ARIANNU I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG 2017/2018
Mae'r Canllaw hwn yn cynnwys:
Benthyciad i Fyfyrwyr Ôl-raddedig Ariannu Astudiaethau Ôl-raddedig
Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL)
Ariannu ar gyfer MSc Gwaith Cymdeithasol
Gweithio Rhan-amser
Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig sy'n Gadael Gofal
Ariannu Astudiaethau Ôl-raddedig Ariannu Eich Hunain
Wrth ariannu cwrs ôl-raddedig eich hunan disgwylir i fyfyrwyr ystyried ffioedd dysgu, costau llety, costau'r cwrs a chostau byw, a sicrhau darpariaeth ddigonol i dalu'r costau hyn cyn dechrau'r cwrs.
Erbyn hyn mae benthyciadau ôl-raddedig ar gael i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru, yn Lloegr a myfyrwyr yr UE sy'n dymuno astudio mewn prifysgol yng Nghymru neu yn Lloegr. Bydd benthyciad myfyriwr ôl-raddedig i astudio am radd meistr:
Benthyciad i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
-
Hyd at £10,280 Yn gyfraniad at gostau astudio Heb fod yn destun prawf modd Yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r myfyriwr fesul rhandal
Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar radd Meistr yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Ôl-raddedig. I dderbyn gwybodaeth bellach os ydych chi'n byw yn Lloegr, ewch i https://www.gov.uk/postgraduate-loan I dderbyn gwybodaeth bellach os ydych chi'n byw yng Nghymru, ewch i http://www.studentfinancewales.co.uk/postgraduatestudents Myfyrwyr yr UE Os ydych chi'n astudio ar gwrs ôl-raddedig mewn prifysgol yng Nghymru ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i dderbyn gwybodaeth bellach. Os ydych chi'n astudio ar gwrs ôl-raddedig mewn prifysgol yn Lloegr ewch i wefan Student Finance England i dderbyn gwybodaeth bellach.
Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL)
A oes ariannu ar gael gan Brifysgol Abertawe?
I dderbyn gwybodaeth bellach ewch i dudalen we benthyciadau ôl-raddedig Prifysgol Abertawe yn http://www.swansea.ac.uk/cy/olraddedig/ffioedd-acariannu/benthyciadauolraddedig/
Gall myfyrwyr ôl-raddedig ystyried Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (PCDL), sy'n fenthyciad banc gohiriedig. Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer addysg neu hyfforddiant galwedigaethol. Gallwch fenthyca swm o £300 hyd at uchafswm o £10,000. Mae gennych hawl i wneud cais am y benthyciad hwn hyd at 3 mis cyn dechrau eich cwrs. I ofyn am becyn cais neu ragor o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 100 900 neu ewch i: www.gov.uk/career-development-loans/overview. Enghraifft gynrychiadol Ar sail benthyciad o £4,500 ag APR cynrychiadol o 9.9% a chyfradd log sefydlog o 9.58% y flwyddyn am gwrs sy'n para 12 mis, eich taliadau misol fyddai £206.67 am gyfnod o 2 flynedd 0 mis a byddai'n rhaid i chi ad-dalu cyfanswm o£4,960.08.
Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â'r adran maent yn bwriadu astudio ynddi am ragor o fanylion am fwrsariaethau, ysgoloriaethau neu grantiau sy'n benodol i bynciau a allai fod ar gael. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau gwahanol i fyfyrwyr ôl-raddedig. I weld beth sydd ar gael, ewch i wefan y Brifysgol www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ffioedd-acariannu/ysgoloriaethau.
1
Beth am Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe?
Mae Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe'n gronfa arian a ddarperir gan y Brifysgol i helpu myfyrwyr mewn anawsterau ariannol. Disgwylir y bydd myfyrwyr ôlraddedig wedi gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer ffioedd dysgu, costau byw hanfodol a chostau'r cwrs cyn cofrestru er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cymorth. Golyga hyn na ellir ei gweld fel ffynhonnell cyllid, oherwydd ei diben yw helpu myfyrwyr â threuliau annisgwyl drwy grant nad oes angen ei ad-dalu. Sylwch nad yw hawl i wneud cais yn gwarantu y byddwch yn derbyn arian o'r gronfa.
Oes cymorth ychwanegol ar gael i bobl sy'n gadael gofal?
Os ydych yn berson sy'n gadael gofal, bydd Prifysgol Abertawe'n darparu bwrsariaeth sengl o £1,000 i fyfyrwyr ôl-raddedig i'w helpu i dalu costau eu cwrs. Caiff ei thalu mewn dau randaliad o £500. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Arian@BywydCampws neu ewch i www.swansea.ac.uk/student-services/care-leavers
Ble gallaf chwilio am gyllid sydd ar gael gan elusennau ac ymddiriedolaethau?
Ewch i'n tudalen we o ffynonellau cyllid eraill am restr o wefannau a argymhellir a manylion am sut i gyrchu'r Alternative Guide to Postgraduate Funding yn www.swansea.ac.uk/postgraduate/fees-andfunding/alternativesourcesoffunding/ Neu dylai fod gan y llyfrgell gopi o The Grants Reigster (Palgrave Macmillan, 2016) sef canllaw cynhwysfawr i grantiau a chyllid proffesiynol rhyngwladol i ôl raddedigion.
Pwy yw Future Finance?
