau a chymwysterau sylfaenol, na phobl hŷn sy’n cael eu hallgáu oherwydd nad oes ganddynt sgiliau digidol.

o oedolion yng Nghymru unrhyw gymwysterau o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 8%

10.9%

Mae 20.7% % o bobl ifanc 19-24 mlwydd oed yn NEET

36%

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Addysg a Dysgu yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

Enillodd

55.4%

o blant un ar bymtheg oed 5 neu fwy o gymwysterau TGAU A-C (neu gyfwerth) yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg yn 2014.

51.4% YN FECHGYN 59.7% YN ENETHOD

24

Nid yw 10.9% o bobl ifanc 16-18 mlwydd oed mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET)

Mae 36% o oedolion Cymru yn meddu ar gymwysterau Gradd (neu gyfwerth) o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 38%

Mae gan 12% o oedolion ond sgiliau llythrennedd lefel mynediad neu is na hynny

51%

20.7%

12%

Mae gan 51% o oedolion ond sgiliau rhifedd lefel mynediad neu is na hynny


Awdurdodau lleol sy’n is na chyfartaledd Cymru yng Nghyfnod Allweddol 4 Lefel 2 (Cyfwerth â 5 cymhwyster TGAU A-C mewn Mathemateg a Saesneg) 60

Cyfartaledd Cymru

% o fyfyrwyr sy’n cyrraedd targed ym mhob awdurdod lleol

50

% 40

30

Ynys Môn

Wrecsam

Sir Benfro

Pen-y-bont ar Ogwr

Rhondda Cynon Taf

Merthyr Tudful

Caerdydd

Blaenau Gwent

Tor-faen

Casnewydd

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Cefnogi gweithgareddau allgyrsiol sy’n magu hyder ac yn codi dyheadau. Gall cael plant i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol megis cerddorfeydd, timau chwaraeon a chlybiau ar ôl oriau ysgol ddarparu profiad hanfodol o ‘addysg y tu hwnt i giât yr ysgol’, a all wella ffocws, disgyblaeth a chymhelliant yn yr ystafell ddosbarth. Meithrin rhagoriaeth ac uchelgais. I fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel, gall bwrsariaethau ac ysgoloriaethau wneud y gwahaniaeth rhwng mynd i brifysgol neu beidio. Mae cymorth ariannol, mentora a hyfforddiant yn sicrhau y gellir meithrin doniau chwaraeon a doniau creadigol.

Ymddiriedolaeth Plas Derw, Sir y Fflint Mae Ymddiriedolaeth Plas Derw Cyf, a leolir yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn gweithio ag ysgolion a mudiadau lleol i ddarparu ysgol goedwig ac addysg amgylcheddol i blant, pobl ifanc ac oedolion difreintiedig. Gan gynnal ystod o wahanol raglenni, mae’r cwmni elusennol yn annog cymdeithasgarwch drwy weithgareddau llawn hwyl sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a dealltwriaeth o’r byd naturiol lleol a byd-eang. Gan weithio ag ysgolion ledled Sir y Fflint, mae’r grŵp hefyd yn cynnal ysgol arfordirol a sesiynau dysgu i deuluoedd, gan ddatblygu gwaith tîm a hyrwyddo dysgu y tu allan i oriau ysgol.

Annog dysgu gydol oes a helpu pobl sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur. Mae ariannu prosiectau cymunedol sy’n datblygu llythrennedd, rhifedd, Technoleg Gwybodaeth a sgiliau galwedigaethol hefyd o fudd i’r teuluoedd a’r cymunedau sy’n cyd-gerdded â phobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith, gofalwyr, cyn-droseddwyr, rhaglenni sy’n lleihau allgáu digidol i bobl hŷn, ac oedolion sydd ag anghenion o ran cymorth iechyd corfforol a meddyliol. Sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu sgiliau bywyd allweddol. Mae clybiau ar ôl oriau ysgol i blant a grwpiau galw heibio i ieuenctid yn neilltuol o effeithiol i gael plant a phobl ifanc oddi ar y strydoedd ac i mewn i amgylchedd diogel lle y gallant gael hwyl â’u cyfeillion, a dysgu drwy chwarae.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Gwirfoddolwyr Digidol, Torfaen Mae Cwmni Buddiant Cymunedol Digital Volunteers yn darparu clybiau codio ar ôl ysgol i glwstwr o bedair o ysgolion lle, ar gyfartaledd, mae 31% o blant yn derbyn prydau bwyd ysgol am ddim. Mewn partneriaeth â thîm Cynhwysiant Digidol Cymunedau yn Gyntaf Torfaen, a chyda chefnogaeth Clwb Codio’r DU a STEMNET, mae’r cwmni’n cynnal sesiynau sgiliau digidol i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau cyfrifiadurol a’r hyder sydd eu hangen i ragori yn eu hastudiaethau ac i ddechrau ar waith medrus ar ôl eu blynyddoedd ysgol.

25


CYMUNEDAU CRYFION Mae gan bobl Cymru ymdeimlad cryf o berthyn i’w cymuned, fel a ddangosir gan ymrwymiad dros 900,000 o wirfoddolwyr sy’n tanategu gwaith dros 33,000 o sefydliadau ac elusennau cymunedol. Fodd bynnag, a chyfleusterau cymunedol fwyfwy dan fygythiad o gael eu cau, mae yna gwestiynau am yr effaith y gellir ei chael ar allu pobl i gymryd rhan yn ystyrlon mewn bywyd cymunedol. Mae yna bwysau ychwanegol ar wirfoddolwyr i fod â mwy o rôl yn y gwaith o gyflenwi gwasanaethau cymunedol ac mae yna ddisgwyliad cynyddol ar ddyngarwch i ‘lenwi’r bylchau’ ac i danategu cyfleusterau lleol megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a gwasanaethau ieuenctid.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio Cryfder Cymunedau yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

Cred

79%

fod pobl leol yn eu hardal sydd o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda â’i gilydd

Rhydd

60%

o bobl i elusen, sef mwy nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig

33,000

nifer y mudiadau cymunedol ac elusennau

ledled y genedl...un i bob 90 o bobl sy’n byw yng Nghymru!

