Funding for undergraduates 1718 cymraeg

Page 1

CYLLID AR GYFER MYFYRWYR ISRADDEDIG

Beth sydd yn y Canllawiau hyn:  Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2017/18 (Myfyrwyr o Gymru a Lloegr)  Cwestiynau Cyffredin Darpar Fyfyrwyr  Astudio Blaenorol

 Cyllid Ychwanegol ar gyfer Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol  Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal


Cyllid Myfyrwyr ar gyfer 2017/18 - Myfyrwyr sy'n Byw yng Nghymru Benthyciadau a Grantiau Ffioedd Dysgu Gall myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2017/18 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu a Grant Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Cost Ffioedd Dysgu Benthyciad Ffioedd Dysgu (uchafswm) Grant Ffioedd Dysgu (uchafswm)

Swm pob blwyddyn academaidd £9000 £4046 £4954

Caiff taliadau Benthyciadau a Grantiau Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.

Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Mae cyllid tuag at gostau byw myfyrwyr yn cynnwys benthyciadau cynhaliaeth a grantiau. Bydd y swm y mae gennych hawl i'w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich aelwyd, fel y dangosir yn y tabl isod. I gael amcangyfrif manylach, defnyddiwch gyfrifiannell Cyllid Myfyrwyr Cymru, www.studentfinancewales.co.uk/calculator.aspx.

Incwm Cartref £18,370 £25,000 £30,000 £34,000 £40,000 £45,000 £50,020 £55,000 £59,408+

Hawl i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a’r Benthyciad Cynhaliaeth Benthyciad Cynhaliaeth Grant Dysgu Benthyciad Cynhaliaeth – byw yng nghartref eich Llywodraeth Cymru Byw oddi cartref rhieni £5161 £4342 £2778 £3347 £5249 £3685 £2099 £5873 £4309 £1142 £6351 £4787 £734 £6555 £4991 £393 £6726 £5162 £50 £6897 £5333 £0 £6073 £4509 £0 £5191 £4019

Os yw incwm aelwyd myfyrwyr yn £59,408 neu’n uwch, bydd ganddynt hawl i dderbyn Benthyciad Cynhaliaeth nad yw'n cael ei asesu ar sail incwm yr aelwyd, a hwn yw’r isafswm sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr, fel y dangosir yn y tabl uchod. Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf ar ôl i chi gofrestru a chasglu'ch cerdyn adnabod (telir y ddau randaliad dilynol ar ddiwrnod cyntaf tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf).

Grant Cymorth Arbennig Gall myfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso dderbyn Grant Cymorth Arbennig yn hytrach na Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Nid oes gwahaniaeth rhwng gwerth y grantiau ond, yn wahanol i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, ni fydd y Grant Cymorth Arbennig yn effeithio ar swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gall fod hawl gan y myfyriwr i'w dderbyn. Yn ogystal â hyn, nid yw'n cyfrif fel incwm wrth gyfrifo budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredydau Treth. 1


Gellir gweld y meini prawf ar gyfer hawl i dderbyn y Grant Cymorth Arbennig yn: www.studentfinancewales.co.uk/undergraduate-students/new-students/what-financialsupport-is-available/help-with-living-costs.aspx

Diddymiad Rhannol o’r Benthyciad Cynhaliaeth Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais hefyd am ddiddymiad un tro o hyd at £1500 ar eu Benthyciad Cynhaliaeth. I dderbyn y diddymiad hwn, bydd rhaid i fyfyrwyr wneud ad-daliad cynnar o £5 o leiaf tuag at ddyled eu Benthyciad Cynhaliaeth. Mae'r diddymiad ar gael unwaith yn unig a chaiff ei gymryd o’r balans cyfredol sydd wedi’i dalu i’r myfyriwr. Cynghorir myfyrwyr felly i aros hyd nes eu bod wedi derbyn o leiaf £1500 o gyllid Benthyciad Cynhaliaeth cyn gwneud yr ad-daliad cynnar.

2


Cyllid Myfyrwyr 2017/18 - Myfyrwyr sy'n Byw yn Lloegr Benthyciad Ffioedd Dysgu Gall myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2017/18 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Finance England (SFE). Swm pob blwyddyn academaidd

Cost Ffioedd Dysgu

£9000

Benthyciad Ffioedd Dysgu (uchafswm)

£9000

Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau ymlaen llaw.

