Tystysgrif Mynediad mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
DARLLEN A LLENWI BYLCHAU READING AND GAP-FILLING
Rhif y Cwestiwn
Arholwr yn unig 1
Arholiad 9 Mehefin 2016 (nos) 9 June 2016 Examination (evening)
2 3 Cyfanswm:
Hyd y prawf: 30 munud Duration of test: 30 minutes Mae’n bosibl ennill hyd at 60 marc yn y prawf hwn. Up to 60 marks may be awarded in this test. Enw a rhif y ganolfan: Name and number of centre: Enw’r ymgeisydd: Candidate’s name: Rhif arholiad yr ymgeisydd: Candidate’s examination number: Lle bydd angen geiriau, atebwch y cwestiynau yn Gymraeg. Where words are required, answer the questions in Welsh. Mae 3 chwestiwn yn y prawf hwn. Atebwch y tri ar y papur hwn. There are 3 questions in this test. Answer all three on this paper.
1.
Hysbysebion (Fersiwn y De) Advertisements (South Wales Version)
[20]
Darllenwch yr hysbysebion yma. Yna, atebwch y cwestiynau sy’n dilyn ar sail yr wybodaeth yn yr hysbysebion. Does dim rhaid defnyddio brawddegau. Read these advertisements. Then, answer the questions which follow on the basis of the information in the advertisements. You do not need to use sentences. Drama Bydd cwmni theatr Bara Menyn yn perfformio gwaith Gwyn Parri:
Noson Gomedi yn nhafarn y Llew Coch gyda Noel Jones a’i ffrindiau.
Y Tŷ Te yn Neuadd y Dre nos Sadwrn 27 Mehefin am 7pm.
Noson yn dechrau am 9pm tan yn hwyr.
Tocynnau: £6 wrth y drws
Nos Fawrth 12 Gorffennaf Ffoniwch Dan Jones i gael tocynnau cyn y noson am £7. Os dych chi’n prynu wrth y drws: £10.
Hanner pris i blant.
Clwb Cinio Cymraeg Nos Lun gyntaf pob mis yn Nhŷ Bwyta’r Hen Dderwen am 7pm. Croeso i ddysgwyr! Pryd o fwyd tri chwrs am £15. Anfonwch e-bost at Eleri Jones, eleri@clwbcinio.com i gael copi o’r fwydlen.
2
Dim mynediad i blant dan 18 oed.
1.
Cwestiynau (Fersiwn y De) Questions (South Wales Version)
1.
Pwy ysgrifennodd y ddrama?
2.
Faint o’r gloch mae’r ddrama’n dechrau?
3.
Faint yw cost tocyn i un plentyn?
4.
Pwy fydd yn helpu Noel yn y noson gomedi?
5.
Mae’r noson gomedi ym mis....
6.
Sut dych chi’n cael tocyn i’r noson gomedi am £7?
7.
Pwy sy ddim yn cael dod i’r noson gomedi?
8.
Ar ba noson mae’r clwb cinio’n cwrdd bob mis?
9.
Beth yw’r Hen Dderwen?
10.
Beth mae rhaid i chi’i wneud i weld y fwydlen cyn y noson? ***
3
[20]
1.
Hysbysebion (Fersiwn y Gogledd) Advertisements (North Wales Version)
[20]
Darllenwch yr hysbysebion yma. Yna, atebwch y cwestiynau sy’n dilyn ar sail yr wybodaeth yn yr hysbysebion. Does dim rhaid defnyddio brawddegau. Read these advertisements. Then, answer the questions which follow on the basis of the information in the advertisements. You do not need to use sentences.
Drama Mi fydd cwmni theatr Bara Menyn yn perfformio gwaith Gwyn Parri:
Noson Gomedi yn nhafarn y Llew Coch efo Noel Jones a’i ffrindiau.
Y Tŷ Te yn Neuadd y Dre nos Sadwrn 27 Mehefin am 7pm.
Noson yn dechrau am 9pm tan yn hwyr.
Tocynnau: £6 wrth y drws
Nos Fawrth 12 Gorffennaf Ffoniwch Dan Jones i gael tocynnau cyn y noson am £7. Os dach chi’n prynu wrth y drws: £10.
Hanner pris i blant.
Clwb Cinio Cymraeg Nos Lun gyntaf pob mis yn Nhŷ Bwyta’r Hen Dderwen am 7pm. Croeso i ddysgwyr! Pryd o fwyd tri chwrs am £15. Anfonwch e-bost at Eleri Jones, eleri@clwbcinio.com i gael copi o’r fwydlen.
