Crynodeb o brosiect ADTRAC+ i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed Ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu yn Wrecsam
Prosiect gwaddol ADTRAC
Cynnwys Beth yw ADTRAC+?
3
Rydym yn cynnig
4
Cyflawniadau 5 Enghreifftiau o waith
10
Pobl ifanc ac ADTRAC
13
Manylion cyswllt
17
Ref: WCBC/ER458/13062022
Beth yw ADTRAC+? Mae’r Prosiect ADTRAC+ yn darparu cefnogaeth 1 i 1 i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i ystyried eu hopsiynau a symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau. Gallai hyn fod yn edrych ar ble i fynd nesaf ar ôl yr ysgol gan gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau neu edrych am gyfleoedd eraill sy’n cynnwys gwirfoddoli neu gyflogaeth. Os nad ydych yn siŵr gallwn hyd yn oed eich helpu i edrych ar eich holl ddewisiadau a siarad drwyddynt gyda chi a gallwch wneud penderfyniad yn seiliedig ar beth sy’n iawn i chi. Gan weithio gyda chi gallwn ddatblygu cynllun gweithredu sy’n eich helpu i wybod pa gymorth rydych ei angen, gallai hyn olygu edrych ar y rhwystrau sy’n eich atal rhag datblygu, enghraifft o hyn yw defnyddio cludiant cyhoeddus, eich helpu i ddod yn fwy hyderus, datblygu eich sgiliau presennol neu helpu i ddatblygu sgiliau newydd ac i wneud hyn.
Mae ADTRAC+ yn brosiect gwaddol i ADTRAC a oedd wedi gweithredu’n flaenorol am dair blynedd ar hyd a lled Sir y Fflint a Wrecsam.
Rydym yn cynnig Mentor a fydd yn gweithio’n agos gyda chi. Cynlluniau gweithredu personol a ddatblygir gyda mentor i weld pa gefnogaeth rydych ei hangen a beth hoffech ei wneud yn y dyfodol. Cefnogaeth i ymdrin ag unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag cyflawni eich nodau. Gall hyn olygu cyfarfod gyda gwasanaethau eraill sy’n arbenigwyr yn y maes hwnnw. Cefnogaeth les gan gynnwys y cyfle i weld Ymarferydd Iechyd Meddwl o CAMHS. Mynediad at gyfleoedd megis cyrsiau hyfforddi, gwirfoddoli a grwpiau cyfoed. Eich rhoi mewn cysylltiad gyda gwasanaethau eraill a all eich helpu i edrych ar eich dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
Cyflawniadau
65 o bobl ifanc mewn addysg
191 o bobl ifanc wedi gwella eu hyder
49 o bobl ifanc wedi dod o hyd i waith
81 o bobl ifanc wedi ennill cymhwyster
167 o bobl ifanc wedi gwella eu cyflogadwyedd a’u profiad gwaith
45 o bobl ifanc wedi ennill mwy nag un cymhwyster
151 o bobl ifanc yn nodi bod eu hiechyd meddwl wedi gwella
155 o bobl ifanc yn nodi gwelliant yn eu sgiliau a’u cymwysterau
155 o bobl ifanc yn nodi eu bod wedi cael profiad dysgu cadarnhaol gydag ADTRAC
Enghreifftiau Simon accessed the oADTRAC waithproject as he was Os wyt ti’n dal ddim yn siŵr, mae gennym ychydig o enghreifftiau o’r gwaith rydym wedi’i wneud gydag ADTRAC. Defnyddiodd Simon y prosiect ADTRAC gan ei fod yn teimlo’n unig ac yn bryderus iawn am ei ymddangosiad. Roedd Simon wedi colli cysylltiad â’i ffrindiau, nid oedd yn gadael y tŷ, ac roedd hyn yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith. Derbyniodd Simon gymorth i’w helpu â’i bryderon, cael mynediad at y gymuned a mynychu grwpiau, ac fe wnaeth hyn ei helpu i fagu hyder. Mae Simon bellach yn gweithio 16 awr yr wythnos yn y maes manwerthu.
Atgyfeiriwyd Samantha at ADTRAC gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, roedd Sam â’i phryd ar fynd i’r brifysgol, ond roedd hi’n teimlo nad oedd hynny’n opsiwn gan ei bod yn dioddef ag Aspergus. Roedd Sam yn ferch ifanc, greadigol a chlyfar a oedd yn gallu chwarae nifer o offerynnau cerddorol. Gyda chefnogaeth gan ADTRAC, datblygodd Sam yr hyder i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a mynychu cwrs hyder lle llwyddodd hi i wneud ffrindiau newydd. Daeth Sam yn fwy hyderus yn defnyddio’r bws a dechreuodd deithio i leoliad gwirfoddol mewn stiwdio gerddoriaeth leol. Mae Sam bellach yn y Brifysgol ac yn byw’n Sam in now at University annibynnol mewn llety and living independently in myfyrwyr. student accommodation.
Simon accessed the ADTRAC project as he was
Ymunodd Aaron â’r prosiect ADTRAC gan nad oedd yn gallu canolbwyntio ar beth hoffai ei wneud ac roedd arno eisiau datblygu ei hyder. Cefnogodd ADTRAC Aaron i fynychu apwyntiadau gan gynnwys y Ganolfan Swyddi. Drwy dderbyn cefnogaeth gan ADTRAC, dechreuodd yr unigolyn ifanc fynychu cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac mae’r profiadau dysgu cadarnhaol hyn wedi annog Aaron i ymgeisio am le yn y Coleg a dechrau cwrs arlwyo.
