Studying elsewhere student funding 201718 cymraeg

Page 1

Astudio Rhywle Arall: Materion Cyllid Myfyrwyr

Erasmus, Blwyddyn Dramor a Lleoliadau Gwaith mewn Diwydiant

Beth sydd yn y Canllawiau hyn:  Myfyrwyr o Gymru a Lloegr  Erasmus (Tymor/Blwyddyn)  Blwyddyn Dramor  Blwyddyn mewn Diwydiant  Gwybodaeth am Gyllid a Ffioedd  Cwestiynau Cyffredin i Fyfyrwyr sy'n Astudio Rhywle Arall  Blwyddyn Academaidd 2017/2018 Gweler ein Canllaw Ariannu i Fyfyrwyr Israddedig i dderbyn gwybodaeth gyffredinol am gyllid myfyrwyr


Astudio Rhywle Arall: Pwy, Pam, Ble? Gwybodaeth bellach…… Beth yw Blwyddyn Dramor?

Gall Swyddfa Gall myfyrwyr gael cyfle i dreulio ychydig amser yn astudio/gweithio tramor mewn prifysgol bartner. Fel arfer bydd myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni gradd pedair blynedd yn treulio blwyddyn gyfan dramor yn y drydedd flwyddyn. Gall myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni gradd tair blynedd dreulio un semester dramor ar leoliad astudio. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn yr opsiwn hwn drafod gyda'r adran, gan y bydd yn rhaid i'r astudio tramor arfaethedig gael ei gymeradwyo'n llawn cyn y lleoliad.

Datblygu Rhyngwladol Prifysgol Abertawe roi gwybodaeth bellach am weithio ac astudio dramor. Ffôn: 01792 606850 E-bost: studyabroad@abertawe.ac.uk

Beth yw Rhaglen Erasmus?

Gall myfyrwyr dreulio amser yn astudio neu'n gweithio mewn gwlad arall yn yr UE fel rhan o Raglen Symudedd Myfyrwyr Erasmus a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae lleoliadau'n para rhwng 3 a 12 mis.

I dderbyn

gwybodaeth am astudio a gweithio dramor wrth ddilyn cwrs a ariennir gan y GIG cysylltwch â'r

Beth yw Blwyddyn mewn Diwydiant?

adran rydych chi'n bwriadu astudio

Hefyd adnabyddir hon yn 'flwyddyn ryngosod' a gall myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau penodol gael cyfle i dreulio blwyddyn yn gweithio gyda sefydliad partner fel ffordd o ennill profiad a sgiliau gwerthfawr.

ynddi.

Sylwer: Fel arfer, dilynir lleoliadau fel rhan o gwrs pedair blynedd a gall fod yn lleoliad gyda thâl neu'n lleoliad di-dâl.

Mae'r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir ym mis Medi 2017 a gall newid.

1


Ffioedd Dysgu

Ffioedd ac Ariannu Ffioedd Dysgu Taliadau Ffioedd Dysgu Prifysgol Abertawe 2017/18 Cynllun Blwyddyn Dramor: Astudio

Myfyrwyr sy’n Byw yng Nghymru

Myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr

15% o’r ffi lawn h.y. £1350

15% o’r ffi lawn h.y. £1350.

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael:

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael

50%

Mae cost y Ffioedd Dysgu ar gyfer blwyddyn dramor/ lleoliad yn amrywio gan fod cynlluniau gwahanol ar gael.

Grant Ffioedd Dysgu ar gael: 50% Blwyddyn Dramor: Gwaith

15% o’r ffi lawn h.y. £1350

15% o’r ffi lawn h.y. £1350.

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael:

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael

50%

Grant Ffioedd Dysgu ar gael: 50% Erasmus:

Ffioedd Dysgu Safonol yn daladwy

Tymor Dramor

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael Grant Ffioedd Dysgu ar gael

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael

Erasmus:

15% o’r ffi lawn h.y. £1350

15% o’r ffi lawn h.y. £1350.

