@YmchwilCymru Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
Y cylchgrawn sy’n rhoi lle amlwg i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Tudalen 16
‘Chwalwr codau’ Cymru’n gwneud ein hymweliadau â’r meddyg teulu’n fwy diogel Rydyn ni’n siarad â meddyg teulu ac ymchwilydd o Gymru sydd wedi ennill gwobrau am ddatblygu iaith gwbl newydd o godau i ddadansoddi camgymeriadau meddygol
Tudalen 18
Tudalen 20
‘Gwthio’r ffiniau’ i gyflawni ymchwil cyfnod cynnar yng Nghymru
Gwedd newidiol hyfforddiant ymchwil
Rydyn ni wedi bod y tu ôl i’r llenni yn y Cyfleuster Ymchwil Glinigol (CRF) yng Nghaerdydd a’r Bartneriaeth Ymchwil Cyfnod Cynnar Cymru Gyfan newydd (AWaRe), i gael gwybod mwy.
Cewch wybod am amrywiaeth y cyrsiau sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion ymchwilwyr ym myd newidiol ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
1
2 18 TPAGE U DAL2EN
Cynnwys
Calendar of events ‘Gwthio’r ffiniau’
TU DAL EN 1 4
Gosod y safonau
T U DAL EN 2PAGE 2 01
Calendr Digwyddiadau Featured Item Style
TU DAL EN 2 0
Gwedd newidiol hyfforddiant ymchwil
T U DA LEN 0 3
Rhagair Carys Thomas a Michael Bowdery, Cyd-Gyfarwyddwyr Interim, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
T U DA LEN 0 4
T U DAL EN 1 4
Newyddion
Gosod y Safonau
Newyddion am ymchwil o ledled Cymru
Y diweddaraf oddi wrth y tîm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
T U DA LEN 1 6
T U DAL EN 1 8
‘Chwalwr codau’ Cymru’n gwneud ein hymweliadau â’r meddyg teulu’n fwy diogel
‘Gwthio’r ffiniau’ i gyflawni ymchwil cyfnod cynnar yng Nghymru
gwella diogelwch cleifion o gwmpas y byd
Mae ymchwil cyfnod cynnar sy’n torri cwys newydd nawr ar gael fel mater o drefn yng Nghymru
T U DA LEN 2 0
T U DAL EN 2 2
Gwedd newidiol hyfforddiant ymchwil
Calendr Digwyddiadau
Sut y mae gwaith Dr Carson-Stevens yn
Cewch wybod sut y mae hyfforddiant ymchwil yng Nghymru’n addasu ac yn ehangu
2
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
Rhagair C
roeso i’r pumed rifyn o @YmchwilCymru. Mae llawer wedi digwydd ers rhifyn diwethaf y cylchgrawn, gan gynnwys adolygiad â ffocws ar rai o’n gweithgareddau i ddarparu sail ar gyfer cynllun strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2020 - 2025. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi bwrw ymlaen â galwadau ariannu newydd ar gyfer ein Grantiau Ymchwil Iechyd, Cymrodoriaethau Gofal Cymdeithasol, cynllun Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd Cymru a Dyfarniadau Amser Ymchwil Glinigol. Fe fyddwn ni’n penodi ein rownd nesaf o uwch arweinwyr ymchwil yn y gwanwyn, ac rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw chwarae rhan allweddol yn hybu’r ymdrech ymchwilio yng Nghymru ac yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil yng Nghymru trwy gynllun mentora a hyfforddi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae ein hadroddiad blynyddol, sydd wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar ac sy’n rhoi lle amlwg i enghreifftiau o gyflawniadau hynod Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dangos y camau mawr rydyn ni wedi’u cymryd tuag at gyflawni ein gweledigaeth o Gymru fel gwlad a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei hymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ragorol. Mae ehangder ac amrywiaeth y gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws ein cymuned ymchwil ffyniannus hefyd i’w weld yn yr erthyglau yn y cylchgrawn hwn.
Mae gwaith cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn parhau i fod yn ganolog i bopeth a wnawn ac rydyn ni’n falch o weld y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd yn cael eu rhoi ar waith ar draws y mentrau rydyn ni’n eu hariannu. Fe fyddwn ni’n datblygu’r defnydd o’r Safonau, i sicrhau ein bod yn parhau i wella’r ffordd y mae’r rheini sy’n cael eu hariannu’n cynnwys ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd fel rhan graidd o’u gwaith. Erbyn hyn, mae gan Doeth am Iechyd Cymru 27,500 o bobl wedi cofrestru i helpu i ddarparu sail ar gyfer triniaethau newydd, polisi iechyd a gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol ymhell i’r dyfodol. Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil sy’n gallu dod â newidiadau go iawn i’w bywydau nhw ac i fywydau pobl eraill. Sicrhau y bydd ymchwil yn addas yn y dyfodol oedd thema ein cynhadledd flynyddol lwyddiannus ym mis Hydref, ac fe fyddwn ni’n parhau i sicrhau bod y gwaith rydyn ni’n ei ariannu’n addas ar gyfer y dyfodol, gan ganiatáu i ni ateb y cwestiynau mwyaf heriol o ran iechyd a gofal yn y degawdau sydd ar ddod. Fe fyddwn ni’n cadw at ein hymrwymiad i alwad agored ar gyfer dyfarniadau seilwaith newydd yn gynnar yn 2019, ac yn parhau
i weithio i sefydlu gwasanaethau ymchwil di-dor ‘Cymru’n Un’ ar gyfer noddwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd. Fe allwch chi ddisgwyl gweld ymarferion blaenoriaethu ymchwil newydd a gweithgarwch lledaenu wrth i ni weithio i godi’r proffil mwy fyth a chael mwy o bobl i fanteisio ar yr ymchwil rydyn ni’n ei hariannu. Fe fydd rhaglenni allweddol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) yn dal i fod ar gael, gyda chyfleoedd newydd i ymchwilwyr gofal cymdeithasol ennill grantiau trwy’r cynlluniau hyn. Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn o ddathliadau, gan ddathlu pen-blwydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n dair oed a hefyd pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, fe allwn ni fod yn falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma ac edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn 2019. Fe hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ichi, a diolch ichi i gyd am eich ymroddiad a’ch ymrwymiad i gynhyrchu ymchwil iechyd a gofal ragorol sy’n gwneud gwir wahaniaeth i iechyd a llesiant.
Carys Thomas a Michael Bowdery Cyd-Gyfarwyddwyr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
3
Newyddion
U N ED Y M CH W IL DIABET ES CY MR U
Newyddion am ymchwil o ledled Cymru
Tabledi’n disodli pigiadau ar gyfer cyffur diabetes math 2 Fe allai un bilsen y dydd ddisodli therapi pigiadau ar gyfer pobl â diabetes math 2, diolch i astudiaethau ymchwil byd-eang sy’n cynnwys cyfranogwyr a recriwtiwyd trwy’r Cyd-Gyfleuster Ymchwil Glinigol yn Abertawe, ac sydd wedi cadarnhau effeithiolrwydd a diogelwch fformiwleiddiad newydd o therapi peptid. Mae diabetes math 2 yn golygu nad yw’r corff yn gallu rheoli glwcos yn y gwaed, gan achosi problemau iechyd difrifol. Mae therapi peptid ar gyfer y clefyd yn defnyddio fersiynau synthetig o foleciwl bach o’r enw Peptid 1 Tebyg i Glwcagon (cydweddau GLP-1). Mae’r therapi hwn yn effeithiol, gan gynnig opsiwn triniaeth newydd, ond mae asid y stumog yn dinistrio’r moleciwlau hyn yn gyflym, sy’n golygu bod angen pigiadau rheolaidd – rhywbeth sy’n cyfyngu ar nifer y rhai sy’n manteisio arno ac yn parhau i’w ddefnyddio. Mae technoleg newydd wedi caniatáu i un o’r meddyginiaethau hyn, o’r enw Semaglutide, oroesi traul a chael ei rhoi ar ffurf un dabled y dydd.
Y G A N O LFAN GENEDL AET H O L AR GY F ER Y M CH W IL AR IECH Y D A LLES IA N T Y BO BLO GAET H
Fe gyflwynodd yr Athro Steve Bain, Arweinydd Uned Ymchwil Diabetes Cymru, siwrnai PIONEER mewn symposiwm annibynnol a oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau’r astudiaethau yng nghyfarfod y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Astudio Diabetes eleni yn Berlin. Meddai: “Er y cydnabyddir yn eang bod cydweddau GLP-1 yn driniaeth ddiogel ac effeithiol, nid yw llawer o gleifion yn y DU wedi manteisio arnyn nhw gan fod yn well ganddyn nhw osgoi therapïau pigiadau. Os bydd yr opsiwn meddyginiaeth i’w llyncu ar gael, mae’n fwy tebygol o lawer y bydd yn cael ei ddefnyddio.”
iddyn nhw ar gyfer argymhellion i ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau’r rheini sy’n llunio polisi a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Fe ddechreuodd Dr Kelly Morgan a’r tîm ymchwil edrych ar segurdod yn 2016, gan gymharu data a ddarparwyd gan bron 7400 o fyfyrwyr o 67 ysgolion ynglŷn â’u lefelau gweithgarwch, ochr yn ochr â data o ysgolion, â diffyg ymarfer corff ymhlith pobl ifanc 11 – 16 oed.
Mae ymchwil yn rhoi mewnwelediad pwysig i segurdod ymhlith ieuenctid Mae polisi iechyd Cymru ar blant a phobl ifanc yn defnyddio darganfyddiadau o arolwg myfyrwyr parhaus y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR). Fe gyfrannodd eu data at adroddiad Plant Egnïol Iach Cymru 2018, a gyflwynwyd mewn ymchwiliad diweddar i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc. Mae Plant Egnïol Iach Cymru’n darparu cardiau cofnodi ar iechyd pobl ifanc yng Nghymru, ac mae ymchwil NCPHWR yn rhoi mewnwelediadau seiliedig ar dystiolaeth
4
Bu cyfres PIONEER o astudiaethau byd-eang yn cymharu’r dabled â thriniaethau gwrthdiabetes, gyda chanlyniadau trawiadol. Cafwyd adroddiadau ar ddata o PIONEER 1-5, ac mae PIONEER 6, yn edrych ar ddiogelwch cardiofasgwlaidd y dabled, yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd, gyda PIONEER 7 ac 8 hefyd ar y gweill.
“Mae ein darganfyddiadau’n darparu mewnwelediad pwysig i lefelau gweithgarwch y grŵp oedran hwn, a gellir eu defnyddio i alinio gwaith gwella iechyd â busnes craidd ysgolion, ac i ddadlau dros weithredu ymyriadau cyffredinol yn hytrach na rhai sy’n targedu. “Mae ein data diweddaraf yn dangos bod segurdod dal yn rhemp. Mae angen hybu gweithgarwch corfforol a lleihau diffyg ymarfer corff os ydyn ni eisiau gwella canlyniadau iechyd a llesiant i bobl ifanc,” meddai Dr Morgan. Caiff canlyniadau’r arolwg eu cyhoeddi pan fydd Plant Egnïol Iach Byd-eang yn cael ei lansio yn Adelaide ar 27ain Tachwedd 2018, ac mewn adroddiad cenedlaethol yng ngwanwyn 2019.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
B WRD D I E C HYD A D DYS G U POWYS
Yn gwella adferiad ar gyfer oedolion ifanc y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw Mae astudiaeth gyntaf o’i bath yn y byd, yn ymchwilio i sut y mae strôc yn effeithio ar ffordd oedolion ifanc o gerdded, wedi bod yn mynd rhagddi ar draws chwech o Fyrddau Iechyd yng Nghymru. Bu’r astudiaeth yn dadansoddi patrwm cerdded i ddeall sut yr effeithir ar symudiad unigolyn, gan ganiatáu graddoli eu hanhawster wrth gerdded a chael adborth personol er mwyn gallu cynllunio therapi ailsefydlu. Recriwtiwyd 50 o bobl roedd strôc wedi effeithio arnyn nhw, a 26 o bobl yn y grŵp ‘gwyliadwriaeth’ heb unrhyw hanes o strôc, i gymryd rhan mewn sesiwn brofion. Fe ganiataodd yr offer diweddaraf i’r ymchwilwyr asesu’n union sut roedd pob unigolyn yn cerdded, gan olrhain symudiad gwahanol rannau o’r corff a chyfrifo faint o rym roedden nhw’n gallu ei roi i mewn i’r llawr wrth gerdded. Bu’r sesiwn brofion hefyd yn monitro faint o ocsigen roedd y
Y labordy osgo wrth symud cyfranogwyr yn ei ddefnyddio dros dair munud yn cerdded yn ddi-stop, i gael gweld pa mor effeithlon roedden nhw’n cerdded. Nod yr ymchwilwyr yw darparu adroddiad adborth unigryw ar gyfer pob claf, gan gynnwys adroddiad llawn ar osgo, trwy gyfuno’r canlyniadau o’r ddau brawf. Trwy gymharu eu patrwm symud unigol â phatrwm symud rhywun cyfartalog y mae strôc wedi effeithio arno a rhywun cyfartalog nad yw wedi effeithio arno, fe ellid dwyn sylw at unrhyw wahaniaethau sylweddol a helpu i wella cynlluniau triniaethau yn y dyfodol. Meddai Dr Hannah Jarvis, ymchwilydd arweiniol o Brifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n gweithio ym Mwrdd
Iechyd Addysgu Powys, “Y nod tymor hir ydy datblygu rhaglen ailsefydlu seiliedig ar dystiolaeth, â’r bwriad o wella ffordd o gerdded oedolion ifanc sydd wedi cael strôc, a’u galluogi nhw i ddychwelyd i wneud y pethau y maen nhw’n eu mwynhau fwyaf. “Mi hoffwn i ddiolch i’r timau NiwroFfisiotherapi a’r timau Y&D ledled Cymru am eu cydweithrediad a’u gwaith yn recriwtio ac yn hwyluso’r prosiect hwn.” Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Jarvis, yr Athro Neil Reeves, Dr Steven Brown a Mr Samuel Wisdish (Prifysgol Metropolitan Manceinion) ac ariannwyd hi gan Gronfa Arloesi Ymchwil Strôc Cymru.
