NATASHAPULLEY
yw awdur The Watchmaker of Filigree Street (Bloomsbury, 2016), The Bedlam Stacks (Bloomsbury, 2018), The Lost Future of Pepperharrow (Bloomsbury, 2020), The Kingdoms (Bloomsbury, 2021) a The Half Life of Valery K (Bloomsbury, 2022) Yn werthwr gorau rhyngwladol, enillodd The Watchmaker of Filigree Street Wobr Betty Trask a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Orau'r Author's Club, Gwobrau Locus, ac arhosodd ar restr gwerthwyr gorau'r Sunday Times am ran helaeth o haf 2016 Roedd The Bedlam Stacks ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Walter Scott ac ar restr fer Gwobr Encore Mae Natasha wedi byw yn Japan fel Ysgolhaig Daiwa, yn ogystal â Tsieina a Pheriw Roedd hi’n Awdur Preswyl Gladstone yn 2016, ac mae’n dysgu ar gwrs BA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bath Spa, ochr yn ochr â chyrsiau byr yn Sefydliad Addysg Barhaus Caergrawnt Cafodd ei nofel ddiweddaraf, The Mars House, ei gyhoeddi gan Orion yn 2024
Ysgrifennwch am yr hyn rydych wir yn hoff ohono. Os ydych yn teimlo fel y ddyliech ysgrifennu llenyddiaeth ynglŷn â bywyd fel Catholig Canol oed yn Leeds, ond yn y bôn rydych wedi bod eisiau ysgrifennu ffuglen hanesyddol lle mae tywysog Mayan yn gwneud ffrindiau â draig yr afon, yna er mwyn y mawredd, ysgrifennwch stori’r ddraig. Mi fydd eich ysgrifennu gymaint gwell os ydych chi’n caru’r stori rydych chi’n ei hadrodd… ac mae’n debyg y bydd eich stori yn anymarferol ac yn ddiflas os na wnewch chi. Rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl sy’n dweud “Well, I've been writing this one historical fiction project which I love for years, but that's never going to sell, so I'm writing a thriller instead; I hate it but everyone says that's where the market is now. ” Gallaf uniaethu, ond a deud y gwir: scrapiwch y thriller. Yn bendant, nid yw cystal â’r prosiect rydych yn angerddol amdano; ac mae ceisio gwasgu’ch lle i blith y tor o awduron eraill yn her yn ei hun Does dim posib rhagweld hynny wrth gwrs, felly waeth i chi fynd ati i ‘sgwennu rhywbeth rydych chi’n mynd i’w garu. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl ei fod yn rybish llwyr, mi fydd rhywun arall yn siŵr o’i garu. Dyma fy ngwir brofiad i o’r byd cyhoeddi, chwe llyfr i mewn.
Mae
CLAREMACKINTOSH
wedi gwerthu dros 2 filiwn o gopïau o’i llyfrau ledled y byd, wedi cyrraedd brig y rhestrau gwerthu ac wedi ennill sawl gwobr, a hi yw awdur I Let You Go (Little Brown, 2015), a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times a’r New York Times, a’r llyfr gan awdur trosedd newydd a werthodd gyflymaf yn 2015 Fe enillodd Nofel Trosedd y Flwyddyn Theakston Old Peculier yn 2016 hefyd Cyrhaeddodd ail a thrydedd nofel Clare, I See You (Little Brown, 2017) a Let Me Lie (Little Brown, 2018), frig rhestrau gwerthiant y Sunday Times Cafodd ei thair nofel gyffro gyntaf eu dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Richard & Judy, a gyda’i gilydd maen nhw wedi’u cyfieithu i dros ddeugain o ieithoedd Cafodd After the End (Little Brown, 2019) ei chyhoeddi yn 2019 a chyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times ar unwaith, ac yn 2021 saethodd Hostage (Little Brown, 2021) i’r deg uchaf Mae ei chyfres drosedd newydd, sy’n cynnwys y ditectif o Gymru DC Ffion Morgan, wedi derbyn canmoliaeth feirniadol, gyda The Last Party (Little Brown, 2023) ac A Game of Lies (Little Brown, 2023) yn cyrraedd rhestr deg uchaf y Sunday Times Gyda’i gilydd, mae ei llyfrau wedi treulio dros 65 o wythnosau yn rhestrau goreuon gwerthiant y Sunday Times Mae Clare yn byw yn y gogledd gyda’i theulu
Pryd bynnag rydw i'n dod at ddiwedd sesiwn ysgrifennu, rydw i bob amser yn gwneud yn siŵr fy mod yn gorffen yng nghanol golygfa gyffrous neu ddarn o ddeialog - byth ar ddiwedd golygfa neu bennod. Mae hyn yn golygu fy mod yn nedio mewn i'r stori eto y tro nesaf rydw i'n eistedd i lawr i ysgrifennu, heb orfod wynebu'r dudalen wag.
Bardd ac awdur yw
ac mae’n byw rhwng Glasgow a Chaergrawnt Hi oedd y bardd cyntaf i recordio yn Stiwdios Abbey Road, Llundain, ac enillodd Wobr Ted Hughes am Waith Newydd mewn Barddoniaeth am ei chofiant barddonol am fod yn rhiant – Nobody Told Me (Little Brown, 2016) – gyda The Scotsman yn dweud “Mae angen y llyfr hwn ar y byd” Mae hi wedi cyhoeddi pedwar casgliad arall o farddoniaeth – Papers (Greenwich Exchange, 2012), Cherry Pie (Burning Eye Books, 2015), Plum (Pan MacMillan, 2017) a Slug (Little Brown, 2021) a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times Mae ei llyfr newydd, Lobster, and other things I'm learning to love allan nawr (Little Brown, 2024)
Fy nghyngor ysgrifennu yw darllen. Darllenwch yn gyffredinol ond yn benodol wrth ysgrifennu neu olygu. Cyn i mi ddechrau golygu fy ngwaith fy hun, rydw i bob amser yn treulio 15 - 30 munud yn darllen cerddi gan feirdd eraill rydw i'n eu hystyried yn fwy medrus neu'n wahanol o ran arddull i mi, er mwyn canolbwyntio ar y grefft o farddoniaeth ac i ail-osod fy ymennydd ar gyfer ‘sgrifennu!
