Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed
Place names of Breconshire and Radnorshire
Cynnwys/Contents
04 05 06 08 10 14 16 18 22
Cyflwyniad i Frycheiniog a Maesyfed An introduction to Brecknock and Radnorshire Termau cyffredin mewn enwau lleoedd Common terms in place names Prif drefi De Powys Main towns of South Powys Y Llannau The Llans Mynyddoedd Mountains Afonydd Rivers Llynnoedd ac Argaeau Lakes and Reservoirs Termau cyffredin mewn enwau tai a ffermydd Common terms in house and farm names Diolchiadau a llyfryddiaeth Thanks and references
Cyflwyniad i Frycheiniog a Maesyfed An introduction to Brecknock and Radnorshire
Brycheiniog Sefydlwyd Brycheiniog yn y 5ed ganrif gan fudwyr o Iwerddon. Enwyd y deyrnas ar ôl un o’r arweinwyr cynnar, sef Brychan. Roedd Brychan yn fab i Anlach, mudwr o Iwerddon oedd wedi priodi Marchel, aeres Garth Madrun, teyrnas gyda’i chanolbwynt yn Nhalgarth.
Brycheiniog was founded in the 5th century by settlers from Ireland. The realm was names after Brychan, an early leader. Brychan was the son of Anlach, an Irish settler who had married Marchel, the heiress of Garth Madrun, a kingdom believed to have been centred in Talgarth.
Maesyfed Sefydlwyd Maesyfed yn dilyn y Deddfau Uno yn yr unfed ganrif ar bymtheg o hen ardaloedd Elenydd, Gwrtheyrnion, Maelienydd ac Elfael. Ystyr ‘maes’ ydy ‘cae’ neu dir agored, ac fe ddaw ‘yfed’ o enw person, ‘Hyfaidd’, hynny yw, Maes Hyfaidd.
Maesyfed was formed as a shire following the Acts of Union in the 16th century, made up of the old commotes of Elenydd, Gwrtheyrnion, Maelienydd and Elfael. The name is derived from ‘maes’ meaning field or open land, and ‘yfed’, which is derived from the name ‘Hyfaidd’ – Hyfaidd’s field.
Menter Brycheiniog a Maesyfed Mae Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed yn hybu defnydd yr iaith Gymraeg yn y gymuned. Rydym ni’n gwneud hyn drwy greu a chryfhau rhwydweithiau, grwpiau a digwyddiadau Cymraeg er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd.
4
Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed is an organisation that promotes the use of Welsh in the community. We do this by creating and supporting Welsh language networks, groups and events to enable people to use the language in their daily lives
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Termau cyffredin mewn enwau llefydd Common terms in place names
Aber
Mouth of a river
Aberhonddu, Abergwesyn
Bach (fach/fechan) Small
Pontneddfechan, Llandefaelog Fach
Bryn
Hill
Llanfihangel Bryn Pabuan, Brynmelyn
Bwlch
Gap or pass
Bwlch, Bwlch-y-sarnau
Cae
Field
Caehopcyn, Pen-y-Cae
Castell
Castle
Castell Paen, Trecastell
Cefn
Ridge
Cefn-gorwydd, Cefn Cantref
Celli (gelli)
Grove
Y Gelli Gandryll, Pencelli
Craig
Rock (crag)
Craig y nos, Pencraig
Crug
Mound
Crughywel, Crucadarn
Cwm
Valley
Cwmdu, Glascwm,
Dôl
Meadow
Dolau, Doldowlod
Dŵr
Water
Cwmdeuddwr, Gwenddwr
-fa
place of -
Bleddfa, Brechfa
Fan
Summit/peak
Pen-y-fan, Fan Fawr
Ffordd
Way/road
Fforddlas, Penge(f )nffordd
Garth
Enclosed hill
Garth, Garthbrengy
Gwern
Marsh (or alder trees) Gwernyfed, Llanwern
Llan
Church
Llanandras, Llandefalle
Llwyn
Bush
Lloyney, Llwyn-madoc
Llys
Court
Bronllys, Llyswen
Maen
Stone
Llechfaen, Bryn y Maen
Maes
Open field
Llan-faes, Maesmynis
Mawr
Big
Alltmawr, Fforest Fawr
Melin
Mill
Felinfach, Felindre
Mynydd
Mountain
Llanbadarn Fynydd, Mynydd Troed
Nant
stream
Llanfihangel Nant Hodni, Nantddu
Pen
Head
Penybont, Pennorth
Pont
Bridge
Pontsenni, Talybont-ar-Wysg
Pwll
Pool
Pwllgloyw, Pwll-y-wrach
Rhos
Moorland
Rhosgoch, Penrhos
Tal
Brow/end
Llanfihangel Talyllyn, Talgarth
Tre(f)
Town
Gwystre, Tretŵr
Tŷ
House
Beguildy, Mynachty
Y / Yr
The/The (before a vowel)
Y Groes, Tref-y-clawdd
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
5
Trefi Brycheiniog a Maesyfed Towns of Brecon and Radnorshire Aberhonddu
Brecon
Crughywel
Crickhowell
Y Gelli Gandryll
Hay on Wye
Llanandras (Presteigne)
Presteigne
Eglwys Andras. Mae’r enw Saesneg hefyd yn awgrymu’r eglwys, yn meddwl ‘gwaun yr offeiriaid’!
