5 minute read
ETIFEddIyaETh pErFFOrmwyr CymraEg pagE 38 yr EiSTEddFOd gENEdlaEThOl - gŵyl wrTh graidd diwylliaNT
Etifeddiyaeth Perfformwyr Cymraeg
Bydd yn anodd i gredu gan fod o nawr yn ei 80au, ond does dim stopio Tom Jones eto! Wrth gwrs mae Tom Jones yn cario etifeddiaeth anghredadwy and mae pawb yn ei nabod yng Nghymru, mae di bod yn canu am dros 50 blynedd! Roedd Tom Jones yn barod wedi creu enw fawr i’w hunain ar ôl 30 blynedd o bod yn y chwyddwydr. Yn y 90au, wnaeth Tom Jones creu y caneuon ‘Delilah’ ac ‘If Only I Knew’, dau can sydd dal yn adnabyddus iawn heddiw. Wnaeth caneuon fel y ddau yma ac ei amser yn Las Vegas helpu Tom Jones i adeiladu ei llwyddiant yn enfawr, yn enwedid ar ôl dadfeiliad yn ystod yr 80au cynnar. Yn 2022 mae’n dal yn fynd, mae’n mynd ar daith mis Mehefin yma ar draws 17 gwledydd yn perfformio 53 cyngherddau! O rhan gwyliau mae’n perfformio yn ‘Festival Jardins Pedrables’ ar y 25eg o Fehefin yn Barcelona a LakeFest yn mis Awst. Ffordd anhygoel i mwynhau’r haul a cherddoriaeth. Mae’n anodd i meddwl am gwyliau mae Tom Jones heb gwneud, gan mae wedi creu enw mor fawr i’w hun. Mae Tom jones di neud o i gyd, gan gynnwys Glastonbury yn 2009, V Festival yn 2015 a Isle of Wight yn 2011.
Advertisement
Enw arall cymraeg sydd yn enfawr o fewn y byd cerddoriaeth yw’r Stereophonics. Cafodd y band ei ffurfio yn Cwmaman, De Cymru yn 1992, ac yr oedd ei albwm cyntaf, ‘Word Gets Around’ (1997) yn llwyddiant enfawr Y Stereophonics yw’r band rôc fwyaf cymraeg, gan hyd yn oed yn gwerthu allan nifer o llefydd gwahanol am ei taith yn 2020. Gan adeiladu cymaint o llwyddiant yn ystod y 90au wnaeth y Stereophonics mynd ymlaen i creu can efo Tom Jones (‘Mama Told Me Not To Come’) gan bwysleisio yr oeddent yn creu enw da, sydd dal yma heddiw yn 2022. Mae’r Sterophonica, fel Tom Jones, wedi gadael etifeddiaeth enfawr hefyd, gan perfformio o fewn nifer o gwyliau. Ychydig o esiamplau yw, Latitude 2019, Tramlines 2018 a Belsonic 2016. Ac yn olaf, ond yn bendant ddim yn y leiaf, mae band sydd wedi adaeiladu etifeddiaeth enfawr am cymaint o pobl ifance ar draws Cymru yw Catfish and the Bottlemen. Dechreuodd y band yn 2007, ac maent yn cynrychioli’r Gogledd o Llandudno. Wnaeth ei albwm cyntaf, The Balcony cyrraedd rhif 10 yn y siart albwm y Deyrnas Unedig a cyrraedd statws platinum yn Rhagfyr 2016. Ers hynny, does dim stop wedi digwydd am y band yma. Yn personol, yr wyf wedi gweld Catfish and the Bottlemen perfformio ar dwy achlysuron. Pob tro, mae pawb wedi nabod y geiriau ac mae’r awyrgylch di bod yn rhyfeddol! Y tro olaf gwelais i ni oedd yn ystod Reading 2021, ac roeddent yn bendant yn ffefryn trwy gydol y gwyl.
Ac wrth gwrs, mae’r tri perfformwyr anghredadwy yma i gyd am bod o dan yr un tô yng Nghaerdydd yn fuan ar y 17eg a 18eg oMehefin yn y Stadiwm Principality! Am nôs am gerddoriaeth Cymraeg!