DANIELMORDEN
Cyn i chi fynychu'r cwrs, byddwch yn siŵr o deimlo’r imposter syndrome. Byddwch yn teimlo nad ydych mor brofiadol neu mor dalentog â phawb arall sy'n mynychu. Peidiwch â phoeni. Mae pawb yn teimlo fel hyn. Hyd yn oed y tiwtoriaid!
Awdur Cymreig sy'n byw yn Lloegr yw
Mae hi wedi ennill gwobrau am ffuglen, barddoniaeth ac ysgrifennu teithio Mae hi'n awdur nifer o lyfrau amrywiol: nofel, pum llyfr ffuglen fer, dau o farddoniaeth, a llyfr o gemau ysgrifennu a syniadau ar gyfer awduron Y mae hi’n olygydd ac yn cyfrannu tuag at Short Circuit, Guide to the Art of the Short Story (Salt, 2013), a chyfrannodd bennod i The Rose Metal Press Guide to Writing Flash Fiction (Rose Metal Press, 2013) Mae ei gwaith wedi cael ei ddefnyddio mewn papurau TGAU, ac mae ar y maes llafur yn yr Unol Daleithiau Mae hi wrth ei bodd yn rhannu ei brwdfrydedd dros ysgrifennu, ac mae wedi dysgu yn yr Eidal, Awstria, Sweden, Rwsia, Iwerddon a’r DU Mae ei gwaith hefyd wedi cael ei gefnogi gan grantiau a chyfnodau preswyl gan Gyngor y Celfyddydau, Llyfrgell Gladstone, Castell Hawthornden yn yr Alban, Prifysgol Stockholm, Anam Cara Writers and Artists’ Retreat, yn Iwerddon Roedd ei phreswyliad diweddaraf yn Amgueddfa Petersfield a Chanolfan Astudio Edward Thomas yn Hampshire
Edrychwch ar y ddelwedd yma o fachgen ar draeth am ychydig funudau. Gadewch iddo suddo i mewn i’ch ymwybod, a gadewch i'ch argraffiadau chi eich hun godi mewn ymateb i’r llun.
Yna ewch ati i ysgrifennu... efallai ystyriwch y cwestiynau canlynol:
Pwy yw'r bachgen?
Pam ei fod o yma?
Beth mae o'n ei wneud?
Beth mae o'n ei weld?
Pwy sy'n ei wylio?
Beth sy'n digwydd iddo?
AYISHAMALIK
yw awdur y nofelau rhagorol Sofia Khan is Not Obliged, The Other Half of Happiness, This Green and Pleasant Land a The Movement Cafodd ei dewis ar gyfer Fresh Talent Pick gan WHSmith a roedd Sofia Khan yn un o ddewisiadau London CityReads. Mae hi wedi cyfrannu at weithiau sy’n cynnwys A Change is Gonna Come, a hefyd Conversations in Love, a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times Mae hi wedi ysgrifennu ail-gread o Mansfield Park gan Jane Austen, a hefyd y llyfr i blant Seven Sisters Mae Ayisha wedi ennill Gwobrau Llyfrau Amrywiaeth ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menywod Asiaidd Llwyddiannus, Gwobrau Siapwyr y Dyfodol Marie Claire, Gwobrau Cyhoeddi ac Ysgrifennu h100, ac mae’n dderbynnydd Ysgoloriaeth Teithio Cymdeithas yr Awduron. Mae Sofia Khan is not Obliged a The Movement wedi eu dewis ar gyfer y teledu Mae Ayisha yn rhan o dîm yr Academi Ysgrifennu Proffesiynol ac yn addysgu cyrsiau ar gyfer Academi Faber a Curtis Brown Creative
Gadewch i'r drafft cyntaf fod yn wael. Rydych chi'n adeiladu sylfaen eich stori. Peidiwch â phoeni am frawddegau perffaith a hadu popeth ar yr un pryd. Ysgrifennwch y stori i lawr. Bydd yr hyn yr ydych yn ei archwilio yn datgelu ei hun i chi wrth i chi ysgrifennupeidiwch â mynd yn ôl, bwrwch ymlaen.
RHIANEDWARDS
yn awdur a golygydd barddoniaeth gyda gwasg Seren, ac mae hi wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Enillodd ei chasgliad cyntaf Clueless Dogs (Seren, 2012) Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau 2012 Enillodd Rhian Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar hefyd, gan ennill gwobr y Beirniaid a’r Gynulleidfa Roedd ail gasgliad Rhian, The Estate Agent’s Daughter (Seren, 2020), yn Argymhelliad Darllen ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 2020. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn y Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand a Planet
Oes gen ti unrhyw gyngor ‘sgwennu neu gyngor golygyddol?
1. ‘Sgwennwch mewn darluniau, darluniau byw, a rhowch rywbeth i’r darllenydd lynnu ato.
2. Peidiwch â bod yn cliche!
Alli di rannu ymarfer creadigol gyda ni?
Dwi’n caru ‘sgwennu portreadau o nghymeriadau i. Wrth drio dod â pherson yn fyw i’r darllenwyr sydd erioed wedi cwrdd â nhw, mwynhewch y profiad o ddefnyddio’ch geiriau i roi bywyd i’r cymeriadau, ceisiwch ddod a’u llais yn fyw, eu chwerthin, eu pesychu, ar ôl eu persawr, lliw eu croen, eu hoff gwpan goffi, eu holl osgo.
Unrhyw gyngor i’r rheiny sy’n mynychu cwrs am y tro cyntaf?
Peidiwch â bod ofn rhannu eich gwaith. Mae pawb yn yr un gwch, ac mae gweithdy ‘sgwennu yn ofod saff. Bydd eich cerddi yn derbyn y gofal pennaf.
Yn bwysicaf oll, rydyn ni i gyd yno i gefnogi ein gilydd, ac i'w wneud y gerdd neu'r casgliad gorau posibl. Gwrandewch ar yr adborth, (a fydd weithiau'n gwrth-ddweud ei gilydd). Mae'n werth rhoi cynnig ar bopeth a awgrymir. Ond pan ddaw at eich cerdd, chi sydd pia’r gair olaf, a gallwch ddiystyru ac ymgorffori pa bynnag argymhellion a ddaw i'ch rhan.
