Funding for eu students 201718 cymraeg

Page 1

CYLLID AR GYFER MYFYRWYR O'R UNDEB EWROPEAIDD (UE)

Beth sydd yn y Canllawiau hyn:  Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2017/18  Cyrsiau Israddedig, y GIG a

Meddygaeth i Raddedigion yng Nghymru  Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr  Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr


Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2017/18 Myfyrwyr o'r UE sy'n astudio mewn Sefydliad yng Nghymru (Cyrsiau Israddedig)

Dylai myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliad yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fynd i wefannau cyllido'r gwledydd hynny am wybodaeth am eu hawliau i gyllid.

Enw'r Uchafswm y Pwy sy’n Gymwys? Prawf Angen ei adSut gaiff ei dalu? Benthyciad/Grant Benthyciad/Grant Modd? dalu?   Benthyciad £4,046 Myfyrwyr israddedig amser llawn o'r UE Yn uniongyrchol Ffioedd Dysgu i'r Brifysgol   Grant Ffioedd £4,954 Myfyrwyr israddedig amser llawn o'r UE Yn uniongyrchol Dysgu i'r Brifysgol Dylai myfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe wneud cais i Wasanaethau Cyllid Myfyrwyr: www.gov.uk/studentfinance

Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2017/2018 Myfyrwyr o'r UE sy'n astudio mewn sefydliad yng Nghymru (Cyrsiau'r GIG) Enw'r Uchafswm y Pwy sy’n Gymwys? Prawf Angen ei adSut gaiff ei Benthyciad/Grant Benthyciad/Grant Modd? dalu? dalu?   Cynllun Hyd at y swm a Myfyrwyr amser llawn yr UE ar gwrs y Yn Bwrsariaeth GIG godir GIG sy'n ymrwymo i weithio yng uniongyrchol Cymru - Dyfarniad Nghymru i'r Brifysgol Ffioedd yn unig Os ydych yn bwriadu astudio cwrs a ariennir gan y GIG ym Mhrifysgol Abertawe a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru, dylech wneud cais ar-lein yn: www.nwsspstudentfinance.wales.nhs.uk Os na allwch ymrwymo i weithio yng Nghymru, gallwch wneud cais am gyllid Ffioedd Dysgu drwy Wasanaethau Cyllid Myfyrwyr, fel uchod.

Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2017/18 Myfyrwyr o'r UE sy'n astudio mewn sefydliad yng Nghymru (Meddygaeth i Raddedigion) Blwyddyn 1 Enw'r Benthyciad/Grant Benthyciad Ffioedd Dysgu

Uchafswm y Benthyciad/Grant Hyd at £5,535

Pwy sy’n Gymwys? Myfyrwyr amser llawn o'r UE ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion

Prawf Modd? 

Angen ei ad-dalu? 

Sut gaiff ei dalu? Yn uniongyrchol i'r Brifysgol AMH.

Grant Ffioedd Ddim ar gael AMH. AMH. Dysgu Bydd angen i bob myfyriwr ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion dalu'r gwahaniaeth rhwng y ffioedd a'r benthyciad ei hun bydd y swm hyd at £3,465

Blynyddoedd 2, 3 a 4 Enw'r Benthyciad/Grant Benthyciad Ffioedd Dysgu

Uchafswm y Benthyciad/Grant £5,535

Pwy sy’n Gymwys?

Prawf Modd? 

Angen ei ad-dalu? 

Sut gaiff ei dalu? Myfyrwyr amser llawn o'r UE sy'n astudio'r Yn cwrs Meddygaeth i Raddedigion uniongyrchol i'r Brifysgol   Bwrsariaeth Hyd at £3,465 Myfyrwyr amser llawn o'r UE sy'n astudio'r Yn Meddygaeth i cwrs Meddygaeth i Raddedigion uniongyrchol Raddedigion y GIG i'r Brifysgol Os byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe, dylech wneud cais i dîm Cyllid Myfyrwyr yr UE (a leolir yn Lloegr) am y Benthyciad Ffioedd, ac i Swyddfa Bwrsariaeth y GIG yng Nghymru am y Fwrsariaeth Ffioedd.

