Blas o'n gwaith A taste of what we do
Y Gymraeg yn y Gymuned Welsh in the Community
Ein gwaith | Our Work Mae'r Mentrau Iaith yn gweithio i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru mewn sawl ffordd. Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys esiamplau o'r gwahanol feysydd o'n gwaith gan gynnwys: gwirfoddoli, technoleg, digwyddiadau, cydweithio, a datblygu cymunedol. The Mentrau Iaith work to increase the use of Welsh in communities across Wales through a variety of means. This booklet contains examples of the different areas of our work including: volunteering, technology, events, collaboration and community development.
Lluniau / Photos: Menter Dinefwr Menter Iaith Merthyr Tudful Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd)
GWIRFODDOLI | VOLUNTEERING Fel mudiadau cymunedol, mae'r Mentrau Iaith yn cael eu harwain gan aelodau gwirfoddol o'r gymuned sy'n rhoi o'u hamser yn hael er mwyn y Gymraeg a'u cymunedau. Heb ein gwirfoddolwyr - y rhai sy'n helpu'n achlysurol, yn arwain clybiau neu'n gyfarwyddwyr - ni fyddai modd i'r Mentrau Iaith fodoli. As community organisations, the Mentrau Iaith are led by voluntary members of the community who give their time generously for the Welsh language and their communities. Without our volunteers - those who help out occasionally, those who lead clubs, our directors - the Mentrau Iaith wouldn't exist.
LLOYD EVANS
CADEIRYDD, MENTER BRO OGWR Dechreuodd Lloyd ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd a dewisodd astudio Cymraeg ymhellach yn y brifysgol. Daeth yn rhan o'r Fenter Iaith ar ôl symud yn ôl i'w gynefin a chwilio am gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg. Dechreuodd wirfoddoli mewn clybiau ar ôl ysgol cyn dod yn gyfarwyddwr, ac yna'n gadeirydd. Mae'n falch iawn o allu bod yn rhan o arlwy cymdeithasol y Gymraeg yn y sir. Lloyd started learning Welsh as a second language in secondary school and chose to study Welsh further at university. He became part of the Menter Iaith after returning to his roots, seeking opportunities to socialise in Welsh. He started volunteering in after-school clubs before becoming a director, then chairman. He is very proud to be a part of offering social opportunities to use Welsh in the county.
CATHERINE GENT
ARWEINYDD SBLASH A CHÂN, MENTER CAERFFILI Daeth Catherine fel rhiant at sesiynau Sblash a Chân y fenter ym mhwll nofio Caerffili. Ar ôl mynychu dwy waith gyda’i phlant cynigiodd ei hun fel arweinydd gwirfoddol i’r sesiynau. Yn bersonoliaeth fywiog a chyfeillgar sydd yn denu pobl i’r sesiynau, mae ganddi ffordd naturiol o gyfathrebu gyda rhieni a babis er mwyn rhannu gwerth dwyieithrwydd i blant. Catherine attended Splash a Chân sessions at Caerphilly swimming pool firstly as a parent. After attending twice with her children she offered herself as a volunteer leader for the sessions. A lively and friendly personality who attracts people to the sessions, she has a natural way of communicating with parents and babies in order to share the value of bilingualism.
CYFARWYDDWYR | DIRECTORS MENTER IAITH CONWY
Gall cyfraniad gwirfoddolwyr fod yn werthfawr tu hwnt, gyda bwrdd cyfarwyddwyr Menter Iaith Conwy yn cyfrannu at ddatblygu cynllun prynu ac adnewyddu'r Hen Fanc HSBC Llanrwst i fod yn gartref newydd i'r fenter yng nghanol y gymuned. O waith ceisiadau a thendrau i beintio waliau a gosod lloriau - gall gwirfoddoli ar fwrdd cyfarwyddwyr wneud gwir wahaniaeth. The contribution of volunteers can go a long way, with Menter Iaith Conwy's board of directors contributing to the development of HSBC's Old Llanrwst Bank purchase and refurbishment scheme to house the enterprise at the heart of the community. From bidding and tenders to painting walls and laying floors volunteering on the board of directors can make a real difference.
Lluniau / Photos: Menter Iaith Sir Benfro Menter Iaith Casnewydd Menter Cwm Gwendraeth Elli
Mae holl luniau'r llyfryn hwn yn dangos gwaith diweddar y 22 Menter Iaith ar draws Cymru. All images in this booklet depict recent work of the 22 Menter Iaith across Wales.
