CYLLID AR GYFER MYFYRWYR ISRADDEDIG Bydd y Canllawiau hyn yn trafod: Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2016/17 (Myfyrwyr o Gymru a Lloegr) Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Astudio Blaenorol
Cyllid Ychwanegol ar gyfer Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol
Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr
Cyllid Myfyrwyr 2016/17 - Myfyrwyr sy'n Byw yng Nghymru Benthyciadau a Grantiau Ffioedd Dysgu Gall myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2016/17 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu a Grant Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy gyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Cost Ffioedd Dysgu Benthyciad Ffioedd Dysgu (uchafswm) Grant Ffioedd Dysgu (uchafswm)
Swm y flwyddyn academaidd £9000 £3900 £5100
Caiff taliadau Benthyciadau a Grantiau Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau ymlaen llaw.
Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Mae cyllid tuag at gostau byw myfyrwyr yn cynnwys benthyciadau cynhaliaeth a grantiau. Bydd y swm y mae gennych hawl i'w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich aelwyd, fel y dangosir yn y tabl isod. I gael amcangyfrif manylach, defnyddiwch gyfrifiannell Cyllid Myfyrwyr Cymru, www.studentfinancewales.co.uk/calculator.aspx.
Cymhwyster ar gyfer Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a’r Benthyciad Cynhaliaeth Incwm yr Grant Dysgu Benthyciad Cynhaliaeth – Benthyciad Cynhaliaeth – Byw Aelwyd Llywodraeth Cymru Byw oddi cartref yng nghartref eich rhieni £18,370 £5161 £3603 £2206 £25,000 £3347 £4510 £3113 £30,000 £2099 £5134 £3737 £34,000 £1142 £5612 £4215 £40,000 £734 £5816 £4419 £45,000 £393 £5987 £4590 £50,020 £50 £6158 £4761 £55,000 £0 £5334 £3637 £58,484+ £0 £4637 £3590 Os yw incwm aelwyd myfyriwr yn £58,484 neu’n uwch, bydd ganddo hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth nad yw'n cael ei asesu ar sail incwm yr aelwyd, a hwn yw’r isafswm sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr, fel y dangosir yn y tabl uchod. Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf ar ôl i chi gofrestru a chasglu'ch cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad dilynol ar ddiwrnod cyntaf tymor a gwanwyn a thymor yr haf).
Grant Cymorth Arbennig Gall myfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso dderbyn Grant Cymorth Arbennig yn hytrach na Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Nid oes gwahaniaeth rhwng gwerth y grantiau ond, yn wahanol i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, ni fydd y Grant Cymorth Arbennig yn effeithio ar swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gall fod hawl gan y myfyriwr i'w dderbyn. Yn ogystal â hyn, nid yw'n cyfrif fel incwm wrth gyfrifo budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredydau Treth. Gellir gweld y meini prawf ar gyfer hawl i dderbyn y Grant Cymorth Arbennig yn: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/help-gan roi-costau
Diddymiad Rhannol o’r Benthyciad Cynhaliaeth Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais hefyd am ddiddymiad rhannol un tro o hyd at £1500 ar eu Benthyciad Cynhaliaeth. I dderbyn y diddymiad hwn, bydd rhaid i fyfyrwyr wneud ad-daliad cynnar o £5 o leiaf tuag at ddyled eu Benthyciad Cynhaliaeth. Mae'r diddymiad ar gael unwaith yn unig a chaiff ei gymryd o’r balans cyfredol sydd wedi’i dalu i’r myfyriwr. Cynghorir myfyrwyr felly i aros hyd nes eu bod wedi derbyn o leiaf £1500 o gyllid Benthyciad Cynhaliaeth cyn gwneud yr ad-daliad cynnar. 1
Cyllid Myfyrwyr 2016/17 - Myfyrwyr sy'n Byw yn Lloegr Benthyciad Ffioedd Dysgu Gall myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2016/17 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Finance England (SFE). Swm y flwyddyn academaidd
Cost Ffioedd Dysgu
£9000
Benthyciad Ffioedd Dysgu (uchafswm)
£9000
Caiff taliadau Benthyciadau Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o ymlaen llaw.
