19 minute read
Llythyr i fi fy hun
Annwyl Indigo yn 2017,
Dwi’n ysgrifennu i ti heddiw ar ôl gorffen fy nhrydedd flwyddyn o brifysgol yn sydyn, fel canlyniad o Covid-19. Ond, yn lle teimlo’n drist am yr amser yn cael ei dorri’n fyr, rwy’n ysgrifennu hwn i gofio’r amseroedd da a gafwyd yn y brifysgol a’r profiadau rydw i wedi’u cael dros y tair blynedd diwethaf. Bydd y llythyr yma yn ffordd i fyfyrio ar fy amser, ac efallai yn rhoi bach o gymorth i eraill wrth iddyn nhw orffen prifysgol.
Advertisement
Lle gwell i ddechrau na freshers eh? Yr wythnosau prysur ar ddechrau eich blwyddyn gyntaf, lle mae’ch corff yn cael ei chreu lan o 25% Echo Falls, 25% VKs a 50% Dominos am ddim o’r ffair y glas. Wrth fyfyrio, gan edrych nôl at wythnosau cyntaf prifysgol fe wnes i greu ffrindiau am oes o fewn amser byr. Nad oeddwn i’n gwybod ar y noson gyntaf allan gyda fy fflat bach yn Talybont South byddwn yn byw gyda nhw am y ddwy flwyddyn i ddilyn. Yn fy mlwyddyn gyntaf dysgais i sut i goginio i fy hun, sut i olchi fy nillad a sut i ysgrifennu traethawd mewn 24 awr, a obvs pethau hanfodol i fy nghwrs.
Y flwyddyn gyntaf, neu’r flwyddyn nad yw’n cyfri yn dysgu i ni sut rydyn ni’n eu sefydlu ein hunain am weddill ein bywyd prifysgol, ac roeddwn i’n lwcus i greu grŵp da o ffrindiau ar fy nghwrs a hefyd yn fy fflat. Os oedd rhywun yn gofyn i mi yfory pe bawn i eisiau mynd yn ôl i’r flwyddyn gyntaf, byddwn yn dweud ie, heb feddwl am funud. I dreulio amser nol yn fy nghegin fach yn Talybont yn bwyta takeaway gyda fy ffrindiau neu drio diffodd y golau wrth i ni wylio Eurovision, neu hyd yn oed mynychu fy Varisty cyntaf yn brifysgol. Byddwn I’n wneud e gyd mewn curiad galon.
Yr ail flwyddyn, gwnes i’r penderfyniad gorau posibl i mi, ymunais i â Chyfryngau Myfyrwyr Caerdydd. Mae rhaid i fi fod yn onest, gwnaeth CMCC cymryd drosto fy mywyd. Rhwng neu sioe radio wythnosol gyda fy ffrindiau i dreulio oriau yn golygu’r adran newyddion ar gyfer Gair Rhydd. Ond ni fyddwn i byth yn newid yr amser yma, oherwydd fe wnes i greu’r ffrindiau gorau a gallwn yn brifysgol, gan hefyd datblygu fy sgiliau newyddiaduraeth yn barod i fy nyfodol yn y maes. Ar ôl wneud hynny fe wnaethon ni gyd dathlu yn ystod y CSMs, o feth rydw i’n cofio.
Roedd yr ail flwyddyn yn wahanol iawn i’r flwyddyn gyntaf, roedd y gwaith yn cyfri, roedden ni’n byw mewn tŷ myfyrwyr a nawr ni’n edrych yn hen os rydyn ni’n mynd i Quids in. Fe wnes i orffen yr ail flwyddyn yn teithio o amgylch, China, Japan, Portiwgal a Sbaen, ac rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny, gwnes i atgofion anhygoel gyda theulu a ffrindiau, ac rwy’n gwerthfawrogi’n fwy ar ôl bod ar lockdown fel canlyniad o Coronavirus!
Yn fy nhrydedd flwyddyn fe wnes i symud mewn i dŷ llai o faint gyda fy ffrindiau, ac oedd o’n galed i ddweud hwyl fawr i weddill fy fflat o’r flynyddoedd cynt. Ond, roedd rhaid i ni ddod i’r arfer â’r ffaith ein bod ni’n tyfu i fyny ac yn gorfod canolbwyntio’n ar gyfer blwyddyn fwyaf ein gyrfaoedd prifysgol. Eleni, roedd ein bywydau llawn traethodau hir, cyflwyniadau, diwrnodau trist o flaen y teledu a llawer o nosweithiau yn y Taf neu’r Mack. Wrth wisgo lan am Yolo neu wneud pub golf gyda fy ffrindiau, ni allaf ddweud fy mod wedi cael eiliad ddiflas yn y Brifysgol, anaml iawn yr wyf wedi diflasu, ac wrth edrych yn ôl ar fy atgofion gallaf weld yn sicr pam.
