CYLLID MYFYRWYR AR GYFER CYRSIAU A ARIANNIR GAN Y GIG Mae'r Canllaw hwn yn cynnwys: Cyllid GIG ar gyfer 2016/17 (Myfyrwyr o Gymru a Lloegr) Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr
Cyrsiau a Ariannir gan y GIG Ydw i'n gymwys i wneud cais? Mae eich cymhwysedd yn dibynnu ar y cwrs yr ydych yn ei gymryd ac os ydych yn cwrdd â'r gofynion preswyl priodol.
Pa gyrsiau sydd wedi'u hariannu gan y GIG? Y cyrsiau a ariannir gan y GIG sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe yw: Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol ac unrhyw gwrs Gwyddor Gofal Iechyd, h.y. Clywedeg, Ffisioleg Gardiaidd, Meddygaeth Niwclear, Ffiseg Radiotherapi a Gwyddorau Anadlu a Chwsg (ar gyfer cyllid Meddygaeth i Raddedigion gweler tudalen 4).
Pa gyllid sydd ar gael gan y GIG? Os yw eich cwrs yn dechrau o fis Medi 2015, mae'r cyllid GIG canlynol ar gael:
Mae manylion pellach, gwybodaeth a diweddariadau ar gyllid GIG, meini prawf cymhwyster a gofynion preswyl ar gael ar wefan Grantiau Myfyrwyr GIG: www.nwsspstudentfi nance.wales.nhs.uk/ myfyrwyr-newydd
Grant o £1000 nad yw'n seiliedig ar Brawf Moddion Bwrsari ar Sail Prawf Modd o hyd at £4455 (uchafswm). Caiff Ffioedd Dysgu eu talu'n llawn gan y GIG
Ydw i’n gallu cael Benthyciad Myfyriwr hefyd? Cewch, gallwch ymgeisio am Fenthyciad Cynhaliaeth sydd â chyfradd ostyngedig, nad yw’n destun prawf modd, o £3030 (SFW) neu £2483 (SFE). Bydd y benthyciad yn is os penderfynwch fyw gyda’ch rhieni. Rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i Gyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr (nid y GIG) i dderbyn hyn.
Oes unrhyw gyllid arall ar gael?
Mae'n bosib y byddwch yn gallu hawlio lwfansau ychwanegol ar gyfer:
Lwfans Dibynyddion - os oes oedolion neu blant sy'n dibynnu arnoch yn ariannol Lwfans Gofal Plant - hyd at 85% o gostau gofal plant gyda darparwr gofal plant cofrestredig Lwfans Dysgu i Rieni - ar gael i fyfyrwyr sy'n rhieni Grant Teithio - i gwrdd â'r gost o deithio yn ôl ac ymlaen o leoliadau clinigol Lwfans Myfyrwyr Anabl - i fyfyrwyr y mae angen cymorth arnynt oherwydd anabledd neu anhawster dysgu
Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i Uned Dyfarniadau'r GIG i dderbyn y lwfansau ychwanegol hyn.
Am wybodaeth gyfredol a chael gwybod beth yw’r symiau y mae gennych hawl i’w cael, yn ychwanegol at y broses ymgeisio ar-lein byddem yn argymell eich bod yn ymweld â gwefan www.nwsspstudentf inance.wales.nhs.uk /hafan
1
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Faint fydd y Ffioedd Dysgu?
Ble a sut y dylwn wneud cais am fy Menthyciad Myfyriwr?
Codir Ffioedd Dysgu o £9,000 ar bob myfyriwr israddedig 'cartref' neu o'r Undeb Ewropeaidd sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd 2016/17. Fodd bynnag, mae'r GIG yn talu'r gost hon yn llawn (nid y cwrs Meddygaeth i Raddedigion, gweler tudalen 4).