Benthyciad Cynhaliaeth O fis Medi 2016, ni fydd Grantiau Cynhaliaeth ar gael mwyach i fyfyrwyr newydd sy'n byw yn Lloegr; yn lle hyn, cynyddir lefelau'r Benthyciad Cynhaliaeth fel y disgrifir isod. Bydd y swm y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich aelwyd, fel y dangosir yn y tabl isod. I gael amcangyfrif manylach, defnyddiwch gyfrifiannell Student Finance England https://www.gov.uk/student-finance-calculator. Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth

Incwm Cartref £25,000 £30,000 £35,000 £40,000 £42,875 £45,000 £50,000 £55,000 £60,000 £62,187+

Benthyciad Cynhaliaeth - Byw yng nghartref eich rhieni £7097 £6499 £5901 £5303 £4959 £4705 £4107 £3509 £3124 £3124

Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref £8430 £7825 £7220 £6615 £6266 £6009 £5404 £4799 £4193 £3928

Telir taliadau cynhaliaeth i chi yn uniongyrchol mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf ar ôl i chi gofrestru a chasglu'ch cerdyn adnabod (telir y 2 randaliad sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor a Gwanwyn a thymor yr Haf).

Benthyciad Cynhaliaeth Ychwanegol Mae'n bosib y bydd gan fyfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso hawl i dderbyn cyfradd uwch o'r Benthyciad Cynhaliaeth i helpu i dalu eu costau byw. Mae'r hawl hon i fenthyciad ychwanegol wedi disodli'r Grant Cymorth Arbennig. Fe'ch cynghorir i ddefnyddio cyfrifiannell Student Finance England i gael amcangyfrif manwl o swm y Benthyciad Cynhaliaeth y bydd gennych hawl i'w dderbyn: www.gov.uk/student-finance-cyfrifiannell

3


Grantiau Atodol (Grantiau ar gyfer Dibynyddion) Bydd uchafswm y Grantiau Atodol y bydd gennych hawl i'w dderbyn yn amrywio gan ddibynnu ar a ydych yn gwneud cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England. Grant Atodol Grant Gofal Plant (1 plentyn) Grant Gofal Plant (2 blentyn neu fwy) Lwfans Dysgu i Rieni Grant Oedolion Dibynnol

£161.50 £274.55

Student Finance England £159.59 £273.60

£1557 £2732

£1617 £2834

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Grant Gofal Plant Gallwch wneud cais am y Grant Gofal Plant os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac rydych yn:  Fyfyriwr yn y DU  Mae gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy'n ddibynnol arnoch ac sydd mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy; neu  Mae gennych o leiaf un plentyn dan 17 oed sy'n ddibynnol arnoch, ag anghenion addysgol arbennig ac sydd mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Gan ddibynnu ar incwm eich aelwyd, gallwch wneud cais am hyd at 85% o'ch gwir gostau gofal plant yn ystod y tymor a'r gwyliau. Bydd angen i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am y Grant Gofal Plant gwblhau CCG1. Bydd angen iddynt gwblhau CCG2 yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddarparu tystiolaeth o wir gost y gofal plant a ddefnyddiwyd.

Lwfans Dysgu i Rieni Gallwch wneud cais am y Lwfans Dysgu i Rieni os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn â phlant dibynnol. Mae'r lwfans hwn yn helpu gyda'r costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth fod yn rhiant ac yn fyfyriwr. Nid oes rhaid eich bod yn talu am ofal plant i fod yn gymwys. Bydd y swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, sef incwm eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner (os oes un gennych) ac unrhyw ddibynyddion. Bydd angen i fyfyrwyr wneud cais i brif ddarparwr eu cyllid (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru). Caiff ei asesu yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd gennych yn eich prif gais am gyllid myfyriwr ond, mae'n bosib y bydd Cyllid Myfyrwyr yn gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi'ch cais.