Ewch i'r wefan www.gov.uk/studentfinance am ragor o wybodaeth, neu ffoniwch swyddfa Bwrsariaeth y GIG yng Nghymru ar 029 2090 5380. 1


Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Fydd penderfyniad y DU i adael yr UE yn effeithio ar fy hawl i gyllid?

Faint fydd y Ffioedd Dysgu?

Pryd dylwn i wneud cais?

Ble a sut dylwn i wneud cais?

Bydd myfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs yn 2017/18 neu 2018/19 yn dal i allu gwneud cais am fenthyciadau a grantiau myfyrwyr am weddill eu cyrsiau, hyd yn oed os bydd y cwrs yn gorffen ar ôl i'r DU adael yr UE. Nid yw cyllid ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dechrau eu hastudiaethau o 2019/20 wedi'i gadarnhau eto. Fel myfyriwr o'r UE, os ydych yn astudio mewn prifysgol mewn gwlad arall yn yr UE, bydd gennych hawl i dalu'r un ffi am y cwrs â dinesydd y wlad honno. Codir Ffioedd Dysgu o £9,000 ar bob myfyriwr israddedig 'cartref' ac o'r UE sy'n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2017/18. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ar gwrs heb ei ariannu gan y GIG/Meddygaeth i Raddedigion sy'n astudio yng Nghymru wneud cais am Grant Ffioedd Dysgu i dalu rhan o'r gost. Fel arfer, mae ceisiadau'n agor ym mis Ebrill. Cadwch lygad ar wefan eich darparwr cyllid, a gwneud cais cyn gynted â phosib. Bydd angen cyflwyno cais papur achos nad oes modd i fyfyrwyr o'r UE wneud cais ar-lein eto. Y ffurflen mae angen ei chwblhau yw EU17N. Bydd myfyrwyr a ariennir gan y GIG yn derbyn gwybodaeth am wneud cais am gyllid pan gânt eu derbyn ar y cwrs. Os bwriadwch astudio yng Nghymru

Cyflwynwch gais i*:

Benthyciad Ffioedd

www.gov.uk/studentfinance

Grant Ffioedd

www.gov.uk/studentfinance

Dyfarniad Ffioedd yn Unig y GIG

Cyflwynwch gais i GIG Cymru Ffôn: 029 2090 5380

* Cofiwch ddefnyddio dosbarthiad a gofnodwyd wrth anfon unrhyw ffurflenni cais neu ddogfennau angenrheidiol. Bydd hyn yn brawf bod y cais wedi’i anfon a’i dderbyn.

Sut a phryd caiff y benthyciadau/grantiau ffioedd dysgu eu talu?

Oes unrhyw amgylchiadau lle gallwn fod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau byw?

Ar ôl cwblhau'r broses gwneud cais, byddwch yn derbyn hysbysiad ariannol a fydd yn nodi'r dyddiadau pan fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gwneud y taliadau'n uniongyrchol i'ch sefydliad. Bydd y GIG yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r fwrsariaeth ffioedd, a gaiff ei thalu'n uniongyrchol i'r sefydliad.

Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr o wledydd eraill yr UE yn gymwys i gael cymorth gyda chostau byw. Fodd bynnag, os ydych wedi bod yn y DU am nifer penodol o flynyddoedd ac rydych yn bodloni meini prawf caeth penodol o rhan preswylio, mae'n bosib y gellir eich ystyried yn fyfyriwr cartref yn hytrach nag yn fyfyriwr o'r UE a derbyn cyllid cynhaliaeth. Gall cymorth fod ar gael hefyd os ydych yn weithiwr mudol (neu'n berthynas briodol gweithiwr o'r fath) os ydych o wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, neu'n blentyn gweithiwr o Dwrci yn y DU.

Wyddech chi.....? Mae'n rhaid i chi wneud cais i Wasanaethau Cyllid Myfyrwyr yn Lloegr, am fenthyciad a/neu grant ffioedd, hyd yn oed os bwriadwch astudio yng Nghymru

Pwysig…..! Os ydych ar gwrs a ariennir gan y GIG, mae dau lwybr cyllido ar gael. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth: www.swansea.ac.uk/ undergraduate/feesandfunding/studentloans andgrants/nhsfundin g

Cofiwch......! Bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am bob blwyddyn o'ch cwrs

Gellir cael rhagor o wybodaeth am hawl i gael cymorth gyda chostau byw drwy gysylltu â'r tîm Arian@BywydCampws, mynd i wefan www.gov.uk a dilyn y dolenni priodol ar gyfer myfyrwyr o'r UE, neu gallwch gysylltu â thîm yr UE ar 0141 243 3570.

