Teimlo'n Dda

Page 1

Teimlo'n Dda

Feeling Good

Llawlyfr i’ch helpu i gynnal gweithdy Llesiant emosiynol.

Pobl yn Gyntaf Sir Benfro Yn cynnwys Eiriolaeth Sir Benfro


Cafodd y Llawlyfr yma ei gyllido gan Gronfa’r Loteri Fawr; cafodd ei ysgrifennu gan aelodau Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a’i gyhoeddi gan Anabledd Dysgu Cymru. Anabledd Dysgu Cymru 41 Cilgant Lambourne Parc Busnes Caerdydd Llanisien Caerdydd CF14 5GG 029 2068 1160 www.adcymru.org.uk

Pobl yn Gyntaf Sir Benfro Tŷ Portcullis Heol Old Hakin Pont Myrddin Hwlffordd Sir Benfro SA61 1XE 01437 769135 www.pembrokeshirepeople1st.org.uk

Ionawr 2016

Teimlo’n Dda

2


Cynnwys Cefndir ...................................................................................................................... 4 Cyflwyniad i’r Llawlyfr .......................................................................................... 5 Beth ydy Llesiant Emsiynol? ............................................................................... 5 Y gweithdy .............................................................................................................. 6 Rhedeg y gweithdy ............................................................................................... 7 Cyfarwyddiadau’r gweithdy – manwl ............................................................ 11 Cyfarwyddiadau Gweithdy – geiriau’n unig ................................................. 24 Gemau ychwanegol ........................................................................................... 28 Siart Troi “Beth ydy Llesiant Emosiynol?” ..................................................... 31 Theatr Delweddau .............................................................................................. 33 Engreifftiau o Chwarae Rôl a Nodiadau ........................................................ 34 Gweithgareddau eraill y gallwch eu cynnwys yn y gweithdy .................. 41 Sut ydych chi’n teimlo heddiw? ...................................................................... 43 Ffurflen Gofresti .................................................................................................. 44 Gwerthuso Hyfforddiant ................................................................................... 45 Amlinelliad o’r gweithdy................................................................................... 46

3

Teimlo’n Dda


Cefndir Yn 2014 pasiodd Llywodraeth Cymru y Ddeddg Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)2014. Mae’r darn pwysig yma o ddeddfwriaeth yn newid y ffordd y mae Gofal Cymdeithasol yn cael ei ddarparu yng Nghymru ac mae’n rhoi pwyslais ar lesiant. Yn 2015 fe gynhaliodd Anabledd Dysgu Cymru gynhadledd 2 ddiwrnod ar y thema llesiant o’r enw Calon ac Enaid. Gyda chyllid gan Gronfa’r Loteri Fawr, fe wnaeth Anabledd Dysgu Cymru a Phobl yn Gyntaf Sir Benfro ddyfeisio gweithdy i helpu pobl gydag anabledd dysgu i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hymwybyddiaeth o lesiant emosiynol. Cafodd y gweithdy yma ei hwyluso yn Calon ac Enaid ar 5 Tachwedd 2015. Cafodd y llawlyfr yma ei gynhyrchu i helpu grwpiau eraill i gynnal gweithdai tebyg ar gyfer eu cynulleidfaoedd eu hunain ar amser a lle sydd yn gyfleus iddyn nhw.

Teimlo’n Dda

4


Cyflwyniad i’r Llawlyfr Fe fydd y Llawlyfr yma yn eich helpu i:  Deall beth ydy ‘Llesiant Emosiynol’.  Sut i arwain gweithdy i helpu eraill i ddeall beth ydy llesiant emosiynol. Beth ydy Llesiant Emsiynol?  Mae pob un ohonom eisiau teimlo’n ‘dda’ ac mae’n gallu golygu pethau gwahanol.  Er mwyn teimlo’n dda yn ein cyrff, neu yn gorfforol, rhaid inni fwyta’n dda ac ymarfer i gadw’n heini.  I deimlo’n well yn ein meddyliau, neu yn emosiynol rhaid inni wybod:  Pa deimladau rydyn ni’n eu teimlo  Pam ein bod yn eu teimlo  Beth sy’n digwydd inni pan rydyn ni yn eu teimlo  Beth i’w wneud i helpu i newid teimladau anodd.

5

Teimlo’n Dda


Y gweithdy Fe fydd y llawlyfr yma yn eich helpu i baratoi a chynnal gweithdy i helpu pobl i ddeall llesiant emosiynol. Mae cyfarwyddiadau yn y pecyn ar sut i baratoi a hwyluso gweithdy.

Beth fyddwch chi ei angen? 1. Fe fydd angen 3 o bobl o leiaf i redeg y gweithdy yma, mae 4 hyd yn oed yn well. 2. Amser i baratoi ac ymarfer ar gyfer y gweithdy. 3. Siart troi, papur a phensiliau. 4. Ystafell maint da yn hygyrch i gadeiriau olwyn, toiledau hygyrch ac yn ddelfrydol (ond nid yn hanfodol) cegin. 5. Gofod i gael cylch o gadeiriau i bawb yn y gweithdy. 6. Ffurflen gofrestru i gael enwau a manylion cyswllt. 7. Ffurflenni gwerthuso ar gyfer y diwedd. 8. Pensiliau. 9. Te, coffi a bisgedi (a ffrwythau hefyd!) Am faint fydd y gweithdy yn para? Fe fydd y gweithdy yma yn para rhwng awr ac awr a hanner. Mae’n gallu bod yn hirach os ydych yn cynnwys mwy o ddrama ac ymarferion.

Teimlo’n Dda

6


Rhedeg y gweithdy Paratoi i redeg y gweithdy Ar dudalen 11 mae yna gyfarwyddiadau manwl i’ch helpu i baratoi ar gyfer rhedeg y gweithdy. Mae yna nodiadau symlach ar dudalen 30 i’w defnyddio pan fyddwch yn sicr o beth rydych yn ei wneud. Mae’n bwysig bod pawb sydd yn rhedeg y gweithdy yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud a’u bod wedi ymarfer.

 Cyfarfod fel gr?p ac edrych trwy'r cyfarwyddiadau ar sut i redeg y gweithdy.  Penderfynu pwy sydd yn mynd i hwyluso'r gwahanol adrannau.  Gweithio gyda'ch gilydd i ymarfer pob adran o'r gweithdy.  Gwneud yn si?r eich bod yn ymarfer digon hyd nes eich bod yn gyfforddus yn gwneud eich rhan chi.

7

Teimlo’n Dda


Yr wythnosau cyn y gweithdy  Gwirio lleoliad y gweithdy ar gyfer gofod, hygyrchedd, cyfleusterau cegin a thoiled.  Cyfarfod pawb sydd yn arwain y gweithdy i ymarfer.

