h t i a I u a r t n e YM
g e a r m y G r ’ i g o n f e g o d d e n y l m
Cynnwys 1 2 3 4 5 6 7 8
Croeso gan y Mentrau Iaith
Croeso gan y Mentrau Iaith Beth yw Menter Iaith? Hanes y Mentrau Iaith Y Mentrau’n mentro Dathlu’r gwaith: Profi’r effaith Arloesi i gryfhau’r Gymraeg Cefnogwch ni! Mentro mwy
3 4 5 6 8 9 10 12
Ydych chi am glywed mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i gryfhau’r Gymraeg yn eich ardal chi? Hoffech chi wneud mwy i gyfrannu at y gwaith hwnnw? Mae’r proffil hwn yma i’ch helpu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am waith y Mentrau Iaith. Mae’r proffil yn dangos sut mae’r Mentrau Iaith yn mynd ati i drefnu prosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, a sut gallech chi helpu’r Fenter Iaith i gefnogi’r Gymraeg yn eich ardal chi. Mae hefyd yn cynnig gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.
“Mae’r Fenter Iaith yn golygu popeth i mi. Mae wedi cynnig cyfle imi wella fy Nghymraeg a magu hyder. Fel dysgwr, ni allaf ond pwysleisio ei phwysigrwydd. Gyda’r Fenter, rwyf wedi gallu helpu mewn siop Gymraeg a chwrdd â phobl ar bob lefel o’r iaith dros y blynyddoedd – dwi’n falch o fod yn perthyn i waith fy Menter Iaith leol.” Jenny Henn, Menter Iaith Merthyr Tudful
Mae’r proffil hwn yn rhoi cyflwyniad i’r ystod o brosiectau sydd ar gael gan y Mentrau Iaith i ddefnyddio’r Gymraeg ar hyd a lled Cymru, ac mae’n seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan y Mentrau Iaith unigol. Gan fod pob Menter a phob ardal yn wahanol, dylid gwirio’n fanwl pa brosiectau sy’n weithredol yn eich ardal chi. Mae’r cyfleoedd yn newid yn gyson, yn unol ag anghenion lleol a nifer o ffactorau eraill, a dylid cysylltu â’ch Menter Iaith leol am yr wybodaeth ddiweddaraf – mae’r holl fanylion cyswllt ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru – www.mentrauiaith.cymru Mae’r wybodaeth yn y proffil hwn yn gywir ar adeg mynd i’r wasg (Tachwedd 2016).
3
Beth yw Menter Iaith? Y Mentrau Iaith yw pwynt cyswllt cyntaf cymunedau Cymru â phob math o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Maent yn cynnig cyfleoedd i dros 160,000 o bobl ddysgu, byw a mwynhau’r iaith. Mae 23 o Fentrau Iaith yn weithredol yng Nghymru. Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol, gwirfoddol, sy’n amrywio o ran maint ac adnoddau ond yn rhannu’r nod o gefnogi a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â chynyddu’r nifer sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae’r gwaith yn amrywio o Fenter i Fenter ac yn cynnwys y meysydd canlynol:
Plant a Phobl Ifanc
Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth, chwarter canrif yn ôl, yn 1991, yn dilyn galwadau gan gymunedau’r ardal leol am gryfhau’r gweithgarwch cymunedol Cymraeg.
Clybiau ieuenctid
Yn fuan wedi hynny, gwelwyd sefydlu nifer o Fentrau Iaith newydd ar draws Cymru, a hynny fel mudiadau cymunedol yn deillio o lawr gwlad.
Gweithgareddau cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion Codi ymwybyddiaeth o Gymreictod Theatrau ieuenctid Gweithdai cerddoriaeth Codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd Teithiau maes Cyfleoedd i bobl gymdeithasu yn Gymraeg
Y Gymuned Cyfleoedd hamdden Addysg gymunedol
1997 1998
Sefydlu Menter Iaith Môn a Menter Iaith Sir y Fflint
1999
Sefydlu Mentrau Iaith Cymru, Menter Bro Dinefwr, Menter Taf Myrddin, Cered (Menter Iaith Ceredigion), Menter Iaith Gwynedd a Menter Iaith Sir Caerffili Sefydlu Menter Bro Teifi
Yr Economi
2000 2001 2002
Gwasanaethau gofal plant
2003
Sefydlu Menter Iaith Merthyr Tudful a rhannu Menter Iaith Dinbych Conwy i sefydlu dwy Fenter newydd, sef Menter Iaith Conwy a Menter Iaith Sir Ddinbych
2007
Sefydlu Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy ac ad-drefnu’r Mentrau yn Sir Gâr i greu tair Menter newydd, sef Menter Bro Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth Elli a Menter Gorllewin Sir Gâr
2009
Sefydlu Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) a Menter Patagonia (prosiect mewn ardal benodol)
2010 2013 2014
Sefydlu Menter Iaith Casnewydd
Cefnogi
Clybiau diddordeb Cymraeg
Ymgynghori
Prosiectau gofal cymdeithasol
Hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith mudiadau a grwpiau lleol
Gwyliau teuluol a chymunedol Cefnogi a marchnata digwyddiadau cymunedol
Y Teulu