The church of Andrew. The English name also hints at the church, meaning ‘meadow of priests’!
Llandrindod
Llandrindod Wells
Mae’r afon Honddu yn cwrdd â’r Wysg ar gyrion y dref. Mae’r enw Saesneg, Brecon, wedi’i seisnigeiddio o ‘Brycheiniog’, enw teyrnas Brychan.
Daw enw’r dref o fryngaer Oes Haearn cyfagos, Crug Hywel.
Nodwyd y drefedigaeth yma yn wreiddiol fel Haya, o bosib y gair Hen Saesneg am dir wedi’u hamgau yn y goedwig. Cofnodir enw Cymraeg yn 1215, sef Gelli. Yn hwyrach, ychwanegwyd ‘Gandryll’, o bosib yn meddwl rhandiroedd ar gyfer amaeth.
Eglwys y Drindod. Enw gwreiddiol yr eglwys a’r plwyf oedd Llanddwy, neu eglwys Duw. Newidiwyd hyn nes ymlaen i’r Drindod.
6
Mouth of the river Honddu. The English name, Brecon, is probably anglicised from ‘Brycheiniog’, the name of the kingdom of Brychan.
The town takes its name from the nearby Iron Age hill fort, Crug Hywel, meaning Hywel’s mound or hill.
The settlement here was originally recorded as Haya, possibly the Old English term for an enclosure, possibly in a wooded area. In 1215, a Welsh name for the town is recorded – Gelli, meaning grove. Later, Gandryll was recorded after Y Gelli, which could mean ‘shattered’ or ‘fragmented’ – possibly land divided into plots.
Church of the Trinity. The original name of the church above the town and the parish was Llanddwy (church of God), but this changed to Trinity later.
Llanfair ym Muallt
Eglwys Mair yn y Buellt – yr elfen ‘bu’ fel yn ‘buwch’ a ‘buarth’, a ‘gellt’ neu ‘gwellt’, sydd wedi troi’n ‘buallt’, o bosib oherwydd dylanwad y gair ‘allt’.
Builth Wells
Church of Mary in the Cow Pasture. Buallt (from which we derive Builth) comes from ‘bu-‘ (buwch, cow) and ‘gellt’ (grass).
Rhaeadr Gwy
Rhaeadr Gwy
Y rhaeadr ar yr afon Gwy. Roedd ar un adeg rhaeadr drawiadol yma, ond fe dorrwyd sianel dŵr newydd wrth adeiladu pont yn 1780.
The waterfall on the river Wye. There was once an impressive waterfall here, but a water channel was dug when a new bridge was built in 1780.
Tref-y-clawdd
Knighton
Y tref ger Glawdd Offa. Weithiau mae’n cael ei alw’n Trefyclo, gyda phwyslais Cymraeg ar y sillaf olaf ond un.