CYNANJONES
yn awdur ffuglen o fri o arfordir gorllewinol Cymru Mae ei waith wedi ymddangos mewn dros ugain o wledydd, ac mewn cyfnodolion a chylchgronau gan gynnwys Granta a The New Yorker. Mae hefyd wedi ysgrifennu sgript ar gyfer y ddrama drosedd boblogaidd Y Gwyll / Hinterland, casgliad o chwedlau i blant, a nifer o straeon ar gyfer BBC Radio Mae wedi cyrraedd y rhestr hir a’r rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau, ac enillodd, ymhlith gwobrau eraill, Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Jerwood Fiction Uncovered, a Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC www cynanjones com/
Mae ysgrifennu yn beth rhyfedd i'w wneud i chi'ch hun. Y tu hwnt i'r sgil, y ddawn, yr ysbrydoliaeth - y pethau mwy cymleth - sydd eu hangen arnoch chi, yw anghenion mwy sylfaenol amser a chaniatâd.
Mae yna bob amser esgus i beidio ag ysgrifennu. Peidio rhoi’ch pen i lawr. Mae bywyd yn mynd ar ei draws o hyd. Ond nid yn Nhŷ Newydd. Trwy fynychu cwrs yno, rydych chi wedi rhoi amser a chaniatâd i chi'ch hun. Fodd bynnag! Mae'n lle hudolus, ac - yn sicr yn fy mhrofiad i - yn dod â phobl eithriadol at ei gilydd. Felly, mae'n hawdd iawn peidio ag ysgrifennu oherwydd eich bod chi eisiau aros a siarad â'ch cyd-awduron, neu gerdded i'r traeth, neu eistedd i fwynhau'r ymdeimlad o'r cyfan. Wel, mae'n iawn caniatáu'r pethau hynny hefyd. Achos, ti'n gwybod beth? Nid dim ond eistedd wrth y ddesg neu sgriblo nodyn yw ysgrifennu Mae hefyd yn bopeth sy'n eich rhoi chi yn y meddylfryd cywir i allu gwneud hynny.
ym Mharis, ac mae’n byw yng Nghernyw. Mae hi o dras Ffrengig, Cymreig ac Indiaidd. Cafodd ei hwythfed casgliad o farddoniaeth, Tiger Girl (Bloodaxe, 2020), ei gynnwys ar restr fer Gwobr Forward a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Enillodd ei seithfed cyfrol, Mama Amazonica (Bloodaxe, 2017), y Wobr Laurel gyntaf a Gwobr RSL Ondaatje Cyrhaeddodd pedwar o’i chasgliadau blaenorol y rhestr fer ar gyfer Gwobr TS Eliot Roedd Pascale yn gyd-sylfaenydd The Poetry School, ac mae wedi bod yn Gadeirydd ar Wobr TS Eliot a Gwobr Laurel Prize. Cafodd ei nofel gyntaf, My Hummingbird Father, ei gyhoeddi gan Salt yn 2024, a bydd ei nawfed casgliad, Beast, yn cael ei gyhoeddi gan Bloodaxe yn 2025 PASCALEPETIT
Meddyliwch am yr hyn rydych chi wir eisiau ysgrifennu amdano, hyd yn oed os yw'n anodd, rhywbeth rydych chi'n wyliadwrus ohono, oherwydd pa mor fawr yw thema, neu efallai ei fod yn teimlo'n rhy bersonol. Er enghraifft, roeddwn i'n dyheu am ysgrifennu am weld jaguar yn yr Amazon yn Periw, ond roedd yn teimlo'n ormod o bwysau, yr anifail yn rhy eiconig. Cefais fy nigalonni gan enghreifftiau enwog o gerddi jaguar gan Rilke, Ted Hughes, Pablo Neruda
Felly, penderfynais y dylwn ysgrifennu cento Ffurf sy’n cynnwys yn gyfan gwbl linellau beirdd cyhoeddedig eraill yw cento. Ni allwch ychwanegu unrhyw beth arall atynt, mae'n deyrnged i'ch hoff feirdd, ac allan o'u llinellau rydych chi'n creu cerdd newydd, trwy eu cyfosod. O dan eich cerdd deyrnged rydych chi'n rhestru awduron gwreiddiol y llinellau, neu os yw'ch cerdd yn gorffen mewn casgliad, gallwch chi ychwanegu hyn at y gydnabyddiaeth
Chwiliwch am eich hoff gerddi ar y testun yr hoffech ysgrifennu amdano, casglwch nhw Gall y cam hwn gymryd dyddiau. Ysgrifennwch y llinellau hynny ar ddarnau o bapur ar wahân a dechreuwch eu symud o gwmpas nes eu bod yn gwneud rhyw fath o synnwyr newydd i chi, sbarc sy'n eich synnu. Gallwch dorri rhannau o bob llinell gan y beirdd cyhoeddedig, dim ond defnyddio hanner ohonyn nhw er enghraifft, i'w helpu i gydlynu i'ch llinell newydd eich hun
Treuliais wythnosau yn ymchwilio ar gyfer fy cento, ac ar y diwedd roedd yn teimlo fel gwastraff amser. Gair o gyngor – nid yw byth yn wastraff amser i ailddarllen cerddi yr ydych yn eu caru.
Os yw'r cento yn gweithio - llongyfarchiadau! Mae wedi eich helpu i ysgrifennu rhywbeth yr oeddech yn meddwl na allech chi ei wneud ond ni allwch newid unrhyw beth yn y rhan o'r llinell rydych yn ei hanrhydeddu
Os nad yw'r cento yn gweithio, edrychwch ar y llinellau rydych chi wedi'u casglu. Pa un sy'n aros yn y cof fwyaf? Defnyddiwch yr un hwnnw fel epigraff – dyfyniad i’w gadw uwchben eich cerdd, ac ymatebwch iddo drwy ysgrifennu cerdd amdani Yn y diwedd, ni weithiodd fy cento Ond cefais fy ngherdd jaguar o’r ymarfer, a daeth yn ‘The Jaguar’, cerdd olaf fy seithfed casgliad, Mama Amazonica
Aeth y ffurf cento a fi ar daith, gan ymateb i linell Pablo Neruda ‘Como un río de tigres enterrados’, neu, ‘Fel afon o jagwariaid claddedig’, a gyfieithwyd o’r Sbaeneg, o’i gampwaith The Heights of Macchu Picchu Defnyddiais ei linell fel fy epigraff, fy mhwynt cychwyn, a defnyddiais hi hefyd yng nghorff fy ngherdd ond mewn cyfieithiad Saesneg Roedd y jaguar roeddwn i wedi'i weld wedi nofio ar draws afon, ac yn sychu ei got Roeddwn i hefyd wedi cael breuddwydion cyson am nofio trwy afon o ddillad, ac roedd llinach Neruda yn ennyn y breuddwydion hynny i mi. Ffocws y gerdd oedd yr afon, yn hytrach na'r jaguar, a gymerodd y pwysau oddi ar yr amhosibilrwydd o gonsurio'r anifail hwn, tra'n caniatáu iddo fod yn ef ei hun yn yr olygfa
Mae darllen cerddi eraill bob amser yn help, ac mae darllen barddoniaeth sy’n fy nghyffroi i’n tanio llawer ohonyn nhw. Rwy'n argymell darllen i dorri trwy unrhyw floc neu rwystr yn eich ysgrifennu.