Cydweithio ag Awdurdodau Lleol Cydweithio â Llywodraeth Cymru
Annog y defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes
Gweithgareddau i’r teulu
Siopau Cymraeg
Cefnogaeth i rieni wrth ddefnyddio’r Gymraeg
Caffis
Clybiau gofal a chynlluniau chwarae
Gwasanaethau cyfieithu
Rhannu manteision addysg Gymraeg
Gwasanaethau cynllunio iaith
Gweithgareddau hybu trosglwyddiad iaith
Rhaglenni profiad gwaith/sgiliau’r gweithlu
4
Bellach, mae 23 o Fentrau Iaith yn bodoli, sy’n gwasanaethu pob cwr o Gymru, yn ogystal â dwy Fenter sy’n gweithredu fel prosiectau mewn ardaloedd penodol (Bangor a Phatagonia). Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol annibynnol, sy’n gweithredu o’r gwaelod i fyny, ac mae’r model unigryw i Gymru yn ennyn diddordeb ar draws y byd. Dyma linell amser datblygiad y Mentrau Iaith o 1991 hyd heddiw. Sefydlu Menter Cwm Gwendraeth
Fforymau iaith lleol
Cefnogi dysgwyr Cymraeg
Yn ystod y blynyddoedd cychwynnol, bu rhai o’r Mentrau Iaith cyntaf yn helpu ardaloedd eraill i sefydlu eu Mentrau eu hunain, a hynny drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau ymysg staff a gwirfoddolwyr. Yn 1999, cafodd Mentrau Iaith Cymru ei sefydlu fel corff cenedlaethol i gefnogi’r Mentrau lleol, ac i sicrhau llwyfan i rannu arferion da a thrafod ar lefel genedlaethol.
1991 1992 1993 1994 1996
Codi hyder siaradwyr Cymraeg
Prosiectau iechyd y cyhoedd
Cyngherddau a nosweithiau llawen
Hanes y Mentrau Iaith
Canolfannau iaith
Sefydlu Menter Taf Elái Sefydlu Menter Bro Ogwr Sefydlu Menter Iaith Maldwyn a Menter Aman Tawe Sefydlu Menter Iaith Llanelli ac ailddiffinio Menter Taf Elái i sefydlu Menter Iaith Rhondda Cynon Taf Sefydlu Menter Brycheiniog a Maesyfed, Menter Iaith Sir Benfro, Menter Caerdydd, Menter Iaith Dinbych Conwy a Mentrau Iaith Myrddin
Sefydlu Menter Iaith Abertawe a Menter Iaith Maelor Rhannu Menter Aman Tawe i sefydlu dwy Fenter newydd, sef Menter Dyffryn Aman a Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
Sefydlu Menter Iaith Bro Morgannwg Sefydlu Menter Iaith Bangor (prosiect mewn ardal benodol) 5
Y Mentrau’n mentro Ymgyrch y Bêl Ym mis Mai a mis Mehefin 2016, bu’r Mentrau Iaith yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru mewn ymgyrch arbennig i gasglu dros 20,000 o negeseuon Cymraeg ar beli anferth, i gefnogi’r tîm cenedlaethol ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.
Magi Ann – nifer y lawrlwythiadau Mae apiau Magi Ann, a ddatblygwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint, yn adnodd i rieni ddarllen straeon Cymraeg gyda’u plant, ac mae bellach wedi cael ei lawrlwytho gan dros 50,000 o bobl.
Llwyddodd y Mentrau Iaith i ymgysylltu â dros 140,000 o bobl trwy’r ymgyrch hon.
Ras yr Iaith Yn 2016, gyda chefnogaeth y Mentrau Iaith, roedd Ras yr Iaith wedi ehangu i fod yn ras genedlaethol a deithiodd o Fangor yng Ngwynedd i Landeilo yn Sir Gaerfyrddin. Codwyd dros £15,000 at brosiectau cymunedol sy’n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.
Gwerth Economaidd y Mentrau Mae ymchwil ddiweddar i werth economaidd Menter Caerdydd yn dangos ei bod wedi cyfrannu £1.9 miliwn i economi’r brifddinas yn 2014/15. Ochr yn ochr â hyn, mae ymchwil debyg ym Merthyr Tudful wedi dangos bod Menter Iaith Merthyr Tudful a Chanolfan Soar wedi cyfrannu £1.3 miliwn i’r economi leol.
6
Hannah Roberts – Dysgwr y Flwyddyn Hannah Roberts, sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn 2016, a hynny am ei brwdfrydedd yn dysgu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghymoedd Gwent a Mynwy.
Y Farchnad Lafur Gymraeg Mae Menter Iaith Conwy wedi arwain prosiect traws-sirol sy’n datblygu cymwysterau awyr agored gyda ffocws penodol ar sgiliau Cymraeg. O weithio gyda’r sector awyr agored i hyfforddi dros 200 o siaradwyr Cymraeg yn y maes, maent wedi llwyddo i gynyddu canran y gweithlu yn y gogledd-orllewin (Gwynedd, Môn a Chonwy) a all hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg o 5% i 25%.
7
Dathlu’r gwaith: Profi’r effaith
Arloesi i gryfhau’r Gymraeg
Yn genedlaethol, mae’r Mentrau yn cynnal dros 300 o swyddi, yn ogystal â swyddi rhan-amser a chyfleoedd achlysurol eraill ar ben hynny. Mae’r Mentrau yn gweithio gydag oddeutu 1,000 o wirfoddolwyr ac yn cynnal dros 4,700 o weithgareddau bob blwyddyn, gyda 160,000 o bobl yn cymryd rhan.