Blwyddyn Dramor

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael:

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael

50%

Ffioedd Dysgu Safonol yn daladwy

Grant Ffioedd Dysgu ar gael: 50% Blwyddyn mewn Diwydiant

20% o’r ffi lawn h.y. £1,800

20% o’r ffi lawn h.y. £1,800

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael: 50%

Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael

Grant Ffioedd Dysgu ar gael: 50% Sylwer: Gall y ffigyrau hyn newid yn unol ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei diweddaru gan Lywodraeth Cymru. Mae cymhwysedd i dderbyn Benthyciadau a Grantiau Ffioedd Dysgu yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd arferol. Gweler ein Canllaw Cyllid i Israddedigion i dderbyn rhagor o wybodaeth.

Mae unrhyw ffioedd sy'n ddyledus yn daladwy i Brifysgol Abertawe.

Wyddech chi.....? Os ydych yn teithio o fewn Ewrop, mae'n bosib y cewch eich yswirio ar gyfer rhai costau meddygol trwy'r Cerdyn Iechyd Ewropeaidd (sydd wedi cymryd lle'r E111!

Cofiwch...... Nid oes angen i chi dalu am y Cerdyn Iechyd Ewropeaidd (EHIC) gallwch ei dderbyn trwy'r GIG

2


Mynediad at Gyllid Cynnal ar gyfer myfyrwyr sy’n Byw yng Nghymru a Lloegr*

Cynllun

Blwyddyn Dramor: Astudio Blwyddyn Dramor: Gweithio Erasmus: Tymor Dramor Erasmus: Blwyddyn Dramor Blwyddyn mewn Diwydiant gyda thâl Blwyddyn mewn Diwydiant heb dâl

Benthyciad Cynhaliaeth

Prawf Modd Grant Cynnal

Grant Symudedd Erasmus

Grant Teithio Ychwanegol

*

Gwiriwch gyda’r darparwr cyllid

 Cyfradd is

*

Gwiriwch gyda’r darparwr cyllid

Gwiriwch gyda’r darparwr cyllid

Gwiriwch gyda’r darparwr cyllid

 Cyfradd is

Gwiriwch gyda’r darparwr cyllid

 Cyfradd is

Gwiriwch gyda’r darparwr cyllid

Grantiau Ychwanegol

** *Mae mynediad at Fenthyciadau a Grantiau Cynhaliaeth yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd arferol. Gweler ein Canllaw Cyllid i Israddedigion i gael rhagor o wybodaeth. **Mae rhai eithriadau i hyn ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn lleoliad di-dâl mewn sefydliadau cyhoeddus/mudiadau gwirfoddol/lleoliadau ymchwil ayyb. Cysylltwch â'r Tîm Arian@BywydCampws i dderbyn gwybodaeth bellach Sicrhewch eich bod yn gwirio gyda’ch darparwr cyllid, gan fod y cyllid ychwanegol a ddarperir yn amrywio ar draws y wlad

Dylech bob amser wirio gyda'ch darparwr cyllid parthed cymhwysedd ar gyfer Cyllid Cynhaliaeth Prawf Modd a Grantiau Atodol a bod y meini prawf ar gyfer derbyn y rhain yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a'r math o leoliad y byddwch yn ei ddilyn.

Mae lefel y Cyllid Cynhaliaeth y byddwch yn ei derbyn yn ystod eich blwyddyn dramor/lleoliad astudio yn dibynnu ar y cynllun sy'n cael ei ddarparu 3


Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cyllid ar gyfer Myfyrwyr sy’n Astudio Rhywle Arall Sut ddylwn i ymgeisio am fenthyciadau a grantiau myfyrwyr?

Dylech gyflwyno cais i'r awdurdod cyllido sef Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England yn y ffordd arferol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi sicrhau bod adran berthnasol y ffurflen gais wedi'i chwblhau gan gynnwys manylion am eich man astudio/gweithio arfaethedig a hyd y lleoliad. Cofiwch nodi Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad 'cartref'; nid oes angen i chi newid hyn i'r brifysgol rydych chi'n teithio iddi.

Sut allaf ymgeisio am y Grant Erasmus?

Faint fyddaf yn ei dderbyn drwy Grant Erasmus?