Benthyciad Cynhaliaeth O fis Medi 2016, ni fydd Grantiau Cynhaliaeth ar gael mwyach i fyfyrwyr newydd sy'n byw yn Lloegr; yn lle hyn, cynyddir lefelau'r Benthyciad Cynhaliaeth fel y disgrifir isod. Bydd y swm y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich aelwyd, fel y dangosir yn y tabl isod. I gael amcangyfrif manylach, defnyddiwch gyfrifiannell Student Finance England https://www.gov.uk/studentfinance-calculator.
Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth
Incwm yr Aelwyd £25,000 £30,000 £35,000 £40,000 £42,875 £45,000 £50,000 £55,000 £60,000 £62,180+
Benthyciad Cynhaliaeth - byw yng nghartref eich rhieni £6904 £6322 £5740 £5158 £4824 £4576 £3994 £3412 £3039 £3039
Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref £8200 £7612 £7023 £6434 £6095 £5845 £5256 £4667 £4078 £3821
Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf ar ôl i chi gofrestru a chasglu'ch cerdyn adnabod (telir y 2 randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor y gwanwyn a thymor yr haf).
Benthyciad Cynhaliaeth Ychwanegol Mae'n bosib y bydd gan fyfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso hawl i dderbyn cyfradd uwch o'r Benthyciad Cynhaliaeth i helpu i dalu eu costau byw. Mae'r hawl hon i fenthyciad ychwanegol wedi disodli'r Grant Cymorth Arbennig. Fe'ch cynghorir i ddefnyddio cyfrifiannell Student Finance England i gael amcangyfrif manwl o swm y Benthyciad Cynhaliaeth y bydd gennych hawl i'w dderbyn: https://www.gov.uk/student-finance-calculator 2
Grantiau Atodol (Grantiau ar gyfer Dibynyddion) Bydd uchafswm y Grantiau Atodol y bydd gennych hawl i'w dderbyn yn amrywio gan ddibynnu ar a ydych yn gwneud cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England. Grant Atodol Grant Gofal Plant (1 Plentyn) Grant Gofal Plant (2 blentyn neu fwy) Lwfans Dysgu i Rieni Grant Oedolion Dibynnol
Cyllid Myfyrwyr Cymru £161.50 £275.55 £1557 £2732
Student Finance England £155.24 £266.15 £1573 £2757
Grant Gofal Plant Gallwch wneud cais am y Grant Gofal Plant os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac rydych yn: Fyfyriwr yn y DU Mae gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy'n ddibynnol arnoch ac sydd mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy; neu Mae gennych o leiaf un plentyn dan 17 oed sy'n ddibynnol arnoch, ag anghenion addysgol arbennig ac sydd mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Gan ddibynnu ar incwm eich aelwyd, gallwch wneud cais am hyd at 85% o'ch gwir gostau gofal plant yn ystod y tymor a'r gwyliau. Bydd angen i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am y Grant Gofal Plant gwblhau CCG1. Bydd angen iddynt gwblhau CCG2 yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddarparu tystiolaeth o wir gost y gofal plant a ddefnyddiwyd.
Lwfans Dysgu i Rieni Gallwch wneud cais am y Lwfans Dysgu i Rieni os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn â phlant dibynnol. Mae'r lwfans hwn yn helpu gyda'r costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth fod yn rhiant ac yn fyfyriwr. Nid oes rhaid eich bod yn talu am ofal plant i fod yn gymwys. Bydd y swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, sef incwm eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner (os oes un gennych) ac unrhyw ddibynyddion. Bydd angen i fyfyrwyr wneud cais i brif ddarparwr eu cyllid (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru). Caiff ei asesu yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd gennych yn eich prif gais am gyllid myfyriwr ond, mae'n bosib y bydd Cyllid Myfyrwyr yn gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi'ch cais.