2


Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf preswylio i gael cymorth gyda chostau byw, mae'n bwysig eich bod yn ystyried sut rydych yn bwriadu talu'ch holl dreuliau wrth astudio.

Beth os na fyddaf yn gymwys i gael cymorth gyda chostau byw?

Mae angen i chi nodi'ch dewis cyntaf o brifysgol a chwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch newid y manylion hyn. Byddem yn eich cynghori i wneud cais am gyllid fel hyn i sicrhau bod eich asesiad wedi'i gwblhau cyn dechrau'r tymor.

Beth os nad wyf yn siŵr i ba Brifysgol hoffwn i fynd neu ba gwrs hoffwn ei astudio?

Peidiwch â phoeni os byddwch yn newid eich meddwl am fynd i'r brifysgol, mae modd canslo'ch cais yn ddiweddarach.

I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwyso at ddibenion benthyciad neu grant ffioedd dysgu ac asesiadau bwrsariaeth y GIG, cysylltwch â thîm

Beth fydd costau byw ac astudio yn Abertawe?

Am ragor o wybodaeth am gostau byw a chostau eraill y gallech eu hwynebu ar eich cwrs, ewch i'n tudalen we: www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/costof-living/

Oes unrhyw gymorth ar gael os bydd gennyf broblemau ariannol yn ystod fy astudiaethau ?

Mae hawl gan fyfyrwyr o'r UE sydd wedi'u cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe i wneud cais am arian o Gronfa Cyfle'r Brifysgol. Fodd bynnag, mae meini prawf a gweithdrefnau'n berthnasol; disgwylir i’r holl ymgeiswyr wneud trefniadau ariannol digonol i dalu'r holl ffioedd dysgu, costau'r cwrs a chostau byw cyn dechrau eu cwrs. Mae rhagor o wybodaeth a'r ffurflen gais ar gael ar dudalennau Arian@BywydCampws ar wefan Prifysgol Abertawe

Arian@BywydCampws

Astudio Blaenorol Fel arfer, ni chewch gyllid myfyrwyr ond am eich gradd gyntaf. Os ydych wedi cofrestru ar gwrs addysg uwch yn y gorffennol (gradd, HND, HNC, gradd sylfaen ayb) mae hyn yn debygol o effeithio ar unrhyw hawl i dderbyn Benthyciadau Ffioedd Dysgu yn y dyfodol, hyd yn oed os na fuoch yn bresennol ond am y diwrnod cyntaf. Os bwriadwch astudio un o gyrsiau'r GIG a gwneud cais am gyllid drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru drwy ymrwymo i weithio yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys o hyd am Ddyfarniad Ffioedd yn unig y GIG, er bod gennych radd eisoes na chafodd ei hariannu gan y GIG. Yn ôl rheolau astudio blaenorol, cewch dderbyn cymorth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am nifer penodol o flynyddoedd yn unig. Yn syml, mae gan bob myfyriwr hawl i dderbyn cyllid am hyd cyfan ei gwrs ac un flwyddyn yn ychwanegol. Bwriad y flwyddyn ychwanegol yw darparu ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n gorfod newid cwrs neu drosglwyddo. Felly, os ydych yn astudio ar gwrs 3 blynedd, byddai gennych hawl i: 3 + 1 = 4 blynedd. Gall y rheolau am astudio blaenorol fod yn gymhleth iawn, a gallant ddibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Os ydych wedi astudio o'r blaen, fe'ch cynghorir i gysylltu â thîm Arian@BywydCampws i drafod eich amgylchiadau unigol ag ymgynghorydd.

Rhesymau Personol Anorchfygol Os oes rhaid i chi ail-wneud blwyddyn astudio o ganlyniad i iechyd gwael neu am reswm personol, mae'n bosib y cewch dderbyn blwyddyn ychwanegol o gyllid heb effeithio ar eich blwyddyn ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag ymgynghorydd yn Arian@BywydCampws i ofyn am daflen wybodaeth "Newid Statws Cofrestru".