C A N OLFA N P RI M E C Y M R U A C HA N OLFA N E CO NO M EG IECH Y D A B ERTAW E
PRIME a SCHE yn helpu i wella gwasanaethau gofal cymunedol Am flynyddoedd, roedd taith gron o 86 milltir bob mis i’r clinig llygaid wedi rhoi mwy a mwy o straen ar Jim a’i wraig Mary, y ddau yn eu saithdegau hwyr, wrth i Jim geisio cadw ei olwg yn ei lygad dde a’i annibyniaeth, ag yntau wedi colli ei olwg yn ei lygad chwith o ganlyniad i Ddirywiad Macwlaidd Gwlyb Sy’n Gysylltiedig ag Oedran. Mae gwasanaethau llygaid mewn ysbytai’n wynebu pwysau ar y ddau begwn, sef galw cynyddol a ddim digon o gapasiti. Er mwyn gallu darparu triniaeth a gofal effeithiol a hygyrch i bobl fel Jim, mae angen newid y ffordd o ddarparu gwasanaethau. Yn 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru ryddhau £500,000 i ariannu gwasanaethau
braenaru a ddaeth â gofal am bobl â Dirywiad Macwlaidd Gwlyb Sy’n Gysylltiedig ag Oedran i leoliadau yn y gymuned. I Jim a Mary, roedd hyn yn golygu i’w hapwyntiadau rheolaidd gael eu symud i’w hysbyty cymunedol lleol. Mewn gwaith gwerthuso gwasanaeth gan Ganolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (PRIME), ac economegwyr iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fe aseswyd pedwar o’r gwasanaethau braenaru hyn y mae pedwar bwrdd iechyd yn eu darparu.
Ar sail y gwerthusiad o’r gwasanaethau braenaru, fe wnaeth y tîm ymchwil saith argymhelliad ynglŷn â’r ffordd o ddarparu gwasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol, a’u cynaliadwyedd. Caiff yr argymhellion, sydd â’r nod o gynyddu capasiti trwy symleiddio siwrnai’r claf, eu cyhoeddi cyn bo hir. Os y bydd yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith, fe ddylen nhw wella profiad y claf ar gyfer pobl fel Jim a Mary, gan ganiatáu iddyn nhw dreulio llai o amser yn teithio i glinigau gorbrysur a mwy o amser yn gwneud y pethau y maen nhw’n dewis eu gwneud.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
5
Y G A N O L FA N GE NE D L A ET H O L A R GY F ER I E C HYD M E D DW L
IECH Y D CY H O EDDU S CY M R U
Mae’n Amser i Symud yn Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Jack Underwood
Ymchwilio i geneteg oedolion â diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth Er y bu datblygiadau mewn gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer oedolion sydd, i bob golwg, â symptomau Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn ystod y degawd diweddaf, mae ein dealltwriaeth o’u cyflwr a’u nodweddion genetig wedi bod ar ei hôl hi o’i chymharu â’n dealltwriaeth o blant â’r anhwylder.
Mae cynllun Amser i Symud Iechyd Cyhoeddus Cymru’n blaenoriaethu iechyd a llesiant ei gyflogeion trwy roi amser ar dâl bob wythnos i wneud gweithgaredd corfforol o’u dewis.
cael ei gwerthuso, dan arweiniad Prifysgol Bangor, gan fesur lefelau gweithgarwch corfforol, ymddygiad lle mae diffyg ymarfer corff, mynegai màs y corff a chanran y braster yn y corff.
Mae symud mwy yn gallu helpu i leihau nifer yr achosion o broblemau iechyd eang eu hystod, a nod yr astudiaeth yw deall a fydd caniatáu i staff gael amser ar dâl yn ystod yr wythnos weithio i fod yn gorfforol egnïol yn arwain at wella’u hiechyd a’u llesiant.
Nod y fenter yw codi ymwybyddiaeth o fuddion buddsoddi mewn cyflogeion ac, os y bydd yn llwyddiannus, fe allai arwain at sefydliadau eraill yn ei mabwysiadu. Mae yna ryw 800 o staff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y cohort, a chaiff canlyniadau’r gwerthusiad eu cyhoeddi’r
Dros gyfnod o 12 mis, fe fydd y fenter yn
flwyddyn nesaf.
Mae ASD mewn oedolion yn disgrifio amrywiaeth o symptomau sy’n effeithio ar alluoedd cymdeithasol, ymddygiadol a chyfathrebu. Nawr mae Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) wedi chwarae rhan allweddol mewn recriwtio cyfranogwyr i fod yn rhan o astudiaeth yn edrych ar nodweddion genetig oedolion â diagnosis o ASD. Bu Dr Jack Underwood a’i dîm yn casglu ac yn dadansoddi data o holiaduron, cyfweliadau a DNA. Yn ôl y darganfyddiadau, roedd yna faich sylweddol uwch o amrywiolion genetig cyffredin awtistiaeth yn y grŵp ASD oedolion o’i gymharu â’r grŵp gwyliadwriaeth. Darganfuwyd bod gan 90% o’r rheini ag ASD o leiaf un broblem iechyd meddwl arall, sef iselder a gorbryder yn bennaf. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o gael poenau pen meigryn, yn enwedig ar y cyd ag epilepsi. Mae’r astudiaeth yn darparu gwybodaeth bwysig am ASD oedolion y gellir ei defnyddio i ddarparu sail ar gyfer arfer clinigol a chwnsela cleifion. Mae NCMH yn gweithio’n agos â sefydliadau fel y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i helpu oedolion â’u diagnosis. Mae tîm Dr Underwood yn gobeithio y gall darganfyddiadau’r gwaith hwn gyfrannu at well dealltwriaeth o ASD, a helpu i ddarparu triniaethau arbenigol ar gyfer oedolion ag ASD sy’n cael anawsterau yn eu bywyd bob dydd.
Staff Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cymryd rhan yn Amser i Symud
Amddiffyn yfory trwy helpu heddiw Mae gennych chi gyfle unigryw i fod yn rhan o siapio iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Cofrestrwch nawr i gymryd rhan yn astudiaeth iechyd fwyaf Cymru!
Cofrestru www.healthwisewales.gov.wales healthwisewales@cardiff.ac.uk 0800 9 172 172 @HealthWiseWales
6
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
“Trwy gynnig cyngor arbenigol ar roi’r gorau i ysmygu, yn unol â’r driniaeth safonol, rydyn ni’n gallu gwella cyfraddau rhoi’r gorau iddo sy’n arwain at leihau cymhlethdodau wrth drin cleifion a gwella goroesiad ac ansawdd bywyd. Fe fydd hyn hefyd yn arwain at lai o gostau i’r GIG o ran costau fferyllol, cyfnodau’n aros yn yr ysbyty fel cleifion mewnol a chostau staff.
BWR D D I E C HYD P RI F YS G O L H YWE L D DA
Chwalu’r rhwystrau – ymchwil canser yr ysgyfaint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Mae ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn helpu i gynyddu diagnosis cynt o ganser yr ysgyfaint, sef y clefyd sy’n achosi’r mwyafrif o farwolaethau o ganser yn y DU, gyda mwy na 30,000 o farwolaethau’r flwyddyn. Er gwaethaf datblygiadau mawr mewn triniaethau, prin iawn fu’r gwelliant yn nifer y rhai sy’n goroesi ar ôl canser yr ysgyfaint dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda mwy nag 85% o bobl yn marw o fewn blwyddyn o’r diagnosis. Mae datgelu’r clefyd yn gynt yn dal y canser yn gynt, gan o bosibl ei gwneud hi’n haws i’w drin, ac mae’n golygu bod yna fwy o opsiynau triniaeth ar gael i gleifion. Nod y Treial Ffactorau sy’n Gysylltiedig â Chanser yr ysgyfaint (FACT) yw deall y rhesymau pam fod rhai pobl yn mynd i weld eu meddyg â symptomau’n gynt nag eraill. Fe recriwtiodd y tîm ymchwil, dan arweiniad
y prif ymchwilydd Dr Rachel Gemine, 257 o gleifion o glinigau arbenigol yr ysgyfaint yng Nghymru. Gofynnwyd i bobl gwblhau holiaduron am eu symptomau a’u siwrnai tuag at gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Bu’r ymchwilydd Lucy Hill hefyd yn eu cyfweld i edrych ar y rhwystrau roedden nhw o bosibl wedi’u wynebu rhag cael diagnosis cyflym. Yn ôl y darganfyddiadau, roedd oedran, cyflyrau iechyd eraill, yr amser a gymerwyd i gael apwyntiad, pellter i’r feddygfa a pharhad gofal cleifion yn rhwystrau rhag gweld y meddyg a allai arwain at oedi wrth wneud diagnosis. Dywedwyd hefyd bod peidio â bod eisiau llethu’r meddyg teulu neu ddangos gwendid trwy redeg at y meddyg yn rhesymau cryf dros osgoi ceisio help. O’r darganfyddiadau hyn, mae’r tîm yn parhau i weithio ar nifer o astudiaethau i helpu i annog diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint. Er enghraifft, annog fferyllwyr i nodi’r rheini â symptomau posibl y clefyd, a’u helpu nhw i gael cymorth yn gynt. Mae’r tîm hefyd yn mynd i’r afael ag arferion ysmygu cleifion â chanser yr ysgyfaint; er bod un ymhob tri o bobl â diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn ysmygwyr, dim ond 16% sy’n rhoi’r gorau i ysmygu yn y tri mis ar ôl y diagnosis. Mae eu hastudiaeth sy’n edrych ar farn cleifion ynglŷn â rhwystrau rhag rhoi’r gorau i ysmygu ar ôl cael diagnosis o ganser
Mae’r gwasanaeth hwn sydd wedi’i ddechrau yng Nghymru am gost isel yn cael ei estyn i gohortau canser eraill ac mae’r gwasanaeth yn dal i gael ei werthuso. Mae’n rhoi cyfle i ailgynllunio gwasanaeth yn helaeth ac mae modd ei roi ar waith yn syth ac mae’r goblygiadau’n eang. Mae modd rhoi’r fenter ar waith mewn unrhyw system gofal iechyd unrhyw le yn y byd, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei gosod yn gadarn ar y map am driniaeth a gofal anadlol sy’n newid arfer.” Dr Rachel Gemine, rheolwr grant ac arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
yr ysgyfaint, a hefyd y pethau sy’n hwyluso rhoi’r gorau iddo, yn rhan o raglen waith sy’n gysylltiedig â’r treial rhyngwladol, LungCAST, dan arweiniad yr Athro Keir Lewis, arweinydd arbenigedd anadlol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dyma’r cohort mwyaf yn y byd sy’n edrych ar effaith uniongyrchol a thymor hir parhau i ysmygu neu roi’r gorau iddo ar oroesiad, ansawdd bywyd a chymhlethdodau wrth drin y clefyd. Yn ôl cleifion, roedd diffyg cymorth, pwysau o ran apwyntiadau ysbyty ac ofn methu yn rhesymau pam roedden nhw’n methu â rhoi’r gorau i ysmygu. Gyda chymorth Rhwydwaith Canser Cymru, mae’r tîm ymchwil wedi datblygu gwasanaeth arbenigol rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer cleifion â chanser er mwyn cael cynifer â phosibl i roi’r gorau iddo a gwella canlyniadau i gleifion.