Geiriau gan: Angharad Roberts Design by: Isabel Brewster
yr EiSTEddFOd gENEdlaEThOl
Ers ei sefydlu yn 1861, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei gynnal a’i ddathlu ym mhob cornel o Gymru (ac yn Lloegr ambell waith) ac wedi ei fynychu gan filoedd. Ers yr Eisteddfod gyntaf, mae’r ŵyl wedi cael ei gynnal a’i fwynhau mwy neu lai yn flynyddol. Hynny yw bob blwyddyn gan eithrio 1914 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, 1940 yn ystod yr Ail Ryfel Byd a 2020 a 2021 o ganlyniad i’r pandemig.
Mae’n debyg bod y mwyafrif ohonoch yn ymwybodol o beth yw’r Eisteddfod Genedlaethol, sef gŵyl ddiwylliannol fwyaf poblogaidd Cymru. Mae cystadlu mewn llenyddiaeth, cerdd a drama yn rhai o’i brif elfennau gyda Eisteddfodau lleol yn un o brofiadau cyntaf sawl Cymro a Chymraes ifanc o berfformio ar lwyfan o flaen cynulleidfa. Mae’r ŵyl yn hybu pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn celfyddydau Cymreig ac yn rhoi diwylliant Cymru mewn safle blaenllaw am wythnos gyfan yn ystod mis Awst bob blwyddyn. Nid cystadlaethau perfformio yn unig sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig ac mae hefyd cyfleoedd i amrywiaeth eang o artistiaid talentog i rannu eu gwaith celf boed yn ddarluniad, gemwaith neu enghraifft o ffotograffiaeth. Fodd bynnag, nid wythnos o gystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol o reidrwydd. Mae ganddo lawer fwy i’w gynnig ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion a phensiynwyr ar draws y genedl ac mae’r wythnos yn orlawn o weithgareddau sy’n apelio at bawb. Mae Pabell y Plant, er enghraifft, yn caniatáu i blant ifanc gwrdd â’u hoff gymeriadau Cyw ac mae’n siwr bod gan sawl un atgofion melys o dreulio hafau ar faes yr Eisteddfod yn ystod eu plentyndod. Yn yr un modd, mae’r Eisteddfod yn flas gyntaf ar annibyniaeth i bobl ifanc ar draws y genedl gyda Maes B yn brofiad melys sydd yn atgof sydd wedi aros gyda’r sawl sydd wedi mynychu dros y blynyddoedd. Mae’n brofiad mae nifer sylweddol o Gymry ifanc yn edrych ymlaen ato pan maent yn troi’n un ar bymtheg ac yn gyfle i fwynhau gigs a pherfformiadau gan artistiaid hen a newydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn gwirionedd, mae Maes B wedi gwneud cyfraniad enfawr at y tirlun cerddoriaeth fodern Cymru dros y blynyddoedd gydag artistiaid megis Gwilym ac Alffa yn canfod llwyddiant ym Mrwydr y Bandiau ac yna’n mynd yn eu blaenau i berfformio gigs ledled Cymru a thu hwnt.
Nid lle i bobl ifanc yn unig yw’r Eisteddfod chwaith, gyda’r ŵyl yn lleoliad poblogaidd ar gyfer teuluoedd yn ystod yr haf ble mae sawl un yn aros mewn carafanau er mwyn mwynhau’r holl ddathliadau o ddiwylliant Cymreig sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig. Mae maes yr Eisteddfod yn cynnig cyfle i grefftwyr, entrepreneuriaid ac arlwywyr o bob rhan o’r wlad i werth eu cynnyrch ac i rannu eu talentau gyda mynychwyr awyddus yr ŵyl. Cynigai’r stondinau trawstoriad hynod eang o gynnyrch ac mae’n gyfle i brynu anrhegion gwreiddiol i deulu ac i ffrindiau neu i brynu grys-t neu addurniad Cymraeg ar gyfer chi eich hunain. Yn ogystal, yn ystod yr wythnos mae sawl elusen a sefydliad lleol yn codi stondin ar y maes er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian at achos da tra bod gweithgareddau yn y Babell Wyddoniaeth yn gyfle addysgiadol i blant ac oedolion o bob oedran fod yn wyddonwyr am gyfnod byr.