Llun Mawrth Mercher Iau

Gwener  Penderfynu pwy fydd yn arwain pa ddarn. Efallai mai un Sadwrn arweinydd fydd gennych chi Sul gyda’r gweddill yn cefnogi gyda’r darnau chwarae rôl. Gallwch gymryd eich tro i redeg pob darn.  Mae angen ymarfer y gemau er mwyn gwybod sut maen nhw’n gweithio.  Mae angen ymarfer y chwarae rôl – penderfynu pwy sy’n chwarae pob rhan. Y diwrnod cynt neu ar y diwrnod  Mae angen siart troi a phensiliau. Ysgrifennwch siart troi fel y siart troi “Beth ydy Llesiant Emosiynol?”ar dudalen 31 yng nghefn y llawlyfr.  Prynnwch de, coffi, llaeth,siwgr, bisgedi, ffrwythau os oes angen i chi fynd â nhw gyda chi. Holwch os oes cwpannau, tegell a gwydrau yn y lleoliad. Os na, efallai y bydd rhaid i chi fynd a diodydd oer a chwpannau plastig.  Gwiriwch y cyfarwyddiadau i’r lleoliad a sut y byddwch yn mynd i mewn. Oes angen allwedd arnoch chi neu gyfarfod rhywun yno i agor y drws?  Copïwch y ffurflenni cofrestru a gwerthuso yng nghefn y llawlyfr (tudalennau 44 a 45), neu lluniwch rai eich hunan. Teimlo’n Dda

8


Paratoi yn lleoliad y gweithdy Pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad, fe fydd angen i chi:  Gosod cadeiriau mewn cylch. Gwneud yn siŵr bod yna ofod i bobl mewn cadeiriau olwyn i ddod i mewn i’r ystafell ac o amgylch y cylch yn hawdd.  Paratoi diodydd a byrbrydau. Mae’n bwysig bod pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw ac mae cynnig diod a byrbryd iddyn nhw pan fyddan nhw’n cyrraedd yn ffordd dda o wneud hyn.  Gosod y siart troi a’r pensiliau yn agos at y cylch.  Rhoi’r ffurflen gofrestru ar fwrdd yn agos at y fynedfa. Croeso i’r gweithdy  Croesawu pobl wrth iddyn nhw gyrraedd gyda gwên ac ychydig eiriau fel “Helo, fy enw i ydy… Beth ydy’ch enw chi?’, ‘Gawsoch chi siwrne dda yma?’  Gofynnwch iddyn nhw lofnodi’r gofrestr.  Rhoi copi o amlinelliad y gweithdy i bawb (tudalen 46).  Dweud wrthyn nhw ble mae’r toiledau a ble i roi eu cotiau.  Cynnig diod a rhywbeth i’w fwyta iddyn nhw.  Gofyn iddyn nhw eistedd ar gadair yn y cylch pan fyddan nhw’n barod.

 Efallai na fydd rhai pobl (yn aml gweithwyr cefnogi) eisiau eistedd yn y cylch. Ond mae’n bwysig bod pawb yn yr ystafell yn ymuno neu fel arall mae pobl yn gallu teimlo’n anghyfforddus os ydyn nhw’n teimlo bod rhywun yn eu ‘gwylio’. Ein moto ydy ‘os ydych yn yr ystafell, rydych chi yn y cylch’!

9

Teimlo’n Dda


Beth i’w wneud os oes rhywun yn mynd i gynhyrfu mewn gweithdy Mae archwilio teimladau weithiau yn golygu bod pobl yn mynd i gynhyrfu. Mae’n berffaith iawn i rhywun deimlo’n drist neu i gynhyrfu pan fyddan nhw’n rhannu profiad anodd. Mae hyn yn gallu eich dychryn fel arweinydd ynghylch beth i’w wneud. Yn aml mae diolch iddyn nhw am rannu eu profiad, cynnig dŵr a hances iddyn nhw yn ddigon. I lawer o bobl does ganddyn nhw neb i siarad gyda nhw am brofiadau anodd ac felly mae’n bwysig eu bod yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn gofalu amdanyn nhw fel hyn. Os ydy rhywun yn dal i deimlo’n gynhyrfus efallai y byddwch angen help ychywanegol. Fe fyddwch angen rhywun sydd yn gallu rhoi cefnogaeth y tu allan i’r ystafell. DDYLECH CHI DDIM GWNEUD HYN EICH HUN. Yn ddelfrydol fe fydd yna weithiwr cefnogi, neu aelod arall o’r grŵp sydd yn gallu mynd gyda chi a’r person sydd wedi cynhyrfu i rhywle y tu allan.

Teimlo’n Dda

10


Cyfarwyddiadau’r gweithdy – manwl Amlinelliad 1. Cylch cyflwyno (5 – 10 munud) 2. Gêm torri’r iâ (10 munud) 3. Beth ydy Llesiant Emosiynol? – trafodaeth grŵp gyda siart troi (10 munud) 4. Edrych ar deimladau – Theatr Delweddau (10-15 munud) 5. Chwarae rôl (20 munud) 6. Cylch Gorffen (5 – 10 munud) 7. Gwerthuso (5 munud)

11

Teimlo’n Dda


1. Cylch Cyflwyno - (5-10 munud) Ymarfer byr ydy hwn i ddod i adnabod pobl a’u cael i feddwl am eu llesiant eu hunain.

Camau gweithredu i Arweinwyr Gweithdy 1. Gwahodd pawb i gymryd sedd yn y cylch o gadeiriau. 2. Fe fydd un ohonoch yn cyflwyno’r gweithdy a’r cylch cyflwyno gyda geiriau fel y rhai isod.

Geiriau “Croeso i’n Gweithdy Llesiant Emosiynol. Mae hwn yn weithdy am sut rydym yn teimlo. I dechrau fe fyddwn yn cychwyn gyda cylch enw a dod i adnabod ein glydd. Fedrwch chi ddweud wrthyn ni beth ydy’ch enw a sut rydych chi’n teimlo ar raddfa o 1 i 10? Mae 1 yn golygu eich bod yn teimlo’n ofnadwy, eich bod yn dymuno na fyddech chi wedi codi o’r gwely! Mae 10 yn golygu mai hwn ydy’ch diwrnod gorau erioed! Efallai eich bod yn teimlo rhywle yn y canol. Mae sut rydych yn teimlo yn fater i chi ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw beth bynnag ydy’r rhif. Ydych chi hefyd yn gallu dweud rhywbeth sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda? Mae’n berffaith iawn i beidio â dweud dim, ond rhowch gynnig arni a dweud beth ydy’ch enw. Pan rydyn ni yn y cylch mae’n bwysig iawn os oes rhywun yn siarad bod pawb yn gwrando ac yn talu sylw ac yn dangos parch. Hefyd os mai eich tro chi ydy hi i siarad, cadwch eich ateb yn fyr fel bod pawb yn cael tro.”