Mae’r Mentrau Iaith yn flaengar wrth edrych am gyfleoedd i ddatblygu prosiectau newydd mewn ymateb i anghenion ein cymunedau. Maent hefyd bob tro’n awyddus i ddatblygu a phroffesiynoli eu gwaith, ac mae’r Mentrau’n rhan o gynllun cenedlaethol newydd, Mentro Mwy, i sicrhau gwasanaethau o ansawdd cyson ar hyd a lled y wlad.
Yn genedlaethol, mae’r Mentrau yn denu dros £6.4m y flwyddyn gan ffynonellau amrywiol, yn cynnwys grantiau Llywodraeth Cymru, grantiau eraill, megis y Loteri a chyllid yr UE, a thrwy gytundebau ag Awdurdodau Lleol a chyrff eraill i ddarparu gwasanaethau amrywiol. Mae’r holl gyllid yn cael ei fuddsoddi yn ein cymunedau, a hynny trwy gynnal swyddi, gwasanaethau a chyfleoedd i gefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.
Dyma rai prosiectau newydd a ddatblygwyd yn ddiweddar.
Academi Arweinyddiaeth Gymunedol
100 Clybiau Gofal
300+ Swyddi
Cyfraniad Llywodraeth Cymru
270+
£2.3m
Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith
1,000+ Gwirfoddolwyr
8
4,700+ 160,000+ Gweithgareddau
Defnyddwyr Gwasanaethau
£6.4m
5,600+
150+
Trosiant Blynyddol
Plant Mewn Clybiau a Chynlluniau Gofal
Gwyliau a Gigiau Cymraeg
Mae’r Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn cynnig cwrs sy’n datblygu capasiti a sgiliau arweinyddiaeth o fewn y gymuned. Mae’r Academi yn sicrhau cyswllt cyson a go iawn rhwng myfyrwyr a’u cymunedau, gan anelu at gynyddu hyder unigolion i weithredu’n bositif yn eu cymuned. Mae’r Academi yn hyfforddi oedolion ifanc 18-26 oed, gan roi’r cyfle iddyn nhw feithrin sgiliau arweinyddiaeth o fewn eu cymuned a’u cymdogaeth trwy ddilyn cwrs dwys. Mae’r unigolion hefyd yn cael eu mentora yn ystod y flwyddyn. Nod y prosiect yw cynyddu gallu lleol i sicrhau cymdogaethau Cymraeg a chymunedau dwyieithog cynaliadwy yng Ngheredigion, dan nawdd y Fenter Iaith leol, Cered.
Profi Nod cynllun Menter Gorllewin Sir Gâr, Profi, yw gwella sgiliau byd gwaith 750 o bobl ifanc yng ngorllewin Sir Gâr a de Ceredigion. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith i bobl ifanc 16-18 oed, gan gydweithio’n agos â’r trydydd sector, a’r sectorau preifat a chyhoeddus. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd i godi dyheadau, cyflawniad a hyder er mwyn cynyddu sgiliau cyflogadwyedd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Y Siarter Iaith yn y Gymuned Mae nifer o’r Mentrau Iaith, mewn cydweithrediad ag Adrannau Addysg y Cynghorau Sir, yn cefnogi gweithredu Siarter Iaith mewn ysgolion, sef cynllun a sefydlwyd yn wreiddiol gan Hunaniaith yng Ngwynedd. Mae enghraifft o waith Menter Iaith Môn yn cynnwys hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a dwyieithog, rhoi cyngor a gwybodaeth i rieni, hyrwyddo cyrsiau cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg i deuluoedd a rhieni, yn ogystal â chreu cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc. Rhoddir pwyslais arbennig ar weithgareddau sy’n cael eu cynnal ar ôl ysgol ac yn ystod y penwythnos, ac mae’r gweithgareddau cymunedol hyn yn creu cyfleoedd ychwanegol i unigolion ac ysgolion feithrin cysylltiadau newydd â’u cymunedau ehangach, ac yn cefnogi a chynyddu defnydd plant, pobl ifanc a theuluoedd o’r Gymraeg.
