Training programme 2016 summer welsh

Page 1

COPI AM DDIM!

Haf 2016


Cyrsiau Mae cyrsiau am ddim i drigolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Hightown a Parc Caia. Cwrs Blew Amrannau ac Aeliau (achrededig) Lle: CS Beauty Academy - Johnstown (Darperir Cludiant am Ddim) Pryd: Dyddiad i’w gadarnhau Amser: 10.30am – 2.30pm Yn ystod y cwrs blew amrannau ac aeliau byddwch yn dysgu sut i wella edrychiad y llygaid. Mae’r cwrs yn eich galluogi i ddewis y lliwiau sy’n gweddu eich cleientiaid a rhoi arlliw i flew yr amrannau a’r aeliau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i fesur a siapio’r aeliau gan ddefnyddio plyciwr. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cael tystysgrif a fydd yn eich galluogi i gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus i weithio ar gleientiaid.

Sesiwn Galw Heibio Ddigidol Lle: Partneriaeth Parc Caia Pryd: Bob dydd Iau rhwng 14 Ebrill a 21 Gorffennaf Amser: 10am – 12pm or 2pm – 4pm Ydych chi’n chwilio am help gyda chyfrifiaduron a’r rhyngrwyd? Hwyrach fod gennych iPad neu Lechen rydych ofn eu defnyddio! Gallwn eich helpu gyda…. • Gosod e-bost • Cymorth gyda ffurflenni ar-lein • Siopa ar-lein yn ddiogel • Apiau • Creu a defnyddio cyfrif Paru â Swyddi Cyffredinol 1


Blas ar Fathemateg a Saesneg (achrededig) Oes angen i chi wella eich sgiliau Mathemateg neu Saesneg eich hun i allu helpu eich plentyn? Ydych chi am gael rhywfaint o gymwysterau i’ch helpu i gael swydd? Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar yr hyn rydych eisiau ei gyflawni ac yn mynd â chi o’r pethau sylfaenol iawn hyd at lefel 2 (cyfwerth â TGAU). Sesiwn Mathemateg Lle: Partneriaeth Parc Caia TGCh 1 Pryd: Yn dechrau ddydd Mercher 13 Ebrill Amser: 9.30am – 11.30am Sesiwn Saesneg Lle: Partneriaeth Parc Caia TGCh 1 Pryd: Yn dechrau ddydd Mercher 13 Ebrill Amser: 12pm – 2pm

Pendine Park – Bore Coffi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lle: Caia Park Partnership – Conference Room Pryd: Friday 29 April Amser: 9.30am – 1pm Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Dewch draw i fore coffi am ddim a chael sgwrs gyda staff Pendine Park am gyfle hyfforddi gwych. Rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal ac a fyddai’n awyddus i fynychu cwrs byr yn academi Pendine Park ym mis Mai. Bydd y cwrs yn cynnwys llawer o weithgareddau penodol i ofal Pendine Park, hyfforddiant perthnasol yn y sector gofal a chymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith.

2


Jigsaw - Clwb Swyddi Lle: Partneriaeth Parc Caia – TGCh 1 Pryd: Bob dydd Mawrth (ac eithrio gwyliau’r ysgol) Amser: 12.30pm – 2.30pm Dewch draw i’n clwb swyddi wythnosol a chael cymorth a chefnogaeth gyda phob agwedd ar chwilio am swydd. Mae hyn yn cynnwys datblygu CV, chwilio am swyddi ar-lein, ceisiadau am swyddi, sgiliau cyfweliadau a gweithgareddau eraill, oll wedi’u cynllunio i hybu eich cyfleoedd cyflogaeth.

E-bost a Chyfryngau Cymdeithasol i Ddechreuwyr (achrededig) Lle: Partneriaeth Parc Caia - Ystafell Gynhadledd Pryd: Dydd Mercher 27 Ebrill (6 wythnos) Amser: 1.30pm – 4pm Byddwch yn cael cyfarwyddiadau cam wrth gam yn dangos i chi sut i osod eich cyfeiriad e-bost eich hun, a sut i ddefnyddio e-bost. Bydd hefyd yn dangos i chi sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.

Cwnsela Sylfaenol (achrededig) Lle: Partneriaeth Parc Caia - Ystafell Gynhadledd Pryd: Dydd Mercher 27 Ebrill (6 wythnos) Amser: 9.30am – 12pm Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i chi gael y pethau sylfaenol ar gyfer gwybod sut i ddechrau eich taith i gymhwyso fel cynghorydd.