Grant Oedolion Dibynnol Gallwch wneud cais am y Grantiau Oedolion Dibynnol os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn ac mae oedolyn arall yn dibynnu arnoch yn ariannol. Gall yr oedolyn hwn fod yn bartner neu'n oedolyn arall sy'n dibynnu arnoch yn ariannol. Nid yw plant mewn oed yn gymwys fel oedolion dibynnol. Mae'r swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, sef incwm eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner (os oes un gennych) ac unrhyw ddibynyddion. Bydd rhaid i fyfyrwyr wneud cais i brif ddarparwr eu cyllid (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru). Fe’i hasesir ar sail yr wybodaeth a roddwyd yn eich prif gais ond mae'n bosib y bydd Cyllid Myfyrwyr yn gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi'ch cais.
Sut caiff Grantiau Atodol eu talu? Cânt eu talu mewn tri rhandaliad fel arfer, un ar ddechrau pob tymor, yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ynghyd ag unrhyw gyllid cynhaliaeth (benthyciad a grant) arall rydych yn ei dderbyn. 3
Astudio Blaenorol Fel rheol, cewch dderbyn cyllid myfyrwyr am eich gradd gyntaf yn unig. Os ydych wedi astudio cwrs addysg uwch yn y gorffennol (Gradd, HND, HNC Gradd Sylfaen etc), mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio ar unrhyw hawl i dderbyn Benthyciadau a Grantiau Myfyrwyr yn y dyfodol, hyd yn oed os mai am un diwrnod y flwyddyn academaidd yn unig y buoch yn bresennol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydych wedi derbyn cyllid myfyrwyr o'r blaen. Yn unol â rheolau astudio blaenorol, cewch dderbyn cymorth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am nifer penodol o flynyddoedd yn unig. Yn syml, mae gan bob myfyriwr hawl i gyllid am hyd cyfan ei gwrs a blwyddyn ychwanegol. Bwriedir i'r flwyddyn ychwanegol gynnwys myfyrwyr sy'n gorfod newid cwrs neu drosglwyddo. Felly, os ydych yn astudio ar gwrs 3 blynedd, byddai gennych hawl i: 3 + 1 = 4 blynedd. Gall y rheolau am astudio blaenorol fod yn gymhleth iawn, a gallant ddibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Os ydych wedi astudio o'r blaen, fe'ch cynghorir i gysylltu Arian@BywydCampws i drafod eich sefyllfa unigol ag ymgynghorydd.
Rhesymau Personol Anorchfygol Os oes rhaid i chi ailwneud blwyddyn o ganlyniad i'r fath resymau, efallai y cewch dderbyn blwyddyn ychwanegol o gyllid heb effeithio ar eich blwyddyn ychwanegol. Gall Rhesymau Personol Anorchfygol gynnwys problemau iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth. Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol, a dylech ofyn am gyngor gan eich prifysgol/coleg os teimlwch fod hyn yn berthnasol i chi. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch Arian@BywydCampws i siarad ag ymgynghorydd.
Ariannu'ch Gradd Gwaith Cymdeithasol Os ydych yn astudio Gwaith Cymdeithasol, cewch dderbyn y pecyn Benthyciad Myfyriwr llawn, ac mae'n bosib y bydd gennych hawl i dderbyn cyllid ychwanegol penodol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol. Am wybodaeth sy'n berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr, ewch i www.nhsbsa.nhs.uk/students.