Grant Oedolion Dibynnol Gallwch wneud cais am y Grant Oedolion Dibynnol os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn ac mae oedolyn arall yn dibynnu arnoch yn ariannol. Gall yr oedolyn hwn fod yn bartner neu'n oedolyn arall sy'n dibynnu arnoch yn ariannol. Nid yw plant mewn oed yn gymwys fel oedolion dibynnol. Mae'r swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, sef incwm eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner (os oes un gennych) ac unrhyw ddibynyddion. Bydd angen i fyfyrwyr wneud cais i brif ddarparwr eu cyllid (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru). Caiff ei 4


asesu'n seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd gennych yn eich prif gais ond, mae'n bosib y bydd Cyllid Myfyrwyr yn gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi'ch cais.

Sut caiff Grantiau Atodol eu talu? Cânt eu talu mewn tri rhandaliad fel arfer, un ar ddechrau pob tymor, yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ynghyd ag unrhyw gyllid cynhaliaeth (benthyciad a grant) arall rydych yn ei dderbyn.

5


Astudio Blaenorol Fel rheol, cewch dderbyn cyllid myfyrwyr am eich gradd gyntaf yn unig. Os ydych wedi astudio cwrs addysg uwch yn y gorffennol (Gradd, Diploma Cenedlaethol Uwch, Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Gradd Sylfaen etc), mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio ar unrhyw hawl i dderbyn Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr yn y dyfodol, hyd yn oed os mai am un diwrnod y flwyddyn academaidd yn unig y buoch yn bresennol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydych wedi cael cyllid myfyrwyr. Yn unol â rheolau astudio blaenorol, cewch dderbyn cymorth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am nifer penodol o flynyddoedd yn unig. Yn y bôn, mae gan bob myfyriwr hawl i dderbyn cyllid am hyd cyfan ei gwrs ac am flwyddyn ychwanegol. Bwriedir i'r flwyddyn ychwanegol ddarparu ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n gorfod newid cwrs neu drosglwyddo. Felly, os ydych yn astudio ar gwrs 3 blynedd, byddai gennych hawl i: 3 + 1 = 4 blynedd. Gall y rheolau am astudio blaenorol fod yn gymhleth iawn, a gallant ddibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Os ydych wedi astudio o'r blaen, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol i drafod eich sefyllfa unigol gydag ymgynghorydd.

Rhesymau Personol Anorchfygol Os oes rhaid i chi ail-wneud blwyddyn astudio o ganlyniad i'r fath resymau, mae'n bosib y cewch dderbyn blwyddyn ychwanegol o gyllid heb effeithio ar eich blwyddyn ychwanegol. Gall Rhesymau Personol Anorchfygol gynnwys problemau iechyd, anabledd, problemau teuluol neu brofedigaeth. Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol, a dylech ofyn am gyngor gan eich prifysgol/coleg os teimlwch fod hyn yn berthnasol i chi.

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Arian@BywydCampws i siarad gydag

6


Ariannu'ch Gradd Gwaith Cymdeithasol Os ydych yn fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol, rydych yn gymwys i dderbyn y pecyn Benthyciad Myfyriwr llawn, ac mae'n bosib y bydd gennych hawl i dderbyn cyllid ychwanegol penodol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol. Am wybodaeth sy'n berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr, ewch i https://www.nhsbsa.nhs.uk/social-work-students

Myfyrwyr sy'n Byw yng Nghymru: Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol (Myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru)

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig nifer o Fwrsariaethau Gwaith Cymdeithasol sy'n werth hyd at £2,500 y flwyddyn. I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw fel arfer yng Nghymru, a rhaid nad ydych yn derbyn cymhelliant ariannol gan gyflogwr i wneud hyfforddiant. Bydd y Brifysgol yn 'enwebu' detholiad o fyfyrwyr a fydd yn derbyn gwahoddiad i wneud cais am y Fwrsariaeth trwy eu ffurflen gais ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://socialcare.wales/careers/social-work-bursary-funding

Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA)

Mae'r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA) yn cyfrannu tuag at gostau mae'n rhaid i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol eu talu fel rhan hanfodol o'u hyfforddiant cymhwyso. Gall myfyrwyr sy'n derbyn y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol hefyd wneud cais am y cyllid ychwanegol hwn.