4
Dim mynediad i blant dan 18 oed.
1.
Cwestiynau (Fersiwn y Gogledd) Questions (North Wales Version)
1.
Pwy wnaeth ysgrifennu’r ddrama?
2.
Faint o’r gloch mae’r ddrama’n dechrau?
3.
Be’ ydy cost tocyn i un plentyn?
4.
Pwy fydd yn helpu Noel yn y noson gomedi?
5.
Mae’r noson gomedi ym mis....
6.
Sut dach chi’n cael tocyn i’r noson gomedi am £7?
7.
Pwy sy ddim yn cael dŵad i’r noson gomedi?
8.
Ar ba noson mae’r clwb cinio’n cyfarfod bob mis?
9.
Be’ ydy’r Hen Dderwen?
10.
Be’ mae rhaid i chi’i wneud i weld y fwydlen cyn y noson?
5
[20]
2.
Deialog (Fersiwn y De) Dialogue (South Wales Version)
[20]
Darllenwch y ddeialog, ac yna llenwch y gridiau ar sail yr wybodaeth a roddir. Dewiswch naill ai fersiwn y De neu fersiwn y Gogledd (tud. 8-9). Read the dialogue, then complete the grids based on the information given. Choose either the South Wales or North Wales version (pages 8-9). *** Mae Delyth a Dewi’n siarad yn yr ysbyty. Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi:
Bore da Dewi. Sut mae dy frawd di? Mae e’n cysgu ar hyn o bryd. Mae e wedi torri ei goes, ond bydd e’n iawn, dw i’n siŵr. Beth ddigwyddodd? Oedd e’n chwarae rygbi eto? Oedd. Ro’n nhw’n chwarae yn erbyn Aberwylan prynhawn ddoe. Roedd e’n edrych yn ofnadwy. Wyt ti yma i weld rhywun? Ydw, mae fy mam i yn ward Bryn Mawr. Mae cefn tost gyda hi. Dyw hi ddim yn gallu cerdded o gwbl. Mae hynny’n ddiflas iddi hi – mae hi’n mwynhau mynd am dro bob dydd. Wyt ti’n edrych ar ôl y tŷ? Ydw, ar ôl y tŷ, y gath a fy nhad! Aethon ni ma’s i gael bwyd neithiwr, ond rhaid i fi goginio rhywbeth gartre heno. Aethoch chi i’r Llew Coch? Naddo, i’r tŷ bwyta Eidalaidd newydd. Roedd y pizza’n dda iawn, rhaid i fi ddweud. Wel paid mynd i fwyta yng nghaffi’r ysbyty. Ro’n i yno neithiwr, ar ôl dod â fy mrawd i mewn, ac roedd y brechdanau’n ddiflas iawn. Fydd dim amser gyda fi i fynd i’r caffi beth bynnag. Dw i’n mynd i brynu bananas i fy mam nawr. Dyw hi ddim yn bwyta dim byd arall ar hyn o bryd. Ydy hi’n bosib prynu bananas yn siop yr ysbyty? Ydy, mae’r siop yn gwerthu tipyn bach o bopeth. Da iawn. Rhaid i fi gael papur newydd i fy mrawd. Bydd e eisiau rhywbeth i’w wneud, dyw e ddim yn mwynhau’r teledu a dyw’r ffôn bach ddim yn gweithio yma. Popeth yn iawn. Pob hwyl i dy frawd di. Diolch. Gobeithio bydd dy fam yn well cyn hir.
6
Gridiau ar gyfer Fersiwn y De Grids for South Wales Version Does dim rhaid i chi ysgrifennu brawddegau, ond rhaid llenwi’r ddau grid ar y dudalen hon. You do not need to write sentences, but you must fill in both grids on this page.
Pwy?
Beth sy’n bod arnyn nhw?
Beth maen nhw’n hoffi ei wneud yn eu hamser sbâr?
1.
2.
3.
4.
mam Delyth
brawd Dewi
Pwy?
Ble bwyton nhw neithiwr?
Beth gaethon nhw i’w fwyta?
Beth maen nhw’n mynd i’w brynu y prynhawn ’ma?
5.
6.
7.
8.
9.
10.
Delyth
Dewi
7
2.