Ymchwil a Datblygu Hywel Dda yn ennill gwobr am Arloesi Fe enillodd adran Meddygaeth Anadlol ac Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y wobr am Ragoriaeth Ymchwil yn y GIG am LungCAST yng ngwobrau Arloesi MediWales ar 4 Rhagfyr. Fe dderbyniodd Dr Keir Lewis, arweinydd arbenigedd anadlol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Dr Rachel Gemine, rheolwr grant ac arloesi yn y Bwrdd Iechyd, y wobr a gyflwynwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Grŵp GX yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Meddai Rachel: “Braint o’r mwyaf yw ennill y Wobr am Ragoriaeth Ymchwil...Fe hoffen ni ddiolch yn fawr i’r holl gleifion a staff ledled y DU sydd wedi chwarae rhan yn yr astudiaethau hyn, a diolch i chi, MediWales, am gydnabod eu gwaith caled a’u hymroddiad.”
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
7
B WR D D I E C H YD P RIF YS G O L AN EUR I N BE VA N
Ymchwil Rhewmatoleg yn dychwelyd Mae ymchwil rhewmatoleg wedi’i hadfywio yn Ysbyty Nevill Hall, dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, diolch i ymdrechion nyrs ymchwil. Dros y blynyddoedd diwethaf, roedd pwysau clinigol a blaenoriaethau ar gyfer yr ymgynghorwyr a’r arbenigwyr nyrsio clinigol sy’n arwain ymchwil rhewmatoleg yn Ysbyty Nevill Hall wedi gweld yr ymchwil honno’n cael ei rhoi o’r neilltu. O’r herwydd, roedd yna ôl-groniad o waith dilynol â’r rhai oedd wedi cymryd rhan mewn ymchwil, a diffyg gwaith recriwtio i’r gofrestrfa rewmatoleg, sef astudiaeth ymchwil lle mae effeithiau tymor hir triniaethau ar iechyd cleifion yn cael eu monitro.
Fe newidiodd hyn i gyd yn 2016, pan ddaeth Anna-Roynon Reed, sef nyrs gronfa heb unrhyw brofiad o ymchwil neu’r maes clefyd, i mewn i glirio’r ôl-groniad. Fe dderbyniodd Anna hyfforddiant penodol ar gyfer nyrsys ymchwil cronfa hefyd oddi wrth dîm hyfforddi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a oedd yn cynnwys Arfer Clinigol Da, Cydsynio Deallus, Dogfennau Hanfodol a sesiwn ymsefydlu fer i ddod i adnabod y tîm cyflenwi ymchwil. Fe ddatblygodd Anna ei gwybodaeth am y gwasanaeth yn gyflym, a hefyd sut y gellid integreiddio ymchwil ag ef. Meddai: “Cyn y gallwn i hyd yn oed dechrau rhoi sylw i’r gwaith dilynol, roeddwn i’n teimlo’i bod hi’n bwysig fy mod i’n deall y gwasanaeth yn well. Mi drefnais i ddilyn yr arbenigwyr nyrsio clinigol a’r ymgynghorwyr yn eu clinigau cleifion allanol, mi weithiais sifft gysgodi yn yr uned ddydd rhewmatoleg, ac mi es ati i feithrin perthynas â’r staff.” Trwy ddeall sut roedd y gwasanaeth yn gweithio, roedd Anna’n gallu nodi’r ffordd orau i wahodd cleifion i gymryd rhan yn y gofrestrfa. Fe helpodd hefyd â’r gwaith dilynol gan fod ganddi bellach syniad o’r llwybr roedd y cleifion yn ei ddilyn wrth i’w
clefyd ddatblygu. Dros amser, mae hi wedi clirio ôl-groniad o ddeng mlynedd o waith dilynol. Cafodd Anna gymorth nyrsys ymchwil, o wasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac, yn anad dim, aelodau o’r tîm rhewmatoleg. “Heb eu cymorth nhw, mi fuase hi wedi bod yn anodd i mi wneud fy swydd,” esbonia Anna. Mae Anna nawr yn ben ymchwilydd nyrsio ar gyfer yr astudiaeth yn Ysbyty Nevill Hall, ac mae’r tîm yn rheolaidd ar y brig o ran nifer y rhai y maen nhw’n eu recriwtio i’r gofrestrfa, gan ennill y wobr am recriwtio mwy o gyfranogwyr nag unrhyw un arall ym mis Hydref 2018.
Anna Roynon-Reed
Y GA N O L FA N GE NE DLA ETH O L A R GY F ER IECH Y D M EDDW L ar gyfer Astudiaethau Straen Wedi Trawma (ISTSS), ac fe allen nhw arwain at gwtogi ar amseroedd aros y GIG ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma ac at fwy o bobl yn cael gafael ar y cymorth iawn. “Mae yna ddigon o dystiolaeth nawr i argymell ymyriadau ar y we y mae therapyddion yn eu harwain gan ddefnyddio therapi ymddygiad gwybyddol â ffocws ar drawma fel triniaeth ar gyfer oedolion â PTSD,” esbonia’r Athro Jon Bisson, pen ymchwilydd yn y Grŵp Ymchwil Straen Wedi Trawma ym Mhrifysgol Caerdydd a chadeirydd y pwyllgor arbenigwyr a ddatblygodd y canllawiau. Yr Athro Jon Bisson ac aelodau o’r pwyllgor arbenigwyr yn ystod lansio’r canllawiau newydd yn Washington
Canllawiau rhyngwladol newydd ar drin PTSD Mae ymchwil dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) wedi darparu sail ar gyfer canllawiau newydd â’r bwriad o roi therapi effeithiol ar gyfer straen wedi trawma i bobl, a hynny’n gyflymach. Yn ôl yr amcangyfrifon, mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) y mae digwyddiadau trawmatig, fel damweiniau neu ymosodiadau wedi’i achosi, yn effeithio ar 4.6 miliwn o bobl ledled y DU. Mae’r effeithiau’n gallu bod yn ddifrifol, gan gynnwys ôl-fflachiadau drosodd a 8
thro, breuddwydion neu hunllefau, colli cymhelliant ac ofnusrwydd. Yn anffodus, mae niferoedd cyfyngedig y therapyddion sydd wedi’u hyfforddi i ddelio â PTSD yn golygu bod amseroedd aros o 18 mis neu fwy yn gyffredin. Cynhaliwyd astudiaeth RAPID dan arweiniad NCMH (sef hap-dreial wedi’i reoli o raglen hunangymorth tywysedig â ffocws ar drawma o’i chymharu â therapi ymddygiad gwybyddol â ffocws ar drawma unigol, ar gyfer anhwylder straen wedi trawma), ac mae’r dystiolaeth hyd yma’n awgrymu bod offeryn hunangymorth ar-lein yn gallu bod mor effeithiol â therapi wyneb yn wyneb. Ac mae hyn nawr wedi darparu sail ar gyfer canllawiau rhyngwladol newydd. Datblygwyd y canllawiau gan y Gymdeithas Ryngwladol
Ychwanegodd yr Athro Julian Ford, llywydd ISTSS: “Fe fydd y gwaith rhagorol...yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl y mae digwyddiadau trawmatig wedi effeithio arnyn nhw. Mae’n wych gweld cymaint o ymyriadau newydd addawol i atal a thrin PTSD. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu atal pob digwyddiad trawmatig, ond mae gennon ni fwy o ddulliau nawr i helpu pobl i ddelio’n effeithiol ag effaith seicolegol digwyddiadau trawmatig. Mae’r canllawiau newydd ar gael ar wefan ISTSS.
Cafwyd erthygl ar astudiaeth RAPID yn Rhifyn tri o gylchgrawn @YmchwilCymru. Gallwch chi ddarllen mwy am yr astudiaeth yma.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
C A N OLFA N YM C HW I L H EN EID D IO A D E ME NT I A / YS GO L Y M CH W IL GOFAL C YM D E I T H A S O L
ENRICH yn cyfoethogi ymchwil mewn cartrefi gofal
Mae rhwydwaith ymchwil gofal cymdeithasol newydd wedi’i lansio yng Ngogledd Cymru â’r nod o ddarparu mwy o gyfleoedd i gynnal ymchwil newydd ac arloesol mewn cartrefi gofal.
Ar hyn o bryd, mae cymorth i gyflenwi ymchwil mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, yn enwedig cartrefi gofal, yn llai datblygiedig o’i gymharu â’r cymorth mewn lleoliadau gofal iechyd eraill, sy’n golygu bod y grŵp hwn mewn perygl o gael ei amddifadu o gyfleoedd ymchwil.
“Ystyrir mai staff cartrefi gofal ydy’r rhai sy’n arbenigo mewn ymchwil. Mae staff yn aml yn nodi meysydd i’w gwella, yn mynd ati i roi cynnig ar ddull gwahanol o weithio ac yn newid arfer. Dyma, yn ei hanfod, ydy sylfaen ymchwil,” esbonia Stephanie Watts, cydlynydd ENRICH.
Caiff cynllun Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru ei westeio ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru i greu rhwydwaith o gartrefi gofal sy’n barod i ymgymryd ag ymchwil, gyda nifer o astudiaethau’n mynd rhagddyn nhw dan y cynllun ledled Cymru.
Fe lansiwyd ENRICH Cymru yn Ne Cymru hefyd yn gynharach eleni, gyda 18 cartref gofal wedi cofrestru ers i’r rhwydwaith ddechrau.
Mae hyn yn cynnwys astudiaeth sydd wedi agor yn ddiweddar i weld sut y byddai pobl â dementia ac anableddau dysgu’n dewis dysgu. Mae’r cyfranogwyr yn treialu dau ddull o ddysgu er mwyn penderfynu pa un sydd fwyaf gwerthfawr wrth gefnogi pobl sydd â diagnosis o dementia. Mae’r astudiaeth wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio, a bydd yn manteisio ar waith rhwydwaith ENRICH.
Aeth y rhai a fynychodd ar daith rithwir o gwmpas cartref gofal, ei amglychedd a’i gymuned er mwyn sbarduno trafodaeth ar feysydd i ymchwilio iddyn nhw a’u datblygu.
Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Effaith Ymchwil 2019! Beth am roi lle amlwg i’r staff diwyd, uchel eu cyflawniad o wasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth i waith ymchwil a datblygu yng Nghymru? Rydyn ni’n apelio atoch chi i enwebu unigolyn neu dîm sy’n haeddu cael ei gydnabod ar gyfer Gwobr Effaith Ymchwil 2019. Bydd tair gwobr yn cael eu cyflwyno yn y digwyddiad dan y categorïau ‘cyhoeddus’, ‘cymuned ymchwil’ a ‘staff’. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn y digwyddiad Cefnogi a Chyflenwi ar 14 Mawrth 2019 yn Jury’s Inn, Caerdydd. I enwebu unigolyn neu dîm, llenwch y ffurflen ar-lein hon nawr. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 17:00 ar 15 Chwefror 2019.
Ydych chi wedi cofrestru i gael ein bwletin wythnosol? Yn cynnwys: newyddion, digwyddiadau, cynlluniau ariannu, swyddi gwag a chyrsiau hyfforddi.