Bydd Benthyciad i Fyfyrwyr ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i fyfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr i fyfyrwyr sy’n preswylio yn Lloegr. Gallwch wneud cais ar-lein neu trwy gwblhau cais ar bapur. Gweler isod manylion am ble i wneud cais a chael rhagor o wybodaeth: Os ydych Cyflwynwch gais i*: chi’n byw: yng www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ Nghymru yn Lloegr yn yr Alban yng Ngogledd Iwerddon
Sut mae'r Asesiad Incwm yn gweithio?
Beth yw Incwm Cartref?
gwybod.....? Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau a ariennir gan y GIG hawl am arian gan y GIG a Benthyciadau i Fyfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (myfyrwyr Cymru) neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr (myfyrwyr Lloegr)!
www.gov.uk/studentfinance www.saas.gov.uk/ www.studentfinanceni.co.uk
* Gwnewch yn sir eich bod yn defnyddio dosbarthiad a gofnodwyd wrth anfon unrhyw ffurflenni cais neu ddogfennau angenrheidiol. Bydd hyn yn rhoi prawf i chi eich bod wedi anfon eich cais, a bod y cais wedi'i dderbyn.
Sut a phryd ydw i'n derbyn fy nhaliadau Benthyciad/Bwrsariaeth ?
Oeddech chi'n
Telir eich cyllid GIG yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc bob mis. Cofiwch pan fyddwch yn dechrau, ni thelir y rhandaliad cyntaf i chi hyd nes eich bod wedi bod ar y cwrs am fis cyfan. Telir eich Benthyciad Cynhaliaeth i chi mewn 3 rhandaliad ar ddechrau bob tymor.
Mae swm y Fwrsariaeth GIG yr ydych yn gymwys i'w dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref. Cynhelir asesiad i sefydlu faint o gyllid yn union y mae hawl gennych iddo.
Cofiwch...... Bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am bob blwyddyn o'ch cwrs!
*Am ragor o wybodaeth ar statws dibynnol ac annibynnol at ddibenion asesiadau benthyciadau i fyfyrwyr, cysylltwch Arian@BywydCampws
Incwm Cartref yw'r cyfanswm y mae eich teulu'n ei ennill cyn didynnu Treth ac Yswiriant Gwladol. Mae incwm pa unigolion sy'n cael ei asesu yn dibynnu ar os ydych wedi'ch dosbarthu'n fyfyriwr dibynnol neu'n fyfyriwr annibynnol*.
2
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Beth os yw fy Incwm Cartref yn uwch na'r trothwy ar gyfer y Grant?
Mae fy amgylchiadau i yn wahanol i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, a oes modd i mi gael cymorth ychwanegol?
Beth os nad wyf yn siŵr i ba Brifysgol yr wyf am fynd neu pa gwrs yr wyf am ei astudio?
Gallwch barhau i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is a grant y GIG heb brawf modd, waeth pa mor uchel yw incwm eich cartref.
Os oes gennych blant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol neu anabledd mae'n bosib y byddwch yn gymwys am gymorth ychwanegol. Fel myfyriwr GIG gwneir cais am y rhain drwy'r GIG. Os ydych yn gadael Gofal mae'n bosib y bydd gan y brifysgol yr ydych yn ei dewis becyn cymorth ar gael i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i chi yn ystod eich amser yn y brifysgol. Gweler tudalen 5 am ragor o fanylion ynglŷn â'r cymorth a gynigir gan Brifysgol Abertawe.
Mae angen i chi nodi pa brifysgol yw eich dewis cyntaf a beth fydd eich cwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl yn hwyrach, cewch newid y manylion hyn. Fe'ch cynghorir i wneud cais am ariannu yn y modd hwn i wneud yn siŵr bod eich asesiad wedi'i gwblhau cyn dechrau'r tymor. Os ydych yn gwneud cais ar ôl derbyn eich canlyniadau Safon Uwch mae'n annhebygol y bydd eich cyllid yn barod ar gyfer dechrau'r cwrs a gall hyn achosi problemau o safbwynt talu rhent a chostau byw. Peidiwch â phryderu os byddwch yn newid eich meddwl am fynd i'r brifysgol, mae modd canslo'ch cais yn ddiweddarach.