CARLYREAGON
yn byw yng nghefn gwlad de Cymru, ychydig y tu allan i Gaerdydd, gyda'i gŵr a'i thri o blant ifanc Dechreuodd ysgrifennu straeon pan oedd hi'n saith oed Yn 2017 dilynodd gwrs gyda Curtis Brown Creative ac, yn 2019, roedd ar restr fer Gwobr Ffuglen Lucy Cavendish Mae hi'n ffitio ei hysgrifennu o amgylch gweithio fel uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a gofalu am ei phlant a milgi sy'n dueddol o gael damwain (y milgi, nid y plant). Ar wahân i ysgrifennu, mae hi wrth ei bodd yn crwydro o gwmpas safleoedd hanesyddol, yn rhedeg trwy gefn gwlad Cymru, ac yn pobi (a bwyta) cacennau fegan Ei nofel gyntaf, The Toll House, stori ysbryd a gyhoeddwyd gan Little, Brown UK yn 2022, oedd llyfr Cymraeg y mis Waterstones ym mis Hydref 2023 Bydd ei hail nofel, Hear Him Calling, stori ysbryd arall, yn cael ei chyhoeddi gan Little, Brown yn 2024.
Ysgrifennwch eich drafft cyntaf yn gyflym, fel eich bod yn cadw edafedd y stori gyda'i gilydd a does dim rhaid i chi ailddarllen eich gwaith bob tro y byddwch chi'n eistedd i lawr i ysgrifennu. Fel arfer byddaf yn cymryd 3 mis i ddrafftio nofel, gan ddefnyddio pob cyfle y gallaf i ysgrifennu (bore cynnar iawn, amser cinio, gyda'r nos).
Gosodaf darged ysgrifennu o 8,000 o eiriau'r wythnos, gan wneud beth bynnag sydd ei angen i gyrraedd hynny. Pryd bynnag yr ydw i'n cymeryd mwy o amser, mae'r stori'n dechrau chwalu - anghofiaf beth oedd fy nghymeriadau yn ei wneud ac yn colli manylion pwysig. Er ei fod yn teimlo fel rhedeg marathon, mae drafft cyntaf cyflym yn galluogi i chi symud ymlaen at y busnes difrifol (ac yn fy meddwl, llawer mwy o hwyl) o grefftio a mireinio eich nofel.
Magwyd
SUSANSTOKES-CHAPMAN
yn ninas Sioraidd hanesyddol Lichfield, Swydd Stafford, ond mae bellach yn byw yng ngogledd-orllewin Cymru Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio gyda BA mewn Addysg a Llenyddiaeth Saesneg ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol Mae ei nofel gyntaf Pandora (Harvill Secker, 2022) yn ail ddehongliad bras o'r chwedl Roegaidd, Pandora's Box, wedi'i gosod yn Llundain yn yr oes Sioraidd, ac mae'n adrodd hanes yr artist gemwaith uchelgeisiol Dora Blake a'i chyfarfyddiad â fâs hynafol y mae ei hewythr gormesol yn awyddus iawn i'w gadw yn gyfrinach Daeth y nofel yn un o werthwyr gorau The Sunday Times adeg ei chyhoeddi, ac yn 2020 roedd ar restr fer Gwobr Ffuglen Lucy Cavendish 2020 ac ar restr hir Gwobr Bath Novel Award www susanstokeschapman com
Darllenwch eich gwaith ar lafar gan ei fod yn ffordd dda o olygu eich gwaith; mae'n syndod faint o gamgymeriadau rydych chi'n eu dal!
Ganwyd
INUAELLAMS
yn Nigeria, ac mae’n fardd, dramodydd a pherfformiwr, yn artist graffig ac yn ddylunydd ac yn sylfaenydd i: The Midnight Run (profiad cerdded celfyddydol trefol gyda’r nos ); The Rhythm and Poetry Party (The R A P Party) sy’n dathlu barddoniaeth a hip hop; a Poetry + Film / Hack (P+F/H) sy’n dathlu Barddoniaeth a Ffilm Mae Hunaniaeth, Dadleoli a Thynged yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro yn ei waith, lle mae’n ceisio cymysgu’r hen a’r newydd: dull traddodiadol Affricanaidd o adrodd straeon ar lafar, gyda barddoniaeth gyfoes, paent gyda phicsel, gwead â fector Mae ei lyfrau wedi’u cyhoeddi gan Flipped Eye, Akashic, Nine Arches, Penned In The Margins, Oberon & Methuen
Oes gen ti unrhyw gyngor ‘sgwennu neu gyngor golygyddol?
Ceisiwch beidio â phoeni’n ormodol, ac os caiff eich cyflwyniad ei wrthod nid yw’n adlewyrchu ansawdd eich cyflwyniad o angenrheidrwydd, mae hefyd yn adlewyrchu chwaeth y darllenydd(darllenwyr), ble a sut y maent pan fyddant yn bodloni eich cyflwyniad, pam eu bod yn deall neu’n camddeall. Y peth pwysig yw parhau i gyflwyno - darllenwch eich gwaith gan benderfynu pa newidiadau y gallech eu gwneud eto - a'i anfon allan i'r byd.
Alli di rannu ymarfer creadigol gyda ni?
Ysgrifennwch gyfarwyddiadau ar gyfer adeiladu'r carchar perffaith ar gyfer eich calon. Yn y llinellau cau, dinistriwch y carchar.
Unrhyw gyngor i’r rheiny sy’n mynychu cwrs am y tro cyntaf?
Dewch gan ddisgwyl chwarae, darllen, rhannu, dyfeisio, adeiladu, dinistrio, ailgylchu ac ailadeiladu.