7


Myfyrwyr sydd ag Ystyriaethau Ychwanegol Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn ymwybodol y gall myfyrwyr fod ag ystyriaethau ychwanegol a all gyflwyno heriau gwahanol i'w goresgyn wrth astudio. Rydym yn ceisio canolbwyntio ein hadnoddau i sicrhau y gallwn deilwra ein cyngor a'n cymorth i ddiwallu eich amgylchiadau ac i oresgyn unrhyw broblemau ariannol. Diffinnir myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol fel a ganlyn:      

Myfyrwyr sy’n Ymadawyr Gofal Myfyrwyr sydd wedi'u Hymddieithrio oddi wrth eu Teuluoedd Myfyrwyr sy'n Ofalwyr Myfyrwyr sy'n Rhiant Sengl Myfyrwyr sydd ag Anabledd / Anhawster Dysgu Penodol Myfyrwyr sydd â phroblemau Lles

I dderbyn gwybodaeth fwy penodol am y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol ewch i www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-andfunding/studentswithadditionalconsiderations/ Os nad ydych chi'n rhan o unrhyw un o'r grwpiau hyn ond rydych chi'n teimlo bod gennych ystyriaethau gwahanol a fydd yn effeithio ar lefel y Cyllid Myfyrwyr eich bod yn gymwys i'w derbyn cysylltwch ag Arian@BywydCampws ar 01792 606699.

8


Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Sut mae'r Asesiad Incwm yn gweithio?

Beth yw Incwm yr Aelwyd?

Beth os yw incwm fy aelwyd yn uwch na throthwy'r Grant?

Beth os nad wyf yn siŵr i ba Brifysgol hoffwn i fynd neu ba gwrs hoffwn ei astudio?

Mae pob myfyriwr amser llawn cymwys yn derbyn lefel sylfaenol o gymorth ariannol, ond bydd y cyfanswm yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Os ydych yn cyflwyno cais am yr elfen 'seiliedig ar incwm' o'r pecyn cyllid myfyrwyr, cynhelir asesiad i gyfrifo'r union swm y gallwch ei dderbyn. Incwm yr Aelwyd yw cyfanswm enillion blynyddol eich teulu cyn didynnu Treth ac Yswiriant Gwladol. Mae'n seiliedig ar enillion am flwyddyn dreth 2015-16 ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18. Bydd y person yr asesir ei incwm yn amrywio, gan ddibynnu ar a ydych yn fyfyrwyr dibynnol neu'n fyfyriwr annibynnol. Gallwch wneud cais am leiafswm y Benthyciad Cynhaliaeth heb ddatgelu incwm eich aelwyd os ydych yn dymuno. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais heb fod rhaid i'ch rhieni neu'ch partner anfon unrhyw fanylion am eu hincwm. Mae angen i chi nodi'ch dewis cyntaf o brifysgol a chwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch newid y manylion hyn. Byddem yn eich cynghori i wneud cais am gyllid fel hyn i sicrhau bod eich asesiad wedi'i gwblhau cyn dechrau'r tymor. Os ydych yn gwneud cais ar ôl derbyn eich canlyniadau Safon Uwch mae'n annhebygol y bydd eich cyllid yn barod ar gyfer dechrau'r cwrs a gall hyn achosi problemau o safbwynt talu rhent a chostau byw. Peidiwch â phoeni os byddwch yn newid eich meddwl am fynd i'r brifysgol, mae modd canslo'ch cais yn ddiweddarach.

Beth fydd cost astudio yn Abertawe?

Am ragor o wybodaeth am gostau byw a chostau eraill y gallech eu hwynebu ar eich cwrs, ewch i'n tudalen we: www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/costof-living/ Tybir eich bod yn fyfyriwr annibynnol dan yr amgylchiadau canlynol:  

Pwy sy'n cael ei ystyried yn Fyfyriwr Annibynnol?

   

Rydych yn 25 oed neu'n hŷn cyn dechrau'r flwyddyn academaidd gyfredol Rydych wedi priodi neu ddod yn rhan o bartneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn academaidd hon. Rydych yn gofalu am blentyn neu blant Rydych wedi cynnal eich hunan yn ariannol am o leiaf dair blynedd cyn dechrau ar eich cwrs. Nid oes gennych rieni sy’n fyw neu rydych wedi ymddieithrio’n barhaol oddi wrth eich rhieni. Rydych yn ymadawr gofal. (h.y. 24 neu iau ac mewn gofal am isafswm o 3 mis cyn 16 oed)

I gael rhagor o wybodaeth am statws myfyriwr annibynnol, cysylltwch â'r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol i siarad 9 ag ymgynghorydd.