Teimlo’n Dda

12


Nodiadau Mae’r cylch cyflwyno yn ddefnyddiol i’r arweinwyr am y rhesymau yma:  Eich helpu i ddysgu enwau pobl  Helpu pobl i gymryd rhan a siarad yn gynnar a’u hannog gobeithio i ymuno mwy.  Eich helpu i gael syniad o sut maen nhw’n teimlo. Does dim angen i chi ddweud dim am rhywun sydd yn teimlo rhif isel neu rif uchel, gadewch iddyn nhw fod yn unrhyw rif heb deimlo dan bwysau.  Rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi y gallwch siarad amdano yn nes ymlaen ynghylch beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n dda.  Ceisiwch beidio â gwneud sylwadau am beth mae pobl yn ei ddweud gan y byddwch yn colli amser a ffocws. Pan fydd rhywun wedi gorffen, nodiwch, gwenwch, diolchwch iddyn nhw ac edrych ar y person nesaf.  Byddwch yn ofalus nad ydy pobl yn torri ar draws yn y cylch. Gallwch ddweud yn dawel ac yn gwrtais “esgusodwch fi; tro’r person yma ydy hi nawr. Fedrwch chi wrando arnyn nhw? Diolch.”  Byddwch yn ofalus nad ydy pobl yn siarad yn rhy hir yn y cylch. Gallwch dorri ar draws yn dawel a dweud ‘Diolch, mae hyn yn ddiddorol iawn ond does gennym ni ddim llawer o amser. Beth am symud nawr at y person nesaf?”  Os oes mwy na 25 o bobl yn y cylch yna gwnewch enw a rhif, nid y cwestiwn‘beth sy’n gwneud i chi deimlo’n dda?’ oherwydd mae’n cymryd gormod o amser.  Efallai na fydd rhai pobl eisiau siarad, neu efallai mai dim ond dweud eu henw y maen nhw’n gallu ei wneud.

13

Teimlo’n Dda


2. Gêm Torri’r Iâ – “Newid Lle!” (10 munud)

Camau gweithredu i Arweinwyr Gweithdy 1 arweinydd i redeg y gêm. Mae’r grŵp yn aros yn y cylch

Geiriau “Rydyn ni’n mynd i chwarae gêm gyflym o’r enw ‘Newid Lle’. Rwy’n mynd i droi fy nghadair a sefyll yn y canol. Dydy fy nghadair ddim yn y gêm nawr. Rwyf eisiau cadair a’r unig ffordd o gael cadair ydy dweud rhywbeth sydd yn wir amdana’i. Os ydy e’n wir amdanoch chi hefyd rhaid i chi newid lle! Tra bod pawb yn newid lle fe fyddaf yn ceisio cael cadair gan adael rhywun newydd yn y canol. Felly y rheolau ydy:  Rhaid iddo fod yn wir amdanoch chi os ydych yn y canol neu yn newid lle. Er enghraifft dydych chi ddim yn gallu dweud ‘newidiwch le os oes gennych wallt du’ os oes gennych wallt melyn!  Os ydych yn symud, dydych chi ddim yn gallu mynd yn ôl i’ch cadair gyntaf neu neidio i’r gadair y bob ochr i chi.”

Teimlo’n Dda

14


Nodiadau 1. Mae hon yn gêm wych i gael pobl i symud o gwmpas ac ymuno ac fe fydd yn helpu gyda’r chwarae rôl yn nes ymlaen. Weithiau efallai bydd pobl yn swil neu fyddan nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud yn y canol felly gallwch gynnig help trwy ddweud “Gall fod yn lliw eich gwallt, pa fwyd rydych chi’n ei hoffi, pa raglen deledu rydych chi’n ei hoffi, eich hoff ddiddordebau.” 2. Paratoi rhai brawddegau da i arweinwyr y gweithdy i’w defnyddio a fydd yn helpu pobl i feddwl am eu teimladau. Dyma rai enghreifftiau da a. Newidiwch le os ydych weithiau yn teimlo mor drist fel nad ydych eisiau codi o’r gwely b. Newidiwch le os ydych weithiau yn esgus bod yn hapus pan nad ydych chi c. Newidiwch le os ydych chi weithiau yn teimlo’n unig d. Newidiwch le os ydych wedi teimlo’n grac iawn gyda rhywun ac wedi taro allan ar rhywun arall e. Newidiwch le os ydych weithiau yn edrych yn y drych a dim yn hoffi beth rydych yn ei weld Mae’r holl gwestiynau yma yn helpu i gadw’r ffocws ar lesiant emosiynol a hefyd yn dangos i bobl nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain gan y bydd y rhan fwyaf o bobl yn newid lle i’r cwestiynau uchod. 3. Mae’n dda hefyd cael ychydig o gwestiynau hwyliog a fydd yn cael pawb i symud. a. Newidiwch le os ydych yn hoffi siocled b. Newidiwch le os ydych yn byw yng Nghymru c. Newidiwch le os ydych wedi rhoi bai am ollwng gwynt ar y ci! 4. Ar ôl ychydig o droeon da, penderfynwch pryd i stopio a throwch eich cadair yn ôl ac felly does neb wedi’u gadael yn y canol.

15

Teimlo’n Dda


Geiriau ar y diwedd “Felly, ar ôl y gêm yna, codwch eich dwylo os ydy hynny wedi newid sut rydych chi’n teimlo. (Arhoswch i weld yr ymateb.) Codwch eich dwylo os ydych yn teimlo eich bod wedi ymlacio ar ôl bod yma. (Arhoswch am ymateb). Codwch eich dwylo os ydy hi wedi bod yn anodd i chi fod yn y canol. (Arhoswch am ymateb)”

Nodiadau 1. Cofiwch pan fyddwch yn gofyn cwestiynau eich bod chi a’r arweinwyr eraill yn cymryd rhan hefyd. Felly, os ydy hi braidd yn anodd i chi fod yn y canol, codwch eich llaw. Mae’n annog pobl i ymuno a peidio poeni mai nhw ydy’r unig un. 2. Os oes rhywun mewn cadair olwyn mae angen i chi adael bylchau o amgylch y gofod er mwyn iddyn nhw fynd hefyd. 3. Os oes rhywun angen arwyddo yna cyfrwch “1, 2, 3” ar ôl pob “newid lle...” fel bod yr arwyddwr yn cael amser i gyfieithu. 4. Byddwch yn barod i addasu’r gemau yn dibynnu pwy sydd yno. 5. Peidiwch â phoeni os nad ydy rhai pobl yn ymuno. Cofiwch eu bod nhw’n dal yn y cylch ac yn cael rhywbeth o’r profiad. 6. Os oes amser gennych chi gallwch chwarae gemau cylch eraill i helpu pobl i ymlacio a dod i adnabod ei gilydd. Mae yna ragor o gemau ar ddiwedd y llawlyfr.

