NEWID STATWS COFRESTRU
Beth sydd yn y Canllawiau hyn: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Gohirio, Tynnu'n ôl a Throsglwyddo? Cysyniadau allweddol i'w deall Goblygiadau Ariannol
Pwy i'w hysbysu
Mae'r llyfryn hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol, cyngor ac arweiniad ar yr hyn i'w wneud a phwy i'w hysbysu pan eich bod yn ystyried newid eich statws cofrestru yn ystod eich astudiaethau. Fe'ch argymhellir yn gryf i gwrdd ag ymgynghorydd yn y tîm Arian@BywydCampws i sicrhau eich bod yn derbyn cyngor ac arweiniad ar sail eich amgylchiadau unigol.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Gohirio, Tynnu'n ôl a Throsglwyddo?
TROSGLWYDDO
Os ydych yn anhapus ar eich cwrs presennol gallech feddwl am drosglwyddo i gwrs arall ym Mhrifysgol Abertawe, neu drosglwyddo i gwrs mewn sefydliad arall. Bydd angen derbyn caniatâd eich adran gyfredol yn ogystal â’r adran rydych chi eisiau trosglwyddo iddi cyn y gallwch wneud hyn. Gall trosglwyddo cwrs achosi problemau o ran eich cyllid myfyrwyr yn enwedig os yw'r cyrsiau yn wahanol o ran eu hyd (e.e. mae un yn cynnwys blwyddyn sylfaen neu flwyddyn dramor).
GOHIRIO
Mae gohirio’ch astudiaethau’n golygu cymryd amser allan neu atal eich astudiaethau dros dro, fel arfer am resymau personol. Fel rheol gwneir hyn gan fwriadu ailafael yn y cwrs (fel arfer yn y flwyddyn academaidd nesaf). Pan fyddwch yn gohirio'ch astudiaethau fel arfer ystyrir bod eich cyllid myfyrwyr 'ar gadw' am weddill y flwyddyn academaidd ond gall hyn gael effaith fawr ar y cyllid y byddwch yn gymwys i’w dderbyn yn y dyfodol.
TYNNU'N ÔL
Wrth dynnu eich cofrestriad yn ôl rydych yn rhoi’r gorau’n gyfan gwbl i’ch rhaglen astudio a phob uned gysylltiedig â hi. Caiff eich cyllid myfyrwyr ei atal am weddill y flwyddyn ac ystyrir unrhyw flynyddoedd a astudiwyd yn rhai dychwelyd i astudio astudio blaenorol yn y dyfodol.
AILADRODD MODIWLAU
Os bydd angen ailadrodd modiwlau a fethwyd yn ystod blwyddyn astudio ychwanegol efallai y bydd cyllid cynhaliaeth llawn ar gael o hyd ond ystyrir y flwyddyn hon fel eich +1. Caiff eich ffioedd dysgu eu hystyried ar sail pro rata yn dibynnu ar nifer y credydau y bydd angen i chi eu hailadrodd.
Trosglwyddo, Gohirio a Thynnu'n Ôl – Sut i’w wneud hyn Beth bynnag yw eich dymuniad – trosglwyddo i gwrs arall, gohirio’ch astudiaethau neu dynnu eich cofrestriad yn ôl yn gyfan gwbl, eich cam cyntaf yw siarad â’ch Tiwtor Personol am eich sefyllfa. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi drafod eich sefyllfa a cheisio arweiniad ynghylch pa ddewis yw’r gorau, a gallwch gael cymorth ychwanegol os bydd angen. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich penderfyniad, bydd angen i chi gymryd rhan mewn ymgynghoriad Newid Statws Cofrestru yn Hyb y Myfyrwyr. Yn ystod yr ymgynghoriad, byddwch yn trafod y dewisiadau sydd ar gael i chi ac unrhyw oblygiadau a all ddeillio o newid eich statws.
