![](https://static.isu.pub/fe/default-story-images/news.jpg?width=720&quality=85%2C50)
1 minute read
Ar ba noson mae’r clwb cinio’n cwrdd bob mis?
2. Deialog (Fersiwn y Gogledd) Dialogue (North Wales Version)
Darllenwch y ddeialog, ac yna llenwch y gridiau ar sail yr wybodaeth a roddir. Dewiswch naill ai fersiwn y De (tud. 6-7) neu fersiwn y Gogledd. Read the dialogue, then complete the grids based on the information given. Choose either the South Wales (pages 6-7) or North Wales version.
Advertisement
Mae Delyth a Dewi’n siarad yn yr ysbyty.
Delyth: Bore da Dewi. Sut mae dy frawd di? Dewi: Mae o’n cysgu ar hyn o bryd. Mae o wedi torri ei goes, ond mi fydd o’n iawn, dw i’n siŵr. Delyth: Be’ wnaeth ddigwydd? Oedd o’n chwarae rygbi eto? Dewi: Oedd. Roedden nhw’n chwarae yn erbyn Aberwylan prynhawn ddoe. Roedd o’n edrych yn ofnadwy. Wyt ti yma i weld rhywun? Delyth: Ydw, mae fy mam i yn ward Bryn Mawr. Mae gynni hi boen cefn. Dydy hi ddim yn medru cerdded o gwbl. Mae hynny’n ddiflas iddi hi – mae hi’n mwynhau mynd am dro bob dydd. Dewi: Wyt ti’n edrych ar ôl y tŷ? Delyth: Ydw, ar ôl y tŷ, y gath a fy nhad! Mi wnaethon ni fynd allan i gael bwyd neithiwr, ond rhaid i mi goginio rhywbeth adre heno. Dewi: Wnaethoch chi fynd i’r Llew Coch? Delyth: Naddo, i’r tŷ bwyta Eidalaidd newydd. Roedd y pizza’n dda iawn, rhaid i mi ddeud. Dewi: Wel paid â mynd i fwyta yng nghaffi’r ysbyty. Ro’n i yno neithiwr, ar ôl dŵad â fy mrawd i mewn, ac roedd y brechdanau’n ddiflas iawn. Delyth: Fydd gen i ddim amser i fynd i’r caffi beth bynnag. Dw i’n mynd i brynu bananas i fy mam rŵan. Dydy hi ddim yn bwyta dim byd arall ar hyn o bryd. Dewi: Ydy hi’n bosib prynu bananas yn siop yr ysbyty? Delyth: Ydy, mae’r siop yn gwerthu tipyn bach o bopeth. Dewi: Da iawn. Rhaid i mi gael papur newydd i fy mrawd. Mi fydd o isio rhywbeth i’w wneud, dydy o ddim yn mwynhau’r teledu a dydy’r ffôn bach ddim yn gweithio yma. Delyth: Popeth yn iawn. Pob hwyl i dy frawd di. Dewi: Diolch. Gobeithio bydd dy fam yn well cyn hir.