Mentrau Cymdeithasol Mae’r Mentrau Iaith wedi datblygu arbenigedd dros y blynyddoedd yn sefydlu a datblygu mentrau cymdeithasol annibynnol amrywiol, gyda’r nod o gynnig gwasanaethau perthnasol a chreu incwm preifat i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae hyn yn cynnwys agor canolfannau iaith, cynnig gwasanaethau cyfieithu, hyfforddi, cynllunio iaith ac ymgynghori, darparu cynlluniau gofal plant a meithrinfeydd, rhedeg siopau a chaffis cymunedol, yn ogystal â datblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol, hamdden ac ieuenctid mewn partneriaeth â chyrff a mudiadau eraill. Wrth ddatblygu mentrau cymdeithasol cynaliadwy, caiff nifer o swyddi eu creu, ac mae unrhyw warged ariannol yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol, gan effeithio’n gadarnhaol ar y Gymraeg, y gymuned a’r economi. 9
Cefnogwch ni! Caiff y Mentrau Iaith eu hystyried yn allweddol o ran hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg yng Nghymru, ond efallai nad ydych yn ymwybodol o’r ffaith bod nifer ohonynt yn gwmnïau di-elw neu elusennau cofrestredig sy’n dibynnu ar gyfraniadau, nawdd a ffyrdd eraill o godi arian i ddatblygu eu gwaith. Gallwch gyfrannu at ddyfodol y Mentrau mewn sawl ffordd:
Llais y Gwirfoddolwr
Cyfrannu Yn ogystal â datblygu prosiectau o safon drwy gydol y flwyddyn, mae’r Mentrau Iaith hefyd yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd gwaith a gyrfa sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys cefnogi a datblygu sgiliau pobl ifanc sydd â diddordeb ym maes cynllunio ieithyddol, cynnig profiad gwaith amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg, a darparu swyddi a rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu gyrfa yn eu cymunedau lleol. Os ydych yn mwynhau gwaith y Mentrau Iaith, ac yn awyddus i weld hwnnw’n parhau a datblygu, yna mae modd i chi gyfrannu’n ariannol i’w cynorthwyo yn y dyfodol. Am ragor o wybodaeth, anfonwch ebost i post@mentrauiaith.cymru
10
Mae gwaith y Mentrau Iaith yn dibynnu llawer ar ymroddiad a brwdfrydedd ein gwirfoddolwyr. Rydym hefyd yn cefnogi rhaglenni megis Gwirfoddolwyr y Mileniwm a Bagloriaeth Cymru. Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda’ch Menter Iaith leol i gryfhau’r Gymraeg yn eich ardal chi?
Profiad Rhiant a Phlentyn
Cysylltwch â ni heddiw! post@mentrauiaith.cymru
Noddi Mae modd noddi prosiect neu elfennau amrywiol o waith y Mentrau Iaith. Os ydych yn gwmni neu’n fusnes, beth am ystyried noddi rhan o’n gwaith? Mae sawl pecyn ar gael – am ragor o wybodaeth, cysylltwch â post@mentrauiaith.cymru
Gwirfoddoli
Profiad Gwaith
Enw: Charlotte Hancox I bwy wyt ti’n gwirfoddoli? Menter Iaith Môn ers dros flwyddyn. Sut wyt ti’n gwirfoddoli? Helpu gyda Bocsŵn, Theatr Ieuenctid Môn a ‘Mae dy Gymraeg di’n Grêt’ Pam gwirfoddoli? Fe wnaeth gwirfoddoli i Fenter Iaith Môn wir agor fy llygaid i’r holl weithgareddau sy’n cael eu trefnu mewn cymunedau gwahanol ar draws yr ynys, a hynny i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg. Dwi’n teimlo bod y Fenter Iaith wir yn gwneud gwahaniaeth o fewn y gymuned, ac roedd arna i eisiau bod yn rhan o’r cyffro hwnnw. Erbyn hyn, mae Menter Iaith Môn yn golygu llawer imi oherwydd ei bod wedi creu cyfle imi ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu, gweithio gydag eraill a datrys problemau. Mae’r Fenter Iaith wedi rhoi’r gallu imi wneud y pethau rwyf yn hoffi eu gwneud, er enghraifft gweithio gyda phlant, dysgu pobl am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg, cyfathrebu yn hyderus gyda’r cyhoedd, a llawer mwy.
Rydym yn cynnig rhaglen o brofiad gwaith sydd wedi’i hanelu at ddisgyblion blwyddyn 11, y chweched dosbarth, myfyrwyr mewn prifysgolion, ac unigolion 16 oed a hŷn. Gallwn gynnig cyfnod o brofiad gwaith mewn meysydd penodol o fewn y Mentrau Iaith, yn dibynnu ar eich diddordeb. Os oes gennych ddiddordeb ym maes cynllunio ieithyddol a hyrwyddo’r Gymraeg, beth am gysylltu i weld beth gallwn ni ei gynnig i chi? Mae’r cyfnodau o brofiad gwaith fel arfer yn para rhwng 5 a 10 diwrnod. I wneud cais am brofiad gwaith, cysylltwch â ni am ffurflen gais o leiaf 4 wythnos cyn y dyddiad yr hoffech gychwyn: post@mentrauiaith.cymru
Y cyfle gorau mewn bywyd Mae ‘Babis Dyfri’ yn grŵp sydd wedi’i sefydlu yn ardal Llanymddyfri gan Fenter Bro Dinefwr i gynnig cyfleoedd i rieni a’u babis gwrdd i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg. Dyma sydd gan un o rieni ‘Babis Dyfri’ i’w ddweud am y cynllun: Dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg, ac felly mae sicrhau bod gan ein plant gyfleoedd i ddysgu a chlywed y Gymraeg cyn mynd i’r ysgol gynradd leol yn bwysig i ni. Dwi wedi bod yn mynd i Babis Dyfri ers iddo gychwyn tua blwyddyn yn ôl. Yn ystod yr amser hwnnw, mae fy merch fach wedi dysgu rhigymau Cymraeg gwahanol ac mae’n gallu trafod y lliwiau a chyfrif yn Gymraeg, a hynny er nad oedd ganddi unrhyw Gymraeg gartref. Erbyn hyn, rwyf yn annog fy merch i ymarfer ei Chymraeg gyda’i brodyr hŷn, sydd wedi dechrau mynychu’r ysgol gynradd leol, ac rwyf wrth fy modd yn eu clywed yn siarad Cymraeg â’i gilydd. Mae fy nyled a fy niolch i’r Mentrau Iaith yn fawr.
