Mae Y Gwyll: Tirweddau Ceredigion yn gasgliad o luniau, traethodau a chipluniau o greu’r rhaglen deledu lwyddiannus Y Gwyll. Mae wedi cael ei olygu gan greawdwyr y rhaglen Ed Talfan ac Ed Thomas. Mae’r llyfr yn dwyn at ei gilydd luniau o’r tu ôl i’r camera o gynhyrchiad gyda lluniau du a gwyn syfrdanol o dirweddau Ceredigion, a dynnwyd gan David Wilson, y ffotograffydd o Orllewin Cymru. Mae yna un traethawd gan y nofelydd o Geredigion Caryl Lewis, yn dogfennu eu hymateb i dirweddau cyfoethog Ceredigion.
http://bit.ly/2ffKmhT