Town by the dyke – Clawdd Offa. Sometimes pronounced ‘Trefyclo’
Ystradgynlais
Ystradgynlais
Ystrad yr afon Cynlais. Daw Cynlais o ‘cŷn’ a ‘glais’ ond o bosib yn yr achos yma enwir yr afon ar ôl person.
Vale of the river Cynlais. Cynlais is thought to come from cŷn (chisel) and glais (stream), but in this case it could be a personal name.
7
Y Llannau / The Llans Fforest Clud/Radnor Forest
Y Llannau
The Llans
Fforest Clud
Radnor Forest
Yn aml iawn, gwelir enwau llefydd yng Nghymru sy’n dechrau gyda ‘Llan’ – mae’n debyg bod gan Frycheiniog a Maesyfed mwy na digon! Credir bod dau ystyr posib i ‘llan’ – yr un mwyaf cyffredin, sef eglwys neu blwyf, neu ystyr posib arall, sef sefydliad cynnar iawn. Fel arfer, mae enw sant yn dilyn ‘llan’, fel y gwelir yn Llanandras neu Llangynidr. Weithiau, gair i ddisgrifio’r ardal sy’n dilyn, er enghraifft Llanfaes, Llangors. Hefyd, gwelir yn aml gyfuniad o’r ddwy elfen, er enghraifft, Llanbadarn Fynydd a Llanfihangel Tal-y-llyn.
Yn ôl traddodiad lleol, roedd draig olaf Cymru yn byw yn Fforest Clud, oedd yn peri llawer o ofid i drigolion yr ardal. Felly, penderfynwyd adeiladu cylch o bedair eglwys o amgylch y ddraig i’w charcharu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny (sef eglwysi Llanfihangel Cefn-llys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan a Llanfihangel Casgob) i’r archangel Sant Mihangel, sy’n gorchfygu’r ddraig yn y Beibl. Dywedir y byddai’r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o’r pedair eglwys.
8
There are many place names in Wales which start with the element ‘Llan’ – Brecon & Radnorshire seem to have more than their fair share! It is thought that there are two possible meanings to ‘llan’ – the most common being church or parish, the other possible meaning being an early enclosed settlement. Usually, this is followed by a saint’s name, as seem in Llanandras or Llangynidr. Sometimes, it could be a description of the location, for example, Llanfaes, Llangors. Also, you will often see a combination of these element, such as in Llanbadarn Fynydd and Llanfihangel Tal-y-llyn.
According to local tradition, the last dragon in Wales lived in Fforest Clud (Radnor Forest), where unsurprisingly, it caused quite a few problems for the residents. They decided to build a circle of four churches (Llanfihangel Cefn-llys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan and Llanfihangel Casgob) to surround and trap the dragon. These four churches were dedicated to the archangel Michael, who overcame the dragon in the Bible. It is said that the dragon will wake if any of these churches is destroyed.
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Brycheiniog
Maesyfed
Llanafan-fawr
Llanandras
Llanafan Fechan
Llananno
Llanbedr Ystrad Yw
Llanbadarn Fynydd
Llanddew
Llanbadarn-y-Garreg
Llanddewi Nant Hodni/Llantony
Llanbedr Castell-Paen
Llanddewi’r Cwm
Llanbister
Llandetty
Llandegle / Llandegley
Llandeilo’r Fân
Llandeilo Graban
Llandyfaelog Fach
Llanddewi yn Hwytyn / Whitton
Llandefalle
Llanddewi Ystradenni
Llaneglwys
Llandrindod (Wells)
Llanelieu
Llanelwedd
Llanfaes
Llanfaredd
Llanfair-ym-Muallt/Builth Wells
Llanfihangel Dyffryn Arwy
Llanfechain
Llanfihangel Helygen
Llanfeugan
Llanfihangel Nant Melan
Llanfihangel Brynpabuan
