Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
DARLLEN A LLENWI BYLCHAU Papur Enghreifftiol Example Paper
Enw llawn: Full name: Rhif arholiad: Examination number: Canolfan: Centre: Hyd y prawf: 40 munud Mae hyd at 60 marc ar gael yn y prawf hwn. Duration of test: 40 minutes It’s possible to be awarded up to 60 marks for this test. Mae tair rhan i’r papur hwn. Atebwch bob rhan ar y papur ei hun yn Gymraeg, lle bydd angen geiriau. Dewiswch naill ai Fersiwn y De neu Fersiwn y Gogledd. There are three parts to this paper. Answer all three on the paper itself in Welsh, where words are required. Choose either the South Wales or the North Wales version. Peidiwch ag agor y llyfr hwn cyn i’r trefnydd roi caniatâd. Ni roddir tystysgrif i ymgeisydd a geir yn ymddwyn yn annheg yn ystod yr arholiad. Do not open this book until given permission by the organiser. No certificate will be awarded to a candidate detected in any unfair practice during the exam.
33
1.
Erthygl Article
Fersiwn y De South Wales Version Symud i Awstralia Mae Beca Jones a’i theulu wedi symud i Awstralia i fyw. Yr wythnos diwetha, dwedon nhw ffarwél wrth y teulu a’r cymdogion, cyn dal yr awyren i Melbourne. Pam felly mae mam ifanc wedi gadael fferm yng ngorllewin Cymru i weithio mewn ysbyty yn ne ddwyrain Awstralia? ‘Doedd ffermio ddim yn talu,’ meddai Beca, ‘roedd rhaid gwneud rhywbeth. Mae fy ngŵr i wedi bod yn Melbourne sawl gwaith yn y gorffennol, ond dw i erioed wedi teithio dramor. Mae fy mhlant wedi bod teithio’n bellach na fi hyd yn oed! Ro’n i wedi bod yn meddwl am y peth am flynyddoedd a dweud y gwir, ond ar ôl i ni golli llawer o anifeiliaid yn yr eira mawr y llynedd, penderfynon ni... iawn, dyma’r amser! Roedd y gaeaf diwetha yn anodd, a doedd dim llawer o arian gyda ni o gwbl.’ Sut gaethon nhw ddigon o arian i fynd i Awstralia, felly? ‘Mae’r ateb yn syml,’ meddai Beca, ‘gwerthu’r fferm. Doedd fy rhieni i ddim yn rhy hapus am hynny, a bod yn onest, achos mae’r fferm yn y teulu ers dros gan mlynedd. Doedd dim ots gyda nhw fod eu merch yn symud i wlad arall i fyw – ro’n nhw’n poeni mwy am golli’r fferm.’ Sut byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad â’r teulu yng Nghymru, felly? ‘Byddwn ni’n gallu siarad drwy Skype, wrth gwrs. Dw i’n poeni y bydd y plant yn colli eu Cymraeg. Dyna’r unig iaith maen nhw’n ei siarad yn y tŷ. Mae’n bwysig eu bod nhw’n dysgu siarad Saesneg, wrth gwrs, a chyn bo hir byddan nhw’n gwneud ffrindiau newydd ac yn siarad ag acen Awstralaidd.’ ‘Nid ni yw’r teulu cynta i symud i Awstralia, ac mae lle neis iawn gyda ni i fyw ynddo. Bydd hiraeth am Gymru fach yn llai poenus pan fydd yr haul yn dwym a’r tywydd yn braf, dw i’n siŵr!’
34
Cwestiynau Questions
[20]
Dewiswch yr ateb cywir, gan nodi llythyren y dewis cywir yn y blwch. Mae 4 marc am bob ateb cywir. Choose the correct answer, noting the letter of the correct option in the box. There are 4 marks for each correct answer. 1.
Bydd Beca’n gweithio... a. mewn banc. b. ar fferm. c. mewn ysgol. ch. mewn ysbyty.
2.
Mae Beca wedi bod yn Awstralia... a. unwaith. b. ddwywaith. c. sawl gwaith. ch. ddim o gwbl.