11
Mentro mwy Mae’r Mentrau Iaith yn gyrff sy’n tyfu a datblygu’n gyson, a hynny mewn ymateb i anghenion a dyheadau cymunedau Cymru. Er bod pob Menter Iaith yn wahanol ac yn unigryw i adlewyrchu eu hardaloedd, y weledigaeth sy’n clymu’r cyfan yw gweld yr iaith Gymraeg yn datblygu’n iaith gymunedol fyw ym mhob rhan o Gymru. Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i wireddu’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gan y Mentrau Iaith rôl allweddol yn y gwaith hwn, wrth weithio ar lawr gwlad i gefnogi pobl i ddysgu’r iaith a chynnig cyfleoedd i bobl siarad y Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Dros y cyfnod nesaf, byddwn yn mynd ati i ddatblygu’r ffordd rydym yn gweithredu, a hynny mewn ymateb i gyfleoedd newydd i gryfhau’r Gymraeg ym mhob cwr o Gymru. Er mwyn llwyddo, byddwn yn ymroi i weithredu’r pwyntiau canlynol, i sicrhau gwasanaethau a gweithgareddau o ansawdd uchel a chyson i gefnogi’r Gymraeg, a hynny i raddau nas gwelwyd erioed o’r blaen o fewn y Mentrau Iaith.
Venturing ahead
ÎÎ Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gymunedau Cymru ar gyfer y Gymraeg, gan ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau cyfeirio a gweithgareddau o bob math.
ÎÎ Gweithredu fel partner allweddol wrth gefnogi’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a mynd ati i ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau newydd i gefnogi unigolion i ddysgu a defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
ÎÎ Ymchwilio i ffyrdd newydd o gydweithio â’n gilydd ac â phartneriaid, a hynny yn lleol, yn rhanbarthol, yn drawsffiniol ac yn genedlaethol, mewn ymateb i anghenion ieithyddol cymdeithasol a newidiadau gwleidyddol.
ÎÎ Sefydlu rhwydwaith torfol o gefnogwyr a gwirfoddolwyr i’r Mentrau Iaith a’r Gymraeg er mwyn gweithredu, cefnogi a chyfrannu at brosiectau sy’n hyrwyddo dysgu a defnyddio’r iaith, gan sicrhau perchenogaeth leol i’n gwaith.
ÎÎ Sicrhau gwasanaethau o safon uchel a chyson gan y Mentrau Iaith ar draws Cymru, a hynny drwy weithredu rhaglen ddatblygu Mentro Mwy, sy’n cynnwys cyflawni marc ansawdd PQASSO, cryfhau gwasanaethau cwsmer, a chysoni’r lefel ddisgwyliedig o wasanaethau ar draws Cymru.
ÎÎ Ceisio am ragor o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i waith y Mentrau, gan anelu yn y lle cyntaf at sicrhau isafswm o £100,000 i bob Menter unigol i’w galluogi i gynnig lefel gyson o wasanaethau ar draws Cymru, yn ogystal â chodi cyfraniad Mentrau Iaith Cymru’n ôl i £180,000 er mwyn sicrhau cefnogaeth ymarferol gadarn i waith y Mentrau lleol.
The Mentrau Iaith are organisations that are constantly growing and developing, in response to the needs and aspirations of the communities in Wales. Although each Menter Iaith is different and unique, in reflection of its local area, the vision that binds each Menter is one in which the Welsh language develops to be a living community language throughout Wales. We will continue to work with Welsh Government and other partners to realise our goal of a million Welsh speakers by 2050. The Mentrau Iaith have a key role to play in this goal, working at grassroots level to support people to learn the language, and providing opportunities for people to speak Welsh in their everyday lives. During the next period, we will be aiming to develop our way of working, in response to new opportunities to strengthen the language throughout Wales. To succeed, we will commit to implementing the following actions, ensuring high quality and consistent services and activities to support the language, to a degree that has yet to be seen within the Mentrau Iaith.
ÎÎ To be the first point of contact for the Welsh language for communities in Wales, providing information, referral services, and various activities.
ÎÎ To operate as a key partner in supporting the aim of securing a million Welsh speakers by 2050, and to look to implementing new schemes and services to support individuals to learn and to use the language in their everyday lives.
ÎÎ To conduct research, on a local, regional, crossboundary and national level, into new ways of working in collaboration with each other and with partners, in response to social language needs and political changes.
ÎÎ To establish a mass network of supporters and volunteers for the Mentrau Iaith and the Welsh language in order to implement, support and contribute to projects which promote learning and using the language, thus ensuring local ownership for our work.
ÎÎ To ensure that the Mentrau Iaith provide high quality, consistent services throughout Wales, with the implementation of the Mentro Mwy development programme, which includes the PQASSO quality mark, strengthening customer services, and securing an expected level of services across Wales.
ÎÎ To seek further financial support for the work of the Mentrau from Welsh Government, aiming initially for a minimum of £100,000 for each individual Menter, to enable them to provide services of a consistent level throughout Wales; and to also increase the Mentrau Iaith Cymru contribution to £180,000 once again, in order to secure resilient, practical support for the work of the local Mentrau.