Llanfihangel Rhydieithon
Llanfihangel Nant Brân
Llangunllo
Llanfihangel Tal-y-llyn
Llansanffraid Cwmteuddwr
Llanfilo
Llansantffraed-yn-Elfael
Llanfrynach
Llansteffan / Llanstephan
Llangamarch (Wells)
Llanllŷr-yn-rhos / Llanyre
Llangasty
Llanwrthwl
Llangatwg / Llangattock Llangeneu / Llangenny Llangors Llangynidr Llanhamlach Llaneigon / Llanigon Llanllywenfel/Garth Llansanffraid Llansbyddyd / Llanspyddid Llanwrtyd Llanynis Llanwysg Llanywern / Llanwern Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
9
Mynyddoedd Mountains
Y Bannau Pen-y-fan Corn Du Fan Brycheiniog Cribyn Waun Rydd Fan Hir Fan Fawr Fan Gyhirych Fan y Big Fan Nedd Fan Llia Fan Frynych Craig Cerrig-gleisiad Cefn yr Ystrad
886m (2907ft) - head/top of the peaks 873 m (2,864ft) – black horn 802m (2632ft) – Brycheiniog (Brecknock) Peak 795m (2609ft) – little ridge/comb 769m (2524ft) – free/open heath 760m (2494ft) – the long peak 734m (2409ft) – big peak 725m (2379ft) - peak near the Gyhirych stream 719m (2360ft) – beak-shaped peak 663m (2176ft) - peak near the Nedd stream 632m (2074ft) – peak near the Llia stream 629m (2064ft) – Brynych peak 629m (2064ft) – rock of salmon-coloured stone 617m (2025ft) – Ridge of the flat valley
Y Mynyddoedd Duon Waun Fach Pen y Gadair Fawr Pen Allt-mawr Twyn Llech Pen Cerrig-calch Twmpa Mynydd Llysiau
811m (2662ft) – small heath 800m (2626ft) – head/top of the big chair 719m (2359ft) – Top/head of the big wooded hill 703m (2307ft) - Known as Black Mountain – stone ridge 701m (2300ft) - Top/head of the chalk stone 680m (2232ft) - Known as Lord Hereford’s Knob – tump/hump 663m (2176ft) – mountain of fruit
Mynyddoedd y Cambria/Cambrian Mountains Drygarn Fawr Pen y Gorllwyn
10
641m (2104ft) – Big three cairns 613m (2012ft) – top of the large grove
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Fforest Clud/Radnor Forest Rhos Fawr Y Domen Ddu Bryn Bach
660m (2166ft) – Known as Great Rhos - The large moor 650m (2133ft) – the Black Mixen 610m (2002ft) – Known as Bache Hill - the small hill
Tommy Jones Ar ochr Corn Du mae yna gofgolofn i Tommy Jones, mab pump oed i löwr yn y Rhondda aeth ar goll ar y Bannau yn y flwyddyn 1900. Roedd y bachgen wedi dilyn ei gefnder yn ôl at fferm Cwm Llwch lle’r oedd ei famgu a’i dadcu yn byw, ond wedi colli ei ffordd yn y tywyllwch. Daethpwyd o hyd i’w gorff ar ôl i wraig o Aberhonddu ei weld mewn breuddwyd.
On the edge of Corn Du is a memorial stone to Tommy Jones, a five year old miner’s son from the Rhondda. On a visit to his grandparents’ farm in the Beacons in the year 1900, Tommy became separated from his cousin in the dark. His body was only found a month later, after a lady from the Brecon area saw its location in a dream.
11
Mynyddoedd Mountains
Epynt (ep-, hynt)
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd roedd angen tir ar gyfer hyfforddi ac ymarfer magnelaeth. Dewiswyd Mynydd Epynt ac ardal lai o faint i’r gorllewin, sef Mynydd Bwlch y Groes. Cymerwyd tua 12,000 hectar yn 1940, a elwir o hynny allan ‘Sennybridge Training Area’. Bu rhaid gadael 54 o gartrefi, ysgol gynradd, capel a thafarn y Drovers a gorfodwyd 219 o bobl i symud o’r gymuned Gymraeg ei hiaith. Effaith gwasgaru cymdogaeth Epynt oedd cyflymu dirywiad yr iaith ym Mrycheiniog.