A oes hawl gennyf dderbyn unrhyw fudddaliadau wrth i mi astudio?
Mae rhai myfyrwyr yn gymwys i dderbyn budddaliadau’r wladwriaeth wrth iddynt astudio. Er enghraifft, os ydych yn rhiant sengl, wedi'ch cofrestru'n anabl, yn derbyn pensiwn y Wladwriaeth, neu rydych chi a'ch partner yn fyfyrwyr ac mae gennych blant neu rydych yn disgwyl babi. Siaradwch ag un o'n cynghorwyr a fydd yn gallu trafod eich hawl gyda chi. Sylwer bod y rhestr yn enghreifftiol yn unig. Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau ac nid ydych yn perthyn i un o'r grwpiau sydd wedi'u rhestru uchod, cysylltwch â ni neu'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf am ragor o wybodaeth.
Faint y bydd astudio yn Abertawe yn ei gostio?
Am ragor o wybodaeth ar gostau byw a chostau tebygol y byddwch yn eu hwynebu ar eich cwrs, ewch i'n tudalen we: www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-andfunding/cost-of-living/
A fydd fy astudiaethau blaenorol yn effeithio ar fy nghyllid?
Os ydych eisoes wedi cwblhau gradd gallwch fod yn gymwys am Fenthyciad i Fyfyrwyr ar y cyrsiau hyn o hyd. Os ydych wedi astudio'n flaenorol, fe'ch cynghorir i gysylltu â ni fel bod modd i ni roi ateb llawn i chi yn unol â'ch amgylchiadau unigol.
Gwybodaeth Bwysig y bydd ei hangen arnoch ar gyfer eich cais am Fenthyciad/Grant Myfyrwyr: Ffioedd ar gyfer 2016/17 - £9,000 Cod UCAS Prifysgol Abertawe - S93
Gwnewch yn si’r eich bod yn darparu'r holl dystiolaeth ddogfennol... gall methu â gwneud hynny achosi oedi'ch cais!
Os ydych wedi cyflwyno cais ar gyfer eich Benthyciad Cynhaliaeth ar-lein, anfonir datganiad atoch i'w lofnodi a bydd angen i chi lofnodi a dychwelyd hyn cyn gynted ag y bod modd... Hyd yn oed os yw'ch asesiad yn anghywir!
3
Cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion Y Ffioedd Dysgu ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer y cwrs Meddygaeth i Raddedigion bydd £9,000 y flwyddyn.
Cyllid Ffioedd Dysgu Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3 Blwyddyn 4
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Cymorth Ffioedd GIG
£5535 £5535 £5535 £5535
nid yw'n berthnasol £3465 £3465 £3465
Nid oes hawl gan fyfyrwyr yr Alban a Gogledd Iwerddon dderbyn cyllid GIG ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael cysylltwch Arian@BywydCampws
Bydd rhaid i fyfyrwyr gyfrannu £3465 eu hun tuag at eu ffioedd dysgu ym mlwyddyn 1 y cwrs, a bydd angen iddynt ystyried sut y caiff y swm hwn ei dalu.