Cyrhaeddodd casgliad barddoniaeth cyntaf
MARIELLISDUNNING
Salacia (Parthian, 2018), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 Mae ei hail gasgliad, Pearl and Bone (Parthian, 2022), yn archwilio cymhlethdodau cyfnodau cynnar mamolaeth, ac yn ystyried yn benodol amgylchiadau dod yn fam yn ystod pandemig COVID Fe’i dewiswyd fel Dewis Barddonol Rhif 1 y Wales Arts Review yn 2022 Mae Mari yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n ysgrifennu nofel hanesyddol wedi’i gosod yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg, yn archwilio’r berthynas rhwng cyhuddiadau o ddewiniaeth, y corff benywaidd ac atgynhyrchu Mae Mari’n byw ar arfordir gorllewinol Cymru gyda’i gŵr, eu dau fab, a’u poochon annwyl iawn.
Cyn cyflwyno unrhyw beth, darllenwch eich gwaith ar lafar. Mae hyn yn wir am bob ysgrifennu, ond mae'n arbennig o bwysig ar gyfer barddoniaeth. Weithiau pan fyddwn yn darllen ein gwaith ein hunain yn ein pennau, rydym yn gweld yr hyn yr ydym am ei weld ar y dudalen ac yn colli camgymeriadau amlwg, ond mae darllen yn uchel yn osgoi'r broblem honno. Efallai y byddwch yn baglu dros ymadroddion penodol, yn dod yn gyfarwydd ag achosion damweiniol o ailadrodd, neu'n sylwi ar rediad brawddegau. Gall deimlo'n rhyfedd ar y dechrau, ond po fwyaf y byddwch chi'n ei wneud, yr hawsaf y bydd yn dod!
Awdur plant a phobl ifanc yw
PATRICELAWRENCE
sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd â chefndir mewn cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Mae’n ysgrifennu ar draws genres a grwpiau oedran Roedd ei llyfr cyntaf i oedolion ifanc,Orangeboy (Hachette, 2016), ar restr fer Gwobr Plant Costa ac enillodd Wobr Oedolion Ifanc The Bookseller a Gwobr Waterstones am Ffuglen i Blant Hŷn.Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Medal Carnegie saith gwaith- a chyrraedd y rhestr fer unwaith Mae ei gwobrau’n cynnwys Gwobr Llyfr Little Rebels, y Wobr Jhalak gyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Gwobr Drama Arddegwyr Woman and Home, a Gwobr Oedolion Ifanc CrimeFest ddwywaith Yn 2023, daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol Mae Patrice yn gweithio’n helaeth mewn ysgolion yn ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn adroddwyr straeon ac yn mentora awduron sy’n oedolion o gefndiroedd wedi’u tangynrychioli ym myd cyhoeddi traddodiadol Prydain
Anogwr ysgrifennu:
Heddiw yw diwrnod cyntaf gweddill bywyd eich cymeriad.
Dyma ddiwrnod na feddylion nhw erioed y bydden nhw'n ei weld.
Pam?
Ysgrifennwch am saith munud heb hunan-olygu na gorfeddwl!
ABEERAMEER
lle ar-lein
Awgrym ysgrifennu: y syniadau sy'n parhau i ymdori yw'r rhai sy'n bragu orau. Rwy'n cadw llyfr nodiadau bach gyda mi, un na allwch ond ffitio brawddeg fesul tudalen. Pan fydd gen i syniad am gerdd, fe ysgrifennaf ychydig eiriau i lawr, efallai teitl, i'm hatgoffa ohoni yn nes ymlaen. Gallwch hefyd ddefnyddio app nodiadau ar eich ffôn symudol neu gyfrifiadur, ond rwy'n gweld bod beiro a phapur yn rhoi presenoldeb i syniadau, yn ofod cadarn ar gyfer cydnabyddiaeth. Byddaf yn ei adael am tua mis ac yn dod yn ôl ato. Os ydw i wedi meddwl am y peth yn y cyfamser, gall cerdd ddod yn weddol gyflym o nifer cymharol fach o ddrafftiau. Mae'n syndod i mi faint o gerddi sydd wedi dod o hyn.
Ganwyd a magwyd
JOEDUNTHORNE
yn Abertawe Cyfieithwyd ei nofel gyntaf, Submarine (Penguin, 2011), i ugain iaith a’i throi’n ffilm sydd wedi ennill gwobrau Enillodd ei ail nofel, Wild Abandon (Penguin, 2012), Wobr Encore y Society of Authors Ei nofel ddiweddaraf yw The Adulterants (Penguin, 2019) Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, O Positive, gan Faber & Faber yn 2019 Mae ei waith wedi’i gyhoeddi yn y New York Review of Books, London Review of Books, The Paris Review, McSweeney’s, Granta, The Guardian a The Atlantic Mae'n byw yn Llundain
Wrth olygu, argraffwch eich darn mewn ffont gwahanol i'r un y gwnaethoch ei ysgrifennu ynddo.
VASEEMKHAN
yn awdur dwy gyfres drosedd boblogaidd wedi'u gosod yn India, cyfres Baby Ganesh Agency wedi'i gosod yn Mumbai gyfoes, a nofelau trosedd hanesyddol Malabar House a osodwyd yn Bombay yn y 1950au. Dewiswyd ei lyfr cyntaf, The Unexpected Inheritance of Inspector Chopra (Hodder, Mulholland Books, Hachette, 2015), gan The Sunday Times fel un o’r 40 nofel drosedd orau a gyhoeddwyd yn 2015-2020, ac mae wedi’i chyfieithu i 17 o ieithoedd Enillodd yr ail yn y gyfres Wobr Shamus yn yr Unol Daleithiau Yn 2021, enillodd Midnight yn Malabar House (Hodder & Stoughton, Hachette, 2020) Wobr Crime Writers Association Historical Dagger, prif wobr y byd am ffuglen trosedd hanesyddol ac roedd ar restr fer Gwobr Theakston’s Old Peculier Nofel Drosedd y Flwyddyn yn 2022 Pan nad yw'n ysgrifennu, mae'n gweithio yn Adran Gwyddorau Diogelwch a Throsedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain Ganwyd Vaseem yn Lloegr, ond treuliodd ddegawd yn gweithio yn India Mae Vaseem hefyd yn cyd-gyflwno’r podlediad ffuglen trosedd poblogaidd, The Red Hot Chilli Writers www.vaseemkhan.com
Y prif reswm pam mae asiantau yn gwrthod llawysgrifau yw nad ydynt wedi'u hysgrifennu i safon y gellir ei chyhoeddi. Mae hyn yn golygu na all asiant ddelweddu golygydd sy'n dymuno cyhoeddi'r llyfr - nid yw'n taro deuddeg o ran ansawdd rhyddiaith, plot, neu gymeriadu o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi yn y genre hwnnw. Felly'r awgrym yw: gwnewch yn siŵr bod eich gwaith yn bodloni'r rhwystr lleiaf hwn rhag mynediad. Sut? Dysgwch eich crefft. Cymharwch eich llawysgrif â llyfrau cyhoeddedig yn y gofod hwnnw. Yna ysgrifennwch a golygwch ac ail-olygwch nes bod eich llyfr yn gyflwyniad o safon orffeneig.
