Metelau, Mwyngloddiau a Mynyddoedd 11 a 12 Mai 2012 10:00 – 16:30 Canolfan Cymuned Ystrad Meurig Dyma ysgol ddeuddydd gyffrous ar archeoleg ddiwydiannol sy’n cynnwys sgyrsiau gan arbenigwyr blaenllaw ynglŷn â’r gwaith diweddar yng Ngheredigion a thu hwnt. Y diwrnod canlynol bydd taith gerdded 6 milltir gydag arweinydd i ymweld â diwydiant ac archeoleg y dirwedd leol. Ers dau ddegawd a rhagor bu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gwneud gwaith arolwg archeolegol ar draws mynyddoedd a rhostiroedd Cymru yn rhan o Fentr Archeoleg yr Ucheldiroedd. O’r herwydd, fe ymddangosodd ddarlun newydd o fywyd yn yr ardaloedd mynydd ac fe ddarganfuwyd treflannau gwag, ffermydd, safleoedd defodau a gwaith diwydiannol. Mae’r rhain yn rhoi golwg newydd ar fywydau ein cyndeidiau a fu yma’n llunio’r dirwedd hon dros filoedd o flynyddoedd. Eleni, bydd Cysylltiadau Metel, prosiect newydd a ariannwyd gan Ewrop, hwythau’n dechrau edrych ymhellach ar dirwedd ddiwydiannol y tiroedd mynydd. Bydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar ddarganfod hanes ac adrodd stori'r diwydiannau mwyngloddio metel yng Nghymru a’r Iwerddon. Yn yr ysgol deuddydd Metalau, Mwyngloddiau a Mynyddoedd, ceir sgyrsiau gan archeolegwyr blaenllaw ac arbenigwyr lleol o Gymru a’r tu hwnt ar yr ymchwil diweddar mewn archeoleg ddiwydiannol, gan gynnwys rhai astudiaethau lleol o Geredigion. Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn cynnwys cyfres o sgyrsiau ar y dydd Gwener ac yna taith o 6 milltir gydag arweinydd o amgylch tirwedd hanesyddol Trefeurig (SN 680 840), gan ymweld â mwyngloddiau a bryngeyrydd ar y dydd Sadwrn a gan gychwyn am 10:00. Cost y digwyddiad hwn fydd £5 sy’n cynnwys cinio a lluniaeth ar y dydd Gwener. Cofiwch ddod â phecyn bwyd a dillad ac esgidiau addas os ydych chi’n dymuno mynd ar y daith gerdded ar y dydd Sadwrn. Mae archebu lle yn angenrheidiol. Ceir manylion yn www.rcahmw.gov.uk
Metals, Mines and Mountains 11th and 12th May 2012 10:00 – 16:30 Ystrad Meurig Community Centre An exciting dayschool on upland and industrial archaeology, with talks from leading experts on recent work in Ceredigion and beyond, with a 6 mile guided walk on the following day to see industry and archaeology in the local landscape. For more than two decades the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales has carried out archaeological survey work across the mountains and moorlands of Wales as part of its Upland Archaeology Initiative. As a result a new picture of life in the uplands has emerged with the discovery of abandoned settlements, farms, ritual sites and industrial activity. These give us a fresh insight into the lives of our ancestors who have shaped this landscape over thousands of years. This year Metal Links, a new, European-funded project, has also begun to look further into the industrial landscape of the uplands. The project will focus on discovering and telling the story of the metal mining industries of Wales and Ireland. The Metals, Mines and Mountains dayschool will hear talks from eminent archaeologists and local specialists on current research in industrial archaeology from around Wales and beyond, including local case studies from Ceredigion. The two-day event will be made up of a series of talks on Friday and a 6-mile guided walk around the historic landscape of Trefeurig (SN 680 840), taking in mines and hillforts, on Saturday, starting at 10:00. The event will cost £5 to cover lunch and refreshments on Friday. Please ensure that you bring a packed lunch if attending the walk on Saturday as well as suitable clothing and footwear. Booking is essential; details can be found at www.rcahmw.gov.uk