ARIANNU I FYFYRWYR ÔLRADDEDIG Mae'r Canllaw hwn yn cynnwys: Ariannu Astudiaethau Ôlraddedig
Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL) Ariannu ar gyfer MSc Gwaith Cymdeithasol Gweithio Rhan-amser Cymorth i Fyfyrwyr Ôlraddedig sy'n Gadael Gofal
Ariannu Astudiaethau Ôl-raddedig
Gwneud cais am ariannu
Benthyciad i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Wrth ariannu cwrs ôl-raddedig, disgwylir i fyfyrwyr o Gymru a myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru, ystyried costau ffioedd dysgu, llety, costau'r cwrs a chostau byw, a sicrhau darpariaeth ddigonol i dalu'r costau hyn cyn dechrau'r cwrs.
Mae hawl gan fyfyrwyr o Loegr, neu fyfyrwyr sy'n 'preswylio fel arfer' yn Lloegr, a myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yn Lloegr wneud cais am fenthyciad myfyrwyr ôlraddedig gan Student Finance England. Bydd benthyciad myfyriwr ôl-raddedig i astudio am radd meistr: -
Yn gallu hyd at £10,000 Yn gyfraniad at gost astudio Heb fod yn destun prawf modd Yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r myfyriwr
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/postgraduate-loan
Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL)
Gall myfyrwyr ôl-raddedig ystyried Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL), sy'n fenthyciad banc gohiriedig. Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer addysg neu hyfforddiant galwedigaethol. Gallwch fenthyca swm o £300 hyd at uchafswm o £10,000. Mae gennych hawl i wneud cais am y benthyciad hwn hyd at 3 mis cyn dechrau eich cwrs. I ofyn am becyn cais neu ragor o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 100 900 neu ewch i: www.gov.uk/career-development-loans/overview.
Enghraifft gynrychiadol Ar sail benthyciad o £4,500 ag APR cynrychiadol o 9.9% a chyfradd log sefydlog o 9.58% y flwyddyn am gwrs sy'n para 12 mis, eich taliadau misol fyddai £206.67 am gyfnod o 2 flynedd 0 mis a byddai'n rhaid i chi ad-dalu cyfanswm o£4,960.08.
A oes ariannu ar gael gan Brifysgol Abertawe?
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we ffioedd ac ariannu Prifysgol Abertawe yn www.swansea.ac.uk/cy /ol-raddedig/ffioeddac-ariannu/
Ystyriwch chwilio am ariannu digonol fel eich prosiect ymchwil cyntaf. Bydd sicrhau y gallwch fforddio'ch holl gostau angenrheidiol yn elfen bwysig o gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus
Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â'r adran maent yn bwriadu astudio ynddi am ragor o fanylion am fwrsariaethau, ysgoloriaethau neu grantiau sy'n benodol i bynciau a allai fod ar gael. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau gwahanol i fyfyrwyr ôlraddedig. I weld beth sydd ar gael, ewch i wefan y Brifysgol www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ffioedd-acariannu/ysgoloriaethau.
1
Beth am Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe?
Mae Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe'n gronfa arian a ddarperir gan y Brifysgol i helpu myfyrwyr mewn anawsterau ariannol. Disgwylir y bydd myfyrwyr ôlraddedig wedi gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer ffioedd dysgu, costau byw hanfodol a chostau'r cwrs cyn cofrestru er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cymorth. Golyga hyn na ellir ei gweld fel ffynhonnell cyllid, oherwydd ei diben yw helpu myfyrwyr â threuliau annisgwyl drwy grant nad oes angen ei ad-dalu. Sylwch nad yw hawl i wneud cais yn gwarantu y byddwch yn derbyn arian o'r gronfa.
Oes cymorth ychwanegol ar gael i bobl sy'n gadael gofal?
Os ydych yn berson sy'n gadael gofal, bydd Prifysgol Abertawe'n darparu bwrsariaeth sengl o £1,000 i fyfyrwyr ôl-raddedig i'w helpu i dalu costau eu cwrs. Caiff ei thalu mewn dau randaliad o £500. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Arian@BywydCampws neu ewch i www.swansea.ac.uk/student-services/care-leavers
Ble gallaf chwilio am gyllid sydd ar gael gan elusennau ac ymddiriedolaethau?
Ewch i'n tudalen we o ffynonellau cyllid eraill am restr o wefannau a argymhellir a manylion am sut i gyrchu'r Alternative Guide to Postgraduate Funding yn www.swansea.ac.uk/postgraduate/fees-andfunding/alternativesourcesoffunding/ Neu dylai fod gan y llyfrgell gopi o The Grants Reigster (Palgrave Macmillan, 2016) sef canllaw cynhwysfawr i grantiau a chyllid proffesiynol rhyngwladol i ôl raddedigion.
Pwy yw Future Finance?
Mae Future Finance yn darparu benthyciadau i fyfyrwyr yn unig er mwyn eu helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw wrth iddynt astudio. Rydym yn annog pob myfyriwr i ddarllen eu Cwestiynau Cyffredin cyn gwneud cais am gyllid, ac mae'n rhaid i ni bwysleisio bod y cwmni'n disgwyl i chi ad-dalu benthyciadau ar unwaith (h.y. addaliadau misol wrth i chi astudio yn hytrach nag ad-dalu'r benthyciad ar ddiwedd y cwrs fel y byddech yn ei wneud pe byddech yn cael eich ariannu gan Student Finance England). Mae eu Cwestiynau Cyffredin i'w gweld yma: https://www.futurefinance.com/uk/faq. Mae cyfradd log y benthyciadau hyn yn uwch na PCDL hefyd, sef 11.1% wrth i chi astudio a 9.1% ar ôl graddio.
