Taflen Gwersylloedd Haf MEC

Page 1


CROESO Croeso i daflen Gwersylloedd Haf MEC 2013. Gobeithio dy fod di’n edrych ymlaen at wythnos o fwynhad mewn awyrgylch Gristnogol. Mae llawer o weithgareddau wrthi’n cael eu paratoi ar dy gyfer. Felly, gobeithio y cei di wythnos i’w chofio! Beth sydd mor arbennig am wersylloedd MEC? Mae gweithgareddau amrywiol iawn - gweithgareddau awyr agored, tripiau i’r traeth ac i lefydd diddorol, chwaraeon a gemau gwirion, nofio, tenis bwrdd a thwrnamentau, crefft ac adloniant o bob math. Mae’n gyfle gwych i fwynhau cwmni hen ffrindiau ac i wneud ffrindiau newydd. Mae’n gyfle da i astudio’r Beibl mewn ffordd y gelli di ei ddeall, ac i ddysgu mwy am Iesu Grist. Bydd y swogs wrthi’n gweithio’n galed i greu awyrgylch llawn hwyl ac i sgwrsio gyda ti am bob math o bethau. Dyna pam bod nifer o wersyllwyr yn dod nôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae dau wersyll Cymraeg i ddau ystod oedran. Bydd y gwersyll hynaf ym Mryn-y-groes, Bala eleni eto, a’r gwersyll iau mewn safle newydd, sef Neuadd Pentrenant yn y Canolbarth (bydd dim rhaid i chi fod dan gynfas eleni felly!). Felly, beth amdani? Bwcia’n fuan!

Archebwch AR LEin www.mudiad-efengylaidd.org/gwersylloedd


Gwersylloedd a Chost GWERSYLL CYMRAEG HŶN - Bryn-y-groes 10-17 Awst 2013 (14-18 oed) Arweinwyr: Aled Myrddin a Siwan Evans Caplan: Martin Williams GWERSYLL CYMRAEG IAU - Pentrenant 10-17 Awst 2013 (10-13 oed) Arweinwyr: Steffan Elis ac Amanda Griffiths Caplan: Trystan Hallam

LLEOLIADAU BRYN-Y-GROES: Dyma gartref i wersylloedd Cymraeg ers blynyddoedd. Mae mewn lleoliad gwych wrth ymyl Llyn Tegid yn y Bala. Mae cae chwarae a neuadd chwaraeon ar gael gyda darpariaeth tenis bwrdd a phwl. Mae modd cerdded i siopau’r Bala ac i’r Ganolfan Hamdden. Mae’r tŷ ei hun yn gyfforddus ac yn gartrefol.

NEUADD PENTRENANT: Tŷ mawr yn y Canolbarth, wrth ymyl y Drenewydd yw Pentrenant. Mae mewn lle hyfryd, ac wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol ar gyfer gwersylloedd Saesneg. Mae darpariaeth ar gyfer nofio, tenis bwrdd, snwcer, cae chwarae a llawer mwy.

Gostyngiad Brawd/Chwaer £10 y plentyn

COSt £199

(£209 os ydych chi’n archebu ar ôl 1 Gorffennaf 2013)

Bws Gwersyll Gelli di fwcio lle ar y Bws Gwersyll o Dde Cymru.

Cost £38 (dwy ffordd)


Ffurflen Archebu / Cyfrinachol

Gwersyllwr

Gwybodaeth feddygol

Enw: ......................................................................................................

Enw a chyfeiriad eich meddyg teulu: .......................................................

Cyfeiriad: ...............................................................................................

..............................................................................................................

Dyddiad geni: .........................................................................................

Rhif cerdyn meddygol: ............................................................................

Oed ar 31 Awst 2013: ........................... blwyddyn ............................ mis

Rhowch fanylion llawn am y canlynol:

Rhyw: Bachgen

o

Merch

o

Alergedd/anoddefgarwch bwyd neu feddyginiaeth: .................................

Rhiant

..............................................................................................................

Enw: ......................................................................................................

..............................................................................................................

Rhif ffôn: ................................................................................................

Meddyginiaeth a gymerir yn gyson (enw’r feddyginiaeth, dos ac amlder ac

Ebost: ....................................................................................................

ati): .......................................................................................................

MANYLION CYSWLLT (cyfeiriad a rhif ffôn os yw’n wahanol i’r uchod)

..............................................................................................................

