Activities for young people welsh

Page 1

Isod, mae rhai gweithgareddau y gallech eu gwneud i gasglu barn pobl ifanc ar yr ymgynghoriad 'Beth sy'n bwysig i chi?'. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymatebion yw 15 Chwefror 2016. Os ydych yn cynnal unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, cofnodwch y canlyniadau, eu hanfon atom dros e-bost telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk neu drwy'r post at ‘Dywedwch Eich Barn’, Anecs y 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY. Dywedwch wrthym hefyd: • • •

Faint o bobl fu’n cymryd rhan yn y gweithgaredd? Pa oed neu grŵp blwyddyn oedd y cyfranogwyr? A fyddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgynghoriadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn y dyfodol?

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gyngor arnoch, cysylltwch ag Anna Miller neu Rachel Penman, Uwch Swyddogion Perfformiad, Gwella a Phartneriaethau ar 01978 292000.


Gweithgaredd 1 Gofynnwch i bobl pa mor bwysig yw'r pethau canlynol iddynt (gyda 10 yn bwysig iawn ac 1 ddim yn bwysig o gwbl). Gallech ofyn i bobl ddewis ac ysgrifennu eu hateb, neu gallech ofyn i bobl sefyll yn rhywle ar ‘linell’ ar draws yr ystafell (gydag 1 yn un pen i'r ystafell a 10 yn y pen arall), a gwneud nodyn o faint o bobl sy’n sefyll yn lle ar y 'llinell'. Adran A - Economi - Swyddi ac Arian 1. 2. 3. 4. 5.

Denu twristiaid ac ymwelwyr Denu busnesau a buddsoddiad Helpu busnesau i gychwyn a thyfu Cefnogi perchnogion siopau a lleihau nifer y siopau gwag Creu mwy o swyddi a lleihau diweithdra

Adran B – Pobl - Dysgu, bod yn ddiogel, bod yn iach 1. Pobl yn gwneud yn dda yn yr ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac yn mynd ymlaen i addysg bellach 2. Cefnogi teuluoedd sydd mewn angen ac amddiffyn plant a phobl ifanc a allai fod mewn perygl o niwed 3. Lleihau lefel troseddu a’r ofn sydd o droseddu 4. Annog pobl i fyw bywydau iach 5. Galluogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol a chefnogi'r gofalwyr 6. Cefnogi a hyrwyddo'r diwylliant a'r iaith Gymraeg Adran C – Lle - Eich cymdogaeth, Eich cartref 1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9.

Rhagor o gartrefi fforddiadwy Darparu tai Cyngor cynnes, diogel a modern Cefnogi pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref Bod yn sir 'werdd' gydag ôl-troed carbon bychan Annog ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio mwy o wastraff Hyrwyddo datblygiad sy'n ddeniadol ac yn gynaliadwy ac yn gwella'r ardal leol Annog pobl i ddod ymlaen yn dda gyda'i gilydd yn y gymuned Cynnal a chadw ein ffyrdd Cludiant cyhoeddus hygyrch

Adran D - Sefydliad - Eich Cyngor 1. 2. 3. 4. 5. 6.

Teimlo'n hapus ac yn fodlon gyda’r gwasanaethau a gewch gan y Cyngor Teimlo bod y Cyngor yn gwrando arnoch chi Gwasanaethau'r Cyngor yn hygyrch i chi Gwasanaethau'r Cyngor ar gael ar-lein Staff y Cyngor wedi ymrwymo ac yn cymryd rhan i wneud eu gorau Ansawdd gwasanaethau’r Cyngor yn gyffredinol


Gweithgaredd 2 Mewn parau neu grwpiau bach, gofynnwch i bobl ddewis 3 o'r blaenoriaethau canlynol y maent yn teimlo sydd fwyaf pwysig i Wrecsam. Ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau a ddewiswyd, gofynnwch i'r pâr / grwpiau bach drafod: a) Beth maen nhw'n feddwl y mae'r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd ar y flaenoriaeth hon? b) Pa mor dda neu ddrwg maent yn credu yw’r gwasanaeth ar hyn o bryd? c) Beth maen nhw'n feddwl y gellir ei wneud i wella'r gwasanaeth hwn?

