Share your Words

Page 1

Share Your words


Cefndir Rhanna dy Eiriau Gweithiau creadigol pobl o gefndiroedd amrywiol yng Nghasnewydd, nifer ohonynt â Saesneg fel ail iaith, yw’r casgliad hwn. Gweithiodd y grŵp gyda’r bardd a’r gwneuthurwr printiau Francesca Kay a’r artist Sarah Featherstone mewn cyfres o weithdai creadigol. Cyflwynwyd y prosiect hwn, a roddodd lwyfan i unigolion fynegi eu hunain a chwarae gyda geiriau, mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru, Llyfrgelloedd Casnewydd, a’r Share Centre. Hon oedd y gyfres gyntaf o weithdai wyneb yn wyneb ers pandemig COVID-19 ac fe’i cynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021. Mae cyfranogi mewn gweithgaredd llenyddiaeth a chynrychiolaeth a chydraddoldeb mewn darpariaeth yn helpu i newid dyfodol ein cymunedau mewn modd cadarnhaol, ac mae cyhoeddi’r pamffled hwn yn enghraifft bwysig o sut y gall creadigrwydd helpu i newid bywydau, darparu llwyfannau ar gyfer, ac annog, lleisiau llenyddol sydd yn cael eu tangynrychioli; gan greu diwylliant llenyddol cenedlaethol sy’n cynrychioli Cymru gyfoes.

Llenyddiaeth Cymru Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Rydym yn elusen gofrestredig, ac rydym yn gweithio i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Rydym yn hwyluso, noddi ac yn cyflawni rhaglen llenyddol ledled Cymru. Darllenwch ragor am y prosiect hwn mewn cofnod blog gan Francesca a Sarah ar wefan Llenyddiaeth Cymru: www.llenyddiaethcymru.org

Llyfrgelloedd Casnewydd Mae Llyfrgelloedd Casnewydd wedi ymrwymo i hyrwyddo darllen er pleser, dysgu, iechyd a llesiant da, gyda chasgliadau llyfrau a thaflenni gwybodaeth pwrpasol. Pan godir y cyfyngiadau yn llwyr, a phan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny, bydd grwpiau darllen, amseroedd llyfrgell sy’n gyfeillgar i awtistiaeth, ynghyd â sesiynau coffi a sgwrsio yn ail-gychwyn. www.newport.gov.uk/llyfrgelloedd

Share Centre Canolfan Gymunedol yw Share sydd yn darparu ystod o ddosbarthiadau, gweithgareddau a digwyddiadau lleol. Mae’n hwb i’r gymuned leol, ac yn bodoli er mwyn darparu gwybodaeth, sgiliau a chyfleoedd newydd i bobl Casnewydd. www.share-centre.org.uk


About Share Your Words This collection is the work of people from diverse backgrounds in Newport, for many of whom English is a second language, who worked with poet and printmaker Francesca Kay and artist Sarah Featherstone in a series of creative workshops. This project, which provided a platform for individuals to express themselves and play with words, was delivered in partnership between Literature Wales, Newport Libraries, and the Share Centre. It was the first series of face-to-face workshops since the COVID-19 pandemic and took place in July 2021. Participation in literature activity and representation and equality of provision will help positively change the futures of our communities, and the publication of this pamphlet is an important example of how creativity can help change lives, provide platforms for, and encourage under-represented literary voices; creating a national literary culture which represents contemporary Wales.

Literature Wales Literature Wales is the national company for the development of literature. Our vision is a Wales where literature empowers, improves, and brightens lives. We are a registered charity, and work to inspire communities, develop writers and celebrate the literary culture of Wales. We facilitate, fund, and directly deliver a literary programme across Wales. Read more about this project in a blog post written by Francesca and Sarah on the Literature Wales website: www.literaturewales.org

Newport Libraries Newport Libraries are committed to promoting reading for pleasure, learning, good health and well-being, with dedicated book collections and information leaflets. When restrictions are completely lifted and it is safe to do so shared reading groups, autism friendly library times, plus coffee and chat sessions will continue. www.newport.gov.uk/libraries

Share Centre Share is a community centre which provides a range of classes, activities, and local events. The hub of the local community, Share exists to provide the people of Newport with new knowledge, skills, and opportunities. www.share-centre.org.uk