Myfyrwyr yr UE Byddwch yn ymwybodol bod y rheol +1 a nodir ar y dudalen nesaf hefyd yn gymwys i chi o ran y cymorth ffioedd dysgu rydych yn gymwys i’w dderbyn. Yn yr un modd, gall myfyrwyr yr UE hefyd wneud cais am gyllid blynyddoedd ychwanegol ar sail rhesymau personol anorchfygol os yw'n briodol. 1
Cysyniadau Allweddol i'w Deall
Y Rheol +1
Mae gan bob myfyriwr hawl i dderbyn cyllid ffioedd dysgu a chynhaliaeth am hyd eu cwrs, +1 flwyddyn. Gallwch ddefnyddio’r flwyddyn ychwanegol o gyllid os ydych yn gohirio ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn academaidd neu os oes yn rhaid ichi ail-wneud blwyddyn o’ch cwrs.
E.e. cwrs 3 blynedd + 1 flwyddyn ychwanegol = 4 blynedd o gyllid Bydd nifer y blynyddoedd a ystyrir gan eich corff ariannu yn seiliedig ar eich cofrestriad yn y Brifysgol, nid a ydych wedi cwblhau blwyddyn lawn o astudio. E.e. Bydd cael eich cofrestru am ychydig wythnosau yn cyfrif fel un flwyddyn lawn o astudio blaenorol. Fel arfer, ni fydd blynyddoedd astudio blaenorol yn effeithio ar fenthyciadau cynhaliaeth. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cyllid digonol i dalu am hyd cyflawn eich cwrs bydd angen i chi ariannu eich ffioedd dysgu eich hun. (Bydd hyn yn gymwys yn ystod blynyddoedd cynharaf eich cwrs oherwydd bydd eich hawl cyllid yn gymwys ar gyfer blwyddyn olaf eich cwrs newydd, yna gan weithio'n ôl o hynny).
Dyddiad olaf y buoch yn bresennol Wrth ohirio neu dynnu yn ôl o'r Brifysgol bydd angen iddynt adrodd y dyddiad olaf y buoch yn bresennol (darlithoedd, seminarau neu arholiadau) i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Yn dibynnu ar pryd yn union y byddwch yn cwblhau'r dogfennau perthnasol gall y dyddiad hwn wneud gwahaniaeth mawr o ran y ffioedd dysgu y bydd yn rhaid i chi eu talu a'r benthyciad cynhaliaeth y byddwch yn gymwys i’w dderbyn ac yn aml bydd yn arwain at ordaliad a fydd yn gorfod cael ei ad-dalu.
Rhesymau Personol Anorchfygol Os ydych yn teimlo bod rhywbeth sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth wedi cael effaith niweidiol sylweddol ar eich perfformiad neu'ch gallu i astudio ac roedd yn rhaid i chi ohirio eich astudiaethau neu ailadrodd y flwyddyn, yna bydd modd i chi wneud cais am gyllid ychwanegol ar sail Rhesymau Personol Anorchfygol. Gall Rhesymau Personol Anorchfygol gynnwys materion sy'n ymwneud ag iechyd, anabledd, problemau teulu neu brofedigaeth ond nid yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr. Os ydych chi'n meddwl bod hyn yn berthnasol i chi, yna darllenwch ein llawlyfr 'Gwneud Cais am Gyllid Dewisol'. Nid oes unrhyw warant y caiff cyllid ychwanegol ei ddarparu oherwydd bod hyn yn ol disgresiwn eich darparwr cyllid.
Gohirio ar sail materion meddygol
Os ydych chi'n gohirio'ch astudiaethau oherwydd rhesymau meddygol sydd wedi effeithio ar eich gallu i astudio yna bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol i'r Brifysgol er mwyn iddynt gofnodi'r gohirio ar sail materion meddygol. Yn y sefyllfa hon bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dyfarnu 60 diwrnod o gyllid ychwanegol i chi yn Trosglwyddo i raglen astudio rhan-amser awtomatig.
Os ydych chi'n trosglwyddo eich rhaglen astudio o fod yn un amser llawn i un ran amser, yna fe'ch cynghorir i ddarllen y llyfryn 'Trosglwyddo o astudio amser llawn i astudio rhan amser' neu i gysylltu â'r Tîm 2 Arian@BywydCampws.