A fyddaf yn gymwys i dderbyn bwrsariaethau ac ysgoloriaethau'r Brifysgol o hyd?

A oes modd derbyn cymorth o ran talu'r gost o deithio i'm lleoliad? tramor?

Mae'r cynllun Erasmus+ yn cynnig cymorth grantiau i fyfyrwyr am hyd cyfnod eu lleoliad. Bydd Swyddfa Datblygu Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn eich hysbysu pan gaiff eich lleoliad ei gadarnhau a bydd yn cynnig arweiniad ynghylch y grant. Mae'r cyfanswm yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Yn 2016-17, bydd myfyrwyr yn gymwys i dderbyn grantiau o hyd at 330 ewro y mis i astudio, yn dibynnu ar y wlad y byddant yn mynd iddi. Caiff y grant ei dalu mewn dwy ran. Gall y wybodaeth hon newid a chynghorir myfyrwyr i gysylltu â'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol i dderbyn y newyddion diweddaraf. Tra eich bod i ffwrdd o'ch sefydliad cartref byddwch yn gymwys i dderbyn unrhyw fwrsariaethau prifysgol rydych chi'n gymwys i'w derbyn o hyd. Caiff y Fwrsariaeth yn seiliedig ar Incwm/Dilyniant ei chapio i £500 i fyfyrwyr sy'n treulio blwyddyn dramor. Cofiwch y bydd yn rhaid eich bod wedi rhoi eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth gyda'r brifysgol er mwyn derbyn unrhyw fwrsariaeth sy'n seiliedig ar incwm.

Os ydych chi'n teithio i rywle sydd y tu hwnt i gynllun Erasmus efallai y bydd modd i chi ddebryn grant teithio ychwanegol gan eich darparwr cyllid. Mae hyn ar gael i dalu am un daith i leoliad eich blwyddyn dramor ac yn ôl oddi yno. Gwiriwch gyda'ch darparwr cyllid i dderbyn manylion pellach.

I dderbyn gwybodaeth bellach am y Rhaglen Erasmus a'r cyfleoedd eraill i deithio tramor cysylltwch â Swyddfa Datblygu Rhyngwladol Prifysgol Abertawe Ffôn: 01792 606850 E-bost: studyabroad@ abertawe.ac.uk Cofiwch… Efallai y bydd angen i chi brynu eitemau penodol ar gyfer eich rol yn ystod eich lleoliad gwaith megis esgidiau gwaith neu got labord A wyddoch chi…? Os ydych yn teithio o fewn Ewrop, mae'n bosib y cewch eich yswirio ar gyfer rhai costau meddygol trwy'r Cerdyn Iechyd Ewropeaidd (EHIC) Cofiwch… Nid oes angen talu am y Cerdyn Iechyd Ewropeaidd - gallwch ei dderbyn trwy'r GIG

4


Cwestiynau Cyffredin Cyffredinol ar gyfer Myfyrwyr sy’n Astudio Rhywle Arall A fydd angen yswiriant deithio arnaf tra fy mod yn astudio/gweithio tramor?

Mae gan Brifysgol Abertawe bolisi Yswiriant Damweiniau Personol a Theithio sy'n cynnwys pob myfyriwr yn ystod ei flwyddyn dramor. Ceir gwybodaeth bellach ar dudalennau gwe y brifysgol: http://is.gd/GMFCY3

A fydd angen diogelwch yswiriant ychwanegol?

Bydd rhai cyrchfannau yn gofyn eich bod yn prynu diogelwch yswiriant ychwanegol, yn enwedig yng Nghanada ac UDA. Sicrhewch eich bod yn gwirio unrhyw ofynion y bydd eich sefydliad/gwlad westai yn gofyn i chi eu cyflawni. Dylech bob amser sicrhau bod gennych ddiogelwch yswiriant digonol i'ch hun ac i'ch eiddo ble bynnag y bydd eich cyrchfan.

A oes unrhyw gymorth ar gael os byddaf yn profi anawsterau ariannol wrth i mi astudio rhywle arall?