Brynglas
Roedd brwydr Bryn Glas ar Fehefin 22ain, 1402, rhwng Tref-y-Clawdd a Llanandras. Daeth dynion Owain Glyndŵr i wynebu byddin Mortimer a nifer o ddynion lleol yr oedd wedi recriwtio i ymladd. Wrth i’r ddwy ochr gwrdd, trodd y rhan o fyddin Mortimer a gyfansoddwyd o denantiaid Maelienydd i ochr Glyndŵr i’w helpu i orchfygu byddin y Sais. Ystyrir y frwydr fel buddugoliaeth fwyaf Glyndŵr, ac o’r herwydd fe barhaodd yr wrthryfel Cymreig am ddegawd arall. Roedd rhan helaeth o eglwys Pilalai fel y gwelir heddiw yn sefyll adeg y frwydr, ond gafodd ei losgi gan ddynion Glyndŵr.
12
(Mountain crossed by a horse-path)
At the beginning of World War II the War Office needed land for training and artillery practice. Mynydd Epynt and a smaller mountain to the west of it, Mynydd Bwlch-y-groes, were selected. Around 12,000 hectares were requisitioned in 1940 and the area became known as the Sennybridge Training Area. 54 homes, a primary school, a chapel, and the Drovers Arms inn had to be vacated and 219 people were obliged to leave. It was an area where the primary language of the residents was Welsh and the scattering of this community led to the rapid decline of the language in Breconshire.
(Green hill)
The battle of Bryn Glas was fought on June 22nd, 1402, between Knighton and Presteigne. Owain Glyndŵr’s men faced the forces of Mortimer and a number of local men he had recruited. Glyndŵr’s men had a prime position at the top of the hill, but were outnumbered. As the two sides met, the proportion of Mortimer’s army made up of the tenants of Maelienydd switched sides and helped Glyndŵr defeat the English forces. The battle is remembered as one of Glyndŵr’s greatest victories and helped prolong the Welsh rebellion for another decade. Much of Pilleth church as it is seen today was standing at the time of the battle, but was burned by Glyndŵr’s forces.
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
13
Afonydd Rivers Mae nifer o enwau’n afonydd yn dod o eiriau Celtaidd ac maent yn aml yn disgrifio natur yr afon. Dyma rhai enghreifftiau o Frycheiniog a Maesyfed.
Many river names derive from Celtic words, and often provide a description of the nature of the river. Here are some examples of this from Breconshire and Radnorshire.
Wysg
Usk
Gwy
Wye
O’r hen Gymraeg, ‘uisc’, sef llawn pysgod.
Afon droellog, yn gysylltiedig â’r gair ‘gŵyr’.
Honddu
From the Old Welsh, ‘uisc’, meaning full of fish.
A winding river. Relating to the Welsh ‘gŵyr’ meaning ‘bent’.
Honddu
Afon dymunol, o’r gair ‘hawdd’.
From the Welsh ‘hawdd’ – pleasant river.
Nant Brân
Nant Brân
Crai
Crai
Grwyne (Fawr/Fechan)
Grwyne (Fawr/Fechan)
Afon sy’n tarddu mewn man gwlyb, gwern.
A river with it’s source in a wet or habitually flooded area. From the Welsh ‘gwerni’, meaning swamps.
Elan
Elan
Nant dywyll fel y frân.
Afon arw, crai.
Afon sydd yn symud fel yr elain.
Crawnon
Nant neu gwm y craf.
14
A stream which is dark like a crow (brân).
A rough, tumbling stream. Crai is Welsh for fresh or raw.
‘Elain’ is Welsh for a hind or a fawn. This seems to describe the rushing, bounding course of the river.
Crawnon
Comes from the Welsh ‘Nant Crafnant’, valley/stream of wild garlic.
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Taf/Tawe/Tefeidiad(Teme) Mae’r enwau yma i gyd yn rhannu gwreiddyn cyffredin yn meddwl ‘llifo’n dywyll’.
Dulais
Du (black) + Glais (stream)
Taf/Tawe/Tefeidiad(Teme) All of these are likely to come from the same Celtic root meaning ‘dark flowing’.
Dulais
Du (black) + Glais (stream)
Cilieni
Cilieni
Llyfni
Llyfni
Ithon
Ithon
Nant yn tarddu mewn man cul. Afon sy’n llifo’n llyfn. Afon swnllyd neu barablus – o’r gair ‘iaith’.
