Cylchlythyr AGW #01

Page 1

CYLCHLYTHYR AGW

Rhifyn 1

Cylchlythyr

AGW

Chwefror 2016 WWW.ARLOESIGWYNEDDWLEDIG.COM

Arloesi Gwynedd Wledig – beth sydd wedi bod yn digwydd? gan Zoe

Pritchard, Rheolwr AGW

Mae nifer o brosiectau ar waith gan AGW ar hyn o bryd, gan gynnwys cynllun Rhodd Ymwelwyr yn Eryri, datrysiad Wi-Fi arloesol yn Aberdaron, gofod cyd-weithio ym Mhorthmadog a rhwydwaith pwyntiau gwefru ceir ym Meirionnydd. Er nad yw'r cysylltiad rhyngddynt yn amlwg, maent i gyd yn ceisio peilota atebion newydd i heriau a wynebir gan yr economi yng Ngwynedd.

RHIFYN #1

Cyllid Tyrfa: Opsiwn ymarferol a realistig ar gyfer codi arian i fentrau yng Ngwynedd? Mae Cyllid Tyrfa yn ddull poblogaidd iawn o godi arian ar gyfer ystod o weithgareddau, o gyhoeddi llyfr, i dalu am briodas neu sefydlu tafarn y pentref. Mae nifer o sefydliadau yng Ngwynedd naill ai wedi rhoi cynnig ar Gyllid Tyrfa gyda lefelau amrywiol o lwyddiant neu wedi ei ystyried fel opsiwn. Gyda grantiau yn dod yn fwy prin a thoriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, datblygodd AGW y prosiect hwn gyda'r nod o gefnogi a dysgu o ymgyrchoedd Cyllid Tyrfa.

Ers lansio AGW y llynedd, mae’r ffocws wedi bod ar ymgysylltu, esbonio a gwrando. Mae pwyslais hefyd wedi bod ar ddatblygu prosiectau sy'n dangos yn glir sut mae'r dechneg yn wahanol i raglenni prif ffrwd arferol. Mae'r diweddariad hwn yn rhoi trosolwg o'r prosiectau a’r syniadau yr ydym yn gysylltiedig â nhw ar hyn o bryd, a dylent ddarparu llwyfan ar gyfer gweithredu prosiectau LEADER dros y 6 mlynedd nesaf. Aelodau tîm hydro cymunedol Padarn Peris .


CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 1

2

Bydd y prosiect yn cefnogi tair ymgyrch Cyllid Tyrfa wahanol, gyda'r nod o ddysgu o'r broses a rhannu arfer da. Er mwyn sicrhau bod AGW yn manteisio cymaint â phosibl o'r prosiect, rydym yn gobeithio cydweithio ar ymgyrchoedd amrywiol gan ddefnyddio gwahanol lwyfannau digidol. Rydym eisoes wedi dechrau cydweithio ar ymgyrch Cyllid Tyrfa i godi arian ar gyfer dau gynllun ynni hydro cymunedol. Mae Ynni Ogwen ac Ynni Padarn Peris wedi penderfynu codi arian ar gyfer eu prosiectau trwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Yn ogystal â chefnogi ymgyrch farchnata a chynhyrchu ffilm hyrwyddo, bydd AGW hefyd yn gwerthuso llwyddiant y dull gweithredu hwn ac yn creu ffilm o'r broses. Bydd hyn yn llywio prosiectau yn y dyfodol ac yn cael ei rannu gydag eraill yng Ngwynedd sydd â diddordeb mewn rhedeg eu hymgyrchoedd Cyllid Tyrfa eu hunain. Mi fydd y ddwy ymgyrch yn defnyddio Microgenius fel eu platfform Cyllid Torfol, sydd wedi’i ddarparu gan yr Uned Cyfranddaliadau Cymunedol o fewn Co-operatives UK a Chymunedau Cyfranddaliadau yr Alban. Gwefan newydd yw Microgenius lle mae modd prynu cyfranddaliadau o fewn prosiectau cymunedol yn hawdd a diogel. Galluogir cefnogwyr i dderbyn rhagor o wybodaeth am y cynnig cyfranddaliadau, a phrynu cyfranddaliadau drwy broses syml heb orfod llenwi ffurflenni cais.