Mae Tîm Arian@BywydCampws yn gweinyddu Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe. Mae hon yn gronfa ddewisol yn seiliedig ar brawf modd y'i bwriadwyd i helpu myfyrwyr i dalu unrhyw gostau annisgwyl a allai godi yn ystod eu hastudiaethau. Yn amodol ar feini prawf cymhwysedd. Mae'n bwysig cofio, tra bod Arian@BywydCampws bob amser yn cynorthwyo myfyrwyr gall materion gwahaniaethau amser ac arferion rhyngwladol gyfyngu ar bryd a sut y gynorthwyo myfyrwyr.

Ble allaf dderbyn gwybodaeth am wlad fy nghyrchfan?

tîm ceisio megis bancio gallwn

Cofiwch… Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod gennych yswiriant deithio ddigonol sy'n cynnwys unrhyw weithgareddau anarferol megis sgïo neu sgwba-blymio!

Cofiwch... Wrth deithio tramor, mae'n syniad da i gadw llungopïau o'ch holl dogfennau pwysig a rhestr o rifau cyswllt os aiff pethau o'u lle.

Mae'r Adran Iechyd: http://is.gd/8PVQpc a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad: http://is.gd/3EkEG5 yn ffynonellau gwybodaeth gwych ar gyfer popeth sy'n ymwneud â theithio; o wybodaeth am frechiadau i arferion lleol neu sefyllfa wleidyddol gwledydd.

5


Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Myfyrwyr sy’n Astudio Rhywle Arall parhad… Beth yw'r ffordd orau o gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau?

A fydd angen eitemau penodol arnaf ar gyfer fy mlwyddyn mewn diwydiant?

A ddylwn gynghori fy manc/cwmni cerdyn credyd fy mod yn astudio tramor?

A oes modd i mi ychwanegu cyfnod o deithio annibynnol tra fy mod tramor?

Ni fydd gan bob cyrchfan fynediad rhwydd at y Rhyngrwyd felly efallai y bydd angen i chi wirio a oes modd i chi ddefnyddio Skype, Facebook ayyb i gadw mewn cysylltiad. Gall defnyddio ffôn symudol mewn gwlad dramor fod yn ddrud iawn felly os ydych chi'n bwriadu defnyddio eich ffôn gwiriwch y gost gan ddarparwr eich gwasanaeth cyn i chi deithio a defnyddiwch wefannau cymharu prisoedd i dderbyn y cynnig gorau.

Mae'n bwysig cofio efallai y bydd angen i chi ddarparu eitemau penodol sy'n ymwneud â'ch lleoliad gwaith megis cot labordy neu esgidiau dur. Os ydych chi'n gweithio mewn swyddfa efallai y bydd yn rhaid i chi ddilyn cod gwisgo. Siaradwch â'ch adran ynghylch yr hyn fydd ei angen arnoch chi fel y gallwch gyllidebu i brynu'r eitemau ychwanegol.

Dylech. Cyn i chi adael ffoniwch eich sefydliadau ariannol i roi'r dyddiadau a lleoliad eich taith dramor iddynt. Mae nifer o fanciau wedi gosod mesurau gwrth-dwyll llym a gall costau tramor achosi rhybudd diogelwch a all rewi eich cyfrif(on) yn amodol arnoch yn dilysu eich lleoliad. Hefyd dylech chi ofyn i'ch banc am rif ffôn y gallwch ei ffonio rhag ofn eich bod yn profi problemau.

Efallai y bydd nifer o fyfyrwyr yn dymuno cael cyfle i ychwanegu teithio annibynnol tra eu bod tramor. Os oes angen i chi gyllidebu o flaen llaw ar gyfer hyn sicrhewch fod aelodau teulu a ffrindiau yn ymwybodol o'ch cynlluniau a sicrhewch fod gennych yswiriant gyflawn ar gyfer unrhyw deithio ychwanegol.

6


I dderbyn gwybodaeth bellach, cysylltwch ag Arian@BywydCampws: 01792 606699 Arian.BywydCampws@abertawe.ac.uk

www.swansea.ac.uk/arian-bywydcampws/

CampusLifeSU

Swansea Money.CampusLife

CampusLifeSU

Money.CampusLife

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras ayyb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.

7


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.