Stream rising in a narrow valley. From the Welsh, ‘llyfn’, meaning a smooth stream Afon swnllyd neu barablus – o’r gair ‘iaith’.
Llugwy
Llugwy
Mellte
Mellte
Afon clir a disglair, o’r gair Celtaidd, ‘lug’, sef golau. Afon sy’n codi a gostwng fel y mellt. Gam) er mwyn i eneidiau’r ddau llifo ynghyd byth a beunydd.
A bright or clear stream, from the Celtic ‘lug’ meaning light.
Mellt is Welsh for ‘lightning’ - after its tendency to rise and fall rapidly after heavy rainfall.
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
15
Llynnoedd ac Argaeau Lakes and Reservoirs
Llyn Safaddan (Llangors) Yn ôl Gerallt Gymro, hanesydd o’r Oesoedd Canol, byddai adar Llyn Syfaddan yn canu ar gyfer gwir dywysog yr ardal yn unig. Ar yr adeg, rheolwyd yr ardal gan arglwyddi’r mers oedd yn deyrngar i Frenin Lloegr. Yn ôl yr hanes, roedd Brenin Hari I yn cerdded glannau’r llyn gyda dau arglwydd Normanaidd a thywysog Cymraeg, Gruffydd ap Rhys. Sylweddolodd y Brenin bod yr adar yn dawel, a fe’u gorchmynodd i ganu. Gwrthododd yr adar ganu ar alw’r Brenin ac arglwyddi Normanaidd hefyd ond, ar alw’r Tywysog Gruffydd ap Rhys, dechreuodd holl adar y llyn ganu.
16
Giraldus Cambrensis, a medieval historian, recorded a local legend that birds living around the lake would only sing for the rightful prince of the area. At this time the area was ruled over by marcher lords faithful to the king of England. One day the King Henry 1st was walking along the lake’s shoreline in the presence of two Norman lords and the Welsh prince Gruffydd ap Rhys, but he noticed that all the birds were silent. He then commanded them to sing – they ignored him, and the Norman lords, but when Prince Gruffydd ap Rhys asked them the birds began to sing in a noisy chorus!
Cwm Elan Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y Birmingham Corporation angen dŵr yfed glân i ganolbarth Lloegr. Dechreuwyd yr Elan Valley Water Scheme i’r gorllewin o Raeadr Gwy, gan adeiladu yn y man cyntaf tri argae: Caban Coch, Pen-yGarreg a Chraig-Goch. Ar y pryd roedd cant o bobl yn byw yng Nghwm Elan i’w symud allan, ond dim ond y tirfeddiannwyr cafodd eu digolledi.
Towards the end of the nineteenth century, the Birmingham Corporation needed drinking water for the Midlands. Elan Valley Water Scheme was started to the west of Rhayader, initially building three dams: Caban Coch, Pen-y-Garreg and Craig-Goch. There were a hundred occupants of the Elan Valley who needed to be moved, but only landowners received compensation.
Effeithiwyd deunaw o ffermdai a bythynnod, ysgol, eglwys a dau plasdy. Mae bellach chwech argae yn dal uchafswm o 345.5 miliwn litr o ddŵr, yn gwasanaethu ardal Birmingham hyd heddiw.
The scheme affected eighteen cottages and farmhouses, a school, a church and two manor houses. There are now six dams with a total capacity of 345.5 million litres, which continue to supply the Birmingham area.
