Hyfforddiant Archaeolegol Mynwent Archaeological Graveyard Training Dydd Sadwrn 19 Mai Saturday 19th May 10:00-16:00
Ar ddydd Sadwrn 19 Mai (10:00-16:00) byddwn yn cynnal gweithdy arolwg mynwentydd yn Eglwys Ysbyty Cynfyn (SN 754791). Gydol y diwrnod bydd archeolegwyr o’r cynllun Cysylltiadau Metel yn dysgu aelodau’r cyhoedd sut i gynnal arolwg o fynwent, o drawsgrifio’r cerrig beddi at gofnodi eu cyflwr a’u lleoliad. Rhoddir hyfforddiant hefyd ar sut i ddarllen mynwent a’i chofebion. Bydd y sesiynau’n cychwyn am 10am a 1:30pm. Awgrymir y dylech archebu lle, ond nid yw hynny’n angenrheidiol. Gellir archebu drwy abby.hunt@rcahmw.gov.uk neu samantha.williams@rcahmw.gov.uk neu 01970 621203.
On Saturday 19th May (10:00-16:00) we will be carrying out a graveyard survey training workshop Ysbyty Cynfyn Church (SN 754791). Throughout the day archaeologists from the Metal Links project will teach members of the public how to carry out a graveyard survey, from transcribing the stones through to recording their condition and location. Training will also be given on how to read the graveyard and its memorials. Sessions will begin at 10am and 1:30pm. Booking is advisable but not essential and can be done via abby.hunt@rcahmw.gov.uk or samantha.williams@rcahmw.gov.uk or 01970 621203.