Rhodd Ymwelwyr: A fyddai ymwelwyr yn rhoi cyfraniad bach i amddiffyn yr ardal y maent yn ymweld â hi? Mae Rhodd Ymwelwyr yn gynllun lle mae cyfle i ymwelwyr rhoi swm gwirfoddol o arian tuag at brosiectau lleol. Fel arfer, mae'r rhodd yn cael ei wneud drwy ychwanegu ychydig o bunnoedd i fil y bwyty, llety neu weithgaredd.

Rhodd Ymwelwyr: cynllun sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ardal y Llynnoedd.

Mae nifer o gynlluniau llwyddiannus eisoes yn weithredol yn y DU ac, yn 2013, comisiynodd Cyngor Gwynedd astudiaeth i sefydlu Rhodd Ymwelwyr yn Eryri. Daeth yr astudiaeth i gasgliad bod potensial sylweddol yn yr ardal ac mai "prosiect peilot" bychan fyddai'r cam nesaf gorau.

Cliciwch yma i weld fideo Microgenius Mae angen ymrwymiad busnesau twristiaeth er mwyn sefydlu cynllun Rhodd Ymwelwyr, gan mai nhw sy’n gyfrifol am gasglu'r arian gan yr ymwelwyr. Er mwyn gallu mesur y diddordeb lleol, gwahoddodd AGW Karen Mitchell o Nurture Lakeland (https://nurturelakeland.org/) i roi cyflwyniad ar lwyddiant y cynllun Rhodd Ymwelwyr yn ardal y Llynnoedd. Mi fynychodd dros 50 o bobl y digwyddiad yng Ngwesty'r Fictoria yn Llanberis lle'r oedd cyfle iddynt ddysgu mwy am y cynllun a chael cyfle i ofyn cwestiynau. Roedd yr adborth ar y noson wedi cadarnhau bod yna gefnogaeth leol ar gyfer prosiect Rhodd Ymwelwyr yn Eryri. Rydym nawr yn gweithio gyda'r busnesau, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a Phartneriaeth y Wyddfa i strwythuro'r cynllun peilot. Bydd y pwyslais ar weithio gyda gwahanol fathau o fusnesau a threialu amrywiaeth o ddulliau casglu arian er mwyn dysgu o’r broses. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun peilot yn darparu sylfaen cadarn ar gyfer datblygu cynllun parhaol. Dyma fideo o’r eitem newyddion yn sôn am gynllun Rhodd Ymwelwyr Gwynedd:


CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 1

3

oedd yr awydd i gefnogi pobl ifanc i fyw ac i fod yn llwyddiannus yn lleol. I wneud hynny, bydd Be Nesa Llŷn yn buddsoddi yn eu busnes.

BE NESA LLŶN AR GYFRYNGAU CYMDEITHASOL:

Be Nesa Llŷn – Sut allwn ni gadw buddsoddiad yn lleol?

Mae AGW wedi gweithio gydag aelodau Be Nesa Llŷn i ddatblygu strwythur i weinyddu a dosbarthu'r cymorth ariannol. Hyd yma mae hyfforddwraig ffitrwydd, crefftwraig a ffarmwr wyau lliw wedi derbyn benthyciadau. Mae Be Nesa Llŷn yn gweithio’n dda ac mae llawer o wersi i’w defnyddio o’r model hwn y gellid eu hatgynhyrchu mewn ardaloedd eraill o Wynedd.

(https://benesallyn.wordpress.com/)

Pentrefi - A oes atebion ymarferol a fforddiadwy i fannau digyswllt digidol yng Ngwynedd?