3.
Collon nhw anifeiliaid y llynedd... a. oherwydd yr eira. b. ar ôl eu gwerthu nhw. c. daeth TB ar y fferm. ch. doedd dim arian i’w bwydo nhw.
4.
Y broblem i fam a thad Beca yw... a. ei bod hi’n symud dramor. b. ei bod hi’n gwerthu fferm y teulu. c. bod y plant yn mynd i siarad Saesneg. ch. defnyddio Skype.
5.
Gartre, mae’r plant yn sgwrsio... a. yn Gymraeg. b. yn Gymraeg a Saesneg. c. yn Saesneg. ch. ag acen Awstralaidd.
35
1.
Erthygl Article
Fersiwn y Gogledd North Wales Version Symud i Awstralia Mae Beca Jones a’i theulu wedi symud i Awstralia i fyw. Yr wythnos diwetha, mi wnaethon nhw ddeud ffarwél wrth y teulu a’r cymdogion, cyn dal yr awyren i Melbourne. Pam felly mae mam ifanc wedi gadael fferm yng ngorllewin Cymru i weithio mewn ysbyty yn ne ddwyrain Awstralia? ‘Doedd ffermio ddim yn talu,’ meddai Beca, ‘roedd rhaid gwneud rhywbeth. Mae fy ngŵr i wedi bod yn Melbourne sawl gwaith yn y gorffennol, ond dw i erioed wedi teithio dramor. Mae fy mhlant wedi bod teithio’n bellach na fi hyd yn oed! Ro’n i wedi bod yn meddwl am y peth am flynyddoedd a deud y gwir, ond ar ôl i ni golli llawer o anifeiliaid yn yr eira mawr llynedd, mi wnaethon ni benderfynu... iawn, dyma’r amser! Roedd y gaeaf diwetha yn anodd, a doedd gynnon ni ddim llawer o bres o gwbl.’ Sut gaethon nhw ddigon o bres i fynd i Awstralia, felly? ‘Mae’r ateb yn syml,’ meddai Beca, ‘gwerthu’r fferm. Doedd fy rhieni i ddim yn rhy hapus am hynny, a bod yn onest, achos mae’r fferm yn y teulu ers dros gan mlynedd. Doedd gynnyn nhw ddim ots fod eu merch yn symud i wlad arall i fyw – roedden nhw’n poeni mwy am golli’r fferm.’ Sut byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad efo’r teulu yng Nghymru, felly? ‘Mi fyddwn ni’n medru siarad drwy Skype, wrth gwrs. Dw i’n poeni y bydd y plant yn colli eu Cymraeg. Dyna’r unig iaith maen nhw’n ei siarad yn y tŷ. Mae’n bwysig eu bod nhw’n dysgu siarad Saesneg, wrth gwrs, a chyn bo hir mi fyddan nhw’n gwneud ffrindiau newydd ac yn siarad efo acen Awstralaidd.’ ‘Nid ni ydy’r teulu cynta i symud i Awstralia, ac mae gynnon ni le neis iawn i fyw ynddo. Mi fydd hiraeth am Gymru fach yn llai poenus pan fydd yr haul yn gynnes a’r tywydd yn braf, dw i’n siŵr!’
36
Cwestiynau Questions
[20]
Dewiswch yr ateb cywir, gan nodi llythyren y dewis cywir yn y blwch. Mae 4 marc am bob ateb cywir. Choose the correct answer, noting the letter of the correct option in the box. There are 4 marks for each correct answer. 1.
Mi fydd Beca’n gweithio... a. mewn banc. b. ar fferm. c. mewn ysgol. ch. mewn ysbyty.
2.
Mae Beca wedi bod yn Awstralia... a. unwaith. b. ddwywaith. c. nifer o weithiau. ch. ddim o gwbl.
3.
Mi wnaethon nhw golli anifeiliaid llynedd... a. oherwydd yr eira. b. ar ôl eu gwerthu nhw. c. mi wnaeth TB ddŵad ar y fferm. ch. doedd gynnyn nhw ddim pres i’w bwydo nhw.