Mae Future Finance yn darparu benthyciadau i fyfyrwyr yn unig er mwyn eu helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw wrth iddynt astudio. Rydym yn annog pob myfyriwr i ddarllen eu Cwestiynau Cyffredin cyn gwneud cais am gyllid, ac mae'n rhaid i ni bwysleisio bod y cwmni'n disgwyl i chi ad-dalu benthyciadau ar unwaith (h.y. addaliadau misol wrth i chi astudio yn hytrach nag ad-dalu'r benthyciad ar ddiwedd y cwrs fel y byddech yn ei wneud pe byddech yn cael eich ariannu gan Student Finance England). Mae eu Cwestiynau Cyffredin i'w gweld yma: https://www.futurefinance.com/uk/faq. Mae cyfradd log y benthyciadau hyn yn uwch na PCDL hefyd, sef 11.1% wrth i chi astudio a 9.1% ar ôl graddio.
Beth yw EdAid?
Mae EdAid yn arbenigo mewn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i gyllid torfol ar gyfer eu hastudiaethau. Rydym yn annog pob myfyriwr i ddarllen eu tudalen we i weld a fyddai hyn yn addas: https://www.edaid.com/ a darllen eu Cwestiynau Cyffredin cyn gwneud unrhyw benderfyniad https://www.edaid.com/faq.
Ystyriwch chwilio am ariannu digonol fel eich prosiect ymchwil cyntaf. Bydd sicrhau y gallwch fforddio'ch holl gostau angenrheidiol yn elfen bwysig o gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus
2
MSc Gwaith Cymdeithasol Mae myfyrwyr lefel Gradd Meistr Gwaith Cymdeithasol yn gymwys ar gyfer ariannu gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel y manylir yn y tabl isod, fodd bynnag, mae nifer cyfyngedig o lefydd, felly cynghorir eich bod yn gwneud cais mor gynnar â phosib. Nid yw'r fwrsariaeth a'r lwfans cyfle dysgu ymarfer (PLOA) wedi'u hasesu ar sail incwm, ac nid oes angen eu had-dalu. Mae'r lwfans dysgu i rieni (PLA), grant gofal plant (CCG) a'r grant oedolion dibynnol (ADG) yn ddibynnol ar brawf modd, ac maent ar gael i fyfyrwyr y dyfernir y fwrsariaeth iddynt. Dyrennir nifer gosod o fwrsariaethau i bob rhaglen Gwaith Cymdeithasol, a bydd pob rhaglen yn 'enwebu' detholiad o fyfyrwyr a fydd yn gallu gwneud cais. Bydd myfyrwyr a enwebwyd yn derbyn ffurflen gais a llyfryn arweiniad drwy e-bost. Dylid dychwelyd cais wedi'i gwblhau i studentfunding@ccwales.org.uk erbyn y dyddiad cau a nodir yn y pecyn cais. Am ragor o wybodaeth am y broses gwneud cais, ewch i http://www.ccwales.org.uk/student-funding/. *
Costau Ffioedd Dysgu Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA) Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) Grant Gofal Plant
Grant Oedolion Dibynnol (ADG)
£6,600 £6,640 (£3,390 tuag at ffioedd) £7.50 am bob dydd PLO Hyd at £1,505 Hyd at uchafswm o £8,330 y flwyddyn am un plentyn dibynnol a £14,285 y flwyddyn am ddau neu fwy o blant dibynnol. Hyd at £2,645
Mae'r wybodaeth uchod ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru. Am wybodaeth i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr, ewch i www.nhsbsa.nhs.uk/students.
Gweithio Rhan-amser Os ydych yn chwilio am waith y tu allan i'r Brifysgol, cynghorir eich bod yn cysylltu â'r Swyddfa Gyrfaoedd er mwyn cofrestru ar gyfer y "Siop Swyddi". Mae argymhellion o ran faint o waith y dylech ei wneud y tu allan i'r Brifysgol, a chynghorir eich bod yn trafod unrhyw waith rhan-amser posib gyda goruchwyliwr eich cwrs i sicrhau na fydd yn cael effaith negyddol ar eich astudiaethau.
Dod yn Gymrwr Nodiadau neu'n Weithiwr Cymorth Mae'r Tîm Anableddau@BywydCampws yn cyflogi myfyrwyr ôl-raddedig i gymryd nodiadau ac fel gweithwyr cymorth i weithio gyda myfyrwyr anabl. Dylai'r myfyrwyr fod yn ddibynadwy ac yn fodlon ymrwymo'n rheolaidd. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â notetaking@abertawe.ac.uk i dderbyn ffurflen datganiad diddordeb. Sylwer, ni all y Tîm Anableddau@BywydCampws warantu gwaith nac oriau.
Dod yn Warden Lles Mae Wardeniaid Lles yn fyfyrwyr preswyl sy'n rhoi cefnogaeth fugeiliol i breswylwyr. Mae Wardeniaid yn bobl y gall y myfyrwyr siarad â nhw sydd wedi cael profiadau tebyg ac wedi wynebu'r un pryderon pan oeddent yn fyfyrwyr eu hunain. Gall Wardeiniaid gydymdeimlo â'r hyn y mae myfyrwyr yn ei brofi, gan gynnig cefnogaeth a'u cyfeirio at wasanaethau cymorth y Brifysgol. Mae swyddi Wardeniaid Lles yn cynnwys llety, ac maent ar gael yn adeiladau preswyl y Brifysgol ar y campws ac oddi arno. Hysbysebir swyddi gwag yn adran Swyddi gwefan y Brifysgol pan fydd swyddi ar gael. Am ragor o wybodaeth, ebostiwch accommodation@abertawe.ac.uk.
3
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch Arian@BywydCampws: 01792 606699 Money.campuslife@swansea.ac.uk
http://www.swansea.ac.uk/cy/arian-bywydcampws/
CampusLifeSU
Swansea Money.CampusLife
CampusLifeSU
Money.CampusLife
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras etc. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.
4