Llythyr i fi fy hun
issue 178
CLEBAR - 27
Annwyl Indigo yn 2017, Dwi’n ysgrifennu i ti heddiw ar ôl gorffen fy nhrydedd flwyddyn o brifysgol yn sydyn, fel canlyniad o Covid-19. Ond, yn lle teimlo’n drist am yr amser yn cael ei dorri’n fyr, rwy’n ysgrifennu hwn i gofio’r amseroedd da a gafwyd yn y brifysgol a’r profiadau rydw i wedi’u cael dros y tair blynedd diwethaf. Bydd y llythyr yma yn ffordd i fyfyrio ar fy amser, ac efallai yn rhoi bach o gymorth i eraill wrth iddyn nhw orffen prifysgol. Lle gwell i ddechrau na freshers eh? Yr wythnosau prysur ar ddechrau eich blwyddyn gyntaf, lle mae’ch corff yn cael ei chreu lan o 25% Echo Falls, 25% VKs a 50% Dominos am ddim o’r ffair y glas. Wrth fyfyrio, gan edrych nôl at wythnosau cyntaf prifysgol fe wnes i greu ffrindiau am oes o fewn amser byr. Nad oeddwn i’n gwybod ar y noson gyntaf allan gyda fy fflat bach yn Talybont South byddwn yn byw gyda nhw am y ddwy flwyddyn i ddilyn. Yn fy mlwyddyn gyntaf dysgais i sut i goginio i fy hun, sut i olchi fy nillad a sut i ysgrifennu traethawd mewn 24 awr, a obvs pethau hanfodol i fy nghwrs. Y flwyddyn gyntaf, neu’r flwyddyn nad yw’n cyfri yn dysgu i ni sut rydyn ni’n eu sefydlu ein hunain am weddill ein bywyd prifysgol, ac roeddwn i’n lwcus i greu grŵp da o ffrindiau ar fy nghwrs a hefyd yn fy fflat. Os oedd rhywun yn gofyn i mi yfory pe bawn i eisiau mynd yn ôl i’r flwyddyn gyntaf, byddwn yn dweud ie, heb feddwl am funud. I dreulio amser nol yn fy nghegin fach yn Talybont yn bwyta takeaway gyda fy ffrindiau neu drio diffodd y golau wrth i ni wylio Eurovision, neu hyd yn oed mynychu fy Varisty cyntaf yn brifysgol. Byddwn I’n wneud e gyd mewn curiad galon. Yr ail flwyddyn, gwnes i’r penderfyniad gorau posibl i mi, ymunais i â Chyfryngau Myfyrwyr Caerdydd. Mae rhaid i fi fod yn onest, gwnaeth CMCC cymryd drosto fy mywyd. Rhwng neu sioe radio wythnosol gyda fy ffrindiau i dreulio oriau yn golygu’r adran newyddion ar gyfer Gair Rhydd. Ond ni fyddwn i byth yn newid yr amser yma, oherwydd fe wnes i greu’r ffrindiau gorau a gallwn yn brifysgol, gan hefyd datblygu fy sgiliau newyddiaduraeth yn barod i fy nyfodol yn y maes. Ar ôl wneud hynny fe wnaethon ni gyd dathlu yn ystod y CSMs, o feth rydw i’n cofio. Roedd yr ail flwyddyn yn wahanol iawn i’r flwyddyn gyntaf, roedd y gwaith yn cyfri, roedden ni’n byw mewn tŷ myfyrwyr a nawr ni’n edrych yn hen os rydyn ni’n mynd i Quids in. Fe wnes i orffen yr ail flwyddyn yn teithio o amgylch, China, Japan, Portiwgal a Sbaen, ac rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny, gwnes i atgofion anhygoel gyda theulu a ffrindiau, ac rwy’n gwerthfawrogi’n fwy ar ôl bod ar lockdown fel canlyniad o Coronavirus! Yn fy nhrydedd flwyddyn fe wnes i symud mewn i dŷ llai o faint gyda fy ffrindiau, ac oedd o’n galed i ddweud hwyl fawr i weddill fy fflat o’r flynyddoedd cynt. Ond, roedd rhaid i ni ddod i’r arfer â’r ffaith ein bod ni’n tyfu i fyny ac yn gorfod canolbwyntio’n ar gyfer blwyddyn fwyaf ein gyrfaoedd prifysgol. Eleni, roedd ein bywydau llawn traethodau hir, cyflwyniadau, diwrnodau trist o flaen y teledu a llawer o nosweithiau yn y Taf neu’r Mack. Wrth wisgo lan am Yolo neu wneud pub golf gyda fy ffrindiau, ni allaf ddweud fy mod wedi cael eiliad ddiflas yn y Brifysgol, anaml iawn yr wyf wedi diflasu, ac wrth edrych yn ôl ar fy atgofion gallaf weld yn sicr pam. Wrth i mi orffen fy nhrydedd flwyddyn dwi’n myfyrio nôl at y tair flwyddyn ddiwethaf llawn hapusrwydd, ac yn eithaf trist oedd rhaid i fy amser brifysgol gorffen yn gynt. Ond mae rhaid i ni edrych ar yr amser gwych cawsom ni, ac edrych tuag at y dyfodol. Wrth gychwyn yn y brifysgol, wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n ei fwynhau cymaint ag yr wyf i, ac ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn parhau â’m hastudiaethau trwy wneud cwrs ôl-raddedig newyddiaduraeth ryngwladol. Trwy gydol fy rollercoaster o brofiad bu dagrau, methiannau ond hefyd digon o chwerthin a hwyl gyda’r bobl fe wnes i gwrdd ar y ffordd. Rhywbeth rydw i bendant wedi dysgu wrth fyw yng Nghaerdydd, yw bod fi’n caru’r ddinas yma! Mae fe fel adref oddi cartref, a dydw i fyth eisiau gadael. Dwi’n sicr byddwn i yn cael fwy o brofiadau byth cofiadwy yn y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd, ac yn edrych ‘mlaen tuag at yr hyn sydd ganddo ar y gweill i mi!
Cofion Cynnes, Indigo yn 2020 words by: INDIGO JONES design by: LOTTIE ENNIS