Ail ymunodd
CATHRYNSUMMERHAYES
ag asiantaeth Curtis Brown ym Medi 2016, a hithau wedi cychwyn ei gyrfa fel asiant llenyddol yn wreiddiol yn 2004 Sefydlodd restr amrywiol o gleientiaid i asiantaeth WME lle bu’n gweithio am ddegawd Cyn hynny bu’n gweithio i sawl asiantaeth llenyddol arall a gyda Colman Getty PR – lle bu’n gweithio ar sawl digwyddiad llenyddol mawr gan gynnwys Gwobr y Man Booker a Gwobr Samuel Johnson Mae Cathryn hefyd yn gweithio yn swyddfa gynhyrchu Gŵyl Lenyddol Port Eliot, ac yn cymryd rhan yng ngwyliau Rhyngwladol y Gelli a Chaeredin yn rheolaidd Yn 2016 fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr Asiant y Flwyddyn yn y British Book Awards, ac ymysg ei chleientiaid y mae Dr Adam Kay, Mark Watson, Naomi Wood, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Johanna Basford, Sir Ranulph Fiennes, Lucy Foley, Russell Norman, Mark Hix a Clemmie Hooper
Oes gen ti unrhyw gyngor ‘sgwennu neu gyngor golygyddol?
Peidiwch byth â chyflwyno drafft cyntaf o unrhyw beth i asiantcyflwynwch y drafft gorau y gallwch chi - o'ch llawysgrif - a'ch llythyr cyflwyniad. Mae gennych un ergyd. Meddyliwch am hwn fel cyfweliad swydd neu glyweliad pwysicaf eich bywyd.Gofynnwch i ddarllenwyr dibynadwy eraill – nid aelodau agos o’r teulu – edrych ar eich gwaith a’i feirniadu a gweithio a gweithio ar y drafft nes eich bod yn gwybod na allwch weithio arno mwyach a bod yn rhaid ichi roi cynig arni.
Alli di rannu ymarfer creadigol gyda ni?
Ysgrifennwch olygfa o ganol eich llyfr neu hyd yn oed y diweddglo, yn gyntaf – peidiwch â dechrau yn y dechrau bob amser – mae pobl yn adolygu ac yn adolygu eu 50 tudalen gyntaf ac yn aml mae’n amlwg mewn cyflwyniadau pan nad yw gweddill y deunydd mor gryf am nad yw wedi cael cymaint o ofal a sylw. Rhai dyddiau, eisteddwch i lawr a meddwl ‘heddiw rydw i’n mynd i ysgrifennu golygfa’r llofruddiaeth’ hyd yn oed os yw’n mynd i fod ar dudalen 250… mae’r ysgrifenwyr gorau yn aml yn trin eu llyfrau fel jig-sos, gan glymu pethau at ei gilydd wrth fynd ymlaen. Nid yw bywyd yn llinol - nid yw nofelau chwaith…
Nofel ddiweddaraf
yw Shy (Faber & Faber, 2023) a oedd yn un o werthwyr gorau rhif 1 y Sunday Times ar unwaith Mae'n awdur tair nofel arall ac mae ei waith wedi'i gyfieithu i dri deg un o ieithoedd Enillodd ei nofel gyntaf, Grief Is the Thing with Feathers (Faber & Faber, 2016), wobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times/Peter, Fraser + Dunlop, Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, yr Europese Literatuurprijs a Gwobr y BAMB Readers’, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian a Gwobr Goldsmiths Roedd ei ail nofel, Lanny (Faber & Faber, 2019), yn un o 10 gwerthwr gorau’r Sunday Times, ar restr hir Gwobr Booker 2019 a Gwobr Wainwright 2019, ar restr fer Gwobr Gordon Burn 2019 ac ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones a Foyles 2019. Canmolwyd ei drydydd llyfr, The Death of Francis Bacon (Faber & Faber, 2022), fel ‘campwaith bychan’, a ‘camp o empathi, dychymyg ac egni llenyddol’
Ysgrifennwch ddarn byr yn y person cyntaf fel ‘lle’. Llais di-ddynol.
Ystyriwch amserlen; posibiliadau tymhorol y tu hwnt i oes dynol.
Defnyddiwch anthropomorffedd ar bob cyfrif, ond dim ond fel ffordd o gloddio rhyw wirionedd esthetig neu athronyddol am sut deimlad y gallai fod yn afon, neu'n ddyffryn, neu'n stryd ddinas. Mae croeso i chi ysgrifennu rhyddiaith, neu farddoniaeth, neu ddod o hyd i ffurf sy'n unigryw i'r lle rydych chi'n ei fynegi.
CATHYRENTZENBRINK
yn gofianwr rhagorol ac mae ei llyfrau’n cynnwys The Last Act of Love (Pan Macmillan, 2015), How to Feel Better (Pan Macmillan, 2023) a Dear Reader (Pan Macmillan, 2021) Ei nofel gyntaf oedd Everyone is Still Alive (Orion, 2021) ac mae Write It All Down (Pan Macmillan, 2022) yn ganllaw cyfeillgar a di-ben-draw i ysgrifennu cofiannau Mae Cathy yn cadeirio digwyddiadau llenyddol yn rheolaidd, yn cyfweld ag awduron, yn rhedeg cyrsiau ysgrifennu creadigol ac yn siarad ac yn ysgrifennu ar fywyd, marwolaeth, cariad, a llenyddiaeth Er iddi gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau amrywiol, yr unig beth mae Cathy erioed wedi’i ennill yw Pencampwriaeth Dartiau Merched Snaith a’r Cylch pan oedd hi’n 17 oed Mae hi bellach wedi ymddeol o’r gamp hynod hon
Rwy'n ffan mawr o gadw dyddiadur neu unrhyw fath o ymarfer newyddiadurol. Dydw i ddim yn meddwl bod yr hyn rydych chi'n ei wneud mor bwysig â'i wneud ac oherwydd fy mod i'n hoffi amrywiaeth rwy'n tueddu i fynd trwy ychydig o wahanol ddulliau. Yr allwedd i bob un ohonynt yw eu bod yn breifat ac nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer darllenydd nawr nac yn y dyfodol. Rwy'n meddwl po fwyaf y byddwch chi'n ysgrifennu at ddefnydd y cyhoedd, y mwyaf y bydd angen man preifat arnoch chi hefyd.
