Cyflwyniad,
Ebrill 2024
Mae’r pamffled hwn yn cynnwys nifer o gerddi wedi eu hysgrifennu gan blant ledled Cymru yn ymateb i weithiau celf sy’n rhan o’r casgliad gyfoes, Celf ar y Cyd.
Yn gynharach eleni, bu Bardd Plant Cymru, Nia Morais yn teithio o Abertawe i Ynys Môn, ac o Gaerdydd i Lanelwy gan ymweld â saith ysgol i arwain gweithdai creadigol oedd yn plethu llenyddiaeth a chelf.
Mewn partneriaeth â Thîm Celf ar y Cyd a gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd y prosiect hwn yn annog dysgwyr i ddefnyddio paentiadau a ffotograffau fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu gwaith creadigol newydd sbon. Cafwyd cyfle i’r dysgwyr feithrin eu sgiliau dadansoddi, mynegi barn a meddwl yn annibynnol. Mae’r celfyddydau yn wrthrychol, a phrofiad pob unigolyn wrth ymwneud â chelf yn unigryw. Roedd y prosiect hwn yn ffordd arbennig o bwysleisio i’r dysgwyr fod barn a dadansoddiad pob plentyn yn berthnasol ac yn ddilys.
celfarycyd.cymru
Mae Celf ar y Cyd yn rhan o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Mae’r casgliad yn cynnwys pob math o weithiau celf gan gynnwys paentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, fideos, celfyddyd gosodwaith, lluniau, llyfrau braslunio artistiaid a llawer mwy. Mae themâu’r gweithiau yn amrywio, a ceir casgliadau sydd yn canolbwyntio ar bynciau fel Pobl, Cymdeithas a Hunaniaeth i Natur a’r Amgylchfyd.
hwb.gov.wales
Mae rhaglen y Siarter Iaith cyn cyfrannu at Cymraeg 2050 drwy anelu at ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau. Bydd y prosiect hwn yn annog y disgyblion i ddefnyddio geiriau a llenyddiaeth Gymraeg i ddadansoddi ac archwilio gwaith
celfyddydol a themâu amrywiol sydd yn ymwneud â Chymru a’r byd.
Cerddi wedi eu
hysbrydoli
gan:
‘Cyflyru’, Caroline Walker
Cliciwchiweldy gwaithcelf!
YSGOLGYFUN BRYNTAWE YSGOL GLANCLWYD
Siop trin gwallt tawel, Ffenest lliwgar ond unig, Rhywle ymlaciol
-Di-enw
Gyda’r nos, siop gwallt
Dy wallt yn fy nwylo i
Yn feddal fel cwmwl
-Di-enw
Gyda’r nos, siop gwallt
Barod i dorri dy wallt
Tawel fel y bedd.
-Di-enw
Golau yn disgleirio
Siswrn yn creu golygfa
Hunaniaeth newydd
-Annabel
Eistedd yn y sedd
Edrych am fi yn y drych
Teimlad ymlaciol
-Ella,Ffion,Jessica
Siswrn yn torri
Gwallt yn syrthio ar y llawr
Pwysau wedi mynd
-Evie,Natalie,Layla, Maizie,Alice
Snip snip sŵn torri
Snip snip ffwrdd â’r gwallt hir du
Snip snip steil newydd
-Di-enw
Cerddi wedi eu
hysbrydoli gan:
YSGOL
GLANCLWYD
‘YnNhŷFy
Nhad’,Donald Rodney
Tŷ yng nghanol llaw
Gorwedd lawr mewn llonyddwch
Mi roedd yn ddyn da
-Lucas,Harri,‘LWW’
Tŷ grewyd gan groen
Tŷ yn disgyn i mewn i dŷ
Yn cadw hanes
-Cadi,Evie