Goblygiadau Ariannol
Ffioedd Dysgu
Os penderfynwch drosglwyddo i brifysgol arall, gohirio neu dynnu’n ôl o’ch cwrs, bydd swm y ffioedd dysgu a dalwch yn dibynnu ar faint o gyfnod y buoch yn bresennol yn ystod y flwyddyn academaidd. Yn gyffredinol, rhennir y swm taladwy fel a ganlyn:
Tymor 1
Tymor 2
Tymor 3
25%
50%
100%
Os penderfynwch yn gynnar yn y flwyddyn academaidd yr hoffech drosglwyddo i gwrs arall ym Mhrifysgol Abertawe ac y caniateir i chi gychwyn y cwrs newydd o fewn yr un flwyddyn academaidd, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol.
Cyllid Cynhaliaeth Mae cyfanswm y cyllid cynhaliaeth y byddwch yn gymwys i’w dderbyn yn ystod blwyddyn anghyflawn wedi'i gyfrif ar sail pro rata gan ddefnyddio'r dyddiad olaf y buoch yn bresennol. Os caiff myfyriwr ei hysbysu ei fod wedi'i ordalu ac nid oes modd iddo ad-dalu, yna fe'i cynghorir i ddilyn y cyngor canlynol yn dibynnu ar ei amgylchiadau: Tynnu yn ôl - Siaradwch gyda'r adran cyllid myfyrwyr i drefnu ad-daliad misol sy'n fforddiadwy (neu i rewi'r cyfrif nes bod hyn yn bosib) Gohirio - Fel yr uchod - ond dylai myfyrwyr sy'n gohirio fod yn ymwybodol y caiff unrhyw ordaliadau nad ydynt wedi'u had-dalu erbyn iddynt ddychwelyd i'w hastudiaethau eu tynnu o unrhyw hawl fenthyciadau yn y dyfodol. Gohirio ar sail Rhesymau Personol Anorchfygol - Cysylltwch â'r Tîm Arian@BywydCampws oherwydd os oes modd i chi brofi caledi gallwch wneud cais i barhau i dderbyn cyllid dewisol am weddill y flwyddyn academaidd.
ARIANNU GIG
Os ydych chi'n fyfyriwr a ariennir gan y GIG ac rydych chi'n gohirio neu'n tynnu'n ôl o'ch astudiaethau caiff dyfarniad eich Bwrsariaeth ei ailgyfrif ar sail nifer y dyddiau y buoch yn bresennol a bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw gyllid sydd y tu hwnt i'ch hawl wirioneddol.
Cyllid ar gyfer Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Caiff y Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol a'r PLOA eu cyfrif ar sail pro rata gan ddefnyddio'r dyddiad olaf y buoch yn bresennol a nifer y dyddiau rydych wedi bod ar leoliad. Os ydych chi wedi'ch gordalu bydd angen i chi addalu'r gwahaniaeth. Os ydych chi'n ailadrodd y flwyddyn efallai y bydd gennych hawl i dderbyn rhyw Fwrsariaeth neu PLOA o hyd. Caiff y swm byddwch yn gymwys i'w dderbyn ei gyfrif ar yr uchafswm sydd ar gael llai'r swm rydych chi wedi'i dderbyn yn ystod eich blwyddyn ohirio. Os ydych chi wedi cwblhau blwyddyn gyfan ond mae'n rhaid i chi ei hailadrodd, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y Fwrsariaeth na'r PLOA ar gyfer y flwyddyn a ailadroddir. Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe - Os ydych chi'n profi trafferthion ariannol, rydych chi wedi gohirio eich astudiaethau ac rydych chi'n diwallu'r meini prawf arferol gallwch wneud cais i'r Gronfa Cyfle oherwydd fe'ch dyfarnir yn fyfyriwr o hyd. 3
Bwrsariaethau Prifysgol Ysgoloriaethau Rhagoriaeth / Teilyngdod
Caiff Bwrsariaethau'r Brifysgol eu dileu os trosglwyddwch i brifysgol arall, os gohiriwch eich astudiaethau neu os rhowch y gorau i'ch cwrs cyn i'r fwrsariaeth gael ei thalu. Caiff bwrsariaethau eu hatal hefyd ar gyfer unrhyw gyfnodau astudio a ailadroddir. Wedi derbyn dyfarniad, os bydd deiliad yr ysgoloriaeth yn tynnu'n ôl o'r Brifysgol, bydd yn rhaid i'r deiliad ad-dalu unrhyw ddyfarniad y mae'r Brifysgol wedi'i dalu, yn llawn neu'n rhannol, yn ôl penderfyniad y Brifysgol.