17
Termau cyffredin mewn enwau tai a ffermydd Common terms in farm and house names
18
Element
Translation
Examples
allt
wooded slope/hillside
Alltmawr, Alltcerrig, Gwarallt
beili
yard/enclosure
Beiliddol, Beiligwern, Beiliau
blaen
front/bank
Blaenaumawr, Blaenderyn, Blaenbwch
bron
bank
Bronyrefail, Bronnydd, Brongarth
byr/fyr/fer
short
Dolfyr, Cwmbyr, Cwmhydfer
carreg/cerrig
stone (s)
Alltcerrig, Carregffynnon, Carregywen
canol/ganol
middle
Ty Canol, Llwyncanol, Cefn Fedw Ganol
cae
field
Caemeriel, Pencaefadog, Penmincae
carn/garn
cairn
Garnycastell, Carnwain, Garnfawr
cefn
ridge
Cefenceido, Cefnserwydd, Cefnbrith
celyn
holly
Llwyncelyn, Plas Celyn, Pant-y-Gelynen
cil
narrow place
Ciloerwynt, Cilmaeowydd, Cilfodig
coch/goch
red
Penrhiwgoch, Felincoch, Gochgarreg
coed
wood
Tyncoed, Yscoedreddfyn, Coed Swydd
cwm
valley
Cwmcrogi, Cwmhindda, Cwmgwrgi, Cwmsafien
dan
under
Danywenallt, Danygraig, Dan-y-comin
derw/derwen/deri oak(s)
Cwmderw, Dderw, Doldderwen
dol
meadow
Doliago, Dolhelfa, Dolmenyn, Dol-y-Bongham
du/ddu/duon
black
Frondorddu, Wernddu, Drain Duon
dŵr
water
Porthmorddwr, Clwydwaundwr, Glandŵr
erw
acre
Erwddalen, Erw’r Henallt, Erwgilfach
esgair
ridge
Esgairanell, Esgairwy, Esgair Rhew
ffos
ditch/dyke
Ffosyrhwyaid, Ffosyrhyddod, Ffos-y-bar
ffynnon
well/spring
Ffynnon Gwydde, Ffynonorgan, Plas-y-Ffynnon
glan
bank
Aberglanhirin, Glandulas, Glanhaffes
glas/las/gleision
green
Gellilas, Caeglas, Pantglas
gwern/wern
marsh
Wernheulog, Bwlchwern, Wernddwfwg, Gwernaffel
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
gwyn/wyn/wen/ gwynion
white
Brynbedwen, Aberhenwen, TÅ· Gwyn
hafod
farm (summer dwelling)
Hafodyrancr, Hafod-y-Pant, Hafod y Garreg
hen
old
Hengwm, Neuaddhen, Henfryn
hir
long
Hirdir, Wernhir, Hirnant
isaf
lower
Cwrt-isaf, Garth isaf, Pwll isaf
llannerch
clearing
Llanerchpesgi, Llanerchcoedlan, Llannerch y Cawr
llwyd
grey
Neuaddllwyd, Vronganllwyd, Gwernllwyd
llwyn
bush
Llwyncwtta, Llwynpiod, Llwynmerched, Llwynberried
llyn
lake
Lundy, Llanbwchllyn, Treflyn
maes
field
Maescarnog, Maestrayloe, Pantymaes
melyn/felen
yellow
Caenantmelyn, Darrenfelen, Pencaemelyn
melin/felin
mill
Nantyfelin, Dolyfelin, Felincoed
nant
stream
Camnant, Nantserth, Nantymynach, Nantydefaid, Trinant, Trosnant
neuadd
hall
Neuadd Blaenduhonw, Neuadd Fadog, Twynneuadd
newydd
new
Tainewydd, Cwmnewydd, Felinewydd
onnen
ash tree
Tyronen, Onnen Fawr, Caeronnen
pant
hollow
Pant-drain, Pant-y-blodau, Pantioityn, Pant-y-corred, Tynpant, Pantycaragle
pen
end/top of
Penllech, Penyrheol, Penawyr
perth/berth
hedge
Berthably, Pethyduon, Dolberthog
pwll
pool
Pwllyrhwyaid, Pwllacca, Pwllgwilym
rhiw
hill/slope
Rhiwiau, Pen Rhiw Garn,
rhyd
ford
Rhydgwilym, Rhydywernen, Rhydyberry
tre
town/settlement
Tregaer, Hafdre, Tre Philip
troed
foot of hill
Troedyfelen, Troedydrain, Troed-yr-Harn
twyn
hillock
Twynyfelin, Twynneuadd, Twynrodyn
ty
house
Tysegr, Bwlchytywynt, Tylleici
tyle
slope
Tylellwyd, Tyleglas, Tylebrythos
ysgubor
barn
Ysgubornewydd, Ysgubor Fawr, Hen-ysgubor
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
19
Termau cyffredin mewn enwau tai a ffermydd Common terms in farm and house names
Cefn-brith
Ganwyd a magwyd John Penry (156393) ar fferm Cefn Brith, Llangamarch. Ymgyrchodd Penry dros well gwasanaeth eglwysig i Gymru, ac yn yr iaith Gymraeg. Oherwydd pamffledi y gyhoeddodd yn herio’r Eglwys, fe’i cyhuddwyd o frad a bu’n rhaid iddo ffoi i’r Alban. Dychwelodd i Loegr lle parhaodd i bregethu neges Biwritanaidd, felly gafodd ei arestio ym Mawrth 1593 a’i ddienyddio ar Fai 29ain. Ystyrir John Penry fel y pregethwr Piwritanaidd cyntaf yng Nghymru.