Myfyrwyr sy'n Byw yng Nghymru: Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol (Myfyrwyr sy'n Byw yng Nghymru)
Mae Cyngor Gofal Cymru yn cynnig nifer o Fwrsariaethau Gwaith Cymdeithasol gwerth £2,500. I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw fel arfer yng Nghymru, a rhaid nad ydych yn derbyn cymhelliant ariannol gan gyflogwr i wneud hyfforddiant. Bydd y Brifysgol yn 'enwebu' nifer o fyfyrwyr a gaiff wneud cais i'r Cyngor Gofal am y Fwrsariaeth. Bydd y myfyrwyr hyn yn derbyn ffurflen gais a llyfryn canllaw Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol drwy ebost. Am ragor o wybodaeth ewch i'r tudalennau 'Gwybodaeth i Ymgeiswyr' yn www.ccwales.org.uk
Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA)
Mae'r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA) yn cyfrannu tuag at gostau mae'n rhaid i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol eu talu fel rhan hanfodol o'u hyfforddiant cymhwyso. Bydd myfyrwyr cymwys yn derbyn £500 y flwyddyn yn gyfraniad tuag at gostau Cyfle Dysgu Ymarfer. Am ragor o 4 wybodaeth am y lwfans ewch i: www.cgcymru.org.uk
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Sut mae'r Asesiad Incwm yn gweithio?
Beth yw Incwm yr Aelwyd?
Mae pob myfyriwr amser llawn cymwys yn derbyn lefel sylfaenol o gymorth ariannol, ond bydd y cyfanswm yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Os ydych yn cyflwyno cais am yr elfen 'seiliedig ar incwm' o'r pecyn cyllid myfyrwyr, cynhelir asesiad i gyfrifo'r union swm gallwch ei dderbyn. Incwm yr Aelwyd yw cyfanswm enillion blynyddol eich teulu cyn didynnu Treth ac Yswiriant Gwladol. Mae'n seiliedig ar enillion am flwyddyn dreth 2014-15 ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17. Bydd y person yr asesir ei incwm yn amrywio, gan ddibynnu ar a ydych yn fyfyrwyr dibynnol neu'n fyfyriwr annibynnol.
Beth os yw incwm fy aelwyd yn uwch na throthwy'r Grant?
Beth os nad wyf yn siŵr i ba Brifysgol hoffwn i fynd neu ba gwrs hoffwn ei astudio?
Beth bydd cost astudio yn Abertawe?
Gallwch wneud cais am isafswm y Benthyciad Cynhaliaeth heb asesu incwm eich aelwyd os ydych yn dymuno. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais heb fod rhaid i'ch rhieni neu'ch partner anfon unrhyw fanylion am eu hincwm. Mae angen i chi nodi'ch dewis cyntaf o brifysgol a chwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch newid y manylion hyn. Byddem yn eich cynghori i wneud cais am gyllid fel hyn i sicrhau bod eich asesiad wedi'i gwblhau cyn dechrau'r tymor. Os ydych yn gwneud cais ar ôl derbyn canlyniadau'ch arholiadau Safon Uwch, mae'n annhebygol y bydd eich cyllid yn barod ar gyfer dechrau'r cwrs a gall hyn achosi problemau o safbwynt talu rhent a chostau byw. Peidiwch â phoeni os byddwch yn newid eich meddwl am fynd i'r brifysgol, mae modd canslo'ch cais yn ddiweddarach.
Am ragor o wybodaeth am gostau byw a chostau eraill y gallech eu hwynebu ar eich cwrs, ewch i'n tudalen we: www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/cost-of-living/ Tybir eich bod yn fyfyriwr annibynnol dan yr amgylchiadau canlynol:
Pwy sy'n cael ei ystyried yn Fyfyriwr Annibynnol?
Rydych yn 25 oed neu'n hŷn cyn dechrau'r flwyddyn academaidd gyfredol Rydych wedi priodi neu wedi dechrau partneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn academaidd hon. Rydych yn gofalu am blentyn neu blant Rydych wedi cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd cyn dechrau'ch cwrs. Mae'ch rhieni wedi marw neu rydych wedi ymddieithrio’n barhaol oddi wrth eich rhieni. Rydych yn ymadawr gofal (h.y. 24 oed neu'n iau ac wedi bod mewn gofal am o leiaf 3 mis cyn 16 oed) I gael rhagor o wybodaeth am statws myfyriwr annibynnol, cysylltwch Arian@BywydCampws i siarad ag ymgynghorydd.