66%

a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2015

42%

a bleidleisiodd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 Cytuna

79%

% fod pobl yn eu hardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth

36%

a bleidleisiodd yn etholiad y cynghorau lleol yn 2012 Mae

82%

o bobl yn teimlo’u bod yn perthyn i’w hardal leol, gostyngiad o 85% ers y flwyddyn flaenorol 26 4

Mae

931,000

o bobl yn gwirfoddoli neu’n helpu mewn sefydliadau cymunedol.


Dod â chymunedau ynghyd drwy chwarae Cyd-gerddai rhaglen ddeg oed Ymddiriedolaeth Cyfran Deg, a reolir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, â phobl leol i gryfhau cymunedau ar Ynys Môn drwy chwarae. Roedd gan y rhaglen banel o drigolion lleol a wirfoddolodd eu hamser i gynghori ar gynllunio, blaenoriaethau a rhoi grantiau. Creodd y buddsoddiad cyfalaf hwn bum ‘maes chwarae mawr’ ledled yr ynys, gan ddod â chymunedau ynghyd ac atgyfnerthu gwerth a llawenydd chwarae.

“Mae’r adnoddau lleol hyn a chyfraniad y gymuned ehangach wedi bod o gymorth mawr i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.” - Heddwas lleol.

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH

Pwysigrwydd cyfleusterau cymunedol ar gyfer magu ymdeimlad o berthyn Casgliad allweddol a ddeilliodd o’r adroddiad ‘Y Gymru a Garem’, a gyhoeddwyd yn 2015, oedd: “Mae ar Genedlaethau’r Dyfodol angen cymunedau ffyniannus wedi’u seilio ar ymdeimlad cryf o le”. Ledled Cymru, mae canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, canolfannau celfyddydol, toiledau a chlybiau ieuenctid yn cau neu o dan fygythiad o gael eu cau, ac mae hyn wedi arwain at fwy o bwysau ar wirfoddolwyr a dyngarwch, a bydd yn effeithio ar allu pobl leol i gymryd rhan yn ystyrlon mewn bywyd cymunedol.

“Mae canolfannau cymunedol a chanolfannau dydd yn bwysig i bobl hŷn ac i eraill. Mannau yw’r rhain lle y gall pobl hŷn gymdeithasu, cynnal gweithgareddau, dechrau ar gyfleoedd dysgu a gwirfoddoli. Maent yn chwarae rhan anhepgor i oresgyn arwahanrwydd cymdeithasol ymysg pobl hŷn” - Older People’s Commissioner for Wales

Darparu cyfleoedd i bobl gymryd mwy o ran mewn bywyd cymunedol. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn amcangyfrif bod yna 211 miliwn o oriau o amser gwirfoddoli wedi’i roi bob blwyddyn, sydd â gwerth ariannol o £2.2 biliwn neu 4.6% o Gynnyrch Domestig Gros Cymru. Mae ariannu costau gwirfoddolwyr, canolfannau cymunedol, digwyddiadau teuluol a chymunedol a chlybiau lleol i gyd yn ffyrdd o gael pobl leol i fod yn weithgar ac yn frwdfrydig.

Meithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth o fewn cymunedau drwy gefnogi prosiectau sy’n dod â phobl ynghyd i ymateb i faterion lleol, megis grwpiau Gwarchod Cymdogaeth, cerddorfeydd a chorau cymunedol, codi ysbwriel, cyfeillion grwpiau parciau a sefydliadau datblygu cymunedau.

Cyllido gweithgareddau cymunedol llawr gwlad sy’n mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae clybiau pobl hŷn a phrosiectau cyfeillachu yn ffyrdd ardderchog o leihau unigrwydd ac o alluogi pobl hŷn i gadw’n heini ac i gael hwyl. Mae gweithgareddau chwaraeon i ddifyrru a chlybiau ieuenctid yn ffyrdd y profwyd eu bod yn gweithio o gael pobl ifanc oddi ar y strydoedd ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol sy’n datblygu hyder a hunan-barch gan feithrin ymdeimlad o falchder yn eu cymuned ac mae’n arwain at ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cyfeillion Gerddi Pentre, Caerdydd Ers blynyddoedd lawer, roedd Gerddi Pentre yn fan gwyrdd adfeiliedig nas defnyddiwyd rhyw lawer yn ardal Grangetown o Gaerdydd. Newidiodd gwirfoddolwyr lleol hynny drwy ddod â chymdogion ynghyd i weddnewid y parc i fod yn fan gwyrdd y gall pawb ei fwynhau, gan adfer ymdeimlad o falchder yn y gymuned. Cafwyd gwared ag ysbwriel, baw cŵn a graffiti ac yn awr gall teuluoedd o bob ffydd a chefndiroedd uno drwy sesiynau plannu a chwarae a gynhelir gan wirfoddolwyr.

Grŵp Neuadd Les Gymunedol Beaufort Hill, Blaenau Gwent Ar ôl ymgyrch lwyddiannus i wrthwynebu cau eu neuadd gymunedol, ni wastraffodd trigolion lleol amser cyn gweddnewid y neuadd i fod yn lle a allai ddod â’r gymuned gyfan ynghyd. Cynhelir ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau yn awr o’r neuadd, yn cynnwys grŵp mamau a phlant bach, sesiwn ddawnsio i oedolion a phlant, a chlwb crefftau. Mae dosbarth ymarfer a chlwb cinio i bobl dros 50 oed yn helpu i leihau unigrwydd ymysg pobl hŷn yn y gymuned.