Teimlo’n Dda

16


3. Cyflwyniad i Lesiant Eemosiynol – Trafodaeth Grŵp gyda siart troi (10 munud)

Camau gweithredu i arweinwyr gweithdy 2 arweinydd. Unrhyw rai eraill yn barod i gymryd rhan gyda’r grŵp. Fe fydd 1 ohonoch yn siarad a’r llall yn barod i ysgrifennu ar dudalen y siart troi gyda “Beth ydy Llesiant Emosiynol?” wedi’i ysgrifennu arni.

Geiriau “O’r gorau, beth am symud i’r gweithdy nawr. Rydyn ni’n edrych ar Lesiant Emosiynol. Oes rhywun yn gallu dweud wrtha’i beth mae hynny yn ei olygu iddyn nhw?”

Nodiadau 1. Nodwch syniadau pobl ar y siart troi. 2. Os ydy pobl yn dal i deimlo’n swil neu ddim yn dweud digon, gall yr hwylusydd ddweud pethau sydd wedi’u paratoi ar y ddalen ar “Beth ydy Llesiant Emosiynol?” ar ddiwedd y llawlyfr.

Geiriau ar y diwedd “Felly mae llesiant emosiynol yn golygu teimladau. Beth am edrych ar y rhain yn fwy manwl.”

17

Teimlo’n Dda


4. Edrych ar deimladau – Theatr Delweddau (10-15 munud) Fe fydd 1 hwylusydd yn arwain ac fe fydd 2 neu 3 arall yn dangos Theatr Delweddau wedi’i baratoi (gweler tudalen 33).

Geiriau “Rydyn ni’n mynd i ddangos rhai delweddau wedi’u rhewi i chi o bobl yn teimlo gwahanol bethau. Dwi eisiau i chi ddweud beth rydych chi’n ei weld.”

Camau Gweithredu i Arweinwyr Gweithdy Dangoswch y delweddau o Hapus, Trist, Dicter, Syndod, Ofn a Diflastod. Ar gyfer pob un gofynnwch i bobl;  “Beth ydych chi’n ei weld?”  “Beth yn iaith yr wyneb a’r corff sydd yn gwneud i chi feddwl eu bod nhw’n teimlo fel hyn?”  “Pam eu bod yn teimlo fel hyn?”  “Rhowch eich llaw i fyny os ydych chi erioed wedi teimlo fel hyn?”  “Beth ydych chi’n ei wneud i newid teimlad fel hyn?” (Ar gyfer y teimladau anodd.)

Teimlo’n Dda

18


Nodiadau 1. Peidiwch â dweud wrthyn nhw beth ydy’r ddelwedd. Gadewch iddyn nhw benderfynu. 2. Pwrpas y rhan yma o’r gweithdy ydy cael pobl i adnabod teimladau o edrychiad yr wyneb a’r corff. Gallwch bwyntio allan faint y gallwn ni ddweud am rhywun heb iddyn nhw hyd yn oed siarad. 3. Cofiwch y dylai’r hwyluswyr ymuno yn y cwestiynau ‘dwylo i fyny’ a rhai eraill os oes angen. 4. Efallai y bydd pobl eisiau rhannu eu straeon gwahanol eu hunain am deimlo’n drist, yn ddig, yn gynhyrfus ac yn y blaen. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn wrth esbonio teimladau ymhellach a helpu’r grŵp i deimlo‘n agosach. Os oes rhywun yn cynhyrfu edrychwch ar y nodiadau yn y cefn ar “Gofalu am Bobl”. 5. Gallwch ddefnyddio 4 emosiwn yn unig os nad oes gennych lawer o amser. Defnyddiwch Hapus, Trist, Dicter ac Ofn.

19

Teimlo’n Dda


5. Chwarae Rôl yn edrych ar deimladau (20 munud) Fe fydd 1 ohonoch yn arwain ac fe fydd y gweddill yn cymryd rhan yn y ddrama.

Geiriau “Rydyn ni’n mynd i ddangos drama bywyd go iawn i chi nawr. Dwi eisiau i chi feddwl am sut y mae’r gwahanol gymeriadau yn teimlo”.

Camau Gweithredu i Arweinwyr Gweithdy Dangoswch ddarn o’r ddrama o’r adran Chwarae Rôl yn y cefn (tudalen 34) neu o un rydych chi wedi ei chreu eich hun. 1. Yna holwch  Beth sydd wedi digwydd yma?  Pwy ydy’r person yma? (gwnewch hyn am bob person yn y ddrama)  Sut roedden nhw’n teimlo ar ddechrau’r ddrama?  Sut maen nhw’n teimlo nawr?  Oes rhywbeth fel hyn wedi digwydd i chi erioed?  Gyda phwy rydych chi’n cydymdeimlo fwyaf? (Chi sydd yn penderfynu gyda phwy y mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn y grŵp yn cydymdeimlo – efallai bydd rhaid i chi ofyn iddyn nhw godi’u dwylo.) 2. Ar ôl y bleidlais yma, dywedwch “Iawn, rydyn ni wedi penderfynu mai “enw’r actor” ydy’r un rydyn ni’n cydymdeimlo fwyaf gydag ef/hi. Sut allai pethau fod yn wahanol iddyn nhw? Pwy sydd â syniadau ynghylch beth y gallai’r cymeriad yma ei wneud yn wahanol i gael canlyniad gawahanol?”

Teimlo’n Dda

20


3. Pan fydd pobl yn cynnig syniad gofynnwch iddyn nhw roi cynnig arni. Os ydyn nhw’n hapus i wneud hynny, rhaid i chi ddweud “Dim ond 2 reol sydd yma. Os ydych chi eisiau actio trais corfforol gallwch wneud hynny, ond ni ddylech chi gyffwrdd yr actor a rhaid i chi symud yn araf!” 4. Holwch bawb ar ôl y chwarae rôl newydd:  “Beth oedd yn wahanol?”  “Ydyn nhw’n teimlo’n wahanol nawr?”  “Oedd hwn yn well?” (Weithiau mae eu syniad yn gwaethygu pethau. Mae’n ddefnyddiol i weld hynny hefyd oherwydd mae’n helpu pobl i ddeall mwy am yr ymddygiad sydd yn gweithio’n dda a dim yn gweithio’n dda.) 5. Rydych chi’n chwilio am rhywun sydd yn gallu cael yr Actor Prysur i ymateb mewn dull cadarnhaol h.y. gwrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Os nad oes neb yn llwyddo i wneud hyn byddwch yn barod gyda chwestiynau fel:  “Pa ymddygiad gan y rhai o’ch cwmpas sydd yn eich helpu pan fyddwch yn teimlo’n flinedig neu dan straen?”  “Pryd ydy’r amser gorau i ofyn rhywbeth i’ch mam/partner” 6. Cofiwch mai dim ond ymddygiad y prif gymeriad y maen nhw’n gallu ei newid (dyma’r cymeriad y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cydymdeimlo ag ef/hi – tudalen 36). 7. Pan fydd pobl yn cynnig atebion gwahanol, gofynnwch iddyn nhw roi cynnig ar y syniadau hynny. Os ydy rhywun yn hapus i wneud hynny, gwewch yn sŵr bod pawb yn clapio ac yn dweud “da iawn” am fod yn ddigon dewr. 8. Os nad oes neb yn hapus i godi, gofynnwch wrthyn nhw “gyfarwyddo’r” actorion i actio beth maen nhw’n ei feddwl. 9. Cofiwch ddiolch i bawb trwy glapio dwylo pan fyddan nhw wedi gorffen. Mae yna ragor o nodiadau ar hyn yn yr adran Chwarae Rôl yn nghefn y llawlyfr.