5
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau'r Brifysgol Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Dyfernir £3,000 i bob myfyriwr sy’n cyflawni AAA yn ei arholiadau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol). Cydnabyddir cyflawni gradd gyfatebol yng nghymhwyster uwch Bagloriaeth Cymru at ddibenion y dyfarniad hwn. Bydd pob ysgoloriaeth yn werth £3,000 dros dair blynedd (i'w dalu mewn 3 rhandaliad cyfartal - £1,000 yn y flwyddyn gyntaf, £1,000 yn yr ail flwyddyn a £1,000 yn y drydedd flwyddyn).
Ysgoloriaethau Teilyngdod Dyfernir £2,000 i bob myfyriwr sy’n cyflawni AAB yn ei arholiadau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol). Cydnabyddir cyflawni gradd gyfatebol yng nghymhwyster uwch Bagloriaeth Cymru at ddibenion y dyfarniad hwn. Bydd pob ysgoloriaeth yn werth £2,000 dros 3 blynedd (i'w dalu mewn 3 rhandaliad cyfartal - £670 yn y flwyddyn gyntaf, £670 yn yr ail flwyddyn a £670 yn y drydedd flwyddyn).
Bwrsariaethau ar Sail Incwm Mae gan Brifysgol Abertawe enw am ehangu mynediad, gan sicrhau bod cynifer â phosibl o bobl dalentog yn cael cyfle i dderbyn addysg uwch, beth bynnag y bo eu cefndir daearyddol, cymdeithasol, neu economaidd. Credwn na ddylai incwm teuluol isel fod yn rhwystr i addysg, ac rydym wedi cyflwyno cymorth ariannol ychwanegol sylweddol ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. Mae'r cymorth ariannol yn cynnwys Bwrsariaeth Dilyniant, i'w thalu mewn rhandaliadau yn ystod eich cyfnod astudio. Mae'r tabl isod yn dangos sut caiff y fwrsariaeth ei dyfarnu.
Incwm yr Aelwyd
Bwrsariaeth Dilyniant (cyfanswm)
Hyd at £15,000
£3,000
£15,001 - £25,000
£2,000
£25,001 - £30,000
£1,000
6
Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal BethBeth sydd ar gael? yw hwn? Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal. Mae gennym becyn o gymorth a fydd, gobeithiwn, yn helpu myfyrwyr i ymgartrefu, i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau yma, ac i raddio'n llwyddiannus.
Beth sydd ar gael?
Cynllun Gostyngiad Graddau Ymadawyr Gofal (amodau a thelerau'n gymwys) Bwrsariaeth gwerth £1,000 y flwyddyn Help ariannol i fynd i Diwrnodau Agored ym Mhrifysgol Abertawe Cymorth wrth wneud cais i'r Brifysgol a threfnu'ch cyllid myfyrwyr. Llety drwy gydol y flwyddyn Cyswllt penodol– ar gyfer yr adegau hynny pan na fyddwch yn siŵr beth i'w wneud neu ble i gael help! Gwasanaeth cyfeirio uniongyrchol i'r Gwasanaeth Lles, y Swyddfa Anableddau a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ôl yr angen. Cymorth ariannol i helpu i dalu costau Graddio.
Pwy sy'n gymwys?
Myfyrwyr sy'n 25 oed neu'n iau ar ddechrau'r cwrs, ac sydd Wedi bod dan ofal awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ers 14 oed, ac sydd Wedi bod dan ofal awdurdod lleol ar oedran gadael yr ysgol (16 oed) neu wedi'r dyddiad hwnnw. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni'r meini prawf uchod, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ag un o'n cysylltiadau enwedig.
Cynlluniwyd y pecyn hwn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, sy'n breswylwyr parhaol y DU, ac sy'n fyfyrwyr y DU at ddibenion ffioedd.
Mae croeso i fyfyrwyr nad ydynt yn fyfyrwyr y DU gysylltu Arian@BywydCampws i drafod unrhyw
anghenion cymorth a allai fod ganddynt.
Beth mae angen i mi ei wneud?