27 5


GWAITH A’R ECONOMI LLEOL Mae economi Cymru wedi newid yn sylweddol ers y dyddiau pan oedd yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol. Heddiw, mae gan lawer o gymunedau yng Nghymru rai o’r lefelau uchaf o ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig. Mae economi Cymru yn economi cyflogau isel ac mae’r wlad yn llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig o ran gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n ei chynhyrchu. Un o’r heriau allweddol yw hybu ffyniant drwy ostwng y bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU a denu mwy o ddiwydiannau a swyddi sgiliau uchel. Mae diweithdra, contractau dim oriau, a thlodi ymysg pobl sy’n gweithio yn heriau sy’n effeithio ar iechyd a lles, tlodi ymysg plant a chyrhaeddiad addysgol.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Waith a Chyflogaeth fel “D, Nid yw pethau’n gweithio’n dda”; ac Economi Lleol fel “C, mae’r sefyllfa’n iawn”.

£537

yw’r enillion llawnamser cyfartalog yr wythnos yng Nghymru

£83 yn is na chyfartaledd y DU o £620 Mae enillion cyfartalog yng Nghaerdydd yn 22% yn uwch nag enillion cyfartalog ym Mhowys

9.1%

Cymru sydd â’r gyfradd isaf o fusnesau’n cau bob blwyddyn yn y DU

£16,893 y Gwerth Ychwanegol Gros (gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir yng Nghymru)

pen yng Nghymru yw

72.2%

o’r cyfartaledd Prydeinig, a’r isaf o holl genhedloedd y Deyrnas Unedig ac is nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr

A hithau â 48.6% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig, gan Ynys Môn y mae’r Gwerth Ychwanegol Gros lleiaf yn y DU

5.9%

y ganran o bobl sy’n ddiwaith yng Nghymru, ychydig yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 5.6%

18.9%

o bobl ifanc 16-24 oed yn ddiwaith, uwch na’r cyfartaledd Prydeinig o

16.5% 21.2%

yw’r gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) uwch na chyfartaledd y DU o 18.6%. Castell Nedd Port Talbot (25.5%) sydd â’r gyfradd uchaf o a nweithgarwch economaidd; Powys (15.8%) sydd â’r gyfradd leiaf

12.8% SY’N HAWLIO BUDD-DALIADAU DIWEITHDRA, CANRAN UWCH O BOBL NAG YN LLOEGR A’R ALBAN. DIM OND YNG NGOGLEDD-DDWYRAIN LLOEGR Y MAE’R GANRAN YN UWCH. 28


Anweithgarwch economaidd – awdurdodau lleol sydd â ffigurau sy’n uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru. Cyfartaledd Cymru

30

Awdurdod Lleol

25 20 15 10 5 0 Blaenau Gwent

Pen-y-bont ar Ogwr

Caerffili

Sir Gaerfyrddin

Conwy

Sir Ddinbych

Sir Fflint

Merthyr Castell-nedd Rhondda Tudful Port Talbot Cynon Taf

Tor-faen

Dengys y graff yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â lefelau o anweithgarwch economaidd sy’n uwch na chyfartaledd Cymru ar yr 31ain o Fawrth, 2015. Benthycir y data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS),a gynhelir yn chwarterol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Drwy hepgor pobl o oed pensiwn, sydd at ei gilydd wedi ymddeol, ac sydd felly’n economaidd anweithgar, a myfyrwyr, fe rydd hyn fesur mwy priodol o anweithgarwch y gweithlu.

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Cymorth pobl i gael gwaith. Drwy ganolbwyntio ar brosiectau sy’n datblygu sgiliau allweddol a chael gwared â rhwystrau sy’n atal pobl rhag canfod gwaith. Codi hyder a dyheadau Pobl ifanc drwy weithgareddau sy’n mentora ac yn annog uchelgais a menter, datblygu sgiliau arwain, a chymell pobl ifanc i ehangu eu gorwelion.

Mae ariannu gofal plant fforddiadwy. I blant teuluoedd sydd ar incwm isel yn galluogi pobl i gymryd y camau cyntaf hynny at waith neu hyfforddiant. Cefnogi mentrau cymdeithasol. Fel modd o fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol ac amgylcheddol gan gynnig llwybrau hanfodol at hyfforddiant a gwaith ar gyfer pobl sydd fwyaf ar gyrion y farchnad lafur.

Vintage Vision, Torfaen

Sefydliad Moneypenny, Wrecsam

Dyma fenter gymdeithasol greadigol a leolir ym Mlaenafon a rydd y cyfle i ferched ddatblygu hyder, sgiliau newydd a chael at hyfforddiant a phrofiad gwaith, drwy ganfod, trwsio a marchnata dillad o dras a dillad yn null ‘dychwelyd i’r gorffennol’. Mae Vintage Vision yn cynnal gweithdai gwnïo i unigolion, ysgolion a mudiadau cymunedol megis Brownies, Sefydliadau Merched a Chymdeithasau Tai. Drwy’i wefan, lle y gellir prynu dillad ar-lein, mae’r corff wedi denu dilynwyr ledled y DU a thu hwnt, gydag archebion yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. ‘Llynedd, gwirfoddolodd 34 o ferched yn Vintage Vision, a gwnaethant i gyd ennill profiad, gwneud cyfeillion newydd a datblygu’u hyder.