21

Teimlo’n Dda


6. Cylch Gorffen (5-10 munud)

Camau Gweithredu i Arweinwyr Gweithdy Gwnewch y Cylch eto ar ôl y Chwarae Rôl. 1 arweinydd.

Geiriau “Diolch am ddod i’n gweithdy. Rydyn ni’n gobeithio eich bod wedi dysgu ychydig mwy am y gwahanol deimladau sydd gennym i gyd. Beth am orffen gyda chylch enwau os gwelwch yn dda? Felly, fel ar y dechrau, allwch chi ddweud eich enw, rhif rhwng 1 a 10 a sut rydych chi’n teimlo a rhywbeth sydd yn eich helpu pan fyddwch yn teimlo’n drist, yn ddig neu wedi cynhyrfu. Cofiwch os mai tro rhywun ydy hi, gwrandewch a gadewch iddyn nhw siarad. Diolch yn fawr.”

Nodiadau 1. Mae Cylch Enw yn helpu i ddod â’r grŵp yn ôl at ei gilydd ac yn gorffen pethau’n dda. 2. Mae’n rhoi cyfle i bobl rannu eu syniadau a gwrando ar eraill. 3. Byddwch yn ofalus nad ydy pobl yn torri ar draws neu yn siarad yn rhy hir.

Teimlo’n Dda

22


7. Gwerthuso

Camau Gweithredu i Arweinwyr Gweithdy Rhannwch y ffurflenni gwerthuso i bawb. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen yng nghefn y llawlyfr (tudalen 45) neu gallwch ddefnyddio eich ffurflen eich hun.

Geiriau “Ga’i ofyn i chi dreulio ychydig funudau i lenwi’r ffurflen Werthuso. Diolch unwaith eto”

23

Teimlo’n Dda


Cyfarwyddiadau Gweithdy – geiriau’n unig 1. Cylch Cyflwyno - (5-10 munud)

Geiriau “Croeso i’n Gweithdy Llesiant Emosiynol. Mae hwn yn weithdy am sut rydym yn teimlo. I dechrau fe fyddwn yn cychwyn gyda cylch enw a dod i adnabod ein glydd. Fedrwch chi ddweud wrthyn ni beth ydy’ch enw a sut rydych chi’n teimlo ar raddfa o 1 i 10? Mae 1 yn golygu eich bod yn teimlo’n ofnadwy, eich bod yn dymuno na fyddech chi wedi codi o’r gwely! Mae 10 yn golygu mai hwn ydy’ch diwrnod gorau erioed! Efallai eich bod yn teimlo rhywle yn y canol. Mae sut rydych yn teimlo yn fater i chi ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw beth bynnag ydy’r rhif. Ydych chi hefyd yn gallu dweud rhywbeth sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda? Mae’n berffaith iawn i beidio â dweud dim, ond rhowch gynnig arni a dweud beth ydy’ch enw. Pan rydyn ni yn y cylch mae’n bwysig iawn os oes rhywun yn siarad bod pawb yn gwrando ac yn talu sylw ac yn dangos parch. Hefyd os mai eich tro chi ydy hi i siarad, cadwch eich ateb yn fyr fel bod pawb yn cael tro.”

Teimlo’n Dda

24


2. Gêm Torri’r Iâ – “Newid Lle!” (10 munud)

Geiriau “Rydyn ni’n mynd i chwarae gêm gyflym o’r enw ‘Newid Lle’. Rwy’n mynd i droi fy nghadair a sefyll yn y canol. Dydy fy nghadair ddim yn y gêm nawr. Rwyf eisiau cadair a’r unig ffordd o gael cadair ydy dweud rhywbeth sydd yn wir amdana’i. Os ydy e’n wir amdanoch chi hefyd rhaid i chi newid lle! Tra bod pawb yn newid lle fe fyddaf yn ceisio cael cadair gan adael rhywun newydd yn y canol. Felly y rheolau ydy: Rhaid iddo fod yn wir amdanoch chi os ydych yn y canol neu yn newid lle. Er enghraifft dydych chi ddim yn gallu dweud ‘newidiwch le os oes gennych wallt du’ os oes gennych wallt melyn! Os ydych yn symud, dydych chi ddim yn gallu mynd yn ôl i’ch cadair gyntaf neu neidio i’r gadair y bob ochr i chi.”

Geiriau ar y diwedd “Felly, ar ôl y gêm yna, codwch eich dwylo os ydy hynny wedi newid sut rydych chi’n teimlo. (Arhoswch i weld yr ymateb). Codwch eich dwylo os ydych yn teimlo eich bod wedi ymlacio ar ôl bod yma. (Arhoswch am ymateb). Codwch eich dwylo os ydy hi wedi bod yn anodd i chi fod yn y canol. (Arhoswch am ymateb.)”

25

Teimlo’n Dda


3. Cyflwyniad i Lesiant Eemosiynol – Trafodaeth Grŵp gyda siart troi (10 munud)

Geiriau “O’r gorau, beth am symud i’r gweithdy nawr. Rydyn ni’n edrych ar Lesiant Emosiynol. Oes rhywun yn gallu dweud wrtha’i beth mae hynny yn ei olygu iddyn nhw?”

Geiriau ar y diwedd “Felly mae llesiant emosiynol yn golygu teimladau. Beth am edrych ar y rhain yn fwy manwl”

4. Edrych ar deimladau – Theatr Delweddau (10-15 munud)

Geiriau “Rydyn ni’n mynd i ddangos rhai delweddau wedi’u rhewi i chi o bobl yn teimlo gwahanol bethau. Dwi eisiau i chi ddweud beth rydych chi’n ei weld.”

5. Chwarae Rôl yn edrych ar deimladau (20 munud)

Geiriau “Rydyn ni’n mynd i ddangos drama bywyd go iawn i chi nawr. Dwi eisiau i chi feddwl am sut y mae’r gwahanol gymeriadau yn teimlo”.