Weithiau mae’r dudalen wag yn teimlo braidd yn fawr, felly dyma un dwi’n ei wneud pan dwi’n brin o awen, pan dwi’n dechrau teimlo’n aflonydd a sarrug, pan dwi’n meddwl tybed pam nad ydw i’n gallu cysgu neu’n ymddangos fel pe bawn i’n cwympo i hwyliau drwg. Cofiwch, pan fyddwch chi'n ceisio am y tro cyntaf efallai y bydd gennych chi lawer o bethau adeiledig. Os byddwch yn parhau, mae'r cyfan yn dod yn haws i'w reoli. Rwyf wedi eu cynllunio i gael y pethau trist allan yn gyntaf ac yna neidio i drên meddwl mwy cadarnhaol. Atebwch y cwestiynau'n gyflym heb geisio gwneud eich ysgrifennu'n dda, na gofalu am arddull neu hyd yn oed atalnodi. Gweld beth sy'n digwydd. Pob lwc!
Dyma nhw:
Am beth wyt ti'n drist?
Beth sy'n dy ddychryn?
Beth wyt ti’n ddig amdano?
Am beth wyt ti'n genfigennus?
Beth wyt ti'n ddiolchgar amdano?
Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato?
Beth fyddet ti'n hoffi ei brofi?
yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth diweddaraf – Merch y Llyn – gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn 2021, ac mae ei hysgrifau wedi ymddangos mewn cylchgronau yn cynnwys Planet ac O’r Pedwar Gwynt Mae hi hefyd yn olygydd gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, a hi yw un o gyd-olygwyr y casgliad o ysgrifau Welsh (plural), (Repeater, 2022) Mae Grug yn rhan o grŵp Sgwennu’n Well Llenyddiaeth Cymru, ac yn datblygu ei phrofiad o fod yn ymarferwr creadigol ym myd iechyd a llesiant
Ymarfer ysgrifennu byr:
- Meddyliwch am amser yn ddiweddar, pan y gwnaethoch chi oedi i syllu ar rywbeth di-sylw.
- Ysgrifennwch yn amser y presennol (“dwi’n gweld”, “rwy’n teimlo”, “syllaf” ac yn y blaen)
Yn rhan cyntaf eich darn, disgrifiwch y foment, ond peidiwch a chyfeirio ato chi eich hun. Ysgrifennwch bron fel na pe bai chi yno, fel pe bai chi’n gwylio o bell. Meddyliwch am fanylion bychan, ac am y synhwyrau.
Yn yr ail ran, gosodwch chi eich hun yn y darlun. Eich teimladau, neu ymateb, boed hynny’n feddyliol, neu drwy weithred.
Fe wnes i ymgolli cymaint wrth geisio cyrraedd y llinell derfyn a’r cynnyrch terfynol, gan wegian dros unrhyw anghysondebau neu gamgymeriadau, a cheisio gwneud yn siŵr bod fy ysgrifennu’n berffaith, nes i mi anghofio canolbwyntio ar fod yn bresennol, i fwynhau’r broses o ysgrifennu, y creadigrwydd ac adeiladu'r stori. Rhoddodd fy ffrind gyngor gwych i mi i'm cael allan o fy mhen gan ddweud wrthyf 'pe bawn i eisiau ysgrifennu perffaith byddwn i'n cael geiriadur' ac fe helpodd fy nhynnu allan o fy mhen oherwydd ei bod mor gywir. Dylai ysgrifennu fod yn hwyl, ni ddylai fod yn rhywbeth yr ydych yn ei gasáu. Rwy'n meddwl bod ysgrifennu drosoch eich hun mor bwysig. Peidiwch â phoeni am bwy sy'n mynd i'w ddarllen a sut y bydd yn cael ei ganfod. Peidiwch â chyfyngu'ch hun felly, y rhan fwyaf o'r amser y peth rydych chi am ei ysgrifennu ond rydych chi'n ofni'r hyn y byddai pobl fel arfer yn ei feddwl yw'r disgrifiad mwyaf pur, amrwd a gonest oherwydd daeth o'r tu mewn i chi.
Mae wedi cyhoeddi pymtheg nofel ers 2006, gan gynnwys Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa, 2006), a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, Iaith y Nefoedd (Y Lolfa, 2019), a gyrhaeddodd restr fer yr un gystadleuaeth yn 2019, a saith nofel drosedd yng nghyfres barhaus Gerddi Hwyan, sy’n dilyn hynt a helynt heddlu a thrigolion y dref ddychmygol sydd wedi’i disgrifio fel “Cwmderi ar crac” gan un adolygydd Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Llwyd yn gyfieithydd ac yn diwtor ysgrifennu creadigol profiadol. Mae’n byw yng Nghaerdydd, tref ei febyd, gyda’i wraig, ei blant a’i gi.
Ar ôl cyhoeddi pymtheg nofel ers 2006, mae’n deg dweud bod gen i beth profiad yn y maes erbyn hyn O ganlyniad, hoffwn gyflwyno i chi rhestr o reolau i’ch helpu ar hyd y daith
Peidiwch â dechrau llyfr gyda disgrifiadau hirwyntog o’r elfennau, adeiladau ac ati Mynnwch sylw eich darllenwyr o’r dudalen gyntaf a pheidiwch â’u gadael nhw i fynd. Rwy’n trin pob pennod fel stori fer o fath, ac rwy’n ceisio sicrhau bod rhywbeth yn digwydd ym mhob pennod Y nod, bob tro, yw sicrhau bod y darllenydd eisiau troi’r dudalen a gweld beth fydd yn digwydd nesaf.
Gweithiwch ar un peth yn unig tan i chi ei orffen Mae ffocws yn hollbwysig Rwy’n adnabod awduron sy’n gweithio ar lond llaw o brosiectau ar unwaith, ond nid dyna’r ffordd rwy’n gweithio Dim digon o frêns, mae’n siŵr Mae’n well ychwanegu 100 gair bob dydd at eich nofel, na gadael amser maith rhwng eich sesiynau, gan fod cysondeb yn allweddol wrth ysgrifennu darn hir o ryddiaith, fel nofel.
