Funding for eu students 201617 cymraeg

Page 1

ARIANNU AR GYFER MYFYRWYR O’R UNDEB EWROPEAIDD (UE) Beth sydd yn y Canllawiau hyn:  Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2016/17

 Cyrsiau Myfyriwr Israddedig, Cyrsiau a ariennir gan GIG a Chyrsiau Meddygaeth i Raddedigion yng Nghymru  Cwestiynau Cyffredin i Ddarpar Fyfyrwyr o'r UE  Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr


Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2016/17 Myfyrwyr o'r UE sy'n mynychu Sefydliad yng Nghymru (Cyrsiau Israddedig) Enw'r Benthyciad / Grant

Uchafswm y Benthyciad / Grant £3,900

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Dylai myfyrwyr sy'n mynychu sefydliad yn Lloegr, yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon fynd i wefannau ariannu gwledydd eu hunain i dderbyn gwybodaeth am eu hawliau.

Pwy sy’n Gymwys?

Myfyrwyr israddedig 'Undeb Ewropeaidd' amser llawn

Oes Prawf Modd? 

Angen ei ad-dalu?

Sut gaiff ei dalu?

Yn uniongyrchol i'r Brifysgol   Grant Ffioedd Hyd at Myfyrwyr israddedig 'Undeb Ewropeaidd' amser Yn Dysgu uchafswm o llawn uniongyrchol £5,100 i'r Brifysgol Dylai myfyrwyr israddedig nas ariennir gan y GIG sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe gyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru

Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2015/2016 Myfyrwyr o'r UE sy'n mynychu Sefydliad yng Nghymru (Cyrsiau GIG) Enw'r Benthyciad / Grant

Uchafswm y Benthyciad / Grant Hyd at y swm a godir

Dyfarniad ffioedd yn unig GIG

Pwy sy’n Gymwys?

Myfyrwyr amser llawn o'r UE sy'n mynychu cwrs israddedig a ariennir gan y GIG

Oes Prawf Modd? 

Angen ei ad-dalu?

Sut gaiff ei dalu?

Yn uniongyrchol i'r Brifysgol Os ydych chi'n astudio ar gwrs GIG ym Mhrifysgol Abertawe dylech ymgeisio ar-lein: www.nhsbsa.nhs.uk/ Students/4002.aspx

Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2015/2016 Myfyrwyr yr UE sy'n mynychu Sefydliad yng Nghymru (Meddygaeth i Raddedigion) – Blwyddyn 1 Enw'r Benthyciad / Grant Benthyciad Ffioedd Dysgu

Uchafswm y Benthyciad / Grant Hyd at £5,535

Pwy sy’n Gymwys?

Oes Prawf Modd?

Angen ei ad-dalu?

Sut gaiff ei dalu?

Myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion yr UE amser llawn

Yn uniongyrchol i'r Brifysgol Amherthnasol

Grant Ffioedd Ddim ar gael Amherthnasol Amherthnasol Dysgu Bydd yn rhaid i bob myfyriwr Meddygaeth i Raddedigion ariannu'r diffyg arian nad yw ffi y benthyciad yn ei dalu ei hun bydd y swm hyd at £3,465

Blwyddyn 2, 3 a 4 Enw'r Benthyciad / Grant

Uchafswm y Benthyciad / Grant

Pwy sy’n Gymwys?

Oes Prawf Modd?

Angen ei ad-dalu?

Sut gaiff ei dalu?

1


Benthyciad Ffioedd Dysgu

£5,535

Myfyrwyr amser llawn yr UE sy'n mynychu'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion

Yn uniongyrchol i'r Brifysgol Yn uniongyrchol i'r Brifysgol

  Bwrsariaeth Hyd at £3,465 Myfyrwyr amser llawn yr UE sy'n mynychu'r cwrs ffioedd Meddygaeth i Raddedigion Meddygaeth i Raddedigion y GIG Os ydych chi'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe dylech gyflwyno cais i'r tîm Cyllid Myfyrwyr yr UE (a leolir yn Lloegr) am y Benthyciad Ffioedd ac i Swyddfa Bwrsariaeth GIG yng Nghymru ar gyfer y Fwrsariaeth Ffioedd

Ewch i'r wefan www.gov.uk/studentfinance i dderbyn gwybodaeth bellach neu ffoniwch swyddfa Bwrsariaeth GIG yng Nghymru ar 029 2019 6167.