Teimlo’n Dda

26


6. Cylch Gorffen (5-10 munud)

Geiriau “Diolch am ddod i’n gweithdy. Rydyn ni’n gobeithio eich bod wedi dysgu ychydig mwy am y gwahanol deimladau sydd gennym i gyd. Beth am orffen gyda chylch enwau os gwelwch yn dda? Felly, fel ar y dechrau, allwch chi ddweud eich enw, rhif rhwng 1 a 10 a sut rydych chi’n teimlo a rhywbeth sydd yn eich helpu pan fyddwch yn teimlo’n drist, yn ddig neu wedi cynhyrfu. Cofiwch os mai tro rhywun ydy hi, gwrandewch a gadewch iddyn nhw siarad. Diolch yn fawr.”

7. Gwerthuso

Geiriau “Ga’i ofyn i chi dreulio ychydig funudau i lenwi’r ffurflen Werthuso. Diolch unwaith eto.”

27

Teimlo’n Dda


Gemau ychwanegol Mae yna lawer o gemau i dorri’r iâ ac i ddod i adnabod pobl. Dyma rai sydd yn ddefnyddiol. Enwi 3 peth Mae hon yn gêm dda i ddod i wybod enwau pawb. Mae pawb yn eistedd ar gadair mewn cylch. Mae un person yn rhoi ei gadair i un ochr ac yn sefyll yng nghanol y cylch.  Fel yn y gêm ‘Newid Lle’ ar dudalen 14, mae yna rhywun yn y canol sydd eisiau cadair.  I gael cadair rhaid iddyn nhw ddweud enw rhywun arall yn y cylch 3 gwaith CYN i’r person hwnnw ddweud ei enw unwaith.  Gallwch fod yn slei trwy beidio edrych ar y person yr ydych yn ceisio ei ddal.

Teimlo’n Dda

28


Llysiau neu Ffrwythau 3 gwaith Mae pawb yn eistedd ar gadair mewn cylch. Mae un person yn rhoi ei gadair i’r ochr ac yn sefyll yng nghanol y cylch.  Mae pob person yn dewis enw llyseiyn neu ffrwyth.  Mae rhywun yn y canol eisiau cadair.  Maen nhw’n cael cadair trwy enwi un o’r ffrwythau neu lysiau 3 gwaith CYN i’r person sydd wedi dewis y ffrwyth/llysieyn yna ei ddweud unwaith.  Os ydyn nhw’n ennill ac yn newid lle, yna nhw ydy’r ffrwyth/llysieyn yna.  Mae’n ddryslyd ac yn ddoniol iawn.

29

Teimlo’n Dda


Sombïaid Mae pawb yn sefyll mewn cylch. Yna mae un person yn sefyll yng nghanol y cylch.  Maen yna rhywun yn y canol yn ceisio cael lle yn y cylch.  Maen nhw’n sombi (dangoswch ‘sombi’ da – breichiau ar led, llusgo traed, wyneb dychrynllyd!).  Maen nhw’n dweud enw rhywun ac yn dechrau cerdded, breichiau ar led tuag at y person yna fel sombi.  Rhaid i’r person hwnnw weiddi enw rhywun arall cyn i’r sombi eu cyrraeddd.  Os ydyn nhw’n gweiddi enw cyn i’r sombi eu cyffwrdd, rhaid i’r sombi droi i ffwrdd a cherdded tuag at yr enw newydd.  Rhaid i’r person hwnnw weiddi enw fel nad ydy e/hi yn cael eu cyffwrdd. Os ydy pobl yn cael trafferth i symud, neu mewn cadair olwyn, efallai nad ydy’r gêm yma yn addas. Weithiau mae rhywun yn methu symud o’r canol ac felly byddwch yn barod i’w tynnu oddi yno.

Mae yna lawer o gemau. Edrychwch ar y rhyngrwyd, Chwiliwch am “Icebreaker Circle Games”.

Teimlo’n Dda

30


Siart Troi “Beth ydy Llesiant Emosiynol?” Ysgrifennwch “Beth ydy Llesiant Emosiynol?” ar y siart troi mewn ysgrifen glir, mawr.

Beth ydy Llesiant Emosiynol?

Byddwch yn barod gyda’r syniadau yma os nad ydy’r grŵp yn eu henwi  Teimlo’n hapus.  Ffrindiau da a theulu.  Gallu ymdopi gyda bywyd bob dydd.

31

Teimlo’n Dda


 Gwybod sut i ddelio gyda dicter, tristwch, gofid ac ofn.  Cael help pan fyddwch ei angen.  Bod yn hapus gyda’ch bywyd o ddydd i ddydd.  Peidio â theimlo’n isel, trist, dig, gofidus y rhan fwyaf o’r amser (mae’n debyg y byddwch yn teimlo rhai o’r rhain rhywfaint o’r amser ac mae hynny yn normal). Efalai y gallwch feddwl am ragor cyn y gweithdy? Ysgrifenwnch nhw yma:  _________________________________________________________  _________________________________________________________  _________________________________________________________  _________________________________________________________  _________________________________________________________  _________________________________________________________  _________________________________________________________

Teimlo’n Dda

32


Theatr Delweddau  Theatr Delweddau ydy defnyddio delweddau ‘wedi’u rhewi’ o bobl yn actio rhywbeth.  Mae’n gallu helpu i gychwyn trafodaeth grŵp.  Rydych chi’n mynd i edrych ar deimladau Dicter, Hapusrwydd, Tristwch, Ofn, Syndod a Diflastod.  Penderfynwch pa un ohonoch fydd yn dangos y gwahanol ddelweddau yma.  Siaradwch gyda’ch gilydd ac ymarfer sut olwg sydd ar bob teimlad trwy sefyll o flaen eich gilydd a dangos y teimlad yn eich wyneb a’ch corff.  Unwaith y byddwch wedi penderfynu, daliwch yr olwg yn llonydd. Syniadau am sut i ddangos y teimlad 1. Hapusrwydd – wyneb yn gwenu, corff wedi ymlacio, breichiau ar led, ysgwyddau yn ôl. 2. Tristwch – ceg ar dro, llygaid yn edrych i lawr a chorff wedi sigo. 3. Dicter – llygaid yn gul, trwyn yn chwyrnu, ceg wedi troi, dannedd yn y golwg, corff fel pe bai yn dod ymlaen, a dyrnau wedi cau. 4. Ofn – llygaid ar agor led y pen ac yn edrych yn ofnus. Corff yn symud i ffwrdd, un ysgwydd yn symud ychydig o flaen yr wyneb. 5. Syndod – mae hyn yn gallu edrych fel ofn. Llygaid ar agor led y pen, corff yn symud yn ôl ond mae’n fwy agored. 6. Diflastod – meddyliwch am rhywbeth sydd yn gwneud i chi ddweud ‘Ych a fi’! Trwyn yn crychu, corff yn troi i ffwrdd.