Cyn y gwersyll: .......................................................................................

Anghenion addysgol, ymddygiadol neu iechyd: .......................................

..............................................................................................................

..............................................................................................................

Yn ystod y gwersyll: ................................................................................

..............................................................................................................

..............................................................................................................

A ddylen ni fod yn ymwybodol o unrhyw beth arall?* ...............................

Dewiswch wersyll

..............................................................................................................

Hŷn 14-18 oed(Bryn-y-groes): ..................................................................

..............................................................................................................

Iau 10-13 oed (Pentrenant): .............................................................................

Datganiad: Mae’r wybodaeth hon wedi ei llenwi’n gywir, hyd eithaf fy ngwybodaeth. Rwy’n awdurdodi’r arweinydd i weithredu yn fy absenoldeb pe bai angen triniaeth frys.

Nodwch os hoffech archebu lle ar y bws: Pont Abram

o Pen-y-bont ar Ogwr o

Nodwch enw unrhyw ffrindiau yr hoffech rannu ystafell gyda nhw os oes modd: ...................................................................................................

Arwyddwyd (Rhiant/gwarcheidwad): ....................................................... Dyddiad: ................................................................................................

*Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen.


Dilëwch unrhyw frawddegau nad ydych chi’n hapus gyda nhw: Rwy’n hapus i’m plentyn dderbyn meddyginiaeth dros-y-cownter (e.e. paracetamol) pe bai angen. Rwy’n hapus i’m plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau antur sy’n cael eu harchwilio’n gywir (e.e. cerdded, nofio, saethyddiaeth, canŵio). Rwy’n hapus i swyddogion ac arweinwyr i gadw mewn cysylltiad gyda’m plentyn ar ôl y gwersyll, naill ai mewn llythyr, e-bost, negeseua neu ffôn. Rwy’n hapus i luniau o’m plentyn gael eu defnyddio mewn deunydd hysbysebu MEC (e.e. taflen fel hon).

talu Cost y gwersyll

(£199 cyn / £209 ar ôl 1 Gorffennaf):

£

Bws gwersyll £38:

£

Cyfraniad (er mwyn

£

Gostyngiad brawd/ chwaer :

Bwrsari:

CYFANSWM:

£

galluogi plant eraill i fynychu)

Os hoffech chi ymuno â’r Cynllun Talu Hawdd* sy’n gwasgaru’r gost dros ychydig o fisoedd, yna ticiwch y bocs: o *Fyddwch chi ddim yn gallu ymuno â’r cynllun hwn ar ôl 30 Ebrill 2013.

Datganiad Gwersyllwr

Blaendal

Rwy’n cytuno i gadw côd ymddygiad y gwersyll (gweler y dudalen gefn).

Blaendal Gwersyll: £30 Blaendal Bws: £8 CYFANSWM BLAENDAL: £ .............

Llofnod y gwersyllwr: ..............................................................................

o

Rwy’n amgáu siec yn daladwy i MEC

Os yw’r gwersyllwr yn iau na 18 oed

o

Hoffwn dalu trwy gerdyn (manylion isod)

Llofnod rhiant/warcheidwad: ................................................................. Sut y clywsoch chi am wersylloedd MEC? ............................................... ............................................................................................................. GOSTYNGIADAU AR GAEL: Cronfa Anti Bessie - Os ydych chi’n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Treth Gwaith gallwch wneud cais o Gronfa Anti Bessie. Mae bwrsari o £50 ar gael. Rhaid gyrru prawf o deilyngdod eich achos ar ffurf llungopïau. Brodyr a Chwiorydd - Rhoddir gostyngiad o £10 i bob brawd a chwaer sy’n archebu mewn gwersylloedd MEC. SYLWER – BWCIO AR ÔL 1 GORFFENNAF Bydd cost ychwanegol o £10 y gwersyllwr i archebion a dderbynnir ar ôl 1 Gorffennaf 2013.

(i’w anfon gyda’r archeb, ac ni ellir ei ad-dalu)

Enw ar y cerdyn: Rhif cerdyn: Dyddiad terfynu:

Cod Diogelwch:

Llofnod: Defnyddir y manylion hyn er mwyn cymryd y taliad terfynol ar 31 Mai. Os nad ydych chi am wneud hyn ticiwch y bocs. o

Dychwelwch i Wersylloedd MEC, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX Gofalwch bod y ffurflen wedi ei llenwi’n llawn ac yn gywir cyn dychwelyd os gwelwch yn dda. Ni fydd gofyn i chi lenwi ffurflenni pellach.

