Dealing with debt 16 17 cym

Page 1

Arian@BywydCampws Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras etc. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbynfa BywydCampws.

Ymdopi â Dyled Pam dylwn i ystyried cyngor ar ddyledion? Mae'n anodd iawn delio â phroblemau dyledion parhaus ar incwm myfyriwr wrth hefyd geisio talu costau blaenoriaeth megis rhent/morgais, biliau cyfleustodau, treth y cyngor a bwyd. Os ydych yn cael anhawster talu'r ad-daliadau dyled isafswm, yn ogystal â thalu costau byw o ddydd i ddydd, mae'n bryd i chi geisio cymorth. Bydd cymryd amser i geisio cyngor yn lleddfu'r straen rydych yn ei deimlo o ran eich dyledion, yn sicrhau cyngor gan arbenigwyr dyled ac yn rhoi llwybr amlwg i chi er mwyn bod yn rhydd o ddyledion. Allaf wneud cais am gymorth gan Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe? Efallai y bydd Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe yn gallu helpu yn y tymor byr wrth i chi geisio cyngor a mynd i'r afael â'ch dyledion, ond nid yw ar gael i ad-dalu dyledion parhaus na rhoi cymorth ar gyfer problemau dyled hirdymor. Os ydych yn cael anawsterau ariannol, mae'n werth gwneud cais er mwyn i chi gael asesiad am gymorth, ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o gyfyngiadau'r gronfa fel maen nhw wedi'u nodi uchod. Er eich bod yn gymwys i wneud cais am grant, does dim gwarant y caiff eich cais ei gymeradwyo, felly mae'n bwysig bod eich disgwyliadau'n realistig. Beth yw cwnsela ar ddyledion? Cwnsela ar Ddyledion yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r broses o dderbyn cyngor ar ddyledion. Mae fel arfer yn cynnwys ysgrifennu at yr holl gwmnïau y mae arnoch ddyled iddynt yn gwneud cais i atal yr holl log a thaliadau, a chytuno ar gynllun talu misol sy'n fforddiadwy ar sail eich incwm. Caiff datganiad ariannol (dalen gyllideb) ei gwblhau a'i anfon at y cwmnïau fel tystiolaeth o'r symiau y gallwch fforddio eu talu. Heriwch eich hun i weld a allwch chi weddnewid eich sefyllfa ariannol; does dim rhaid iddo fod yn ddiflas, ac efallai y dewch yn arbenigwr arbed arian. Deallwn y gallai rhai camau ymddangos yn anodd eu cymryd, ond does dim sefyllfa sy'n amhosib ei datrys. Efallai na fydd yn hawdd, a gallai gymryd amser, ond mae'n bosib. A fydd hynny'n effeithio ar fy statws credyd? Bydd derbyn cwnsela ar ddyledion yn cael effaith negyddol ar eich statws credyd. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael anawsterau ad-dalu dyledion a/neu wneud taliadau blaenoriaeth (rhent, cyfleustodau a threth y cyngor) yn cael effaith negyddol ar eu statws credyd bob tro mae taliad yn hwyr. Wrth dderbyn cwnsela ar ddyledion, disgwylir na fyddwch yn cymryd unrhyw gredyd ychwanegol i sicrhau y gallwch weithio tuag at fod yn rhydd o ddyled. Sut gallaf dderbyn cwnsela ar ddyledion? I fanteisio i'r eithaf ar gwnsela ar ddyledion, dylech geisio grymuso'ch hun drwy gael rheolaeth dros eich arian. Nid yw hyn yn golygu nad oes cymorth a chefnogaeth ar gael, ac mae nifer o sefydliadau yn darparu cyngor diduedd AM DDIM. Ddylai FYTH fod angen i chi dalu am gyngor ar ddyledion. Y Llinell Ddyled Genedlaethol Mae gan y Llinell Ddyled Genedlaethol ystod lawn o adnoddau a thaflenni cymorth ar ei gwefan (www.nationaldebtline.org) yn ogystal ag ymgynghorwyr wedi'u hyfforddi'n llawn y gallwch siarad â nhw.