Mae gennyf ddiddordeb mewn arian cydymffurfio â chyfraith Sharia, allwch chi helpu?

Ar hyn o bryd, nid ystyrir bod benthyciadau myfyrwyr yn cydymffurfio â chyfraith Sharia. Am wybodaeth bellach, ewch i'n tudalen we ar gyfer arian sy'n cydymffurfio â chyfraith Sharia: http://www.swansea.ac.uk/money-campuslife/sharialaw

10


Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau'r Brifysgol Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Dyfernir £3,000 i bob myfyriwr sy’n cyflawni AAA yn ei arholiadau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol). Cydnabyddir cyflawni gradd gyfatebol yng nghymhwyster uwch Bagloriaeth Cymru at ddibenion y dyfarniad hwn. Bydd pob Ysgoloriaeth yn werth £3,000 dros dair blynedd (i'w dalu mewn tri rhandaliad cyfartal - £1,000 yn y flwyddyn gyntaf, £1,000 yn yr ail flwyddyn a £1,000 yn y drydedd flwyddyn).

Ysgoloriaeth Teilyngdod Dyfernir £2,000 i bob myfyriwr sy’n cyflawni AAB yn ei arholiadau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol). Cydnabyddir cyflawni gradd gyfatebol yng nghymhwyster uwch Bagloriaeth Cymru at ddibenion y dyfarniad hwn. Bydd pob Ysgoloriaeth yn werth £2,000 dros dair blynedd (i'w dalu mewn 3 rhandaliad cyfartal - £670 yn y flwyddyn gyntaf, £670 yn yr ail flwyddyn a £670 yn y drydedd flwyddyn).

Bwrsariaethau ar Sail Incwm Mae gan Brifysgol Abertawe enw am ehangu mynediad, gan sicrhau bod cynifer â phosibl o bobl dalentog yn cael cyfle i dderbyn addysg uwch, beth bynnag y bo eu cefndir daearyddol, cymdeithasol, neu economaidd. Credwn na ddylai incwm teuluol isel fod yn rhwystr i addysg, ac rydym wedi cyflwyno cymorth ariannol ychwanegol sylweddol ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. Mae'r cymorth ariannol yn cynnwys Bwrsariaeth Dilyniant, i'w thalu mewn rhandaliadau yn ystod eich cyfnod astudio. Mae'r tabl isod yn dangos sut caiff y fwrsariaeth ei dyfarnu.

Incwm Cartref

Bwrsariaeth Dilyniant (cyfanswm)

hyd at £15,000

£3000

£15,001 - £25,000

£2000

£25,001 - £30,000

£1000

11


Pecyn Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal BethBeth sydd ar gael? yw hwn? Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal. Mae gennym becyn o gymorth a fydd, gobeithiwn, yn helpu myfyrwyr i ymgartrefu, i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau yma, ac i raddio'n llwyddiannus. Beth sydd ar gael? 

Cynllun Gostyngiad Graddau Ymadawyr Gofal (amodau a thelerau'n gymwys) Bwrsariaeth gwerth £1,000 y flwyddyn Cymorth ariannol i fynd i Ddiwrnodau Agored ym Mhrifysgol Abertawe Cymorth wrth wneud cais i'r Brifysgol a threfnu'ch cyllid myfyrwyr. Llety drwy gydol y flwyddyn Cyswllt penodol yn ystod eich astudiaethau – ar gyfer yr adegau hynny pan na fyddwch yn siŵr beth i'w wneud neu ble i gael cymorth! Gwasanaeth atgyfeirio uniongyrchol i'r Gwasanaeth Lles, y Swyddfa Anableddau a'r Ganolfan Llwyddiant

    

Pwys sy'n gymwys? 

Myfyrwyr sy'n 25 oed neu'n iau ar ddechrau'r cwrs, ac sydd  Wedi bod dan ofal awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ers 14 oed, ac roedd  O dan ofal awdurdod lleol ar oedran gadael yr ysgol (16 oed) neu wedi'r dyddiad hwnnw. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni'r meini prawf uchod, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ag un

Cynlluniwyd y pecyn hwn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, sy'n breswylwyr parhaol y DU, ac sy'n fyfyrwyr y DU at ddibenion ffioedd.