Wrth i mi orffen fy nhrydedd flwyddyn dwi’n myfyrio nôl at y tair flwyddyn ddiwethaf llawn hapusrwydd, ac yn eithaf trist oedd rhaid i fy amser brifysgol gorffen yn gynt. Ond mae rhaid i ni edrych ar yr amser gwych cawsom ni, ac edrych tuag at y dyfodol. Wrth gychwyn yn y brifysgol, wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n ei fwynhau cymaint ag yr wyf i, ac ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn parhau â’m hastudiaethau trwy wneud cwrs ôl-raddedig newyddiaduraeth ryngwladol. Trwy gydol fy rollercoaster o brofiad bu dagrau, methiannau ond hefyd digon o chwerthin a hwyl gyda’r bobl fe wnes i gwrdd ar y ffordd. Rhywbeth rydw i bendant wedi dysgu wrth fyw yng Nghaerdydd, yw bod fi’n caru’r ddinas yma! Mae fe fel adref oddi cartref, a dydw i fyth eisiau gadael. Dwi’n sicr byddwn i yn cael fwy o brofiadau byth cofiadwy yn y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd, ac yn edrych ‘mlaen tuag at yr hyn sydd ganddo ar y gweill i mi!
Cofion Cynnes, Indigo yn 2020
words by: INDIGO JONES design by: LOTTIE ENNIS
Ein Hoff Selebs Cymraeg Shirley Bassey O gantorion i sêr ffilm, mae enwogion Cymru wedi meddiannu lle i’w hunain ar lwyfannau rhyngwladol. Yn eu plith mae ambell i BAFTA neu BRIT fel tystiolaeth o’r dalent di-ri sydd gan Gymru, er mor fach, i’w gynnig. Isod mae straeon rhai o’r enwau fwyaf adnabyddus sydd a’u gwreiddiau wedi eu plannu’n gadarn mewn tir Cymreig. Nid yw rhestr o enwogion mwyaf dylanwadol Cymru yn gyflawn heb y gantores pop Shirley Bassey. Ganwyd Bassey ym Mae Teigr, Caerdydd ond erbyn hyn mae hi’n enwog ar draws Ewrop a thu hwnt. Cyrhaeddodd cerddoriaeth Bassey y siartiau am y tro cyntaf yn 1957 pan dderbyniodd The Banana Boat Song safle o rif wyth. Fel ei chyd-gymro, Tom Jones, cân agoriadol i’r gyfres James Bond oedd yn gyfrifol am ennill adnabyddiaeth ryngwladol i’r gantores. Goldfinger oedd y cyntaf ond ers hynny mae ei llais pwerus wedi cael eu defnyddio ar gyfer dwy gân arall i’r fasnachfraint sef Diamonds are Forever a Moonraker. Yn ystod y 60au cyrhaeddodd pump o’i halbymau safle o 15 neu uwch ar y siartiau. Llwyddodd Bassey i sefydlu ei hun o fewn tirwedd cerddoriaeth yr UDA o ganlyniad i’w gwaith cabaret yn Efrog Newydd a Vegas a phoblogrwydd y ffilmiau James Bond yno. Mae hi’n enw adnabyddus yno hyd heddiw a chafodd ei dewis i berfformio Goldfinger yn seremoni’r Oscars yn 2013.
Tom jones
Nid yw’n syndod, felly, bod Bassey wedi derbyn amryw o wobrau yn ystod ei gyrfa gan gynnwys BRIT yn 1977 o dan y teitl ‘Unawd Benywaidd Gorau Prydain yn y 25 mlynedd diwethaf ’.
Efallai ei fod yn ddewis amlwg, ond nid oes dwywaith fod Syr Tom Jones yn un o selebs enwocaf ein gwlad. Mae rhai o’i anthemau’n adnabyddus yn rhyngwladol ac mae eu pwysigrwydd i ddiwylliant
Cymreig yn amlwg. Er y bu dadleuon ynghylch ei addasrwydd, caiff y gân Delilah ei hadnabod fel
‘anthem rygbi answyddogol’ Cymru.