I gofrestru ewch i: Bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
9
PA RC GE NE T E G C YM R U
Yn datblygu’r cam nesaf i ddiagnosteg genomeg yng Nghymru Gallai’r ffaith bod Cymru’n cymryd rhan mewn prosiect sy’n torri cwys newydd drawsnewid bywydau 75,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw â chlefyd prin lle nad oes diagnosis iddo, sy’n golygu nad oes dim neu fawr ddim cynnydd wrth drin y symptomau a’r ansicrwydd ynglŷn â beth sydd yn eu haros. Un teulu sy’n gobeithio manteisio arno yw teulu plentyn dwyflwydd oed sydd wedi dioddef profion genetig parhaus mewn ymgais aflwyddiannus i nodi’r hyn sydd wedi achosi ei anabledd deallusol, i ddeall yr effaith bosibl ar ei fywyd ac efallai i agor y drws i driniaeth. Cyn hyn, mae’r rhieni wedi anfon samplau genetig i Ewrop yn y gobaith o gael diagnosis ac ennill rhywfaint o ddealltwriaeth o symptomau eu plentyn a’u rheoli. Nawr, diolch i’r ffaith bod Cymru’n cymryd rhan yn y Prosiect 100,000 o Genomau, maen nhw ac eraill yng Nghymru y mae clefyd prin yn effeithio arnyn nhw’n cael y cyfle i gadwyno’u genomau i gyd. Mae’n bosibl y byddai dadansoddi’r genom cyfan am
B WRD D I E C H YD P RI FYS G O L B ETS I C A DWAL A D R
Canolfan ymchwil glinigol o’r radd flaenaf yn agor yng Ngogledd Cymru Mae’r triniaethau diweddaraf o dreialon ar fin dod ar gael i bobl Gogledd Cymru a fydd yn cyfrannu at therapïau a diagnosteg newydd a allai newid golwg cyflyrau fel diabetes, canser a chlefydau cardiofasgwlaidd, diolch i gyfleuster newydd tra fodern. Mae Canolfan Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru (NWCRC) wedi agor ei drysau yn Wrecsam, gan ganiatáu i ymchwilwyr gynnal astudiaethau arloesol. Nod NWCRC, sy’n rhan o adran Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw dod yn ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan weithio gyda phrifysgolion, cwmnïau gwyddorau bywyd a chwmnïau fferyllol. “Gyda’r cyfleuster hwn mae gennon ni nawr
10
newidiadau yn y cod genetig yn nodi union achos eu cyflwr, gan gynnig y posibilrwydd o ddiagnosis ac, o bosibl, opsiynau triniaeth. “Pan mae gennych chi ddiagnosis, mae gennych chi ryw amcan o beth allai’r effaith fod arnyn nhw yn hwyrach mewn bywyd, a pharatoi ar gyfer hynny,” meddai Mam, “ac am nawr, rydyn ni’n cymryd pethau un diwrnod ar y tro.” Mae tad y plentyn yn gweld y potensial ar gyfer dyfodol gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar genomeg gan “y bydd cleifion yn cael budd pendant o nodi cyflyrau yn gynnar yn eu datblygiad, a allai eu hatal rhag dod yn fwy o broblem yn nes ymlaen.” Lansiwyd y Prosiect 100,000 o Genomau yn Lloegr ar ddiwedd 2012. Ym mis Medi 2016, fe wahoddodd Genomics England
Lywodraeth Cymru i ymuno â’r Prosiect i ddatblygu menter ledled y DU. Gyda chyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Ymchwil Feddygol, dechreuwyd recriwtio cleifion ar gyfer braich Cymru o’r prosiect ym mis Chwefror 2018 a chyrhaeddwyd y targed o 440 o gyfranogwyr ar 28 Awst 2018. Mae’r canlyniadau cychwynnol ar gyfer 19 o deuluoedd wedi dod i law ac rydyn ni’n aros iddyn nhw gael eu dilysu. Er bod y prosiect 100,000 o Genomau yng Nghymru nawr wedi gorffen recriwtio, mae disgwyl i’r prosiect ddarparu sail ar gyfer integreiddio gwaith cadwyno genomau â llwybrau gofal clinigol yng Nghymru, a hynny’n gyflymach, gan helpu i wella diagnosis a thriniaeth sawl cyflwr, ac i gasglu data genomig ar gyfer astudiaethau ymchwil yn y dyfodol.
ganolfan ymchwil glinigol ag offer ffantastig sy’n rhoi cyfle i’n staff allu cynnal ymchwil glinigol arloesol,” meddai’r Athro Stephen Hughes, cyfarwyddwr academaidd a gwyddonol NWCRC.
Mae’r Athro Iqbal Shergill, llawfeddyg wroleg ymgynghorol, yn ymgymryd â nifer o dreialon gwyddonol a chlinigol sylfaenol yn NWCRC sy’n cynnwys cleifion â cherrig ar yr arennau, a chanser y bledren a’r prostad.
“Yn hollbwysig, bydd ymgymryd ag ymchwil glinigol o fudd i bobl Gogledd Cymru ar lefel genedlaethol a thu hwnt. Nod y ganolfan ymchwil, yn anad dim, yw darparu cyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer ein cleifion ac aelodau’r cyhoedd, gan sicrhau bod Gogledd Cymru’n chwarae rhan weithredol mewn cynnal ymchwil glinigol arloesol.”
Meddai’r Athro Shergill: Mae’r NWCRC, sydd newydd ei sefydlu, yn darparu cyfle cyffrous i ymgymryd ag ymchwil glinigol yng Ngogledd Cymru. Fe fyddwn ni’n gallu cydweithio ag academyddion lleol a chenedlaethol a gweithio gyda chwmnïau gwyddorau bywyd a chwmnïau fferyllol i ddarparu gwell gwasanaethau gofal a diagnostig ar gyfer ein cleifion.”
Yr Athro Stephen Hughes a’r Athro Iqbal Shergill yn gweithio yn y labordy
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
GWA SANA E T H C YM O RT H E CON OM E G I E C HYD C Y M R U
Gwerth natur
gweithgareddau corfforol yn yr awyr agored.
Mae yna dystiolaeth ymchwil gynyddol bod treulio amser yn yr awyr agored yn cael effaith bositif sylweddol ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae ymwneud â natur yn cael ei gysylltu â chanlyniadau iechyd gwell ac, lle mae mannau awyr agored o fewn cyrraedd pobl, mae yna lai o anghydraddoldeb iechyd cysylltiedig ag incwm.
Mae’r tîm wedi cyflwyno’u gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ac maen nhw bellach yn gweithio gyda Phrifysgol Efrog ac Universite Catholique de Louvain, Gwlad Belg yn ceisio magu diddordeb ymysg aelodau o Gymdeithas Ryngwladol Economeg Iechyd (iHEA) i ddatblygu Grŵp Diddordeb Arbennig iHEA ar Economeg Natur a’r Awyr Agored. Maen nhw hefyd yn trafod ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Coed Lleol, a chwmni Cludiant Gwynedd ynglŷn â chael pobl allan i gefn gwlad i wella’u hiechyd a’u llesiant.
Mae gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb mewn archwilio gwerth economaidd y mannau hyn a’u heffaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth.
Yn ôl yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, arweinydd WHESS ac uwch arweinydd ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae rhagnodi cymdeithasol [lle mae gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol yn cyfeirio pobl at wasanaethau lleol, anghlinigol] yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i alluogi pobl â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol i gael budd o dreulio amser yn yr awyr agored; yn cerdded, yn garddio neu’n mwynhau natur. Mae hyn yn golygu cael ymarfer corff yn ogystal â chyswllt cymdeithasol ac mae’n dangos buddion economaidd cynyddol o ran dibynnu llai ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ffurfiol.
Fe gynhaliodd y tîm ddau adolygiad systematig, a ariannwyd trwy Wasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS), i amcangyfrif faint o werth y mae’r cyhoedd yn ei roi ar fynd a defnyddio mannau gwyrdd, fel parciau, a mannau glas, fel traethau. Mae eu darganfyddiadau’n dangos bod cael y mannau gwyrdd a glas hyn o fewn cyrraedd yn gallu cael effaith bositif ar iechyd a llesiant ymysg y boblogaeth, a bod y cyhoedd yn fodlon talu i ennill y buddion iechyd a ddaw yn sgil cymryd rhan mewn
UWC H A RW E I NYD D YM CH W IL
Gwerthuso profion ffarmacogenetig ym Mhrifysgol Bangor Mae ymchwilwyr, dan arweiniad yr Athro Dyfrig Hughes, uwch arweinydd ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi gwneud cyfraniadau sylweddol tuag at ddatblygu a gwerthuso prawf genetig sydd â nod i atal cleifion rhag cael adwaith niweidiol i feddyginiaethau. Mae’r ‘prawf panel ffarmacogenetig’ yn edrych ar lawer o enynnau gwahanol ar yr un pryd – gan roi mwy o wybodaeth na phrawf un genyn – ac mae’n gam hanfodol ymlaen i ddarparu triniaethau personol wedi’u targedu ar gyfer cleifion. Gall ein genynnau chwarae rhan yn ffordd ein cyrff o ymateb i feddyginiaethau, felly mae cynnal ein profion genetig cyn rhagnodi meddyginiaeth yn gallu helpu i nodi a yw claf mewn perygl o gael adwaith niweidiol i gyffuriau (ADR). Mae adweithiau niweidiol i gyffuriau ymysg y pethau mwyaf cyffredin
i achosi marwolaeth yn y DU, gyda chost amcan o £1bn y flwyddyn. Mae’r Tîm yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor, dan arweiniad yr Athro Dyfrig Hughes, wedi cynnal gwaith helaeth i asesu pa mor gost-effeithiol yw profion panel ffarmacogenetig.
“Fe ellid defnyddio ein dulliau ymchwil ni i gefnogi cyflwyno gwasanaethau ffarmacogenetig ledled systemau iechyd a gofal gwahanol yn rhyngwladol, ac fe fyddai hyn yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol ar ddefnyddio meddyginiaethau’n ddiogel ac yn effeithiol.”
“Mae cymaint ag un o bob pum adwaith niweidiol i gyffuriau oherwydd ffactorau genetig,” meddai’r Athro Hughes, un o uwch arweinwyr ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. “Ac mae rhesymau eraill yn gallu bod oherwydd nad yw’r arennau’n gweithio fel y dylen nhw, oherwydd heneiddio ac oherwydd ffordd cyffuriau o ryngweithio â meddyginiaethau eraill y mae’r claf yn eu cymryd. “Fodd bynnag, mae trosi’r cysylltiadau genetig sydd wedi’u cadarnhau yn brofion clinigol defnyddiol wedi bod braidd yn siomedig. Mae prawf panel genetig bellach yn cael ei ddatblygu’n fasnachol gydag arian o raglen NIHR i4i mewn partneriaeth ag MC Diagnostics, sef cwmni o Ogledd Cymru, a Phrifysgol Lerpwl.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
11
DOETH A M I E C H YD CY M R U
A dyna pam fod y prosiect wedi bod yn recriwtio mewn mwy a mwy o ddigwyddiadau cyhoeddus yn 2018, o Ŵyl Fwyd yr Wyddgrug i Hanner Marathon Caerdydd, yn ogystal ag o fewn ein byrddau iechyd a’n gwasanaethau GIG. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi cefnogi ymgysylltu rhyngweithiol yn y digwyddiadau hyn, gan gynnwys gemau, cystadlaethau a thrafodaethau bywiog, er mwyn cyrraedd amrywiaeth mor fawr ac eang o’r boblogaeth â phosibl.
Doeth am Iechyd Cymru – yma am yr hirdymor
Roedd Doeth am Iechyd Cymru’n bresennol yn Hanner Marathon Caerdydd eleni, gan recriwtio 1,200 o bobl ychwanegol i’r cohort cenedlaethol i rannu eu data ac i chwarae rhan mewn astudiaethau ymchwil o ledled seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cynorthwywyr rhanbarthol Doeth am Iechyd Cymru yn y Byrddau Iechyd ledled Cymru sydd wedi bod wrthi’n symud pethau ymlaen, ac yn recriwtio’r mwyafrif o’r 12,500 a mwy o gyfranogwyr newydd eleni. Yng Ngogledd Cymru, mae Marie Latham-Jones a Lisa Hother, Cynorthwywyr Ymchwil, wedi recriwtio 2245 o gyfranogwyr i brosiect Doeth am Iechyd Cymru mewn chwech mis, sef cynnydd o 420% ar gyfer y Gogledd. “Rydyn ni’n gweld beth allai’r prosiect ei wneud ar gyfer pobl Gogledd Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan ohono, ac o’n gwaith recriwtio,” meddai Marie.
Prosiect blaenllaw’r genedl i ddeall beth sy’n llunio ein hiechyd a’n llesiant yw Doeth am Iechyd Cymru, ac mae ei gohort o’r cyhoedd sy’n cyfranogi bellach yn fwy na 27,000. Mae hwn yn gyflawniad anghyffredin i unrhyw astudiaeth cohort, gan roi graddfa a fydd yn caniatáu i’r astudiaeth roi dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a llesiant cymdeithasol Cymru.