Mae cainc elusennol y gwasanaeth ateb ffôn llwyddiannus, Moneypenny, sef Sefydliad Moneypenny, yn rhoi cyfleoedd newydd mewn bywyd ac mewn gwaith i bobl ddi-waith ifainc. Mae wedi creu hyfforddeiaeth chwe mis gyda rhaglen ddwys o hyfforddiant sgiliau a bywyd, â phob un o’r cyfranogwyr yn ennill profiad gwaith mewn busnesau yn Wrecsam. Mae’r rhaglen yn datblygu ymddiriedaeth, profiadau newydd, hyder ac uchelgais, ac mae’r pum merch ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen beilot yn awr i gyd yn gweithio.

29


SGWRS HANFODOL: RHONDDA GANOL, RHONDDA CYNON TAF Mae Rhondda Ganol yn glwstwr o gymunedau sydd â chyfanrif poblogaeth o 20,000 sydd wedi’u canoli ar Donypandy yng nghymoedd De Cymru. Cynhaliwyd ein sgwrs â phobl Rhondda Ganol ar ffurf grŵp ffocws gydag arweinwyr cymunedol a gwirfoddolwyr lleol, ac arolwg cymunedol. Mae’r adborth a’r sylwadau a roddir yma yn adlewyrchu barn a safbwyntiau pobl leol. Rhydd hyn giplun o’r hyn y gwnaethant ei ddweud wrthym am fywyd cymunedol lle maent yn byw – dyma sut brofiad ydyw iddynt hwy.

MATERION O FLAENORIAETH Anfantais ac Allgáu Mae yna lefelau uchel o dlodi, gyda niferoedd cynyddol o bobl leol yn dibynnu ar fanciau bwyd. Mae yna gynnydd mewn tlodi mewn gwaith hefyd wrth i holl gostau hanfodol bywyd fynd yn drech na chyflogau. Mae pobl yn gofidio am y ffaith bod canolfannau dydd yn cau a sut mae hyn yn effeithio ar bobl â dementia. Nid yw pawb yn gymwys yn Rhondda Ganol ar gyfer cynllun Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru, sy’n darparu gofal plant am ddim yn y blynyddoedd cynnar i deuluoedd yn y cymunedau mwyaf amddifadus.

30

Cyflogaeth a’r Economi Lleol Er gwaethaf gwaith fforwm canol tref, mae stryd fawr Tonypandy wedi dirywio, ac mae llawer o siopau’n weigion. Mae diweithdra yn uchel yn Rhondda Ganol, a dim ond ychydig o gyflogwyr lleol sydd yna. Mae teithio i’r gwaith yn ymarferol, ond mae angen i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus wella a dod yn fwy fforddiadwy.

Iechyd Mae disgwyliadau oes yn is nag mewn rhannau eraill o Gymru, gydag iechyd gwael yn gysylltiedig â’r cenedlaethau o bobl a weithiai yn y pyllau glo a diwydiant trwm. Mae’r ffaith bod pobl ifanc yn camddefnyddio alcohol a sylweddau yn destun pryder, a waethygir gan y ffaith fod yna lawer o ganolfannau ieuenctid wedi cau. Mae traddodiad cryf o glybiau cymdeithasol a chwaraeon, a gwaith gan elusennau lleol, yn helpu i fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol anghydraddoldeb iechyd, sy’n neilltuol o bwysig wrth i gyfraddau gordewdra godi ledled Cymru.


Addysg a Dysgu Mae cynlluniau i gael gwared â’r ysgolion cynradd lleol a chael un ‘ysgol fawr’ newydd yn eu lle yn peri pryder, ac mae yna ymdeimlad nad ymgynghorwyd yn iawn â phobl. Cred trigolion fod cyrhaeddiad hyd at 11 oed yn gyffredinol yn gyffelyb i gymunedau eraill, ond ei fod yn dirywio wedi cyrraedd lefel TGAU.

Natur Wledig a Thrafnidiaeth Er na fernir fod Rhondda Ganol yn ardal wledig, mae yna deimlad cryf bod y gymuned yn dioddef oddi wrth rai o’r problemau sy’n gysylltiedig fel arfer ag ardaloedd gwledig, sef prinder cyfleusterau, band eang gwael a phroblemau trafnidiaeth – yn cynnwys gwasanaethau gwael a chostau uchel.

Boiler House, a’i gweddnewid i fod yn lleoliad celfyddydau cymunedol. Fodd bynnag, mae gwaith wedi bod yn araf ac mae’r egni oedd wrth wraidd hyn wedi diffodd i raddau helaeth.

Tai a Digartrefedd Mae tai’n fforddiadwy o’u cymharu â rhannau eraill o Gymru a Lloegr, ond gan fod llawer o bobl ar incymau isel, fe all hi serch hynny fod yn anodd eich cael eich hun ar yr ysgol dai. Mae yna gynnydd mewn rhentu preifat oherwydd nad oes digon o gyflenwad o dai cymdeithasol. Mae pobl leol yn teimlo bod datblygwyr eiddo’n prynu llaweroedd o eiddo rhad ac wedyn yn mynd yn landlordiaid difater. Mae digartrefedd yn broblem â digonedd o ‘fyw gyda chyfeillion’. Cred trigolion fod elusennau sy’n ymwneud â digartrefedd yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar ddinasoedd nag ar y cymoedd.

Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth Troseddu a Diogelwch Mae bandiau pres yn dal i fod yn boblogaidd, a gwna grwpiau cymunedol waith gwych i symbylu prosiectau celfyddydol megis dosbarthiadau drama, gweithdai crefftau a gwaith coed. Fodd bynnag, mae pobl leol yn pryderu bod yna lai o bobl y dyddiau hyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Mae pobl hefyd yn falch o dreftadaeth ddiwydiannol Rhondda Ganol, ac mae yna fap treftadaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Roedd yna uchelgais gan drigolion lleol i adnewyddu hen orsaf bŵer o’r enw

Teimla pobl leol fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater o bwys mawr. Mae yna ganfyddiad bod troseddu’n waeth nag ydyw mewn gwirionedd ,a’i bod hi’n haws i bobl ifanc gael gafael ar gyffuriau. Mae yna ganmoliaeth i Dîm Diogelwch Cymunedol yr awdurdod lleol, a phryder nad yw’r berthynas â’r heddlu lleol cyn gryfed ag y gallai fod, er, at ei gilydd, bod pobl yn teimlo’n ddiogelach ar y strydoedd nag roeddynt yn arfer â gwneud.

Cymunedau Cryfion Mae yna ymdeimlad cryf o gymdogrwydd, ond mae yna bryder bod cymunedau’n mynd yn fwy darniog wrth i fwy o bobl symud i mewn o’r tu allan i’r ardal ac mae strwythurau teuluol traddodiadol yn newid. Mae pobl leol yn ardystio i’r ffaith ei bod hi’n anodd cael pobl newydd i wirfoddoli, gan ddweud mai’r un bobl yn aml sy’n cefnogi mentrau cymunedol. Gall bancio amser fod mor llwyddiannus ag mae wedi bod mewn rhai cymunedau eraill petai’r gwobrau cymell yn amrywio, ac mae rhai mentrau cymunedol disglair wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu gwirfoddolwyr ieuenctid.

Yr Amgylchedd Mae yna deimlad bod yr awdurdod lleol yn gwneud gwaith da pan ddaw hi’n fater o ailgylchu, a’i bod hi’n ymddangos bod dirwyo yn y fan a’r lle am daflu ysbwriel a thipio anghyfreithlon yn gweithio, er bod yna rai mannau drwg.

31


SUT MAE’R GYMUNED YN GWNEUD GWAHANIAETH

Mae gan wirfoddolwyr a mentrau cymunedol llawr gwlad ran fawr i’w chwarae yn y gwaith o wneud Rhondda Ganol yn lle mwy bywiog i fyw ynddo. Mae’r fenter gymdeithasol leol, Cambrian Village Trust, wedi datblygu cyfleuster chwaraeon 3G o’r radd flaenaf, gan ddarparu hyfforddiant, sesiynau pêl-droed a gweithgareddau hamdden i bobl ifanc drwy’r dyffryn i gyd. Mae Cadlanciau Môr Y Rhondda wedi bod ar waith ers 73 mlynedd ac mae ganddynt ar hyn o bryd dros 100 o gadlanciau’n mynychu sesiynau wythnosol lle maent yn dysgu hwylio, gweithio mewn tîm a chwblhau hyfforddiant sgiliau sy’n codi hyder a dyheadau.

Amgylchynir cymunedau Rhondda Ganol gan fryniau a chefn gwlad, sy’n darparu cyfleoedd am adloniant a mwynhau’r byd naturiol. Mae Cyfeillion Parc Cefn Gwlad Cwmclydach yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n gofalu am barc cefn gwlad Rhondda Ganol, gan greu awyrgylch croesawgar a sicrhau bod y gymuned leol yn dal i ymddiddori ac yn cael y budd mwyaf o adnoddau naturiol y parc.

Astudiaeth Achos Mae Ymddiriedolaeth Pentref Trealaw yn cynnal gweithgareddau hygyrch a fforddiadwy i fynd i’r afael â materion sy’n wynebu pobl yn Rhondda Ganol. Roedd prosiect murlun diweddar yn cynnwys trigolion ac arlunwyr lleol yn y gwaith o wneud tanffordd yn lle disgleiriach a mwy cyfeillgar i gerdded drwyddi. Daw gorymdaith flynyddol â llusern y Nadolig â chymunedau Trealaw, Tonypandy a Phenygraig ynghyd drwy brosiect celfyddyd a chrefft sydd â thema gŵyl. Mae yna brosiect gerddi sy’n pontio’r cenedlaethau yn helpu i fagu parch rhwng aelodau iau a hŷn y gymuned tuag at ei gilydd gan addysgu sgiliau garddio i bobl a phwysigrwydd bwyd ffres ac iach. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi sefydlu menter gymdeithasol fechan o’r enw ‘Making It’. Gan gynnal sesiynau crefft wythnosol i bobl ag anableddau corfforol a dysgu, mae’n gweithio ag artistiaid lleol i helpu pobl i greu cynnyrch celfyddyd a chrefft y gellir eu cadw neu’u gwerthu i’r gymuned leol. Mae ‘Making It’ yn ymwneud â hwyl, diben, cysylltu, cyfeillion a hyder.

32


“Mae dyngarwch yn gwneud i bethau ddigwydd, yn enwedig pan fo cyllid yn brin. Daeth murlun cymunedol, a ariannwyd yn ddiweddar, â chymunedau Trealaw a Thonypandy ynghyd.”