Ni fydd gan fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar gwrs amser llawn mewn Addysg Uwch hawl i dderbyn budd-daliadau oni bai eu bod mewn un o'r categorïau eithrio – er enghraifft: rhieni sengl, myfyrwyr ag anabledd, pensiynwyr neu gyplau myfyrwyr gyda phlant.
Buddion
Treth Gyngor
Mae myfyrwyr sy'n gohirio eu hastudiaethau wedi'u hystyried yn fyfyrwyr o hyd felly na fydd eich hawl i dderbyn budd-daliadau yn newid oherwydd y gohirio. Bydd rhoi'r gorau i'ch astudiaethau Prifysgol yn golygu na chewch eich ystyried yn fyfyriwr mwyach ac felly, yn ôl eich amgylchiadau, gallai fod hawl gennych i hawlio budd-daliadau i'ch cynnal eich hun.
Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar gwrs amser llawn dalu treth gyngor. Os oes gennych fwriad i drosglwyddo i gwrs llawn-amser arall, ni fydd hyn yn effeithio ar eich statws fel myfyriwr ac felly ni fydd yn rhaid i chi dalu treth gyngor. Os gohiriwch eich astudiaethau, fel arfer cewch eich trin fel myfyriwr amser llawn o hyd i ddibenion treth gyngor, cyn belled â'ch bod yn bwriadu dychwelyd i astudio'n llawn amser. Os tynnwch yn ôl o’ch astudiaethau Prifysgol byddwch yn colli eich statws myfyriwr ac felly bydd rhwymedigaeth arnoch i dalu treth gyngor. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall fod gennych hawl i gael gostyngiad yn y swm a dalwch. Gall eich cyngor lleol roi cyngor i chi am y swm o dreth gyngor y bydd gofyn i chi ei dalu.
Llety Os ydych wedi llofnodi cytundeb tenantiaeth ond yn meddwl symud allan am eich bod yn gohirio, yn tynnu’n ôl neu'n trosglwyddo i brifysgol arall, bydd angen i chi feddwl am eich ymrwymiad i dalu rhent. Llety'r Brifysgol - Os ydych chi'n gohirio eich astudiaethau ac rydych yn dymuno gadael eich llety'r Brifysgol neu eich bod yn tynnu'n ôl o'ch cwrs bydd yn rhaid i chi gyflwyno 'Ffurflen Gais am gael eich Rhyddhau o'ch Llety' i Wasanaethau Preswyl. Fe'ch cynghorir i gysylltu â nhw drwy accommodation@abertawe.ac.uk a chwblhau'r ffurflen cyn gynted â phosib oherwydd codir 6 wythnos bellach o rent arnoch o'r dydd Gwener ar ôl iddynt dderbyn y ffurflen uchod. Bydd hyn yn eich galluogi i aros yn y llety am y cyfnod hwn er mwyn trefnu cynlluniau llety ar gyfer y dyfodol. Os ydych chi wedi cytuno y gall eich ystafell gael ei dangos i ddarpar denantiaid a deuir o hyd i denant arall cyn eich dyddiad terfynol yna codir ffi amnewid tenantiaeth o £300 arnoch neu weddill y rhent: pa un bynnag yw'r swm is. Llety Preifat - Dylech siarad â'ch landlord yn y man cychwyn. Gallwch gysylltu â Chanolfan Gynghori Undeb y Myfyrwyr drwy ffonio 01792 295821 os oes angen help arnoch i ddeall eich cytundeb tenantiaeth neu i ddelio â'ch landlord. 4
Newid Amgylchiadau - Pwy i’w hysbysu Hyd yn oed os nad ydych chi'n trosglwyddo, gohirio neu’n tynnu'n ôl efallai y byddwch yn profi newidiadau amgylchiadau eraill yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae'n bwysig diweddaru'ch manylion cyn gynted â phosib i wneud yn siŵr fod y wybodaeth amdanoch yn gywir ac yn ddiweddar. Newid Amgylchiadau
Dweud wrth bwy?