Mae diffyg cysylltiad rhwng yr economi leol a phenderfyniadau buddsoddi. Mae arian yn aml yn gadael yr ardal ar ffurf buddsoddiadau pensiwn, stociau a chyfranddaliadau neu gynilon. Fodd bynnag, mae grŵp o bobl fusnes ym Mhen Llŷn wedi penderfynu gwyrdroi’r duedd hon ac yn buddsoddi yn eu hardal leol a phobl ifanc yn arbennig.

Mae Strategaeth Datblygu Lleol Gwynedd wedi nodi bod ardaloedd digyswllt digidol yn broblem yn y Sir. Mewn nifer o drefi a phentrefi mae’r signal ffôn yn wan iawn a does dim mynediad i naill ai 3G na 4G. Gall hyn fod yn broblem i drigolion lleol yn ogystal â thwristiaid sy'n aml yn dibynnu ar fynediad at y rhyngrwyd i drefnu eu gwyliau.

Rhai o Aelodau Be Nesa Llŷn: (o’r chwith i’r dde) Richard Parry, Hugh Evans, Carys Owen a Michael Strain.

Ymysg aelodau Be Nesa Llŷn mae ffermwyr, perchnogion gwestai, siopau, cyfreithwyr a pheirianwyr. Mae ganddynt gyfoeth o sgiliau, profiadau a chysylltiadau y gall pobl ifanc fanteisio arnynt wrth gymryd eu camau cyntaf i fyd busnes. Un peth cyffredin a ddenodd y grŵp at ei gilydd

Penderfynodd AGW i dreialu dull newydd yn Aberdaron mewn partneriaeth â busnesau lleol. Dewiswyd Aberdaron gan ei fod yn boblogaidd gyda thwristiaid; ond lle nad oes signal ffôn (heblaw ar y bont) a does dim 3G na 4G.


CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 1

4

Ar ôl cael cyngor arbenigol, penderfynwyd sefydlu parth Wi-Fi ar draws y pentref a fyddai'n caniatáu i’r cyhoedd gael mynediad i'r rhyngrwyd am ddim.

dethol yr ymgeiswyr gorau. Yn lle hynny, mi fydd pwyslais ar greu ffilmiau byrion a chaniatáu i'r cyhoedd bleidleisio drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol.

Mi fydd y peilot yn golygu lleoli caledwedd mewn saith busnes a fydd yn galluogi creu rhwydwaith Wi-Fi ar draws y pentref. Mi fydd defnyddwyr yn gallu cael mynediad i'r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim a gwneud galwadau ffôn dros y rhyngrwyd os dymunir. Gan fod hwn yn brosiect LEADER, y prif nod yw dysgu o'r peilot ac felly byddwn yn gofyn am adborth rheolaidd gan y busnesau lleol, yn ogystal â gofyn i bob defnyddiwr Pentre-Fi gwblhau arolwg digidol byr. Ar ôl 12 mis, bydd AGW yn rhannu'r arfer da gyda threfi a phentrefi eraill yng Ngwynedd.

Y bwriad yw annog trafodaeth am beth sy'n gwneud busnes Cymraeg a gobeithir tynnu sylw busnesau at ddulliau o fanteisio ar iaith a diwylliant gwerthfawr y sir.

Busnes mwyaf Cymraeg yn y byd: A yw defnyddio'r Gymraeg yn darparu budd pendant i fusnes? Mae Strategaeth Datblygu Lleol Gwynedd yn nodi bod yr iaith Gymraeg yn ased gwerthfawr ond bod yna her wrth geisio adnabod ei gwerth economaidd. Mae hwn yn brosiect ‘sbarduno’ sy'n ceisio adnabod busnesau sy'n gwneud defnydd o'r Gymraeg i’w defnyddio fel enghreifftiau o ymarfer da. Mae prosiect ‘sbarduno’ yn wahanol i beilot arferol gan ei fod yn ceisio annog ymgysylltu a deialog, a gall arwain at weithgaredd dilynol.