Gallech ofyn i bobl ysgrifennu eu hatebion i lawr wrth iddynt eu trafod (efallai gan ddefnyddio papur lliw gwahanol ar gyfer cwestiynau a, b, ac c); neu gallech ofyn i bob pâr / grŵp bach roi adborth ar eu barn a gofyn i rywun wneud nodiadau o’u hadborth. Adran A - Economi - Swyddi ac Arian 1. 2. 3. 4. 5.

Denu twristiaid ac ymwelwyr Denu busnesau a buddsoddiad Helpu busnesau i gychwyn a thyfu Cefnogi perchnogion siopau a lleihau nifer y siopau gwag Creu mwy o swyddi a lleihau diweithdra

Adran B – Pobl - Dysgu, bod yn ddiogel, bod yn iach 1. Pobl yn gwneud yn dda yn yr ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac yn mynd ymlaen i addysg bellach 2. Cefnogi teuluoedd sydd mewn angen ac amddiffyn plant a phobl ifanc a allai fod mewn perygl o niwed 3. Lleihau lefel troseddu a’r ofn sydd o droseddu 4. Annog pobl i fyw bywydau iach 5. Galluogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol a chefnogi'r gofalwyr 6. Cefnogi a hyrwyddo'r diwylliant a'r iaith Gymraeg Adran C – Lle - Eich cymdogaeth, Eich cartref 1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9.

Rhagor o gartrefi fforddiadwy Darparu tai Cyngor cynnes, diogel a modern Cefnogi pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref Bod yn sir 'werdd' gydag ôl-troed carbon bychan Annog ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio mwy o wastraff Hyrwyddo datblygiad sy'n ddeniadol ac yn gynaliadwy ac yn gwella'r ardal leol Annog pobl i ddod ymlaen yn dda gyda'i gilydd yn y gymuned Cynnal a chadw ein ffyrdd Cludiant cyhoeddus hygyrch

Adran D - Sefydliad - Eich Cyngor 1. 2. 3. 4. 5. 6.

Teimlo'n hapus ac yn fodlon gyda’r gwasanaethau a gewch gan y Cyngor Teimlo bod y Cyngor yn gwrando arnoch chi Gwasanaethau'r Cyngor yn hygyrch i chi Gwasanaethau'r Cyngor ar gael ar-lein Staff y Cyngor wedi ymrwymo ac yn cymryd rhan i wneud eu gorau Ansawdd gwasanaethau’r Cyngor yn gyffredinol


Gweithgaredd 3 Os oes gennych grŵp o tua 10 neu fwy, gallech wneud yr ymarfer pleidleisio hwn i weld pa 'flaenoriaethau' y mae pobl yn eu gweld fel y rhai pwysicaf. Gallech naill ai bleidleisio arnynt fel rhestr gyfan, neu drin pob adran fel pleidlais ar wahân. a) Os ydych yn pleidleisio ar y rhestr gyfan, rhowch y rhestr ar bapur siart troi a gadael bwlch / llunio bocs wrth ymyl pob eitem (neu o dan pob eitem). Gofynnwch i bobl ddarllen y rhestr cyfan a phleidleisio dros y 3 pheth y maent yn credu sydd fwyaf pwysig i Wrecsam (gall bobl naill ai bleidleisio gan ddefnyddio beiros i roi tic neu groes, neu roi 3 dot gludiog i fwrw eu pleidleisiau). b) Os ydych yn pleidleisio ar bob adran ar wahân, rhowch bob rhestr ar ddarn gwahanol o bapur siart troi, gan adael bwlch / bocs wrth ymyl pob eitem (neu o dan pob eitem). Gofynnwch i bobl ddarllen pob rhestr a phleidleisio dros y 2 beth y maent yn credu sydd fwyaf pwysig yn yr adran honno (gall bobl naill ai bleidleisio gan ddefnyddio beiros i roi tic neu groes; neu roi dotiau gludiog i fwrw eu pleidleisiau). Pan fydd yr holl bleidleisiau wedi'u bwrw gallwch gyfrif faint o bleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob blaenoriaeth ac yna eu rhoi yn eu trefn o’r uchaf i'r isaf.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.