Y Mentrau Iaith 1 5
3
4 6
2
7
8
9
16
12
10 11 13
17
14 15
18 19
23 21 20
22
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23
Menter Iaith Môn Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) Menter Iaith Conwy Menter Iaith Sir Ddinbych Menter Iaith Sir y Fflint Menter Iaith Maelor Menter Iaith Maldwyn Cered (Menter Iaith Ceredigion) Menter Iaith Sir Benfro Menter Gorllewin Sir Gâr Menter Cwm Gwendraeth Elli Menter Bro Dinefwr Menter Iaith Abertawe Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Menter Bro Ogwr Menter Brycheiniog a Maesyfed Menter Iaith Merthyr Tudful Menter Iaith Rhondda Cynon Taf Menter Iaith Bro Morgannwg Menter Caerdydd Menter Iaith Sir Caerffili Menter Iaith Casnewydd Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Ffôn / Telephone: 01492 643401 Gwefan / Website: www.mentrauiaith.cymru Ebost / Email: post@mentrauiaith.cymru Cyfeiriad / Address: Mentrau Iaith Cymru Y Sgwâr Llanrwst Conwy LL26 0LG @mentrauiaith facebook.com/mentrauiaithcymru #mentrauiaith youtube.com/user/MenterIaith
Please support us! The Mentrau Iaith are considered key in advancing opportunities to use and learn the Welsh language in Wales, but you may not be aware of the fact that many of them are non-profit companies or registered charities that rely on donations, funding and other fundraising efforts in order to develop their work. There are many ways in which you can contribute to the future of the Mentrau:
The Volunteer Voice
Contributing In addition to quality project development throughout the year, the Mentrau Iaith also work to increase the available Welsh medium work and career opportunities. This includes supporting and developing skills in young people who have an interest in language planning, offering various work experience opportunities through the medium of Welsh, and providing jobs and opportunities for young people to develop a career in their local communities. If you enjoy the work of the Mentrau, and are eager to see the work continue and develop, then you can contribute financially to help them in the future. For further information, please email post@mentrauiaith.cymru
10
The work of the Mentrau Iaith depends a great deal on the commitment and enthusiasm of our volunteers. We also support programmes such as Millennium Volunteers and the Welsh Baccalaureate. Would you be interested in volunteering with your local Menter Iaith to strengthen the Welsh language in your area?
Parent and Child Experience
Contact us today! post@mentrauiaith.cymru
Funding It’s possible to fund a project or other various elements of the work delivered by the Mentrau. If you are a company or a business, would you consider funding some of our work? There are several packages available – for further information, contact post@mentrauiaith.cymru
Volunteering
Work experience
Name: Charlotte Hancox Where have you been volunteering? At Menter Iaith Môn, for over a year. How do you volunteer? I help with Bocsŵn, Theatr Ieuenctid Môn and ‘Mae dy Gymraeg di’n Grêt’ Why volunteer? Volunteering for Menter Iaith Môn really opened my eyes to all the activities that are organised in different communities across the island to promote and support the Welsh language. I really feel that the Menter Iaith makes a difference within the community, and I wanted to be part of that excitement. By now, Menter Iaith Môn means a lot to me as it has provided me with the chance to develop several skills – communication, working with others and problem-solving skills. The Menter has enabled me to do those things that I enjoy doing, for example working with children, teaching people about the importance of the Welsh language, communicating confidently with the public, and much more.
We offer a work experience programme which is aimed at Year 11 pupils, the sixth form, university students, and individuals of 16 years old and over. We can provide a work experience period in specific areas within the Mentrau Iaith, depending on your interest. If you are interested in language planning and the promotion of the Welsh language, what about getting in touch to see what we can offer? As a rule, the work experience periods last between 5 and 10 days. To apply for work experience, contact us for an application form at least 4 weeks before your preferred commencement date: post@mentrauiaith.cymru
The best chance in life ‘Babis Dyfri’ is a group that has been established by Menter Bro Dinefwr in the Llandovery area to provide opportunities for parents and their babies to meet in order to use and learn the Welsh language. This is what one of the ‘Babis Dyfri’ parents has to say about the scheme: We don’t speak Welsh, so making sure that our children have the opportunity to learn and hear the Welsh language before they start at primary school is important to us. I have been going to Babis Dyfri since it began about a year ago. During that time, my little girl has learnt various Welsh rhymes, and she can say the names of the colours and count in Welsh, even though she had had no Welsh at home. By now, I encourage my daughter to practise her Welsh with her older brothers, who have started to attend the local primary school, and it gives me great delight to hear them talking in Welsh to one another. I owe the Mentrau Iaith a great deal, and thank them very much.
11
Celebrating the work: Experiencing the impact
Strengthening the language through innovation
Nationally, the Mentrau maintains over 300 jobs, in addition to part-time jobs and other occasional opportunities. The Mentrau work with around 1,000 volunteers, and hold more than 4,700 activities annually, with 160,000 participants taking part.
The Mentrau Iaith are innovative in their search for opportunities to develop new projects in response to community needs. They are also always eager to develop and professionalise their work, and are now part of a new national scheme, Mentro Mwy, to ensure a consistent quality of service throughout Wales.