Ffurflen Archebu / Cyfrinachol

^ Caniatad Rhieni


AR GYFER RHIENI Rydyn ni wrth ein bodd eich bod wedi derbyn y daflen hon, a bod gennych ddiddordeb mewn anfon eich plentyn i un o wersylloedd MEC. Efallai bod gennych rai cwestiynau. Beth yw MEC a phwy sy’n rhedeg y gwersylloedd? Elusen gofrestredig yw Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC) sydd wedi bod yn rhedeg gwersylloedd ers dros 55 o flynyddoedd. Mae holl staff y gwersylloedd yn Gristnogion sydd wedi derbyn gwiriad CRB er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer gweithio mewn gwersyll Cristnogol. Rydyn ni’n sicrhau geirda ar gyfer yr holl weithwyr. Mae’r gweithwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn dilyn polisi diogelu MEC. Bydd person cymorth cyntaf ar bob gwersyll er mwyn sicrhau bod eich plentyn mor ddiogel â phosibl. Beth yw’r nifer o staff i wersyllwr, a sut y bydd fy mhlentyn yn derbyn gofal yn ystod yr wythnos? Bydd tua 1 gweithiwr i bob 3 gwersyllwr. Bydd y gwersyllwyr yn cael eu gosod mewn dorm gyda gwersyllwyr eraill. Bydd o leiaf un swyddog yn derbyn cyfrifoldeb bugeiliol dros bob dorm. Bydd yr arweinwyr a’r caplan hefyd yn helpu i orchuchwylio’r plant. Beth sy’n digwydd yn ystod y gwersyll? Mae ystod eang o weithgareddau ym mhob gwersyll, yn cynnwys, chwaraeon, celf a chref, gemau gwirion, tripiau, tenis bwrdd a nofio. Bydd rhywbeth at ddant pawb, gobeithio. Pan fydd modd byddwn yn defnyddio darparwyr trwyddedig ar gyfer Gweithgareddau Antur. Gyda’r nos bydd adloniant a digon o chwerthin. Bydd amser yn cael ei osod o’r neilltu hefyd i glywed sgyrsiau Cristnogol ac i astudio’r

Beibl mewn grwpiau bach. Dyma sy’n gwneud gwersylloedd MEC yn achlysuron mor arbennig. Beth fydd yn digwydd bob dydd? Bydd bob diwrnod yn wahanol. Ond er mwyn rhoi blas i chi, dyma enghraifft fras: digon o fwyd da, twrnamentau, chwaraeon a gemau, ymlacio a chymdeithasu, crefftau, astudiaethau Beiblaidd yn addas i oed y gwersyllwr, canŵio neu nofio, tripiau, eisteddfod, gemau parti a.... chysgu (gobeithio)...

A Note to Parents English language brochures If you require an English brochure they are available to download from www.emw.org.uk/camps. You can also book online in English for a Welsh camp. If you prefer to receive one through the post, get in touch with the EMW office (01656 655886).


