Pecyn Cymorth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
Beth sydd ar gael? • Mae cymorth ar gael drwy’r Brifysgol gyfan. Dyma’r pwyntiau allweddol: • Cyswllt penodol yn ystod eich astudiaethau – ar gyfer yr adegau hynny pan na fyddwch yn siŵr beth i’w wneud neu ble i gael help! • Cymorth i sicrhau eich hawl lawn i gyllid myfyrwyr • Blaenoriaeth wrth gael mynediad at Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe i helpu â chostau ychwanegol dros yr haf • Llety drwy gydol y flwyddyn • Gwasanaeth atgyfeirio uniongyrchol i’r Gwasanaeth Lles, y Swyddfa Anableddau a’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd
Beth yw ystyr “wedi ymddieithrio”? Defnyddir y term ‘myfyriwr sydd wedi ymddieithrio’ i gyfeirio at fyfyrwyr ifanc sy’n astudio heb gymorth gan rwydwaith teulu. Nid oes gan fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio berthynas gyfathrebol ag unrhyw un o’u rhieni biolegol, ac yn aml gall hyn gael effaith enfawr arnynt yn ystod eu hastudiaethau. Am y rheswm hwn, mae Prifysgol Abertawe’n cynnig pecyn cymorth i’ch cynorthwyo yn yr amgylchiadau hyn. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r meini prawf uchod ai peidio, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ag un o’n cysylltiadau enwedig.
Beth mae angen i mi ei wneud? • Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib! Eglurwch eich amgylchiadau er mwyn i ni allu trefnu apwyntiad i chi gwrdd ag ymgynghorydd. • Darparwch dystiolaeth i ddangos eich bod wedi ymddieithrio (bydd Cyllid Myfyrwyr angen ei gweld hefyd). Caiff yr union ddogfennaeth sy’n ofynnol ei thrafod pan fyddwch yn cwrdd ag un o’n hymgynghorwyr am y tro cyntaf.
Rhagor o fanylion? Cysylltwch ag un o’r cysylltiadau a enwir isod: Rob Ellis r.j.ellis@abertawe.ac.uk 01792 602979
Rachel Edwards r.l.edwards@abertawe.ac.uk 01792 606571
Neu am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn www.swansea.ac.uk/cy/ israddedig/ffioedd-a-chyllid/myfyrwyrsyddagystyriaethauychwanegol/tudalenweifyfyrwyrsyddwediymddieithrio. CYFRINACHEDD: Mae Arian@BywydCampws yn trin yr holl wybodaeth yn gwbl gyfrinachol. Ar yr adegau hynny pan fydd angen i ni ymgynghori â staff mewn adrannau eraill, ni fyddwn yn gwneud hynny heb gael eich caniatâd ymlaen llaw. *Mae’r wybodaeth hon yn gywir ym mis Awst 2017