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib! Rhowch wybod i ni am eich cynlluniau a'r cymorth yr hoffech ei dderbyn. Cadarnhewch eich bod yn gadael gofal yn eich cais UCAS a byddwn yn cysylltu â chi gyda'r manylion perthnasol. Darparwch lythyr gan eich gweithiwr cymdeithasol yn cadarnhau eich statws. Pan fyddwn wedi derbyn hyn, bydd yr holl gymorth ar gael i chi. 7
Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr Beth byddaf yn ei ad-dalu? Mae benthyciadau myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr o'r DU a'r UE sy'n astudio mewn prifysgol (yn amodol ar feini prawf). Ar ôl i chi adael y brifysgol, bydd rhaid i chi ad-dalu'r benthyciadau a gawsoch yn ystod eich cyfnod astudio. Ceir dwy ran i'ch benthyciad myfyriwr: Benthyciad Cynhaliaeth. Benthyciad Ffioedd Dysgu.
Pryd byddaf yn dechrau ad-dalu'r benthyciad?
Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu'ch benthyciad nes eich bod yn ennill dros £21,000. Bydd ad-daliadau'n cychwyn ar ddechrau'r flwyddyn dreth (y mis Ebrill ar ôl i chi adael y brifysgol). Os bydd eich cyflog yn gostwng o dan £21,000 (er enghraifft, os ydych yn cymryd saib o'ch gyrfa, neu os ydych yn ddi-waith), caiff yr addaliadau eu hatal. Ni fyddant yn ailgychwyn eto nes eich bod yn ennill dros £21,000.
Faint y bydd rhaid i mi ei dalu?
Byddwch yn talu 9% o bopeth y byddwch yn ei ennill dros £21,000. Byddwch yn ad-dalu'r un swm, faint bynnag rydych yn ei fenthyca, gan y cyfrifir yr ad-daliad yn seiliedig ar swm eich enillion, yn hytrach na swm eich benthyciad. Fodd bynnag, os ydych wedi benthyca mwy, byddwch yn ad-dalu'r benthyciadau am gyfnod hwy. Ar ôl 30 o flynyddoedd, faint bynnag o'r benthyciad sydd wedi cael ei ad-dalu, caiff gweddill y ddyled ei ganslo. Cyflog Swm y cyflog y didynnir 9% ohono Ad-daliad misol £4,000 £30.00 £25,000 £9,000 £67.50 £30,000 £14,000 £105.00 £35,000 £19,000 £142.50 £40,000 £29,000 £217.50 £50,000
Ni fydd angen addalu unrhyw grantiau, bwrsariaethau neu ysgoloriaethau a delir i chi yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol.
Y disgwyl yw mai cyfran fechan iawn o fyfyrwyr a fydd yn ad-dalu eu benthyciadau'n llawn. Felly, gall fod yn ddefnyddiol gweld hyn fel 'treth' 30 mlynedd, yn hytrach na benthyciad y mae'n rhaid ei ad-dalu'n llawn.
Sut caiff yr ad-daliadau eu gwneud? Didynnir ad-daliadau benthyciadau o'ch cyflog, fel arfer trwy'r system dreth TWE.
Faint o log a godir? Incwm Wrth i chi astudio a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael y coleg neu'r brifysgol £21,000 neu lai rhwng £21,000 a £41,000 £41,000 neu fwy
Cyfradd Log Cyfradd Chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu) + 3% Cyfradd Chwyddiant Cyfradd Chwyddiant + hyd at 3% (ar raddfa raddol) Cyfradd Chwyddiant + 3%
Ni chofnodir benthyciadau myfyrwyr ar gofnodion credyd, felly ni fydd derbyn benthyciad myfyriwr yn effeithio ar eich statws credyd. 8
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch Arian@BywydCampws: 01792 606699 moneydoctors@abertawe.ac.uk www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-a-chymorthariannol
CampusLifeSU Swansea Money.CampusLife
CampusLifeSU Money.CampusLife
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras etc. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.
9