Yn y De-Orllewin, mae Sarah Davies a’i chydweithwyr wedi gweithio mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys partneriaeth beilot arloesol â Gwasanaeth Gwaed Cymru
i recriwtio yn eu clinigau rhoi gwaed. “Mae ymateb pobl wedi bod yn wych; o glinigau ysbyty, canolfannau hamdden a chlinigau rhoi gwaed trwodd i Sioe Awyr Abertawe, mae pobl wedi bod eisiau cyfrannu, i helpu eu plant a’u hwyrion,” esbonia Sarah. Yn y cyfamser, mae rhanbarth y De-Ddwyrain wedi adeiladu dull cryf o weithredu trwy bractisau Meddygon Teulu a lleoliadau gofal cymunedol eraill. Mae’r recriwtio cryf hwnnw wedi rhoi Doeth am Iechyd Cymru ar dir cadarn wrth symud tuag at 2019, gan ganiatáu i dîm yr astudiaeth, a’r ymchwilwyr sydd eisiau perfformio astudiaethau â’r cohort, ddechrau ateb cwestiynau pwysig ynglŷn â llesiant y genedl a gwasanaethau’r GIG.
I drafod yr astudiaeth ymhellach, i roi’ch holiaduron ymchwil ar y wefan neu i recriwtio aelodau cohort i’ch astudiaeth, yna cysylltwch â thîm astudiaeth Doeth am Iechyd Cymru neu ewch i’r adran ‘Ar gyfer Ymchwilwyr’ ar wefan Doeth am Iechyd Cymru.
Y DIWE D DA RA F O G A N O LFA N CEF N O G I A CH Y F L ENW I Y M CH W IL IECH Y D A GO FAL CY M R U
Map Trywydd Ymchwil Mae’r Map Trywydd Ymchwil wedi’i gynllunio i helpu i dywys ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol trwy’r broses ymchwil. Ei nod yw rhoi cyfarwyddyd syml a rhwydd i’w ddefnyddio i ymchwilwyr a thimau ymchwil ar bob agwedd o’r broses ymchwil, pa bynnag gam rydych chi wedi’i gyrraedd. Mae’n dangos yn glir y cymorth sydd ar gael oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac eraill, gan roi cyfarwyddyd, enghreifftiau o arfer da a thempledi a dogfennau allweddol. Datblygwyd y Map Trywydd Ymchwil trwy ymgynghori â’r gymuned ymchwil yng Nghymru ac mae ar gael ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Adroddiad Blynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Mae ein hadroddiad blynyddol 2017-18 yn dwyn sylw at rai o’r enghreifftiau rhagorol o ymchwil o ledled ein seilwaith, a’u heffaith ar bobl a gwasanaethau. Mae hefyd yn dwyn sylw at ein cymorth i ymchwilwyr a rôl ganolog cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2017-18 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
12
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
“Roedd y digwyddiad yn teimlo’n ffres, gan fachu’r sylw – yn wir yr un gorau dwi wedi bod ynddo.” Adborth oddi wrth un o’r mynychwyr
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2018: Sicrhau y bydd ymchwil yng Nghymru’n addas yn y dyfodol Daeth cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â mwy na 330 o fynychwyr i Stadiwm SSE SWALEC yng Nghaerdydd am ddiwrnod llawn dop o weithgareddau’n canolbwyntio ar sicrhau y bydd ymchwil yng Nghymru’n addas yn y dyfodol. Meddai Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru wrth agor y gynhadledd a pharatoi pobl at y diwrnod o’u blaenau:
ni’n ei wneud a’n penderfyniadau, gan mai dim ond trwy wneud hynny y gallwn ni sicrhau bod ein GIG yn addas yn y dyfodol, y gallwn ni ddatblygu GIG cynaliadwy ac y gallwn ni ddarparu gwasanaethau effeithiol sy’n gweithio gydol oes.” Yna cafwyd cyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol i danio’r meddwl, gan ddwyn sylw at rôl ymchwil yng Nghymru mewn siapio triniaeth a gofal y dyfodol. Roedd yna nifer o bethau a ddigwyddodd yn y gynhadledd am y tro cyntaf eleni, gan gynnwys cyflwyniadau arddull-TED – sgyrsiau byr, ysbrydoledig – gan Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a pharth posteri. Cynigwyd mwy na 100 o grynodebau ar gyfer posteri a chyflwyniadau, a detholwyd 35 i’w harddangos yn y gynhadledd.
“Mae angen inni wneud yn siŵr bod ymchwil a thystiolaeth dda wrth galon popeth rydyn
Roedd ardal yr arddangosfa yn gyfle i’r mynychwyr rwydweithio, ac yn gyfle i 27 o arddangoswyr o ledled y seilwaith hybu eu gwaith. Meddai Carys Thomas, cyd-Gyfarwyddwr Interim Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wrth fyfyrio ar y digwyddiad: “Diolch i bawb a ymunodd â ni yng nghynhadledd 2018 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac i’r rheini a’i gwnaeth yn llwyddiant ysgubol. Roedd hi’n wych gweld y gymuned ymchwil yn dod at ei gilydd a chlywed am y gwaith sydd ar y gweill i ateb yr heriau o’n blaenau, ac am effaith bositif ymchwil ar fywydau pobl Cymru.” Os wnaethoch chi fethu cynhadledd 2018 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gallwch chi wrando ar gyflwyniadau’r holl siaradwyr a gweld uchafbwyntiau’r digwyddiad ar ein gwefan.
Enillwyr gwobrau Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl am ei gwaith arloesol ‘Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR)’ ynglŷn â chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd meddwl. Poster gorau ‘Research inequalities in health and social care: how can we address the exclusion of adults who lack capacity to consent? - Victoria Shepherd, cymrawd ymchwil doethurol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) yn y Ganolfan Ymchwil Treialon Ail: ‘Make a quack about your research’ - Cheryl Lee, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Cyd-drydydd: ‘A changing identity: a focus group study of the experiences of women diagnosed with secondary breast cancer and their psychosocial support needs’ - Ceri Phelps, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant & ‘The unmet health and social care needs of older caregivers: a systematic review’ - Alisha Newman, Canolfan Ymchwil Canser Cymru Stondin ryngweithiol orau (y pleidleisiodd y mynychwyr amdani) Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN). Ail: Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC). Trydydd: Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
13
C Y N N WYS AC YMGYSYLLTU Â’R CYH OE DD
Gosod y Safonau
Lansiwyd y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd ledled y DU eleni, ac maen nhw’n darparu fframwaith cyffredin am y tro cyntaf i sefydliadau ddatblygu eu gwaith cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil. Maen nhw’n darparu dangosyddion sy’n caniatáu nodi meysydd sy’n gryf a meysydd sydd angen eu gwella, er mwyn mynd ati i gynnwys y cyhoedd yn dda ac mewn modd cwbl gytbwys.
M
ae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o’r farn bod y Safonau’n hanfodol i
symud ymlaen â chynnwys y cyhoedd, ac mae yna eisoes enghreifftiau rhagorol o’r Safonau’n cael eu defnyddio ar draws ein cymuned ymchwil. Roedd defnyddio Safonau’r DU i archwilio darpariaeth hyfforddiant cynnwys y cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar hyn o bryd yn argymhelliad o adolygiad 2017 o Rwydwaith Cynnwys Pobl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. “Rydyn ni’n llawn cyffro i fod yn defnyddio’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd yn ein gwaith. Mae hi mor bwysig bod ein hyfforddiant yn diwallu anghenion y gymuned cynnwys y cyhoedd ac yn helpu i baratoi aelodau o’r cyhoedd ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil,” esbonia Barbara Moore, uwch reolwr cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghanolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. “Gwnaethon ni ddod ag aelodau o’r cyhoedd a chynrychiolwyr o seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru at ei gilydd mewn gweithdy
Mynychwyr Diwrnod Cymuned BRAIN Involve
i adolygu ein modiwlau hyfforddiant, gwybodaeth ar ein gwefan a’n hadnoddau hyfforddi ar-lein.
Beth am rannu’ch straeon am gynnwys y cyhoedd? Ydych chi wedi gwneud defnydd da o’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd? Dywedwch wrthym ni trwy gysylltu â’r Tîm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd.
14
“Trwy ddefnyddio’r offeryn archwilio roedden ni wedi’i ddatblygu i’n cefnogi â’r adolygiad, roedden ni’n gallu dogfennu p’un a oedd y rhaglen hyfforddi’n cadw at y Safonau, ac roedden ni hefyd yn gallu awgrymu gwelliannau a chytuno ar y camau nesaf.”
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
Fe nododd y gwaith hwn nifer o ffyrdd y gellid gwella arfer, gan gynnwys: • cynnwys aelodau’r cyhoedd mewn dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn 2019 • adolygu’r rhaglen hyfforddi ac ystyried a ddylid cydgynhyrchu cynnwys ychwanegol gyda’r cyhoedd • edrych ar fynediad i gyrsiau trwy ddulliau amgen, yn hytrach na’r rhyngrwyd. “Roedd yr adborth ar y gweithdy a’r offeryn archwilio’n bositif, ac mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nawr yn annog mwy o weithdai i archwilio agweddau eraill ar waith Cynnwys y Cyhoedd,” ychwanegodd Barbara.
Adborth “Roedd hi’n ddefnyddiol iawn cymryd rhan yn yr archwiliad hwn. Er fy mod i wedi gweld y Safonau Cenedlaethol o’r blaen, dyma oedd y tro cyntaf i mi eu defnyddio nhw mewn cyfarfod ffurfiol.”
Mae’r offeryn archwilio ar gael i unrhyw un ei ddefnyddio i archwilio gwaith cynnwys y cyhoedd yn eu gwasanaeth neu mewn prosiect ymchwil.
Jeff Horton, aelod o’r cyhoedd “Fe ddaeth archwilio’r Safonau o ran y ddarpariaeth hyfforddi’n fwy eglur ac yn haws o lawer nag roeddwn i wedi dychmygu – i gyd oherwydd y cymysgedd o fewnwelediad a phrofiad a oedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod archwilio.” Lynette Lane, uwch reolwr hyfforddi a datblygu “I mi, roedd gweithio fel grŵp yn ymarfer defnyddiol iawn gan iddo ganiatáu i ni ‘daflu syniadau’ a arweiniodd at drafodaeth a chonsensws, gan wneud yr ymarfer cyfan yn haws o lawer nag roeddwn i wedi disgwyl. Y prif allbwn i mi oedd fy mod i’n bwriadu ailadrodd fformat yr ymarfer yn fy sefydliad fy hun.” Julia Townson, cymrawd ymchwil/uwch reolwr treialon, y Ganolfan Ymchwil Treialon
Roedd rhoi’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd ar waith hefyd yn rhywbeth a gafodd sylw yn Niwrnod Cymunedol diweddar BRAIN Involve. “BRAIN Involve ydy’r grŵp cynnwys y cyhoedd a chleifion sy’n helpu i ddarparu sail ar gyfer ein gweithgareddau ymchwil,” meddai Dr Emma Lane, Pen Ymchwilydd BRAIN Involve. “Mae’n cynnwys pobl y mae clefydau niwrolegol fel epilepsi, clefyd Huntington, Sglerosis Ymledol neu glefyd Parkinson naill ai’n effeithio arnyn nhw neu wedi effeithio arnyn nhw. Daeth ein Diwrnod Cymunedol BRAIN Involve ag aelodau o’r cyhoedd ac ymchwilwyr at ei gilydd i fynd i’r afael â’r Safonau Cenedlaethol newydd ar gyfer Cynnwys y Grŵp ac adfywio Cylch Gorchwyl y grŵp i wneud yn siŵr ein bod ni’n bodloni’r safonau hynny. Roedden ni eisiau dwyn sylw at faterion fel sut i greu gwell cyfleoedd i aelodau presennol yn ogystal â gwneud ymchwilwyr yn fwy ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer eu gwaith. Fe ganiataodd yr ymarfer cwmpasu hwn i ni gael gwybod sut y mae aelodau presennol a’r rhai sydd â diddordeb yn teimlo am yr adnoddau a’r cyfleoedd sydd ar gael, a sut y gallwn ni wella ein gwaith cynnwys cleifion a’r
cyhoedd a’n gwaith ymgysylltu ag ymchwilwyr. Roedd canlyniadau’r ymarfer yn sail i gais i Gronfa Cymorth Strategol Sefydliadol Ymddiriedolaeth Wellcome. Nod y grant yw datblygu gwell adnoddau digidol, gan gynnwys animeiddio, sefydlu fforwm a gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch i aelodau’r cyhoedd. Os cymeradwyir y cais, fe fydd y grant hwn yn cael effaith fesuradwy ar Gynnwys Cleifion a’r Cyhoedd i’n Huned, ond fe fydd hefyd o fudd ehangach i ymchwil yng Nghymru, gan olygu y gallai pobl gyrchu cyfleoedd cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn ddigidol, ym maes ymchwil sy’n ymwneud â niwrowyddoniaeth, sy’n rhywbeth sydd ddim ar gael ar hyn o bryd.” Meddai Astrid Burrell, aelod o BRAIN: “Roeddwn i’n teimlo’i bod hi’n fraint mawr cael fy ngofyn i roi anerchiad byr fel rhan o ddarlithoedd y bore ynglŷn â’m mhrofiad fel aelod o BRAIN Involve. “Roeddwn i’n gallu rhannu pwysigrwydd a pherthnasedd cynnwys y cyhoedd a chleifion, disgrifio’r math o waith dwi’n ei wneud a chanmol yr ymchwilwyr yn BRAIN am groesawu a gwerthfawrogi ein cyfraniad a’r mewnwelediad arbennig sydd gennon ni i fyw go iawn â chyflyrau niwrolegol amrywiol. “Dwi’n gobeithio y bydd eraill y gwnes i gyfarfod â nhw yng ngweithdai diddorol y prynhawn yn teimlo’u bod wedi’u symbylu i chwarae rhan fwy yn y gwaith pwysig hwn. Diwrnod defnyddiol iawn gyda llawer o syniadau ar gyfer y dyfodol.”