Beth yw EdAid?
Mae EdAid yn arbenigo mewn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i gyllid torfol ar gyfer eu hastudiaethau. Rydym yn annog pob myfyriwr i ddarllen eu tudalen we i weld a fyddai hyn yn addas: https://www.edaid.com/ a darllen eu Cwestiynau Cyffredin cyn gwneud unrhyw benderfyniad https://www.edaid.com/faq.
2
MSc Gwaith Cymdeithasol Mae myfyrwyr lefel Gradd Meistr Gwaith Cymdeithasol yn gymwys ar gyfer ariannu gan Gyngor Gofal Cymru fel y manylir yn y tabl isod, fodd bynnag, mae nifer cyfyngedig o lefydd, felly cynghorir eich bod yn gwneud cais mor gynnar â phosib. Nid yw'r fwrsariaeth a'r lwfans cyfle dysgu ymarfer (PLOA) wedi'u hasesu ar sail incwm, ac nid oes angen eu had-dalu. Mae'r lwfans dysgu i rieni (PLA), grant gofal plant (CCG) a'r grant oedolion dibynnol (ADG) yn ddibynnol ar brawf modd, ac maent ar gael i fyfyrwyr y dyfernir y fwrsariaeth iddynt. Dyrennir nifer gosod o fwrsariaethau i bob rhaglen Gwaith Cymdeithasol, a bydd pob rhaglen yn 'enwebu' detholiad o fyfyrwyr a fydd yn gallu gwneud cais. Bydd myfyrwyr a enwebwyd yn derbyn ffurflen gais a llyfryn arweiniad drwy e-bost. Dylid dychwelyd cais wedi'i gwblhau i studentfunding@ccwales.org.uk erbyn y dyddiad cau a nodir yn y pecyn cais. Am ragor o wybodaeth am y broses gwneud cais, ewch i www.ccwales.org.uk/postgraduate-allowances/. *
Costau Ffioedd Dysgu Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA) Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) Grant Gofal Plant
Grant Oedolion Dibynnol (ADG)
£6,200 £6,640 (£3,390 tuag at ffioedd) £7.50 am bob dydd PLO Hyd at £1,505 Hyd at uchafswm o £8,330 y flwyddyn am un plentyn dibynnol a £14,285 y flwyddyn am ddau neu fwy o blant dibynnol. Hyd at £2,645
Mae'r wybodaeth uchod ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru. Am wybodaeth i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr, ewch i www.nhsbsa.nhs.uk/students.
Gweithio Rhan-amser Os ydych yn chwilio am waith y tu allan i'r Brifysgol, cynghorir eich bod yn cysylltu â'r Swyddfa Gyrfaoedd er mwyn cofrestru ar gyfer y "Siop Swyddi". Mae argymhellion o ran faint o waith y dylech ei wneud y tu allan i'r Brifysgol, a chynghorir eich bod yn trafod unrhyw waith rhan-amser posib gyda goruchwyliwr eich cwrs i sicrhau na fydd yn cael effaith negyddol ar eich astudiaethau.
Dod yn Gymrwr Nodiadau neu'n Weithiwr Cymorth Mae'r Anableddau@BywydCampws yn cyflogi myfyrwyr ôl-raddedig i gymryd nodiadau ac fel gweithwyr cymorth i weithio gyda myfyrwyr anabl. Dylai'r myfyrwyr fod yn ddibynadwy ac yn fodlon ymrwymo'n rheolaidd. Os oes gennych ddiddordeb, casglwch ffurflen datganiad o ddiddordeb o Dderbynfa BywydCampws yn Adeilad Keir Hardie, neu ebostiwch notetaking@abertawe.ac.uk. Sylwer, ni all y Anableddau@BywydCampws warantu gwaith nac oriau.
Dod yn Warden Lles Mae Wardeniaid Lles yn fyfyrwyr preswyl sy'n rhoi cefnogaeth fugeiliol i breswylwyr. Mae Wardeniaid yn bobl y gall y myfyrwyr siarad â nhw sydd wedi cael profiadau tebyg ac wedi wynebu'r un pryderon pan oeddent yn fyfyrwyr eu hunain. Gall Wardeiniaid gydymdeimlo â'r hyn y mae myfyrwyr yn ei brofi, gan gynnig cefnogaeth a'u cyfeirio at wasanaethau cymorth y Brifysgol. Mae swyddi Wardeniaid Lles yn cynnwys llety, ac maent ar gael yn adeiladau preswyl y Brifysgol ar y campws ac oddi arno. Hysbysebir swyddi gwag yn adran Swyddi gwefan y Brifysgol pan fydd swyddi ar gael. Am ragor o wybodaeth, ebostiwch accommodation@abertawe.ac.uk.
3
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch Arian@BywydCampws: 01792 606699 Money.campuslife@swansea.ac.uk
http://www.swansea.ac.uk/cy/arian-bywydcampws/
CampusLifeSU
Swansea Money.CampusLife
CampusLifeSU
Money.CampusLife
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras etc. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.
4