Tŷ gan law ei dad
Hen groen garw yn ei law
Nodwydd ei hanes
-Di-enw
Tŷ gan law fy nhad
Pasio lawr fel lliw ei wallt
Yn dod lawr i mi
-Esmé
Cerdd wedi ei hysbrydoli gan: ‘Pedwar bachgenmewn rhes,Rhondda, 1957’,Philip JonesGriffiths
Pedwar bachgen glen
Tu allan ar y mynydd
Yn un naw pump saith -FfionC YSGOL GLANCLWYD
Cerdd wedi ei
hysbrydoli gan:
YSGOL BROCAEREINION
‘Ababy'sfirst fiveminutes, PortJefferson’ EveArnold
Y bore cynnar
Mae’r babi bach yn crio
Dechrau cenhedlaeth
- Oscar a Jacob
Llaw bach dwylo mawr
Calon bach calon enfawr
Caru ti am byth
- Thomasina ac Elin
Mae’r deimlad yma
Yn rhedeg trwy gwythiennau
Bywyd newydd sbon - Griff
Dwylo bach pitw
Yn llawn llawer o gariad
Cyffrous am fywyd
- Mason ac Archie
Bywyd newydd braf
Dod i’r byd llawn gobaith pur
Hapusrwydd i bawb
- Nansi ac Erin
Cerddi wedi eu
hysbrydoli
gan:
‘CiwBara’r
WhiteAngel’, Dorothea Lange
YSGOLGYFUNCWMRHONDDA
Pobl yn llwgu
Mewn rhesi am eu bara
Un dyn trist unig
-Di-enw
Dyn trist du a gwyn
Tloti, tristwch; heb obaith
Cymuned llwglyd
-Di-enw
Hetiau, hawlio bwyd
Dynion tlawd yn goroesi
San Francisco trist
-Di-enw
Yn y ddinas fawr,
Pawb yn aros am eu bwyd –
Gweithwyr digalon
-Di-enw
Pobl yn llwglyd
Aros am oriau am fwyd
Dim gobaith: tristwch
-Di-enw
Cael cawl o’r gegin
Dyma ddyn heb geiniogau
Yn anobeithiol
-Lucas
Pawb heb ei gartref
Pawb yn aros i gael bwyd
Pawb heb ei ffrindiau
-Louie
Yn y bore hir,
Pawb yn aros am fwyd poeth
Fel tân yn y nos
-Di-enw
Arhosodd y dyn
Yng nghefn y llinell prysur
Am ei fara poeth
-MaddieC
Cerddi wedi eu
hysbrydoli
gan:
‘MargaretHaig Thomas(18831958),Is-iarlles Rhondda’, AliceMary Burton
YSGOLGYFUN
CWMRHONDDA
Cryf, caredig
Cyfoethog yw’r ffeminist
Amser sefyll lan -Di-enw
Menyw o’r Rhondda
Yn brwydro dros ei hawliau
Ffeminist yw hon
-Di-enw
Menyw doeth a dewr
Margaret Haig Thomas - diolch!
Mae’r hawliau yn saff.
-Di-enw
YSGOLGYFUN LLANGEFNI
Benyw pŵerus
Byw bywyd cyfoethog iawn
Helpu’r genethod -Cai
Arwres i rhai
Person blin i rhai eraill
Eisiau pleidleisio
-Lowri,Mali,Mabli,Fflur, Casi,Erin,Megan,Cara
Dynes ddifrifol
Blin, pŵerus a llwglyd
Llym am ei hawliau -Aron
Dynes ddifrifol
Protestio hawliau merched
Cyfleu cryfder hi
-Osian
Cerddi wedi eu
hysbrydoli gan: ‘Delweddauôldrefedigaethol oddynoliaeth’, CarolMcNicoll
YSGOLGYFUN
LLANGEFNI
Byd yn gor-brynu –
Edrychwch ar ôl ein byd
Peidiwch gwastraffu
-Iolo
Heb liw, llawn stori
Ymdrech i ddal pwysau’r byd
Y gwastraff: amharch
-Di-enw
Cerddi wedi eu
hysbrydoli gan:
YSGOLBRO CAEREINION
‘Cilgant
GwyrddAsid’, Vasilii Kandinsky
Mellt yn gwneud sŵn
Lleuad yn arwain y ffordd
Mewn llun unigryw
-Maisie
Carped coch blasus
Y lleuad yn disgleirio
Fel yr awyr ddu