2


Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr yr UE Faint fydd y Ffioedd Dysgu?

Pryd y dylwn wneud cais?

Ble a sut ddylwn i wneud cais?

A wyddoch chi.....? Fel myfyriwr yr Undeb Ewropeaidd (UE) pan fyddwch yn mynd i brifysgol mewn gwlad Undeb Ewropeaidd arall mae gennych hawl i dalu'r un ffi cwrs a gwladolion. Codir Ffioedd Dysgu o £9,000 ar bob myfyriwr israddedig 'cartref' neu o'r Undeb Ewropeaidd sy'n cychwyn ym mlwyddyn academaidd 2016/17. Fodd bynnag, gall myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru wneud cais am Grant Ffioedd Dysgu i dalu am ran o'r gost. Fel arfer, mae ceisiadau'n agor ym mis Chwefror. Cadwch lygad ar wefan eich darparwr cyllid, a chyflwyno'ch cais cyn gynted ag y bo modd. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig am nad oes modd i fyfyrwyr o'r UE ymgeisio ar-lein ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen EU16N. Bydd myfyrwyr a ariennir gan GIG yn derbyn gwybodaeth am geisio am gyllid pan gânt eu derbyn ar y cwrs. Os ydych chi'n bwriadu astudio yng Nghymru Benthyciad Ffioedd Grant Ffioedd

Cyflwynwch gais i*:

A wyddoch chi.....? www.gov.uk/studentfinance www.gov.uk/studentfinance

Dyfarniad Cyflwynwch gais i'r GIG yng Nghymru Ffioedd yn Unig Ffôn: 0290 376 854 y GIG * Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dosbarthiad a gofnodwyd wrth anfon unrhyw ffurflenni cais neu ddogfennau angenrheidiol. Bydd hyn yn rhoi prawf eich bod wedi anfon eich cais, a bod y cais wedi'i dderbyn.

Faint o gyllid y bydd hawl gennyf ei dderbyn?

Sut a phryd fydd y benthyciadau/grantia u ffioedd dysgu yn cael eu talu?

A oes unrhyw amgylchiadau lle y gallwn fod yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at gostau byw?

Mae'n rhaid i chi wneud cais i Student Finance England am fenthyciad ffioedd dysgu a/neu grant hyd yn oed os ydych chi'n bwriadu astudio yng Nghymru

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn benthyciad ffioedd neu grant ffioedd yn dibynnu ar eich cwrs. Gweler uchod. Fel Myfyriwr o'r UE bydd hawl i chi dderbyn cymorth ar gyfer costau byw os ydych chi'n diwallu meini prawf penodol yn unig. Gweler isod. Ar ôl i chi gwblhau'r broses cyflwyno cais byddwch yn derbyn hysbysiad ariannol a fydd yn nodi'r dyddiadau pan fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn talu'r taliadau i'ch sefydliad yn uniongyrchol. Bydd y GIG yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r fwrsariaeth ffioedd a gaiff ei thalu i'r sefydliad yn uniongyrchol.

Ni fydd y mwyafrif o fyfyrwyr o wlad yn yr Undeb Ewropeaidd yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chostau byw, fodd bynnag, os ydych chi wedi bod yn y DU ers sawl blwyddyn ac os ydych chi'n diwallu'r meini prawf llym penodol efallai y bydd modd i chi gael eich ystyried yn fyfyriwr cartref yn hytrach na myfyriwr o'r UE a bydd modd i chi dderbyn cyllid cynhaliaeth. Efallai y bydd cymorth hefyd ar gael os ydych chi'n weithiwr mudo o wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir neu os ydych yn blentyn i weithiwr Twrcaidd yn y DU. Cewch wybodaeth bellach am gymhwysedd i dderbyn cymorth tuag at gostau byw trwy gysylltu â'r Tîm Arian@BywydCampws, trwy fynd i www.direct.gov.uk a dilyn y dolenni perthnasol ar gyfer myfyrwyr o'r UE neu gallwch gysylltu a thîm yr UE ar 0141 243 3570.

