Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Cynllun Strategol 2015 - 2020

Page 1

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cynllun Strategol 2015 - 2020

1 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Gweledigaeth Ein gweledigaeth yw y bydd Cymru’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil ragorol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd, lles a ffyniant pobl yng Nghymru.

Nodau Strategol Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth byddwn yn: 1. Sicrhau bod cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â hwy yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud ac yn weladwy ym mhob elfen ohono. 2. Sicrhau bod ein gwaith yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru ac yn cael effaith wirioneddol. 3. Integreiddio ein seilwaith a’n rhaglenni’n llawn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. 4. Buddsoddi mewn meysydd y mae Cymru’n rhagori ac yn unigryw ynddynt. 5. Cynyddu capasiti mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 6. Datblygu systemau sy’n sicrhau darpariaeth ragorol ac yn defnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl.

O ganlyniad i wireddu ein gweledigaeth, bydd gan Gymru gymuned ymchwil ffyniannus sy’n cydweithio’n agos gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i gydgynhyrchu ymchwil sy’n arwain at wybodaeth newydd sy’n cael ei throsi’n bolisi ac arfer. Bydd ein gwaith i gyd wedi’i fapio yn ôl themâu rhyngberthynol budd cyhoeddus, ymwybyddiaeth gynyddol o ymchwil, effaith ar ymchwil ac effaith economaidd. 2 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Cyflwyniad Mae rôl ganolog ymchwil a datblygu o ran gwella iechyd a lles, gwella effeithiolrwydd gwasanaethau a chreu cyfoeth, ac felly agenda bolisi Llywodraeth Cymru, wedi cael ei phwysleisio mewn nifer o ddogfennau allweddol1-12. Rhoddir sawl rheswm dros hyn, a’r rheiny’n aml yn gorgyffwrdd â’i gilydd. Gwella iechyd a lles – Mae nifer o ddarganfyddiadau arloesol trwy ymchwil wedi arwain at ffyrdd newydd ac arloesol o atal a thrin salwch sydd wedi gwella iechyd a lles yn aruthrol. Mae seilio mwy o benderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio’n ei gwneud yn bosibl canolbwyntio adnoddau ble y byddant fwyaf effeithiol, trwy fuddsoddi a dadfuddsoddi priodol. Mae darparu’r modd i ymdrin â’r prif heriau o ran iechyd a lles, afiechyd ac anghydraddoldebau trwy ymchwil a datblygu effeithiol yn allweddol i wella iechyd a lles y genedl. Gwella effeithiolrwydd gwasanaethau – Mae rhoi canfyddiadau ymchwil a datblygu ar waith yn briodol yn galluogi gwasanaethau i gofleidio ffyrdd newydd o weithio a chyfleoedd i wella gofal, ansawdd, cynhyrchiant a chanlyniadau. Mae’r gallu i drawsnewid gwasanaethau trwy ymchwil o ansawdd uchel yn hwyluso’r broses o gyflawni rhagoriaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dangoswyd fod diwylliant ymchwil a datblygu dynamig ac arloesol yn cefnogi effeithiolrwydd a gwaith gwella ac yn creu amgylchedd gwell i weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol weithio a datblygu ynddo. Mae hyn yn cynnig y potensial i gynyddu safon a chyfradd cadw staff sy’n gweithio ac yn cael eu denu i weithio yn y GIG, ym maes gofal cymdeithasol, mewn prifysgolion ac mewn sectorau eraill cysylltiedig yng Nghymru. Creu cyfoeth – Mae ymchwil a datblygu arloesol yn gysylltiedig â chreu incwm sylweddol. Yn ogystal â datblygu a manteisio ar eiddo deallusol, mae bod â sylfaen ymchwil gref ym maes gwyddor iechyd a gofal cymdeithasol a honno wedi’i hintegreiddio’n llawn â’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yn darparu llwyfan i

