Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
DARLLEN A LLENWI BYLCHAU Arholiad 3 Mehefin 2015 Rhif y Cwestiwn
Arholwr yn unig 1 2 3
Hyd y prawf: 60 munud Mae 3 rhan i’r prawf yma. Gallwch chi ennill hyd at 60 o farciau yn y prawf yma.
Cyfanswm:
Enw llawn yr ymgeisydd: Rhif arholiad yr ymgeisydd: Enw a rhif y ganolfan: Peidiwch ag agor y llyfr hwn cyn i’r trefnydd (organiser) roi caniatâd. Mae 3 chwestiwn yn y prawf hwn. Atebwch y tri ar y papur hwn. Mae rhai geiriau mewn teip italig i’ch helpu. Ni roddir tystysgrif i ymgeisydd a geir yn ymddwyn yn annheg yn ystod yr arholiad. No certificate will be awarded to a candidate detected in any unfair practice during the examination.
Rhan 1 – Erthygl
[20]
Darllenwch y darn isod. Yna, atebwch y cwestiynau yn Gymraeg, yn eich geiriau eich hun lle bydd hynny’n bosibl. Gwesty Gorau Cymru? Daeth cystadleuaeth ‘Gwesty Gorau Cymru’ i ben ddoe, mewn seremoni fawr yn Aberystwyth. Roedd dau westy wedi cyrraedd y rownd olaf, sef Gwesty’r Bryn yn Llandudno a Gwesty’r Wylan ger Porth-cawl. Roedd y panel beirniaid yn edrych ar sawl peth: yr ystafelloedd, y bwyd, y cyfleusterau, y gost ac yn fwy na dim, pa fath o groeso oedd i’w gael yno. Cystadleuaeth rhwng gogledd a de felly! Roedd y ddau yn y categori ‘gwesty bach’, gyda dim ond deuddeg ystafell yng Ngwesty’r Bryn, a dwy yn llai yng Ngwesty’r Wylan. Aeth y beirniaid i aros yn y ddau le yn ystod y flwyddyn, ond heb ddweud wrth neb eu bod nhw yno i roi marciau i’r gwesty, wrth gwrs. Aethon nhw i Westy’r Bryn yn gyntaf, ac roedden nhw’n dweud bod y safon yn uchel iawn. Pâr ifanc, Jac a Mair Evans, sy’n rhedeg y lle nawr, a choginio ydy diddordeb mwya Jac. Mae’r fwydlen yn llawn bwyd o Gymru. Gall y bobl sy’n aros yn y gwesty ddefnyddio’r cwrs golff am ddim, ac mae’r plant yn hoff iawn o’r llwybr sy’n mynd o’r gwesty i’r traeth. Cafodd y gwesty ei godi ddeg mlynedd yn ôl, felly mae popeth fel newydd o hyd yng Ngwesty’r Bryn, a’r croeso’n gynnes bob amser gan y perchnogion. Giovanni a Maria Parizzi sy’n rhedeg Gwesty’r Wylan ger Porth-cawl. Er gwaetha’r enwau Eidalaidd, nid bwyd Eidalaidd sy ganddyn nhw yn eu tŷ bwyta hyfryd, ond bwyd môr. Does dim pwll nofio ganddyn nhw (does dim pwll gan Westy’r Bryn ’chwaith), ond mae cwrt tennis drws nesa i Westy’r Wylan, at ddefnydd y cwsmeriaid. Os ydy chwarae tennis yn ormod o waith caled, mae’r ffair enwog yn ddigon agos ac yn siŵr o gadw’r ymwelwyr ifancaf yn hapus. Mae Gwesty’r Wylan yn ffermdy o Oes Fictoria, sy’n gant a hanner oed o leiaf, ac mae Giovanni a’i wraig yn barod i siarad am hanes y lle. Maen nhw hefyd yn barod iawn eu croeso. Er hynny, dim ond chwe deg punt y noson am ystafell ydy’r gost yng Ngwesty’r Wylan, sy ugain punt yn rhatach na Gwesty’r Bryn. Felly, pa westy aeth â’r wobr gynta? Wel, Gwesty’r Wylan aeth â’r wobr o fil o bunnoedd neithiwr, mewn cystadleuaeth agos iawn. Y de yn ennill yn erbyn y gogledd unwaith eto!