Ganwyd y canwr ym Mhontypridd yn y 40au a chychwynnodd ei yrfa ychydig dros ugain mlynedd yn ddiweddarach yn ystod y 60au. Y gân It’s Not Unusual oedd yn gyfrifol am lansio ei yrfa broffesiynol a chyrhaeddodd frig siartiau cerddoriaeth y DU am y tro cyntaf yn 1965. Arweiniodd hyn at y cyfle iddo recordio caneuon agoriadol ar gyfer y ffilmiau What’s New Pussycat? ac y ffilm enwog Thunderball o’r gyfres James Bond. Ers hynny, mae sawl un o’i ganeuon wedi dringo i fyny’r siartiau, gan gynnwys 36 yn cyrraedd safle o 40 neu uwch yn y DU a thair cân yn cyrraedd safle rhif un. Nid cyfyngedig i’r Deyrnas Unedig yw ei lwyddiant chwaith ac mae wedi perfformio ar lwyfannau ledled y byd gan gynnwys Las Vegas ble gyfarfu â’r canwr roc a rôl Elvis Presley.
Taron Egerton Treuliodd yr actor rhan o’i blentyndod yn Llanfairpwll, Ynys Môn, cyn symud i Aberystwyth pan oedd yn 12. Er mai ym Mhenbedw ganwyd Taron, Cymraes oedd ei nain ac mae’r actor, yn ei eiriau ei hun, yn cymryd balchder yn ei allu i siarad Cymraeg ac yn ystyried ei hun yn Gymro ‘drwodd a thrwodd’.
Cyn ymddangos ar y sgrin fawr, chwaraeodd rôl fach yn y rhaglen Lewis, cyn symud ymlaen i chwarae rhan fwy allweddol yn y gyfres The Smoke. Erbyn hyn, mae’n lawer fwy tebygol i ymddangos mewn ffilm Hollywood nag mewn rhaglen deledu ac ers cychwyn ei yrfa mae wedi serennu mewn amryw o ffilmiau gan gynnwys Kingsman, Eddie the Eagle a
Robin Hood. Un o’r diweddaraf yn eu plith yw Rocketman, ffilm fywgraffyddol sy’n seiliedig ar fywyd Elton John. Honnodd ei barch fel actor gyda’i berfformiad ynddo a derbyniodd wobr Golden Globe yn dyst i hynny. Yn ystod ei yrfa mae hefyd wedi derbyn enwebiadau am y gwobrau SAG, BAFTA a Grammy.
Ynghyd â bod yn actor, mae hefyd yn ganwr ac yn defnyddio ei lais mewn ambell un o’i ffilmiau, gan gynnwys yn ei rôl fel Elton John yn Rocketman.
words by: CATRIN LEWIS design by: JOSH ONG
Gareth Bale
id oes posib gwneud rhestr o selebs Cymru heb gynnwys seren chwaraeon arno. O athletwyr Olympaidd i chwaraewyr rygbi, mae gan Gymru eu cyfran deg ond nid oes amheuaeth fod Gareth Bale wedi bod yn un o enwau Cymreig mwyaf adnabyddus y byd chwaraeon dros flynyddoedd diweddar.
Ganwyd y pêl-droediwr yn y brif ddinas a chychwynnodd chwarae i dîm Southampton pan oedd yn 16 mlwydd oed. Aeth yn ei flaen i arwyddo gyda Tottenham Hotspur yn 2007 cyn ymuno a Real Madrid yn 2013. Chwaraeodd Bale i Gymru am y tro cyntaf yn 2006, chwaraewr ieuengaf erioed y tîm ar y pryd.
Agorodd Bale Elevens Bar yng Nghaerdydd yn 2017 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar leoliad newydd yng nghanol y ddinas mewn partneriaeth a chwmni Cymraeg annibynnol. Bydd y lleoliad, Par59, yn cynnwys bar, bwyty a chyrsiau ‘mini-golf ’ gan fod y pêl-droediwr hefyd yn chwarae golff yn ei amser rhydd. Mewn cyfweliad eglurodd ei resymeg tu ôl agor busnesau yng Nghaerdydd ac esboniodd ei fod eisiau ychwanegu fwy o gyffro i’r ddinas, yn enwedig i bobl ifanc.