3 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


ddenu buddsoddiadau mawr o’r diwydiannau fferyllol, biotechnoleg a diwydiannau eraill. Mae’r Is-adran Ymchwil a Datblygu wedi’i leoli o fewn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n arwain ar strategaeth, polisi, comisiynu, ariannu, rheoli contractau a llywodraethu ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gan yr Is-adran Ymchwil Gofal Cymdeithasol berthnasoedd allweddol o fewn Llywodraeth Cymru gyda thimau Gwyddorau Bywyd ac Arloesi Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru a’r Adran Addysg a Sgiliau. Mae’r Is-adran Ymchwil a Datblygu hefyd yn cydweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr â rolau tebyg yng nghenhedloedd eraill y DU, cynghorau ymchwil y DU, cyrff eraill sy’n ariannu ymchwil a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhithwir, amlweddog, cenedlaethol sy’n cynnwys sawl elfen wahanol o seilwaith a chynlluniau ariannu. Caiff ei ariannu a’i oruchwylio gan yr Is-adran Ymchwil a Datblygu. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu capasiti mewn ymchwil a datblygu, yn rhedeg ystod o gynlluniau ariannu ymatebol ac yn rheoli adnoddau i hybu, cefnogi a chyflawni ymchwil. Mae’n cefnogi ymchwil drosiadol gyda ffocws arbennig ar ymchwil gymhwysol ac ymchwil ym maes iechyd y cyhoedd fel a ddisgrifir yn Adroddiad Cooksey8. Mae hyn yn cynnwys ymchwil i atal, canfod a diagnosio clefydau; datblygu a gwerthuso ymyriadau; darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; a rhoi canfyddiadau ymchwil ar waith yn ymarferol.

Rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2013, cafodd rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr y cyhoedd, y GIG, sefydliadau gofal cymdeithasol, prifysgolion, diwydiant, y trydydd sector ac adrannau eraill y Llywodraeth orchwyl i adolygu’r seilwaith a rhaglenni ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a helpu i benderfynu pa newidiadau y dylid eu gwneud. Fe hwylusodd hyn ddatblygiad dogfen gynigion a gafodd ei hadolygu’n allanol gan gymheiriaid a’i chymeradwyo wedyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 13.

4 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Mae seilwaith arloesol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (gweler y Ffigur isod) a’i bortffolio o raglenni wedi’u hariannu’n cyfnerthu, yn diweddaru ac yn adeiladu ar yr hyn a grëwyd ac a gyflawnwyd hyd yma, gan osod Cymru ar flaen y gad ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r seilwaith newydd yn caniatáu ffocws mwy manwl ar feysydd rhagoriaeth Cymru a meysydd rhagoriaeth sy’n dod i’r amlwg yn y wlad. Bydd yn sicrhau y defnyddir dull Cymru-gyfan, rhyngasiantaethol, rhyngddisgyblaethol, integredig ar draws y sbectrwm trosiadol. Bydd dinasyddion Cymru’n ganolog i seilwaith a rhaglenni sy’n arwain at fanteision mawr ym maes iechyd a lles, effeithiolrwydd gwasanaethau a chreu cyfoeth.

5 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Nodau Strategol Bydd ein nodau strategol yn ein galluogi i wireddu ein gweledigaeth, sef y bydd Cymru’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil ragorol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd, lles a ffyniant pobl yng Nghymru.

1. Mae cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â hwy yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud ac yn weladwy ym mhob elfen ohono. Amcanion: a. Sicrhau bod y cyhoedd yn ganolog i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. b. Gwneud y dinesydd yn ganolog i’r broses o greu gwybodaeth newydd ac o roi gwybodaeth newydd ar waith. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn byddwn yn gwneud y canlynol: Rhoi cymorth i sefydlu perthynas fwy cyfartal rhwng y cyhoedd ac ymchwilwyr; perthynas a danategir gan yr arfer o gynnwys y cyhoedd mewn modd ystyrlon. Byddwn yn sicrhau bod yr arfer o gynnwys y cyhoedd wedi’i integreiddio a’i sefydlu’n llawn ym mhob agwedd ar seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Byddwn yn hwyluso hyn trwy roi mynediad i ymchwilwyr a’r cyhoedd at y cymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gynnwys a chael eu cynnwys. Byddwn hefyd yn lansio menter newydd, Doeth Am Iechyd Cymru, sy’n cael ei pherchenogi a’i llywio gan y cyhoedd trwy Fwrdd Cyflawni Cyhoeddus Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd Doeth Am Iechyd Cymru yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella dealltwriaeth am bwysigrwydd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu i gynyddu’r ymwneud a chyfranogiad gan y cyhoedd. Bydd yr holl bobl yng Nghymru’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil, i gyfrannu eu gwybodaeth a dod yn rhan o garfan genedlaethol i ddarparu gwybodaeth well a fydd yn sail i driniaethau newydd, gwasanaethau newydd, cynhyrchion newydd a phrosesau newydd. Bydd hyn yn cael ei lywio mewn ffordd sy’n creu partneriaeth newydd rhwng y boblogaeth, defnyddwyr ac ymchwilwyr, gan sicrhau cydsyniad a chydgynhyrchu effeithiol 6 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