2
CWESTIYNAU Nodwch sut mae pethau’n wahanol yn y ddau westy gan gyfeirio at yr isod: Cofiwch sôn am sut mae pethau yng Ngwesty’r Bryn a sut mae pethau yng Ngwesty’r Wylan. e.e.
Nifer yr ystafelloedd Mae deuddeg ystafell yng Ngwesty’r Bryn a deg ystafell yng Ngwesty’r Wylan.
1.
Bwyd
[4]
________________________________________________________________ ________________________________________________________________ 2.
Cyfleusterau (facilities) chwaraeon
[4]
________________________________________________________________ ________________________________________________________________ 3.
Pethau sy’n apelio at blant
[4]
________________________________________________________________ ________________________________________________________________ 4.
Oed yr adeilad
[4]
________________________________________________________________ ________________________________________________________________ 5.
Y pris
[4]
________________________________________________________________ ________________________________________________________________
3
trosodd
Rhan 2 – Negeseuon E-bost
[20]
Oddi wrth: Delyth Mair At: Mr Evans Testun: Cwrs Sbaeneg ______________________________________________________ Annwyl Mr Evans, Roedd rhaid i fi ysgrifennu atoch chi am y cwrs Sbaeneg sy newydd orffen yn eich coleg chi. Dyma’r trydydd cwrs i mi ei ddilyn yn eich coleg chi a dyma’r gwaetha, o ddigon. Mi es i ar y cwrs achos bod fy merch i’n meddwl mynd i fyw yn Madrid, a phan welais i’r hysbyseb ar y wal yn y coleg, ro’n i wrth fy modd. Fel arfer, dw i’n mynd i’r bingo ar nos Iau, ond penderfynais i fod rhaid dysgu Sbaeneg eleni. Fodd bynnag, do’n i ddim mor hapus gyda’r tiwtor, Pedro Gonzalez. Roedd y bobl eraill yn y dosbarth yn hyfryd, ond roedd Pedro’n ofnadwy. Roedd o’n hwyr i bob gwers, doedd o byth yn marcio’r gwaith cartre ac roedd o’n siarad Sbaeneg drwy’r amser heb esbonio dim. Erbyn diwedd y tymor, dim ond tri ohonon ni oedd ar ôl allan o ddosbarth o bymtheg. Dw i’n gwybod eich bod chi’n dibynnu ar staff rhan amser i ddysgu, ond dw i ddim yn credu bod Señor Gonzalez yn addas i ddysgu dosbarthiadau oedolion. Dw i’n edrych ymlaen at glywed sut byddwch chi’n delio â’r mater, neu bydda i’n mynd yn ôl i’r bingo bob nos Iau. Diolch yn fawr, Delyth Mair Oddi wrth: Mr Evans At: Delyth Mair Testun: Cwrs Sbaeneg ______________________________________________________ Annwyl Delyth Mair, Diolch yn fawr am eich neges. Mae’n ddrwg gen i glywed eich bod chi ddim wedi mwynhau’r cwrs Sbaeneg. Roedd y coleg wedi cael cwynion am Mr Gonzalez o’r blaen, ac wedi trefnu bod staff profiadol yn mynd i’w weld yn dysgu, felly mae’n ddrwg gen i glywed bod y problem wedi para. Mae’n dda gen i ddweud bod Mr Gonzalez wedi mynd yn ôl i fyw yn Sbaen, erbyn hyn. Yn anffodus, fedrwn ni ddim cynnig eich ffi yn ôl i chi, ond mae’n bosib i chi fynd ar gwrs arall yn y coleg y flwyddyn nesa, a dim ond hanner can punt fydd y gost (yn lle’r can punt arferol). Dw i’n edrych ymlaen at eich gweld mewn dosbarth arall ym mis Medi. Yn gywir, Mr Evans
4
CWESTIYNAU Nodwch yr ateb mwya priodol (appropriate) o’r brawddegau isod drwy roi llythyren yn y blwch, e.e. ch
Mae 4 marc am bob cwestiwn.
1. a. b. c. ch. d.
Prif reswm Delyth Mair dros anfon y neges yw... diolch. cwyno. siarad am ei theulu. siarad am ei gwaith. gofyn am help.