Mae croeso i fyfyrwyr nad ydynt yn fyfyrwyr y DU gysylltu â'r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol i drafod unrhyw anghenion cymorth a allai fod ganddynt.

Beth sydd angen i mi ei wneud? 

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib! Dywedwch wrthym am eich cynlluniau a'r cymorth yr hoffech ei dderbyn. Cadarnhewch eich bod yn gadael gofal yn eich cais UCAS a byddwn yn cysylltu â chi â'r manylion perthnasol. Darparwch lythyr gan eich gweithiwr cymdeithasol yn 12


Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr Beth fyddaf yn ei ad-dalu? Mae benthyciadau myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr o'r DU a'r UE sy'n astudio mewn prifysgol (yn amodol ar feini prawf). Ar ôl i chi adael y brifysgol, bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r benthyciadau a gawsoch yn ystod eich cyfnod astudio. Y mae dwy ran i'ch benthyciad myfyriwr:  Benthyciad Cynhaliaeth.  Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Pryd fyddaf yn dechrau ad-dalu'r benthyciad?   

Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu'ch benthyciad nes eich bod yn ennill dros £21,000. Bydd ad-daliadau'n cychwyn ar ddechrau'r flwyddyn dreth (y mis Ebrill ar ôl i chi adael y brifysgol). Os bydd eich cyflog yn gostwng o dan £21,000 (er enghraifft, os ydych yn cymryd saib o'ch gyrfa, neu os ydych yn ddiwaith), caiff yr ad-daliadau eu hatal. Ni fyddant yn ailgychwyn eto nes eich bod yn ennill dros £21,000.

Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?  

Rydych yn talu 9% o bopeth y byddwch yn ei ennill dros £21,000. Bydd eich ad-daliadau'r un peth, faint bynnag yr ydych yn ei fenthyca, gan y cyfrifir yr ad-daliad ar sail faint yr ydych yn ei ennill; yn hytrach na swm eich benthyciad. Fodd bynnag, os ydych wedi benthyca mwy, byddwch yn ad-dalu'r benthyciadau am gyfnod hwy. Ar ôl 30 o flynyddoedd, faint bynnag o'r benthyciad sydd wedi cael ei ad-dalu, caiff gweddill y ddyled ei ganslo. Cyflog Faint o'r cyflog y tynnir Ad-daliad 9% ohono misol £25,000 £30,000 £35,000 £40,000 £50,000

£4,000 £9,000 £14,000 £19,000 £29,000

Ni fydd angen ad-dalu unrhyw grantiau, bwrsariaethau neu ysgoloriaethau a delir i chi yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol.

Y disgwyl yw mai cyfran fechan iawn o fyfyrwyr a fydd yn ad-dalu eu benthyciadau'n llawn. Felly, gall fod yn ddefnyddiol gweld hyn fel 'treth' 30 mlynedd, yn hytrach na benthyciad y mae'n rhaid ei addalu'n llawn.

£30.00 £67.50 £105.00 £142.50 £217.50

Sut y gwneir yr ad-daliadau? Didynnir ad-daliadau benthyciadau o'ch cyflog, fel arfer trwy'r system dreth TWE.

Faint o log a godir? Incwm

Cyfradd Log

Tra eich bod yn astudio a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael y coleg neu'r brifysgol

Cyfradd Chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu) + 3%

Ni chofnodir benthyciadau myfyrwyr ar gofnodion credyd, felly ni fydd derbyn benthyciad myfyriwr yn 13


£21,000 neu'n llai

Cyfradd Chwyddiant

rhwng £21,000 a £41,000

Cyfradd Chwyddiant + hyd at 3% (ar raddfa raddol) Cyfradd Chwyddiant + 3%

£41,000 neu'n fwy

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Arian@BywydCampws: 01792 606699 money.campuslife@abertawe.ac.uk www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-a-chymorthariannol

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformatau eraill, megis Braille, print bras ayyb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Derbynfa BywydCampws ar 01792 602000.

14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.