ynghyd â lefel newydd o dryloywder. Bydd Doeth Am Iechyd Cymru yn creu llwyfan cryf ar gyfer ymchwil, gwerthuso gwasanaethau a datblygu polisïau.

2. Mae ein gwaith yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru ac yn cael effaith wirioneddol. Amcanion: a. Sicrhau bod tystiolaeth ymchwil yn cael ei defnyddio i wella iechyd a lles poblogaeth Cymru trwy leihau amrywiadau amhriodol a gwella cysondeb a thryloywder. b. Ariannu ymchwil sy’n ei gwneud yn bosibl i fwy o benderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o sgiliau ac adnoddau. c. Sicrhau bod tystiolaeth ymchwil yn gwneud i sefydliadau’r GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru weithio’n well ac yn arwain at wasanaethau gwell, gofal gwell a chanlyniadau iechyd a lles gwell trwy wneud dim ond yr hyn y mae angen ei wneud, dim mwy, dim llai a dim niwed. d. Darparu swyddi a thwf, a threchu tlodi. e. Sicrhau bod ymchwil yn sail i arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o lwybr i ledaenu datblygiadau arloesol mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a hynny’n gyflym ac ar raddfa fawr. f. Cyflawni iechyd a lles gyda’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal trwy gydgynhyrchu.

Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn byddwn yn gwneud y canlynol: Cydweithio’n agos gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion a restrir yn y Rhaglen Lywodraethu14, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl1 a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu2 a’r nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)15 i greu ‘Cymru iachach’. Byddwn yn rhedeg galwadau ymchwil seiliedig-ar-themâu sy’n ymwneud â meysydd polisi sy’n flaenoriaeth i Gymru ac yn gweithio gyda’r cyhoedd, swyddogion polisi a

7 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


rhanddeiliaid eraill i hwyluso proses effeithiol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a gweithredu arni.

3. Mae ein seilwaith a’n rhaglenni wedi’u hintegreiddio’n llawn. Amcanion: a. Datblygu ymchwil ar draws y sbectrwm trosiadol gyda ffocws arbennig ar ymchwil gymhwysol ac ymchwil ym maes iechyd y cyhoedd. b. Ysgogi mwy o gydweithio ym maes ymchwil rhwng y cyhoedd, y GIG, gofal cymdeithasol, prifysgolion, y trydydd sector a diwydiant. c. Creu strwythur sy’n ddarbodus a heb ddyblygu. d. Gwella cost-effeithiolrwydd sy’n ei gwneud yn bosibl cyflwyno buddsoddiadau newydd a fydd yn rhoi cymorth i wireddu ein gweledigaeth. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn byddwn yn gwneud y canlynol: Hybu ac ysgogi’r arfer o gydweithio ar draws sectorau, gan hybu defnydd doethach o ddata rheolaidd ac annog diwylliant o arloesi agored. Bydd Canolfannau ac Unedau Ymchwil Cenedlaethol amlbroffesiwn ac amlddisgyblaethol yn gonglfeini canolog i’r seilwaith gyda chyfrifoldeb am ddatblygu ymchwil ar draws y sbectrwm trosiadol. Lle y bo’n berthnasol, bydd hyn yn cynnwys meithrin perthnasoedd gyda phartneriaid ym myd diwydiant a phartneriaid ymchwil eraill i lywio model cynaliadwy o arloesi agored a fydd yn arwain at gyflawni ar y cyd a rhannu refeniw. Bydd y gwasanaeth cymorth a chyflawni’n cydweithio’n agos gyda Chanolfannau, Unedau, elfennau eraill o’r seilwaith ac ymchwilwyr, ac yn sicrhau cydweithio rhwng sefydliadau’r GIG, Canolfan Cymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Gweithlu Cenedlaethol i ddileu gwastraff a gwella effeithlonrwydd.