TECHNOLEG | TECHNOLOGY Mae’r Mentrau Iaith yn helpu i arwain y ffordd ym maes prosiectau technoleg ieithyddol. Er mwyn i’r Gymraeg barhau a ffynnu mae’n rhaid cyflwyno'r Gymraeg i fyd technoleg, a defnyddio'r dechnoleg honno. Dyma rhai o'n prosiectau yn y maes: The Mentrau Iaith are helping to lead the way in Welsh language technology. For the Welsh language to thrive we need to introduce more Welsh into the tech world, and use this technology. Here are some of our projects:
CLYBIAU GEMAU FIDEO MENTER CAERFFILI
Nod y gwaith yw cynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg trwy weithgareddau sy’n defnyddio technoleg gyda chlybiau wythnosol a misol, cyfleoedd i wirfoddoli, sianeli digidol a nifer o rwydweithiau ar-lein lleol. Bellach mae 4 sianel YouTube wahanol; Teganau, Gemau Retro, Gemau Fideo ac Yn Chwarae yn targedu oedran 5 i 18+ gan ddenu dros 24,000 o weliadau. The project's aim is to increase the social use of Welsh through activities that use technology with weekly and monthly clubs, opportunities to volunteer, digital channels and many local online networks. 4 YouTube channels have since been created; Teganau, Gemau Retro, Gemau Fideo and Yn Chwarae targeting ages 5 to 18+ and reaching over 24,000 views.
APIAU MAGI ANN APPS
MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cyfres o 6 ap am ddim sy'n helpu plant a rhieni i ddysgu’r Gymraeg drwy storïau syml a lliwgar. Mae'n cynnig cyfle i blant oed cyfnod sylfaen fwynhau gemau syml wrth ddysgu darllen gan hefyd hyrwyddo'r Gymraeg ymysg rhieni. Mae'r cymeriad hefyd yn byw tu hwnt i'r ap gyda Magi Ann yn ymweld â phartïon, ysgolion, diwrnodau hwyl a mwy. A series of 6 free apps that help children and parents to learn Welsh through simple and colourful stories. They offer foundation stage children simple games while learning to read whilst also promoting Welsh among parents. The character Magi Ann also lives outside the app, visiting parties, schools, fun days and more.
WICI MÔN
MENTER IAITH MÔN Pwrpas WiciMôn yw cyfoethogi’r Gymraeg ar Wicipedia er mwyn codi statws yr iaith gyda chwmnïau datblygu meddalwedd digidol, gan ganolbwyntio ar bynciau hanesyddol, gwyddonol a diwylliannol. Hyd yma, mae 2,752 erthygl wedi eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr WiciMôn; plant ysgol gynradd, uwchradd a phobl hŷn, sy’n gyfraniad sylweddol i’r Gymraeg ar y we. Wici Môn aims to increase the amount of Welsh on Wikipedia to raise the status of the language with large software developers, focusing on historial, scientific and cultural subjects. By now, 2,752 articles have been written by Wici Môn volunteers; primary and secondary school children and the elderly, which is a great contribution to the amount of Welsh on the web.
DIGWYDDIADAU | EVENTS Mae ein cyfraniad i greu a chefnogi digwyddiadau bywiog, addysgiadol a llawn hwyl yn amhrisiadwy i’n cymunedau. O wyliau mawr i glybiau achlysurol - mae digwyddiadau yn fodd i fwynhau'r Gymraeg. Our contribution to creating and supporting vibrant, fun and informative events is invaluable to our communities. From large festivals to casual clubs - events are a great way to enjoy the Welsh language.
TAFWYL
MENTER CAERDYDD Gŵyl a pharti mawr blynyddol i ddathlu’r Gymraeg yn ein prif ddinas yw Tafwyl. Mae’r ŵyl yn ddathliad balch a hyderus o’n diwylliant ar ei orau, ac yn gyfrwng i ddefnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol mewn awyrgylch anffurfiol a chynhwysol gan ddenu bron i 40,000 o bobl i'r digwyddiad yn 2019. Tafwyl is a major annual Welsh language festival and celebration in our capital city. The festival is a proud and confident celebration of our culture at its best, and a means of using the Welsh language naturally in an informal and inclusive environment, attracting almost 40,000 people to the event in 2019.
SESH SŴN
MENTER IAITH CASTELL-NEDD PORT TALBOT Mae’r Sesh Sŵn yn sesiwn werin Gymraeg, ac yn gyfle i bobl o bob oed, gallu ieithyddol a cherddorol gwrdd mewn sefyllfa anffurfiol i chwarae cerddoriaeth draddodiadol a phoblogaidd. Gyda Sesh Fach hefyd yn gyfle i offerynwyr dechreuol ddysgu'r caneuon, mae cyfle i bawb ddatblygu sgil yn ogystal ag ymarfer yr iaith. The Sesh Sŵn is a Welsh folk session, and an opportunity for people of all ages, linguistic and musical abilities to meet in an informal setting to play traditional and popular music. With Sesh Fach also an opportunity for beginner instrumentalists to learn the songs, there is an opportunity for everyone to develop a skill as well as practice the language.