4.
Y broblem i fam a thad Beca ydy... a. ei bod hi’n symud dramor. b. ei bod hi’n gwerthu fferm y teulu. c. bod y plant yn mynd i siarad Saesneg. ch. defnyddio Skype.
5.
Adre, mae’r plant yn sgwrsio... a. yn Gymraeg. b. yn Gymraeg a Saesneg. c. yn Saesneg. ch. efo acen Awstralaidd.
37
Rhan 2 – Adnabod ergyd neges Part 2 – Identifying the gist of a message
[16]
Fersiwn y De South Wales Version Dewiswch y pennawd mwya tebygol fel pwnc i bob neges e-bost. Mae dau bennawd ychwanegol amherthnasol. Rhowch y ‘rhif neges’ (1, 2, ac ati) wrth y pedwar pennawd mwya addas yn y tabl yma: Choose the most likely heading as a subject for each e-mail message. There are two extra irrelevant headings. Put the ‘message number’ (1,2, etc) next to the four most appropriate headings in this table: Pwnc a.
Newid dyddiad
b.
Dathlu
c.
Swyddfa’n cau
ch.
Angen help
d.
Cwrs newydd
dd.
Casglu at achos da
Rhif neges
Oddi wrth: Cathryn At: Meic Pwnc:
Neges 1
Bore da. Rhaid i fi fynd ar y cwrs cyfrifiaduron wythnos nesa, o ddydd Llun i ddydd Mercher, yn anffodus. Wnei di ofalu am y staff newydd am dri diwrnod? Sori bod hyn wedi codi, ond does neb arall ar gael. Anfona neges os yw hynny’n iawn. Diolch yn fawr. Bydda i’n dathlu pan fydd y cwrs ’ma wedi gorffen! Cathryn
38
Oddi wrth: Elin At: y Staff Pwnc:
Neges 2
Helo, bawb. Byddwch chi’n cofio bod cyfarfod i siarad am ddyfodol y project i fod dydd Gwener nesa, ond mae parti dathlu pen-blwydd Gwyn ar y diwrnod hwnnw. Felly, mae’r pennaeth wedi penderfynu symud y cyfarfod i’r trydydd o Fai. Wnewch chi nodyn eich dyddiaduron, os gwelwch chi’n dda? Gan fod y swyddfa ar gau dydd Llun, mae hynny’n well i bawb, dw i’n meddwl. Elin Oddi wrth: Dafydd At: y Staff Pwnc:
Neges 3
Prynhawn da. Dw i’n ysgrifennu ar ran cymdeithas y staff. Yn ein cyfarfod ddoe, penderfynon ni godi arian i helpu’r bobl ddigartref yn y dre. Bydd Sam Jones yn dod o gwmpas ag amlen heddiw ac yfory, ac mae croeso i chi roi unrhyw beth. Fel dych chi’n gwybod, mae hyn yn broblem fawr yn Aberheli ar hyn o bryd. Diolch i Sam am ei help. Dafydd Oddi wrth: Alun At: y Staff Pwnc:
Neges 4
Bore da. Dych chi eisiau dysgu mwy am eich pensiwn, a sut i reoli eich arian? Mae Enid Jones o gwmni ThinkFinance yn dod i wneud pedair sesiwn yma yn ein swyddfa ni i’n helpu ni i ddysgu mwy. Dyma’r tro cynta i ni wneud rhywbeth fel hyn, felly os dych chi eisiau dod i’r hyfforddiant, anfonwch e-bost ata i. Bydd y sesiwn gynta ar fore dydd Gwener 3 Gorffennaf, rhwng 8 a 9 o’r gloch, yn yr ystafell gyfarfod. Diolch! Alun
39
Rhan 2 – Adnabod ergyd neges Part 2 – Identifying the gist of a message
[16]
Fersiwn y Gogledd North Wales Version Dewiswch y pennawd mwya tebygol fel pwnc i bob neges e-bost. Mae dau bennawd ychwanegol amherthnasol. Rhowch y ‘rhif neges’ (1, 2, ac ati) wrth y pedwar pennawd mwya addas yn y tabl yma: Choose the most likely heading as a subject for each e-mail message. There are two extra irrelevant headings. Put the ‘message number’ (1,2, etc) next to the four most appropriate headings in this table: Pwnc a.