4. Rydym yn buddsoddi mewn meysydd y mae Cymru’n rhagori ac yn unigryw ynddynt. Amcanion: a. Creu seilwaith sy’n rhoi cymorth i ddatblygu a chyflawni ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o safon fyd-eang. 8 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


b. Cynyddu’r cyllid allanol a enillir ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. c. Hwyluso’r defnydd o ddata ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gesglir yn rheolaidd i gynnal ymchwil o ansawdd uchel a darparu gwybodaeth a fydd yn sail i wella gwasanaethau. d. Cefnogi gweithgareddau sy’n galluogi Canolfannau ac Unedau i fancio samplau o ansawdd uchel o feinweoedd a chael data geneteg/genomeg o ansawdd uchel i’w gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth well am y mecanweithiau sydd wrth wraidd clefydau a mabwysiadu dull haenedig o ddatblygu triniaethau newydd. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn byddwn yn: Datblygu ein Canolfannau a’n Hunedau yn endidau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Byddwn yn parhau i gydariannu mentrau ledled y DU gyda chyrff eraill sy’n ariannu ymchwil ac yn datblygu partneriaethau strategol newydd yn y DU, Ewrop a’r tu hwnt i fanteisio’n llawn ar botensial Cymru i ennill cyllid ymchwil rhyngwladol pwysig. Byddwn yn parhau i ariannu’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a gweithio gyda chydweithwyr polisi, sefydliadau’r GIG a Phractisiau Meddygon Teulu yng Nghymru i gynyddu i’r eithaf y gyfradd recriwtio i SAIL a'r defnydd o’i setiau data i gefnogi gwaith ymchwil a gwaith datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i ariannu Parc Geneteg Cymru ac ymchwilio i fentrau strategol newydd i gefnogi’r broses o ddadansoddi cymeriad genetig a genomig samplau ymchwil. Byddwn yn parhau i ariannu Unedau Treialon Clinigol o ansawdd uchel ledled Cymru a Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd cenedlaethol i roi cymorth i ddatblygu a chyflawni ymchwil o ansawdd uchel.

5. Rydym yn cynyddu capasiti mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Amcanion: a. Cynyddu nifer yr ysgoloriaethau a chymrodoriaethau ymchwil ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

9 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


b. Cynyddu nifer y Pen Ymchwilwyr a’r Prif Ymchwilwyr ar astudiaethau sy’n rhan o’r Portffolio Ymchwil Glinigol. c. Cynyddu maint yr ymchwil masnachol ac anfasnachol o ansawdd uchel yng Nghymru. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn byddwn yn: Lansio Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol a fydd yn gyfrifol am feithrin capasiti mewn ymchwil gofal cymdeithasol, a pharhau i ariannu Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru i gynyddu capasiti ymchwil mewn proffesiynau iechyd anfeddygol yng Nghymru. Byddwn yn cynyddu amlder a gwerth ein cynlluniau ariannu ar gyfer meithrin capasiti (gan gynnwys ein cynllun Cyllid Grant Ymchwil, ein Cynllun Ariannu Cymrodoriaethau a’n Cynllun Ariannu Ysgoloriaethau Ymchwil PhD) trwy ddatblygu partneriaethau strategol chyrff eraill sy’n ariannu ymchwil a thrwy ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i ysgogi cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill. Bydd amlder y galwadau’n sicrhau cyfleoedd rheolaidd i ymchwilwyr sydd ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ymgeisio am gyllid, bydd yn denu ymchwilwyr newydd i Gymru ac yn cadw ac yn datblygu ymchwilwyr a darpar ymchwilwyr sydd eisoes wedi’u lleoli yng Nghymru. Bydd cyfleoedd i gynyddu nifer y Pen Ymchwilwyr a’r Prif Ymchwilwyr ar gyfer ymchwil fasnachol ac anfasnachol yn parhau i gael eu sefydlu mewn gweithgareddau megis dyraniadau’r GIG a’r gystadleuaeth Amser Ymchwil Glinigol.