‘Prosiect 15’: Archwilio syniadau gydag arbenigwyr mwyaf blaenllaw o Gymru Ni chysylltir y Gymraeg yn aml â sefydliadau mwyaf blaenllaw'r byd, brandiau byd-eang na galwedigaethau blaenllaw. Fodd bynnag, mae siaradwyr Cymraeg amlwg yn bodoli yn y rhain i gyd. Nod ‘Prosiect 15’ yw rhoi llwyfan iddynt i siarad am eu profiadau, eu syniadau a’u hysbrydoliaeth yn arddull Darlithoedd TED. A hynny drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Bydd AGW yn cefnogi un digwyddiad ym mis Mehefin yn y ganolfan Pontio newydd er mwyn peilota cysyniad ‘Prosiect 15’. Mae archwiliad o syniadau ac arloesedd yn bwysig i LEADER, a byddai modd ei ailadrodd gydag ystod o siaradwyr ledled Cymru os yn llwyddiannus.

Yn ogystal â dangos cyswllt rhwng yr iaith a llwyddiant, mae hefyd yn ddull effeithiol o archwilio'r diaspora Cymraeg. Gall cysylltiadau a ddatblygir drwy 'Prosiect 15' fod yn ddefnyddiol wrth ddatblygu prosiectau eraill. A rhag ofn eich bod yn pendroni pam ‘Prosiect 15’, wel, 15 munud y bydd pob siaradwr yn ei gael ar y llwyfan! Mae’r prosiect ‘Busnes mwyaf Cymraeg yn y Byd' yn chwilio am fusnesau sy'n gwneud defnydd o'r iaith Gymraeg mewn tri chategori, sef 'Y Stryd fwyaf Cymraeg , 'Y Siop fwyaf Cymraeg ' a 'Y Tafarn mwyaf Cymraeg'. Ni fydd y prosiect yn ceisio efelychu gwobrau busnes traddodiadol ac ni fyddem yn gosod meini prawf ar gyfer


CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 1

5

Pwyntiau Ceir Trydan - A oes mantais i fusnesau Gwynedd gynnig pwyntiau ceir trydan? Mae'r farchnad ceir trydan yn tyfu'n gyflym. Ym Mawrth 2015 roedd 6,000 o gwsmeriaid yn y DU wedi prynu car trydan, o’i gymharu â thua 1,200 ym Mawrth 2014 cynnydd o 400%. Mae pwyntiau gwefru yn dod yn fwyfwy cyffredin mewn lleoliadau megis eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chadwyni gwestai mawr, ac mae perchnogion ceir trydan yn aml yn cynllunio eu taith gan ddefnyddio gwefannau megis zap-map.com. Fodd bynnag, mae busnesau llai yn arafach i fuddsoddi mewn pwyntiau gwefru ac o bosib ar eu colled oherwydd hynny. Mae Strategaeth Datblygu Lleol Gwynedd wedi adnabod potensial cerbydau trydan yn y sir. Er mwyn archwilio’r cyfleoedd mi fydd AGW yn gosod pwyntiau gwefru mewn 5 busnes ym Meirionnydd. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth leol, casglu data gwerthfawr gan y busnesau a pherchnogion y ceir trydan, a rhannu arfer da ar draws Gwynedd a thu hwnt.

Fideo - cyflwyniad i Geir Trydan:

Mae busnesau sy’n awyddus i gymryd rhan yn cael eu gwahodd i ymgeisio drwy alwad agored. Er mwyn dysgu cymaint ag y gallwn o'r prosiect mae AGW yn awyddus i recriwtio gwahanol fathau o fusnesau, gan gynnwys darparwyr llety, caffis, bwytai ac atyniadau.

Cyd Ynni: cydweithio rhwng y mentrau ynni cymunedol.