33

Teimlo’n Dda


Engreifftiau o Chwarae Rôl a Nodiadau Mam/Dad/Gweithiwr Cefnogi/Partner prysur (penderfynwch ar y cymeriad gorau ar gyfer eich grŵp) Fe fyddwch angen 2 actor ar gyfer y chwarae rôl yma  1 actor ‘prysur’ i chwarae mam/dad/gweithiwr cefnogi/partner.  1 actor ‘cyffrous’ James/Jemma i chwarae mab/merch/cleient/ partner. Golygfa 1 – Yn y cartref Gosodwch fwrdd a chadair gyda phapur newydd/rhywbeth i’w ddarllen. Mae’r Actor ‘prysur’ yn dod i mewn o’r gwaith. Llawer o ochneidio, edrych yn flinedig a dan straen. Yn edrych ar ei wats ac yn dweud “Fydd James/Jemma ddim yn ôl am hanner awr arall. Amser am egwyl bach. Am ddiwrnod!” Yn eisterdd wrth y bwrdd, codi’r papur ac ochneidio. Golygfa 2 James/Jemma yn cyrraedd adref. James/Jemma yn dod i mewn yn llawn cyffro ac yn hapus. Maen nhw’n siarad yn uchel ac yn gyflym: “Mam, mam (neu pwy bynnag), rhaid imi ddweud rhywbeth wrthyt ti, edrych ar y wobr yma rydw i wedi ei gael” Dylai James/Jemma fod yn llawn cyffro a mynd i mewn i ofod yr actor ‘prysur’. Mae’r actor ‘prysur’ yn gorwedd yn ôl, gan edrych yn synn ac yn flin. Mae’n codi ei law ac yn dweud.

Teimlo’n Dda

34


“Arhoswch funud. Rwyf wedi cael diwrnod prysur iawn. Dwi angen pum munud o lonydd.” Mae James/Jemma yn anwybyddu hyn ac yn dweud yn llawn cyffro: “Na, na RHAID imi ddweud nawr – mae e MOR gyffrous. Plis, plis, allai ddim aros.” Mae’r actor ‘prysur’ yn dechrau edrych yn ddig ac yn gweiddi: “NA, Wnai ddim gwrando. Dwi wedi gofyn am 5 munud o lonydd. Cer i ffwrdd tan dwi’n barod.” Yna mae’r actor ‘prysur’ yn mynd yn ôl at y papur gan edrych yn flin. Mae James/Jemma yn teimlo eu bod wedi cael eu gwrthod, mae eu hysgwyddau yn syrthio a’u wyneb yn drist. Mae ef/hi yn dweud mewn llais trist: “Does gennych chi byth amser imi.” Mae James/Jemma yn cerdded i ffwrdd. STOPIO’R DDRAMA

35

Teimlo’n Dda


Nodiadau i arweinwyr Mae’r rôl yma yn un gyffrous ond mae’n gallu bod yn wahanol oherwydd dydych chi ddim yn gwybod beth mae pobl yn mynd i awgrymu! Mae’n gweddu’n well i rhywun sydd yn gallu ‘meddwl ar eu traed’. Gofynnwch y cwestiynau yma:  Beth ddigwyddodd yna? Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod pawb wedi deall ac i glywed beth ydy eu hymateb.  Pwy ydy’r person yma? Gwnewch hyn ar gyfer pob person yn y ddrama.  Sut oedd y ddau/ddwy yn teimlo ar ddechrau’r ddrama?  Sut maen nhw’n teimlo nawr?  Ydych chi erioed wedi cael dadl fel hyn gyda rhywun? Efallai y bydd pobl eisiau rhannu eu profiadau. Mae hynny’n dda oherwydd maen nhw wedi cysylltu gyda’r ddrama ac fe fydd yn eu helpu i ddeall eu teimladau eu hunain yn well.  Gyda phwy ydych chi’n cydymdeimlo fwyaf? Dyma sut rydych chi’n penderfynu pa un ydy’r Prif Gymeriad neu’r rôl bwysicaf. Y person yma, y mae’r grŵp wedi’i ddewis, y byddwch wedyn yn ceisio newid ei ymddygiad. Does dim modd newid y bobl eraill yn y ddrama. Fel arfer pan fyddwch yn cynllunio drama mae’n eithaf amlwg pwy ydy’r prif gymeriad. Ond, mae pob grŵp yn wahanol. Os oes llawer o rieni neu weithwyr cefnogi yn y grŵp efallai y byddan nhw’n cydymdeimlo mwy gyda’r actor ‘prysur’.  Sut y gallai hi fod yn wahanol i’r cymeriad yma? Yn dilyn y cwestiwn olaf yma, os oes gan rhywun syniad, gofynnwch. “Fyddech chi’n hoffi dangos inni?”

Teimlo’n Dda

36


 Fe fydd rhai pobl yn teimlo’n swil iawn ac efallai bydd angen eu hannog. Ond byddwch yn ofalus rhag eu gwthio ormod. Yn aml mae ‘Dere mlaen!’ yn ddigon i gael rhywun i ddangos eu syniad.  Os ydyn nhw’n dweud NA yr ail dro, gofynnwch iddyn nhw fydden nhw’n hoffi i’r actorion actio eu syniad.  Gofynnwch i bawb ar ôl y chwarae rôl newydd:  Beth oedd yn wahanol?  Ydyn nhw’n teimlo’n wahanol nawr?  Oedd hyn yn well? (Weithiau mae eu syniad yn ei gwneud yn waeth. Mae’n help i weld hynny hefyd gan ei fod yn helpu pobl i ddeall mwy am yr ymddygiad sydd yn gweithio’n dda a’r ymddygiad sydd ddim yn gweithio’n dda.)  Rydych chi’n chwilio am rhywun sydd yn gallu cael yr actor prysur i ymateb mewn dull cadarnhaol h.y. gwrando ar beth sydd gennych i’w ddweud. Os nad oes neb yn llwyddo i wneud hynny, byddwch yn barod gyda chwestiynau fel:  Pa ymddygiad gan y rhai o’ch cwmpas sydd yn eich helpu pan fyddwch yn teimlo’n flinedig neu dan straen?  Pryd ydy’r amser gorau i ofyn rhywbeth i’ch mam/partner?