Ruth Jones
Daeth Gavin & Stacey, a ysgrifennwyd gan Ruth Jones a James Corden, ag Ynys y Barri i sgriniau teledu ar draws y wlad yn 2007. Bellach nid oes posib sôn am fod yn Gymraeg heb i rywun ofyn y cwestiwn mawr, “Have you watched Gavin & Stacey?”. Mae modd dadlau mai Nessa, cymeriad Ruth, yw un o gymeriadau mwyaf eiconig y gyfres ac mae rhai o’i llinellau cofiadwy yn parhau i fod yn boblogaidd ymysg gwylwyr. Yn wreiddiol daeth y gyfres i ben yn 2010, cyn dychwelyd gyda phennod arbennig ar ddiwrnod Nadolig yn 2019. Degawd yn ddiweddarach, mae’r gyfres yr un mor boblogaidd ag erioed a denodd y bennod gynulleidfa o 11.6 miliwn pan gafodd ei ddarlledu. Wrth gwrs, nid
Ruth yw’r unig actores Gymreig o’r gyfres gan fod Joanna Page, Melanie Walters a Rob Brydon hefyd yn chwarae cymeriadau allweddol ynddi.
Yn ogystal â Gavin & Stacey, ysgrifennodd y seren o Sir Forgannwg y gyfres Stella sydd wedi ei leoli mewn pentref ffuglennol yn Ne Cymru. Daeth y gyfres i ben yn 2017 ond bu’n llwyddiannus a derbyniodd dair gwobr BAFTA Cymru yn 2013. Cafodd yr actores ei gwobrwyo gyda MBE yn 2014 am ei gwasanaeth i adloniant.
Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei hail nofel ac mae hi’n rhan o gyfres newydd fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C sy’n dilyn pump seleb wrth iddynt ddysgu Cymraeg.
Y Gorau o Gymru
words by: DAFYDD ORRITT design by: ELAINE TANG
Hoff Lyfr
Ers 2018, mae’r llyfr yma wedi bod ar feddyliau bawb ers i’r awdures Manon Steffan Ros ennill y fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Caerdydd, sef ‘Llyfr Glas Nebo’ Ychydig dros wythnos yn dilyn yr eisteddfod roedd ailargraffiad o’r llyfr yn cael ei baratoi, cyn yna i’r nofel ennill y wobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019. Llyfr sydd yn mynd a ni i fyd gwbl anghyfarwydd, byd oni ddim yn gallu ei ddychmygu cyn darllen y nofel arbennig hon. Mae ‘Llyfr Glas Nebo’ yn dilyn stori Mam, sef Rowena a’i phlant, Siôn a Branwen wrth iddynt ddod i arfer ac i ymdopi byw mewn byd yn dilyn ffrwydriaid niwclear. Cawn olwg ar fywyd llawn gobaith a marwolaeth yma, a hynny wedi ei ysgrifennu gan Siôn yn ei lyfr bach glas ar ôl i’w fam awgrymu ei fod yn syniad da i gofnodi’r erchylltra sydd o’i bywydau bellach. O’r gair cyntaf mae’r nofel yma yn nofel weledol, sydd yn lliwio lluniau hardd o berthynas a chariad teulu, ond hefyd erchylltra ei bywyd nhw. Yn sgil llwyddiant y nofel hon, mae bellach cynhyrchiad llwyfan yn seiliedig o’r nofel, gan Gwmni Theatr Fran Wen.
Hoff Gan
Mae sawl tiwn eiconig Cymraeg gân y mawrion Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Huw Chiswell i enwi rhai! Ond mae fy hoff gân Cymraeg i yn dod gan fand a enillodd Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau nol yn 2005, a sawl gwobr yn dilyn hynny, gan gynnwys ennill “Band Gorau” a “Band Byw Gorau” yn wobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009. Y band hwnnw yw Derwyddon Dr Gonzo, a’i chân ‘Bwthyn’ Mae’r band wedi ei ffurfio o 10 aelod, a rheini i gyd yn chwarae offeryn gwahanol fel drumiau neu sacsoffon. Er bod y band heb berfformio yn fyw efo’i gilydd ers 2011 (reunion yn fuan plîs!) Mae caneuon y band yma yn parhau i’w gael ei chwarae ym mhob ‘steddfod a pharti Cymraeg ar hyd y wlad! Maent yn disgrifio ei sŵn fel band ffync, ska, afro-beat Cymreig. Mae’n un o’r caneuon prin Gymraeg sydd gyda rhan dda er mwyn dawnsio yn wyllt mewn parti neu unrhyw le, ac mae’r dorf wastad yn mynd yn wyllt pan maent yn cael ei chware!