-Morgan
Un triongl coch
Mae yna lygaid enfawr
Llygaid mawr piws
- Wil a Ryan
Twrw mellt swnllyd
Triongl coch yn sefyll
Portal piws disglair
-GrŵpBl.7
Gwahanol, estron
Mae’r lleuad yn disgleirio
Yn goleuo’r llun
-Tallulah
Siapau amrywiol
Patrymau trist ddi-liw
Lliwiau emosiwn
- Brooke a Cara
Cerddi wedi eu
hysbrydoli
gan:
‘YBardd’, ThomasJones
YSGOLGYFUN
CWMRHONDDA
YSGOLGYFUN LLANGEFNI
Coedwig dywyll drist
Does dim gobaith yng Nghymru –
Mae’r beirdd yn y nen
-Di-enw
Mynydd tywyll ddu
Noson drist iawn i Gymru
Cofiwch am y bardd
-Di-enw
Ar ôl y brwydr
Marwolaeth wedi gorffen
Un derwydd ar ôl
-Louie
Yr haul yn codi
Ond gwelwn dim ond tristwch -
Un bardd; un Cymro
-Di-enw
Bardd olaf Cymru
Ar glogwyn unig y nos
Yn neidio i ffwrdd
-Lowri
Bardd olaf Cymru
Yn edrych i lawr y glogwyn
Dyma yw’r diwedd
-Di-enw
Ar ôl y rhyfel
Tawelwch y tywyllwch
Dyn yn lladd ei hun
-O.R
Rhagor o gerddi wedi eu hysbrydoli gan:
YSGOL
MORGANLLWYD
Haul yn tywynnu
Y dyn olaf yn sefyll
Does dim gobaith nawr
-Gwenno
‘YBardd’, ThomasJones
Haul fel seren nos.
Hen ddyn olaf yn crynu:
Drist, ar goll am byth.
-Cerys
Y bardd yn rhedeg
Barod i neidio ffwrdd
Neb i’w stopio fe -C.C
Ond un ennillwr
Machlud yr haul brydferth
Brwydro i’r diwedd -Sophie
Dyma fo’n sefyll
Meddwl am dristwch y byd
A theimlo’n wag -Aggie
Gwyliodd y machlud
Goroesoedd am ei bŵer
Dangos ei bryder -Skye
Rhagor o gerddi wedi eu
hysbrydoli gan:
‘YBardd’, ThomasJones
YSGOLBRO CAEREINION
Tywyll iawn, ond siawns
Dyn wedi chwalu, emosiwn
Heddwch? Oes heddwch? -Caio
Coedlan dywyll ddu
Dyn unig yn difaru
Gwacter ei galon
-IzzyaFfion
Machlud haul; mynydd
Yn gwylio unigrwydd dyn: Distawrwydd y byd. -Di-enw
YSGOLGYFUN BRYNTAWE
Cerddi wedi eu
hysbrydoli
gan:
‘PwllLlygredig ynyMaendy’, JackCrabtree
YSGOL MORGANLLWYD
Fy ffordd o ddianc
O’r storm garw sydd i ddod
Boddi mewn llanast
-GwennoH
Byd newydd i ni
Bachgen eisiau byd newydd
Hapus wrth feddwl -O.T
Eisiau byd taclus
Byd newydd â lliwiau hardd
Trist am y byd hwn -G.J
Cylchau gwyrdd golau
Cymylau’n lliwio’r awyr
Nofio trwy flodau
Planhigion yn gwylio gêm
Y cae pêl-droed ardderchog
-Lizzie
Rhagor o gerddi wedi eu hysbrydoli gan:
YSGOLGYNRADDGYMRAEGPEN-Y-GROES
Mae’r gwyrdd yn berffaith
Dyn arswydus gyda sbecs
Byd o flodau hardd -Alex
‘PwllLlygredig ynyMaendy’, JackCrabtree
Mae popeth yn od
Dyn arswydus gyda sbecs
Bywyd yn ddiflas
-FfionJ,Amelie
Mae hi’n ddirgel iawn
Ac yn anturus o hyd
Teimlo’n wag hefyd -Sam
Mae’r hadau yn wyrdd
Fel dail yn yr haf hapus
Dyma natur ni -Di-enw
Cyddwisg y dewin
Dŵr glas fel cadair dosbarth
Planed wyrdd llachar -Di-enw
Cerddi wedi eu
hysbrydoli
gan:
‘YLleuadyn
SainFfraid’, RayHoward
YSGOLMORGANLLWYD