Nationally, the Mentrau attract more than £6.4m annually from various sources, including grants from Welsh Government, other grants, such as Lottery and EU funding, and through contracts with Local Authorities and other bodies to provide various activities. The funding is invested in our communities in order to maintain jobs, services and opportunities to support people to use the Welsh language in all aspects of their lives.
Here are some new projects which have been developed recently.
Community Leadership Academy The Community Leadership Academy offers a course to develop capacity and leadership skills within the community. The Academy ensures a regular and real contact between students and their communities, with the aim of increasing confidence in individuals to operate positively within those communities.
100 Care Clubs
300+ Jobs
Welsh Government Contribution
270+
£2.3m
Language Awareness Sessions
1,000+ Volunteers
8
4,700+ 160,000+ Activities
Service Users
£6.4m
5,600+
150+
Annual Turnover
Children in Care Clubs and Schemes
Welsh Festivals and Gigs
The Academy trains young adults aged 18-26 by providing them with the opportunity, via an intensive course, to foster leadership skills within their communities and neighbourhoods. The individuals are also mentored during the year. The aim of the project is to increase local capacity to maintain sustainable Welsh medium communities and bilingual neighbourhoods in Ceredigion, under the auspices of the local Menter Iaith, Cered.
Profi The aim of the Menter Gorllewin Sir Gâr scheme, Profi, is to improve the employment skills of 750 young people in west Carmarthenshire and south Ceredigion. The scheme offers work placement opportunities for young people aged 16-18, in close collaboration with the third sector, and the private and public sectors. The scheme provides opportunities to raise aspirations, achievement and confidence in order to increase employability skills, and it also raises awareness of the Welsh language, with the aim of increasing the use of the Welsh language in the workplace.
The Language Charter in the Community Several of the Mentrau Iaith, in collaboration with County Council Education Departments, support the implementation of a Language Charter in schools. Originally, the Language Charter was a scheme established by Hunaniaith in Gwynedd. An example of Menter Iaith Môn’s work includes promoting the benefits of Welsh medium and bilingual education, providing advice and information for parents, promoting courses to support the use of the Welsh language for families and parents, as well as creating social opportunities for the language to be used by children and young people. Special emphasis is placed on activities held after school and at the weekend, and these community activities create additional opportunities for individuals and schools to foster new links with their wider communities, and to support and increase the use of the language amongst children, young people and families.
Social Enterprises Over the years, the Mentrau Iaith have developed expertise in establishing and developing various independent social enterprises, with the aim of providing relevant services and generating a private income to support the Welsh language as a community language. This includes establishing language centres, providing translation services, training, language planning and consultation, the provision of childcare schemes and nurseries, operating community cafés and shops, as well as developing social care, leisure and youth services in partnership with other bodies and organisations. As a result of developing sustainable social enterprises, a number of jobs are created, and any financial surplus is re-invested locally, impacting positively on the Welsh language, the community and the economy.
9
Mentrau initiatives Ymgyrch y Bêl (The ‘Bale’ Campaign)
Magi Ann – the number of downloads
During May and June 2016, the Mentrau Iaith, in collaboration with the Football Association of Wales, ran a special campaign to gather over 20,000 messages, in Welsh, on giant footballs, to support the national team in the Euro 2016 Championship.
Magi Ann apps, developed by Menter Iaith Sir y Fflint, is a resource that enables parents to read Welsh medium stories with their children. To date, it has been downloaded by more than 50,000 people.
During this campaign, the Mentrau Iaith succeeded in engaging with more than 140,000 people.
Ras yr Iaith (Race for the Welsh language) In 2016, with support from the Mentrau Iaith, Ras yr Iaith expanded to be a national race that started in Bangor in Gwynedd and finished in Llandeilo in Carmarthenshire. It raised more than £15,000 towards community projects which support the use of the Welsh language.
The Economic Value of the Mentrau Recent research into the economic value of Menter Caerdydd has shown that it contributed £1.9 million to the economy of the capital during 2014/15. Alongside this, similar research in Merthyr Tydfil has shown that Menter Iaith Merthyr Tudful and Canolfan Soar have contributed £1.3 million to the local economy.
6
Hannah Roberts – Welsh Learner of the Year Hannah Roberts, who works as a Community Development Officer for Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, won the Welsh Learner of the Year award in 2016 for her enthusiasm in learning and promoting the Welsh language in the Gwent and Monmouth Valleys.
The Welsh Language Labour Market Menter Iaith Conwy has been leading a cross-county project to develop outdoor qualifications which focus specifically on Welsh language skills. In collaboration with the outdoor sector to train more than 200 Welsh speakers, they have succeeded in increasing the percentage of the workforce in the north-west (Gwynedd, Anglesey and Conwy), who can offer training through the medium of Welsh, from 5% to 25%.
7
What is a Menter Iaith? The Mentrau Iaith are the first point of contact for communities in Wales with regard to various Welsh language related matters. They provide an opportunity for over 160,000 people to learn, live and enjoy the language. There are 23 Mentrau Iaith in operation in Wales. The Mentrau Iaith are voluntary community organisations which, although they vary with regard to size and resources, all share the same goal of supporting and increasing the number of Welsh speakers, in addition to boosting the number that use the language in their everyday lives.