Ffoniwch Arian@BywydCampws ar 01792 606699 neu e-bostiwch Money.CampusLife@abertawe.ac.uk 3


Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr Beth byddaf yn ei ad-dalu? 

Mae benthyciadau myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr 'cartref' a myfyrwyr o'r UE sy'n astudio mewn prifysgol (yn amodol ar feini prawf cymhwyso). Ar ôl i chi adael y brifysgol, bydd rhaid i chi ad-dalu'r benthyciadau a gawsoch yn ystod eich cyfnod astudio. Cofiwch, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr o'r UE yn gymwys i dderbyn cyllid Ffioedd Dysgu yn unig. Mae dwy ran i'ch benthyciad myfyriwr: o Benthyciad Cynhaliaeth (os ydych yn gymwys - gweler tudalen 2 am ragor o fanylion) o Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Pryd byddaf yn dechrau ad-dalu'r benthyciad?   

Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu'ch benthyciad nes eich bod yn ennill dros £21,000. Bydd ad-daliadau'n cychwyn ar ddechrau'r flwyddyn dreth (y mis Ebrill ar ôl i chi adael y brifysgol). Os bydd eich cyflog yn gostwng o dan £21,000 (er enghraifft, os ydych yn cymryd saib o'ch gyrfa, neu os ydych yn ddi-waith), caiff yr ad-daliadau eu hatal. Ni fyddant yn ailgychwyn eto tan eich bod yn ennill dros £21,000.

Faint bydd rhaid i mi ei dalu?  

Rydych yn talu 9% o bopeth y byddwch yn ei ennill dros £21,000. Byddwch yn ad-dalu'r un swm, faint bynnag rydych yn ei fenthyca, gan y cyfrifir yr ad-daliad yn seiliedig ar swm eich enillion, yn hytrach na swm eich benthyciad. Fodd bynnag, os ydych wedi benthyca mwy, byddwch yn ad-dalu'r benthyciadau am gyfnod hwy. Ar ôl 30 o flynyddoedd, faint bynnag o'r benthyciad sydd wedi cael ei ad-dalu, caiff gweddill y ddyled ei ganslo.

Enghreifftiau o ad-daliadau Cyflog £25,000 £30,000 £35,000 £40,000 £50,000

Swm y cyflog y tynnir 9% ohono £4,000 £9,000 £14,000 £19,000 £29,000

Ad-daliad misol £30.00 £67.50 £105.00 £142.50 £217.50

Sut gwneir yr ad-daliadau? 

Didynnir ad-daliadau'ch benthyciad o'ch cyflog, fel arfer trwy'r system dreth TWE.

Faint o log a godir? Incwm Yn ystod eich cyfnod astudio a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael y coleg neu'r brifysgol £21,000 neu'n llai

Cyfradd Log Cyfradd Chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu) + 3% Cyfradd Chwyddiant

rhwng £21,000 a £41,000

Cyfradd Chwyddiant + hyd at 3% (ar raddfa raddol) Cyfradd Chwyddiant + 3%

£41,000 neu'n fwy

Ni fydd angen addalu unrhyw grantiau, bwrsariaethau nac ysgoloriaethau a delir i chi yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol

Y disgwyl yw mai cyfran fechan iawn o fyfyrwyr yn unig a fydd yn ad-dalu eu benthyciadau'n llawn. Felly, gall fod yn ddefnyddiol gweld hyn fel treth 30 mlynedd, ac nid benthyciad y mae'n rhaid ei ad-dalu'n llawn.

Ni chofnodir benthyciadau myfyrwyr ar gofnodion credyd, felly ni fydd benthyciad myfyriwr yn effeithio ar eich statws credyd

Sylwer: Roedd yr wybodaeth yn y daflen hon yn gywir ym mis Awst 2017 a gellir ei newid

4


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Arian@BywydCampws: 01792 606699 Money.CampusLife@abertawe.ac.uk www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-a-chymorthariannol

CampusLifeSU

Swansea Money.CampusLife

CampusLifeSU

Money.CampusLife

Mae'r daflen hon ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill hefyd, megis Braille, print bras etc. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.

5


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.