6. Rydym yn gweithio mewn ffyrdd sy’n sicrhau darpariaeth ragorol ac yn defnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl. Amcanion: a. Lleihau’r amser a gymerir i gymeradwyo a chychwyn astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. b. Hwyluso’r broses o recriwtio a chadw cyfranogwyr mewn astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel. c. Cyflawni astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar amser a chan gyrraedd y targed.

10 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn byddwn yn: Gwneud rhagoriaeth, cyflawni, gwella ansawdd a sicrhau ansawdd yn arwyddeiriau a sefydlu systemau arweinyddiaeth a llywodraethu cryf, effeithiol. Byddwn yn datblygu seilwaith cymorth a chyflawni integredig a chydgysylltiedig ar gyfer ymchwil a datblygu i gyflawni’r effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mwyaf posibl mewn gwasanaethau cymorth a chyflawni ymchwil, ac i gynyddu cystadleurwydd rhyngwladol yr amgylchedd ymchwil yng Nghymru. Byddwn yn sicrhau bod adnoddau a gwasanaethau i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn hygyrch a byddwn yn parhau i gefnogi a datblygu’r Uned Cydgysylltu Caniatâd a’r Gwasanaeth Moeseg Ymchwil i adolygu cyfleoedd i wneud prosesau cymeradwyo ymchwil yn haws ac yn gwbl gyson â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar sicrhau bod cyllid yn canolbwyntio ar roi cymorth i gyflawni ymchwil, a gwneud perfformiad sefydliadau’r GIG yn dryloyw ac atebol.

11 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Llywodraethu Bydd Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015-2020 yn cael ei danategu gan ddangosyddion a fframwaith rheoli perfformiad cadarn sy’n cynnwys budd cyhoeddus, ymwybyddiaeth gynyddol o ymchwil, effaith ar ymchwil ac effaith economaidd. Bydd perfformiad yn cael ei fonitro a’i reoli trwy Fyrddau Cyflawni Ymchwil a Datblygu Cyhoeddus, y GIG a Gofal Cymdeithasol sy’n bwydo i mewn i Fwrdd Cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn adrodd trwy’r Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Llywodraeth Cymru

Bwrdd Cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Bwrdd Cyflawni Ymchwil a Datblygu Cyhoeddus

Bwrdd Cyflawni Ymchwil a Datblygu’r GIG

Bwrdd Cyflawni Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol

Elfennau o Seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (e.e. grwpiau llywio allanol ar gyfer canolfannau ac unedau, grŵp gweithredu’r ganolfan gymorth)

12 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


CYFEIRIADAU 1. Llywodraeth Cymru (2011). Law yn Llaw at Iechyd: Gweledigaeth Bum Mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru. 2. Llywodraeth Cymru (2011). Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. 3. Llywodraeth Cymru (2012). Law yn Llaw at Ymchwil ac Arloesi: Strategaeth Ymchwil ac Arloesi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012-2015. 4. Llywodraeth Cymru (2012). Cynllun Ariannu Ymchwil a Datblygu’r GIG 2012/13 – 2014/15. 5. Llywodraeth Cymru (2012). Ymgysylltu â Diwydiant yng Nghymru. 6. Llywodraeth Cymru (2013). Cynyddu i’r eithaf y defnydd o ddata rheolaidd ar gyfer ymchwil yng Nghymru. 7. Llywodraeth Cymru (2012). Gwyddoniaeth i Gymru: agenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru. 8. Cooksey, D. (2006). A review of UK Health Research Funding: Department of Health. 9. Keogh, B. (2013). Review into the quality of care and treatment provided by 14 hospital trusts in England: overview report. 10. Y Swyddfa Gwyddorau Bywyd (2010). Delivering the Blueprint. 11. Yr Adran Iechyd (2012). Innovation Health and Wealth, accelerating adoption and diffusion in the NHS. 12. Prifysgol Abertawe (2009). Blaenoriaethau a Chapasiti ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Ymarfer Ymgynghori. 13. Llywodraeth Cymru (2014). Ailstrwythuro seilwaith a rhaglenni a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Dogfen gynigion. 14. Llywodraeth Cymru (2013). Rhaglen Lywodraethu: Adroddiad Blynyddol. 15. Llywodraeth Cymru (2015). Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

13 Cynllun Strategol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2015 - 2020 – 22 Mai 2015


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.