33


CELFYDDYDAU, DIWYLLIANT A THREFTADAETH Mae Cymru yn wlad wedi’i bendithio pan ddaw hi’n fater o gelfyddydau a diwylliant. O’r Eisteddfod Genedlaethol i’r corau meibion enwog yng nghymoedd De Cymru, nid heb reswm y gelwir Cymru yn wlad y gân. A hithau â mwy o gestyll y pen o’r boblogaeth nag unrhyw genedl arall yn Ewrop, mae Cymru hefyd yn wlad a chanddi dreftadaeth unigryw ac a goleddir. Mae oddeutu 20% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac yn 2011 dyfarnwyd statws swyddogol i’r iaith yng Nghymru. Yn ôl y Farwnes Kay Andrews, OBE, sydd newydd ysgrifennu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i ddiwylliant a thlodi, “Mae diwylliant a threftadaeth yn dal i feddu ar rôl unigryw o bwysig yn ein bywyd cenedlaethol”. Lleolir Artes Mundi, gwobr gelfyddydol fwyaf y Deyrnas Unedig,

yng Nghymru, yn ogystal â sefydliadau byd-enwog megis Opera Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae yna gysylltiad cryf rhwng dyngarwch a’r celfyddydau hefyd, a ddangosir hwyrach ar ei orau gan y chwiorydd Davies, Margaret a Gwendoline, a adawodd yn eu hewyllys un o gasgliadau mwyaf cain y Deyrnas Unedig o gelfyddyd yr 20fed ganrif i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ond nid yw pawb yn elwa’n gyfartal. Mae pobl yn y cymunedau mwyaf amddifadus yn llai tebygol o ymweld â digwyddiad celfyddydol, safle treftadaeth neu amgueddfa. Eto, mae yna achos nerthol dros ddweud bod cyfranogi’n ddiwylliannol yn rhan annatod o addysg, mae’n magu hyder ac ymdeimlad o hunaniaeth, ac mae’n offer ar gyfer mynd i’r afael â thlodi.

Fe wnaeth y gyfradd uchaf o atebwyr i’n harolwg cymunedol raddio’r darlun cyfredol o Gelfyddydau a Threftadaeth yng Nghymru fel “C, mae’r Sefyllfa’n iawn”.

1.49%

150,000

Ymwelodd dros o bobl â’r Eisteddfod eleni, sy’n ddathliad unigryw o gelfyddydau a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg

Cyflogir o bobl yng Nghymru yn y diwydiannau creadigol, sef hanner y cyfartaledd o 3.02% ar gyfer Prydain Fawr

6 - SAFLEOEDD TREFTADAETH Y BYD UNESCO YNG NGHYMRU, YN AMRYWIO O GESTYLL I SAFLEOEDD TREFTADAETH DDIWYDIANNOL, AC SY’N CYNNWYS TRAPHONT DDŴR A CHAMLAS ENWOG PONTCYSYLLTE

YN Y FLWYDDYN DDIWETHAF, MAE

58%

o bobl wedi bod mewn digwyddiad celfyddydol

59%

o bobl wedi ymweld â man hanesyddol

39%

o bobl wedi bod mewn amgueddfa 34

MAE POBL SY’N MEDDU AR GYMWYSTERAU ADDYSG ÔL-UWCHRADD YN FWY NA

DWYWAITH YN FWY TEBYGOL O YMWELD Â DIGWYDDIAD CELFYDDYDOL NA’R RHEINY NAD OES GANDDYNT GYMWYSTERAU

MAE POBL SY’N BYW YN Y CYMUNEDAU LLEIAF AMDDIFADUS YNG NGHYMRU YN

44%

40%

26%

fwy tebygol o ymweld â digwyddiad celfyddydol

yn fwy tebygol o ymweld â safle treftadaeth

yn fwy tebygol o ymweld ag amgueddfa yn y 12 mis diwethaf

NA PHOBL SY’N BYW YN Y CYMUNEDAU MWYAF AMDDIFADUS


Diwylliant a Thlodi Gwahoddwyd y Farwnes Kay Andrews, OBE, gan Lywodraeth Cymru i archwilio sut y gall diwylliant a threftadaeth helpu i leihau tlodi ac i godi uchelgais. Daeth ei hadroddiad i’r casgliad:

“Ni ddylai neb golli’u hawl i brofi’r pleserau a’r diddordebau gydol oes y mae cariad at ddarllen, cerddoriaeth, celfyddyd, a theatr yn eu magu. Ac ni ddylent deimlo ychwaith bod hanes a threftadaeth Cymru, a gynhelir yn ein sefydliadau diwylliannol, i eraill ac ‘nid iddyn’ nhw’.” Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda rhaglen beilot o’r enw ‘Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant’ ac mae’n gweithio ag ardaloedd clwstwr Cymunedau yn Gyntaf penodol yn

Abertawe, Wrecsam, Gwynedd, Caerdydd, Casnewydd a Thorfaen i weddnewid cyfleoedd bywyd pobl drwy’u cyflwyno i’r celfyddydau, diwylliant a’r amgylchedd hanesyddol. Nododd ymchwil gan Gyngor Celfyddydau Cymru y mathau mwyaf poblogaidd o gelfyddyd yn ôl y niferoedd a fynychai Sinema Miwsig Byw (heb gynnwys cerddoriaeth glasurol/jas/byd) Carnifalau a Chelfyddydau’r Stryd Dramâu Orielau Celf/Crefft neu Arddangosfeydd

50.4% 42.7% 38% 34.4% 31.8%

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Cyllido mentrau celfyddydau cymunedol fel ffordd o ysbrydoli pobl ifanc, codi dyheadau a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Gall prosiectau cerddoriaeth gymunedol fagu ymdeimlad o bwrpas, balchder ac uchelgais ymysg plant. Mae mentrau celfyddydol hefyd yn ffyrdd sydd wedi’u profi o gael y bobl sydd fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymunedau i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol, i ennill cyfeillion ac i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Galluogi mynediad at ddiwylliant ac at y celfyddydau ar gyfer pobl o gefndiroedd incwm isel. Gall prosiectau allgymorth sy’n cyflwyno celfyddydau i’r gymuned, prisiau tocynnau fforddiadwy i fynychu perfformiadau a chludiant fforddiadwy oll wneud y celfyddydau’n fwy hygyrch i bobl yn y cymunedau mwyaf amddifadus yng Nghymru.