PARTI PONTY
MENTER IAITH RHONDDA CYNON TAF Gŵyl Gymraeg i bawb yw Parti Ponty sy'n rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr o'r ardal, a thu hwnt, sydd wedi ehangu i ddigwyddiadau dros 5 lleoliad yn y sir yn 2019. Gyda gweithgareddau, adloniant, gweithdai, a stondinau amrywiol sy'n hybu'r Gymraeg - mae pobl ifanc yn rhan greiddiol i'r digwyddiad a dros 100 ohonynt yn gwirfoddoli i helpu'r ŵyl fod yn llwyddiant. Parti Ponty is a Welsh language festival for everyone, showcasing a mixture of performers from the area, and beyond, which has expanded to events across 5 locations in the county in 2019. With various activities, entertainment, workshops, and stalls promoting the Welsh language - young people are at the heart of the event with over 100 of them volunteerig during the festival.
CYDWEITHIO | COLLABORATING Gorau gweithio - cydweithio, a dyna wna pob Menter Iaith gyda nifer o wahanol bartneriaid - o fudiadau i fusnesau, cynghorau a chymunedau - er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau ar hyd a lled Gymru. There's no I in team and it's always best to collaborate, and that is what every Menter Iaith does with a number of different partners from organisations to businesses, councils and communities - to promote the use of Welsh in communities across Wales.
GŴYL CANOL DRE
MENTER GORLLEWIN SIR GÂR Mae Gŵyl Canol Dre yn cyflwyno celfyddydau a diwylliant Cymraeg i‘r gymuned gyfan, o bob oed yng Nghaerfyrddin, a hynny diolch i gydweithio effeithiol. Gyda mudiadau Cymraeg, ysgolion cynradd tref Caerfyrddin ac eraill yn rhan o'r trefnu dros flwyddyn gyfan, mae gan bob partner rôl benodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl sy'n denu miloedd i fwynhau'r Gymraeg. Gŵyl Canol Dre presents Welsh arts and culture to the whole community, of all ages in Carmarthen, thanks to effective collaboration. With Welsh language organisations, Carmarthen town primary schools and others involved over the course of a year, each partner has a specific role in ensuring the success of the festival which attracts thousands to enjoy the Welsh language.
FFORWM IAITH SIROL MENTER IAITH MÔN
Ers 2016 mae fforwm o bartneriaid ar yr ynys yn cwrdd yn fisol er mwyn cydweithio ar lefel strategol, yn darganfod bylchau, adnabod anghenion ac osgoi dyblygu gwaith. Nod y cydweithio yw sicrhau cynnydd yn niferoedd sy'n siarad a defnyddio'r iaith ym Môn. Since 2016 a forum of partners on the island have been meeting monthly to collaborate at a strategic level - identifying gaps, identifying needs and to avoid duplicating work. Working together aims to ensure an increase in the number of those learning and using Welsh on Anglesey.
CYDWEITHIO Â PYST
MENTER IAITH RHONDDA CYNON TAF Mae Pyst yn gwmni gwasanaeth labeli, dosbarthu a chydlynu digwyddiadau cerddorol sy'n canolbwyntio'n benodol ar gerddoriaeth o Gymru. Drwy gyd-weithio gyda’r arbenigedd hwn mae wedi galluogi'r Fenter i drefnu a hyrwyddo mwy o weithgareddau cerddorol Gymraeg yn y sir. Mae’r cyfuniad o wybodaeth y Fenter am hyrwyddo'n lleol ynghyd â gwybodaeth arbenigol Pyst am ddiwydiant cerddorol Cymru wedi bod o fudd mawr wrth ddenu cynulleidfa newydd i gerddoriaeth Gymraeg. Pyst run a label and distribution service and co-ordinate events with a particular focus on music from Wales. Working with this expertise has enabled Menter Iaith Rhondda Cynon Taf to organise and promote more Welsh language musical activities in the county. The combination of the Menter's knowledge of local promotion as well as Pyst's specialist knowledge of the Welsh music industry has been of great benefit in attracting a new audience to Welsh music.
Mae'r Mentrau Iaith yn cefnogi pobl o bob oed ac ym mhob cam o fywyd. The Mentrau Iaith support people of all ages and in all stages of life.