Yr artistiaid Artist ac awdur yng Nghaerdydd yw Sarah Featherstone. Mae hi’n gweithio mewn ystod o gyfryngau: gwneud printiau, paentio, testun a ffotograffiaeth, ac yn hwyluso sesiynau creadigol i blant ac oedolion. Mae hi wedi gweithio ar lawer o brosiectau celfyddydau cymunedol ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn sut y gall ymarfer creadigol gefnogi gwytnwch a lles meddyliol a chorfforol. “Roedd hi’n hyfryd gallu hwyluso’r prosiect hwn wyneb yn wyneb, yn dilyn cyfarfod cynllunio cychwynnol gyda Francesca bymtheg mis yn ôl, ychydig cyn y cyfnod clo. Roedd y Share Centre yn lle perffaith i gyfranogwyr ymledu ac ymlacio mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar. Dewisodd rhai o’r cyfranogwyr eiriau i adlewyrchu eu ffydd a dathliad Eid, dewisodd eraill enw plentyn, neu eiriau â chyseinedd emosiynol cryf. Roedd Francesca a minnau eisiau i’r sesiynau fod yn ddi-gyfarwyddeb ac yn agored iawn, gan ganiatáu i’r cyfranogwyr gymryd rheolaeth o’u gwaith.” - Sarah Featherstone

Mae Francesca Kay yn dathlu geiriau, syniadau a’r llawenydd o’u creu a’u rhannu. Fel bardd, mae ganddi brofiad helaeth o weithdai a darlleniadau i blant ac oedolion fel ei gilydd. Mae hi’n cyhoeddi ei barddoniaeth mewn pecynnau hadau, cardiau post, a lluniau wedi’u gwneud â llaw. Fel arlunydd ac argraffydd, mae Francesca yn creu celf geiriau, gan ddefnyddio gwasg llythrennau a gludwaith. Mae hi’n cyflwyno geiriau a syniadau fel printiau a gwrthrychau 3D. “Mae yna rywbeth syml iawn ond eto’n ddwys iawn ynglŷn ag ystyried geiriau, eu mynegi, dod â nhw i’r goleuni. Mae gan Sarah a minnau ddull tebyg o rannu’r hyn a wnawn, gan geisio gwneud y prosesau’n hygyrch ac yn bleserus. Roeddem yn falch iawn o fod allan yn y byd go iawn yn rhannu ein sgiliau a’n brwdfrydedd, ac i allu cynnal y prosiect arbennig hwn o’r diwedd, yn dilyn oedi anochel COVID-19. Rydw i mor falch fy mod i wedi bod yn y Share Centre, ac wedi cwrdd â phawb a ddaeth i wneud geiriau a chelf.” - Francesca Kay


The artists Sarah Featherstone is an artist and writer based in Cardiff. She works in a range of media: printmaking, painting, text and photography, and facilitates creative sessions for children and adults. She has worked on many community arts projects and is especially interested in how creative practice can support mental and physical resilience and well-being. “It was wonderful to be able to facilitate this project in person after an initial planning meeting with Francesca fifteen months ago, just before lockdown. The Share Centre provided the perfect space for participants to spread out and relax in a warm and welcoming environment. Some of the participants chose words to reflect their faith and the celebration of Eid, others chose the name of a child, or words with strong emotional resonance. Francesca and I wanted the sessions to be very non-directive and open, allowing participants to take control of their work.” - Sarah Featherstone

Francesca Kay celebrates words, ideas and the joy of creating and sharing them. As a poet, she has extensive experience of workshops and readings for children and adults alike. She publishes her poetry in handmade seed packets, postcards, and pictures. As an artist and printer, Francesca makes word art, using letterpress and collage. She presents words and ideas as prints and 3D objects. “There is something very simple and yet very profound about considering words, expressing them, bringing them into the light. Sarah and I have a similar approach to sharing what we do, seeking to make the processes accessible and enjoyable. We were delighted to be out in the real world sharing our skills and enthusiasm, and to be able to make the project happen after the inevitable Covid delays. I’m so glad to have been at the Share Centre, and to have met all those who came to make words and art.” - Francesca Kay
















Share Your words


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.