Daeth Sarah i siarad gydag ADTRAC oherwydd bod arni hi angen cymorth â’i hyder, roedd Sarah yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol ac yn cael trafferth yn yr ysgol. Mynychodd Sarah sawl cwrs gan gynnwys cwrs datblygu hyder, lle llwyddodd i ennill sawl cymhwyster, fe wnaeth y cwrs ei helpu i beidio â bod ofn mynd yn ôl i addysg. Fe wnaeth Sarah hefyd fynychu ein grŵp ieuenctid wythnosol, a oedd yn rhoi cyfle iddi gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae Sarah bellach yn y brifysgol yn astudio cwrs celfyddydau theatr a dawns lefel 2. at University Sam in now and living independently in student accommodation.
Roedd Naomi wedi cael trafferth ymgysylltu â’r ysgol; roedd ei phresenoldeb yn wael, ac roedd hi hefyd yn ofalwr ifanc a oedd yn dioddef â’i hiechyd meddwl pan ddaeth hi at ADTRAC am gymorth. Roedd Naomi’n teimlo’n ansicr iawn am fynychu’r coleg yn sgil cyfleoedd dysgu negyddol yn y gorffennol, roedd hyn hefyd wedi cael effaith ar ei hyder ac roedd Naomi’n teimlo ei bod wedi colli cysylltiad â’i ffrindiau. Gweithiodd ADTRAC gyda Naomi i ddatblygu ei hyder drwy fynychu grwpiau a chyrsiau byr, a llwyddwyd i’w helpu i fagu’r hyder i gofrestru ar gyfer y coleg. Er mwyn helpu Naomi yn y coleg, mae ADTRAC wedi bod yn gweithio gyda’r coleg i’w helpu i ddeall anghenion cymorth Naomi, roedd y trefniadau hyn yn eu lle erbyn i Naomi ddechrau ei chwrs.
Pobl ifanc ac ADTRAC “Mae gennyf ADHD, ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cefnogaeth gan ADTRAC, rwy’n cael trafferth gyda phethau fel trefnu a rheoli amser oherwydd yr ADHD, ac roedd yn ddefnyddiol iawn cael rhywun i’m harwain a’m helpu gydag apwyntiadau. Fe wnaeth ADTRAC fy helpu i ymgeisio am le yn y brifysgol yn ogystal ag ymgeisio am gyllid, roedd cael rhywun i eistedd gyda mi a sicrhau fy mod ar y trywydd iawn yn ddefnyddiol tu hwnt. Mae ADTRAC wedi cynnig llawer o gefnogaeth i mi, rwy’n gwybod bod arnaf angen cefnogaeth, ac mae hynny’n iawn. Rwyf bellach yn sylweddoli fy mhotensial ac yn fwy hyderus, rwy’n gallu gofyn am gymorth!
“Rwy’n gwybod fy mod angen cefnogaeth, mae hynny’n iawn.”
“Rwyf wedi dioddef trawma ac anaf i’r ymennydd, mae ADTRAC wedi bod yn ddefnyddiol iawn, maent wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chwrdd â phobl sydd yr un oed â mi. Rwyf wedi mynychu rhai cyrsiau gyda phobl ifanc eraill sydd wedi fy helpu i ryngweithio gyda phobl eraill, ac rwy’n awyddus i fod yn rhan o gymdeithas eto. Mae ADTRAC wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus a wynebu heriau mwy, rwy’n gwybod na allaf wneud popeth, ond rwyf bellach yn teimlo fy mod yn gallu gweithio o amgylch fy nghyfyngiadau”
“Mae ADTRAC wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus.”
“Mae ADTRAC wedi rhoi cyfle i mi gael mynediad at gyfleoedd newydd, heb eu hanogaeth a’u cefnogaeth nhw, fe fyddwn i’n dal i fod yn yr un sefyllfa, yn gwneud dim byd. Rwyf wedi cwrdd â phobl newydd, cwblhau cyrsiau a mynychu grwpiau.
“Gallant helpu i wneud pethau’n haws i chi.”
Mae’r mentoriaid wedi fy helpu â chyllidebu ac wedi helpu fy iechyd meddwl, a phan fyddaf yn cael diwrnod drwg, maent yn cysylltu i weld sut ydw i ac yn deall, nid ydynt yn fy ngorfodi i wneud pethau nad oes arnaf eisiau eu gwneud, ond maent bob amser yn fy ngwahodd i’r pethau y maent yn eu cynnal! Gallant helpu i wneud pethau’n haws i chi.”
“Mae ADTRAC wedi fy helpu i fagu’r hyder i siarad gyda phobl nad wyf yn eu hadnabod, mynd ar fws ar fy mhen fy hun, mynd i’r siop heb rywun wrth fy ochr drwy’r amser, talu am bethau ac arbed arian”
“Mae’r prosiect ADTRAC wedi rhoi mwy o hyder i mi yn gyffredinol, mae wedi fy helpu i gymysgu gydag amrywiaeth o bobl ac wedi fy helpu i anelu at yrfa yn ogystal â gwirfoddoli mewn gwahanol lefydd cyn dod o hyd i swydd”
Manylion cyswllt Os hoffech chi siarad â rhywun am ADTRAC+, gallwch gysylltu drwy; E-bost: adtrac@wrexham.gov.uk Ffôn: 01978 295518 youngwrexham.co.uk/info/adtrac lle gallwch lawrlwytho pamffledi a’r ffurflen atgyfeirio.