Dylai myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a ariennir gan GIG ymgeisio drwy'r system Fwrsariaeth ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://www.nhsbsa.n hs.uk/Pensions.aspx

Cofiwch......! Bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am bob blwyddyn o'ch cwrs Am wybodaeth sy'n berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr, ewch i www.nhsbsa.nhs. uk/students 3


Beth os nad wyf yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chostau byw? Beth os nad wyf yn siŵr i ba Brifysgol hoffwn i fynd neu ba gwrs hoffwn ei astudio?

Os nad ydych chi'n diwallu'r gofynion preswylio i helpu gyda'ch costau byw mae'n bwysig eich bod yn ystyried sut byddwch yn diwallu’r holl gostau wrth astudio.

Mae angen i chi nodi'ch dewis cyntaf o brifysgol a chwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch newid y manylion hyn. Byddem yn eich cynghori i wneud cais am gyllid fel hyn i sicrhau bod eich asesiad wedi'i gwblhau cyn dechrau'r tymor. Peidiwch â phoeni os byddwch yn newid eich meddwl am fynd i'r brifysgol, mae modd canslo'ch cais yn ddiweddarach.

I dderbyn gwybodaeth bellach am y meini prawf cymhwysedd at ddibenion asesiadau benthyciadau, grantiau a bwrsariaeth GIG ar gyfer ffioedd dysgu

Faint fydd byw ac astudio yn Abertawe yn ei gostio?

Am ragor o wybodaeth am gostau byw a chostau eraill y gallech eu hwynebu ar eich cwrs, ewch i'n tudalen we: www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/costof-living/

A oes unrhyw gymorth ar gael os ydw i'n profi anhawster ariannol wrth astudio?

Mae myfyrwyr yr UE sydd wedi'u cofrestru yn gymwys i wneud cais i Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe. Fodd bynnag, mae'n amodol ar feini prawf a gweithdrefnau asesu; a disgwylir i bod pob ymgeisydd wedi gwneud darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer yr holl ffioedd dysgu, costau'r cwrs a'r costau byw cyn iddynt ddechrau eu cwrs. Ceir gwybodaeth bellach a'r ffurflen gais ar dudalennau Arian@BywydCampws ar wefan Prifysgol Abertawe.

Astudio Blaenorol Fel arfer, cewch gyllid myfyrwyr ar gyfer eich gradd gyntaf yn unig. Os ydych chi wedi dilyn cwrs Addysg Uwch yn y gorffennol (Gradd, HND,HNC, Gradd Sylfaen ayyb.) mae'n debyg y bydd yn effeithio ar eich hawl i Fenthyciadau Ffioedd Dysgu yn y dyfodol hyd yn oed os oeddech wedi mynychu'r cwrs am un diwrnod yn unig. Os ydych chi'n bwriadu astudio ar gwrs a ariennir gan y GIG ond eich bod eisoes yn meddu ar radd nad yw'n radd GIG efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Dyfarniad Ffioedd yn Unig y GIG o hyd. Yn unol â rheolau astudio blaenorol cyfredol, cewch dderbyn cymorth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am nifer benodol o flynyddoedd yn unig. Yn syml, mae gan bob myfyriwr hawl i dderbyn cyllid am hyd cyfan ei gwrs ac un flwyddyn yn ychwanegol. Bwriedir i'r flwyddyn ychwanegol ddarparu ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n gorfod newid cwrs neu drosglwyddo. Felly, os ydych yn astudio ar gwrs 3 blynedd, byddai gennych hawl i: 3 + 1 = 4 blynedd. Gall y rheolau am astudio blaenorol fod yn gymhleth iawn, a gallant ddibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Os ydych wedi astudio o'r blaen, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol i drafod eich sefyllfa unigol gydag ymgynghorydd.

cysylltwch â'r Tîm Arian@BywydCampws

Anorchfygol Rhesymau Personol Anorchfygol Os oes rhaid i chi ail-wneud blwyddyn astudio o ganlyniad i'r fath resymau, mae'n bosib y cewch dderbyn blwyddyn ychwanegol o gyllid heb effeithio ar eich blwyddyn ychwanegol.