Cyllid Cynhaliaeth Benthyciad Cynhaliaeth SFW SFE
Bwrsariaeth GIG
Grant GIG
PCDL
Grantiau Atodol
nid yw'n berthnasol £1000
gwnewch gais drwy SFE/SFW gwnewch gais drwy'r GIG gwnewch gais drwy'r GIG gwnewch gais drwy'r GIG
Blwyddyn 1
hyd at £6183
hyd at £8200
Blwyddyn 2
hyd at £3030
hyd at £2483
nid yw'n berthnasol hyd at £4455
Blwyddyn 3
hyd at £3030
hyd at £2483
hyd at £4455
£1000
nid yw'n berthnasol nid yw'n berthnasol
Blwyddyn 4
hyd at £2361
hyd at £1936
hyd at £4455
£1000
Mae'n bwysig cofio bod y Cyllid Cynhaliaeth yn y flwyddyn gyntaf a'r Fwrsariaeth GIG ym mlynyddoedd 2,3 a 4 i gyd wedi'u hasesu ar incwm cartref ac mai'r uchafswm sydd ar gael yw'r ffigyrau a ddarparir. Mae elfen o fenthyciad cynhaliaeth blwyddyn 1 a benthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is blynyddoedd 2, 3 a 4 yn ogystal â'r grant GIG heb eu seilio ar brawf moddion.
Grantiau Atodol: Os ydych yn gymwys i dderbyn Grantiau Atodol (Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol, Grant Gofal Plant neu Lwfans Myfyrwyr Anabl), bydd angen i chi wneud cais i'ch corff cyllido ym mlwyddyn un ac i'r GIG ym mlynyddoedd 2, 3 a 4.
Benthyciadau Datblygu Proffesiynol a Datblygu Gyrfa: Yn ystod eich 3ydd a'ch 4ydd blwyddyn, mae'n bosib y byddwch yn gallu cyflwyno cais ar gyfer Benthyciad Datblygu Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL). Ewch i www.gov.uk/career-development-loans/overview am ragor o wybodaeth.
Cyfleoedd Ariannu Eraill: Mae llawer o sefydliadau sy'n cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr ar y Cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Efallai y bydd y wefan ganlynol yn ddefnyddiol hefyd wrth chwilio am ffordd i ariannu'ch cwrs Meddygaeth i Raddedigion: http://www.money4medstudents.org
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ariannu'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion yn: http://www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-andfunding/studentloansandgrants/graduateentrymedicinefunding/ 4
llawer o sefydliadau sy'n cynnig cymorth ariannfyrwyr ar y Cwrs Meddygaeth i Raddedigion.
Gellir
Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal
Beth yw e?
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal. Mae gyda ni becyn o gymorth a fydd, gobeithio, yn helpu myfyrwyr i ymgartrefu, i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau tra eu bod yma, ac i raddio'n llwyddiannus.
Pa gymorth sydd ar gael?
Grant o hyd at £1000 y flwyddyn Lleihau nifer y pwyntiau UCAS sydd eu hangen (gydag amodau a thelerau) Cymorth i ymgeisio ar gyfer benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr Llety trwy gydol y flwyddyn i gyd Unigolyn wedi'i enwi'n fan cyswllt i'ch cynorthwyo gyda phob agwedd o fywyd y brifysgol Mynediad at y Rhaglen Llwyddiant Academaidd Cymorth Ariannol i ddod i gyfweliadau neu ddiwrnodau agored Cymorth gyda dod o hyd i waith rhan-amser a chynllunio gyrfa Cymorth gyda'ch cais i'r Brifysgol Cymorth gyda chostau gofal plant tra'ch bod yn astudio
Sut ydw i'n cymhwyso?
Dyluniwyd y pecyn hwn ar gyfer rhai sy'n gadael gofal sydd yn breswylwyr parhaol y Deyrnas Unedig, ac sydd yn fyfyrwyr 'cartref' at ddibenion ffioedd
Mae croeso i fyfyrwyr nad ydynt yn fyfyrwyr 'cartref' gysylltu Arian@BywydCampws i drafod unrhyw anghenion cymorth sydd ganddynt
I fod yn gymwys i dderbyn y pecyn cymorth, rhaid eich bod wedi bod yng ngofal Awdurdod Lleol yn berson ifanc am o leiaf 3 mis. Tybir eich bod yn gadael gofal pan fyddwch yn 16 oed, sef yr oedran gadael ysgol. Os ydych wedi bod mewn gofal, ac mae diddordeb gennych mewn mynd i'r brifysgol, tybir eich bod yn berson sy'n gadael gofal tan eich bod yn 21 oed. Mae hynny'n golygu, os ydych wedi bod mewn gofal, cewch fanteisio ar yr holl drefniadau cymorth uchod ar unrhyw adeg tan eich bod yn 24 oed. Os a phryd yr ydych yn dod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennych hawl i dderbyn y cymorth tan eich bod yn cwblhau'ch cwrs.
