Newyddlen Ffôn: 01978 295629 E-bost: in2change@wrexham.gov.uk Cyfeiriad: Siop Info, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR Gwanwyn 2017
Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc
Siop Shop
Mae in2change yn cynnig cwrs rhianta Care for the Family gwych o’r enw ‘How to Drug Proof you Kids’, am ddim!! Os hoffech chi wneud atgyfeiriad, archebu sesiynau mewn clybiau ieuenctid neu ysgolion, neu os hoffech chi gyngor, yna cysylltwch â ni ar y manylion uchod. Cysylltwch ag Elise neu Carly ar 01978 295629
Ymgysylltu gwirfoddol l Cymorth hyblyg wedi’i deilwra l Addysg ar gyffuriau ac alcohol l Sesiynau mewn lleoliadau wedi’u dewis gan bobl ifanc l Gweithgareddau gwrthdynnu i unigolion a grwpiau Cefnogaeth un-i-un l Addysg l Lleihau niwed l Atal llithro’n ôl l Lleihau wedi’i gynllunio Sesiynau addysg mewn ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid ar nifer o bynciau: Ymwybyddiaeth alcohol l Cyffuriau a’r gyfraith l Diodydd egni l Sylweddau seicoweithredol newydd Cyngor a chefnogaeth i weithwyr proffesiynol l Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol l Sesiynau wedi’u teilwra i’ch anghenion
GYRRU CYFFURIAU A’R GYFRAITH Cyflwynwyd cyfreithiau newydd o ran gyrru ar gyffuriau ar draws y DU ar 2 Mawrth 2015. Mae wyth cyffur presgripsiwn wedi cael eu cynnwys ar y rhestr o gyffuriau i’w profi gan yr heddlu, gyda chyfyngiadau wedi eu gosod yn uwch na’r lefelau penodedig arferol. Yn ogystal â’r cyffuriau presgripsiwn, mae’r rhestr hefyd yn cynnwys wyth cyffur anghyfreithlon narcotig Cocên, BZE (Benzoylecgonine), Canabis (THC), Cetamin, LSD, Methyl amphetamine, MDMA, Heroin a Diamorphine. Fodd bynnag, mae prawf cyffuriau ar ochr y ffordd yn ffocysu yn benodol ar ganfod cocên a chanabis yn system y defnyddiwr. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel rhai sy’n effeithio ar amser ymateb a swyddogaethau’r gyrrwr. Gall ddefnyddio’r cyffuriau hyn gael effaith difrifol ar allu’r defnyddiwr i yrru yn ddiogel ac felly yn rhoi’r gyrrwr ac eraill mewn perygl o fod yn rhan o ddamweiniau traffig difrifol ar y ffordd. Mae’r prawf ‘Drugalyser’ yn brawf ar ochr y ffordd y gall yr heddlu ei ddefnyddio os ydynt yn teimlo bod y gyrrwr dan ddylanwad cyffuriau; i ddechrau maent yn profi swab o boer neu chwys, os cofnodir prawf positif yna bydd y gyrrwr yn cael ei hebrwng i’r orsaf heddlu i
gael prawf tystiolaethol. Bydd y prawf tystiolaethol yn cynnwys sampl o waed neu wrin yn cael ei gymryd i’w ddadansoddi. Bydd y Drugalyser ond yn debygol o ganfod defnydd o THS o fewn y 24 awr ddiwethaf, ond bydd unrhyw brofion dilynol yn gallu dangos canlyniadau o 2 ddiwrnod i 28 diwrnod, yn ddibynnol ar lefelau o ddefnydd. Gall ddefnyddwyr cyson trwm eu profi’n bositif ar ôl cyfnod hirach o amser, gan fod THC neu olion cyffuriau uchod yn cael eu storio ym mraster y corff a’u hail-ryddhau i’r llif gwaed pan mae braster yn cael ei losgi. Os yw gyrrwr yn cael prawf positif am fwy na 2µg o Delta-9-tetrahydrocannibinol, neu THC (y cyfansawdd gweithredol sydd mewn canabis), i bob 100ml o waed, yna bydd hyn yn cael ei ystyried fel prawf positif, ac yn debygol o arwain at gael eu herlyn. Mae cyfyngiad 2-microgram ar gyfer THC yn cael ei ystyried yn isel iawn ac mewn rhai achosion all gyfateb i ddefnyddwyr yn defnyddio llai na’r gwerth o’r cyffuriau. Nid yw Llywodraeth y DU yn ymddiheuro am hyn, gan ei alw’n ddull “dim goddefgarwch” yn hytrach na dull “diogelwch ar y ffyrdd”. Mae’r cyfyngiadau cyffuriau anghyfreithlon wedi eu gosod ar y lefel isaf posibl sydd yn diystyru amlygiad drwy ddamwain neu ‘anadliad goddefgar’.
Dan y cyfreithiau newydd, nid oes rhaid i’r erlyniad brofi bod unigolyn a oedd yn gyrru wedi cael eu heffeithio, dim ond oherwydd bod y cyffuriau yn y system. Os gellir profi hyn, yna’r gosb leiaf yw gwaharddiad 12 mis rhag gyrru, a’r gosb fwyaf yw diryw o £5,000 a hyd at chwe mis o garchar. Gellir rhoi cyhuddiad mwy difrifol os cewch eich canfod o fod wedi achosi damwain, achosi anaf, neu achosi difrod i eiddo, ac wedi cael eich profi’n bositif gyda chanabis.
oed neu iau a all Os oes gennych bryderon ynghylch unigolyn ifanc 18 cysylltwch â in2change fanteisio o’r cymorth o ran eu defnydd o sylweddau, . lle gallwn weithio gyda hwy i gyflawni eu hamcanion