Os ydych chi’n ysgrifennu am le penodol sy’n bodoli go iawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd gyda’r lle hynny Mae Google Street View yn adnodd gwerthfawr, heb os, ond ewch yno os yn bosib Edrychwch o gwmpas Nodwch y nodweddion daearyddol Gwnewch fap Tynnwch ffotograffau Yn fy nofel, Taffia, pan mae’r prif gymeriad, Danny Finch, yn mynd i Andalucia ar drywydd ei brae, mae e’n dilyn ôltraed fi a fy ngwraig ar ein mis mêl, gan fy alluogi unwaith eto, i ddefnyddio profiad personol i ychwanegu lliw at fy rhyddiaith.
Ysgrifennwch gyda’ch synhwyrau i gyd, yn hytrach na dim ond eich llygaid. Beth all eich cymeriadau glywed, arogli ac ati, yn hytrach na beth maen nhw’n ei weld yn unig
Anghofiwch am y llyfrau rydych yn bwriadu eu hysgrifennu yn y dyfodol Canolbwyntiwch ar orffen y llyfr yma yn gyntaf
Trowch eich ffôn bant ac anghofiwch y cyfryngau cymdeithasol pan fyddwch yn ysgrifennu Yn bersonol, sa i hyd yn oed yn cysylltu â’r rhyngrwyd pan yn ysgrifennu. Rwy’n defnyddio copi caled o Bruce yn hytrach na’r fersiwn ar-lein, ac yn gwirio unrhyw ffeithiau neu fanylion angenrheidiol ar ddiwedd y dydd
Taflwch bopeth sydd gyda chi at y drafft cyntaf Cofiwch - y drafft cyntaf yw chi yn adrodd y stori wrthoch chi eich hunan Gallwch olygu, cwtogi, mireinio, ehangu, ymhelaethu ac ailysgrifennu yn eich ail a’ch trydydd drafft.
Er bod yna reolau i’w dilyn, y peth pwysicaf i gofio yw mai canllawiau yn unig ydynt. Wrth fynd ati i ysgrifennu nofel byddwch yn creu set o reolau eich hun, a bydd y ‘rheolau’ hyn yn datblygu a newid wrth i chi ddatblygu a newid fel awduron
Ceisiwch osgoi ystrydebau fel y pla du
Mae wastad yn well gweld dau gymeriad yn siarad gyda’i gilydd, na gorfodi’r darllenydd i ddarllen disgrifiad o’r un olygfa.
Cadwch eich rhyddiaith mor syml a phosib a pheidiwch defnyddio geiriau estron a chymhleth Un cwyn fi’n clywed yn aml – hyd yn oed gan bobl sy’n gwbl rhugl eu Cymraeg – yw bod nofelau Cymraeg yn defnyddio iaith rhy gymhleth Yn wir, dyma un o’r pethau sy’n rhoi cymaint o ddarllenwyr ifanc off parhau i ddarllen llyfrau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol. Defnyddiwch iaith bob dydd ble bynnag mae hynny’n bosib.
Os oes problem gyda’ch trydedd act, ewch nôl i edrych ar eich act gyntaf. Bydd yr ateb yno yn rhywle.
Peidiwch rhuthro. Marathon yw ysgrifennu nofel, nid ras wibio.
Darllenwch Darllenwch Darllenwch
IWANHUWS
1. Gair o gyngor ar sut i fynd ati i ysgrifennu
Dim ond mynd ati i wneud, heb boeni am geisio creu rhywbeth perffaith neu orffenedig. 'The writer who waits for ideal conditions under which to work will die without putting a word on paper' E.B.
White
2. Ymarfer ysgrifennu byr
Dewiswch ddwy thema ar gyfer eich cân, a chreu colofn yr un iddyn nhw. Rhestrwch ferfau sy'n berthnasol i'r thema gyntaf yn y naill golofn, ac enwau sy'n berthnasol i'r ail thema yn y llall. Yna, ewch ati i gysylltu bob berf gydag enw ar hap, nes bod bob un wedi'i baru, ac wedyn, ar gyfer bob pâr, ysgrifennwch linell fer sy'n cynnwys y ddau air - mi gewch linellau annisgwyl a difyr o wneud, a'n aml gallant beri i'r syniadau lifo!
3. Sut mae Tŷ Newydd wedi siapio dy ysgrifennu / gyrfa
Dw i wedi bod yma ar gyrsiau ysgrifennu yn y gorffennol ac wedi mwynhau'n arw a dysgu llawer, a mi dw i hefyd wedi treulio rhai dyddiau yma ar 'encil' yn gweithio Mae'n le sy'n sbarduno syniadau ac yn rhoi lle iddyn nhw anadlu
4. Cyngor i bobl sy'n mynychu cwrs am y tro cyntaf
Mwynhewch gwmni pawb, a byddwch yn glên hefo chi'ch hun tryw'r adeg - fe all fod yn anodd rhannu gwaith creadigol gydag eraill i ddechrau arni, ond mae pawb yn yr un cwch. A chofiwch, er eich boddhad eich hun y dylech ysgrifennu, os ydych chi'n hoff o rywbeth, tydi hi ddiawl ots be mae neb arall yn ei feddwl!
GEORGIARUTH
Sut mae Tŷ Newydd wedi siapio dy ysgrifennu / gyrfa?
Dwi wedi bod ar ddau encil yn Nant dros y blynyddoedd! Un, er mwyn dechrau sgwennu'r caneuon ar gyfer fy albwm ddiwethaf - Mai. Dwi'n ffyddiog bod tawelwch ac awyrgylch y coed yn Nhŷ Newydd wedi llifo i'r albwm gorffenedig. Roedd y profiad mor gadarnhaol, penderfynais ddychwelyd - y tro hwn er mwyn gorffen fy nofel gyntaf. Unwaith eto, rhoddodd hwb angenrheidiol i mi orffen y gwaith mewn amodau na fyddai'n bosibl i mi adre. Dwi'n hynod ddiolchgar! Bydden i'n annog unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau prosiect newydd (neu i orffen un sydd angen ei orffen) i fynd i'r lle hynod unigryw ac arbennig yma Newch chi ddim difaru!