5
Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr Beth ydw i'n ei ad-dalu?
Mae benthyciadau i fyfyrwyr ar gael i fyfyrwyr 'cartref' sy'n astudio ar gyrsiau a ariannir gan y GIG yn y Brifysgol (yn amodol ar feini prawf cymhwyster). Ar ôl i chi adael y brifysgol, bydd raid i chi ad-dalu'r benthyciadau a gawsoch yn ystod eich cyfnod astudio. Byddwch yn gymwys i dderbyn: o Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfradd is nad yw'n seiliedig ar brawf moddion.
Pryd byddaf yn dechrau ad-dalu'r benthyciad?
Nid ydych yn dechrau ad-dalu'ch benthyciad tan eich bod yn ennill dros £21,000. Bydd ad-daliadau'n cychwyn ar ddechrau'r flwyddyn dreth (y mis Ebrill ar ôl i chi adael y brifysgol). Os bydd eich cyflog yn mynd o dan £21,000 (er enghraifft, os ydych yn cymryd saib o'ch gyrfa, neu os ydych yn ddi-waith), atelir yr ad-daliadau. Ni fyddant yn ailgychwyn eto tan eich bod yn ennill dros £21,000.
Ni fydd angen addalu unrhyw grantiau, bwrsariaethau nac ysgoloriaethau a delir i chi tra eich bod yn y brifysgol
Faint y bydd rhaid i mi dalu?
Rydych yn talu 9% o bopeth y byddwch yn ei ennill dros £21,000. Bydd eich ad-daliadau'r un peth, faint bynnag yr ydych yn ei fenthyca, gan y cyfrifir yr ad-daliad ar sail faint yr ydych yn ei ennill; nid faint yr ydych wedi'i fenthyca. Fodd bynnag, os ydych wedi benthyca mwy, byddwch yn ad-dalu'r benthyciadau am gyfnod hwy. Ar ôl 30 o flynyddoedd, faint bynnag o'r benthyciad sydd wedi’i ad-dalu, caiff gweddill y ddyled ei ganslo.
Enghreifftiau o ad-daliadau Cyflog £25,000 £30,000 £35,000 £40,000 £50,000
Faint o'r cyflog y tynnir 9% ohono £4,000 £9,000 £14,000 £19,000 £29,000
Ad-daliad misol £30.00 £67.50 £105.00 £142.50 £217.50
Sut y gwneir yr ad-daliadau?
Didynnir ad-daliadau benthyciadau o'ch cyflog, fel arfer trwy'r system dreth TWE.
Ni chofnodir benthyciadau myfyrwyr ar gofnodion credyd, felly ni fydd bod â benthyciad myfyriwr yn effeithio ar eich statws credyd
Faint o log a godir? Incwm Tra eich bod yn astudio a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael y coleg neu'r brifysgol £21,000 neu'n llai
Gradd Llog Cyfradd Chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu) + 3%
rhwng £21,000 a £41,000
Cyfradd Chwyddiant + hyd at 3% (ar raddfa raddol) Cyfradd Chwyddiant + 3%
£41,000 neu'n fwy
Cyfradd Chwyddiant
6
Am ragor o wybodaeth cysylltwch Arian@BywydCampws: 01792 606699 Money.CampusLife@abertawe.ac.uk
http://www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-achymorth-ariannol/
CampusLifeSU
CampusLifeSU
Swansea Money.CampusLife Money.CampusLife
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill megis Braille, print bras ac ati. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.
7