Gwallgofiaid, Gwynedd Mae Gwallgofiaid yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog ddatblygu’u doniau artistig ac archwilio’u cymuned leol drwy’r celfyddydau gweledol a newyddiaduraeth. Ac yntau wedi’i leoli mewn hen adeilad llys, sydd bellach wedi’i weddnewid i fod yn gaffi cymunedol a man cyfarfod, mae’r mudiad yn gweithio â phobl ifanc i gynhyrchu cylchgrawn cymunedol, ffilmiau byrion yn dathlu Blaenau Ffestiniog a’r ardal o amgylch, ac i ddatblygu sgiliau technegol mewn goleuo a pheirianneg sain.

Diogelu treftadaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cynhelir mentrau cadwraeth a diogelu lleol yn aml gan wirfoddolwyr lleol, a defnyddir ein hadeiladau, ein lleoliadau a’n henebion hefyd fel cyfleusterau cymunedol a chyrchfannau i dwristiaid.

Mae rhoi i graidd ein sefydliadau’n diogelu eu dyfodol. Mae cefnogi costau craidd, cynlluniau i aelodau, ymgyrchoedd gwaddol a mentrau codi arian ar gyfer prosiectau yn sicrhau bod gwaith craidd gwerthfawr a hanfodol ar gyfer ein celfyddydau, a’n helusennau diwylliannol a threftadaeth yn cael ei ddiogelu.

Cyfeillion Maenordy Llancaiach Fawr, Caerffili Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn cludo ymwelwyr yn eu holau 400 mlynedd i ddehongliad diledryw o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn 1645. Gydag aelodau staff yn actio rhannau staff a pherchnogion y tŷ, gall ymwelwyr â’r Maenordy ddisgwyl clywed, gweld ac arogli bywyd fel ag yr oedd yn yr 17eg ganrif. Cymaint yw gwreiddioldeb y lle, mae hyd yn oed y clustogau wedi’u gwnïo â llaw ac arnynt ôl ymrwymiad ymroddedig i gynnal cywirdeb hanesyddol. Mae’r grŵp o Gyfeillion wedi bod yn gyfryngol i godi arian i adfer y maenordy i’w ogoniant blaenorol ac i sicrhau bod ymwelwyr yn derbyn profiad hanesyddol unigryw.

35


YR AMGYLCHEDD Roedd “cadwyni mynyddoedd mawrion, dyffrynnoedd toreithiog (a) morlinau bylchog” Cymru ymysg y rhesymau a restrwyd pam yr enwyd Cymru yn y Rough Guide fel y wlad orau yn y byd i ymweld â hi yn 2014. Diogelir tua 30% o dir a dŵr y genedl, a chan fod yna dri pharc cenedlaethol, pum ardal o harddwch naturiol eithriadol a 41 o draethau Baner Las, mae yna ddigonedd o gyfle i bobl fforio a mwynhau’r amgylchedd naturiol. Er bod cyfraddau ailgylchu’n galonogol, mae lefel allyriadau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill yn uchel ac yn destun gofid o’r herwydd. Mae yna hefyd bryder bod llawer o blant, er gwaethaf digonedd o fannau gwyrdd, wedi’u datgysylltu oddi wrth y byd naturiol.

Dywedodd 26% o bobl a ymatebodd i’r arolwg ‘Y Gymru a Garem’ mai Newid yn yr Hinsawdd oedd y mater mwyaf taer sy’n wynebu Cymru, pwysicach nag unrhyw fater arall.

49%

cyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi yng Nghymru, y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig

10.71

Cysylltu plant â natur Canfu prosiect ymchwil tair blynedd a wnaed gan yr RSPB mai ond 1 o bob 8 o blant Cymru (13%) sydd â lefel o gysylltiad â natur y mae’r RSPB yn ei hystyried sy’n darged realistig a chyraeddadwy i bob plentyn. Roedd hyn yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (21%) a llai na hanner cyfradd plant yn yr Alban (27%).

“Pan fo pobl ifanc wedi’u cysylltu â natur, caiff effeithiau positif ar eu haddysg, iechyd corfforol, lles emosiynol, a sgiliau personol a chymdeithasol, ac mae’n eu helpu i ddod yn ddinasyddion cyfrifol.” (RSPB. Connecting With Nature, 2013)

218,000

o gartrefi mewn perygl o lifogydd yng Nghymru

48,000

mewn perygl sylweddol o lifogydd

CILO-DUNELLI yw’r allyriad CO2 y pen, yr uchaf ym Mhrydain a

Mae yna fwy na 1000 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ymestyn dros oddeutu 12% o arwynebedd tir Cymru.

40% YN UWCH NA CHYFARTALEDD LLOEGR O 7.62 CILO-DUNNELL

8% cyfran Cymru o allyriadau nwy tŷ gwydr y Deyrnas Unedig

4.8%

8%

MAE YNA FWY NA 1000 O SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG YN YMESTYN DROS ODDEUTU 12% O ARWYNEBEDD TIR CYMRU. 36


Dangosyddion yr Amgylchedd Ffisegol ledled awdurdodau lleol 40

Cyfartaledd Cymru

Awdurdod Lleol Mae dangosydd Amgylchedd Ffisegol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yn mesur ffactorau a all effeithio ar ansawdd bywyd. Mae’n dadansoddi crynodiadau’r aer, allyriadau i’r aer, agosrwydd at safleoedd diwydiannol a gwaredu gwastraff a pherygl o lifogydd ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (oddeutu 1,600 o drigolion). Dengys y graff hwn yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â’r nifer uchaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y 10% uchaf o’r ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru.

