2.
Deialog (Fersiwn y Gogledd) Dialogue (North Wales Version)
[20]
Darllenwch y ddeialog, ac yna llenwch y gridiau ar sail yr wybodaeth a roddir. Dewiswch naill ai fersiwn y De (tud. 6-7) neu fersiwn y Gogledd. Read the dialogue, then complete the grids based on the information given. Choose either the South Wales (pages 6-7) or North Wales version. *** Mae Delyth a Dewi’n siarad yn yr ysbyty. Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi:
Bore da Dewi. Sut mae dy frawd di? Mae o’n cysgu ar hyn o bryd. Mae o wedi torri ei goes, ond mi fydd o’n iawn, dw i’n siŵr. Be’ wnaeth ddigwydd? Oedd o’n chwarae rygbi eto? Oedd. Roedden nhw’n chwarae yn erbyn Aberwylan prynhawn ddoe. Roedd o’n edrych yn ofnadwy. Wyt ti yma i weld rhywun? Ydw, mae fy mam i yn ward Bryn Mawr. Mae gynni hi boen cefn. Dydy hi ddim yn medru cerdded o gwbl. Mae hynny’n ddiflas iddi hi – mae hi’n mwynhau mynd am dro bob dydd. Wyt ti’n edrych ar ôl y tŷ? Ydw, ar ôl y tŷ, y gath a fy nhad! Mi wnaethon ni fynd allan i gael bwyd neithiwr, ond rhaid i mi goginio rhywbeth adre heno. Wnaethoch chi fynd i’r Llew Coch? Naddo, i’r tŷ bwyta Eidalaidd newydd. Roedd y pizza’n dda iawn, rhaid i mi ddeud. Wel paid â mynd i fwyta yng nghaffi’r ysbyty. Ro’n i yno neithiwr, ar ôl dŵad â fy mrawd i mewn, ac roedd y brechdanau’n ddiflas iawn. Fydd gen i ddim amser i fynd i’r caffi beth bynnag. Dw i’n mynd i brynu bananas i fy mam rŵan. Dydy hi ddim yn bwyta dim byd arall ar hyn o bryd. Ydy hi’n bosib prynu bananas yn siop yr ysbyty? Ydy, mae’r siop yn gwerthu tipyn bach o bopeth. Da iawn. Rhaid i mi gael papur newydd i fy mrawd. Mi fydd o isio rhywbeth i’w wneud, dydy o ddim yn mwynhau’r teledu a dydy’r ffôn bach ddim yn gweithio yma. Popeth yn iawn. Pob hwyl i dy frawd di. Diolch. Gobeithio bydd dy fam yn well cyn hir.
8