Newid dyddiad
b.
Dathlu
c.
Swyddfa’n cau
ch.
Angen help
d.
Cwrs newydd
dd.
Casglu at achos da
Rhif neges
Oddi wrth: Cathryn At: Meic Pwnc:
Neges 1
Bore da. Rhaid i mi fynd ar y cwrs cyfrifiaduron wythnos nesa, o ddydd Llun i ddydd Mercher, yn anffodus. Wnei di ofalu am y staff newydd am dri diwrnod? Sori bod hyn wedi codi, ond does ’na neb arall ar gael. Anfona neges os ydy hynny’n iawn. Diolch yn fawr. Mi fydda i’n dathlu pan fydd y cwrs ’ma wedi gorffen! Cathryn
40
Oddi wrth: Elin At: y Staff Pwnc:
Neges 2
Helo, bawb. Mi fyddwch chi’n cofio bod cyfarfod i siarad am ddyfodol y project i fod dydd Gwener nesa, ond mae parti dathlu pen-blwydd Gwyn ar y diwrnod hwnnw. Felly, mae’r pennaeth wedi penderfynu symud y cyfarfod i’r trydydd o Fai. Wnewch chi nodyn eich dyddiaduron, os gwelwch chi’n dda? Gan fod y swyddfa ar gau dydd Llun, mae hynny’n well i bawb, dw i’n meddwl. Elin Oddi wrth: Dafydd At: y Staff Pwnc:
Neges 3
Prynhawn da. Dw i’n ysgrifennu ar ran cymdeithas y staff. Yn ein cyfarfod ddoe, mi wnaethon ni benderfynu codi pres i helpu’r bobl ddigartref yn y dre. Mi fydd Sam Jones yn dod o gwmpas efo amlen heddiw ac yfory, ac mae croeso i chi roi unrhyw beth. Fel dach chi’n gwybod, mae hyn yn broblem fawr yn Aberheli ar hyn o bryd. Diolch i Sam am ei help. Dafydd Oddi wrth: Alun At: y Staff Pwnc:
Neges 4
Bore da. Dach chi isio dysgu mwy am eich pensiwn, a sut i reoli eich pres? Mae Enid Jones o gwmni ThinkFinance yn dod i wneud pedair sesiwn yma yn ein swyddfa ni i’n helpu ni i ddysgu mwy. Dyma’r tro cynta i ni wneud rhywbeth fel hyn, felly os dach chi isio dŵad i’r hyfforddiant, anfonwch e-bost ata i. Mi fydd y sesiwn gynta ar fore dydd Gwener 3 Gorffennaf, rhwng 8 a 9 o’r gloch, yn yr ystafell gyfarfod. Diolch! Alun
41
Rhan 3 – Llenwi Bylchau Part 3 – Gap-filling
[24]
Llenwch y bylchau yn y brawddegau yma: Fill in the gaps in these sentences:
1.
Mae heddiw yn _______________ (oer) na ddoe.
2.
Mae hi’n gweithio yno ers pum _______________ (blwyddyn).
3.
_______________ (gwneud) nhw ddim byd neithiwr.
4.
Twm yw/ydy enw fy _______________ i (brawd).
5.
_______________ nhw yn yr ysgol yfory?
6.
Edrychwch _______________ (ar) nhw!
7.
Yng Nghaerdydd mae’r Senedd? _______________ ().
8.
_______________ hi ddim yn braf ddoe.
9.
_______________ (troi) i’r dde ar ôl yr ysbyty, os gwelwch chi’n dda!
10.
John yw/ydy’r person _______________ (hen) yn y dosbarth.
11.
Aethoch chi i weld y cyngerdd ddoe? _______________ ()
12.
Dw i’n hoffi pêl-droed... dw i wrth fy _______________ yn mynd i weld y tîm yn chwarae.
42