35 30 25 %

20 15 10 5 0 Sir Fflint

Castell-nedd Port Talbot

Bro Morgannwg

Casnewydd

SUT Y GALL DYNGARWCH WNEUD GWAHANIAETH Sicrhau bod gan blant fynediad at natur a bod ganddynt ddealltwriaeth o’n hamgylchedd. Daw ysgolion coedwig â hud natur i blant, fel y gwna gweithgareddau awyr agored ac aelodaeth o glybiau fel y geidiau, sgowtiau a chadlanciau’r môr. Cefnogi nerth cymunedol a mentrau ailgylchu. Nid yn unig y mae ganddynt fuddion ar gyfer yr amgylchedd, mae prosiectau ailgylchu cymunedol hefyd yn annog gwirfoddoli, maent yn darparu cyfleoedd i hyfforddi ac i gynnig nwyddau fforddiadwy i bobl ar incymau isel. Mae prosiectau nerth cymunedol yn adeiladu cynaliadwyedd ariannol ac amgylcheddol ac yn cael cymunedau lleol i ymddiddori â phwnc byd-eang. Darparu rhyddhad uniongyrchol i ddioddefwyr trychinebau amgylcheddol. Gwnaeth stormydd gaeaf 2013/14 ddifrod mawr i lawer o gymunedau arfordirol Cymru. Creodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru y Gronfa Adferiad Llifogydd a oedd yn ymateb uniongyrchol i roi cymorth ariannol i bobl oedd wedi’u gwneud yn ddigartref gan lifogydd arfordirol, ac i gyfleusterau cymunedol yr effeithiwyd arnynt gan ddifrod storm.

Caerdydd

Cronfa Adfer Llifogydd Cymru Gwnaeth y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru sefydlu Cronfa Adfer Llifogydd Cymru yn 2014 mewn ymateb i’r llifogydd arfordirol dinistriol a effeithiodd ar gymaint o gymunedau ym mis Rhagfyr, 2013. Un o’r trefi yr effeithiwyd arni’n ddrwg oedd Y Rhyl, a sefydlodd cyngor y dref yr elusen Lliniaru Llifogydd Y Rhyl i helpu unigolion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt waethaf - gwagiwyd dros 100 o gartrefi, gyda phobl yn cael eu symud i ganolfannau brys. Dyfarnwyd grant i helpu’r bobl hyn i ailadeiladu eu bywydau drwy daliadau argyfwng bychain a helpodd i liniaru caledi ariannol ac i brynu eitemau hanfodol.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Cymoedd Gwyrddion, Powys hyfryd Gan weithio ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r fenter gymdeithasol arloesol hon yn hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer cymunedau gwledig drwy wella’r defnydd effeithlon o ynni a darparu technolegau adnewyddadwy, megis cynlluniau micro-hydro, ar gyfer unigolion a chymunedau. Caiff coetiroedd eu hadfer i fod o dan reolaeth gynaliadwy ac anogir cynhyrchu bwyd lleol drwy ddatblygu rhandiroedd a pherllannau cymunedol. Cynhwysir y gymuned bob cam, ac mae yna uchelgais a rennir i wneud cymunedau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn garbon negyddol.

37


SUT Y GALLWCH CHI WNEUD GWAHANIAETH Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn fusnes elusennol – mae’n gynghorwr ar ddyngarwch y gellir ymddiried ynddo sy’n cynnig gwasanaeth unswydd bwrpasol i bob un o’n deiliaid Cronfa a chleientiaid. Cynghorwn ar ble y gall eu blaenoriaethau ar gyfer rhoi’n elusennol gael yr effaith orau, gan fuddsoddi’u rhoddion i gael y budd mwyaf a darparu rhaglenni cadarn i roi grantiau ar eu rhan.

EIN GWASANAETHAU DYNGARWCH Sefydlu’ch Cronfa eich hun Cronfa Effaith Uniongyrchol – Cronfa i heddiw Cronfa Waddol - Cronfa sydd yn cael ei buddsoddi am byth, rhodd sy’n cadw rhoi Hybrid Fund – A Fund which makes an impact today whilst investing for the needs of tomorrow. Gellir rhoi themâu i Gronfeydd yn ôl dymuniadau’ch cleientiaid; er enghraifft, rhaglenni grantiau sy’n benodol i ardal neu bwnc. Dyblu effaith eich rhodd i’r Gronfa i Gymru. Diolch i’n Her Gyfatebol Fawr. Darparu gwell dyfodol i gymunedau Cymru drwy adael rhodd yn eich ewyllys.

YSTOD O FUDDION Cronfa unswydd bwrpasol sydd wedi’i theilwra ar gyfer eich dymuniadau • ymweliadau â phrosiectau a chael farfodydd â buddiolwyr

• •

gwahoddiadau i ddigwyddiadau a fforymau dyngarwch rhoi mewn modd effeithiol o ran trethi

OPSIYNAU GRONFEYDD ROI

Cronfa Effaith Uniongyrchol

TYFU

DYFARNU

EFFAITH HEDDIW

Cronfa Waddol

EFFAITH AM BYTH

Gronfa Hybrid

EFFAITH HEDDIW AC AM BYTH

Mae ein tîm dyngarwch yn gweithio â phob deiliad Cronfa i ddatblygu portffolio o roddi, yn unol â’u dymuniadau er mwyn i’w dyngarwch ddwyn y ffrwyth mwyaf. Cysylltwch â ni ar 02920 379580 i drafod sut y gall eich rhoddion wneud gwahaniaeth, neu ewch i’n gwefan www.cfiw.org.uk.

38


A Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru TÅ· Sant Andreas 24 Cilgant Sant Andreas Caerdydd CF10 3DD E info@cfiw.org.uk T +44 (0)2920 379580 W www.cfiw.org.uk /cfinwales @cfinwales Elusen gofrestredig rhif 1074655 Rhif y Cwmni 03670680

39




Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.