Lluniau / Photos: Menter Iaith Sir Ddinbych Menter Iaith Maldwyn Menter Bro Morgannwg
Ar y clawr / On the cover: Menter Iaith Brycheiniog Maesyfed Menter Iaith Abertawe Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy
DATBLYGU CYMUNEDOL COMMUNITY DEVELOPMENT Mae cymunedau yng nghalon y Mentrau Iaith, gyda phob Menter yn gweithio'n agos gyda'u cymunedau lleol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg drwy amryw ffordd. Dyma wahanol enghreifftiau o brosiectau sy'n datblygu cymunedau: Communities are at the heart of the Mentrau Iaith, with each Menter working closely with their local communities to increase the use of Welsh through a variety of means. Here are a few examples of community development projects:
IWCADWLI
CERED - MENTER IAITH CEREDIGION Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli sy'n perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a'r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg a'n gweld Iwcadwli yn gyfle amhrisiadwy i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Iwcadwli is Aberystwyth's ukulele orchestra that performs extensively at local events introducing Welsh music in a unique and fun way to various local visitors and audiences. Welsh is the language of the rehearsals and songs, however, many of the members are Welsh learners and see Iwcadwli as an invaluable opportunity to gain confidence in using the Welsh language on a daily basis.
MEITHRINFA DERWEN DEG MENTER IAITH CONWY
Yn ateb i ddiffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ardal arfordirol Sir Conwy aeth Menter Iaith Conwy ati i gyd-weithio'n agos ag aelodau’r gymuned i greu menter gymdeithasol newydd i ateb y galw. Erbyn hyn mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg yn cynnig gofal i ddegau o blant pob dydd ac yn cyflogi 12 aelod o staff sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Answering the lack of Welsh medium childcare in the coastal area of Conwy County, Menter Iaith Conwy worked closely with members of the community to create a new social enterprise to provide a Welsh-medium nursery. Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg now provides care for tens of children every day and employs 12 members of staff who work through the medium of Welsh.
PROFI
MENTER GORLLEWIN SIR GĂ‚R Pwrpas cynllun Profi yw datblygu sgiliau byd gwaith pobl ifanc a chynyddu eu hunan hyder er mwyn creu cymuned lewyrchus a naturiol ddwyieithog. Drwy gynnig cefnogaeth creu CV, sesiynau ymwybyddiaeth iaith a chymorth darganfod lleoliadau gwaith mae Profi yn cefnogi adfywio lleol ac yn annog pobl ifanc i aros yn eu cymunedau. The purpose of the Profi scheme is to develop young people's employability and increase their self-confidence in order to create a thriving, naturally bilingual community. By offering CV support, language awareness sessions and work placement assistance, Profi supports local regeneration and encourages young people to stay in their communities.
Y Mentrau Iaith The Mentrau Iaith Hunaniaith - Menter Iaith Gwynedd
01286 679452
Menter Iaith Abertawe
01792 460906
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
01495 755861
Menter Dinefwr
01558 825336
Menter Bro Ogwr
01656 732200
Menter Iaith Bro Morgannwg
02920 689888
Menter Brycheiniog a Maesyfed
07776 296267
Menter Caerdydd
02920 689888
Menter Iaith Casnewydd
01633 432101
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
01639 763819
Cered - Menter Iaith Ceredigion
01545 572350
Menter Iaith Conwy
01492 642357
Menter Cwm Gwendraeth Elli
01269 871600
Menter Gorllewin Sir Gâr
01239 712934
Menter Iaith Maldwyn
01686 610010
Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
01685 722176
Menter Iaith MĂ´n
01248 725700
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
01443 407570
Menter Iaith Sir Benfro
01239 831129
Menter Iaith Sir Caerffili
01443 820913
Menter Iaith Sir Ddinbych
01745 812822
Menter Iaith Fflint a Wrecsam
01352 744040
Mentrau Iaith Cymru
01492 643401
Am fwy o wybodaeth ewch i www.mentrauiaith.cymru
Beth yw Menter Iaith? What's a Menter Iaith?
Mae 22 Menter yn gweithio yn ein cymunedau dros Gymru
yn cefnogi dros 160,000 o bobl o bob oed
i gynyddu a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau.
There are 22 Welsh language enterprises working in Wales
supporting over 160,000 people of all ages
to increase and strengthen the use of Welsh in our communities.
Yn trefnu gwyliau, clybiau gofal, mae'r fenter yn siop-un-stop sesiynau iaith a mwy - ar gyfer yr iaith, Organising festivals, childcare, language sessions and more -
Menter Iaith is a one-stopshop for the language,
Mae'r Mentrau Iaith i bawb.
I ddarganfod mwy ewch i mentrauiaith.cymru
Mentrau Iaith is for everyone.
To find out more go to mentrauiaith.cymru
yn ein helpu i fyw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg. helping us live, learn and enjoy in Welsh