The Community Leisure opportunities Community education
Children and Young People Youth clubs Activities to increase the use of the Welsh language in schools Raising awareness of Welshness Youth theatres Music workshops Raising awareness of the benefits of bilingualism
Field trips Opportunities for people to socialise through the medium of Welsh
Menter Iaith Môn and Menter Iaith Sir y Fflint established
1999
Mentrau Iaith Cymru, Menter Bro Dinefwr, Menter Taf Myrddin, Cered (Menter Iaith Ceredigion), Menter Iaith Gwynedd and Menter Iaith Sir Caerffili established Menter Bro Teifi established
The Economy
2000 2001 2002
Childcare services
2003
Encouraging the use of the Welsh language in business
Menter Iaith Merthyr Tudful established, and Menter Iaith Dinbych Conwy split to establish two new Mentrau – Menter Iaith Conwy and Menter Iaith Sir Ddinbych
2007
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy established, and the Carmarthenshire Mentrau re-organised to create three new Mentrau – Menter Bro Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth Elli and Menter Gorllewin Sir Gâr
2009
Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) and Menter Patagonia (a project in a specific area) established
2010 2013 2014
Menter Iaith Casnewydd established
Consultation
Social care projects
Promoting the Welsh language within organisations and local groups
Supporting and marketing community events
The Family Family activities Support for parents to use Welsh Childcare clubs and playschemes Sharing the benefits of Welsh education Activities to promote language transfer
Collaborative work with Local Authorities Collaborative work with Welsh Government
Welsh shops Cafés Language centres Translation services Language planning services Work experience/workforce skills programmes
4
Today, there are 23 Mentrau Iaith in existence, providing a service for every corner of Wales. There are also two Mentrau that operate as projects in specific areas (Bangor and Patagonia). The Mentrau Iaith are independent community organisations that operate bottom up, and the unique Welsh model is attracting interest from across the world. Shown below is the development timeline for the Mentrau Iaith from 1991 until today.
1997 1998
Support
Welsh language interest clubs
Family and community holidays
During the initial years, some of the first Mentrau Iaith set about helping other areas to establish their own Mentrau Iaith, by sharing information and experiences with staff and volunteers. In 1999, Mentrau Iaith Cymru was established as a national body to support the local Mentrau, and to provide a platform to share good practice and to ensure discussion at a national level.
Menter Cwm Gwendraeth established
Local language forums
Supporting Welsh learners
The first Menter Iaith was established in the Gwendraeth Valley (Cwm Gwendraeth), a quarter of a century ago, in 1991, as a result of demands from local communities to strengthen Welsh medium community activities. Soon after, several new Mentrau Iaith were established across Wales, in the form of community organisations emanating at grassroots level.
1991 1992 1993 1994 1996
Building the confidence of Welsh speakers
Public health projects
Concerts and nosweithiau llawen
The history of the Mentrau Iaith
Menter Taf Elái established Menter Bro Ogwr established Menter Iaith Maldwyn and Menter Aman Tawe established Menter Iaith Llanelli established, and Menter Taf Elái re-defined to form Menter Iaith Rhondda Cynon Taf Menter Brycheiniog a Maesyfed, Menter Iaith Sir Benfro, Menter Caerdydd, Menter Iaith Dinbych Conwy and Mentrau Iaith Myrddin established
Menter Iaith Abertawe and Menter Iaith Maelor established Menter Aman Tawe split to create two new Mentrau – Menter Dyffryn Aman and Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Bro Morgannwg established Menter Iaith Bangor (a project in a specific area) established 5
Contents 1 2 3 4 5 6 7 8
A welcome from the Mentrau Iaith
A welcome from the Mentrau Iaith What is a Menter Iaith? The history of the Mentrau Iaith Mentrau initiatives Celebrating the work: Experiencing the impact Strengthening the language through innovation Please support us! Venturing ahead
3 4 5 6 8 9 10 12
*Note - a Menter Iaith (plural Mentrau Iaith) is a Welsh Language Enterprise
Would you like to hear more about the work being done to strengthen the Welsh language in your area? Would you like to do more to contribute to that work? This profile is intended to help you find out more about the work of the Mentrau Iaith. The profile shows how the Mentrau Iaith go about organising projects that promote the Welsh language, and how you can help the Menter Iaith to support the language in your area. It also provides information about the support that is available to help individuals, families, communities and businesses to make more use of the Welsh language.
“The Menter Iaith means everything to me. It has given me the opportunity to improve my Welsh and to gain confidence. As a learner, I can only emphasise its importance. With the Menter, I have been able to help in a Welsh shop and meet people of all language levels – I am glad to belong to the work of my local Menter Iaith.” Jenny Henn, Menter Iaith Merthyr Tudful
This profile provides an introduction to the range of projects available from the Mentrau Iaith in order to use the Welsh language across Wales, and is based on information provided by the individual Mentrau Iaith. As each Menter and each area is different, you should check carefully which projects are in operation in your area. The opportunities change regularly, according to local needs and several other factors, and you should contact your local Menter Iaith for the latest information – all the contact details are available on the Mentrau Iaith Cymru website – www.mentrauiaith.cymru The information in this profile is correct at the time of going to press (November 2016).
3
h t i a I u a r t n e YM ) s e s i r Enterp e g a u g n a L h (Wels
ge a u g n a l h s l e W e h t g n i t r o p p u s f o s r yea