AMODAU A THELERAU 1. CÔD YMDDYGIAD. Fel bod gwersylloedd MEC yn gallu rhedeg yn ddiogel er lles pawb mae rheolau a safonau ymddygiad y disgwyliwn i wersyllwyr eu parchu yn ystod y gwersyll. - Rhaid i bob gwersyllwr gymryd rhan ym mhob gweithgaredd, yn cynnwys y cyfarfodydd dyddiol a’r astudiaethau Beiblaidd. - Disgwylir i bob gwersyllwr ddilyn cyfarwyddiadau’r arweinwyr a’r swyddogion yn ystod y gweithgareddau. - Nid chaiff unrhyw wersyllwr fynd i ystafell gwersyllwr o’r rhyw arall. - Bydd unrhyw wersyllwr sy’n achosi niwed bwriadol i adeilad neu eiddo rhywun arall yn gyfrifol am gost trwsio/adnewyddu. - Ni chaniateir alcohol/ysmygu. - Ni chaniateir defnydd cyfarpar sain/adloniant personol. Rhaid i bob gwersyllwr arwyddo’r datganiad ar y ffurflen archebu, gan ddangos eu parodrwydd i barchu’r Côd Ymddygiad. Bydd ymddygiad bwriadol neu gyson sy’n groes i’r Côd yn gallu arwain at waharddiad o’r gwersyll heb ad-dalu ffioedd. 2. ARCHEBU. Rhaid archebu ar lein neu yn y post. Rhaid talu’r blaendal (ni ellir ei ad-dalu) wrth archebu (a’r bws, os oes angen). Rhaid i’r ffurflen gael ei llenwi’n llawn ac yn onest. Ni dderbynnir ffurflenni os oes gwybodaeth ar goll neu’n gamarweiniol. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i swyddfa MEC (cyn dechrau’r gwersyll) os yw’r anghenion iechyd, addysgol neu ymddygiadol yn newid i’r hyn a ddatgelwyd ar y ffurflen archebu. Byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb o fewn 28 diwrnod. Byddwch yn derbyn llythyr o arweinydd y gwersyll tua mis cyn dechrau’r gwersyll. Rhaid talu gweddill cost y gwersyll erbyn 31 Mai 2013. Gellir talu trwy gerdyn credit/debyd, siec neu ar lein. Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod y gweddill yn cael ei dalu’n brydlon. Os na dderbynnir y gweddill fe ellir canslo eich archeb. 3. CANSLO ARCHEB. Os hoffech chi ganslo eich archeb a/neu archeb bws gofynnir i chi gysylltu â swyddfa MEC yn syth. Bydd cost yr ad-daliad ar raddfa yn dibynnu ar nifer y ddyddiau cyn dechrau’r gwersyll. 56 diwrnod neu ragor 55-29 diwrnod 28-8 diwrnod 7 diwrnod

ad-daliad llawn (heb y blaendal) ad-daliad o 75% (heb y blaendal) ad-daliad o 50% (heb y blaendal) ad-daliad o 25% (heb y blaendal)

Ceir ad-daliad llawn os na fydd y plentyn yn gallu mynychu oherwydd afiechyd ond gofynnir am dystiolaeth. Gofynnir i chi roi gwybod i swyddfa MEC yn syth ac anfon y dystiolaeth i: Gwersylloedd MEC, Bryntirion, Peny-bont ar Ogwr, CF31 4DX. 4. YSWIRIANT. Mae’r gwersylloedd wedi eu gwarchod gan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus MEC. Rydyn ni’n argymell i wersyllwyr gymryd yswiriant gwyliau personol os ydynt yn dymuno. 5. AMDDIFFYN DATA. Bydd MEC yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r gwersyll. Fyddwn ni ddim yn rhannu’r wybodaeth gyda grwpiau eraill, ond efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau eraill MEC. Os nad ydych chi’n dymuno derbyn y wybodaeth hon, gofynnir i chi ysgrifennu at MEC, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX.

Mudiad Efengylaidd Cymru Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4DX Ffôn: 01656 655886 Rhif Elusen gofrestredig: 222407 Ebost: gwersylloedd@mudiad-efengylaidd.org


* Tanysgrifio (4 rhifyn y flwyddyn + postio) - £10.00 * Tanysgrifio Elusennol (4 rhifyn y flwyddyn + postio) - £15.00 Prisiau y rhifyn ar gyfer grwpiau: * 5 rhifyn – £1.90 yr un – £9.50 (+ £1.00 postio) * 10 rhifyn – £1.80 yr un – £18.00 (+ £3.00 postio) * 20 rhifyn – £1.70 yr un – £34.00 (+ £4.00 postio) * 50 rhifyn – £1.30 yr un £65.00 (postio am ddim) Enw: ............................................................................................................................................................................................ Cyfeiriad: ....................................................................................................................................................................................................................... Côd post: ............................. Rhif ffôn: ..................................................... ebost: ..................................................................................................... Sieciau yn daladwy i Mudiad Efengylaidd Cymru os gwelwch yn dda, neu drwy gerdyn credyd/debyd: Rhif cerdyn: ................................................................................................................................................................................................................... Dyddiad Gorffen: ........................... Cychwyn: ......................... Rhif ‘issue’(switch): ......................... Rhif diogelwch 3 digid: ....................... Llofnod: ..................................................................................................................................... Dyddiad: .................................................................. Dychweler i -Llwybrau, M.E.C, Swyddfa y Gogledd, 31 Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, CF57 2EU. llwybrau@mudiad-efengylaidd.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.