2. a. b. c. ch. d.
Roedd Delyth Mair yn gwybod am y cwrs ar ôl... gweld poster yn y coleg. siarad â ffrind yn y bingo. cael neges e-bost. mynd ar wefan y coleg. siarad â’i merch.
3. a. b. c. ch. d.
Y brif broblem oedd... y noson. gwaith cartre anodd. y dysgwyr eraill yn y dosbarth. siarad yr iaith. y tiwtor.
4. a. b. c. ch. d.
Fydd hyn ddim yn broblem eto, achos... mae staff eraill yn mynd i wylio’r dosbarth. mae llai o bobl yn y dosbarth. mae llai o waith cartre. mae’r tiwtor wedi gadael. mae’r coleg yn cymryd cwynion o ddifri.
5. a. b. c. ch. d.
Bydd y coleg yn... talu ffi’r cwrs yn ôl i Delyth Mair. rhoi cwrs arall iddi am hanner pris. rhoi £25 iddi. stopio cynnig cyrsiau Sbaeneg o hyn ymlaen. diswyddo’r tiwtor.
trosodd 5
Rhan 3 – Llenwi Bylchau
[20]
Llenwch y bylchau yn y darn yma gan ddefnyddio’r geiriau mewn cromfachau (brackets) fel sbardun lle bydd yn briodol. ** Mae grŵp gwerin Grawnwin Surion wedi cael gwahoddiad i ganu _______________ cyngerdd mawr yn yr Unol Daleithiau ym mis Medi. Nhw ydy’r grŵp _______________ (1) erioed o Gymru i gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ŵyl werin fawr yn Efrog Newydd. _______________ (cael) y grŵp ei ddechrau gan bedwar ffrind, pan oedden nhw yn y coleg yng _______________ (Caerfyrddin). Roedd y pedwar wedi meddwl mynd i weithio fel _______________ (athro) ysgol gynradd ar ôl graddio, ond wnaeth hynny ddim digwydd. Sylweddolon nhw fod canu a chwarae mewn grŵp yn _______________ (da) na dysgu plant bach. Ers _______________ (3) blynedd nawr, maen nhw’n gweithio fel cerddorion proffesiynol ac yn chwarae mewn gigs dros Ewrop. Dwedodd y prif ganwr, Steffan Gwyn, eu bod nhw _______________ eu bodd gyda’r llwyddiant maen nhw wedi’i gael. ‘Roedd hi’n anodd i ddechrau,’ meddai, ‘ond ar ôl _______________ ni recordio’r CD cyntaf, _______________ (dechrau) pobl ofyn i ni ganu mewn gigs. Hefyd, roedd y DJ John Reed yn help mawr i ni _______________ y pryd. Roedd John yn chwarae ein caneuon ni ar ei _______________ (rhaglen) radio bob dydd bron!’ Bydd pethau’n newid ym mis Tachwedd, achos mae Gwennan, gwraig Steffan yn disgwyl babi.
6
‘Ar hyn o _______________,’ yn ôl Steffan, ‘dyw hi ddim yn broblem mynd i ffwrdd am wythnos neu ddwy. Ond pan _______________ y babi’n cyrraedd, fydda i ddim yn gallu mynd i ffwrdd am wythnosau. Dw i ddim eisiau gadael Gwennan ar ei phen ei _______________ gyda’r babi.’ Felly, ydyn nhw’n mynd i dderbyn y gwahoddiad i fynd i Efrog Newydd? ‘_______________ (), wrth gwrs,’ meddai Steffan. ‘Dw i wedi siarad _______________ Gwennan am y peth, ac mae hi wedi cytuno. Bydda i’n hedfan allan nos Fercher ac yn hedfan adre fore dydd Sul. Dw i ddim wedi bod yn America o’r _______________ , felly dw i’n edrych ymlaen yn fawr. Mae’r tri arall yn edrych ymlaen hefyd, a dw i’n meddwl eu _______________ nhw’n mynd i aros am rai diwrnodau wedi’r ŵyl, i fwynhau Efrog Newydd’. Beth bynnag ydy’r dyfodol i Grawnwin Surion, maen nhw’n dal i fwynhau canu a pherfformio fel grŵp. Pob lwc _______________ (i) nhw!
7