Sut i ddweud?
Tynnu’n ôl/Gohirio
Sefydliad
Newid Cwrs
Sefydliad
Newid Sefydliad
Corff Ariannu
Rhaid i chi hysbysu'ch adran am eich bwriad i ohirio neu roi'r gorau i'r Brifysgol a rhaid cwblhau'r gwaith papur angenrheidiol; fel rhan o'r broses bydd y Brifysgol yn hysbysu'r CBM am eich statws newydd, eich 'dyddiad olaf y buoch yn bresennol’ a'r gostyngiad yng nghostau Ffioedd Dysgu (os yn berthnasol) Bydd y brifysgol yn hysbysu'r CBM am eich newid cwrs unwaith y bydd eich ffurflen drosglwyddo astudiaethau wedi'i chyflwyno Mewngofnodwch i'ch cyfrif Cyllid Myfyriwr neu cysylltwch â'ch Corff Ariannu i ddiweddaru eich manylion Prifysgol. Os nad yw eich manylion ‘Cyllid Myfyriwr’ wedi'u diweddaru i'ch Prifysgol newydd wrth gofrestru dewch â'ch gwaith papur gwreiddiol i mewn (y rhai a aseswyd yn erbyn eich hen Brifysgol) i'r Brifysgol gael hysbysu'r CBM am eich cofrestriad a manylion eich cwrs/Prifysgol newydd
Cysylltu â’ch Corff Ariannu Bydd y corff sy’n eich ariannu’n amrywio, yn ôl ble rydych chi’n byw: Student Finance England Cyllid Myfyrwyr Cymru Student Finance Northern Ireland Student Awards Agency For Scotland Gwasanaethau Cyllid Myfyrwyr – y tu allan i’r DU Uned Ddyfarniadau GIG Cymru Cyngor Gofal Cymru
0845 300 5090 www.gov.uk/student-finance 0845 6000 662 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk 0845 602 8845 www.studentfinanceni.co.uk 0300 555 0505 www.saas.gov.uk (+44) (0) 141 243 2370. gov.uk/contact-student-finance-england 029 2090 5380 www.nwsspstudentfinance.wales.nhs.uk/home 029 2078 0698 www.ccwales.org.uk/student-funding/
Budd-daliadau a Chredydau Treth Os bydd unrhyw newid yn eich iechyd, eich cwrs, eich incwm neu eich statws teuluol mae’n bwysig cysylltu â’r asiantaeth berthnasol cyn gynted ag y bo modd i ddiweddaru eich gwybodaeth rhag i chi wynebu cosbau neu ordaliadau.
Treth Gyngor Os byddwch chi neu rywun yn eich teulu’n mynd yn fyfyriwr, neu’n peidio â bod yn fyfyriwr, cofiwch gysylltu â’ch awdurdod lleol i roi gwybod iddynt. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn talu’r dreth gyngor gywir. 5
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Arian@BywydCampws: 01792 606699 Arian.BywydCampws@abertawe.ac.uk Arian@BywydCampws Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr Adeilad Keir Hardie Prifysgol Abertawe Abertawe SA2 8PP www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-a-chymorthariannol
CampusLifeSU
Swansea Money.CampusLife
CampusLifeSU
Money.CampusLife
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras etc. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.
6