Hoff Le
Er bod hyn ychydig yn ‘basic’ ond wir, fy hoff le i yng Nghymru, ac yn y byd i gyd, yw Ynys Llanddwyn yn Ynys Môn. Fel y gwyddoch, mae’r ynys fechan hon yn cael ei gysylltu â Santes Dwynwen, sef nawsant cariadon Cymru. Ar yr ynys hon mae eglwys fechan a ffynnon lle fu Dwynwen, ac sydd yn cysylltu i’r chwedl o’r Mabinogi. Mae’r ynys wedi ei leoli ar ddiwedd traeth Niwbwrch, traeth hardd, gyda choedwigoedd yn mynd am filltiroedd yn cuddio’r traeth rhag gweddill y byd. Ym mhen draw’r ynys mae rhes o dai bach, oedd yn arfer cael eu defnyddio gan bysgotwyr a dau oleudy. Ceir nifer o ynysoedd bychan yn amgylchynu Ynys Llanddwyn, yr ynys fwyaf o’r rhain yw Ynys yr Adar. Wrth i chi sefyll ar Ynys Llanddwyn, mae’r golygfeydd o fynyddoedd Eryri yn amhrisiadwy, heb anghofio golygfeydd o’r Eifil i’r de a’r de-orllewin. Mae’r ynys hon yn brydferth drwy’r flwyddyn, ond ar ei gorau ar noson braf yn yr haf, a’r machlud yn cuddio tu ôl i’r môr - mae wir yn olygfa allan o ‘Mamma Mia’ ac mae teimlad Groegaidd wrth i’r haul ddisgleirio ar yr ynysoedd bychain o’i chwmpas.
Hoff Seleb
Fy hoff seleb i o Gymru yw neb llai na’r actores ryngwladol, Catherine Zeta-Jones! Yn enedigol o Abertawe, mae Catherine Zeta-Jones yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau y West End, Broadway ac ar y sgrin fawr ers ei bod hi yn ddim o beth! Mae Catherine Zeta- Jones wedi llwyddo yn ysgubol ym myd y celfyddydau yma ym Mhrydain a thu hwnt yn Hollywood, wrth iddi serennu yn rhai o’r ffilmiau mwya’ adnabyddus yn Hollywood, megis ‘The Mask of Zorro’ a ‘Oceans Tweleve’ heb anghofio ei rhannau mewn llawer o sioeau cerdd sydd wedi ymddangos ar y sgrin fawr, megis ‘Chicago’ a ‘Rock of Ages’. Mae Catherine Zeta-Jones yn yr un modd wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith ym myd y ddrama, gan gipio BAFTA, Oscar a Tony award! Yn 2010, cafodd Zeta-Jones ei phenodi yn ‘Commander of the order of the British Empire’ sef CBE, am ei chyfraniad i ffilm a theledu a hefyd am ei gwaith dyngarol, drwy gefnogi nifer o elusennau a mudiadau. Mae hi bellach yn briod a’r actor Americanaidd Michael Dogulas ac yn fam i ddau o blant!
Hoff Fwyd
Fy hoff fwyd Cymraeg i yw cacenni cri, ‘welshcakes’, neu bicen ar y maen! Mae’r cacenni bychain yma mor syml i’w goginio ac mor flasus efo paned yn y prynhawn. Dim ond tua hanner awr mae’r cyfan yn ei gymryd i’w baratoi a choginio, gyda’r amser paratoi yn cymryd mwy na’r amser i’w coginio! Mae rysáit cacen gri yn hawdd i’w ddilyn hefyd, dim ond siwgr, blawd, menyn, un wy a llefrith (neu llaeth i bobl o’r de) sydd angen arnoch i goginio. Gallwch hefyd cynnwys darnau bychain o siocled, neu rhesins yn eich mix - o brofiad personol, mae siocled llawer mwy blasus na rhesins! Cacenni cri gartref ydi’r gora’ heb os, felly er mwyn cefnogi busnesau lleol a Chymraeg, mae siop fach yn y farchnad fwyd yng Nghaerdydd sydd yn gwerthu sawl cacen gri ac yn ei goginio nhw yn ffres drwy’r dydd ar gyfer eu cwsmeriaid. Mae’r siop fach yn cynnig sawl blas gwahanol, o gacen gyffredinol syml gyda rhesins, i lemon curd, fanila a hyd yn oed siocled! Yn ychwanegol i hynny, maent yn gwneud cynigion arbennig! Ewch am dro i gefnogi busnes lleol ac i fwynhau blas ar Gymru!
words by: KATIE DUFFIN design by: JAMES BARKER
In Cardiff the SU is a prominent staple in the nightlife scene; whether it’s for Juice or YOLO, you’re bound to make your way up those infamous stairs at least once in your uni lifetime. But where do you go if you feel like it just isn’t for you, or if you just fancy a bit of a change? Cardiff is peppered with so many quirky little bars and clubs that you may not have heard about around campus, and there really is a place for everyone. Take your pick out of this lovely bunch — they might just end up being your favourite new haunts.