Mae'n rhad ac am ddim i gysylltu â'r Llinell Ddyled Genedlaethol am gymorth a chefnogaeth dros y ffôn (0808 808 4000) a gallwch hefyd ofyn am gopi am ddim o'r pecyn Dealing with your Debts. Gall myfyrwyr sydd am fynd i'r afael â'u dyledion eu hunain ddefnyddio'r wefan My Money Steps i'w harwain a'u cefnogi drwy'r broses o ddelio â dyledion (www.mymoneysteps.org). Mae'r gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac yn syml ei ddefnyddio. Mae'n darparu cyngor arbenigol ar ddyledion ar-lein, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. StepChange Mae StepChange (y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr, neu CCCS, gynt) yn sefydliad arall sy'n gallu darparu cyngor cyfrinachol am ddim dros y ffôn. Gallwch fynd i'w gwefan www.stepchange.org neu eu ffonio ar 0800 138 1111 (mae'n rhad ac am ddim i ffonio'r rhif hwn o ffonau symudol a llinellau tir). Gallant hefyd ddarparu cefnogaeth er mwyn i bobl allu rheoli'u cyllid eu hunain, sydd ar gael yn www.stepchange.org/Debtremedy. Cyngor Ar Bopeth (CAB) Os teimlwch y byddech yn elwa o gymorth un i un er mwyn mynd i'r afael â'ch amgylchiadau, efallai byddai'n werth cysylltu â'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol. Os na allant ddarparu'r cymorth hwn eu hunain, dylent fod yn ymwybodol o'r elusennau lleol sy'n gallu gwneud hynny, a'ch rhoi ar y trywydd iawn. I ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol, ewch i www.citizensadvice.org.uk/cymraeg. Eraill Dyma rai asiantaethau eraill sy'n gallu darparu cyngor am ddim ar ddyledion:  Debt Advice Foundation: am ragor o fanylion, ewch i www.debtadvicefoundation.org  Money Advice Trust Cashflow: Am ragor o fanylion, ewch i www.cashflow.uk.net. 10 Awgrym Gorau i fynd i'r afael â'ch dyledion gan Arian@BywydCampws 1. Peidiwch â chynhyrfu! Wynebwch eich dyledion a pheidiwch â chuddio'ch pen yn y tywod, fydd y dyledion ddim yn diflannu oni bai eich bod yn gwneud rhywbeth amdanynt. 2. Rheolwch eich arian. Gwiriwch eich cyfriflenni banc, ble mae eich arian yn mynd? 3. Ydych chi'n gwario gormod? Oes modd gwella'ch incwm? 4. Oes rheswm pam rydych yn gwario gormod? 5. Peidiwch BYTH â thalu am gyngor ar ddyledion! 6. Lluniwch gyllideb – os nad oes angen rhywbeth arnoch, peidiwch â'i brynu! Gwnewch ein modiwlau Gallu Ariannol ar-lein yn http://campuslifemoneymodules.weebly.com/ 7. Gwiriad budd-daliadau – gallwch gwblhau gwiriad cyflym yn http://www.turn2us.org.uk/benefits_search.aspx i sicrhau eich bod yn derbyn popeth mae gennych hawl iddo. 8. Ymunwch â'r Cheap Energy Club ar wefan Money Saving Expert i sicrhau eich bod ar y tariff ynni rhataf sydd ar gael i chi – www.moneysavingexpert.com/cheapenergyclub. 9. Oes unrhyw faterion emosiynol neu seicolegol sydd wedi achosi i chi fynd i ddyled? Neu ydy'ch dyledion yn achosi straen a phryder ychwanegol i chi? Cysylltwch â Lles@BywydCampws am gyngor a chymorth. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.swansea.ac.uk/wellbeing-campuslife/ neu ffoniwch nhw ar 01792 295592. 10. Ewch ati i leihau costau siopa am fwyd drwy roi cynnig ar y Downshift Challenge http://www.moneysavingexpert.com/shopping/downshift-challenge/. Yn aml mae nwyddau brand archfarchnadoedd cystal â nwyddau brandiau mawr, ond fel arfer yn hanner y pris. CYFRINACHEDD: Mae tîm Arian@BywydCampws yn trin yr holl wybodaeth rydych yn ei rhoi iddynt yn hollol gyfrinachol. Os bydd angen i ni ymgynghori â staff mewn adrannau eraill, fyddwn ni ddim yn gwneud hynny heb gael eich caniatâd ymlaen llaw. *Gwybodaeth yn gywir ym mis Medi 2016.

money.campuslife@abertawe.ac.uk


01792 606699 www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-bywydcampws-a-chymorth-ariannol/


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.