Haul yn bell i ffwrdd
Dŵr glas yn sgleinio o hyd
Popeth yn dawel
Glaswellt yn sisial drwy’r dydd
Cymra allan dy lyfr -ErinM
Môr glas yn llifo
Haul oren yn sefyll allan
Dŵr esmwyth llydan
Glaswellt yn chwifio’n y gwynt
Lle prydferth ydy St. Brides
-SophieW Yr haul yn sgleinio
Adlewyrchu yn y llyn
Dechrau mynd yn oer
Gwyneb goch fel cymylau -
Dyma ddechrau’r gaeaf wyn -Aggie
Cerddi wedi eu
hysbrydoli gan:
YSGOLGYNRADDGYMRAEGPEN-Y-GROES
‘EithinGwyrdd, CwmGwyllog, Ffynnonofi,Sir Benfro’, MikePerry
Mae’r gwair yn wyrdd
Hen fynydd enfawr uchel
Fel awyrgrafwr
-Shakiah,Frankie, Logan,Charlie,Josh
Planhigion mawr gwyrdd
Tynnu llun o hofrennydd
Gweld mynydd uchel
-Esmae
Hades yn glanio
Diwrnod sy’n ddychrynedig
Fel angladd du trist
-Sia
Cerddi wedi eu
hysbrydoli gan:
‘CwlwmRhugl’, Prabhakar Pachpute
YSGOLBROCAEREINION
Pwll glo India,
Yn wag fel yr anialwch, Wedi adfeilio
Rhyw ddyn yn rhedeg
Ar lwybr igam-ogam
Fel neidr llithrig
Diwrnod braf yr haf
Bwgan brain yn dod yn fyw
Rhedeg dros cerrig Coed yn diflannu
Melin wynt wedi chwalu
A’i galon eto
- Lisa a Rhiannon
Haul yn sgleinio’r awyr
Wrth i’r sain melin wynt godi
A’r dyn yn dianc
Nant igam-ogam
Dŵr yn gorchuddio tir sych
A dyn yn chwysu
- Mari a Teleri
O’r diwedd yn rhydd
Rhyddid ond dal i rhedeg
Rhedeg i’r gwacter
- Izzy a Ffion
DIOLCHIADAU!
Diolch i’r ysgolion canlynol am y geiriau gwych:
YSGOLGYFUNGYMRAEG
BRYNTAWE
YSGOLGYFUNCWMRHONDDA
YSGOLGLANCLWYD
YSGOLGYFUNLLANGEFNI
YSGOLMORGANLLWYD
YSGOLBROCAEREINION
Darluniadau hyfryd gan: ALICEEVANS
YSGOLGYNRADDGYMRAEG
PEN-Y-GROES
GwybodaethamGynllun BarddPlantCymru
Mae Bardd Plant Cymru yn teithio o amgylch Cymru yn ymweld â phlant mewn ysgolion, llyfrgelloedd a gwyliau i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol a pherfformio barddoniaeth. Pwrpas y cynllun yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant, a chyflwyno hud a lledrith barddoniaeth iddyn nhw.
Cafodd y cynllun ei sefydlu yn y flwyddyn 2000, ac mae 18 o feirdd wedi camu i’r rôl ers hynny. Mae bardd newydd yn cael eu penodi bob dwy flynedd, ac er eu bod nhw i gyd mor wahanol, yr hyn sy’n gyffredin rhwng pob un ohonynt yw eu bod yn angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwybodaeth am
Nia Morais
Cafodd Nia Morais ei phenodi yn Fardd Plant Cymru ym mis Mai 2023, a bydd hi’n cyflawni’r rôl tan mis Medi 2025.
Gwyliwch y fideo isod i ddod i nabod Nia yn well!
Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
ebost: barddplant@llenyddiaethcymru.org | ffón: 029 2047 2266 | Twitter/X: @barddplant
Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor
Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.