Deialog (Fersiwn y Gogledd) Dialogue (North Wales Version)
[20]
Darllenwch y ddeialog, ac yna llenwch y gridiau ar sail yr wybodaeth a roddir. Dewiswch naill ai fersiwn y De (tud. 6-7) neu fersiwn y Gogledd. Read the dialogue, then complete the grids based on the information given. Choose either the South Wales (pages 6-7) or North Wales version. *** Mae Delyth a Dewi’n siarad yn yr ysbyty. Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi: Delyth: Dewi:
Bore da Dewi. Sut mae dy frawd di? Mae o’n cysgu ar hyn o bryd. Mae o wedi torri ei goes, ond mi fydd o’n iawn, dw i’n siŵr. Be’ wnaeth ddigwydd? Oedd o’n chwarae rygbi eto? Oedd. Roedden nhw’n chwarae yn erbyn Aberwylan prynhawn ddoe. Roedd o’n edrych yn ofnadwy. Wyt ti yma i weld rhywun? Ydw, mae fy mam i yn ward Bryn Mawr. Mae gynni hi boen cefn. Dydy hi ddim yn medru cerdded o gwbl. Mae hynny’n ddiflas iddi hi – mae hi’n mwynhau mynd am dro bob dydd. Wyt ti’n edrych ar ôl y tŷ? Ydw, ar ôl y tŷ, y gath a fy nhad! Mi wnaethon ni fynd allan i gael bwyd neithiwr, ond rhaid i mi goginio rhywbeth adre heno. Wnaethoch chi fynd i’r Llew Coch? Naddo, i’r tŷ bwyta Eidalaidd newydd. Roedd y pizza’n dda iawn, rhaid i mi ddeud. Wel paid â mynd i fwyta yng nghaffi’r ysbyty. Ro’n i yno neithiwr, ar ôl dŵad â fy mrawd i mewn, ac roedd y brechdanau’n ddiflas iawn. Fydd gen i ddim amser i fynd i’r caffi beth bynnag. Dw i’n mynd i brynu bananas i fy mam rŵan. Dydy hi ddim yn bwyta dim byd arall ar hyn o bryd. Ydy hi’n bosib prynu bananas yn siop yr ysbyty? Ydy, mae’r siop yn gwerthu tipyn bach o bopeth. Da iawn. Rhaid i mi gael papur newydd i fy mrawd. Mi fydd o isio rhywbeth i’w wneud, dydy o ddim yn mwynhau’r teledu a dydy’r ffôn bach ddim yn gweithio yma. Popeth yn iawn. Pob hwyl i dy frawd di. Diolch. Gobeithio bydd dy fam yn well cyn hir.
8
Gridiau ar gyfer Fersiwn y Gogledd Grids for North Wales Version Does dim rhaid i chi ysgrifennu brawddegau, ond rhaid llenwi’r ddau grid ar y dudalen hon. You do not need to write sentences, but you must fill in both grids on this page.
Pwy?
Be’ sy’n bod arnyn nhw?
Be’ maen nhw’n hoffi ei wneud yn eu hamser sbâr?
1.
2.
3.
4.
mam Delyth
brawd Dewi
Pwy?
Lle wnaethon nhw fwyta neithiwr?
Be’ wnaethon nhw ei gael i’w fwyta?
Be’ maen nhw’n mynd i’w brynu y prynhawn ’ma?
5.
6.
7.
8.
9.
10.
Delyth
Dewi
trosodd / over 9
3.
Llenwi bylchau Gap-filling
[20]
Llenwch y bylchau yn y brawddegau yma, gan ddefnyddio’r sbardun mewn cromfachau neu’r llun, fel y bo’n briodol: Fill the gaps in these sentences, using the prompts in brackets or the pictures, as appropriate: 1.
Wyt ti’n nabod Mr Jones? _______________ ()
2.
Edrychwch _______________ y llun.
3.
Beth _______________ (gwneud) ti dros y penwythnos?
4.
Maen nhw’n byw ym _______________.
5.
_______________ mae hi’n mynd i’r gwaith? Am 7.30 fel arfer.
6.
Maen nhw’n aros _______________ gwesty mawr yn y wlad.
7.
Faint o _______________ sy gyda hi/gynni hi?
8.
Mae’r ddrama’n gorffen am hanner _______________ wedi deg (10.30).
9.
Dw i ddim yn hoffi _______________.
10.
Ga’i goffi, os _______________ chi’n dda?
10
PONTARDAWE