You might have heard about Blue Honey Local in Roath, but the original bar is hidden away in town just off of St Mary’s Street. Known as Sully’s Cafe in the day, in the night it transforms into the grooviest night cafe. Yes, it’s small, but that’s the beauty of it — go there a few weeks in a row and you’ll quickly strike up a rapport with the super-chill bar staff and devoted regulars dancing away between the tables. The tunes are always on point and can range from jazz, rock and roll, and indie, to disco, soul and everything in between. Wednesday night is always a real treat and the perfect alternative to the SU — karaoke night. Jot your name down with Scotty on the DJ set, have a shot of tequila and sing some Tom Jones at the top of your lungs with the rest of the room. This is a real diamond in the rough and will quickly become your second home.
Say it louder for the boys in the back — Clwb (not Welsh Club). If you’re an indie kid, this is the place for you. Clwb Ifor Bach is one of the best small music venues in the UK, and since its opening in 1983 it has housed world-famous artists like The Killers, Mark Ronson, Bombay Bicycle Club, The Strokes, Foals, and more. There are plenty of gigs on every week, and it’s likely you’ll see some amazing acts that’ll be taking over the world in years to come. It really is venues like this that make names like Arctic Monkeys and Catfish and the Bottlemen. If that kind of stuff isn’t for you though, Clwb also have their weekly Dirty Pop club night every Saturday. This night is made for anyone and everyone; the tunes are always banging and the ‘four cans for a tenner’ offer always stands. How can you go wrong?
You’ve probably heard of Tiny Rebel, with it’s home-brewed beer served all over the city and beyond. Perched at the bottom of Womanby Street, it’s home to some of the best craft beers and IPA’s around. Not only that, but it’s always bouncing and welcomes you with open arms. With a back room for chatting with mates over some pints and an upstairs venue that frequently hosts jazz nights and live bands, the vibe is always friendly and upbeat. If you’re any good on keys, you might even want to take advantage of the piano they have round back! Come here on a Friday or Saturday and you’re bound to have a good night.
A little on the pricier side but nevertheless a good time, Bootlegger is the perfect date place or Saturday night dance spot. Tucked away opposite Clwb with nothing more than an open door and some jazzy sounds floating out, you could easily miss this quirky little bar. With two for one offers on some of the best cocktails in Cardiff, and a cool old-school atmosphere, it’s always a great place to impress your friends with. You can relax with a jaffa cake espresso martini in the chilled out front room surrounded by low lighting and candles, or you can party it up on the dance floor round the back. Moreover, if you’re into jazz and soul music, there are often some amazing live bands playing here that’ll get you vibing. One of the best new editions to the Cardiff bar scene, Chance & Counters can be enjoyed any time of the day as it’s the city’s first ever board game café! With over 500 board games to choose from and four draught beer and cider lines, including two dedicated lines from the fantastic Tiny Rebel, what’s not to love? You can also chow down on an array of seasonal foods while you play, with a menu designed by Bib Gourmand acclaimed chefs. This charming café is open until midnight on weekends, which means you can drink over a game of Monopoly well into the evening — as long as you promise not to flip the board when you have to pay your pal £500 for landing on their hotel.
Pulse, where would we be without thou? If you’re getting sick of dancing like sardines in Live Lounge, head a little further down Queen Street to the best LGBTQ bar in Cardiff. With an upstairs bar and basement club, you can chat to the drag queens floating around or show off your best (or worst) moves every Wednesday, Friday and Saturday night. The music here is always sing-worthy — expect favourite party classics like Lady Gaga and Beyoncé, but don’t be surprised when a bit of EDM or house comes on. On Wednesdays, their student night Pow! means it’s only £2.50 for a double spirit and mixer, and it’s open until 6am so you can dance until dawn. The best thing about Pulse is the amazingly friendly atmosphere and happy vibes — you’ll always find someone to chat to or dance to ABBA with, so don’t be shy.