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
15
“Dwi wedi gwneud pob math o astudiaethau yn yr wyth mlynedd diwethaf, a thro ar ôl tro rydyn ni’n gweld yr un problemau ar ryw ffurf neu’i gilydd, ond yn amlach na pheidio y systemau y mae’n rhaid i bobl weithio â nhw ydy’r broblem yn hytrach na’r bobl eu hunain.” Dr Andy Carson-Stevens P R I F STORI
‘Chwalwr codau’ Cymru’n gwneud ein hymweliadau â’r meddyg teulu’n fwy diogel Mae hi’n 8.25 y bore ac rydych chi’n eistedd ar res o seddi mewn ystafell brysur, yn aros am eich slot 10 munud i weld eich meddyg teulu.
Y
tu ôl i’r drysau, i’r ochr o’r ardal aros, mae meddygon sy’n gallu helpu i wneud diagnosis o’ch symptomau, efallai rhagnodi meddyginiaeth ichi neu hyd yn oed eich cyfeirio at arbenigwr, os oes angen mwy o brofion arnoch chi. Rydych chi yno i wella ac rydych chi’n gobeithio y byddwch chi’n gadael ag ateb i’ch problem. Ond i lawer o bobl, dydy pethau ddim yn gweithio allan fel hynny. Yn wir, efallai mai chi ydy’r un person allan o’r 33 yn yr ystafell aros a fydd yn cael profiad o rywbeth o’r enw ‘digwyddiad diogelwch cleifion’ heddiw; sef camgymeriad meddygol a allai, neu sydd yn arwain at ganlyniad niweidiol. Yma, rydyn ni’n siarad â Dr Andy CarsonStevens, sy’n ymchwilydd yng Nghymru sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n feddyg teulu
16
sy’n ceisio sylwi ar, a dileu’r camgymeriadau hyn trwy gyfrwng iaith gwbl newydd o godau. Mae gwaith Dr Carson-Stevens yn helpu i wella diogelwch cleifion yma yng Nghymru a hefyd o amgylch y byd.
Graddfa’r broblem “Rydych chi’n siarad ag unrhyw weithiwr proffesiynol yn y maes gofal sylfaenol, boed yn feddyg teulu neu’n nyrs practis, a diogelwch cleifion ydy eu prif flaenoriaeth,” meddai Andy, yr arweinydd ar gyfer ymchwil diogelwch cleifion yng Nghanolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (PRIME), sef un o’r canolfannau y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu. “Does neb yn mynd i’w waith i achosi niwed.” Er bod digwyddiadau diogelwch cleifion yn gallu cynnwys camgymeriadau fel cael presgripsiwn am y math neu’r dos anghywir o gyffur, neu gael cam-ddiagnosis o symptomau, daw’r problemau mwyaf cyffredin i’r amlwg oherwydd yr union systemau sydd wedi’u cynllunio i reoli ein gofal. “Yn amlach na pheidio, nid mater o’r meddyg
yn cael pethau’n anghywir ydy hyn,” esbonia Andy. “Mae’n fwy tebygol mai’r systemau cymhleth sy’n caniatáu niweidio cleifion. “Felly, mae a wnelo hyn â’r meddyg yn sylweddoli bod angen atgyfeirio claf at arbenigwr canser a, gan fod yna dair neu bedair ffordd i orchymyn atgyfeiriad, yna ysgrifennu nodiadau ac, ymhen yr hir a’r hwyr, ei anfon o’r practis, mae yna lawer o gyfleoedd i achosi oedi. “Dwi’n meddwl bod angen i ni ddatblethu’r anhrefn fel ein bod ni’n gallu bod yn hyderus yn ein prosesau mewnol ein hunain, ac fel bod pawb, a’r cleifion yn bennaf, yn gwybod ac yn teimlo’n hyderus bod yna broses ddibynadwy.” Yn 2008, fe lansiwyd yr ‘Ymgyrch 1000 o Fywydau’ yng Nghymru, â’r nod o achub bywydau ac atal cleifion rhag dod i niwed y gellir ei osgoi mewn ysbytai. “Mewn rhai ffyrdd, mae’n syfrdanol ein bod ni wedi cael degawd o ymchwil i ddiogelwch ysbytai, gan ganolbwyntio ar nifer lai o gleifion, ac yn sydyn reit mae hi fel pa baen ni wedi deffro a sylweddoli, ‘aros di funud, rydyn ni’n rhoi peth wmbredd o ofal drosodd yma mewn amgylcheddau gofal sylfaenol ac mae’n eitha’ posib ei fod yn gosod baich tebyg iawn ar iechyd a llesiant’.”
Model gofal PISA Un o’r camau cyntaf tuag at wella diogelwch i wneud yn siŵr bod pob camgymeriad, neu ddigwyddiad diogelwch cleifion, yn cael ei
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
gofnodi fel bod modd ei ddadansoddi i weld a oes unrhyw batrymau a gwersi i’w dysgu, gan obeithio y bydd yna ffordd i’w hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae barn ynglŷn â beth sydd a beth sydd ddim yn gamgymeriad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano’n amrywio rhwng meddygon teulu a phractisau. I fynd i’r afael â hyn a chael dealltwriaeth gyffredin o sut i nodi, cofnodi a dysgu o ddigwyddiad, mae Andy a’i dîm wedi creu Model Gwella Dysgu er Gofal, Diogelwch Cleifion Gofal Sylfaenol (PISA). “Mae’n anodd anwybyddu’r dystiolaeth,” meddai Andy. “Gallwch chi ddweud wrth rywun ‘drychwch, mae’r camgymeriad yma wedi digwydd 37 gwaith, ydych chi’n wir yn meddwl mai cyd-ddigwyddiad ydy hynny?’ Yna maen nhw’n sylweddoli.”
“Aethon ni ati i ddatblygu llyfrgell o eiriau fel bod meddygon a nyrsys yn gallu dewis cod sy’n disgrifio beth ddigwyddodd, pam iddo ddigwydd a hefyd beth oedd y canlyniadau i’r cleifion. Ac roedd y tri pheth hynny’n fwy na digon i ni allu nodi patrymau a dechrau edrych am flaenoriaethau.
Y bobl ‘go iawn’ y tu ôl i’r rhifau Tra bo Andy’n canolbwyntio ar y rhifau a’r patrymau sy’n dod i’r amlwg o’r data, mae ei bartner ymchwil, Antony Chuter, yn cynnig safbwynt rhywun lleyg ar yr ymchwil.
“Mae creu’r eirfa honno ar gyfer gofal sylfaenol wedi bod yn gam hynod bwysig ymlaen ar gyfer y maes cyfan. Rydyn ni wedi cael blynyddoedd o ymchwil mewn amgylcheddau ysbyty, ond pe baen ni’n defnyddio’r un eirfa i ddisgrifio diogelwch mewn gofal sylfaenol fyddai hynny ddim yn gweithio.”
“O’r straeon truenus rydyn ni’n eu darllen, mae’n rhaid i ni ddod â’r darnau i gyd at ei gilydd i greu’r data,” meddai Andy. “Pan rydyn ni’n dod â darnau straeon at ei gilydd i’w trosi’n rhifau, mae Antony wastad
Dr Andy Carson-Stevens
yn ein hatgoffa ni bod yna bob amser bobl go iawn y tu ôl i’r rhifau hynny.” “Mae’r gwaith dwi wedi bod yn ei wneud gydag Andy yng Nghymru ynglŷn â diogelwch mor bwysig i gleifion, y cyhoedd a gofalwyr, fel eu bod nhw’n gwybod bod y system iechyd yn ddiogel,” meddai Antony. “Mae yna rai pynciau heriol iawn ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud yr ymchwil hon i atal y pethau hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol.”
Cymru a’r byd Dr Andy Carson-Stevens
Gwneud synnwyr o’r data
Enghreifftiau o ddigwyddiadau
Mae miloedd o gofnodion digwyddiadau diogelwch cleifion wedi’u cofnodi ar y System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu, sef cronfa ddata anferthol o ffeiliau y mae pob sefydliad GIG yng Nghymru a Lloegr wedi’u hanfon i mewn. “Tua chwe blynedd yn ôl, fe heriwyd fi a grŵp o gydweithwyr i wneud synnwyr o’r adroddiadau a’r data hynny,” mae Andy’n cofio. Fe dderbyniodd Andy’r her ac aeth ati i ddatrys pethau. “Fel mae’n digwydd, os fyddwch chi’n rhoi cod i bob math o ddigwyddiad, yn y bôn mae’r codau’n golygu rhywbeth, a phan mae gennych chi gyfres o godau gallwch chi edrych ar stori hir, hynod gymhleth a’i chyflwyno â phedwar neu bump o eiriau cryno.
Roedd meddyg teulu wedi gwneud cais i gael claf wedi’i fonitro ar gyfer Ffibriliad Atrïaidd. Ni chafodd y nodiadau eu cyfathrebu. Ni chafodd y claf ei fonitro am dair wythnos. Bu’n rhaid i’r claf fynd i mewn i’r ysbyty. Ffacs atgyfeiriad canser brys i’r ysbyty. Derbyniwyd derbynneb â neges yn dweud bod gan yr ymgynghorydd ei beiriant ffacs a’i rif ei hun yn ei ystafell – ac y dylid defnyddio hwnnw yn y dyfodol. Oedi posibl oherwydd rhif anghywir. Fe gymerodd claf 16 oed y feddyginiaeth anghywir am dridiau a chafodd sgil-effeithiau difrifol, gan gynnwys trawiadau catatonig. Oherwydd bod y pecynnu’n debyg ar y ddau gyffur, fe ddewisodd y dabled anghywir. Cysylltwyd â’r gwneuthurwr i ofyn am ailasesu’r pecynnu.
Yn gynharach eleni, fe enillodd Andy Wobr Yvonne Carter am Ymchwilydd Newydd Eithriadol. Trwy’r wobr glodfawr hon mae Andy nawr yn gweithio gydag ymchwilwyr yn Nhwrci, yn eu helpu nhw i roi ei ‘godau’ diogelwch cleifion ar waith wrth ddelio â’u camgymeriadau meddygol eu hunain. “Does dim raid ichi siarad yr un iaith, gallwch chi gyfathrebu mewn codau ynglŷn â beth ddigwyddodd a pham. Mae’n swnio braidd yn giclyd ond dwi’n ystyried hynny’n gyfle i gael cymaint o fewnwelediad â phosibl i gamgymeriadau dynol. Fe fyddwn ni’n gallu cael sgyrsiau am ddiogelwch yn yr un ffordd ag y maen nhw yn y diwydiant hedfan, pan mae yna ymchwiliad i ddamweiniau. “Mae’n bosibl y bydd atebion yn codi yn Nhwrci y mae angen i ni ddysgu ohonyn nhw yng Nghymru neu yn rhywle arall. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ni gydlynu hynny, adeiladu’r seilwaith i gymharu, cyferbynnu ac edrych am yr ysbrydoliaeth a ddaw i’r amlwg o ddata sydd wedi’u strwythuro.”