37

Teimlo’n Dda


Nodiadau i’r Actor neu Actorion nad ydyn nhw’n brif gymeriad Pan fydd pobl o’r grŵp yn rhoi cynnig ar eu syniad ynghylch sut y gallai pethau fod yn wahanol, rhaid i chi ymdrechu’n galed i ddychmygu mai chi ydy’r cymeriad rydych chi’n ei chwarae. Os mai chi ydy’r ‘actor prysur’ rydych chi dan straen mawr, yn rhy brysur. Yn eich bywyd mae’r prif gymeriad yn aml yn torri ar eich traws felly rydych chi’n barod yn disgwyl i’ch amser gwerthfawr gael ei dynnu i ffwrdd, felly rydych chi’n barod yn teimlo’n flin. Gofynnwch i’ch hunan “sut fydden nhw’n ymateb?” i:  Rhywun yn gweiddi mwy arnyn nhw.  Rhywun yn ceisio eu perswadio yn yr un ffordd ag y gwnaeth yr actor gwreiddiol.  Rhywun yn bod yn feddylgar, efallai yn cynnig cwpanaid o de neu yn dweud, “iawn, fe ddoi nôl mewn 5 munud”. Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i bobl sydd yn rhoi cynnig ar eu syniadau mewn dull ‘go iawn’. Weithiau pan fyddwch yn gweld bod rhywun wedi bod yn ddigon dewr i godi ac actio, mae’n demptasiwn i ymateb yn gadarnhaol waeth beth maen nhw’n wneud. Mae’n bwysig bod yn realistig. Os ydyn nhw’n gweiddi arnoch chi neu yn ceisio eich taro, beth fyddai’r cymeriad yma yn ei wneud go iawn? Mae’n syniad da ymarfer gwahanol ymatebion gyda’ch gilydd cyn y gweithdy.

Teimlo’n Dda

38


Chwarae rôl eraill Gallwch chi greu eich dramâu eich hunan. Beth sy’n bwysig ydy eu bod yn straeon gwir. Does dim rhaid i chi ddefnyddio enwau go iawn na’r union straeon gan rhywun ond gallwch ddefnyddio eich profiadau i greu darn o ddrama. Os ydych yn gwybod pwy sydd yn dod i’r gweithdy gallwch greu darn a fyddai’n bwysig iddyn nhw. Syniadau am ddramâu sydd yn archwilio teimladau:  Perthnasau:  Hoffi rhywun sydd ddim yn eich hoffi yn ôl.  Hoffi rhywun ond yn rhy swil i ofyn iddyn nhw ddod allan gyda chi.  Ffraeo gyda cariad/partner/ffrind.  Ffraeo gyda rhiant neu aelod agos o’r teulu.  Profiadau bywyd:  Bod yn sâl, mewn ysbyty, ddim yn gwybod neu yn deall beth sy’n digwydd.  Rhywun agos i chi yn marw.  Colli swydd.  Methu cael swydd ar ôl paratoi’n galed iawn.  Methu darganfod swydd yr ydych yn gallu ei gwneud.  Dioddef iselder.  Problemau iechyd meddwl eraill.  Dim yn deall ffurflenni budd-daliadau. 39

Teimlo’n Dda


Ceisiwch greu darnau o ddramâu sydd:  â phroblem go iawn ynddi.  lle mae modd cael atebion i’w helpu mewn rhyw ffordd.  lle y gallwch ‘gyfeirio’ os oes angen e.e. cyfeirio at eiriolydd.  lle rydych yn edrych ar beth ydy’r teimladau anodd a sut i ddelio gyda nhw.

Teimlo’n Dda

40


Gweithgareddau eraill y gallwch eu cynnwys yn y gweithdy Newid teimladau Gweithiwch mewn grwpiau bach o 2-3 i feddwl am restr o ffyrdd i helpu i newid teimladau anodd yn deimladau cadarnhaol. Gallai enghreifftiau gynnwys:  mynd am dro  siarad gyda ffrindiau neu deulu  gwrando ar gerddoriaeth  cael bath  cael egwyl  gofyn am help gan weithiwr proffesiynol fel eiriolydd, meddyg, gweithiwr cefnogi Gallwch wneud y gweithgaredd yma yn fwy penodol trwy edrych ar deimladau unigol fel: Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddech chi’n teimlo………?  Llawn dicter  Ofnus  Unig  Trist  Euog  Dryslyd

41

Teimlo’n Dda


Trafod teimladau Gan ddefnyddio’r ddalen isod, mewn grwpiau bach o 2-3:  Dewiswch 1 emosiwn anodd ac 1 emosiwn cadarnhaol yr un.  Meddyliwch am yr amseroedd rydych chi wedi teimlo fel hyn.  Rhannwch hyn os ydy hynny’n iawn gyda’r grŵp.  Beth wnaethoch chi i newid y teimlad anodd?  Rhannwch yn y grŵp llawn.  Gallwch ofyn i bobl greu darn bach o ddrama am y teimadau anodd. Gallwch ddangos hyn i’r grŵp a gallai’r grŵp feddwl am atebion.

Teimlo’n Dda

42


Sut ydych chi’n teimlo heddiw?

Hapus

Ofnus

Trist

Rhwystredig

Dig

Hunan fodlon

Synfyfyriol

Dryslyd

Wedi synnu

Euog

Cynddeiriog

Ecstatig

Balch

Syfrdan

Gwag

Gofalus

Mewn embaras Anobeithiol

Cenfigennus

Unig

Nerfus

Hyderus

43

Gobeithiol

Wedi fy llorio

Diflas

Cywilydd

Isel

Poenus

Wedi ymlâdd

Swil

Teimlo’n Dda


Ffurflen Gofresti Enw

Teimlo’n Dda

Corff

Manylion cysylltu

44


Gwerthuso Hyfforddiant Wnewch chi dreulio ychydig funudau os gwelwch yn dda yn llenwi’r ffurlfen yma?

1. Oedd yr hyfforddiant fel yr oeddech wedi ei ddisgwyl?

Na

Ie

2. Oedd e’n ddefnyddiol?

Na

Ie

3. Sut fyddech chi’n graddio’r hyfforddiant. Rhowch gylch dros eich dewis rif. Da iawn

Da

Iawn

Gwael

Drwg

4. Oes yna rhywbeth arall yr ydych eisiau ei ddweud am y gweithdy?

Diolch!

45

Teimlo’n Dda


Amlinelliad o’r gweithdy Teimlo’n Dda Gweithdy llesiant emosiynol

1. Cyflwyniadau

(5 – 10 munud)

2. Torri’r iâ

(10 munud)

3. Beth ydy Llesiant Emosiynol?

(10 munud)

4. Edrych ar deimladau

(10 – 15 munud)

5. Chwarae rôl

(20 munud)

6. Cylch Gorffen

(5 – 10 munud)

7. Gwerthuso

(5 munud)

Teimlo’n Dda

46


47

Teimlo’n Dda


Cafodd y Llawlyfr yma ei gyllido gan Gronfa’r Loteri Fawr; cafodd ei ysgrifennu gan aelodau Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a’i gyhoeddi gan Anabledd Dysgu Cymru. Anabledd Dysgu Cymru 41 Cilgant Lambourne Parc Busnes Caerdydd Llanisien Caerdydd CF14 5GG 029 2068 1160 www.adcymru.org.uk

Pobl yn Gyntaf Sir Benfro Tŷ Portcullis Heol Old Hakin Pont Myrddin Hwlffordd Sir Benfro SA61 1XE 01437 769135 www.pembrokeshirepeople1st.org.uk

Ionawr 2016


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.