I dderbyn gwybodaeth bellach siaradwch â'r Ymgynghorydd Arian@BywydCampws i ofyn am daflen wybodaeth "Newid Eich Statws Cofrestru".

Cysylltwch ag Arian@BywydCampws ar 01792 606699 neu drwy e-bost: Money.UniLife@abertawe.ac.uk

4


Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr Beth fyddaf yn ei ad-dalu? 

Mae benthyciadau myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr 'cartref' a myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd sy'n astudio mewn prifysgol (gan ddibynnu ar fodloni'r meini prawf). Ar ôl i chi adael y brifysgol, bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r benthyciadau a gawsoch yn ystod eich cyfnod astudio. Cofiwch, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yr UE yn derbyn y cyllid Ffioedd Dysgu yn unig. Y mae dwy ran i'ch benthyciad myfyriwr: o Benthyciad Cynhaliaeth (os yn gymwys - gweler tudalen 3 am fanylion pellach) o Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Pryd fyddaf yn dechrau ad-dalu'r benthyciad?   

Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu'ch benthyciad nes eich bod yn ennill dros £21,000. Bydd ad-daliadau'n cychwyn ar ddechrau'r flwyddyn dreth (y mis Ebrill ar ôl i chi adael y brifysgol). Os bydd eich cyflog yn gostwng o dan £21,000 (er enghraifft, os ydych yn cymryd saib o'ch gyrfa, neu os ydych yn ddi-waith), caiff yr ad-daliadau eu hatal. Ni fyddant yn ailgychwyn eto tan eich bod yn ennill dros £21,000.

Faint y bydd rhaid i mi ei dalu?  

Rydych yn talu 9% o bopeth y byddwch yn ei ennill dros £21,000. Bydd eich ad-daliadau'r un peth, faint bynnag yr ydych yn ei fenthyca, gan y cyfrifir yr ad-daliad ar sail faint yr ydych yn ei ennill; yn hytrach na swm eich benthyciad. Fodd bynnag, os ydych wedi benthyca mwy, byddwch yn ad-dalu'r benthyciadau am gyfnod hwy. Ar ôl 30 o flynyddoedd, faint bynnag o'r benthyciad sydd wedi cael ei ad-dalu, caiff gweddill y ddyled ei ganslo.

Enghreifftiau o ad-daliadau Cyflog £25,000 £30,000 £35,000 £40,000 £50,000

Faint o'r cyflog y tynnir 9% ohono £4,000 £9,000 £14,000 £19,000 £29,000

Ad-daliad misol £30.00 £67.50 £105.00 £142.50 £217.50

Sut y gwneir yr ad-daliadau? 

Didynnir ad-daliadau benthyciadau o'ch cyflog, fel arfer trwy'r system dreth TWE.

Faint o log a godir? Incwm Tra eich bod yn astudio a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael y coleg neu'r brifysgol £21,000 neu'n llai

Cyfradd Log Cyfradd Chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu) + 3% Cyfradd Chwyddiant

rhwng £21,000 a £41,000

Cyfradd Chwyddiant + hyd at 3% (ar raddfa raddol) Cyfradd Chwyddiant + 3%

£41,000 neu'n fwy

Ni fydd angen ad-dalu unrhyw grantiau, bwrsariaethau nac ysgoloriaethau a delir i chi tra eich bod yn y brifysgol

Y disgwyl yw mai cyfran fechan iawn o fyfyrwyr a fydd yn ad-dalu eu benthyciadau'n llawn. Felly, gall fod yn ddefnyddiol i weld hyn yn dreth 30 mlynedd, ac nid yn fenthyciad y mae'n rhaid ei ad-dalu'n llawn.

Ni chofnodir benthyciadau myfyrwyr ar gofnodion credyd, felly ni fydd bod â benthyciad myfyriwr yn effeithio ar eich statws credyd

Sylwer: Mae'r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir ym mis Medi 2015 a gall fod yn destun i newidiadau.

5


Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Arian@BywydCampws: 01792 606699 Money.UniLife@abertawe.ac.uk www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-a-chymorthariannol

CampusLifeSU

Swansea Money.CampusLife

CampusLifeSU

Money.CampusLife

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras ayyb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000

6


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.