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
17
P RIF STORI
‘Gwthio’r ffiniau’ i gyflawni ymchwil cyfnod cynnar yng Nghymru Dychmygwch mai chi yw’r person cyntaf yn y byd i gael y cyfle i roi cyffur newydd ar brawf; mae’n bosibl na fydd y cyffur yn eich helpu chi nawr ond fe allai roi gobaith i filoedd o bobl yn y dyfodol, sy’n byw â’r un cyflwr cronig â chi.
M
uwch reolwr nyrsys, yno i’n cyfarch wrth i ni gyrraedd ac mae hi’n awyddus i’n tywys o amgylch y cyfleuster. “Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennon ni gyfleuster fel hwn gan ein bod ni’n gallu cynnig opsiynau triniaeth newydd yng Nghymru,” meddai Jessie. “Mae yna nifer o gyfleusterau fel hyn yn Lloegr ac os oedd cleifion yng Nghymru eisiau cymryd rhan mewn treialon cyfnod 1 o’r blaen roedd yn rhaid iddyn nhw groesi’r ffin i gael y driniaeth. Felly dwi’n meddwl ei fod yn wych i gleifion.”
ae’r math hwn o ymchwil cyfnod cynnar arloesol – pan rhoddir triniaethau newydd ar brawf am y tro cyntaf mewn cleifion – bellach ar gael fel mater o drefn yma yng Nghymru.
Mae yna lawer o ddrysau ar hyd y coridor; y tu ôl iddyn nhw mae swyddfeydd ar gyfer y nyrsys ymchwil ymroddedig yn ogystal ag ystafelloedd ymgynghori lle mae cleifion yn cael eu harwain trwy’r broses gydsynio.
Rydyn ni wedi bod y tu ôl i’r llenni yn y Cyfleuster Ymchwil Glinigol (CRF) yng Nghaerdydd a’r Bartneriaeth Ymchwil Cyfnod Cynnar Cymru Gyfan newydd (AWaRe), i gael gwybod mwy.
Tuag at ben draw’r coridor mae drws i’r chwith sy’n agor i ward gyda lle i wyth gwely, ac i’r dde mae labordy, yn llawn rhewgelloedd, oergelloedd, deoryddion ac allgyrchyddion (peiriannau troelli gwaed).
Gwych i gleifion
“Fuasen ni ddim yn gallu cynnal yr un nifer o dreialon cyfnod cynnar, neu gyda’r fath gymhlethdod, pe na fyddai’r labordy gennon ni,” esbonia Jessie. “Mae llawer o’r
Mae CRF i’w gael ar y llawr cyntaf uwch yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae Jessie Powell,
18
astudiaethau cyfnod 1 yn cynnwys nifer fawr o brofion gwaed. Er enghraifft, efallai y byddai angen cymryd sampl gwaed gan glaf cyn iddo gael dos o gyffur, yna fe fyddai’n cael ei ddosio â’r cyffur newydd, ac o bosibl wedyn byddai angen cymryd samplau pellach bob 15 munud. “Os mai dim ond un nyrs sydd gennych chi’n gofalu am glaf, yn cymryd samplau gwaed a hefyd yn eu prosesu, pe bai’n rhaid iddi fynd draw i’r uned i wneud hynny, fydden ni ddim yn gallu cadw llygad ar y claf i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn hapus yn ogystal â phrosesu’r gwaed.”
Ymchwil gyntaf yn y byd Mae gweithgarwch ymchwil cyfnod cynnar yn y CRF wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf a gobeithio bod y duedd hon am barhau. Mae’r CRF nawr yn gartref i dimau astudiaethau cyfnod cynnar a chyfnod hwyr, gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu nyrsys yn y ddau faes i gyflawni treialon clinigol. “Rydyn ni wedi gallu canolbwyntio ar yr astudiaethau cyfnod cynnar oherwydd bod gennon ni nawr weithlu mwy sy’n gallu mynd allan a gwneud yr astudiaethau cyfnod hwyrach,” meddai Jessie. “Yn y gorffennol,
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
“Dwi’n hynod ddiolchgar am gael y cyfle i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Dwi’n gobeithio y bydd y rhan dwi’n ei chwarae’n helpu i reoli diabetes math 1 i genedlaethau i ddod.” Y claf cyntaf i dderbyn dos o gyffur diabetes
i g
gyfer cyffur ymchwil cyfnod cynnar. Yn achos cleifion canser yng Nghymru, mae hynny’n gallu golygu teithio. Ar hyn o bryd, mae pob treial canser cyfnod cynnar sy’n agor yng Nghymru’n cael ei reoli o Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Pan fydd claf eisiau archwilio treial cyfnod cynnar fel opsiwn, mae angen iddo ymweld â’r ganolfan honno. Ond mae hyn i gyd yn newid.
Jessie Powell, uwch reolwr nyrsys
fe fyddai hynny wedi disgyn ar y tîm cyfnod cynnar. Felly mae’n braf bod gennon ni dîm cyfnod cynnar a thîm cyfnod hwyr o fewn y CRF.” Ym mis Awst, cafodd y claf cyntaf yn y byd ddos o gyffur newydd yn y CRF, â’r nod o atal a rheoli diabetes math 1. “Dwi’n meddwl ei bod hi’n wych i gleifion mai ni oedd y cyntaf yn y byd i ddosio,” meddai Jessie. “Heb gyfleuster fel hwn fydden ni ddim yn gallu cynnig hynny i gleifion. “Roedd yn rhaid inni wthio’r ffiniau go iawn â’r treial hwn gan nad oedden ni erioed cyn hyn wedi llwyddo i staffio tri arhosiad dros nos. Fe wnaethon ni hyn fel ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ei wneud ond beth y byddwn ni’n ei wneud nesaf sy’n bwysig; rhaid inni wthio’r ffiniau nesaf.”
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi helpu i ddatblygu partneriaeth – o’r enw AWaRe – rhwng Canolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru. Yn ôl Sian Whelan, Uwch Nyrs Ymchwil Ymchwil Canser y DU yn Ysbyty Singleton yn Abertawe, “Mae’n bosibl nawr i’n cleifion yng Ngorllewin Cymru gael eu gweld mewn clinig gwybodaeth yn Abertawe i siarad am y posibilrwydd o fod yn rhan o dreial cyfnod cynnar heb orfod teithio i Gaerdydd ar gyfer yr ymgynghoriad cyntaf. “Cyn sefydlu’r clinig fe fyddai rhai cleifion yn teithio i Gaerdydd dim ond i gael gwybod nad oedd treial ar gael iddyn nhw. Rydyn ni’n cael
y wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol o Felindre felly rydyn ni’n gwybod a fydd yna dreial ar gael, ac fe allwn ni fynd trwy restr wirio â’r claf i edrych a yw’n gymwys ar gyfer treial, yma yn Abertawe.” Yn ôl Kay Wilson, Arweinydd y Tîm Cyfnod Cynnar yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae’r cydweithio’n rhywbeth sydd â “buddion enfawr” i’r cleifion a’u teuluoedd. “Mae gweithio ar y cyd fel hyn yn gyfle gwych i gleifion Cymru a’n cymuned ymchwil yng Nghymru. Gyda’n gilydd, fe allwn ni gyflawni pethau gwych i gael effaith ar brofiad a deilliannau’r cleifion.”
Ymchwil 24/7 Mae’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol yng Nghaerdydd (CRF) a phartneriaeth AWaRe yn bwriadu gwella ymhellach y mynediad i driniaethau sy’n torri cwys newydd mewn ffordd sydd o fudd, ac yn gyfleus, i gleifion. “Dim ond y dechrau ydy hyn,” meddai Sian. “Rydyn ni’n gobeithio y bydd hi’n bosibl ymestyn y gwasanaeth mewn amser i ddarparu’r driniaeth yn lleol hefyd.” Mae Jessie’n credu y bydd llwyddiant dosio’r claf cyntaf yn y treial diabetes byd-eang yn agor drysau i ddod â mwy o astudiaethau i’r CRF a Chymru. “Yr hyn yr hoffen ni ei weld yn y dyfodol ydy, petaen ni’n cynnal yr astudiaeth cyfnod 1 yma yng Nghaerdydd, y byddai tîm yr astudiaeth yna’n dod yn ôl aton ni ar gyfer cyfnod 2 a chyfnod 3 fel ein bod ni’n gallu gweld pethau o’r tro cyntaf y mae rhywun yn cael y cyffur yr holl ffordd drwodd i’r trwyddedu. Fe fyddai hynny’n wych. “Dwi o’r farn ein bod ni’n dod yn ddeniadol iawn ledled y byd fel cyfleuster os y gallwn ni gynnig y math hwnnw o ymrwymiad a’r math hwnnw o staffio ar gyfer treialon, gan mod i’n gwybod bod yna lawer o gyfleusterau fyddai ddim yn gallu gwneud hynny,” meddai Jessie. “Dydyn ni ddim eto yn 24/7 ond dwi’n meddwl mai dyna lle yr hoffen ni fod yn y dyfodol.”
Gofal cyfleus Efallai fod cleifion sy’n cymryd rhan yn y treialon cyfnod cynnar wedi rhoi cynnig ar ofal safonol, er enghraifft cemotherapi neu imiwnotherapi i drin canser, ond nad ydy hynny wedi gweithio iddyn nhw. Dyna pryd y byddan nhw o bosibl yn gymwys ar
Cliciwch ar y ddelwedd i wylio’r fideo
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
19
P RIF STORI
Gwedd newidiol hyfforddiant ymchwil Yn ystod y degawd diwethaf, bu cynnydd anferthol yn nifer a mathau’r astudiaethau ymchwil sy’n cael eu cyflawni ledled Cymru, ac mae mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan ynddyn nhw i wella gofal yn y dyfodol.
O
herwydd bod angen i hyfforddiant gadw i fyny ac addasu i’r cynnydd hwn, mae hyfforddiant ymchwil wedi’i drawsnewid, o’r hyn y mae’n edrych arno a phwy y mae’n eu targedu, i sut a lle y mae’n cael ei roi. Yn 2008, roedd y rhaglen hyfforddiant yng Nghymru’n cynnwys 32 o gyrsiau, i ymchwilwyr yn gweithio ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyfforddiant craidd yn cynnwys Arfer Clinigol Da, Cydsyniad Deallus Dilys a Rheoli Dogfennau Hanfodol mewn Ymchwil. O symud ymlaen yn gyflym i 2018, er bod y cyrsiau hynny dal yn sail i’r rhaglen hyfforddi, mae nifer y cyrsiau wedi tyfu deirgwaith, gan ddatblygu’n unol ag anghenion ymchwilwyr ym myd newidiol ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Fe esboniodd Lynette Lane, Uwch Reolwr Hyfforddi a Datblygu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fwy am ddatblygiad y rhaglen hyfforddi: “Mae hyfforddiant yn hanfodol i gefnogi
20
ymchwilwyr yng Nghymru i gyflawni ymchwil o ansawdd uchel. Wrth i’r dirwedd ymchwil newid, felly hefyd y mae anghenion hyfforddi’r rheini sy’n cynnal yr ymchwil yn newid. Dros y deng mlynedd diwethaf rydyn ni wedi datblygu’r rhaglen hyfforddi i gynnwys cyrsiau oddi-ar-y-silff ond hefyd hyfforddiant wedi’i lunio’n benodol i gefnogi meysydd diddordeb sy’n dod i’r amlwg neu sy’n arbenigol, fel gofal sylfaenol a chydsyniad gohiriedig mewn gofal critigol.