Llwynllwyd
Llwyn-llwyd, Llanigon oedd canolbwynt y diwygiad eglwysig yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd yn gartref i David Price, ac fe sefydlodd hwnnw ysgol yn ysgubor ger y fferm. Roedd dylanwad diwinyddol yr ysgol yn amlwg yn y disgyblion, yn cynnwys un o arweinyddion y Diwygiad Methodistaidd, Howell Harris, ac un o emynwyr mwyaf Cymru, William Williams, Pantycelyn. Cyfunwyd yr ysgol yn ddiweddarach gydag academi ddiwinyddol dan ofal Vavasor Griffiths o Faesgwyn, Sir Faesyfed. 20
John Penry (1563-93) was born and brought up on Cefn Brith farm, Llangamarch. He called for better Church representation in Wales, and in the Welsh language. After publishing pamphlets challenging the Church of England, he was accused of treason and had to flee to Scotland. He returned to England where he continued to preach a Puritan message. As a result he was arrested in March 1593 and executed on May 29th. John Penry is considered as the first Puritan preacher in Wales. Llwyn-llwyd, Llanigon was a centre of the Dissenting Church in the seventeenth century. It was farmed by David Price, who ran a school in a stone barn not far from the farm. The school had a big influence on the theology of its pupils, who included one of the leaders of the Methodist Revival, Howell Harris, and one of Wales’ most famous hymn-writers, William Williams, Pantycelyn. The school was later amalgamated with a theological academy run by Vavasor Griffiths of Maesgwyn, Radnorshire.
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
21
Diolchiadau Thanks
Gyda diolch i bawb wnaeth awgrymu enwau ffermydd a rhannu gwybodaeth a hanesion.
With thanks to all who offered farm names and shared information and stories.
Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Powys am ei chefnogaeth wrth ddatblygu, dylunio a gwirio’r llyfryn yma.
We would also like to thank Powys County Council for their support in developing, designing and proofing this booklet.
Llyfryddiaeth
Bibliography
Defnyddiwyd y canlynol fel ffynonellau gwybodaeth wrth ymchwilio’r llyfryn hwn.
The following were used as sources of reference when researching for this booklet.
• • • • • • •
Dictionary of the Place-names of Wales; Hywel Wyn Owen & Richard Morgan; Gomer, 2007. Rhestr o Enwau Lleoedd; gol. Elwyn Davies; Gwasg Prifysgol Cymru; 1958 Welsh Place-names of Breconshire and their meanings; Dewi Davies; 1971 Y Bywgraffiadur Cymreig; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; http://yba.llgc.org.uk Tudalen Ymddiriedolaeth Archeoleg Clwyd Powys Archeological Trust Page; http://www.cpat.org.uk/ Tudalen Hafan Treftadaeth Powys Heritage Online page; http://history.powys.org.uk/ Tudalen Cymdeithas Owain Glyn Dŵr Society page; http://www.owain-glyndwr.cymru
Lluniau / Photographs : © Craig Easton 2018 Menter Brycheiniog a Maesyfed 07776296267 menterbrycheinog@gmail.com 22
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
Diolch!
Thank you!
Enwau Lleoedd Brycheinog a Maesyfed - Place names of Breconshire and Radnorshire
23
Menter Brycheiniog a Maesyfed www.mbam.eu www.facebook.com/MBrycheiniog 07776296267 Dewch o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol Find us on social media