Cliciwch yma i weld fideo Anafon Cyd Ynni – Pa gyfleoedd ar y cyd sy’n bodoli ar gyfer cwmnïau ynni cymunedol? Nododd Strategaeth Datblygu Lleol Gwynedd fod potensial i gynlluniau ynni cymunedol yn y sir. Mae modd iddynt gynhyrchu swm sylweddol o ynni carbon isel, cadw arian yn yr economi leol a chreu cyfleoedd cyflogaeth dda. Mae yna nifer o fentrau cymunedol yng Ngwynedd sydd naill ai wedi datblygu neu yn y broses o ddatblygu cynlluniau ynni dŵr. Mae Ynni Anafon yn Abergwyngregyn eisoes yn cynhyrchu ynni tra bod Ynni Ogwen (Bethesda) ac Ynni Padarn Peris (Llanberis) yn gobeithio dechrau adeiladu yn nes ymlaen eleni. Mae gan bob un ohonynt amcanion tebyg ac maent yn wynebu heriau cyffredin. Felly, mae modd iddynt elwa wrth gydweithio, er nad oedd hyn wedi digwydd rhyw lawer tan yn ddiweddar.


CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 1

Yn dilyn trafodaethau gydag amryw o asiantaethau, cytunodd AGW i gomisiynu cynllun busnes a fyddai'n nodi ac archwilio cyfleoedd i gydweithio rhwng y mentrau ynni cymunedol. Gallai hyn o bosibl gynnwys rhannu staff, cydbrynu er mwyn negodi prisiau gwell, a sefydlu cynllun ynni lleol. Yr enw a roddir i'r prosiect yw Cyd Ynni, sydd bellach wedi ei fabwysiadu gan y grŵp ynni cymunedol.

6

eu capasiti cynhyrchu lleol a rheoli'r galw lleol i leihau biliau ac allyriadau carbon. Mi fydd Mary Guille yn gweithio yn y gymuned ym Methesda (1 o 6 o gymunedau sy’n rhan o Cyd Ynni) i osod a pheilota rhwydwaith o fesuryddion smart. I sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth orau, bydd y prosiect ar waith am gyfnod o flwyddyn gyda 200 o gyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol (teuluoedd sy’n gweithio, wedi ymddeol, incwm isel). A dyma rai syniadau eraill sydd ar y gweill...... Mae'r prosiectau uchod i gyd wedi cael eu cymeradwyo gan y Grŵp Arloesi Gwynedd Wledig, neu’n cael eu gweithredu yn fuan. Ni ddylai'r rhain gael eu hystyried fel prosiectau sy’n sefyll ar eu pen eu hunain gan fod nifer ohonynt yn ysgogi prosiectau eraill.

Mae Energy Local (www.energylocal.co.uk/) yn ffordd newydd o alluogi cymunedau lleol i gyd-weithio i adeiladu

Rhai syniadau eraill sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yw academi ddigidol mewn partneriaeth â chwmnïau technoleg ddigidol Gwynedd; asiantaeth berfformio i ddarparu cyfleoedd ar gyfer israddedigion cerddoriaeth a drama; a phrosiect wedi'i anelu at ysbrydoli pobl ifanc yn y maes llechi. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y rhain, neu unrhyw un o'r prosiectau AGW, mae croeso i chi gysylltu â ni.

AM RAGOR O WYBODAETH:

ARLOESI GWYNEDD WLEDIG:

Eisiau gwybod mwy am raglen Arloesi Gwynedd Wledig? Cliciwch ar y dogfennau canlynol: www.arloesigwyneddwledig.com

https://www.facebook.com/ArloesiGwyneddWledig/

https://twitter.com/arloesigwynedd

www.youtube.com/channel/UCvaOsrGsUqfx9JQ45oVBzGg

  

Beth yw LEADER Gwynedd Amcanion Penodol AGW Meini prawf AGW

Oes gennych chi syniad ar gyfer peilot AGW? Llenwch y Ffurflen Ymholiad yma. Cliciwch y dolenni isod am ragor o wybodaeth:  

Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.