Saesneg ar gyfer Siaradwyr Portiwgaleg Lle: Partneriaeth Parc Caia - TGCh 1 Pryd: Dydd Iau 14 Ebrill – 23 Mehefin (10 sesiwn) Amser: 6pm – 8pm Bydd tiwtor Portiwgaleg yn addysgu Saesneg sylfaenol i siaradwyr Portiwgaleg. 3


Upcycling Lle: Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown Pryd: Dydd Mawrth 19 Ebrill (6 wythnos) Amser: 9.30am – 12pm Ar gyfer y rhai sydd wrth eu bodd gyda chrefft neu am gael syniadau ar sut i loywi eu gwrthrychau cartref nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Ffeltio â Nodwydd Lle: Partneriaeth Parc Caia - Ystafell Gynhadledd Pryd: Dydd Mawrth 26 Ebrill (5 wythnos) Amser: 10am – 12pm Dewch i roi cynnig ar greu tai tylwyth teg a chymeriadau. Byddwch hefyd yn gallu gwneud pwrs ffeltiog a llun haniaethol gan ddefnyddio cyfryngau cymysg.

Iechyd a Diogelwch (achrededig) Lle: Ty Luke O’Connor Pryd: Dydd Iau 5 Mai Amser: 9.30am – 4.30pm Cwrs achrededig un diwrnod wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth am eich cyfrifoldebau yn y gwaith a’r gofynion o ran deddfwriaeth.

Cymorth Cyntaf (achrededig) Lle: Partneriaeth Parc Caia - Ystafell Gynhadledd Pryd: Dydd Iau 19 Mai Amser: 9.30am – 4.30pm Cyfle i ddysgu’r sgiliau hanfodol a allai eich helpu i achub bywyd. 4


Saesneg Sylfaenol Lle: Partneriaeth Parc Caia Pryd: Bore dydd Iau Amser: Sesiwn 45 munud Dosbarthiadau un i un preifat i oedolion ddysgu darllen ac ysgrifennu.

Crefftwyr Oriel/Gwneud Teithiau Dyddiadau ac amseroedd i’w trefnu Mae croeso i unrhyw un â diddordeb mewn mynychu grwp celf a chrefft ymuno â ni. Darperir deunyddiau a the a choffi. Bydd un o’r sesiynau yn daith i gyrchfan o harddwch. Ffoniwch i gofrestru eich diddordeb.

Dewch i Goginio (achrededig a heb fod yn achrededig) Lle: Canolfan Gymunedol Pentre Gwyn Pryd: Dydd Mawrth 3 Mai - 21 Mehefin (7 wythnos) Amser: 10am – 12pm Neu Lle: Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown Pryd: Dydd Iau 21 Ebrill ‐16 Mehefin (7 wythnos) Amser: 11.30am – 2pm (Caiff ei gynnal fel Cwrs achrededig Lefel 1 Agored Cymru) Oes arnoch chi eisiau dysgu am fwyta’n iach? Oes arnoch chi eisiau dysgu sgiliau coginio ymarferol? Os mai’r ateb i’r cwestiynau hyn yw oes, yna mae Dewch i Goginio ar eich cyfer chi!! Mae’r cwrs coginio ymarferol 7 wythnos hwn am ddim yn canolbwyntio ar faeth a sgiliau coginio ymarferol mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. C

5

P

H

T


Sesiynau galw heibio cymunedol Prifysgol Glyndwr 17 a 26 Mai 2016 Ydych chi wedi bod yn ystyried mynd yn ôl i addysg, ond ddim yn siwr a fyddwch yn gallu, faint fydd yn ei gostio, neu a fydd yn ffitio o amgylch eich ymrwymiadau teuluol a gwaith? Yna galwch heibio am sgwrs anffurfiol gyda mi, Sarah Gaffney, swyddog Partneriaethau Cymunedol Glyndwr! Lle: Mhartneriaeth Parc Caia Pryd: ddydd Mawrth 17 Mai Amser: 11am – 12pm Neu Lle: Nhy Luke O’Connor, Hightown Pryd: ddydd Iau 26 Mai Amser: 11am – 12pm Gallwn fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau sydd gennych am gyrsiau, derbyniadau, cyllid ac ati dros baned! A chofiwch y Diwrnodau Agored sy’n cael eu cynnal drwy’r flwyddyn – edrychwch ar www.glyndwr.ac.uk am ddyddiadau.

6


Rydym bob amser yn chwilio am atborth o ran yr hyfforddiant a ddarparwn gan breswylwyr. Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw gwrs. Cysylltwch â ni i archebu eich lle am ddim ar unrhyw gwrs. Cofrestrwch gyda ni i gael eich copi am ddim o’n rhaglen hyfforddiant.

Rhif Ffôn: 01978 357 583 Ebost: caiaparkandhightowncf@wrexham.gov.uk Dewch o hyd i ni ar dudalen Facebook: Cymunedau yn Cyntaf Parc Caia a Hightown Anfonwch Drydar atom ni : @cphtcf

7


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.