Ateb y galw Mae’r galw ar gyfer ein hyfforddiant Arfer Clinigol Da wedi cynyddu’n ddramatig wrth i gyllid ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ehangu. Ond mae mwy na nifer y cyrsiau wedi cynyddu; mae hyfforddiant Arfer Clinigol Da’n cael ei ddarparu mewn mwy o leoliadau nag erioed o’r blaen, i amrywiaeth ehangach o fynychwyr ac ar draws nifer fwy o arbenigeddau. Meddai Cat Johnston, Rheolwr Hyfforddiant Arfer Clinigol Da Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae hyfforddiant Arfer Clinigol Da nawr yn cael ei ddarparu ar safleoedd practisau meddygon teulu yn ogystal ag ysbytai, rydyn ni’n gweld mwy o geisiadau’n dod o du practisau deintyddol ac, yn y dyfodol, fe fyddwn ni’n darparu hyfforddiant Arfer Clinigol Da mewn cartrefi gofal. “Rydyn ni hefyd yn cefnogi ceisiadau ar gyfer astudiaethau unigol neu ar gyfer timau penodol yn amrywio o niwroleg i iechyd
cyhoeddus. Mae llunio hyfforddiant penodol yn golygu ein bod ni’n gallu addasu’r cwrs i ganolbwyntio ar feysydd sy’n fwy perthnasol i’r mynychwyr. Cyn y sesiwn, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw roi protocol y maen nhw’n gweithio arno i ni fel bod yr hyfforddiant yn gallu cynnwys enghreifftiau go iawn sy’n ymwneud yn ymarferol â’u harfer nhw.” Yn ddiweddar, fe ofynnodd Adran Ymchwil Trawma ac Orthopaedig Caerdydd a’r Fro am gael sesiwn Arfer Clinigol Da wedi’i llunio’n benodol iddyn nhw. Mae ganddyn nhw 36 o lawfeddygon ymgynghorol a mwy na 50 o is-staff meddygol yn eu Cyfarwyddiaeth. Mae ymchwil yn yr adran hefyd yn dibynnu ar weithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, nyrsys a phodiatryddion. Cyn hyn, roedd staff llawfeddygol wedi’i chael hi’n anodd neilltuo amser i fynychu hyfforddiant Arfer Clinigol Da i ffwrdd o’u safle. Roedd cael yr hyfforddiant ar eu safle hefyd yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd fynychu. Yn ôl Matthew Williams, rheolwr ymchwil, wrth esbonio buddion sesiwn Arfer Clinigol Da wedi’i llunio’n benodol, “Mae’r sgwrs yn gallu canolbwyntio mwy ar anghenion y mynychwyr. Yn ein hachos ni, dydy’r adran ddim yn gwneud rhyw lawer o ymchwil feddyginiaethol o gwbl felly mae’n bosibl i’r hyfforddiant ganolbwyntio mwy ar ymchwil i ddyfeisiau meddygol. Mae un aelod o staff wedi cysylltu â mi ers hynny, eisiau dechrau ei ymchwil ei hun ar ôl mynychu’r sesiwn, sy’n beth positif iawn i ni.”
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
“Mae hi wedi bod yn fraint mawr i mi fod yn rhan o’r cwrs peilot hwn; fe fydd yn effeithio ar bob agwedd ar fy ngwaith gan ei fod yn annog arfer ymchwil rhagorol. Fe ddygodd amrywiaeth y pynciau a’r addysgu medrus sylw at beth sydd ei angen yng ngwahanol feysydd ymchwil glinigol. Diolch ichi am y cyfle i ddysgu gyda chi; mae wedi bod yn hynod werthfawr i mi.” Adborth oddi wrth un o’r mynychwyr
Yn cefnogi arloesi Fe helpodd hyfforddiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi menter cronfa nyrsys ymchwil arloesol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan roi sesiynau hyfforddi wedi’u llunio’n benodol ar gyfer nyrsys cronfa a oedd newydd eu recriwtio, gan gynnwys Arfer Clinigol Da, Cydsynio Deallus, Dogfennau Hanfodol a sesiwn ymsefydlu fer i ddod i adnabod y tîm cyflenwi ymchwil. Fe enillodd y fenter y wobr am y crynodeb gorau yn Fforwm Y&D y GIG eleni, ac mae wedi’i chyflwyno fesul cam i fyrddau iechyd eraill. Gallwch chi ddarllen am lwyddiant rôl nyrs
Mae’r cyrsiau hyfforddi sylfaenol a hanfodol eisoes ar gael i staff ymchwil, i’w cefnogi yn eu harfer ymchwil eu hunain, ond roedden ni eisiau rhoi cipolwg iddyn nhw ar lun ehangach ymchwil yng Nghymru i’w helpu nhw i weld sut y mae eu rôl nhw’n ffitio o fewn seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. “Roedden ni hefyd eisiau defnyddio’r cyfle i rannu a rhoi lle amlwg i’r wybodaeth a’r profiad sydd gennon ni o fewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru trwy ofyn i staff o ledled y seilwaith roi hyfforddiant yn eu maes arbenigedd eu hunain. “Mae hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i fynychwyr o rolau a phrosesau eraill, ond mae hefyd yn gyfle i’r sawl sy’n cynllunio ac yn rhoi’r hyfforddiant ddatblygu. Rydyn ni’n buddsoddi mewn doniau, yn y rheini sy’n mynychu ond hefyd yn y staff sy’n darparu’r sesiynau.”
ymchwil cronfa ar dudalen 8.
Model newydd ar gyfer hyfforddiant ymchwil yng Nghymru Y cwrs Sylfaen ar gyfer Arfer Ymchwil yw’r un diweddaraf i’w ychwanegu at y rhaglen hyfforddi. Mae’r cwrs yn rhoi lle amlwg i arbenigedd ar draws Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a’i nod yw rhoi cipolwg ar brosesau ymchwil a chymorth i staff ymchwil y GIG sydd wedi bod yn eu swydd am ryw chwe mis. Fe esboniodd Lynette pam roedd y cwrs wedi’i ddatblygu a buddion yr hyfforddiant i’r mynychwyr a hefyd i’r hyfforddwyr. “Rydyn ni’n gwybod pa mor gymhleth y mae’r byd ymchwil yn gallu bod i’r rheini sydd newydd ddechrau eu swydd ac mae’n hawdd byw o fewn eich byd bach eich hun.
Mae cwrs deuddydd yn cynnwys cyflwyniadau rhyngweithiol, byr gan staff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan roi gwell dealltwriaeth o’r prosesau y mae’n rhaid eu dilyn wrth sefydlu astudiaeth, o’u lle nhw yn y broses ymchwil, o’r dulliau sicrhau ansawdd a ddefnyddir ym maes ymchwil, a gwybodaeth o’r egwyddorion i’w rhoi ar waith wrth weithio gyda’r rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil. Mae hefyd yn adeiladu gwybodaeth o ran y swyddogaethau a’r gwasanaethau hanfodol sy’n mynd law yn llaw â chefnogi a chyflenwi ymchwil yng Nghymru.
Mae’r cwrs hwn yn gysyniad unigryw ar gyfer y tîm hyfforddi – prin iawn yw’r modelau tebyg yn y DU, ac mae’r rheini sydd ar gael yn cael eu darparu gan gwmnïau preifat ac mae’n rhaid i’r mynychwyr dalu amdanyn nhw – fel yn achos pob un o’n cyrsiau hyfforddi ni, mae hwn yn rhad ac am ddim. Roedd yr adborth ar y sesiwn beilot yn bositif iawn a’r bwriad nawr yw rhedeg y cwrs ddwywaith y flwyddyn.
Anghenion hyfforddi yn y dyfodol “Rydyn ni’n darparu gwasanaeth hyfforddi ymatebol a hyblyg,” meddai Lynette. “Rydyn ni’n ymwybodol o dirweddau a phrosesau ymchwil sy’n newid, ac fe fyddwn ni’n parhau i achub y blaen i ddarparu hyfforddiant ymchwil priodol i ystod o staff ymchwil mewn rolau amrywiol, yng Nghymru drwyddi draw.”
I gael gwybod mwy am hyfforddiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi sydd ar ddod, ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Os hoffech chi gysylltu â rhywun ynglŷn â hyfforddiant wedi’i lunio’n benodol i chi, yna cysylltwch â’r tîm hyfforddi.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
21
Calendr I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r digwyddiadau hyn, ewch i galendr digwyddiadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
22
Darlith Fabwysiadu Flynyddol ExChange
Lansio Heneiddio a Dementia @Bangor
7 Ionawr 2019 Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Gogledd Cymru, 17 Ionawr 2019 De Ddwyrain Cymru, 24 Ionawr 2019 De Orllewin Cymru, 25 Ionawr 2019
Cyswllt teulu geni ar ôl i blentyn gael ei fabwysiadu: Dysgu o brofiad Gogledd Iwerddon
Cyfle dysgu rhad ac am ddim i weithwyr cymdeithasol sydd eisiau gwneud prosiect ymchwil 17 - 25 Ionawr 2019 Cymru gyfan Fel rhan o gyfnod olaf rhaglenni presennol addysg a dysgu proffesiynol parhaus, mae’r Gynghrair (Prifysgolion Bangor, Glyndŵr, Abertawe a Chaerdydd) yn cynnig cyfres o sesiynau undydd i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gwaith cymdeithasol i edrych ar y posibilrwydd o gynnal prosiect ymchwil ar raddfa fach, a seiliedig ar arfer, yn eu tîm.
Mae CADR yn estyn croeso cynnes ichi ddod i lansiad ffurfiol Heneiddio a Dementia @ Bangor. Y nod yw hybu ymchwil, addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw i’n rhan o ganlyniad i gymdeithas sy’n heneiddio.
Y camau cyntaf: ymchwilwyr a’r cyhoedd yn cydweithio Ionawr 2019 Mae’r cwrs rhyngweithiol hwn yn cynnwys trosolwg o’r cylch ymchwil ac ar gynnwys pobl leyg, trafodaeth ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau defnyddwyr gwasanaeth ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer cynnwys pobl yn effeithiol.
Hyfforddiant y cyfryngau cymdeithasol
Hyfforddiant i lwyddo â’ch crynodebau
Gwanwyn 2019
Gwanwyn 2019
Datblygu technegau cyfathrebu creadigol
Fe fydd y gweithdy hanner diwrnod hwn yn rhoi ambell air i gall a thric i gynhyrchu crynodeb a fydd yn fwy tebygol o gael ei dderbyn gan feirniaid, ac fe fydd hefyd yn rhoi syniadau ynglŷn â sut i gynhyrchu poster buddugol, a fydd yn apelio at feirniaid a mynychwyr fel ei gilydd.
newydd, trafod strategaethau clyfar i gael pobl i’ch cymryd yn fwy o ddifrif yn eich sefydliad, a meithrin hyder i gynhyrchu cynnwys creadigol a fydd wrth fodd eich cynulleidfaoedd.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
Arddangosfa o Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru
Diwrnod Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cynhadledd Ymchwil BJGP 2019
14 Mawrth 2019 Jury’s Hotel, Caerdydd
29 Mawrth 2019 RCGP, Llundain
Ymchwil, polisi ac arfer iechyd cyhoeddus:
Thema – Cymru’n Un: Yn cydweithio mewn
yn dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei
ymchwil.
Dyma gyfle eithriadol i ymchwilwyr yn unrhyw gyfnod o’u gyrfaoedd ddysgu sgiliau ymchwilio newydd a chyflwyno’u gwaith mewn amgylchedd adeiladol i’w adolygu gan eu cymheiriaid.
13 Mawrth 2019 Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd
gilydd.
Economeg Iechyd ar gyfer Arfer ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus
Hyfforddiant Adolygu Systematig Cynhwysfawr JBI
8 – 10 Ebrill 2019 Y Ganolfan Rheolaeth, Bangor
27 Ebrill - 1 Mai Prifysgol Caerdydd
Ebrill 2019
Mae Rhaglen Hyfforddi Adolygu Systematig Cynhwysfawr JBI wedi’i chynllunio i baratoi ymchwilwyr a chlinigwyr i ddatblygu, cynnal ac adrodd ar adolygiadau systematig cynhwysfawr o dystiolaeth ansoddol a meintiol.
Mae Llywodraethu Ymchwil yn un o’r safonau
Ar ddiwedd y cwrs byr hwn fe fydd y mynychwyr wedi dod i werthfawrogi cysyniadau, dulliau a chymhwysiad economeg iechyd i iechyd cyhoeddus.
Hyfforddiant llywodraethu ymchwil
craidd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n cynnwys ystod eang o reoliadau, egwyddorion a safonau arfer da sy’n bodoli i gyflawni ansawdd ymchwil yn y DU a ledled y byd, a’i wella’n barhaus.
Fforwm Blynyddol Y&D y GIG
Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol 2019
Sylfaen ar gyfer arfer ymchwil
12 - 14 Mai Hilton Metropole, Brighton
20 Mai 2019
Mai 2019
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n falch
Mae 20 Mai 2019 yn nodi 272 mlynedd ers
Nod y cwrs yw cyfeirio’n gryno at weithgared-
o fod yn Noddwr Aur ar gyfer y digwyddiad
dechrau’r treial clinigol cyntaf ar fwrdd yr
dau ymchwil mewn sesiynau byr, eglur a
hwn.
HMS Salisbury.
chynhwysfawr i staff ymchwil.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018
23
Beth mae sicrhau bod ymchwil yng Nghymru’n addas yn y dyfodol yn ei olygu i chi?
Atebion i’r cwestiwn a godwyd â’r rhai a fynychodd Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2018
Ymunwch â ni ar ein sianeli cyfryngau
24
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 05 – Rhagfyr 2018